|
Ÿ
|
Penderfynwyd nodi bod Mrs Helen Roberts a’r
Parch.Elwyn Jones wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod ar 8 Mehefin
fel aelodau cyfetholedig o’r Cyngor Ymgynghorol.
|
|
|
Ÿ
|
Penderfynwyd diwygio’r cyfeiriad at Mrs Siwan Trefor
Jones o dan Eitem 3 yn y fersiwn Gymraeg i ddarllen Mrs Siwan
Tecwyn Jones.
|
|
|
Ÿ
|
Penderfynwyd nodi mai Cytun Caergybi a drefnwyd y
gwasanaeth yn Ysgol Uwchradd Caergybi fel rhan o
ddigwyddiadau’r Wythnos Gristnogol y cyfeirir ato o dan eitem
8.
|
|
|
Ÿ
|
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a oedd cyflenwad o CDs - A
Jewish Way of Life - bellach wedi dod i law, ymatebodd Ymgynghorydd
y Dyniaethau bod trefniadau wedi’u gwneud i dderbyn yr adnodd
hon ac fe ychwanegodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod pecyn
wedi’i dderbyn yn yr Adran Addysg yr wythnos ddiwethaf a
allasai fod wedi cynnwys y CDs dan sylw ac os felly, roeddent wedi
cael eu dosbarthu.
|
|
|
Ÿ
|
Parthed gwneud ymholiadau ynglyn â chael ymateb gan
y Gweinidog dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i’r
llythyr anfonwyd ati ym mis Mawrth, 2009 ar ran y CYSAG yng
nghyswllt y mater o roddi hawl i ddisgyblion chweched dosbarth
dynnu’n ôl o addoli ar y cyd, a’r diffyg
ymgynghori ynghylch y newid hwn, cadarnhaodd y Swyddog Addysg
Uwchradd bod y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wedi cysylltu â
Swyddfa’r Gweinidog drachefn ac fe ddywedwyd y byddai yna
ymateb yn dod o fewn 15 diwrnod. Ar hyn o bryd nid yw’r
ymateb hwnnw wedi’i dderbyn. Soniodd yr Is-Gadeirydd bod Prif
Weinidog Cymru wedi cael ei holi ynghylch y mater hwn mewn cyfarfod
o’r Grwp Ffydd a bod y mater wedi codi ei ben yn wreiddiol ym
mis Awst, 2006. Wrth wraidd yr anfodlonwrydd yw’r ffaith bod
Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnu ar addewid a wnaed y byddai yna
ymgynghori ynglyn ag unrhyw symudiad i gyflwyno’r newid a
grybwyllir uchod mewn perthynas â rhoi hawl i ddisgyblion
chweched dosbarth beidio mynychu addoli ar y cyd. Fodd
bynnag, bu i’r Gweinidog presennol dros Addysg, Plant, Dysgu
Gydol oes a Sgiliau lofnodi’r Gorchymyn i weithredu’r
newid yr Haf hwn heb gysylltu ag unrhyw un o’r enwadau
crefyddol na’r awdurdodau addysg i ymorol eu barn.
|
|
|
Ÿ
|
Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y llythyr
arferol o ddiolch a gwerthfawrogiad wedi cael ei anfon at y dair
ysgol yr adroddwyd amdanynt yn y cyfarfod diwethaf yng ngyhswllt
arolygiadau gan Estyn
|
|
|
Ÿ
|
Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at eitem 9 a dywedodd nad
anfonwyd y llythyr y sonnir amdano o dan y pennawd hwn ynghylch yr
angen i gylchredeg cofnodion cyfarfodydd Cymdeithas CYSGAau
Cymru yn brydlon oherwydd y canfuwyd bod cofnodion drafft cyfarfod
y Gymdeithas ym mis Mawrth wedi cael eu cylchredeg, ond trwy
amryfusedd ni chawsant eu cyflwyno i gyfarfod diwethaf y CYSAG.
