Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Thursday, 10th July, 2008

PANEL CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2008.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, H Eifion Jones, Ieuan Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Rheolwr Personel (Ar gyfer Eitem 8)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Keith Evans, W i Hughes

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr Martin Denny (Uwch Ymgynghorydd Allanol)

 

 

 

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Gadeirydd y Panel hwn.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd Jim Evans yn Is-Gadeirydd y Panel hwn.

 

3

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd H Eifion Jones ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 8 (Rhan 1) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arni.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw fater a allai ymwneud â gwaith ei gefnder yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 8 (Rhan 1) ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno.

 

Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 8 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2007.

 

(Tudalennau                i                o’r Gyfrol hon).

 

 

 

5

Y CEFNDIR I’R ADOLYGIAD A RÔL Y PANEL 

 

 

 

Rhoes y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gyflwyniad i’r Panel mewn perthynas â’r uchod ynghyd â dyfyniad o gofnodion y Panel Cyflogau a Graddfeydd ynghylch rôl y Panel.

 

 

 

O safbwynt sefyllfa’r awdurdod yn 1996/1997, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y cafwyd cytundeb cenedlaethol a oedd yn cyfuno mewn un cytundeb cenedlaethol ddau grwp blaenorol o weithwyr sef Staff APT&C a Gweithiwr Maniwal.  Roedd angen rhoddi sylw i fater pwysig o safbwynt cael cytundeb statws sengl sef:-

 

 

 

 

 

 

 

Ÿ

Cysoni telerau ac amodau

 

Ÿ

Cyflwyno un golofn cyflogau

 

Ÿ

Yr angen i ddylunio a chyflwyno strwythurau graddio a oedd ddim yn gwahaniaethu, sef rhai a oedd yn:-

 

 

 

Ÿ

dryloyw ac yn Deg

 

Ÿ

gwneud i ffwrdd â gwahaniaethu artiffisial a hen ffasiwn

 

Ÿ

sicrhau cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal

 

Ÿ

ategu at amcanion y sefydliad / gwasanaeth

 

Ÿ

ysbrydoli gweithwyr

 

 

 

Roedd y broses arfarnu swyddi yn ymwneud â chynhyrchu trefn restrol o swyddi a fyddai’n ffordd deg, systematig a thryloyw o asesu maint / gwerth swyddi yn y sefydliad.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod defnyddio proses arfarnu a oedd ddim yn gwahaniaethu ac a oedd yn ddadansoddol yn amddiffyniad effeithiol yn erbyn hawliadau’n ymwneud â chyflog cyfartal.  Nododd hefyd y cytunwyd mewn egwyddor ar y rhan fwyaf o’r broses ymgynghori gyda’r Undebau Llafur a bod raid i’r awdurdod gael strwythur cyflogau cadarn i’w alluogi i gystadlu am weithwyr gydag awdurdodau eraill.  Nododd ymhellach y bydd fforddiadwyaeth y broses arfarnu swyddi yn fater y bydd angen rhoddi sylw iddo ac efallai y bydd raid penderfynu ar strwythur a fydd yn cyflwyno’r broses yn raddol.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog y bydd gan y Panel, ar ran y Cyngor Sir, yr awdurdod i:-

 

 

 

Ÿ

gymeradwyo unrhyw strwythur graddfeydd diwygiedig ac amodau cysylltiedig a gynigir trwy drafodaethau;

 

Ÿ

penderfynu ar setlio unrhyw hawliadau yn ymwneud â’r materion hynny sydd wedi’u cynnwys yn y trafodaethau;

 

Ÿ

gwneud penderfyniadau interim ar faterion perthnasol y bydd raid eu datrys cyn i’r trafodaethau a’r prosesau cysylltiedig ddod i ben.

