Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Wednesday, 3rd January, 2007

PANEL ADOLYGU CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ionawr, 2007.  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, D.R. Hughes, H. Eifion Jones,

Bryan Owen, R.L. Owen, H.W. Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) (Mewn perthynas ag Eitem 3),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

 

 

1

ETHOL CADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd H. Eifion Jones yn Gadeirydd.

 

2

ETHOL IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd J. Arwel Edwards yn Is-Gadeirydd.

 

3

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog ynglyn ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

 

4

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“ Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu hanfon allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn oherwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 1 Atodlen 12A y Ddeddf hon.”

 

5

SWYDD PENNAETH GWASANAETH (ADDYSG)

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gafwyd ar 14 Rhagfyr, 2006, wedi penderfynu secondio deilydd presennol y swydd Pennaeth Gwasanaeth Addysg am gyfnod o hyd at ddwy flynedd, yn cychwyn ar 1 Ionawr, 2007, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny, i gydgysylltu gwaith yn ymwneud â rhesymoli’r ddarpariaeth ysgolion o fewn y sir yn ogystal â rhaglenni cyfalaf mawr yr Adran Addysg a Hamdden.

 

Mae swydd y Pennaeth Gwasanaeth Addysg yn bennaf gyfrifol am ddarparu arweiniad rheolaethol i brifathrawon a chyrff llywodraethu holl ysgolion y sir yn ogystal â rheoli’r gyllideb addysg sy’n ganran fawr o gyllideb gorfforaethol y Cyngor, a gweithredu fel rheolwr llinell i’r swyddogion addysg sy’n rheoli’r sectorau cynradd, uwchradd ac arbennig.  Mae’r deilydd swydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) sy’n gweithredu fel y swyddog addysg statudol ond y Pennaeth Gwasanaeth sydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am brif faterion dydd i ddydd y gwasanaeth addysg a’r gwasanaethau cysylltiol.

 

 

 

Adroddwyd y disgwylir i ddeilydd y swydd feddu ar brofiad rheolaethol mewn ysgol, dealltwriaeth fanwl a chlir o bob agwedd o’r cwricwlwm, cyllid a materion personel ysgolion ynghyd â sgiliau rheoli lefel uwch a chymwysterau addysgol cadarn.

 

 

 

Mae cyflog presennol y swydd ar y raddfa £45,606 - £50,187 a bernir nad yw’r cyflog hwn yn ddigonol i ddenu ymgeiswyr cymwys o ystyried y disgwyliadau ar y swydd ac mae’n cymharu’n llai ffafriol na staff ysgolion y sir fydd yn troi at y Pennaeth Gwasanaeth Addysg am arweiniad.

 

 

 

Argymhellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y dylai swydd y Pennaeth Gwasanaeth Addysg gael ei uwchraddio i £50,178 - £55,178 fel cam interim er mwyn denu ymgeiswyr.  Bydd angen parhau i asesu’r swydd dan y trefniadau corfforaethol i arfarnu swyddi o fewn yr Awdurdod a byddai’r hysbyseb yn egluro fod y swydd bresennol, a’r raddfa a briodolir iddi yn dal i fod dan adolygiad.

 

 

 

Nododd ymhellach er y derbynnir fod delio gyda'r swydd hon ar ei phen ei hun yn mynd ar draws y broses arfarnu swyddi corfforaethol, gofynnwyd i’r Panel ystyried trin y swydd yn eithriad i’r drefn ar sail yr amgylchiadau arbennig sy’n bodoli a’r rhagdybiaeth na fyddai’r raddfa bresennol, o ystyried sefyllfa’r ‘farchnad’, yn denu ystod digonol o ymgeiswyr cymwys i’r Cyngor Sir ystyried eu penodi.

 

 

 

Yn dilyn ystyriaeth manwl PENDERFYNWYD :-

 

 

 

5.1

  uwchraddio cyflog y swydd Pennaeth Gwasanaeth Addysg i £50,178 - £55,178 oherwydd amgylchiadau arbennig y swydd.

 

 

 

5.2

  nodi bod cyflog y swydd ar sail dros dro hyd nes y cwblheir y broses arfarnu swyddi.

