|
|
|
|
|
|
|
|
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, yn amodol ar y
materion a nodir isod, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a
gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2007.(Cofnodion y Cyngor 13.12.2007, tud 81 -
87)
|
|
|
|
|
|
|
|
|
3.1
|
Penderfynwyd diwygio’r cyfeiriad at y Parch. Stephen
Francis Roe yn y Rhestr Ymddiheuriadau i ddarllen y Diacon Stephen
Francis Roe.
|
|
|
|
|
3.2
|
Eitem 4 - Arolygiadau Ysgol
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Penderfynwyd nodi mai o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 y
cynhelir arolygiadau ysgol gan Estyn yn awr ac o dan Adran 50 y
Ddeddf y cynhelir arolygiadau gan yr Eglwys.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi
llythyru penaethiaid Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd
Llaingoch yn unol â dymuniad y CYSAG i’w llongyfarch ar
eu cyflawniad fel yr adlewyrchwyd mewn adroddiadau arolygiad. Roedd
yr ohebiaeth wedi’i hatodi ar derfyn rhaglen y CYSAG er
gwybodaeth yr aelodau.
|
|
|
|
|
3.3
|
Eitem 6 - Cymdeithas CYSAGau Cymru
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at y
penderfyniad o dan yr eitem hon i lythyru Llywodraeth Cynulliad
Cymru ar fater darparu adnoddau ychwanegol i alluogi
cyflwyno’r Prosiect Croeso trwy gyfrwng y Gymraeg, ac
adroddodd ei fod wedi gweithredu yn hyn o beth ac roedd ymateb y
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
wedi’i atodi fel rhan o’r pecyn gohebiaeth.
|
|
|
|
|
3.4
|
Eitem 8 - Trefn Gyfarfodydd CYSAG Ynys Môn
2007/08
|
|
|
|
|
|
Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) yr aelodau bod y
CYSAG bellach wedi ffurfioli cynnwys ei gyfarfodydd am y flwyddyn
mewn rhaglen waith, a bod y rhaglen waith honno wedi’i
diwygio i ymgorffori sylw’r Is-Gadeirydd mai yng nghyfarfod y
Gwanwyn yr ystyrir enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas
CYSAGau Cymru.
|
|
|
|
|
3.5
|
Eitem 9 - Dyddiadau Cyfarfodydd CYSAG Ynys
Môn
|
|
|
|
|
|
Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth yr aelodau mai ar 6 Hydref
y cynhelir cyfarfod y CYSAG am dymor yr Hydref a hynny er mwyn
osgoi gwrthdaro gyda Llun y Diolchgarwch.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 am
gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn
perthynas ag Ysgol Gynradd Ffrwd Win, Llanfaethlu, Ysgol Gynradd
Caergeiliog, ac Ysgol Santes Fair, Caergybi.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ynghylch
casgliadau’r arolygiadau uchod fel a ganlyn:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgol Gynradd Ffrwd Win, Llanfaethlu
|
|
|
|
|
|
Arolygiad safonol gafodd Ysgol Ffrwd Win, sy’n
golygu adroddiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r saith
cwestiwn allweddol ynghyd ag adroddiad ar chwe phwnc hefyd.
Dyfarnwyd Gradd 2 i’r ysgol yn achos 6 allan o 7 o’r
cwestiynau sy’n golygu y canfuwyd nodweddion da yn achos pob
un o’r chwe chwestiwn yma a dim diffygion pwysig, ac fe
ddyfarnwyd Gradd 3 i’r ysgol yn achos Cwestiwn Allweddol 6
- Pa mor dda y mae arweinwyr a
rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau,
sy’n golygu bod y nodweddion da yn
gorbwyso’r diffygion. Nid oedd Addysg Grefyddol ymhlith y
pynciau unigol a arolygwyd y tro hwn, ond fe gynhwysir yn yr
adroddiad, ddyfyniad o’r casgliadau mewn perthynas â
Chwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd
ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach.