 

 

 

Dyma Gylch Gorchwyl y Panel Cyflogau a Graddfeydd:-

 

 

 

Ÿ

cadarnhau dyluniad y strwythur cyflogau y bwriedir ei ddefnyddio y tu mewn i’r Cyngor;

 

Ÿ

cyflwyno sylwadau ar faterion perthnasol;

 

Ÿ

cyfarfod yn ôl y galw, i ystyried a chynnig cyfarwyddyd i’r trafodwyr pan fo’r rheini angen cyfarwyddyd o’r fath i ddibenion trafodaethau gyda’r undebau llafur;

 

Ÿ

cymeradwyo’r amserlen a’r cynllun gweithredu arfaethedig;

 

Ÿ

cymeradwyo’r argymhellion terfynol ar ôl cwblhau trafodaethau’n llwyddiannus ar y strwythur cyflogau a materion cysylltiedig;

 

Ÿ

ystyried a phenderfynu ar unrhyw hawliadau a all godi yn sgil trafodaethau neu yn sgil y strwythur cyflogau cydnabyddedig ac unrhyw newidiadau cysylltiedig i’r amodau;

 

Ÿ

ystyried a phenderfynu ar unrhyw fater yng nghyswllt cyflogau a graddfeydd, materion y bydd raid penderfynu arnynt cyn gweithredu ar y strwythur cyflogau diwygiedig a chydnabyddedig.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H Eifion Jones faint o hawliadau am gyflog cyfartal sydd wedi llwyddo.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) nad yw’r ceisiadau hynny sydd wedi mynd trwy’r Panel Cwynion yn lleol wedi llwyddo.  Fodd bynnag, mae rhai o’r cwynion sy’n berthnasol i undeb benodol yn awr yn destun apêl a byddant yn dod gerbron Panel apelio ar adeg briodol.  Mae’r undeb arall sy’n cynrychioli’r hawlwyr wedi penderfynu peidio parhau gyda’r apêl.

 

 

 

Holodd y Cynghorydd Jones ymhellach am rôl y Panel mewn perthynas â darparu canllawiau i’r rheini a fydd yn cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau.  Nododd y bu Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel hwn, yn y gorffennol, yn gwasanaethu ar y Panel a fu’n trafod gyda’r Undebau Llafur mewn perthynas â’r cynllun arfarnu.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mai rôl Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel hwn oedd fel sylwedyddion yn unig ac nid i drafod ar y Panel penodol hwnnw a bod y cyfrifoldeb hwnnw wedi’i ddirprwyo iddo ef a’i Reolwr Personel.  Nododd y Cynghorydd Jones nad oedd o o’r farn mai sylwedydd yn unig oedd o fel Cadeirydd y Panel Cyflogau a Graddfeydd yn y Panel a fu’n trafod gyda’r Undebau Llafur.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y Panel Cyflogau a Graddfeydd hwn wedi cael holl bwer y Cyngor Sir i wneud penderfyniadau ar y strwythur cyflogau newydd.  Nododd y byddai’n anffodus dwyn aelodau o’r Panel hwn i mewn i drafodaethau gyda’r Undebau Llafur oherwydd bod perygl o wneud penderfyniad rhagblaen ac na fyddai modd i gynrychiolwyr y Panel wedyn wneud penderfyniad terfynol ar y strwythur cyflogau.  

 

 

 

Cododd y Cynghorydd H Eifion Jones fater ynghylch aelodaeth y Panel Cyflogau a Graddfeydd.  Cyn etholiadau’r Cyngor Sir a gynhaliwyd fis Mai diwethaf, nododd bod ar y Panel 6 aelod a oedd yn cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.  Roedd gan y Panel bellach 5 Aelod heb unrhyw gynrychiolydd o’r Blaid Lafur.  Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid), y gwnaeth y Cyngor Sir benderfyniad yn ei gyfarfod ar 9 Mai, 2008 y dylid gostwng aelodaeth y Panel Cyflogau a Graddfeydd o 6 i 5 aelod i greu cydbwysedd o safbwynt strwythur gwleidyddol cyfarfodydd y Cyngor Sir.  Fodd bynnag, nododd, oherwydd newid pellach diweddar yn aelodaeth y grwpiau, y disgwylir y bydd angen adolygu ymhellach y mater o gydbwysedd gwleidyddol yn fuan.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.  

 

 

 

6

DIWEDDARIAD AR Y CYNNYDD A WNAED HYD YMA

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan Mr Martin Denny, Uwch Ymgynghorydd Allanol yng nghyswllt y cynnydd a wnaed hyd yma.