Aeth yr Is-Gadeirydd rhagddo wedyn i ddweud bod y mater hwn wedi
cael ei godi ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas lle’r adroddwyd
mai’r drefn yw cylchredeg y cofnodion ar ffurf uniaith drafft
mor fuan â phosib ar ôl cyfarfodydd y Gymdeithas; yn
anffodus CYSAG Môn yw’r cyntaf fel rheol i gynnal
cyfarfod yn dilyn cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru felly ef
yw’r corff sydd tebycaf i gael ei effeithio os nad yw wedi
bod yn bosibl cylchredeg y cofnodion yn brydlon. Mae Cymdeithas
CYSAGau Cymru yn amcanu at sefydlu gwefan ac fe fyddai adnodd
o’r fath yn symleiddio ac yn hwyluso mynediad at ei
deunydddiau gan gynnwys cofnodion ei chyfarfodydd.
|
|
|
|
|
4
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys
Môn am y flwyddyn o fis Medi, 2008 i fis Awst,
2009.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mai crynhoad o
weithgareddau’r flwyddyn yw’r Adroddiad Blynyddol sydd
gerbron ac mae ar ffurff drafft ar hyn o bryd am fod ambell i fwlch
data i’w lenwi. Mae fframwaith yr adroddiad wedi’i
bennu gan APADGOS ac ynddo wedyn fe roddir cryn sylw i
safonau Addysg Grefyddol fel yr amlygir mewn arolygiadau ysgol. Mae
yna hefyd ymdrech i adlewyrchu hunan arfarniadau ysgolion a hynny
oherwydd bod yna lai o arolygiadau pynciau erbyn hyn.
Cyfeiria’r adroddiad at ddatblygiad ysbrydol, moesol,
cymdeithasol a diwylliannol disgyblion ynghyd â safonau mewn
arholiadau a phrofion allanol. Mewn perthynas â phrofion ac
arholiadau allanol, dechreuwyd ers oddeutu 2 flynedd i gyfeirio at
ganlyniadau asesiadau Athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3, ond gan
mai prin yw’r cyfleodd i gyd-safoni gwaith yn y Cyfnod hwn ni
ddaepthwyd i unrhyw gasgliadau ynglyn â’r canlyniadau
hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar y gorwel mae yna fwriad i
sicrhau bod pob adran uwchradd yng Nghymru yn cyflwyno portffolio
eu safonau CA3 i sylw safonwyr ac achredwyr allanol, ac unwaith
bydd hynny wedi digwydd efallai gellir dod i gasgliad ystyriol
ynglyn â safonau CA3
|
|
|
|
|
|
Mae disgwyliad i’r Adroddiad Blynyddol gynnwys
ymateb yr Awdurdod Addysg Lleol i’r cyngor a’r
arweiniad a roddwyd yn ystod y flwyddyn gan y CYSAG, ac mae
hwn wedi’i nodi ar dudalen 11 yr adroddiad lle cyfeirir at y
ffaith bod y CYSAG yn ceisio adlewyrchu blaenoriaethau Cynllun
Plant a Phobl Ifanc Môn. O dan adran arall yn yr
adroddiad fe grybwyllir y gefnogaeth a roddir gan y Gwasanaeth
Ymgynghorol gan gynnwys mewnbwn yr Athrawes Ymgynghorol Addysg
Grefyddol. Bellach fe ddaeth tymor gwasanaeth Mrs Carol Llewelyn
Jones i ben, ac mae penodiad newydd i’r swydd wedi cael ei
wneud, a bydd Mrs Leisa Jones yn cymryd arni dyletswyddau’r
Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol. Ceir sôn yn yr
adroddiad hefyd am Raglen Hyfforddiant Mewn Swydd ynghyd
â’r cyswllt a fu yn ystod y flwyddyn rhwng Addysg
Grefyddol ac APADGOS. Cofnodir unrhyw ddatblygiad sydd wedi bod
mewn perthynas ag addoli ar y cyd ac yn rhan olaf yr adroddiad fe
roddir sylw i faterion yn ymwneud ag aelodaeth a gweinyddiaeth y
CYSAG, ynghyd â’r prif bynciau trafod yn ei gyfarfodydd
yn ystod y flwyddyn.