Canfu’r Arolygydd bod yr ysgol yn “hybu datblygiad
ysbrydol, cymdeithasol, moesol a diwylliannol y disgyblion yn
dda,” bod yna gynnal sesiynau addoli ar y cyd yn ddyddiol yn
yr ysgol a bod y disgyblion yn cael cyfleoedd cyson i fyfyrio ar
foeswersi. Nodir hefyd bod yna “sylw dyledus” yn
cael ei roi i ddatblygu ymwybyddiaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth
byd eang trwy gyfrwng gwersi daearyddiaeth, celf, ac addysg
grefyddol a thrwy weithgareddau elusennol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgol Sefydledig Caergeiliog
|
|
|
|
|
|
Dywed yr Arolygydd bod Ysgol Caergeiliog yn ysgol dda sydd
wedi cynnal safonau uwch na’r cyfartaledd am sawl blwyddyn
a’i bod wedi parhau i ffynnu a datblygu ers yr arolygiad
diwethaf.
|
|
|
|
|
|
Mae proffil graddau Ysgol Caergeiliog yng nghyswllt y
saith cwestiwn allweddol yn unffurf Gradd 2 ar draws ystod y
meysydd mae’r cwestiynau allweddol yn ymwneud â hwy. Yn
yr achos hwn fe arolygwyd Addysg Grefyddol fel pwnc, ac unwaith eto
fe ddyfarnwyd Gradd 2 i Addysg Grefyddol yn CA1 ac yn CA2. Yn y
dyfyniad o’r adroddiad arolygiad fe restrir y nodweddion da,
ac ystyrir bod rhai o ganfyddiadau’r Arolygydd yn hyn o
beth yn teilyngu sylw megis y canlynol -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Mae’r Arolygydd o’r farn bod gan ddisgyblion
CA1 ddealltwriaeth dda am ddathliadau yn y calendr Cristnogol
a’u bod hefyd yn deall arwyddocâd yr Eglwys yn y
gymuned;
|
|
|
Ÿ
|
bod disgyblion CA2 sy’n cymryd rhan mewn perfformio
bedydd mewn eglwys leol yn datblygu dealltwriaeth dda o ddefod mewn
digwyddiad eglwysig o’r fath. Mae gan y disgyblion hefyd
wybodaeth fanwl ac ar gof o straeon o’r Hen Destament ac
maent yn gallu eu hailadrodd yn dda;
|
|
|
Ÿ
|
sylwa’r Arolygydd ar y ddealltwriaeth dda sydd gan
ddisgyblion CA1 o egwyddorion moesol a’u gallu i’w
trafod yn synhwyrol. Cyfeiria hefyd at eu hymwybyddiaeth o
ddathliadau mewn crefyddau eraill a’r ffaith eu bod yn siarad
am y dathliadau yma “gyda diddordeb;”
|
|
|
Ÿ
|
nodir bod disgyblion CA2 wedi bod yn ymweld ag eglwys
gadeiriol leol a’u bod yn siarad am yr ymweliad ac yn deall
arwyddocâd nodweddion arbennig megis y pulpud;
|
|
|
Ÿ
|
cyfeirir at y ffaith bod gan ddisgyblion iau CA2 wybodaeth
am y gwahanol enwadau Cristnogol o fewn eu cymdogaeth a bod eu
hysgrifennu yn adlewyrchu dealltwriaeth o’r gwahaniaethau
a’r nodweddion tebyg rhwng eglwys a chapel;
|
|
|
|
|
|
Ystyrir bod y sylwadau uchod o eiddo’r Arolygydd yn
tystio i nifer o nodweddion cadarnhaol o fewn profiadau disgyblion
Ysgol Caergeiliog.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae’r crynodeb o ganfyddiadau’r
Arolygydd o Ysgol Santes Fair yn ganmoladwy iawn. Mae’n
disgrifio’r ysgol fel un dda sydd yn darparu addysg o ansawdd
uchel i’w disgyblion. Sylwa’r Arolygydd hefyd bod
ymddygiad y disgyblion yn rhagorol a bod yr ysgol yn gymuned hapus
ac yn un lle mae’r disgyblion yn mwynhau eu profiadau dysgu.
Ym marn yr Arolygydd, mae’r ysgol yn cael ei harwain yn dda
ac mae’r rheolwyr wedi creu ethos ardderchog sy’n
adlewyrchu arwyddair yr ysgol - Disgleiriwch yng Ngolau Crist.
|
|
|
|
|
|
Mae proffil graddau Ysgol Santes Fair o ran y saith
Cwestiwn Allweddol eto’n gyson Gradd 2. Ni chafodd Addysg
Grefyddol ei arolygu fel pwnc ond fe gynhwysa’r wybodaeth a
gyflwynir gasgliadau’r Arolygydd mewn perthynas â
pha mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau
dysgwyr a’r gymuned ehangach. Yn y cyd-destun hwn daw’r
Arolygydd i’r casgliad bod yr ysgol yn hyrwyddo datblygiad
ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda a
bod y ddarpariaeth ar gyfer datblygiad ysbrydol yn dda. Sylwir bod
cyd-addoli yn gwneud cyfraniad gwerthfawr a bod yna ethos Catholig
clir gyda chyfleoedd da i’r disgyblion fyfyrio’n dawel.