 

 

 

 

 

EITEM YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GAN Y PANEL

 

 

 

 

 

6

PANEL ADOLYGU CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir a gafwyd ar 14 Rhagfyr, 2006, penderfynwyd sefydlu Panel Adolygu Cyflogau a Graddfeydd oherwydd y disgwylir i'r Cyngor gytuno ar strwythur tâl a chyflogau unedig i'r holl staff erbyn 1 Ebrill 2007.  Mae'r ymarfer wedi bod yn ymwneud â phroses arfarnu swyddi ers rhai blynyddoedd gyda'r nod o gwrdd â'r gofynion hyn.

 

 

 

Symudwyd ymlaen gyda’r gwaith ar y broses arfarnu swyddi a bydd hynny yn darparu rhestr fesul ranc o swyddi i ddibenion eu trosglwyddo i’r strwythur cyflogau newydd a hefyd cynhaliwyd gweithdai ar y cyd rhwng rheolwyr a’r undebau llafur i edrych ar faterion sy’n berthnasol i ddatblygu strwythur cyflogau newydd a materion eraill megis gwobrau/amodau gwasanaeth.

 

 

 

'Roedd yn bryd i’r Cyngor agor trafodaethau gyda’r undebau llafur cydnabyddedig ar y cynigion terfynol i siâp y strwythur cyflogau newydd a hefyd ar nifer o faterion cysylltiedig ac ar gynllun gweithredu a rhaid i’r holl waith hwn gael ei gwblhau cyn cyflwyno strwythur cyflogau newydd.

 

 

 

Nododd y Swyddog bod y Panel wedi ei sefydlu i :-

 

 

 

Ÿ

ystyried dyluniad i’r strwythur cyflogau ac ystyried materion cysylltiedig eraill a darparu cyfarwyddyd i’r rheini fydd yn cynrychioli’r Cyngor Sir yn y trafodaethau fel bod modd adlewyrchu sylwadau a dymuniadau aelodau’r Cyngor yn gyffredinol.

 

 

 

 

 

 

 

Ÿ

bydd y Panel hwn yn glust i’r trafodwyr yn ystod y trafodaethau manwl ac yn gyfrwng i gyflwyno barn y Cyngor dan amgylchiadau pryd y bydd hi’n amlwg yn anymarferol galw cyfarfodydd o’r Cyngor Sir llawn.(Ni ragwelir y bydd y Panel hwn yn mynd i drafodaethau uniongyrchol - yn hytrach bydd yn cynnig cymorth a chyngor i’r rheini sy’n rhan o’r trafodaethau.  Ond bydd raid i’r Panel wneud penderfyniad buan ar bwy fydd yn y trafodaethau manwl gyda’r undebau llafur).

 

 

 

Ar ran y Cyngor Sir mae gan y Panel hwn yr awdurdod i :-

 

 

 

Ÿ

cymeradwyo unrhyw strwythur cyflogau diwygiedig ac unrhyw amodau cysylltiedig a gynigir yn y trafodaethau.

 

Ÿ

penderfynu ar hawliadau yng nghyswllt y materion hynny a fu’n destun trafodaethau.

 

Ÿ

gwneud penderfyniadau amodol ar faterion perthnasol - materion nad oes modd eu gohirio a disgwyl am gwblhau trafodaethau a phrosesau cysylltiedig.

 

 

 

Nodwyd mae Cylch Gorchwyl y Panel yw :-

 

 

 

Ÿ

cadarnahu dyluniad y strwythur cyflogau y bwriedir ei ddefnyddio y tu mewn i’r Cyngor.

 

 

 

Ÿ

cyflwyno sylwadau ar faterion megis :-

 

 

 

Ÿ

y lwfansau a’r taliadau arbennig y bwriedir eu newid neu eu dileu trwy gyfrwng trafodaethau;

 

Ÿ

ystwythder yn y trefniadau gweithio a allai fod yn rhan o’r pecyn cyffredinol o gynigion;

 

Ÿ

unrhyw arbedion effeithiolrwydd a allai fod yn rhan o’r trafodaethau ar fabwysiadu a chyflwyno strwythur cyflogau newydd;

 

Ÿ

unrhyw gynigion i bwrpas cyflwyno gwobrau yn seiliedig ar berfformiad neu dulliau eraill o gynnig anogaeth y tu mewn i’r strwythur cyflogau newydd;

 

Ÿ

unrhyw gynigion y tu mewn i gyd-destun cyffredinol cynnig gwobrau i weithwyr - darpariaeth arall yn hytrach na thâl.

