Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Tuesday, 4th November, 2008

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, Aled Morris Jones, W. I. Hughes, H. Eifion Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Cydlynydd Strategol (GE),

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei frawd yn yr Adran Addysg a Hamdden.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei gefnder yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb ynghylch eitem 2(a) - Strwythur Modelu Tâl Arfaethedig ar gyfer Cyflogau Haen Gyntaf ac Ail Haen.

 

Datganodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) diddordeb ynghylch eitem  2(a) - Strwythur Modelu Tâl Arfaethedig ar gyfer Cyflogau Haen Gyntaf ac Ail Haen.

 

Ni adawodd y cyfarfod oherwydd i'r Rheolwr-gyfarwyddwr ofyn iddo aros i roi gwybodaeth feithiol am y cyflogau.  Nid oedd yn eitem yr oedd angen gwneud penderfyniad arni.  Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 5 - Taliadau Ychwanegol - Gwasanaeth Tu Allan i Oriau - Cynlluniau Argyfwng a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwnaeth y Cydlynydd Strategol ddatganiad o ddiddordeb ynghylch eitem 2(a) - Strwythur Modelu Tâl Arfaethedig ar gyfer Cyflogau Haen Gyntaf ac Ail Haen a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Awst, 2008, yn amodol ar gynnwys yn eitem 3 (Diweddariad ynghylch Cynnydd a Materion a nodwyd ers y cyfarfod diwethaf) y ffaith bod Cyngor Sir Gwynedd yn gweithredu cynllun diogelu cyflog am 3 blynedd mewn perthynas â'r broses arfarnu swyddi.

 

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r isod :-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohonoi. "

 

 

 

 

 

 

 

 

 

YN CODI O'R COFNODION

 

 

 

2.1

Strwythur Modelu Tâl Arfaethedig ar gyfer Cyflogau Haen Gyntaf ac Ail Haen

 

 

 

Rhoddodd y Rheolwr-gyfarwyddwr wybodaeth gefndir i'r Panel mewn perthynas â'r adolygiad annibynnol gan Grwp HAY o gyflogau haen gyntaf ac ail haen.  Roedd yn ystyried y dylid asesu cyflogau haen gyntaf ac ail haen gyda chyflogau holl staff eraill yr awdurdod.  Cyfeiriodd y Rheolwr-gyfarwyddwr at benderfyniad y Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2007 ac a gafodd ei newid wedyn gan y Panel ar 1 Mehefin 2007, fel a ganlyn :-

 

 

 

"Fel y gellid symud ymlaen gyda’r model tâl a chostau, ‘roedd angen canllawiau ar lefel arwyddol cyflogau cyn gwneud penderfyniad.  Ni wnaed unrhyw benderfyniad ar dueddiadau cyflog y cytunwyd arnynt hyd oni fyddai’r gwaith costio wedi dod yn ôl i’r Panel fel y gellir cytuno ar faterion yn ymwneud â fforddiadwyaeth.

 

 

 

Yn codi o’r trafodaethau manwl ar y cyflwyniad, “cytunwyd ar lefel cyflogau a oedd yn cynrychioli cynnydd o 5% uwchlaw’r uchafswm cyfredol (ac eithrio cyflog y Rheolwr-gyfarwyddwr ).  Byddai hyn yn darparu ffigwr cychwynnol ar gyfer trafodaethau gyda’r Undebau Llafur.”

 

 

 

Gofynnodd y Rheolwr-gyfarwyddwr i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) aros yn y cyfarfod i roi gwybodaeth ffeithiol am y cyflogau.  Aeth y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) trwy bob un o'r 21 o swyddi haen gyntaf ac ail haen mewn manylder.  Cyfeiriodd at swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol) a nododd bod HAY wedi ailasesu'r swydd hon yn dilyn cyfuno swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) a swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd a Thrafnidiaeth).  Ailaseswyd y swydd hon yn awr i'r un lefel â swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol).  Cyfeiriodd y swyddog hefyd at swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio) a nododd bod y Cyngor Sir wedi penderfynu rhoi'r gwasanaeth archwilio allan i gontract.  Mae cyflog ar gyfer swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio) wedi ei glustnodi i dalu am gost dibenion contractyddol.

 

 

 

Nododd y Swyddog bod gwahaniaeth oddeutu £22,500 ar hyn o bryd rhwng tâl Penaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr Corfforaethol.  Mae gwahaniaeth bychan yn yr awdurdod rhwng swyddi Penaethiaid Gwasanaeth, sef oddeutu £4,000.  Nododd y bydd raid ystyried a ddylid estyn y golofn pwyntiau cyflog ar gyfer swyddi eraill yn yr awdurdod.