Ym marn yr Arolygydd, mae’r disgyblion yn arddangos parch
tuag at staff ac mae ganddynt agweddau aeddfed, gofalgar a
goddefgar tuag at ei gilydd.
|
|
|
|
|
|
Croesawodd yr aelodau’r wybodaeth uchod yn
deillio o’r arolygiadau fel tystiolaeth o waith caled, o
brofiadau cadarnhaol ac o gyrhaeddiadau canmoladwy ar draws y tair
ysgol ac roeddent yn awyddus i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)
gyfleu yn ôl yr arfer, werthfawrogiad a diolchiadau dilysaf y
CYSAG i staff a disgyblion y tair ysgol am eu hymroddiad a’u
llwyddiant.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth o’r
adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Ffrwd Win, Ysgol
Sefydledig Caergeiliog ac Ysgol Santes Fair, Caergybi gan ofyn
i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) lythyru’r tair ysgol i
gyfleu iddynt werthfawrogiad a diolchiadau’r CYSAG ar eu
cyflawniadau.
|
|
|
|
|
5
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Copi terfynol o Adroddiad Blynyddol CYSAG
Ynys Môn am 2006/07.
|
|
|
|
|
|
Sylwodd y Cadeirydd y cyflwynwyd fersiwn drafft yr
adroddiad blynyddol gerbron y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol pryd y
cafodd y Cyngor gyfle i gynnig ei farn ar y cynnwys, a nododd bod y
fersiwn derfynol yn ddogfen i fod yn falch ohoni fel tysteb o waith
y Cyngor Ymgynghorol dros y flwyddyn a fu. Roedd y diolchiadau
arferol yn ddyledus i Miss Bethan James, Ymgynghorydd y Dyniaethau
am ei mewnbwn gwerthfawr i’r Adroddiad Blynyddol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn y fersiwn derfynol o Adroddiad
Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2006/07.
|
|
|
|
|
6
|
FFRAMWAITH ENGHREIFFTIOL CENEDLAETHOL AR GYFER ADDYSG
GREFYDDOL/MAES LLAFUR CYTÛN
|
|
|
|
|
|
Cytunwyd i gyplysu’r drafodaeth ar eitemau 6 a 7 ar
y rhaglen.
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Copi o’r Fframwaith Enghreifftiol
Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i ddysgwyr 3 i 19
oed yng Nghymru ynghyd ag adroddiad yn amlinellu amserlen
arfaethedig ar gyfer cyflwyno a mabwysiadu Maes Llafur Cytûn
newydd i Wynedd a Môn.
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad gweledol
ynglyn â’r sefyllfa ddiweddaraf parthed y Maes Llafur
Cytûn ynghyd ag amlinelliad o gynnwys y Fframwaith gan ei
chymharu a’i chyferbynnu â’r Maes Llafur
Cytûn presennol. Cyfeiriodd at rai o’r prif
ystyriaethau fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Maes Llafur Cytûn Lleol 2000/05
|
|
|
|
|
|
Atgoffwyd y CYSAG ei fod yn gorff dylanwadol iawn ym maes
Addysg Grefyddol ac nad oes gan y pynciau eraill y fath
gynrychiolaeth yn lleol. Cyfeiriodd at y Maes Llafur Cytûn
presennol a sylwodd ei fod wedi gwasanaethu athrawon cynradd
ac uwchradd Môn a Gwynedd yn dda ers rhai blynyddoedd.