|
|
|
|
Holwyd ynglyn ag un ystadegyn yn yr Adroddiad Blynyddol
oedd yn dweud bod y sawl a safodd arholiad TGAU Astudiaethau
Crefyddol yn 2008 wedi cynyddu o 58 i 155 ac mewn ymateb esboniodd
Ymgynghorydd y Dyniaethau bod y naid i’w briodoli’n
rhannol i’r ffordd y cesglir y wybodaeth. Mae rhai ysgolion
yn gwneud hanner TGAU un flwyddyn a hanner TGAU yn y flwyddyn
ddilynol ac yr hyn sydd yn debygol o fod wedi digwydd yw nad
yw disgyblion wedi cael eu cynnwys un flwyddyn, ac maent yn
ymddangos wedyn yn yr ystadegau yn y flwyddyn ar ôl hynny.Yn
y cyswllt hwn soniodd mai pleser oedd gallu dweud bod sefyllfa
Addysg Grefyddol yn ysgolion Ynys Môn yn iach, ac fe ategodd
y Swyddog Addysg Uwchradd y farn hon trwy sôn am Ysgol
Uwchradd Caergybi a’r camau cadarnhaol y mae’r
ysgol honno wedi’u cymryd yn ddiweddar tuag at wneud
darpariaeth Addysg Grefyddol hyd at safon arholiad TGAU am y tro
cyntaf mewn blynyddoedd.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol
drafft am 2008 yn amodol ar gwblhau unrhyw fylchau yn ôl yr
angen.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
5.1
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28, Deddf Addysg 2005,
am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolygu mewn
perthynas â’r ysgolion a nodir isod -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgol Gynradd y Parc, Newry Fields,
Caergybi
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd nad oedd Addysg
Grefyddol wedi bod yn destun arolygiad y tro hwn, felly cyflwynir
casgliadau’r Arolgydd ynglyn â chyflawniadau’r
ysgol o dan Cwestiwn Allweddol 3, sef, Pa mor dda mae
profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr
a’r gymuned ehangach? Dywed yr Arolygydd bod y ddarpariaeth a
wna’r ysgol ar gyfer datblygiad moesol a chymdeithasol y
disgyblion yn dda, ac mae yna raglen addysg bersonol a
chymdeithasol effeithiol ar waith. Cynhelir sesiynau addoli ar y
cyd dyddiol ac mae’r rhain yn ceisio hyrwyddo datblygiad
ysbrydol y disgyblion er y bernir bod ffocws yr addoli yn
cael ei golli ar adegau.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod Estyn wedi
cyflwyno cyfres o argymhellion i godi safonau yn Ysgol y Gynradd y
Parc ar lefel ysgol gyfan, a bod yr Awdurdod Addysg yn cyd-weithio
gyda’r ysgol i adfer y sefyllfa.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgol Ty Mawr, Capel Coch, Llangefni
|
|
|
|
|
|
Adrodddd y Swyddog Addysg Uwchradd mai yn yr achos hwn
hefyd arolygiad safonol a gynhaliwyd ond nid oedd Addysg Grefyddol
ymhlith y chwe phwnc y cyflwynwyd adroddiad arnynt. Mae’r
Arolygydd o’r farn bod darpariaeth yr ysgol ar gyfer hyrwyddo
datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda.
