|
|
Cadarnhaodd Ymgynghorydd y Dyniaethau fod 20 o gopiau
ychwanegol o'r Maes Llafir Cytûn wedi cael eu cynhyrchu ar
ffurf CD Rom yn dilyn dwyn sylw at y ffaith yn y cyfarfod
diwethaf fod yna brinder copiau.Bydd 5 copi yn cael eu hanfon
i Brifysgol Cymru Bangor (Safle'r Normal) a 5 copi i Goleg y
Drindod, Caerfyrddin.Bydd y gweddill o'r copiau yn cael eu cadw
wrth gefn i ymateb i unrhyw ofyn amdanynt.
|
|
|
|
|
2.2
|
Eitem 7 - Arolygiadau Ysgolion
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) ei fod wedi
ysgrifennu at Ysgol Gyumuned Carreglefn, Ysgol Gymuned Bryngwran,
ac Ysgol Gymuned Rhosybol i'w llongyfach ar eu cyflawniadau yn
dilyn arolygiadau yn unol â dymuniad y CYSAG.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd gwirio'r cyfeiriad at Gyngor yr Ysgolion Sir i ddarllen Cyngor yr
Ysgolion Sul.
|
|
|
|
|
2.4
|
Eitem 9 - Dyddiadau o Bwys
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Cadeirydd at gais
y CYSAG yn ei gyfarfod diwethaf ei fod yn dwyn sylw Cymdeithas
CYSAGau Cymru at yr anhawster mae trefnu achlysuron arbennig megis
cynadleddau ar y penwythnos yn gallu ei greu o ran sicrhau
presenoldeb ynddynt.Nododd gyda gresyndod nad oedd wedi llwyddo i
godi'r mater yn yn Gynhadleddd a gynhaliwyd ar 20 Mai.
|
|
|
|
|
|
Nododd yr Is-Gadeirydd fod yr achlysur yn Llandrindod ar
20 Mai yn drydydd ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas
CYSAGau Cymru a bod yr achlysuron hyn i gyd wedi cael eu cynnal ar
ddydd Sadwrn a hynny ar ôl ymgynghori gydag athrawon ynglyn
â'r trefniadau hwylusaf iddynt.Byddai cynnal diwrnod o'r fath
yn ystod yr wythnos yn golygu colli diwrnod ysgol a gorfod gwneud
trefniadau llanw.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Pwyllgor am fanylder y
cofnodion ac ategwyd hynny gan yr Is-Gadeirydd.
|
|
|
|
|
3
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU
|
|
|
|
|
3.1
|
Cylchredwyd copi o gofnodion cyfarfod y Gymdeithas a
gynhaliwyd ym Margam ar 7 Ebrill, 2006 ynghyd â rhaglen y
cyfarfod i'w gynnal yng Nghaernarfon ar 23 Mehefin i aelodau'r
CYSAG ac adroddodd y Cadeirydd ar y prif benawdau o gyfarfod Margam
fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
derbyniwyd un enwebiad ar gyfer y Pwyllgor Gwaith ac un ar
gyfer swydd yr Is-Gadeirydd.Bu i'r Gymdeithas gytuno i wahodd
rhagor o enwebiadau er fod y dyddiad cau ffurfiol am enwebiadau
bellach wedi pasio.
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd cyflwyniad diddorol iawn gan Mr Mike Strange o RE
Quest ar sail DVD sydd yn ymchwilio i'r cwestiwn o sut beth yw bod
yn Gristion - mae'r CD ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion ac
awdurdodau addysg a cheir ymhelaethu ar ei gynnwys o dan eitem 6
isod.