Bellach, mae fframwaith newydd ar y gweill ond serch hynny
credir bod y paratoad mae’r Maes Llafur Cytûn cyfredol
wedi ei roi wedi bod yn gaffaeliad gwerthfawr. Fodd bynnag, mae
tymor y Maes Llafur Cytûn cyfredol yn dirwyn i ben ac mae
gofyn yn awr i’r CYSAG adolygu’r Maes Llafur
Cytûn hwnnw. Nid oes i’r Fframwaith Enghreifftiol
statws statudol; yn hytrach mae’n cynnig canllawiau
anstatudol i gynorthwyo awdurdodau addysg lleol wrth adolygu
eu meysydd llafur cytun lleol. Tasg y CYSAG fydd rhoi grym
i’r Fframwaith trwy ei fabwysiadu’n llawn neu ei addasu
wrth adolygu’r Maes Llafur Cytûn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yn y cyfnod o 2000 i 2005 bu i ACCAC a Chymdeithas CYSAGau
Cymru drafod y cysyniad o Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg
Grefyddol mewn cynhadledd yn Llanidloes. Aeth ACCAC gam
ymhellach trwy ganiatau i’r Swyddog Pwnc lunio deunyddiau
asesu enghreifftiol. Roedd hyn yn orchwyl anodd ym maes Addysg
Grefyddol o gofio bod nifer o awdurdodau addysg lleol Cymru
gyda’u meysydd unigryw eu hunain a olyga nad oedd yna
gysondeb o ran lefelau cyrhaeddiad yn genedlaethol.
|
|
|
|
|
|
Yn y cyfnod 2005 i 2007, cafwyd cyfnod o ymgynghori wrth
adolygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bu i gyrff CYSAGau Gwynedd
a Môn ohirio cyflwyno Maes Llafur Cytun newydd gan ddisgwyl i
weld beth oedd ar y gweill yn genedlaethol. Trefnwyd cynhadledd yn
Llandrindod gan AADGOS a Chymdeithas CYSAGau Cymru a chafwyd cyfnod
o ymgynghori gyda chyrff CYSAGau unigol, athrawon ac ymgynghorwyr i
gywain barn am fersiwn drafft y Fframwaith.
|
|
|
|
|
|
Yn 2007 cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd rhwng cynrychiolwyr
Gwynedd a Môn a chydsyniodd y ddau gorff CYSAG mewn egwyddor
i fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol. Rhoddwyd cyfle i
athrawon cynradd ac uwchradd drafod y ddogfen ymgynghorol hon mewn
cyrsiau HMS. Bydd gofyn i CYSAGau Gwynedd a Môn wneud
penderfyniad statudol i fabwysiadu’r Fframwaith Enghreifftiol
mewn Cynhadledd sydd wedi’i chynnull i’r
pwrpas.
|
|
|
|
|
|
Fel rhagbaratoad i’r digwyddiad hwnnw, sefydlwyd
gweithgor traws-awdurdod gyda swyddogion ac athrawon cynradd ac
uwchradd o Fôn a Gwynedd i drafod y Fframwaith Enghreifftiol
ac ystyriaethau perthynol, ac mae’r gweithgor wedi cyfarfod
ar ddau achlysur.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ionawr 2008 - Addysg Grefyddol
|
|
|
|
|
|
Ymhlith yr ystyriaethau cyntaf oedd dangos y berthynas
rhwng y Fframwaith Enghreifftiol a’r Maes Llafur Cytun Lleol
cyfredol. Yn greiddiol i Cwricwlwm 2008 yw’r cysyniad bod
sgiliau yn bwysicach nag ystod.
|
|
|
|
|
|
Mae’r ystod yn seiliedig ar 3 cyd-destun
-
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yn hytrach na bod y disgybl yn derbyn corff o wybodaeth
gan yr athro/athrawes mae’r pwyslais ar i ddisgyblion ddod at
eu casgliadau eu hunain trwy ymdrin â’r meysydd astudio
uchod ac is-themâu perthnasol.
|
|
|
|
|
|
Mae’r sgiliau yn gofyn i ddisgyblion i -
|
|
|
|
|
|
Ystyried y cwestiynau sylfaenol
|
|
|
|
Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac ymarferion
crefyddol
|
|
|
|
|
|
|
Aeth Ymgynghorydd y
Dyniaethau rhagddi wedyn i ddangos trwy gyfres o sleidiau lliw sut
mae’r Fframwaith Enghreifftiol yn cyd-gyffwrdd
â’r hyn sy’n digwydd eisoes o dan y Maes Llafur
Cytun Lleol presennol ym mhob un 3 cyd-destun (Ystod) uchod a hefyd
o ran y gofynion mewn perthynas â sgiliau. Er enghraifft, yn
Rhaglen Astudio CA2 ceir o dan Ystod - Y Byd, yr is-themau -
dechreuad a phwrpas
bywyd a’r
byd naturiol a phethau byw
lle mae disgwyl i ddisgyblion ddeall sut mae
dehongliadau o ddechreuad y byd a bywyd yn dylanwadu ar farn pobl,
a sut mae crefyddau yn dangos pryder a chyfrifoldebau. Gwneir
gwaith eisoes o dan y Maes Llafur Cytun presennol mewn perthynas
â’r byd yn y cyd-destun amgylcheddol ac ystyrir sut mae
gwarchod y blaned yn perthnasu i gred yr unigolyn.