 

 

 

Dywedodd Mr Denny y bu’r Cyngor yn cynnal adolygiad o’r strwythur graddfeydd oddi mewn i’r sefydliad ers 2001, wedi’i symbylu gan Gytundeb Statws Sengl 1997 ac yn rhannol o ganlyniad i adolygiad ac ailstrwythuro mewnol.  Wrth gynllunio’r ymarferiad arfarnu swyddi, sefydlodd y Cyngor yr egwyddorion a’r arfer dda a amlinellir yn y canllawiau cenedlaethol i gwblhau’r ymarferiad ac roedd hynny’n cynnwys cwblhau’r ymarferiad ar y cyd gyda’r undebau llafur.  Roedd yr ymarferiad cychwynnol a gwblhawyd yn cynnwys cyhoeddi set o sgoriau swyddi ond methodd y Cyngor â dylunio strategaeth gyflog fforddiadwy ar sail y data a gyhoeddwyd.

 

 

 

Comisiynodd y Cyngor adroddiad ym mis Mawrth 2006 gan grwp HAY i gynnal adolygiad annibynnol o gynnydd y Cyngor wrth weithredu’r cynllun.   Dynodwyd yn yr adroddiad nifer o faterion ac argymhellion.  Wrth ystyried adroddiad HAY, cynhaliodd y Cyngor adolygiad gyda Phenaethiaid Gwasanaeth.  Cafodd y sgoriau arfarnu swyddi eu hailasesu gan y Penaethiaid Gwasanaeth yn unol ag arferion lleol diwygiedig a oedd yn seiliedig ar y gwersi allweddol yn adroddiad HAY ac a oedd yn ymwneud â chanllawiau’r Cyd-Gyngor Genedlaethol.  Cafodd y Penaethiaid Gwasanaeth drafodaeth ar y cyd i geisio cael rhyw fesur o gysondeb ar draws y sgoriau a ailaseswyd.

 

 

 

Fel modd o wirio’r sgoriau ymhellach, bu’r Panel Sicrhau Ansawdd ac arno Swyddogion a chynrychiolwyr o’r Undebau Llafur yn ailasesu’r sgoriau ar ôl adolygiad y Penaethiaid Gwasanaeth gan ddefnyddio’r crynodeb o’r rhestr wirio a oedd yn Nodyn Ymgynghorol y Cyd Gyngor Cenedlaethol dyddedig Medi 2003 er mwyn :-

 

 

 

Ÿ

Ystyried a oedd y sgoriau’n gyson â’r confensiynau lleol a ddiwygiwyd

 

Ÿ

Ystyried a oedd y sgoriau’n cwrdd â chanllawiau’r Cyd Gyngor Cenedlaethol ar sicrhau safon gan nodi’n benodol :-

 

 

 

Ÿ

Y defnydd o ffactorau

 

Ÿ

Dosbarthiad gwerthusiadau

 

Ÿ

Gwiriadau ffactor penodol

 

Ÿ

Amrediad cyffredinol y sgoriau wedi eu pwysoli

 

Ÿ

Gwiriadau penodol o sgoriau cyfan a bwysolwyd

 

 

 

Dywedodd Mr Denny ymhellach, er mwyn cefnogi’r broses, bod dau grwp ychwanegol o reolwyr a chynrychiolwyr yr undebau llafur wedi cael eu hyfforddi yng nghynllun Arfarnu Swyddi’r Cyd Gyngor Cenedlaethol.  Bu gan y rheini rôl bwysig yn y prosiect diweddaraf i gynhyrchu rhestr fwy cyson o drefn restrol y swyddi.  Cytunwyd ar y cyd ar y fethodoleg fanwl a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ymarfer hwn ac roedd yn seiliedig ar Sicrhau Ansawdd Arfarnu Swyddi y Cyd Gyngor Cenedlaethol : Rhai gwiriadau pellach (’sore thumbing’)/safoni.  Roedd hyn wedi cynnwys defnyddio gwybodaeth a oedd yn cynnwys data y Penaethiaid Gwasanaeth, siartiau sefydliadol, cyfarfodydd â Phenaethiaid Gwasanaeth a nodiadau panel.  Roedd swyddi’r panelwyr wedi cael eu harfarnu’n annibynnol gan yr Ymgynghorydd LGE a chynrychiolydd Undeb Llafur.

