|
|
|
|
Parthed y mater o gylchredeg cofnodion cyfarfodydd y
Gymdeithas, bu i’r Ysgrifenyddes nodi yn ei llythyr bod y
cofnodion yn cael eu hanfon yn brydlon bob tymor i Glercod cyrff
CYSAGau gan gynnwys Ynys Môn.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) bod hynny wedi
digwydd y tro hwn a bod cofnodion cyfarfod diweddaraf Cymdeithas
CYSAGau Cymru yn gynwysedig ym mhapurau’r rhaglen oedd
gerbron.
|
|
|
|
|
2.2
|
Penderfynwyd cywirio’r cyfeiriad at
AADGOS o
dan bwynt 3.2 a phwynt 3.3 yn fersiwn Saesneg y cofnodion i
ddarllen DELLS.
|
|
|
|
|
2.3
|
Eitem 4 -
Rhaglen Waith yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol
|
|
|
|
|
|
Holwyd ynglyn â’r gweithgor o athrawon o
Fôn a Gwynedd y cyfeirir ato o dan y pennawd uchod yng
nghyswllt prosiect Addysg Grefyddol ôl-16, a gofynnwyd beth
oedd ffrwyth y gwaith.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y cyfarfu’r
gweithgor yn ystod yr Haf ac fe gynhaliwyd sesiwn gogyfer y rheini
sy’n addysgu disgyblion ôl-16 o dan arweiniad Roger
Daniel, o Creative Education.Bu i’r gweithgor dreulio amser
yn llunio deunydd ar gyfer uned o waith i gyd-fynd ag Addysg
Grefyddol ac mae’r gwaith hwn wedi cael ei wirio. Roedd 3
athro/awes o ysgolion uwchradd Môn yn rhan o’r
gweithgareddau. Llywiwyd y gwaith gan Paul Matthews Jones, yr Athro
Ymgynghorol Addysg Grefyddol ar y pryd sydd bellach wedi’i
benodi i swydd Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Mae swydd
wag yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol ar fin cael ei hysbysebu
yn y wasg.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cadeirydd fod diolch yn ddyledus i Mr Paul
Matthews Jones am ei waith a’i gyfraniad gwerthfawr i
ddatblygu Addysg Grefyddol yn ystod ei gyfnod fel Athro Ymgynghorol
a’i fod yn dymuno’n dda iddo yn ei swydd newydd.
Awgrymodd fod llythyr i’r perwyl yn cael ei anfon at Mr Jones
ar ran y CYSAG.
|
|
|
|
|
2.4
|
Eitem 6 - Cyflwyniad RE QUEST
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) ei fod wedi
cysyslltu â Mike Strange o Re Quest i ofyn iddo am gopiau
o’r CD Rom Sut Beth yw Bod
yn Gristion y rhoddwyd cyflwyniad arno
yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn ystod y Gwanwyn
i’w dosbarthu i ysgolion y sir yn unol â’r
dymuniad a fynegwyd gan y CYSAG yn ei gyfarfod diwethaf. Derbyniwyd
cyflenwad o’r disgiau erbyn hyn a byddant yn cael eu hanfon i
holl ysgolion y sir yn rhad ac am ddim.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Adroddodd cynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr yn y fan hyn am
gwrs hyfforddiant gogyfer pobl ifanc o Fôn a Gwynedd a
gynhaliwyd o dan nawddogaeth yr Undeb yn ystod yr Haf, a
chyfeiriodd gyda gresyndod at y ffaith fod nifer o’r pobl
ifanc oedd yn bresennol ynddo wedi dweud eu bod yn gwybod mwy am
grefyddau eraill y byd nac am Gristnogaeth. Roedd wedi’i
siomi gan y datganiad hwn ac roedd yn pryderu fod pwyslais yn cael
ei roddi ar gredoau eraill ar draul Cristnogaeth.