Trwy raglen addysg bersonol a chymdeithasol sydd wedi’i
strwythuro’n glir, caiff disgyblion gyfleoedd gwerthfawr i
drafod, cwestiynu a dod i benderfyniad ar nifer o faterion moesol a
chymdeithasol. Ymhellach, disgrifia’r Arolygydd ddarpariaeth
yr ysgol ar gyfer datblygiad ysbrydol y disgyblion fel un rhagorol
a dywed bod y cyfnodau addoli ar y cyd yn cydymffurfio’n
llawn â‘r gofynion statudol a’u bod yn cynnig
cyfleoedd rhagorol i’r disgyblion ystyried eu gwerthoedd eu
hunain a myfyrio ar elfennau ysbrydol a phersonol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ysgol Gynradd Pencarnisiog
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd y bu Addysg Grefyddol
ymhlith y pynciau y cyflwynwyd adroddiad arnynt y tro hwn ac fe
ddyfarnodd yr Arolygydd Rradd 3 i Addysg Grefyddol yn CA1 (yn
golygu bod yna nodweddion da yn gorbwyso diffygion), a Gradd
2 i Addysg Grefyddol yn CA2 (yn golygu bod yna nodweddion da a dim
diffygion pwysig). Mae’r Arolygydd yn nodi bod disgyblion CA1
yn ymwybodol bod plant mewn rhannau eraill o’r byd yn dioddef
o achos prinder gofal a bwyd, ac maent yn gwybod am waith y Fam
Teresa yn India a Dr Barnado ym Mhyrydain Fawr. Hefyd, nodwedd
diddorol y mae’r Arolygydd yn tynnu sylw ato yw’r
ffaith bod disgyblion CA1 yn ysgrifennu eu gweddïau o ddiolch
eu hunain i’w teulu a’u ffrindiau sy’n awgrymu
bod y plant yn ddigon hyderus i lunio eu gwaith eu hunain.
Noda’r Arolygydd un diffyg a hynny yn CA1 lle y barna bod
gwybodaeth disgyblion y cyfnod hwn am y storïau a adroddwyd
gan Iesu a’u harwyddocâd yn gyfyngedig.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Addysg Uwchradd am
y wybodaeth a sylwodd bod yr adroddiadau ar y cyfan yn eithaf
calonogol yn ôl yr arfer. Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw at yr
hyn yr oedd ef yn ei weld yn anghysondeb yn yr adroddiad ynglyn ag
Ysgol Gynradd Pencarnisiog, a dywedodd bod yr Arolygydd wedi
dyfarnu Gradd 3 gogyfer y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn CA1
a’i fod wedi nodi bod gwybodaeth y disgyblion o
storïau’r Iesu yn gyfyngedig. Fodd bynnag, yng nghorff
yr adroddiad mae’r Arolygydd yn canmol disgyblion CA1 am
ysgrifennu eu gweddïau eu hunain heb gydnabod y byddai hynny
yn sicr o gyfyngu ar yr amser sydd ar gael i gyflwyno storïau.
Awgrymodd y byddai’n fuddiol i’r CYSAG dderbyn copi o
hunan-arfarniad Ysgol Gynradd Pencarnisiog er mwyn gweld a yw barn
yr ysgol yn cyd-fynd â barn yr Arolygydd. Soniodd nad hwn
oedd y tro cyntaf i’r CYSAG ganfod anghysonderau mewn
adroddiadau arolygu a’i fod eisoes wedi codi’r mater
mewn llythyr at Estyn. Sylwodd y Swyddog Addysg Uwchradd mai Estyn
fydd yn arwain ar bob arolygiad o hyn allan ac efallai bydd yna
safoni arolygiadau ysgolion cynradd o ganlyniad.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth gan ofyn
i’r Swyddog Addysg Uwchradd ysgrifennu at Benaethiaid y dair
ysgol i ddiolch iddynt am eu gwaith a’u
hymdrechion.
|
|
|
|
|
5.2
|
Cyflwynwyd - Adroddad hunan-arfarnu Ysgol Gynradd
Llangoed.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn
croesawu’r hunan-arfarniad uchod gan Ysgol Gynradd Llangoed.