|
|
|
|
O ran datblygu sgiliau,
disgwylir i ddisgyblion ymdrin â’r cwestiynau sylfaenol
trwy gyfleoedd i ofyn, trafod ac ymateb i gwestiynau sylfaenol
sy’n codi trwy eu profiadau eu hunain, y byd o’u cwmpas
ac agweddau ar grefydd. Rhoddwyd ystyriaeth yng Ngwynedd a
Môn ers rhai blynyddoedd bellach i’r syniad o gynnig
cwestiynau i ddisgyblion eu trafod, a hefyd gofyn i blant ateb
cwestiynau mawr a llunio cwestiynau sylfaenol eu hunain megis
-
|
|
|
|
pam fod pethau drwg yn
digwydd i bobl dda;
|
|
ble mae Duw
|
|
beth sy’n digwydd ar
ôl i chi farw
|
|
beth yw’r
gwahaniaeth rhwng taith a phererindod
|
|
|
|
Ÿ
|
Barn Athrawon a’r Gweithgor
|
|
|
|
|
|
Mae athrawon a’r cynrychiolwyr sy’n
gwasanaethu ar y gweithgor yn gefnogol i’r Fframwaith
Enghreifftiol Cenedlaethol fel y mae, ac maent yn croesawu’r
ffaith y rhydd y Fframwaith elfen o gysondeb ar draws Cymru a chyda
phynciau eraill. Nid ydynt yn teimlo bod angen addasu fformat na
chynnwys y Fframwaith ond maent yn awyddus bod yna ganllawiau ac
arweiniad enghreifftiol yn cael eu dosbarthu i ysgolion ar ffurf
atodiad i’r Fframwaith.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Beth sy’n rhaid i’r CYSAG ei
ystyried
|
|
|
|
|
|
Rhaid i’r CYSAG ystyried pa fath o ddogfen atodol
mae’n rhaid ei chyflwyno ar ran CYSAGau Môn a Gwynedd i
gyd-fynd gyda’r Fframwaith Enghreifftiol - mae athrawon yn
awyddus i gael canllawiau dysgu ac addysgu.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhaid cofio bod y Fframwaith Enghreifftiol
Cenedlaethol yn cwmpasu ystod oedran o ‘r cyfnod sylfaen
i’r cyfnod ôl-16, ac mae’r athrawon hynny sydd
wedi dod at ei gilydd yn awyddus i weld dosbarthu arweiniad
traddodiadol a chyfarwydd ar ffurf cynllun tymor hir sy’n
dangos beth yw’r disgwyliadau o ran beth mae’r plentyn
yn ei wneud o dymor i dymor. Mae sylw wedi cael ei roi i
fapio’r Cwricwlwm fel bod yna greu 3 neu 4 mlynedd o waith, a
hefyd, rhoddwyd ystyriaeth i ffyrdd o gynllunio tymor byr, sef
tymor o waith sydd yn gyfarwydd i’r ysgolion. Bydd yn gysur
i’r ysgolion wybod nad yw Cwricwlwm 2008 mor wahanol
i’r maes llafur presennol ond mae’r ffocws yn fwy ar
sgiliau. Fodd bynnag, fe fydd cyflwyno Addysg Grefyddol i’r
Cyfnod Sylfaen yn wahanol gyda llai o bwyslais ar y pwnc a mwy o
ganolbwyntio ar gael plant i fod yn weithredol ac i chwarae yn
bwrpasol. O ran disgyblion CA4 a CA5, gwyddys eisoes bod cyflwyno
Addysg Grefyddol i’r dosbarthiadau yma yn heriol, a rhaid
efallai bod yn barod i ddangos bod yna ffyrdd a modelau amgen o
gyflwyno Addysg Grefyddol i’r cyfnodau yma megis ar
ffurf cynadleddau, gwaith ar y wefan, datrys problemau, perthnasu
AG i feysydd eraill ac ati. Bydd gofyn i’r CYSAG ystyried a