|
|
|
|
|
|
Roedd rhai o aelodau’r CYSAG yn rhannu pryderon
cynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr ar dderbyn y wybodaeth hon, a
mynegwyd consyrn fod yna efallai wendid yn y drefn os yw pobl ifanc
yn fwy ymwybodol o grefyddau eraill nag ydynt o Gristnogaeth, a bod
angen dwyn y genadwri hon at sylw’r Awdurdod Addysg.Gofynnwyd
i’r Cadeirydd wneud ymholiadau i sicrhau nad yw’r fath
sefyllfa yn bodoli ym Môn ac adrodd yn ôl i’r
CYSAG i gadarnhau hynny.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cadeirydd nad oes yn yr adroddiadau arolwg a
gyflwynir gerbron y CYSAG dystiolaeth o orbwysleisio crefyddau
eraill ar draul Cristnogaeth a bod disgyblion ysgolion y sir yn
gyfarwydd â nodweddion Cristnogaeth.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhawyd hyn gan gynrychiolwyr yr Undebau Athrawon ac
esboniasant fod Cristnogaeth yn cael ei addysgu ar draws y cyfnodau
allweddol ynghyd ag un crefydd arall.Ymgeisir i wau crefyddau
eraill i mewn yn dymhorol e.e. gellir treulio dau dymor ar
Gristnogaeth a thymor ar grefydd arall, ac mae’r Maes Llafur
Cytun yn cefnogi’r safbwynt hwn.
|
|
|
|
|
|
Dygodd Ymgynghorydd y Dyniaethau sylw’r aelodau at y
ffaith y ceir darlun da o sefyllfa Addysg Grefyddol yn ysgolion y
sir trwy gyfrwng yr adroddiadau arolwg, a rhoddant gyfle i’r
Cysag graffu yn neilltuol ar y pwnc mewn ffordd nad yw’n
digwydd gydag unrhyw bwnc cwricwlwm arall. Dywed yr arolygwyr yn
aml fod gan ddisgyblion amgyffred dda o storiau’r Beibl
a’u bod yn gwybod am y gwyliau Cristnogol ac am addoldai ac
ati. Mae’r neges a gyfleir gan gynrychiolydd Undeb y
Bedyddwyr yn siomedig ond rhaid ei gadw mewn cyd-destun gan
ystyried pa ganran oedd y bobl ifanc yma y cyfeirir atynt yn ei
gynrychioli. Fe all y Cysag ymfodloni fod yr adroddiadau arolwg yn
cynnig ciplun teg o sefyllfa Addysg Grefyddol yn ysgolion y
sir.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
2.6.1
Cyfeiriodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) at y
bwrsariaeth oedd yn cael ei gynnig gan
y Jerusalem Trust i athrawon Addysg
Grefyddol mewn ysgolion uwchradd nad ydynt
yn ysgolion
eglwysig i brynu adnoddau i addysgu
Cristnogaeth, a rhoddod wybod i’r
Cysag bod Ysgol Uwchradd
Caergybi wedi gwneud cais am gyllid yn y cyswllt hwn.
Dywedodd Mrs Heledd Hearn ei bod hithau hefyd wedi gwneud
cais ar ran Ysgol
Uwchradd
Bodedern ac fel rhan o’r cais bu raid
rhestru’r arteffactau a’r llyfrau a’r
adnoddau a ddefnyddir gan yr ysgol.
|
|
|
|
2.6.2
Penderfynwyd cywiro’r cyfeirad
at Wales Movement for
Religious Education yn
fersiwn Saesneg y cofnodion i ddarllen,
Religious Education
Movement,
Wales.
|
|
|
|
3
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Drafft o Adroddiad Blynyddol Cysag Ynys
Môn am 2005/06.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn ofynnol ar
gyrff CYSAGau i lunio adroddiad blynyddol ar eu gweithgareddau
a’i gyflwyno i AADGOS (gynt ACCAC) erbyn diwedd y flwyddyn
galendr. Mae’r adroddiad a gyflwynir gerbron yn adlewyrchu
ychydig o newidiadau yn y fformat adrodd yn unol ag
awgrymiadau’r Cynulliad, ac mae’n cyfeirio at
swyddogaeth ymgynghorol y Cyngor drwy nodi dyddiad
mabwysiadu’r Mes Llafur Cytun, safonau Addysg Grefyddol yn
ysgolion y sir, y drefn hunan arfarnu, canlyniadau yn y maes mewn
arholiadau allanol ynghyd â’r cyrsiau HMS a gynhaliwyd
yn ystod y flwyddyn.Mae trydydd rhan yr adroddiad yn ymwneud
â materion gweinyddol a chyfansoddiadol y CYSAG.