Ar un olwg, ymddengys bod hon yn drefn arwynebol ar gyfer monitro
safonau ond dygir sylw’r aelodau at yr adran yn yr adroddiad
sy’n nodi’r agweddau hynny y mae’r ysgol
o’r farn bod angen rhoi sylw iddynt dros y ddwy flynedd nesaf
a diolchir i’r ysgol am ei gonestrwydd wrth gydnabod bod yna
le i wella ac am ei pharodrwydd i rannu’r wybodaeth hon
gyda’r CYSAG a hwnnw’n fforwm gyhoeddus. Yn y
cyswllt hwn hefyd atgoffir aelodau bod gofyn trafod rôl
fonitro’r CYSAG mewn perthynas â’r drefn
arolygu newydd mae Estyn yn ei chyflwyno. O dan y drefn honno ni
fydd adroddiadau ar safonau Addysg Grefyddol yn cyrraedd y
CYSAG, ond yn hytrach bydd y drefn yn llawer mwy cryno,
bydd yn rhoi llai o bwyslais ar arolygiadau pwnc a bydd
arolygiadau pynciol yn cael eu cynnal o dro i dro yn unig. O
gofio swyddogaeth fonitro’r CYSAG felly, cystal
i’r corff ddechrau meddwl am sut mae am ymateb i’r
newidiadau hyn a pharhau i gyflawni ei swyddogaeth
fonitro.
|
|
|
|
|
Sylwodd yr Is-Gadeirydd
bod hwn wedi bod yn fater trafod ym Mhwyllgor Gwaith Cymdeithas
CYSAGau Cymru a rhaid cofio bydd rôl fonitro statudol y CYSAG
o safonau Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd yn dal i barhau ond
mae sut mae gwnud hynny o fewn y fframwaith arolygu newydd yn fater
i’w ystyried. Tra bod rhai cyrff CYSAGau yn ymweld ag
ysgolion, barnai bod y drefn hunan arfarnu yn cynnig ffordd
effeithiol o gyflawni’r gofyn statudol sydd ar y corff heb i
hynny fod yn rhy feichus ar y CYSAG na’r ysgol. Awgrymodd bod
Ymgynghorydd y Dyniaethau yn codi’r mater gyda’i chyd
ymgynghorwyr mewn cyfarfod o NAPfre ym mis Tachwedd. Cytunodd
cynrychioydd Undeb y Bedyddwyr gan bod pob ysgol yn ymgymryd
â hunan arfarniad ni ddylai anfon copi ohono ymlaen at y
CYSAG arwain at waith ychwanegol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn
â’r meddwl tu cefn i gyflwyno’r drefn newydd,
dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod datblygiadau yn Lloegr wedi
bod yn ysgogiad i Estyn symud i’r cyfeiriad hwn lle mae llai
o rybudd yn cael ei roi i ysgolion cyn cynnal arolwg; mae Ysgol
Gynradd Niwbwch eisoes yn arbrofi’r drefn newydd a bydd
yr adroddiad o’r arolygiad hwnnw yn debygol o fod yn un cryno
iawn gyda chrynswth y gwaith wedi’i baratoi o flaen llaw trwy
hunan-arfarniad yr ysgol. Dywedodd yr Is-Gadeirydd bod y broses
arolygu sy’n cael ei disodli wedi llwyddo i godi
ymwybyddiaeth ysgolion ynglyn â beth yw’r safonau a sut
i hunan-arfarnu gan olygu y bydd y drefn newydd cytbwys yn fwy
ymarferol. Sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y bydd penodiad
Arolygydd Addysg Grefyddol yn cael ei groesawu oherwydd bydd
hynny’n rhoi fwy o ystyr i’r adroddiad cenedlaethol yn
enwedig gan fod y mwyafrif o gyrff CYSAGau bellach wedi
mabwysiadu’r Fframwaith Genedlaethol ar gyfer Addysg
Grefyddol.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
adroddiad hunan-arfanu Ysgol Gynradd Llangoed gan ddiolch i’r
ysgol am y wybodaeth.
|
|
|
|
|
|
6
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
6.1
Cyflwynwyd a nodwyd - Cofnodion cyfarfod y
Gymdeithas a gynhaliwyd ym Mhen y Bont ar Ogwr ar 13 Mawrth,
2009.
|
|
|
|
6.2
Cyflwynwyd - Cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a
hefyd y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llangollen ar 24
Mehefin, 2009.