yw’n barod i gefnogi cyfryngau gwahanol o gyflwyno Addysg
Grefyddol yn arbennig i ddisgyblion chweched dosbarth.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
derbyn barn aelodau CYSAG
|
|
|
|
ystyried a oes angen lansiad swyddogol
|
|
|
|
cyflwyniad i benaethiaid ysgolion
|
|
|
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd yn
fawr iawn i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad trylwyr a
chynhwysfawr a gwahoddodd yr aelodau i gyflwyno eu barn ynghylch y
ffordd ymlaen. Yn y drafodaeth ddilynol, gwyntyllwyd y syniadau
canlynol -
|
|
|
|
Ÿ
|
adroddwyd bod CYSAG Conwy wedi mabwysiadu’r
Fframwaith Enghreifftiol fel offeryn swyddogol mewn Cynhadledd
a’i fod yn fwriad i gylchredeg y ddogfen i ysgolion drachefn
gyda chlawr newydd arni yn dwyn logo cynghorau Fflint, Dinbych a
Chonwy. Penderfynwyd ail argraffu’r ddogfen yn ei chyfanrwydd
gyda chlawr newydd ar y rhesymeg byddai hyn yn dynodi ei
mabwysiadu’n ffurfiol fel y Maes Llafur Cytun Lleol. (Dygwyd
sylw at y ffaith y newidiwyd y ddogfen mewn un man, sef
diwygio’r cyfeiriad at hawliau anifeiliaid yn Rhaglen Astudio
Enghreifftiol CA4 ac Ôl-16 i ddarllen gofal a lles
anifeiliaid);
|
|
|
Ÿ
|
awgrymwyd gosod logo Gwynedd a Môn ar glawr newydd
i’r ddogfen atodol/canllawiau ar y cyd;
|
|
|
Ÿ
|
awgrymwyd y gallai’r CYSAG fabwysiadu’r
Fframwaith Enghreifftiol fel maes llafur cytun gan ddirprwyo trafod
y logo a’r canllawiau i’r gweithgor;
|
|
|
Ÿ
|
awgrymwyd cyfuno Cynhadledd ar y cyd gyda Gwynedd a
lansiad swyddogol y Maes Llafur Cytun newydd yn amodol ar edrych ar
y protocol cyfreithiol ar gyfer cynnull Cynhadledd.
|
|
|
|
|
Yn dilyn trafodaeth,
penderfynwyd cefnogi amserlen ar y llinellau a ganlyn -
|
|
|
|
Ÿ
|
CYSAG Ynys Môn i fabwysiadu’r Fframwaith
Enghreifftiol Cenedlaethol yn ei gyfarfod nesaf ym mis
Mehefin;
|
|
|
Ÿ
|
Yn amodol ar y gofynion cyfreithiol, edrych ar y
posibilrwydd wedyn o gynnull Cynhadledd Maes Llafur Cytun Lleol ar
y cyd â Gwynedd a lansiad swyddogol;
|
|
|
Ÿ
|
Bod ystyriaeth ddilynol yn cael ei rhoi i
addasu’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol fel bod yna
berchnogaeth leol ohono.
|
|
|
|
|
7
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Cofnodion
drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng
Nglyn Ebwy ar 4 Rhagfyr, 2007.
|
|
|
|
Ymddiheurodd y Cadeirydd
am nad oedd wedi bod yn bresennol, trwy amryfusedd, yn y cyfarfod
uchod. Cyfeiriodd hefyd gydag anfodlonrwydd (ac fe’i ategwyd
gan weddill yr aelodau) at y ffaith bod darllen fersiwn Gymraeg y
cofnodion wedi bod yn hynod o anodd oherwydd bod y dyfrnod
“Drafft” wedi’i osod ar draws y cofnodion, a
sylwodd byddai’n dwyn sylw Ysgrifennydd y Gymdeithas at
hyn.