|
|
|
|
|
|
Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi wedyn i esbonio
cynnwys yr adroddiad yn fanwl, a bu i’r aelodau wrth ei
drafod, gynnig y diwygiadau canlynol arno :
|
|
|
|
|
Ÿ
|
dileu’r cyfeiriad at Gyngor Gwynedd yn nhudalen 14
yr adroddiad;
|
|
|
Ÿ
|
dileu’r cyferiad at y Pwyllgor Addysg yn nhudalen 14
yr adroddiad;
|
|
|
Ÿ
|
dileu’r cyfeiriad at y Cynghorwyr Bryan Owen a John
Williams o dan rhestr cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg ar dudalen
15;
|
|
|
Ÿ
|
dileu’r cyfeiriad at y Parchedig Gwynfor Williams o
dan restr cynrychiolwyr yr Enwadau Crefyddol ar dudalen 15 a rhoddi
yn ei le enw’r Diacon Stephen Francis Roe;
|
|
|
Ÿ
|
diwygio’r cyfeiriad at June yn y fersiwn
Gymraeg ar dudalen 16 i ddarllen Mehefin;
|
|
|
Ÿ
|
diwygio’r cyfeirad at Wynedd o dan baragraff (a) ar
dudalen 16 i ddarllen Môn.
|
|
|
|
|
|
Awgrymodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) bod unrhyw
ddiywgiadau pellach yn cael eu cyflwyno iddo ef erbyn diwedd mis
Hydref.
|
|
|
|
|
|
Diolchwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei gwaith ar yr
Adroddiad Blynyddol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol
drafft am 2005/06 fel a gyflwynwyd yn amodol ar gynnwys y
diwygiadau a nodwyd gan nodi y dylai unrhyw awgrymiadau pellach
gael eu cyflwyno i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) erbyn diwedd
mis Hydref.
|
|
|
4
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU’R HAF, 2006
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn
â safonau cyrhaeddiad yn yr arholiadau allanol yn
2006.
|
|
|
|
|
|
Bu i Ymgynghorydd y Dyniaethau adrodd fel a ganlyn
-
|
|
|
|
|
4.1
|
Yng nghyswllt canlyniadau TGAU - Astudiaethau Crefyddol ac
Astudiaethau Crefyddol (Cwrs Byr) gellir nodi’r pwyntiau
canlynol -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd canlyniadau da gyda chyfanswm o 119 o ymgeiswyr, yn
85 o ferched a 34 o fechgyn sydd yn nifer llai na’r 144 y
flwyddyn flaenorol;
|
|
|
Ÿ
|
niferoedd yn amrywio o 0 mewn un ysgol i 48 mewn ysgol
arall;
|
|
|
Ÿ
|
roedd canlyniadau’r merched yn rhagori ar
rai’r bechgyn (bechgyn = 4.8, merched = 5.8);
|
|
|
Ÿ
|
roedd cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 5.5 tra bod
sgôr y pynciau eraill yn 5.0;
|
|
|
Ÿ
|
mae sgôr cyfartalog y merched (5.8) yn uwch
na’u sgôr yn y pynciau eraill (5.0), a sgôr
cyfartalog y bechgyn (4.8) yn cyfateb i’r sgôr
cyfartalog yn y pynciau eraill (4.8);
|
|
|
Ÿ
|
bu cynnydd sylweddol yn y nifer sydd yn dewis dilyn cwrs
byr (165) ac yn cael canlyniadau da.