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i
Mrs Helen Roberts a’r Parch Elwyn Jones am gymryd o’u
hamser i fynychu’r cyfarfod uchod yn Llangollen, ac
fe’u gwahoddodd i adrodd am unrhyw fater oedd wedi cymryd eu
bryd o’r cyfarfod hwnnw.
|
|
|
|
Ar ôl crybwyll y
ffaith na chafodd ef, na Mrs Helen Roberts y gwaith papur ar gyfer
y cyfarfod, dyweddodd y Parch Elwyn Jones bod y cyfarfod wedi bod
yn un difyr iawn ac un yr oedd ef wedi’i fwynhau ac yn
arbennig felly, y cyflwyniad gan Vicky Barlow ar destun Addysg
Grefyddol a Phlant Mwy Galluog a Thalentog oedd yn arbennig o
ddiddorol. Soniodd hefyd bod y Cadeirydd yn ei araith ymadawol wedi
codi pwynt miniog wrth grybwyll pa mor bwysig ydyw o safbwynt y
pwnc Addysg Grefyddol i fod yn effro i ddigwyddiadau ac yn arbennig
y her a ddaw o gyfeiriad y gymdeithas seciwlar. Roedd wedi
pwysleisio tra nad oedd popeth yn y gymdeithas seciwlar yn
bygwth y bywyd crefyddol, roedd cryn nifer o bobl yn cysylltu
crefydd gyda ffwndamentaliaeth grefyddol ac yn gweld gwedd
eithafiaeth ar bob dim crefyddol ac yn sgîl hynny, yn edrych
yn ddrwgdybus ar fywyd crefyddol ac yn tanbrisio ei werth. Sylwodd
yr Is-Gafeirydd bod y ffaith bod y drefn ar gyfer cylchredeg
papurau wedi torri lawr yn yr achos uchod yn ddadl bellach dros
sefydlu gwefan i’r Gymdeithas.
|
|
|
|
Cytunodd y Cadeirydd bod
sylwadau Vaughan Salisbury, sef cyn Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau
Cymru bellach, yn rhai gwerth eu darllen. Aeth ymlaen i longyfarch
Mr Rheinallt Thomas ar ei etholiad i’r Pwyllgor Gwaith ac fe
ddiolchodd iddo am ei gyfraniad dros gyfnod hir. Bu i’r
Is-Gadeirydd yn ei dro sôn am gyfansoddiad y Pwyllgor Gwaith
newydd a’r ffaith bod iddo naws Gymraeg cryf ar hyn o bryd.
Dygodd sylw’r CYSAG hefyd bod gofyn arno ddangos yn ffurfiol
ei fod am ymaelodi’n swyddogol â Chymdeithas CYSAGau
Cymru am y flwyddyn i ddod, a’i fod yn cytuno i dalu’r
tâl tanysgrifio o £383 am 2009/10. Dywedodd wrth y
CYSAG ei fod ef am baratoi dadansoddiad o’r niferoedd o bob
sir sydd wedi mynychu cyfarfodydd y Gymdeithas a hynny heb gynnwys
yr ymgynghorwyr.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
Ÿ
|
Derbyn cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru
a’r Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llangolled ar 24
Mehefin gan nodi eu cynnwys.
|
|
|
Ÿ
|
Bod y CYSAG yn cytuno i danysgrifio i Gymdeithas
CYSAGau Cymru am 2009/10 a’i fod yn gofyn i’r Awdurdod
Addysg dalu’r ffi ymaelodi o £383.