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd anerchiad ar le Addysg Grefyddol yn y fformiwla
ariannu gan Ms Julie James, Rheolwr Prosiect yn Llywodraeth
Cynulliad Cymru.Bu i Ms James ddweud fod Addysg Grefyddol statudol
yn y chweched dosbarth yn cael ei ystyried yn "gyfoethogiad" a bod
arian ar ei gyfer yn cael ei ddyrannu i'r cyfan o ysgolion hyd yn
oed os nad ydynt yn gwneud y ddarpariaeth.Bu trafodaeth ynglyn
â phriodoldeb hyn yn y cyfarfod.
|
|
|
|
|
|
Parthed trefn ariannu ELWa, nododd y Swyddog Addysg
Uwchradd fod penaethiaid ysgolion Ynys Môn yn pryderu ynglyn
â'r drefn cyllido addysg ôl-16 ac yn arbennig ynghylch
y baich gwaith papur mae ymateb i ofynion y drefn yn ei gynhyrchu o
ran cadw cofnodion manwl ynglyn â'r nifer sy'n dilyn y pwnc,
yn eistedd arholiad yn y pwnc ac yn llwyddo ac ati, sef manylion
sydd wedyn yn cael eu hadlewyrchu yn y fformiwla
cyllido.
|
|
|
|
O ran enwebiadau i Gymdeithas CYSAGau Cymru, nododd yr
Is-Gadeirydd bod cryn ddryswch ynglyn â'r drefn eleni gyda
dyddiad cau 1 Mawrth wedi ei fethu, ac oherwydd hyn roedd yn dymuno
cynnig bod CYSAG Môn yn gofyn i Gymdeithas CYSAGau Cymru
lythyru cyrff CYSAGau bob mis Rhagfyr yn gofyn am enwebiadau ar
gyfer swyddi priodol fel bod yna lynu wrth y Côd Ymarfer
gytunwyd arno peth amser yn ôl, ac fel bod pob corff CYSAG
wedyn yn gweithredu'n gyson ac yn gyfartal.Roedd hefyd yn awyddus
i'r CYSAG ail-ddatgan ei ddymuniad i dderbyn copi o gofnodion
drafft cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn da bryd fel bod
yna gyfle i gynnig sylwadau yn amserol ar faterion priodol fe bo
gofyn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
3.1.1
|
Nodi'r wybodaeth o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru
a gynhaliwyd ym Margam ar 7 Ebrill, 2006 a diolch i'r Cadeirydd am
yr adborth.
|
|
|
3.1.2
|
Bod CYSAG Ynys Môn yn gofyn i Gymdeithas
CYSAGau Cymru lythyru cyrff CYSAGau bob mis Rhagfyr i ofyn am
enwebiadau ar gyfer swyddi priodol o fewn y Gymdeithas yn unol
â'r Côd Ymarfer ac er mwyn sicrhau fod pob corff CYSAG
yn gweithredu'n gyson ac yn gyfartal.
|
|
|
3.1.3
|
Ail-ddatgan dymuniad CYSAG Ynys Môn i dderbyn
copi o gofnodion drafft cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn
da bryd i'w alluogi i ystyried y materion yn codi yn amserol fel
nad yw eu perthnasedd yn pallu.
