Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Thursday, 4th March, 2010

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2010

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, H. Eifion Jones, Raymond Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd W. I. Hughes

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd yr un ymddiheuriad.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

3

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2009.

 

4

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r isod :-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

5

DIWEDDARIAD YNGHYLCH Y CYTUNDEB TÂL A GRADDFEYDD

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) - yn dilyn penderfyniadau'r Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd ar 22 Hydref, 2009 a phenderfyniadau a wnaed mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor wedi hynny, cyflwynwyd y Cytundeb Tâl a Graddfeydd arfaethedig, ynghyd â dogfennau ategol, i bob un o'r Undebau Llafur yn ystod mis Tachwedd i'w hystyried gan eu swyddogion cenedlaethol.  Ar y pryd, roedd disgwyl ymatebion erbyn diwedd y flwyddyn galendr ond hyd yma ni chafwyd ymateb ffurfiol gan y tri undeb.  Nododd yr aelodau y dylid atgoffa'r Undebau mai'r dyddiad gweithredu ffurfiol ar gyfer y cynllun tâl a graddfeydd oedd 1 Ionawr 2010 a bod yn rhaid symud y cynllun yn ei flaen.  

 

 

 

Fel sydd wedi ei nodi yn yr Adroddiad Asesu Effaith, bydd y bwlch tâl rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn fater na all y cynigion cyfredol roi sylw iddo - problem strwythurol ydyw.  Yn y cyd-destun hwn, cafwyd gwybod na fydd yr undebau yn argymell y cynigion hyd nes y bydd y Cyngor yn rhoi arwydd ei fod yn fodlon sefydlu mesurau i roi sylw i'r mater hwnnw.  Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) am awdurdod i baratoi datganiad wedi ei eirio'n briodol i roi sylw i'r mater hwn.

 

 

 

 

 

Nodwyd mai'r mater pwysig arall nad oedd wedi ei gynnwys yn uniongyrchol yn y cynigion cyfredol oedd polisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â hawliau gwyliau ar gyfer swyddogion a chanddynt wasanaeth hir.  Mae'r undebau wedi awgrymu y gall y polisi cyfredol fod yn wahaniaethol o ran ei weithrediad ac y gellid, o bosib, ei herio.  Mae maen prawf gwasanaeth o 5 mlynedd neu lai yn gyfreithlon; ar gyfer maen prawf gwasanaeth o dros 5 mlynedd, mae Rheoliad 32 yn cynnwys eithriad penodol i ganiatau cyflogwyr i ddefnyddio hyd gwasanaeth fel egwyddor ar gyfer manteision ond, i bob pwrpas, byddai'n rhaid i'r awdurdod ddangos angen busnes am eithriad o'r fath ynghyd â chyfiawnhad gwrthrychol llawn ar gyfer yr angen busnes hwnnw.  Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig darpariaeth fwy deniadol ar gyfer gwyliau, mae'r ddarpariaeth hon ar gyfer gweithwyr newydd a'r rheini a chanddynt wasanaeth hir.   Mae llawer o awdurdodau wedi symud i ddefnyddio meini prawf ar gyfer 'gweithwyr newydd' a gweithwyr gyda "phum mlynedd o wasanaeth".

 

 

 

Un mater sy'n codi ei ben ar lefel genedlaethol yw amod gan yr undebau bod awdurdodau yn cynnwys cymal o'r enw 'Cymal Fareham' yn eu cytundebau.  Yn genedlaethol, cafwyd arwyddion na fydd un undeb yn cytuno nac yn cefnogi unrhyw gynigion nad ydynt yn cynnwys y cymal hwn sy'n dweud fel a ganlyn:-

 

 

 

"The Council will give consideration to any historic equal pay claims presented to it.  Where it accepts that there is a valid claim it will seek to resolve it by way of payment of compensation which will be based on protection and assimilation provisions in the agreement to the extent that the historic claim is based upon a claim that earnings should have been at a level which would have resulted in those provisions applying.  The provisions in this clause will apply whether the claim has been pursued by way of proceedings in the Employment Tribunal and has been determined in favour of the employee, or otherwise where an offer to compromise any claim is made."

 

 

 

Deellir nad yw un undeb yn bwriadu gorfodi'r cymal hwn yn lleol ac efallai yn wir na fydd y mater hwn yn berthnasol yn achos cynigion yr awdurdod hwn.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth hefyd, mewn perthynas â defnyddwyr car dynodedig, bod trafodaethau wedi cychwyn ond ychydig o gynnydd a wnaed hyd yma.

 

 

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD:-

 

 

 

Ÿ

awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) i ddrafftio datganiad wedi ei eirio'n briodol mewn perthynas â'r bwlch tâl rhwng y ddau ryw o fewn yr Adroddiad Asesu Effaith a bod y datganiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Panel hwn.

 

 

 

Ÿ

gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gysylltu gyda'r tri undeb i fynegi siom y Panel hwn na chafwyd ymateb mewn perthynas â'r pecyn Tâl a Graddfeydd.

 

 

 

Ÿ

cyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Panel hwn ynghylch hawl gwyliau i weithwyr yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

CADEIRYDD