|
|
|
|
|
7
|
ARHOLIADAU ALLANOL HAF 2009
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Dadansoddiad
gan Ymgynghorydd y Dyniaethau o ganlyniadau arholiadau Haf 2009
mewn perthynas ag Addysg Grefyddol.
|
|
|
|
Cyfeiriodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau at y prif bwyntiau fel a ganlyn -
|
|
|
|
Ÿ
|
Bod canlyniadau CA3 yn cael eu cyflwyno er gwybodaeth yn
unig. Daw adrannau i farn am gyflawniad disgyblion CA3 ar sail
gwaith y flwyddyn, tasgau asesu a phrofion. Nid yw’r
disgyblion yn sefyll yr un profion na’r un tasgau asesu ar
draws y sir ac nid yw athrawon yn cael cyfle rheolaidd i safoni
gwaith eu disgyblion gydag adrannu eraill. Eleni bydd rhai adrannau
yn cael cyfle i fod yn rhan o raglen peilot gan APADGOS a byddent
yn cyflwyno portffolios ar gyfer achrediad allanol. Mae cyrsiau HMS
Cynnal wedi rhoi cyfle i athrawon pwnc i rannu profiadau ac i
gyd-safoni samplau o waith.
|
|
|
Ÿ
|
Roedd canlyniadau Astudiaethau Crefyddol TGAU 2009
yn rhai da. Amrywia’r nifer a safodd yr
arholiad o 13 mewn un ysgol i 48 mewn ysgol arall. Llwyddodd 99.5%
o’r ymgiesywr i ennill gradd TGAU gydag 83.9% yn ennill gradd
A*-C. Enillodd 44.5% o’r ymgeiswyr radd A*/A. Roedd
cyfartaledd sgôr y pwnc yn 6.3 a hwnnw’n uwch
na’r sgôr cyfartalog o 5.4 yn y pynciau eraill. Unwaith
eto bu i fwy o ferched na bechgyn ddewis y pwnc ac roedd
canlyniadau’r merched yn rhagori ar ganlyniadau’r
bechgyn. Mae Cynnal yn awyddus i gynnig cefnogaeth ychwanegol i
Ysgol Uwchradd Caergybi am fod yna ddosbarth TGAU Addysg Grefyddol
ym mlwyddyn 10 am y tro cyntaf mewn dros degawd a dyma’r
cohort cyntaf i’r Pennaeth Adran, a hefyd i Ysgol Bodedern am
fod yr athrawes lanw fydd yn gyfrifol am yr adran yn ystod cyfnod
mamolaeth y Pennaeth Adran yn athrawes newydd gymhwyso.
|
|
|
Ÿ
|
Cafwyd canlyniadau da iawn ar gyfer Astudiaeth Crefyddol TGAU (Cwrs Byr).
Roedd 108 o ymgeiswyr o ddwy ysgol ym
Môn gyda 37 disgybl mewn un ysgol a 71 yn yr ysgol arall.
Llwyddodd 100% o’r ymgeiswyr i ennill gradd TGAU gydag 78.7%
yn ennill gradd A*-C. Bu i 47.2% o’r ymgeiswyr ennill gradd
A*/A.
|
|
|
Ÿ
|
Da oedd y canlyniadau ar gyfer Addysg Grefyddol Lefel A hefyd. Roedd 60 o ymgeiswyr o Fôn yn amrywio o 4
ymgeisydd mewn un ysgol i 26 mewn ysgol arall. Bu i fwy o ferched
ddewis y pwnc na bechgyn. Llwyddodd 98.3% i ennill gradd Safon Uwch
gydag 80% yn ennill gradd A*-C. Bu i 33.3% o’r ymgeiswyr
ennill gradd A. Mae’r cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn
85.3 sydd ychydig yn uwch na’r sgôr yn y pynciau
eraill. Mae ymgeiswyr Môn yn perfformio’n dda mewn
Addysg Grefyddol. Mae sgôr cyfartalog y merched a’r
bechgyn yn is na sgôr gyfartalog y ddau yn y pynicau eraill.