|
|
|
|
|
4.2
|
Yng nghyswllt canlyniadau Safon Uwch Astudiaethau
Crefyddol, roedd y ffeithiau fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cafwyd canlyniadau da gyda 34 o ymgeiswyr yn sefyll yr
arholiad mewn 4 ysgol o’i gymharu â 30 ymgeisydd yn
2005;
|
|
|
Ÿ
|
6 o fechgyn a 28 o ferched;
|
|
|
Ÿ
|
roedd sgôr gyfartalog y pwnc yn 82.4 yn erbyn 82.3
yn y pynciau eraill;
|
|
|
Ÿ
|
roedd sgôr gyfartolog y merched (84.3) ychydig yn
uwch na sgôr gyfartalog y bechgyn (73.3)
|
|
|
|
|
4.3
|
Yng nghyswllt canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol (AS),
gellir gwneud y sylwadau canlynol -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bu’r canlyniadau eto yn rhai da gyda 68 o ymgeiswyr
yn sefyll yr arholiad mewn 4 ysgol o’i gymharu â 49
ymgeisydd yn 2005, a rheini yn ymrannu’n 15 o fechgyn a 53 o
ferched;
|
|
|
Ÿ
|
roedd sgôr gyfartalog y pwnc yn 42.8 yn erbyn 19.6
yn y pynciau eraill;
|
|
|
Ÿ
|
roedd sgôr gyfartalog y merched (42.8) a sgôr
gyfartalog y bechgyn (42.7) yn gyson â’i
gilydd.
|
|
|
|
|
Dygodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau sylw at y cynnydd ym mhoblogrwydd y cwrs byr a nododd ei
fod yn apelio yn arbennig am ei fod yn cyfeirio at faterion cyfoes
sy’n destun trafodaeth megis erthylu ac ewthanasia a’u
tebyg.Yn genedlaethol, mae myfyrwyr wedi ymddiddori’n
gynyddol ynddo.
|
|
Byddai’n ddiddorol
cael cyfle yn y dyfodol i edrych ar y math o werslyfrau sydd ar
gael i bobl ifanc yn eu harddegau.
|
|
|
|
Gwnaeth yr aelodau’r
sylw bod y canlyniadau yn adlewyrchiad o ymroddiad athrawon i ddenu
pobl ifanc i ddilyn y pwnc a’i fod yn galonogol iawn ei fod
yn parhau yn boblogaidd.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
yr adroddiad ynglyn â safonau cyrhaeddiad yn yr arholiadau
allanol yn ystod yr Haf, 2006, gan nodi’r cynnwys a chan
ddiolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau am y
wybodaeth.
|
|
|
|
5
|
GWASANAETH YMGYNGHOROL CYNNAL
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau ar ddau fater o dan y pennawd uchod sef yng nghyswllt y
prosiect ôl-16 y crybwyllwyd ef yn gynharach, i roddi gwybod
i aelodau bod deunyddiau ar gyfer y
|
|
cwrs statudol Addysg
Grefyddol wedi cael eu cynhyrchu gyda’r nod penodol o
ysbarduno trafodaeth ymysg disgyblion a rhoi ffocws ar faterion
cyfoes. Yn ail, dymunai gydnabod cyfraniad Mr Paul Matthews Jones,
y cyn Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol i weithgaredd ysgolion yn
y maes ac i’w datblygiad, a hefyd i ddiolch iddo am y
gefnogaeth a roddasai iddi hi yn ei swydd fel Ymgynghorydd trwy
gydol y cyfnod.
|
|
|
|
Holwyd ynglyn â
swyddogaeth Cynnal mewn perthynas ag Addysg Grefyddol ac yng
nghyd-destun cael gwerth am arian.Gofynnwyd am y trefniadau oedd yn
bodoli cyn sefydlu’r cwmni.
|
|
|
|
Eglurodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau bod ei swydd hi gyda Cynnal yn cwmpasu Daearyddiaeth,
Hanes ac Addysg Grefyddol a’i bod yn derbyn cefnogaeth yn y
maes Addysg Grefyddol gan Athro/awes Ymgynghorol ar secondiad.