|
|
|
|
|
3.2
|
Adroddodd yr Is-Gadeirydd o Gynhadledd Arbennig Cymdeithas CYSAGau Cymru ac ACCAC a
gynhaliwyd yn Llandrindod ar 20 Mai, 2006 fel a ganlyn:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bu'r presenoldeb yn y Gynhadledd yn dda iawn ac fe
estynwyd croeso i bawb iddi gan Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau
Cymru.Rhoddwyd cyflwyniad i raglen y diwrnod gan John Valentine
Willimas, AADGOS (gynt ACCAC) ac fe anerchwyd y cyfarfod gan
Weinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad;
|
|
|
Ÿ
|
Bu i'r Gweinidog Addysg ddweud ei bod yn falch fod cyrff
CYSAGau wedi penderfynu gohirio ystyried cynnwys eu Meysydd Llafur
a bod yr adolygiad o'r Cwriwcwlm Cenedlaethol yn rhoddi cyfle i
bennu rhaglen unigryw benodol i Gymru;
|
|
|
Ÿ
|
byddai'r Mesur Addysg newydd hefyd yn rhoddi rhagor o
gyfle i Gymru weithredu ar ei phen ei hun;
|
|
|
Ÿ
|
roedd adroddiadau Estyn yn 2004/05 yn dangos fod 483 o
wersi Addysg Grefyddol wedi cael eu arsylwi a 9 yn unig a gafodd eu
dyfarnu islaw Lefel 3;
|
|
|
Ÿ
|
pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd Addysg Grefyddol nid
yn unig fel pwnc ond fel adnodd sydd yn cynorthwyo undod cymunedol,
cyd-ddealltwriaeth ac ymagwedd o barch, a sydd hefyd yn hyrwyddo
perthynas gymunedol dda mewn cymdeithas aml-ffydd;
|
|
|
Ÿ
|
dywedodd bod Addysg Grefyddol yn rhoi'r cyfle i godi
cwestiynau mawr athronyddol, diwinyddol ac ysbrydol a'i fod yn
annog trin a thrafod;
|
|
|
Ÿ
|
rhoddir pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau gan ddechrau
hynny yng nghyfnod y blynyddoedd cynnar.Fodd bynnag, ni ddylai'r
pwyslais a roddir ar ddatblygu sgiliau filwrio yn erbyn cynnwys -
fe dylai'r ddwy agwedd weithio'n integreiddiedig;
|
|
|
Ÿ
|
bod y berthynas trwy Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi arwain
i Addysg Grefyddol gael ei gynnwys mewn adolygiad cwricwlwm am y
tro cyntaf;
|
|
|
Ÿ
|
bwriedir cyhoeddi'r cwricwlwm newydd yn derfynol yn 2008 a
rhoi'r maes llafur ar waith ym mis Medi 2008 - bydd y pwyslais ar
fod yn ddisgybl canolog h.y. bydd y ffocws ar y disgybl;
|
|
|
Ÿ
|
bydd llwyddiant y cwricwlwm newydd yn ddibynnol ar
athrawon a'r ymarferwyr proffesiynol yn y maes - mae partneriaeth
ar bob lefel yn hanfodol;
|
|
|
Ÿ
|
bu i Roger Palmer, cyn Swyddog Addysg Grefyddol nodi'r
angen i ysgogi disgyblion;
|
|
|
Ÿ
|
yn ôl yr amserlen fwriedig, bydd y Rhaglen
Fframwaith yn cael ei chyhoeddi i bwrpas ymgynghori yn 2007, bydd y
ddogfennaeth yn cael ei chylchredeg ymhlith ysgolion a chyrff
CYSAGau yn gynnar yn 2008 gyda'r amcan o weithredu'r Fframwaith ym
mis Medi, 2008;
|
|
|
Ÿ
|
awgrymir fod cyrff CYSAGau yn paratoi meysydd llafur ar
sail yr ymgynghori;
|
|
|
Ÿ
|
bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi i gefnogi'r Fframwaith
a byddant yn cynnwys deunydd enghreifftiol.