|
|
|
|
Cyferiodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Addysg) at rai pwyntiau o’r cyfarfod fel a ganlyn
-
|
|
|
|
Ÿ
|
Bod llythyr gan y Gymdeithas wedi’i anfon at y
Parch.Aled Edwards o Brosiect Croeso ynglyn â’r mater o
ddiffyg swyddogion oedd yn gallu cyflwyno’r prosiect drwy
gyfrwng y Gymraeg ac fe gafwyd ymateb i’r perwyl bod
y Swyddog Cyfrwng Cymraeg a gyflogwyd
wedi ymadael a byddai swyddog newydd yn cael ei b/phenodi ym mis
Ebrill, 2008 gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn un o ofynion y
swydd.
|
|
|
Ÿ
|
Awgrymwyd bod ystyriaeth yn cael ei roi i enwebu Mr
Rheinallt Thomas, Is-Gadeirydd y CYSAG ar gyfer swydd Is-Gadeirydd
Cymdeithas CYSAGau Cymru yn amodol ar gadarnhau gyda’r
Is-Gadeirydd ei fod yn gymwys i gael ei enwebu.
|
|
|
Ÿ
|
Dygwyd sylw i benodiad Dr.William Maxwell fel Prif
Arolygydd Estyn i olynu Susan Lewis, a hefyd at y cyflwyniad gan
NAPfRE ar destun Ymestyn a Herio - Y Cysyniadau Allweddol ar gyfer
yr Arholiad Astudiaethau Crefyddol Lefel A Newydd sydd i’w
gyflwyno yn 2008.
|
|
|
|
|
Cadarnhawyd y
byddai’r Cadeirydd ac Ymgynghorydd y Dyniaethau ar gael i
fynychu cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 14 Mawrth yng
Nghaerfyrddin.
|
|
|
|
Penderfynwyd
nodi’r cofnodion o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a
gynhaliwyd yng Nglyn Ebwy ar 4 Rhagfyr, 2007.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd er gwybodaeth
yr ohebiaeth ganlynol -
|
|
|
|
Ÿ
|
Llythyr dyddiedig 22 Hydref, 2007 gan y Pennaeth
Gwasanaeth (Addysg) at gyn Bennaeth Ysgol Gynradd Corn Hir ynglyn
â’r adroddiad arolygiad gafodd yr ysgol oedd yn
ganmoladwy o agweddau Addysg Grefyddol;
|
|
|
Ÿ
|
Llythyr dyddiedig 8 Tachwedd, 2007 gan y Pennaeth
Gwasanaeth (Addysg) at benaethiaid ysgolion uwchradd Ynys Môn
i gyfleu iddynt werthfawrogiad y CYSAG am y gwaith caled a
arweinodd at ganlyniadau da mewn arholiadau allanol Addysg
Grefyddol yn 2007;
|
|
|
Ÿ
|
Llythyr dyddiedig 7 Tachwedd, 2007 gan y Pennaeth
Gwasanaeth (Addysg) at yr Athro Leslie Francis yn dymuno’n
dda iddo yn ei swydd newydd ym Mhrifysgol Warwick ac yn diolch iddo
am ei gyflwyniad i’r CYSAG.
|
|
|
Ÿ
|
Llythyr dyddiedig 5 Rhagfyr, 2007 oddiwrth yr Athro Leslie
Francis yn diolch i CYSAG Ynys Môn am eu dymuniadau caredig
ac yn cadarnhau ei fwriad i gadw cyswllt gyda Gogledd Cymru, cyrff
CYSAGau lleol a bywyd addysg grefyddol yng Nghymru yn
gyffredinol.
|
|
|
Ÿ
|
Llythyr dyddiedig 30 Rhagfyr, 2007 oddi wrth Mr Brian
Gibbons AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth
Leol mewn ymateb i lythyr gan y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ynglyn
â’r angen i sicrhau y caiff y Prosiect Croeso ei
ddarparu yn ddwyieithog, yn cadarnhau byddai’r mater yn cael
sylw a thrafodaeth bellach gyda golwg ar sicrhau bydd digwyddiadau
a gweithgareddau yn y dyfodol yn cael eu cynnal yn
ddwyieithog.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nodwyd y cynhelir cyfarfod
nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn, dydd Llun, 9
Mehefin, 2008.
|
|
|
|
10
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD CYMDEITHAS CYSAGau
CYMRU
|
|
|
|
|
Nodwyd y cynhelir
cyfarfodydd nesaf y Gymdeithas ar 14 Mawrth, 2008 yng Nghaerfyrddin
ac ar 26 Mehefin, 2008 yn yr Wyddgrug.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cynghorydd E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|