Cynhwysa gyfrifoldebau Cynnal drefnu cyrsiau hyfforddiant i
athrawon naill ai trwy eu rhedeg yn fewnol neu trwy brynu
darpariaeth i mewn, ymweld ag ysgolion i’w cynorthwyo gyda
gwaith cynllunio a mapio pynciau, arsylwi ar wersi mewn ysgolion
ynghyd â’u cefnogi gydag hunan arfarnu. Yn ei swydd fel
Ymgynghorydd y Dyniaethau mynychai gyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau
Cymru ynghyd â chyfarfodydd gydag ymgynghorwyr Addysg
Grefyddol eraill i bwrpas ymgymryd â gwaith
datblygol.
|
|
|
|
Nododd y Swyddog Addysg
(Uwchradd) nad oes gan nifer o siroedd ddarpariaeth gefnogol
fel un Cynnal; cyn sefydlu Cynnal roedd yna ymgynghorwyr yn y ddwy
sir o dan Gyngor Gwynedd ac fe ddaeth Cynnal i fodolaeth i warchod
y gwasanaeth ymgynghorol sydd yn arbennig o werthfawr yn enwedig
mewn awdurdod addysg gymharol fychan ei faint fel
Môn.
|
|
|
|
Diolchwyd i Ymgynghorydd y
Dyniaethau am amlinellu swyddogaethau Cynnal ac roedd yna gydnabod
gwerth cyffredinol y gefnogaeth a’r gwasanaeth a ddarperir
gan Cynnal yn arbennig yng nghyd-destun ysgolion llai.
|
|
|
|
6
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Cofndion
cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng
Nghaernarfon ar 23 Mehefin, 2006 ynghyd â’r Cyfarfod
Blynyddol a gynhaliwyd yn Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd
Llandudno ar 22 Mehefin, 2006.
|
|
|
|
Bu i’r Cadeirydd
gyfeirio at y croeso gwresog a gafwyd gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd
ar achlysur cynnal cyfarfod y Gymdeithas yng Nghaernarfon ac at ei
gyflwyniad brwdfrydig ynglyn ag Addysg Grefyddol, ei
berthnasedd a’i le yn y byd cyfoes. Er gwybodaeth i aelodau,
nododd bod Is-Gadeirydd y CYSAG, sef Mr Rheinallt Thomas
wedi’i ethol i wasanaethu ar Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas am
dair blynedd o 2006 i 2009.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng
Nghaernarfon ar 23 Mehefin, a chofnodion y Cyfarfod Blynyddol
a gynhaliwyd yng Nghyffordd Llandudno ar 22
Mehefin.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth o
dan Adran 10, Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am y rhannau perthnasol
hynny o adroddiadau arolwg yng nghyswllt Ysgol Gynradd Llanddona,
Ysgol Gymuned y Ffridd, Gwalchmai, Ysgol Gynradd Penysarn, Amlwch,
Ysgol Gynradd Brynsiencyn, Llanfairpwll, Ysgol Gymuned Pentraeth,
Ysgol Gymuned y Fali, Caergybi ac Ysgol Uwchradd
Caergybi.
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau bod datblygiad moesol, diwylliannol ac ysbrydol
disgyblion o dan y drefn arolygu newydd yn cael ei drafod o dan
Gwestiwn Allweddol 3, sef cwestiwn sydd yn ymwneud â
phrofiadau dysgu a pha mor dda mae’r rhain yn cwrdd ag
anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Dengys
y detholiad o adroddiadau mewn perthynas â’r ysgolion a
nodir uchod fod 2 ysgol wedi derbyn Gradd 1 o dan y maen prawf hwn,
sy’n dynodi bod y ddarpariaeth yn dda gyda nodweddion
rhagorol, bod 3 ysgol wedi derbyn gradd 2 sy’n dynodi bod yna
nodweddion da a dim diffygion pwysig a bod 1 ysgol wedi derbyn
Gradd 3 sy’n dynodi bod y nodweddion da yn gorbwyso
diffygion. Mae’r arolygwyr wedi sylwi ar ymarferion da mewn
sawl ysgol o ran bod y disgyblion yn cael profiadau eang sydd yn
hyrwyddo eu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a
diwylliannol, a bod yna gynnal cyfnodau myfyrio ac amser cylch. Yng
nghyswllt Addysg Grefyddol y pwnc, cafodd 4 ysgol Radd 2 yn CA1,
cafodd 1 ysgol Radd 1 yn CA2, cafodd 2 ysgol Radd 2 yn CA2,
ac fe gafodd 1 ysgol Radd 3 yn CA2. Yn y gorffennol bu yna sylwadau
i’r perwyl nad yw disgyblion yn gallu ymdrin â
chrefyddau eraill nac â chwestiynau mawr - awgryma’r
adroddiadau arolwg diweddaraf bod y sefyllfa hon wedi gwella a bod
gan ddisgyblion ymwybyddiaeth dda am straeon Beiblaidd ac am wyliau
Cristnogol ac addoldai lleol. Mae ganddynt hefyd ymwybyddiaeth dda
o grefyddau eraill ac maent hefyd yn ymwybodol o werth addoli i
grediniwr ac maent yn gallu llunio gweddi eu hunain. Mae’r
gwendidau a nodir yn ymwneud gan bennaf â gallu disgyblion i
ysgrifennu’n estynedig ond nid ydynt yn adlewyrchu patrwm o
wendidau.