 

 

 

Nododd fod Cyngor Gwynedd yn gweithio ar golofn pwyntiau cyflog a oedd yn cynnwys 65 o bwyntiau.  Mae'r cyflog uchaf, gan gynnwys y codiad tâl 2.45% a ddyfarnwyd yn ddiweddar, bellach o gwmpas £55,000 yng Ngwynedd.  Felly, mae'r gweithwyr sy'n cael y cyflogau mwyaf yn y llyfr gwyrdd yn cael eu talu'n well na phob un o'r Penaethiaid Gwasanaeth yn yr awdurdod hwn.  Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y wynebir rhai sialensiau yn y dyfodol i geisio denu gweithwyr i swyddi o'r fath.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod y Panel, ym mis Mawrth 2007, wedi trafod ffigwr arwyddol o 5% fel canllaw yn unig.  Nododd bod rhai awdurdodau wedi sortio'r cyflogau haen gyntaf ac ail haen cyn ystyried staff eraill yn eu hawdurdodau.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

2.2

Manylion am y Setliad rhwng Cyngor Gwynedd a'r Undebau

 

 

 

Cyflwynwyd a nodwyd - dogfen gytundeb a ddrafftiwyd gan Gyngor Sir Gwynedd a'r Undebau Llafur cydnabyddedig.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod bwriad i gynhyrchu dogfen debyg i honno a gafodd ei drafftio gan Gyngor Gwynedd.  Nododd y byddai'r ddogfen yn cael ei chyflwyno i'r Panel hwn cyn unrhyw broses ymgynghori.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod y ddogfen ddrafft yn ddefnyddiol ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol ynghylch cytuno ar y strwythur tâl a graddfeydd.  Cyfeiriodd at y 'Polisi Tanberfformio' a holodd a fyddai modd cynnwys polisi o'r fath yn y ddogfen a gynhyrchir ar gyfer yr awdurdod hwn yn y dyfodol.  Dywedodd y Cadeirydd bod gan yr awdurdod hwn bolisi o'r fath eisoes.  Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones ei bod yn ymddangos fod Cyngor Gwynedd wedi cryfhau ei 'Bolisi Tanberfformio'.

 

 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones fod y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) wedi gwneud llawer o waith gyda'r Panelau Undebau Llafur mewn perthynas â'r strwythur graddio newydd, y system werthuso a'r system oriau hyblyg.  Gofynnodd a fyddai’r gwaith a wnaed ar y materion hyn yn parhau i gael ei drafod yn y pecyn gyda'r Undebau Llafur.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fod y materion a godwyd gan y Cynghorydd Jones yn dal i fod yn y pecyn trafod.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

2.3

Opsiynau Modelu Tâl

 

 

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Cydlynydd Strategol, Mr. Geraint Elis ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â'r Cynllun Modelu Tâl.  Aeth Mr. Elis trwy dri o wahanol opsiynau model tâl mewn manylder.

 

 

 

Ystyriwyd nad oedd yr opsiwn cyntaf yn dderbyniol oherwydd bod y strwythur tâl yn llawer uwch na'r llinell sy'n ffitio orau ac ystyriwyd ei fod yn llawer rhy ddrud.

 

 

 

Ystyriwyd nad oedd yr ail opsiwn yn dderbyniol oherwydd bod y strwythur tâl yn sylweddol is na'r llinell sy'n ffitio orau, gan arwain at nifer fawr o weithwyr yn cael llawer llai o gyflog.

 

 

 

Nododd bod y tîm modelu tâl ar hyn o bryd yn ystyried mai'r trydydd graff a gyflwynwyd i'r cyfarfod yw'r un sy'n ymddangos fel pe bai'n cydweddu orau gyda'r elfen fforddiadwyaeth ar gyfer yr awdurdod hwn.  Dywedodd bod angen gwneud llawer o waith i ddatblygu mwy ar yr opsiwn hwn.  