|
|
|
|
|
3.3
|
Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau flas i aelodau'r CYSAG
o gyflwyniad a roddwyd i'r Gynhadledd gan Denize Morris, Adran
Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (AADGOS) fel a
ganlyn:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
roedd y cyflwyniad hwn ym ymwneud ag Addysg Grefyddol tu
hwnt i 2008 ac yn gofyn i aelodau ystyried pa fath ddarpariaeth
byddid yn dymuno ei wneud ar gyfer disgyblion yr unfed ganrif ar
hugain a'r oes ddigidol;
|
|
|
Ÿ
|
fel rhan o'r Fframwaith, mae'r disgwyliadau o ran sgiliau
yn cymryd bydd disgyblion yn medru ymwneud â
chwestiynau sylfaenol, yn medru ymchwilio i gredoau, dysgeidiaeth
ac ymarferion, ac yn medru mynegi ymatebion personol.Bydd
rhai yn gallu ymateb ar sail ffydd ond nodir bod rhaid annog y rhai
hynny nad ydynt yn gallu gwneud hynny i ymateb i'w profiadau yn y
dosbarth.Nid yw hyn yn cynnig unhryw newid mawr o ran maes llafur
presennol Môn a Gwynedd;
|
|
|
Ÿ
|
o ran ystod a chyd-destun ceir y themau penagored hyn - Y
Byd, Profiad Dynol a Chwilio am Ystyr.Mae nifer o'r testunau yr
ymwneir â hwy ar hyn o bryd o fewn y Maes Llafur i'w gweld yn
y penawdau yma;
|
|
|
Ÿ
|
trafodwyd priodoldeb y cyd-destun ac yn arbennig a
ddylid pennu'r nifer o grefyddau a astudir - tra ystyriwyd na
fyddai ymhel â nifer o grefyddau'r byd yn ymarferol o fewn
cwricwlwm llawn y cynradd, ar y llaw arall cytunwyd y byddai'n
ddefnyddiol i'r uwchradd wybod beth mae disgyblion wedi'i ddilyn yn
yr ysgol gynradd;
|
|
|
Ÿ
|
o ran disgrifiadau lefel glynir wrth y rhai a bennwyd gan
ACCAC lle mae athro/awes yn gweld gweld sut mae'r disgybl wedi
perfformio mewn nifer o dasgau trwy'r flwyddyn;
|
|
|
Ÿ
|
gofynnir beth ddylai'r weledigaeth fod ar gyfer Addysg
Grefyddol fel pwnc ac fel elfen ddylanwadol yn y Cwricwlwm
Cenedlaethol ar gyfer 2008 a thu hwnt.Hefyd, beth yw'r
blaenoriaethau ar gyfer cyrff CYSAGau a Chymdeithas CYSAGau Cymru
dros y 5 mlynedd nesaf. Gofynnir i aelodau'r CYSAG bori dros y
cwestiynau hyn yn y misoedd i ddod, ac i rannu eu
syniadau.
|
|
|
|
|
|
Nododd yr Is-Gadeirydd y disgwylir adroddiad ffurfiol ar
allbwn y gynhadledd maes o law a thebygir y bydd ail-ymweld
â'r maes trafod hwn yn y misoedd i ddod.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Swyddog Addysg Uwchradd ei fod yn galonogol gweld
cyflwyno'r newid yn raddol a chroesawir y cyfle i CYSAG Môn
gyfrannu i'r broses ymgynghori.
|
|
|
|
|
|
Dygodd yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol sylw'r CYSAG
at y ffaith fod Mrs Meinir Evans, Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol
David Hughes hefyd wedi mynychu'r gynhadledd uchod a'i fod yn
cydnabod hynny.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi'r wybodaeth o Gynhadledd Arbennig
Cymdeithas CYSAGau Cymru a diolch i'r Is-Gadeirydd ac Ymgynghorydd
y Dyniaethau am fanylder yr adborth.
|
|
|
|
|
3.4
|
Ystyriwyd, a phenderfynwyd cadarnhau'r Cynghorydd
E.G.Davies (Yr Awdurdod Addysg) a Mr Rheinallt Thomas (Yr Enwadau
Crefyddol) a Mrs Heledd Hearn (Athrawon) fel cynrychiolwyr i
fynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru i'w gynnal yng
Nghaernarfon ar 23 Mehefin, 2006 gan nodi bydd Mr Gwyn Parri a Miss
Bethan James yn mynychu'r cyfarfod yn rhinwedd eu
swyddi.