 

 

 

Ÿ

cyfarfod yn ôl y galw (ac mae’n debyg y bydd raid cyfarfod ar fyr rybudd) i ystyried a chynnig cyfarwyddyd i’r trafodwyr pan fo’r rheini angen cyfarwyddyd o’r fath i ddibenion trafodaethau gyda’r undebau llafur.

 

 

 

Ÿ

cymeradwyo’r amserlen a’r cynllun gweithredu arfaethedig.

 

 

 

Ÿ

cymeradwyo’r argymhellion terfynol ar ôl cwblhau trafodaethau’n llwyddiannus ar y strwythur cyflogau a materion cysylltiedig.

 

 

 

Ÿ

ystyried a phenderfynu ar unrhyw hawliadau a all godi yn sgil trafodaethau neu yn sgil y strwythur cyflogau cydnabyddedig neu unrhyw newidiadau cysylltiedig i’r amodau.

 

 

 

Ÿ

ystyried a phenderfynu ar unrhyw fater yng nghyswllt tâl a graddfeydd - materion y bydd raid eu penderfynu cyn gweithredu ar y strwythur cyflogau diwygiedig a chydnabyddedig.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth ymhellach bydd y Panel angen rhywfaint o gefnogaeth a chyngor pan fo’n cynnal trafodaethau.  Buasai’n briodol i’r Rheolwr-gyfarwyddwr ddarparu cefnogaeth allweddol a darparu cyngor i’r Panel - ef yw Pennaeth Gwasanaeth Tâl yr Awdurdod ac mae’n annibynnol yng nghyswllt y materion mawr a phwysig y bydd raid i’r Panel eu hystyried. I bopeth ac eithrio cyflogau swyddi rheng gyntaf ac ail reng, bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ar gael i gynnig cyngor i’r Panel.

 

 

 

Nododd ymhellach y dylai'r Panel gynnwys Mr John Moore o Grwp Hay mewn perthynas â chyflogau swyddi rheng gyntaf ac ail reng i roi cyngor ar gymharu cyflogau'r swyddi hynny  gyda chyflogau'r farchnad.  Mae gwasanaethau Mr Gareth Roberts hefyd ar gael i'r Panel, sef ymgynghorydd annibynnol sydd wedi gweithio gyda'r Cyngor ar strwythur tâl i'r dyfodol a materion cysylltiedig.

 

 

 

Gofynnodd yr Aelodau pa gynnydd a wnaed gyda'r broses arfarnu swyddi gan bwysleisio y dylid symud y broses yn ei blaen.  Nododd y Cadeirydd y dylid cyflwyno i gyfarfod nesaf y Panel hwn amserlen a chylch gorchwyl i gyflogwyr.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fod y cynllun arfarnu swyddi i fod i ddod i rym ar 1 Ebrill, 2007.  Fodd bynnag, cydnabuwyd yn genedlaethol na fydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn llwyddo i gwrdd â'r dyddiad hwn.  Nododd hefyd fod yr Undebau Llafur yn delio gydag arfarnu swyddi yn genedlaethol yn hytrach nag yn rhanbarthol yn sgil achos tribiwnlys Cyngor Sir Middlesborough ac y gallai hynny arafu'r broses.

 

 

 

Trafodwyd y Panel sy'n delio'n benodol â thrafodaethau gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur.  Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr ei fod yn ystyried y dylai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforatethol) fod yn rhan o'r Panel hwn.  'Roedd aelodau'r Panel hwn yn credu y dylid penodi cynrychiolydd aelodau etholedig i wasanaethu ar y Panel sy'n trafod gyda'r Undebau Llafur.

 

 

 

Yn dilyn rhagor o drafodaethau PENDERFYNWYD:-

 

 

 

6.1  derbyn yr adroddiad.

 

 

 

6.2     ethol y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd i gynrychioli'r aelodau etholedig ar y Panel sy'n delio gyda'r Undebau Llafur.

 

 

 

6.3  cynnal cyfarfod o'r Panel hwn a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2006 pryd trafodir y materion isod:-

 

 

 

Yr amserlen ar gyfer Arfarnu Swyddi

 

Datganiad ar y Sefyllfa Drafod

 

 

 

      6.4  trefnu bod gwasanaethau Mr John Moore o Grwp Hay a Mr Gareth Roberts, yr                        ymgynghorydd annibynnol ar gael i'r Panel Cyflogau a Graddfeydd fel y cyfyd yr angen.

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD H EIFION JONES

 

                     CADEIRYDD