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y byddai'r trydydd graff a gyflwynwyd i'r Panel yn costio £500,000 net bob blwyddyn a byddai'n rhaid trafod y mater fforddiadwyaeth.  Nododd fod yr awdurdod wedi diogelu swm o £800,000 y flwyddyn.  Ychwanegodd fod hyn yn 2% o gyfanswm cyflogau'r awdurdod.  Fodd bynnag, nododd bod gwendidau yn y model hwn oherwydd nad yw'r holl swyddi wedi eu cynnwys yn y graff.  Nid yw'r graff ond yn dangos tâl sylfaenol ac nid yw'n cynnwys lwfansau ychwanegol a delir i weithwyr h.y. tâl allan o oriau.  Bydd raid i'r £800,000 gwrdd â'r cyfan o'r strwythur staffio.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol o'r farn nad yw'r model tâl a ffefrir ar hyn o bryd yn un y gellir ei fforddio.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones a yw cymorthyddion ysgol wedi eu cynnwys yn yr opsiwn modelu tâl hwn. Dywedodd y Cydlynydd Strategol eu bod wedi eu cynnwys a nododd fod y mater yr adroddwyd arno yn y wasg yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, sef na fyddai cynorthwywyr dysgu yn cael eu talu yn ystod gwyliau ysgol , yn berthnasol i'r awdurdod hwn.  Fodd bynnag, dywedodd nad oedd yr awgrym na fyddant yn cael eu talu yn ystod gwyliau ysgol yn gywir, y mater dan sylw yw a fyddant yn cael eu talu am y 12 wythnos yn llawn, gwyliau ysgol ai peidio.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn cytuno gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad yw'r model tâl cyfredol sydd dan sylw yn un y gall yr awdurdod ei fforddio.  Nododd hefyd y byddai'r pecyn diogelu cyflog yn gost i'r awdurdod 3 i 4 blynedd ar ôl cwblhau'r broses arfarnu swyddi.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

2.4

Taliadau am fod wrth gefn, Materion Ôl-dâl a Chostau Teithio

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mewn perthynas â'r uchod.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y gwnaed cynnydd o ran  lwfansau a threfniadau ar gyfer swyddogion y mae gofyn iddynt fod wrth gefn.  Fodd bynnag, mae angen gweithredu mewn dull mwy cyson ar draws yr awdurdod mewn amgylchiadau lle mae'r galwadau a'r gofynion yn amrywio'n sylweddol y tu allan i'r diwrnod gwaith arferol ac ar benwythnosau.

 

 

 

Rhoddwyd sylw i anghenion gwasanaethau unigol a'r trefniadau a sefydlwyd eisoes yn ogystal â modelau a systemau talu a ddefnyddir mewn mannau eraill.  Bwriedir cyflwyno set o gynigion i'w hystyried gan y Tîm Rheoli yn ystod mis Tachwedd gyda golwg ar sicrhau cytundeb ffurfiol yn ystod mis Rhagfyr.

 

 

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Tîm Rheoli gael ei gyflwyno i'r Panel hwn hefyd gyda hyn.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod trafodaethau yn parhau mewn perthynas â Theithio Busnes gyda golwg ar sicrhau newid sylweddol o ran ad-dalu am gostau teithio busnes.  Yn codi o'r cyfarfodydd gyda'r Undebau Llafur ar y mater penodol hwn, lluniwyd trefniadau posib ar gyfer y dyfodol ar y cyd ac mae'r ddwy ochr yn ystyried y manylion ar hyn o bryd.  Mae'r cynigion hyn, fel y maent ar hyn o bryd, yn seiliedig ar gyfraddau Swyddfa Cyllid y Wlad ar gyfer nifer o filltiroedd y gellir eu teithio ar fusnes swyddogol cyn dechrau talu treth, ond gyda rhai pethau yn wahanol.  Byddant yn golygu y byddai'r trefniadau cyfredol mewn perthynas â defnyddwyr car hanfodol ac achlysurol yn dod i ben.  Ar hyn o bryd, mae dau o'r tri o'r Undebau Llafur wedi dweud eu bod yn fodlon gyda'r pecyn.  Mae'r trydydd yn dal i drafod ond bydd yn ceisio ymateb cyn pen pythefnos.

 

 

 

Mewn perthynas â materion ôl-dâl, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau (Gwasanaethau Corfforaethol) fod yna dri chategori o achosion lle bydd hawl i ôl-dâl neu gais am ôl-dâl yn debygol o godi sef :-

 

 

 

(a)     cwynion / hawliadau tâl cyfartal - bydd bron y cyfan o'r hawliadau hyn wedi eu cofrestru gan ferched (cyn-weithwyr maniwal) - ac yn ymwneud â’r ymarfer gwerthuso swyddi i Weithwyr Maniwal a gynhaliwyd yn 1987/1988 a'r gwahaniaeth yn y modd o drin dynion a merched mewn perthynas ag argaeledd cynlluniau bonws.