|
|
|
|
Aeth Ymgynghorydd y
Dyniaethau rhagddi wedyn i gyfeirio at yr adroddiad arolwg yng
nghyswllt Ysgol Uwchradd Caergybi. Mewn perthynas â Chwestiwn
3 - pa mor dda mae’r profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a
diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, bu i’r
Arolygwr ddyfarnu Gradd 3 i’r ysgol, sy’n dynodi bod y
nodweddion da yn gorbwyso diffygion. O ran y ddarpariaeth Addysg
Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3 ac yng Nghyfnod Allweddol 4,
dyfarnwyd Gradd 4 i’r ysgol sy’n dynodi bod yna rai
nodweddion da, ond bod yna ddiffygion mewn meysydd pwysig.
Ymhelaethir ar y ddiffygion hyn yn yr adroddiad.
|
|
|
|
Adroddodd yr Ymgynghorydd
ymhellach bod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi profi problemau yn
sgîl absenoldeb Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol yn y
cyfnod paratoi ar gyfer yr arolwg, ac er fod yr asesiad o’r
ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn siomedig, mae’n adlewyrchu
ymdrech lew ar ran yr athrawes oedd yn llenwi bwlch a’r staff
a ymgymrodd â’r gwaith paratoi. Bu Ymgynghorydd y
Dyniaethau a’r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn ymweld
â’r ysgol cyn yr arolwg i gynnig cefnogaeth
gyda’r gwaith. Bellach, penodwyd athro sydd newydd gymhwyso
yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol yr ysgol a hyderir y gellir
cynnig pob cefnogaeth iddo yn ei yrfa newydd. Disgwylir i’r
ysgol yn awr baratoi cynllun ôl-arolwg sydd yn ymateb
i’r diffygion a nodwyd gan yr arolygwyr.
|
|
|
|
Bu i’r Swyddog
Addysg (Uwchradd) osod yr adroddiad uchod yn y cyd-destun ehangach,
a nododd er bod yna agweddau positif yn cael eu hamlygu yn yr
adroddiad yn ei gyfanrwydd, mae’r gwendidau a adnabyddwyd yn
peri pryder. Mae niferoedd yn yr ysgol yn disgyn ac mae’r
ysgol yn colli disgyblion i wahanol gyfeiriadau; mae 22.7% o blant
yr ysgol â hawl i ginio am ddim ac mae 29% o’r plant
gydag anghenion addysgol arbennig sy’n tystio i gefndir o
amddifadedd cymdeithasol. Arolygwyd 6 pwnc y tro hwn ac
Addysg Grefyddol a Mathemateg oedd yr unig bynciau i dderbyn Gradd
4 sydd islaw’r trothwy ansawdd ac sy’n dynodi fod yna
wendidau o bwys yn y maes. Rhannwyd pryderon yr Awdurdod Addysg
ynghylch yr adroddiad gyda’r Pennaeth ac fe fydd yr ysgol yn
awr yn addasu ei chynllun datblygu i ymateb i’r pwyntiau a
godwyd gan yr arolygydd. Bydd Uwch Ymgyhgorydd Cynnal yn cynorthwyo
gyda’r dasg hon. At hynny, mae’r ysgol wedi derbyn
£69,000 o dan Rhaglen Rhagori Llywodraeth y Cynulliad yn
seiliedig ar nifer y disgyblion sydd yn derbyn cinio am ddim er
mwyn codi safonau mewn meysydd penodol megis llythrennedd a
phresenoldeb.
