Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Wednesday, 29th August, 2007

PANEL TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   29 Awst 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd H. Eifrion Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D. R. Hughes, T. H. Jones, R. L. Owen, H. Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr;

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid);

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

 

 

 

 

1

Cyn cychwyn ar y Rhaglen ar gyfer y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Brian Owen, cyn aelod o'r Panel hwn, am ei ymrwymiad a'i gyfraniad i waith y Panel.  Estynnodd y Cadeirydd hefyd groeso i'r Cynghorydd T. H. Jones i'w gyfarfod cyntaf yn dilyn y newid a fu yn ddiweddar yn aelodaeth y Panel.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2007 fel rhai cywir.

(Cofnodion y Cyngor 18.09.2007, tud 62 - 63).

 

4

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

Mabwysiadwyd y dyfyniad isod o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 :-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. "

 

5

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF YNGHYLCH Y BROSES ARFARNU SWYDDI

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau ei fod wedi galw cyfarfod o'r Panel, yn unol â phenderfyniad 3.2 yng nghofnodion y cyfarfod o'r Panel a gynhaliwyd ar 1 Mehefin ac yn dilyn cyfarfod rhyngddo ef, Is-Gadeirydd y Panel a'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) pryd cadarnhawyd bod yr amserlen y cytunwyd arni wedi llithro.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ddiweddaru'r Panel ynghylch y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r broses arfarnu swyddi.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fod llawer o'r gwaith wedi ei wneud.  Roedd wedi rhagweld y byddai'r broses wedi ei chwblhau ac y byddai mewn sefyllfa i gyhoeddi'r canlyniadau erbyn diwedd mis Awst.  Yn anffodus, ni lwyddwyd i gwrdd â'r targed hwn.  Dywedodd mai'r brif broblem oedd creu'r llinell dâl.  Roedd creu strwythur tâl newydd yn seiliedig ar y broses arfarnu ac o fewn y terfynau ariannol yn waith beichus.  Dywedodd ei fod yn canolbwyntio ei sylw ar gwblhau'r broses erbyn diwedd mis Medi.

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr ei fod wedi anfon cyfarwyddiadau i'r holl Gyfarwyddwyr Corfforaethol a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn dweud wrthynt am roi'r blaenoriaeth uchaf i'r broses.  Roedd y staff wedi ymateb ar unwaith.  Roedd wedi cyfarfod gyda Phenaethiaid Adeiniau yn yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol ac wedi cytuno y gellid tynnu pob dyletswydd oddi ar y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ac eithrio'r broses Arfarnu Swyddi ac y dylid cyfeirio unrhyw faterion sy'n achosi problemau ato ef fel y Rheolwr-gyfarwyddwr.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol fod llawer o gynnydd wedi ei wneud ers 1 Mehefin.  Bryd hynny roedd angen cael sylwadau gan y Penaethiaid Gwasanaeth ac fe gafodd y mater hwnnw ei ddatrys yn fuan wedyn.  Ers hynny, roedd y Panel Sicrhau Safon wedi cwrdd i edrych ar y sgorau yn unol ag Adroddiad Hay.  Roeddynt wedi cynhyrchu adroddiad a oedd wedi dangos anghysondebau a gwendidau yr oedd angen rhoi cryn sylw iddynt cyn cwblhau'r gwaith modelu tâl.  Ni fu'n bosib cwblhau'r holl ffigyrau ariannol mewn perthynas â'r model tâl.  Fodd bynnag, roedd llawer o waith wedi ei wneud.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fod yr ymgynghorydd sy'n gyfrifol am fwrw ymlaen gyda'r materion Modelu Tâl ar gael i gwblhau'r gwaith o roi'r wybodaeth i mewn i'r system ar fyr rybudd ac y cytunwyd ar ddyddiad cychwynnol o 18 Medi.  Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd dod i gytundeb gyda'r Undebau Llafur ynghylch natur y strwythur tâl.  Ni fyddai'n deg iddo gyflwyno'r strwythur fel cynnig terfynol heb fod mewn sefyllfa i gadarnhau ei fod yn fforddiadwy.  Dywedodd y swyddog ei fod yn teimlo bod y canllawiau a gafodd i greu y strwythur tâl wedi bod yn afrealistig.

 

 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod llithriad oddeutu 3 wythnos yn yr amserlen gyfredol ond tynnodd sylw at y risgiau mewn perthynas â pheidio a chymryd digon o amser i sicrhau bod y broses yn gywir o bersbectif yr undebau a'r rheolwyr.  Hyd oni fydd o leiaf 85% o'r wybodaeth wedi ei bwydo i mewn nid oedd modd darogan materion fforddiadwyaeth.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod ychydig dros 50% o'r wybodaeth wedi ei bwydo i mewn ar hyn o bryd.  Nid oedd hyn yn cynnwys Staff Cynorthwyo Athrawon.

 

 

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynghylch y Modelwr Tâl, Sicrwydd Safon, Trafodaethau/Cymeradwyaeth a materion Gweinyddol/Gweithredu a rhoddwyd cyfle iddynt fynegi eu barn a holi swyddogion i bwrpas cael eglurhad.  Roedd yr holl aelodau yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o lithriad pellach a gofynnwyd a oedd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) yn hyderus y byddai modd cwblhau'r broses heb ragor o oedi ynteu a oedd angen cymorth staffio ychwanegol i wneud y gwaith.  Cadarnhaodd y swyddog ei fod yn fodlon ar hyn o bryd ond efallai y bydd angen cymorth gweinyddol ychwanegol gyda hyn.  Yn ogystal, dygodd sylw'r Panel at bwysau gwaith ar staff yr Adain Gyflogau unwaith y bydd y cytundeb wedi ei gwblhau.  Dywedodd y swyddog hefyd mai dim ond 8 o bobl oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu ar y panelau apelio allan o'r 20 sydd eu hangen.  Byddai hyfforddiant yn cychwyn ar gyfer yr aelodau hynny o staff yng nghanol mis Hydref.  Nid oedd yn rhagweld y byddai angen i'r Panel Apeliadau gwrdd tan oddeutu canol mis Tachwedd.  Er bod 8 o bobl yn ddigon i gychwyn y broses roedd yn awyddus i gael nifer ddigonol o bobl o bob adran o'r Cyngor er mwyn sicrhau didueddrwydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth ddiweddaraf uchod ac y byddai cyfarfod pellach o'r Panel yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener 21 Medi 2007 yn Ystafell 1003, Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr am 1pm ac erbyn hynny disgwylir y bydd yr Ymgynghorydd wedi cwblhau'r gwaith fel bod modd i'r Panel fwrw ymlaen gyda'r Broses Arfarnu Swyddi.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD H. E. JONES

 

CADEIRYDD