 

      

 

     (b)     cwynion / hawliadau tâl cyfartal - unwaith eto, bydd y cyfan o'r rhain bron gan ferched sy'n gweithio i'r awdurdod ar hyn o bryd - mewn perthynas â'r ymarfer arfarnu cyfredol.

 

      

 

     (c)     achosion ynghylch y gweithwyr hynny a gafodd gyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol sylweddol yn sgil trefniadau adolygu ac ailstrwythuro trefniadol y Cyngor yn 2000/01 ac/neu yn sgil newidiadau trefniadol wedi hynny - cafodd y gweithwyr hyn gydnabyddiaeth interim ar ffurf incrementau ychwanegol hyd oni fydd adolygiad cyfredol wedi dod i ben.

 

      

 

     Rhwng (a) a (b) mae oddeutu 100 o achosion wedi eu cofrestru gyda'r awdurdod ar hyn o bryd gan yr Undebau Llafur, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain hefyd wedi cofrestru ar gyfer gwrandawiad mewn tirbiwnlysoedd cyflogaeth.

 

      

 

     Mae yna dros 100 o weithwyr yng nghategori (c) uchod, ond bydd unrhyw hawl i ôl-dâl yn dibynnu ar y sgôr arfarnu ar gyfer y swyddi y maent yn eu gwneud ar hyn o bryd a'r llinell dâl a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.

 

      

 

     Mae'r sefyllfa mewn perthynas ag ôl-dâl yn gynyddol gymhleth yn sgil y twf yn y gyfraith achos mewn perthynas â'r mater hwn a’r achosion sy'n cael sylw ar hyn o bryd - penderfyniadau sy'n aml yn  tynnu'n groes i'w gilydd.  Yng Nghymru mae ymhell dros 11,000 o achosion wedi eu cofrestru ar gyfer gwrandawiadau tribiwnlys a gwnaed y penderfyniad i ystyried cyfres o achosion prawf yng Ngwanwyn y flwyddyn nesaf a gallai’r rheini gael effaith sylweddol ar yr hawliadau yng nghategoriau (a) a (b) uchod.  Materion i'w penderfynu arnynt yn lleol yn unig yw'r rheini yng nghategori (c).

 

      

 

     Gofynnodd H. Eifion Jones a fyddai'r cytundeb ynghylch Teithio Busnes yn arwain at arbedion wedyn.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y byddai rhai arbedion ond byddai’n rhaid ystyried yr elfen diogelu cyflog ynghylch gweithwyr sy'n newid o fod yn ddefnyddwyr car hanfodol i fod yn ddefnyddwyr achlysurol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

3

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH CYNNYDD YN GYFFREDINOL GYDA’R ADOLYGIAD TÂL A CHYFLOGAU

 

      

 

     Cafwyd adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn perthynas â'r Adolygiad Tâl a Chyflogau.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y modelu tâl a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod hwn wedi bod yn gam sylweddol tuag at yr Adolygiad Tâl a Chyflogau.  Fodd bynnag, nododd bod angen gwneud llawer o waith i symud y broses yn ei blaen.  Nododd ei fod yn gobeithio y gellid cynnal trafodaethau cyn y Nadolig gyda'r Undebau Llafur ynghylch y modelu tâl posib.  Mae'r Undebau Llafur wedi dweud eu bod yn disgwyl i'r broses drafod gymryd o leiaf 3 mis i'w chwblhau.

 

      

 

     Ychwanegodd y swyddog ei bod yn annebygol y byddai unrhyw broses o'r adolygiad yn cael ei hadolygu cyn Ebrill 2009.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones a lwyddwyd i gwrdd ag unrhyw un o'r dyddiadau a bennwyd ar gyfer cwblhau tasgau yn yr amserlen a gyflwynwyd i'r cyfarfod diwethaf.  Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud ei fod yn disgwyl cael gwybodaeth erbyn diwedd mis Tachwedd ynghylch a fydd unrhyw lithro yn yr amserlen.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

      

 

4     TREFNIADAU RHEOLI INTERIM

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd fod yr Arweinydd wedi gofyn am gael gohirio'r eitem hon oherwydd y byddai'n hoffi cael rhagor o drafodaethau ar y mater.  Cynigiodd y Cynghorydd A. M. Jones y dylid gohirio'r eitem.

 

      

 

     Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) trwy ddweud mai adroddiad oedd hwn i gadarnhau'r trefniadau a wnaed eisoes.  Pe bai'r eitem yn cael ei ohirio a ydi'r Adran Gyllid wedyn yn peidio â thalu'r lwfans cyfrifoldeb ychwanegol i'r bobl a enwir yn yr adroddiad.  Nododd y Cadeirydd bod yr Arweinydd am gynnal cyfarfod brys i drafod y mater oherwydd nad oedd yn cytuno'n llwyr gyda'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Panel hwn.  Nododd y gellid cynnal cyfarfod arbennig o'r Panel hwn, os oes rhaid, i drafod y mater ymhellach.