|
|
|
|
|
4
|
RHAGLEN WAITH YR ATHRO YMGYNGHOROL ADDYSG
GREFYDDOL
|
|
|
|
|
Rhoddodd Mr Paul Matthews
Jones gyflwyniad ar ei waith yn ystod y cyfnod ers cyfarfod
diwethaf y CYSAG fel a ganlyn -
|
|
|
|
Ÿ
|
prif ffocws hyffordiant mewn swydd Môn oedd codi
safonau Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol CA4;
|
|
|
Ÿ
|
rhoddwyd cefnogaeth cyn arolygiad i Ysgol Uwchradd
Caergybi;
|
|
|
Ÿ
|
rhoddwyd cefnogaeth ymgynghorol i Ysgol Gyfun Llangefni ar
hunan arfarnu ac i Ysgol David Hughes ar feddalwedd recordio a
golygu;
|
|
|
Ÿ
|
mynychwyd gweithgor arfer dda ar ddwyieithrwydd ar lawr y
dosbarth oedd ar gael i ysgolion trwy becyn "toolkit" dwyieithrwydd
Cynnal;
|
|
|
Ÿ
|
prosiect Addysg Grefyddol ôl-16.Bwriad y prosiect yw
ceisio datblygu uned Addysg Grefyddol fydd o gymorth i ysgolion
ymateb yn llawn i ofynion statudol Addysg Grefyddol yn unol â
chylchlythyr 10/94.O dan arweiniad Cynnal, bydd grwp o athrawon o
Wynedd a Môn yn cyfarfod ar 28 - 30 o Fehefin mewn gweithgor
i gynllunio'r uned, ac fel rhan o'r gweithgor darperir cwrs gan
Roger Daniel o Creative Education ar ddulliau ysgogi disgyblion
ôl-16.
|
|
|
|
|
Yn codi o'r wybodaeth
uchod, holwyd yn benodol am yr arolwg yn Ysgol Uwchradd Caergybi a
phryd gellir disgwyl adborth o'r arolwg.Holwyd hefyd ynghyd â
swyddogaeth Cynnal, a gofynnwyd a oedd y ffaith fod gofyn am
fewnbwn gan Cynnal ym maes Addysg Grefyddol yn golygu nad yw'r
trefniadau presennol yn effeithiol.
|
|
|
|
O ran yr adolygiad o Ysgol
Uwchradd Caergybi, rhoddwyd gwybod i'r CYSAG y byddai'r adroddiad
terfynol yn cael ei gyhoeddi ar wefan Estyn yr wythnos hon a byddir
yn cyflwyno gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â'r ddarpariaeth
Addysg Grefyddol er ystyriaeth a thrafodaeth lawn gan y CYSAG yn ei
gyfarfod ym mis Hydref. Parthed y gefnogaeth cyn arolwg a roddwyd
i'r ysgol, fe wnaethpwyd hyn trwy gynnig cefnogaeth i staff, a
thrwy gynorthwyo gyda llunio gwersi a chynlluniau gwaith. Esboniwyd
fod Cynnal yn darparu gwasanaeth hyfforddiant i athrawon,
gwasanaeth ymgynghorol pynciol a chyffredinol ynghyd â
gwasanaethau cefnogol megis yn achos Ysgol Uwchradd Caergybi.
Nodwyd hefyd mai bwriad y gweithgor y cyfeirir ato uchod yw sicrhau
bod adnoddau ac unedau ar gael i ysgolion os ydynt yn dymuno eu
defnyddio.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
rhaglen waith yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol ers cyfarfod
diwethaf y CYSAG gan ddiolch iddo am y wybodaeth.
|
|
|
|
5
|
RHAGLEN WAITH DDRAFFT CYSAG YNYS MÔN
2006/07
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Rhaglen Waith
ddrafft CYSAG Ynys Môn am 2006/07 yn amlinellu pynicau
trafod gogyfer y CYSAG yn ei gyfarfodydd yn y Gwanwyn, yr Haf
a'r Gaeaf.