Awgryma’r canlyniadau y dylid ystyried sicrhau cefnogaeth
ychwanegol i Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Bodedern er mwyn
cefnogi’r athrawes lanw fydd yn gyfrifol am y pwnc yn ystod
absenoldeb mamolaeth y Pennaeth Adran.
|
|
|
Ÿ
|
Mewn perthynas ag Astudiaethau Crefyddol Uwch Gyfrannol
roedd 63 o ymgeiswyr o ysgolion Môn
gyda’r niferoedd yn amrywio o 8 disgybl mewn un ysgol i
25 mewn ysgol arall. Dewisodd mwy o ferched y pwnc ym Môn na
bechgyn a mae eu canlyniau yn rhagori ar rai’r bechgyn.
Llwyddodd 96.8% i ennill gradd Uwch Gyfrannol gyda 74.6% yn ennill
gradd A*-C. Bu i 33.3% o’r ymgeiswyr ennill gradd A. Mae
cyfartaledd sgôr y pwnc yn 45.1 sydd ychydig yn uwch
na’r sgôr yn y pynicau eraill.
|
|
|
|
|
Gofynnodd cynrychiolydd
Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg o ystyried bod nifer o bynciau yn cael
eu haddysgu ar sail partneriaethol yng Ngwynedd a oes yna fygythiad
i Addysg Grefyddol ym Môn. Ymatebodd y Swyddog Addysg
Uwchradd trwy ddweud nad yw Grwp Cwricwlwm Ynys Môn
sy’n cyfarfod i drafod addysgu pynciau ar y cyd wedi ystyried
Addysg Grefyddol yn y cyd-destun hwn o gwbl. Mae yna bwyslais
cynyddol ar gyrsiau mwy galwedigaethol eu naws a gwneir darpariaeth
ar y cyd â Choleg Menai yn y maes hwn, ond mae Addysg
Grefyddol yn apelio at garfan wahanol o ddisgyblion. Sylwodd
Ymgynghorydd y Dyniaethau gan fod yr arlwy o bynciau yn fwy a
rheini’n cael eu cyflwyno mewn amrywo o leoliadau, efallai y
gwelir cyfnod lle bydd yna leihad yn y niferoedd sy’n
dewis Addysg Grefyddol. Roedd yr Is-Gadeirydd o’r farn bod y
canlyniadau yn rhai calonogol iawn yn enwedig y rhai Uwch Gyfrannol
a Lefel A sydd yn dangos bod y nifer sydd yn parhau’n
ffyddlon i’r pwnc yn ail flwyddyn y chweched
dosbarth yn eithaf cyson a bod y nifer sy’n dilyn
Astudiaethau Crefyddol wedi dyblu mewn degawd. Cytunodd Mrs Helen
Roberts bod gan Fôn athrawon Addysg Grefyddol rhagorol sydd
yn denu disgyblion ac wedyn yn eu cadw, a bod y niferoedd felly yn
cael eu cynnal gan safonau clodwiw. Dywedodd cynrychiolydd Undeb yr
Annibynnwyr Cymraeg ei fod wedi codi’r pwynt oherwydd cystal
i’r CYSAG fod yn effro i unrhyw fygythiad i’r
pwnc.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
yr adroddiad a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
|
|
|
|
Roedd cyfarfod nesaf y
CYSAG wedi’i raglennu yn y calendr ar gyfer dydd Llun 8
Chwefror, ond oherwydd bod yna wrthdaro rhwng y dyddiad hwn a chwrs
HMS, cytunwyd byddai’r CYSAG yn cyfarfod yn hytrach ar
brynhawn dydd Mawrth, 9 Chwefror, 2010.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cynghorydd
E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|