 

      

 

     Ymatebodd y Rheowlr-gyfarwyddwr ei fod yn bryderus bod y mater am gael ei ohirio oherwydd bod rhai gweithwyr wedi ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol o reidrwydd ac fel arwydd o ewyllys da.  Dywedodd ei fod wedi trafod y trefniadau interim gydag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol).  Roedd yn cytuno gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fod y trefniadau interim ar gyfer talu'r gweithwyr hyn yn hollbwysig.  Roedd yn gryf o'r farn y dylid cynnal cyfarfod gyda'r Arweinydd a'r ddau Aelod Portffolio ar unwaith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i'r eitem hon hyd nes y ceir cyfarfod arbennig o'r Panel hwn ar ddechrau'r wythnos nesaf.

 

      

 

5     TALIADAU YCHWANEGOL - ALLAN O ORIAU - CYNLLUNIAU ARGYFWNG

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn perthynas â'r uchod.

 

      

 

     Yn dilyn cyfarfod o'r Panel Tâl a Chyflogau a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2008 a'r cofnodion diwygiedig y cytunwyd arnynt ar 7 Awst 2008, dywedodd y Rhelwr-gyfarwyddwr fod yr adroddiad hwn yn amlinellu'r gofynion cyfredol ar gyfer cynnal y gwasanaeth tu allan i oriau ynghylch cynllunio argyfwng.

 

      

 

     Ers sefydlu Cyngor Sir Ynys Môn ar 1 Ebrill 1996 roedd y gwaith o ddarparu gwasanaethau tu allan i oriau ar gyfer cynlluniau argyfwng wedi cael ei rannu gan Gynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy ar sail rota.  Ers 1 Ebrill 1996, mae tri swyddog yn yr awdurdod wedi bod yn darparu'r gwasanaeth ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.  Y swyddogion hynny ar hyn o bryd yw'r Pennaeth Gwasanaeth - Gwasanaethau Corfforaethol, y Swyddog Cymorth Canolog a Chynllunio Argyfwng a'r Swyddog Argyfyngau Sifil.  Bydd dau o'r swyddogion ar alwad ar unrhyw adeg (ar sail rota) a darperir y gwasanaeth ar sail cylch 4 wythnos.

 

      

 

     Wrth ystyried yr angen i'r Pennaeth Gwasanaeth barhau i fod yn rhan o'r rota (rhywbeth y mae'r 3 swyddog yn cael taliad ychwanegol amdano sef 7.5% o'u cyflog sylfaenol), nododd y Rheolwr-gyfarwyddwr pebai penderfyniad yn cael ei wneud i ddwyn ei ran yn y rota i ben, a rhoi'r rhybudd priodol iddo, y byddai'r taliad o 7.5% ychwanegol yn parhau am 3 blynedd a hanner yn unol â threfniadau diogelu cyflog cyfredol y Cyngor.

 

      

 

     Nododd y Rheolwr-gyfarwyddwr yn unol â'r uchod ac ar sail y bydd y 7.5% ychwanegol yn parhau i gael ei dalu i'r Pennaeth Gwasanaeth am gyfnod o 3 blynedd a hanner yn ogystal a'r angen i recriwtio a thalu swyddog arall i gynnal lefel gyfredol y gwasanaeth a chynigiodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod y Pennaeth Gwasanaeth yn parhau yn y swyddogaeth hon ar sail dros dro hyd nes y cwblheir yr adolygiad tâl a chyflogau cyfredol.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones mai'r rheswm y tynnwyd y Pennaeth Gwasanaeth i mewn i'r rota wrth gefn oedd oherwydd bod un swyddog cynlluniau argyfwng wedi gadael yr awdurdod a bod y taliad ychwanegol hwn ar sail dros dro.  Nododd ei fod yn deall fod swyddog wedi ei benodi i'r swydd.  Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud ei fod ef yn deall na chafodd y swydd ei llenwi a bod y Pennaeth Gwasanaeth wedi ei roi ar y rota wrth gefn ar sail barhaol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD fod y Pennaeth Gwasanaeth yn parhau yn y swyddogaeth ar sail interim ac y dylid adolygu'r sefyllfa yn wyneb yr adolygiad tâl a chyflogau cyfredol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

     CADEIRYDD