|
|
|
|
Dygodd yr Is-Gadeirydd
sylw at y ffaith y dylai'r eitem ar gyfer derbyn enwebiadau ar
gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru gael ei ddynodi o
dan gyfarfod y Gwanwyn yn hytrach na chyfarfod yr Haf gan mai 1
Mawrth yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau.Dylid hefyd
ddileu'r ail gyfeiriad at Gymdeithas CYSAGau Cymru o dan gyfarfod
yr Haf.
|
|
|
|
Penderfynwyd
cymeradwyo'r Rhaglen Waith ddrafft yn amodol ar ofyn i Ymgynghorydd
y Dyniaethau wneud y diwygiadau a nodir.
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau gyflwyniad i'r aelodau yn seiliedig ar gyflwyniad Mike
Strange o RE Quest i gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Margam ar
7 Ebrill, 2006.
|
|
|
|
Eglurodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau fod y cyflwyniad a roddwyd yng nghyfarfod Cymdeithas
CYSAGau Cymru yn seiliedig ar CD ROM o dan y testun,
Sut beth yw Bod yn Gristion
a'i fod yn cynnwys y themau
canlynol:
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cyflwyniad i fedydd oedolion a phlant
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cynhwysa'r CD Rom Fynegai i'r Daflen Waith, Nodiadau i'r
Athro ynghyd â Mynegai i'r Daflen "Siarad Am.."
Cynhwysa'r CD hefyd bobl ifanc yn siarad am eu profiadau fel
Cristnogion.Mae RE Quest yn gofyn i gyrff CYSAGau ystyried a ydynt
yn dymuo cymeradwyo'r CD ROM i'w ddefnyddio gan ysgolion; credir
fod hyn yn ffordd dda o ddelio gyda'r nifer o geisiadau ddaw i'r
swyddfa yn cynnig amryfal ddeunyddiau er sylw ysgolion.Rhiad
sicrhau fod unrhyw ddeunydd yn addysgu am ffydd ac nid yn ceisio ei
newid.
|
|
|
|
|
|
Nododd yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol fod y CD Rom
uchod yn dangos pobl ifanc wedi'u ffilmio mewn meysydd tua allan i
addoldai sy'n gosod Cristnogaeth a phrofiad Gristnogol mewn
cyd-destun byw.Credir ei fod yn adnodd gweledol all fod yn
ddefnyddiol iawn i ysgolion.
|
|
|
|
|
|
Cytunodd y Cadeirydd fod unrhyw adnoddau sy'n ceisio
gwneud crefydd yn fyw yn werth eu hystyried.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd cymeradwyo fod CD ROM RE Quest o dan y
testun Sut Beth yw bod yn Gristion yn cael ei ddosbarthu i ysgolion
y sir fel adnodd addysgu Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau ar lafar am arolygiadau yng nghyswllt Ysgol Gynradd
Penysarn,Ysgol y Ffridd, ac Ysgol Llanddona o dan y drefn arolygu
newydd.
|
|
|
|
Nododd Ymgynghorydd y
Dyniaethau fod un o'r dair ysgolion cynradd uchod wedi derbyn gradd
1 dda gyda rhai nodweddion eithriadol am Gwestiwn 3 (h.y. y
cwestiwn sy'n gofyn a yw'r ysgol yn diwallu anghenion a
diddordebau'r dysgwyr a'r gymuned ehangach.Dyma'r cwestiwn hefyd
sy'n sicrhau fod yr ysgol yn cyflawni'r Maes Llafur Cytûn, yn
holi am ddatblygiad ysbrydol a moesol y disgyblion ac i ba raddau
maent yn gallu trafod cysyniadau megis cyfiawnder, tegwch ac
ati).