|
|
|
|
Mae’n bwysig i
Bennaeth newydd yr Adran Addysg Grefyddol dderbyn cynhaliaeth yn ei
ddyddiau cynnar ac yn dilyn trafodaeth, cytunwyd gofyn i Gavin
Craigen, Cadeirydd newydd Cymdeithas CYSAGau Cymru roddi o’i
brofiad i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn. Mae’n bwysig
hefyd bod yr ysgol yn gweithredu ar yr adroddiad arolwg a bydd yr
Awdurdod Addysg yn monitro’r cynnydd yn ofalus ac yn
rheolaidd.
|
|
|
|
Diolchodd yr aelodau
i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) am gyflwyno’r wybodaeth
gefndirol uchod a oedd yn eu cynorthwyo i ddeall yn well, sefyllfa
gyffredinol yr ysgol. Er fod canfyddiadau’r adroddiad arolwg
yng nghyswllt Addysg Grefyddol yn siomedigaeth iddynt, bu iddynt
bwysleisio ei bod yn bwysig rhoddi pob cefnogaeth i’r
Pennaeth Adran newydd a’r ysgol yn eu hymdrechion i
wirio’r sefyllfa. Mynegwyd gobaith o benodi Pennaeth Adran
newydd ac o weithredu mewn ymateb i ganfyddiadau’r arolwg,
byddai yna droi dalen newydd yn hanes yr ysgol yn y maes
hwn.
|
|
|
|
Awgrymodd y Swyddog Addysg
(Uwchradd) ei fod yn adrodd yn rheolaidd i gyfarfodydd y CYSAG am
gynnydd Ysgol Uwchradd Caergybi o safbwynt Addysg Grefyddol ac fe
gytunodd yr aelodau gyda’r awgrym hwn.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
7.1
Nodi cynnwys yr adroddiadau arolwg ynglyn
ag Addysg Grefyddol yng nghyswllt y 6 ysgol gynradd a nodwyd gan
ofyn i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) i ysgrifennu atynt i
longyfarch y staff a’r disgyblion ar eu
cyflawniadau.
|
|
7.2
Derbyn y wybodaeth o’r adroddiad
arolwg mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Caergybi gyda siom gan ofyn
i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) adrodd yn ôl i’r
CYSAG yn rheolaidd ar gynnydd yr ysgol yng nghyswllt Addysg
Grefyddol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
8
|
MATERION TRAFOD/SIARADWYR GWADD 2006/07
|
|
|
|
|
Rhoddwyd ystyriaeth i
faterion trafod posibl ar gyfer y flwyddyn i ddod ynghyd â
siaradwyr y gellid eu gwahodd i annerch y Cyngor.
|
|
|
|
Awgrymodd y Swyddog Addysg
(Uwchradd) ddau bwnc trafod sef Maes Llafur Addysg Grefyddol yr
Eglwys ac Addysg Grefyddol yn y blynyddoedd cynnar. Cydsyniwyd
â’r awgrymiadau yma a chytunwyd i ystyried Maes Llafur
AG yr Eglwys fel pwnc trafod yn gyntaf.
|
|
|
|
Rhoddodd cynrychiolydd yr
Eglwys wybod i’r CYSAG mai o dan Adran 50, Deddf Addysg 2005
y byddai ysgolion yr Eglwys yn cael eu harolygu o hyn
allan.
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi
Maes Llafur AG yr Eglwys ac Addysg Grefyddol yn y Blynyddoedd
Cynnar fel pynciau trafod ar gyfer y flwyddyn i
ddod.
|
|
|
|
|
|
|
|
9.1
Cyfeiriwyd at lythyr oddiwrth Ifan Roberts,
Ysgrifennydd y Presbyteriaid ynglyn ag addoli ar y cyd;
|
|
9.2
nodwyd y derbyniwyd cyflenwad o ddeunyddiau ac
adnoddau Moslemaidd gan Gyngor Moslemiaid Prydain.Trosglwyddwyd yr
adnoddau i’r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mangor
i’w dosbarthu i ysgolion yn ôl yr angen;
|