Meeting documents

Governance and Audit Committee
Tuesday, 24th July, 2012

Ynglyn â

Dydd Mawrth 24 Gorffennaf, 2012 am 2:00y.p
Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Aelodau

Cynghorwyr:

Annibynnol Gwreiddiol
Jim Evans, Keith Evans, G.O.Jones, Eric Roberts, Ieuan Williams

Plaid Cymru
E G Davies, Vaughan Hughes

Llafur
Clifford Lloyd Everett

Llais i Fôn
Thomas Jones

Heb ymaelodi
Hefin W. Thomas

Aelodau Lleyg
Mr Richard Barker, Mrs Sharon Warnes

Rhaglen

1 Cyfarfod Arbennig y Cyngor Sir 27 Mehefin 2012

Y Swyddog Adran 151 Dros Dro i adrodd ynglyn â statws cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2012 ynghyd â'r cyfarfod i ethol cadeirydd ac Is-Gadeirydd a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2012.

2 Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i'r Pwyllgor.

Dygir sylw'r Aelodau at baragraff 3.4.8.3 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n dweud :

“Bydd y Pwyllgor Archwilio yn penodi Cadeirydd sydd ddim yn aelod o unrhyw un o'r grwpiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith ac eithrio mewn achos pan mae'r holl grwpiau wedi eu cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith (a gallai fod yn Aelod Cyfetholedig).”

3 Is-Gadeirydd

Ethol is-Gadeirydd i'r Pwyllgor.

4 Aelodau Lleyg

Croeso i'r Aelodau Lleyg newydd.

5 Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

6 Cofnodion

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2012.(Mae'r cofnodion wedi cael eu cyflwyno a'u cadarnhau gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 27 Mehefin, 2012)
(Papur A)

7 Amcangyfrifon ac Addasiadau ar Gyfrifon 2011/12

Cyflwyno gwybodaeth ynghylch yr uchod.
(Papur B - Copi i Ddilyn)

8 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2011/12

Cyflwyno'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft.
(Papur C)

9 Archwilio Allanol

9.1 Diweddariad ar waith Archwilio Allanol - Cynllun Gwaith ac Amserlen
(Papur CH)

9.2 Adborth o Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Reoli Gwybodaeth
(Papur D)

9.3 Diweddariad ynglyn â gwaith PwC -
(Papur DD)

9.4 Ardystio Grantiau a Ffurflenni.

  • Adroddiad PwC
    (Papur E)

  • Ymateb y Gwasanaeth Cyllid
    (Adroddiad Llafar)

10 Archilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol.
(Papur F)

11 Rheoli Trysorlys

11.1 Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys am 2011/12.
(Papur FF)

11.2 Cyflwyno Adroddiad Monitro Rheoli Trysorlys am Chwarter 1 2012/13.
(Papur G)