|
|
|
|
Roedd dwy ysgol gynradd
wedyn wedi cael adroddiad ar y pwnc Addysg Grefyddol. Cafodd un
ysgol radd 1 yn CA2, cafodd un ysgol radd 2 yn CA1 ac fe gafodd un
ysgol radd 3 yn CA2 (gradd 3 yn golygu bod y nodweddion yn dda a
bod rheini'n gorbwyso'r diffygion).Roedd nodweddion mewn rhai o'r
ysgolion wedi cael eu dynodi'n rhagorol ac yn achos un ysgol fe
ddywedwyd fod gan ddisgyblion CA2 syniadau personol am
gwestiynau mawr crefydd sydd yn rhywbeth i ymfalchio
ynddo.
|
|
|
|
Mae disgyblion yn y dair
ysgol yn gwybod am straeon y Beibl; maent yn gallu deall y neges tu
ôl i'r storïau; maent yn deall arwyddocâd
llyfrau sanctaidd; maent yn gwybod beth yw arwyddocâd gweddi
ac yn gallu llunio gweddi syml eu hunain.Mae'r disgyblion yn gwneud
defnydd o arteffactau ac maent yn barod i fynegi barn.Maent wedi
astudio'r prif wyliau crefyddol ac maent yn derbyn cefnogaeth y
gymuned ehangach.
|
|
|
|
Bu i'r arolygiadau adnabod
rhai diffygion hefyd ac fe gafodd yr ysgolion arweiniad yn eu cylch
gan yr arolygwyr - roedd y gwendidau yn ymwneud â'r angen am
ragor o waith ar straeon y Beibl a chrefyddau eraill.
|
|
|
|
Diolchwyd i Ymghynghorydd
y Dyniaethau am y wybodaeth a nodwyd byddai gwybodaeth ysgrifenedig
ynghylch yr arolygiadau uchod yn cael ei chyflwyno gerbron y CYSAG
maes o law.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi'r
adborth llafar yng nghyswllt Addysg Grefyddol gan Ymgynghorydd y
Dyniaethau yn sgîl arolygiadau yn y dair ysgol a
nodir.
|
|
|
|
|
|
|
|
8.1
|
Cylchredwyd copi o Newyddlen Addysg Grefyddol tymor y
Gwanwyn i aelodau'r CYSAG.
|
|
|
8.2
|
Cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at anfoneb a dderbyniwyd oddi wrth y Ganolfan Genedlaethol
Addysg Grefyddol ym Mangor a nododd mai'r tanysgrifiad am eleni yw
£404 am y Newyddlen Addysg Grefyddol a £1,386 tuag at
gostau cynnal y Ganolfan. Cadarnhaodd
|
|
|
bod yr anfoneb wedi'i
thalu.
|
|
|
|
8.3
|
Dygodd y Swyddog Addysg Uwchradd sylw at ohebiaeth a
dderbyniwyd oddi wrth y Jerusalem Trust yn
cynnig bwrsariaeth gogyfer athrawon Addysg Grefyddol mewn
ysgolion uwchradd nad ydynt yn ysgolion eglwysig i addysgu
Cristnogaeth.Mae'r bwrsariaeth yn werth £500, ac mae'n cael
ei chynnig i'w defnyddio ar gyfer prynu adnoddau.Bwriedir
cylchredeg yr ohebiaeth i ysgolion y sir am geisiadau.
|
|
|
|
|
Nodwyd y byddid yn dymuno
derbyn adborth yn ôl am y ceisiadau a wnaed, y nifer fu'n
llwyddiannus a'r defnydd a wnaed o'r adnoddau.
|
|
|
|
Dygodd yr Is-Gadeirydd
sylw aelodau'r CYSAG at y ffaith fod Mudiad Addysg Grefyddol Cymru
wedi cytuno i roddi £3,000 i'r Ganolfan Genedlaethol Addysg
Grefyddol i gynhyrchu deunydd addoli ar y cyd yn y Gymraeg ar y
wefan am gyfnod o 3 mlynedd.
|