Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Friday, 1st June, 2007

PANEL ADOLYGU CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2007.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd H Eifion Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, R L Owen.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr;

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid);

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol);

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D R Hughes, B Owen.  

 

 

 

 

Cyn cychwyn trafod Rhaglen y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi codi mater  cynrychiolaeth ar y Panel yn dilyn y newidiadau i’r Grwpiau Gwleidyddol ar 25 Ebrill 2007.  Wedi cael cyngor cyfreithiol, ac yn unol â phenderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2006, cytunwyd y dylai Arweinydd y Grwp Annibynnol (Gwreiddiol) gadarnhau pwy fydd yn cynrychioli ei Grwp ar y Panel a gwahodd Partneriaid Cadwyn i enwebu cynrychiolydd i wasanaethu ar y Panel.

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2007 fel rhai cywir yn amodol ar y newid isod dan eitem 2.2:- (Cofnodion y Cyngor 01.05.2007, tud 78 - 80)

 

“Fel y gellid symud ymlaen gyda’r model tâl a chostau, roedd angen canllawiau ar lefel arwyddol cyflogau cyn gwneud penderfyniad.  Ni wnaed unrhyw benderfyniad ar lefelau cyflog yn unol â’r tueddiadau cyflogau y cytunwyd arnynt hyd oni fyddai’r gwaith costio wedi dod yn ôl i’r Panel fel y gellir cytuno ar faterion yn ymwneud â fforddiadwyaeth.”

 

Yn codi o’r trafodaethau manwl ar y cyflwyniad “cytunwyd ar y cyflog arwyddol i ddibenion costio”.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem uchod ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

3

AMSERLEN

 

Cyflwynwyd yr Amserlen ar gyfer y Broses Arfarnu Swyddi ar gyfer ei hystyried.  Dygodd y Cadeirydd sylw at yr oedi gyda gweithredu’r amserlen fel y cytunwyd arni yn y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ym mis Mawrth a bod, fe ymddengys, lithriad o rhwng pum a chwe wythnos yn yr amserlen y cytunwyd arni.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y gwaith a wnaed hyd yma a dywedodd wrth y Panel bod y baich gwaith yn drymach o lawer na’r hyn a ragwelwyd.  Ar hyn o bryd, mae’r Penaethiaid Gwasanaeth wrthi’n cywain gwybodaeth a fydd yn galluogi’r broses i fynd yn ei blaen.  Pwysleisiodd nad oedd ganddo unrhyw brofiad o gynnal Proses Arfarnu Swyddi ac o gofio’r peryglon a allai godi gyda brysio drwy’r broses, roedd o’n benderfynol o sicrhau bod y broses yn cael ei chyflawni yn gywir.

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd, er nad oedd yn dymuno ymddangos fel petai’n beio unigolion am yr oedi, ei fod yn dymuno sicrhau bod y broses yn cael y flaenoriaeth uchaf nid yn lleiaf er mwyn lleddfu yr aniscrwydd ymysg staff.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) er y byddai’n ceisio glynu wrth yr amserlen gyfredol, nid oedd mewn unrhyw sefyllfa i roddi sicrwydd pendant y byddai modd gwneud hynny oherwydd y baich gwaith a oedd yn gysylltiedig.  

 

 

 

Cyflwynwyd nifer o opsiynau ar gyfer cyflymu’r broses gan gynnwys “back fill”.  Roedd y Panel yn derbyn bod pwysau gwaith a gofynion statudol ar y swyddogion ond pwysleisiwyd eu bod yn dymuno prysuro gyda’r mater hwn er lles pawb a oedd yn gysylltiedig.  

 

 

 

Rhoes y Cyfarwyddwr Corfforaethol y manylion diweddaraf i’r Panel ynghylch y broses ar gyfer recriwtio aelodau o staff i wasanaethu ar Banelau Apeliadau.  Hyd yma, o’r 20 o bobl yr oedd eu hangen, dim ond 6 aelod o staff oedd wedi mynegi bodlonrwydd i wasanaethu ar y Panelau.  Mae trefniadau mewn llaw i roddi hyfforddiant i’r rheini sy’n fodlon gwasanaethu ar y Panelau, fodd bynnag, roedd yn awyddus i apelio eto am aelodau ychwanegol fel y gellid cychwyn ar y rhaglen hyfforddi.

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) at drafodaethau sy’n mynd ymlaen rhwng yr Undebau ar lefelau Cenedlaethol a Lleol ynghyd ag ACAS mewn perthynas â’r Drefn Apelio.

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth adeiladol ar y materion hynny sy’n peri pryder, CYTUNODD y Panel

 

 

 

3.1

bod y Rheolwr-gyfarwyddwr yn anfon cyfarwyddyd at yr holl Gyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth yn pwysleisio bod angen rhoddi’r flaenoriaeth uchaf i’r broses hon ar draws y Cyngor ac os oes rhaid, dylai’r Rheolwr-gyfarwyddwr drefnu cyfarfod gyda’r aelodau priodol o staff er mwyn atgyfnerthu neges y cyfarwyddyd;

 

3.2

bod y Panel yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw lithriad pellach yn yr amserlen;

 

3.3

oni fydd y Panel yn cael gwybod am unrhyw lithriad, yna fe gymerir yn ganiataol bod cynnydd yn digwydd yn unol â’r manylion a ymddengys ym Mhapur B Rhaglen heddiw.

 

 

 

4

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

 

 

Mabwysiadwyd y dyfyniad canlynol o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972:-

 

 

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni."

 

 

 

5

YR ADRODDIAD DIWEDDARAF AR GYNNYDD AR YR ADOLYGIAD O GYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

 

 

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ac ynddo’r manylion diweddaraf.  Rhoes y Swyddog adroddiad ar drafodaethau a gafwyd ac ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag amryfal agweddau o’r Adolygiad gan gynnwys materion megis Ôl-Gyflog, Materion yn ymwneud â Statws Sengl, Cynllun Oriau Gweithio Ystwyth, Amodau Gwasanaeth, Lwfansau, Goramser a Materion Gweithio wrth Gefn.  Hefyd, soniodd am y cynnydd a wnaed gan y Cyngor hwn o gymharu gydag awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) am ei adroddiad gwaith a phwysleisiodd yr angen am i’r materion hyn gael eu datrys a’u cytuno gyda’r Undebau ar frys.

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD H E JONES

 

CADEIRYDD