 

 

 

Cymerwyd y camau allweddol canlynol i sicrhau trefn restrol gyson a thryloyw ar bob cam yn y rhan hon ac roedd y paneli prosiect wedi cyfiawnhau a rhoi rhesymau dros unrhyw newidiadau yn y sgoriau:-

 

 

 

Ÿ

Cam 1 - Adolygu Meincnod swydd yng ngoleuni’r adroddiad archwilio.  Canfuwyd bod raid cymryd nifer o swyddi ychwanegol ac ailsgorio’r holl feincnodau swyddi.   

 

 

 

Ÿ

Cam 2 - Cymryd yr holl swyddi mewn trefn restrol gyda threfn uchaf-isaf a gwirio i weld fod yr arfarnu yn dilyn yn gyffredinol y swyddi meincnod a dynodi’r swyddi hynny a oedd angen eu gwirio ymhellach (sore thumbing).

 

 

 

Ÿ

Cam 3 - Ymgymryd â chymariaethau ffactor wrth ffactor o’r cyfan o’r 13 ffactor unigol.

 

 

 

Ÿ

Cam 4 - Gwirio yn erbyn strwythurau sefydliadol fesul adran ac yn erbyn hierarchaethau.  Aethpwyd â hyn i lefel gwasanaeth.

 

 

 

Ÿ

Cam 5 - Gwirio yn erbyn ‘teuluoedd’ o swyddi.

 

 

 

Ÿ

Cam 6 - Adolygu’r sgoriau gyda Phenaethiaid Gwasanaeth.

 

 

 

Nodwyd bod angen rhoddi sylw gofalus i’r modd y bydd y broses a’r canlyniadau’n cael eu cyfathrebu er mwyn codi hyder yn y cynllun a’i dryloywder yn awr ac yn y dyfodol.  Oherwydd yr amser a gymerwyd i gwblhau’r ymarferiad arfarnu, mae angen cytuno ar broses apêl fanwl i’r cam hwn a chyfathrebu hynny i’r holl staff h.y. os yw swyddi wedi newid yn sylweddol yn ystod yr amser hwn, rhaid cael cytundeb ar y modd yr arfernir y newidiadau.  Mae angen cynllunio hefyd sut y bydd swyddi yn y dyfodol yn cael eu harfarnu gan gynnwys swyddi newydd, newidiadau i swyddi presennol a swyddi yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac anuniongyrchol gan adolygiadau sefydliadol.

 

 

 

Mae gan y Cyngor ar hyn o bryd nifer o swyddi gyda bandiau eang ac mae cynnydd yn amodol ar gymwysterau.  Rhaid rhoi ystyriaeth i ddatblygu graddfeydd gyrfaol.

 

 

 

Bydd angen i’r Cyngor gwblhau asesiad ardrawiad cydraddoldeb ac adolygu’r cynllun yn rheolaidd o safbwynt cysondeb a chydraddoldeb.

 

 

 

Dywedodd Mr Denny bod mwy o’r swyddi yn awr yn agosach at ei gilydd o safbwynt bandiau a graddfeydd; o’r blaen, roedd gan y Cyngor graff ‘gwasgaredig’ o swyddi heb unrhyw bosibilrwydd o’u rhoddi mewn bandiau.  Mae’r Cyngor bellach wedi cyrraedd pwynt yn y broses lle gallant weithio allan band cyflog mwy derbyniol.  

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y Panelwyr arfarnu swyddi wedi gwneud llawer o waith i gyrraedd carreg filltir yn y broses yn awr ac y bydd y gwaith o ailfodelu’r strwythur cyflog yn cychwyn.  Ategodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod y Panelwyr wedi gwneud oriau o waith yn ystod y broses ac mai mater fforddiadwyaeth y cynllun sy’n codi’n awr.  Roedd yr Aelodau’n dymuno diolch i’r Panelwyr am eu gwaith.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.  

 

      

 

7

Y GWAITH A WNEIR AR HYN O BRYD A’R AMSERLEN I’R DYFODOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - yr amserlen ar gyfer gwaith cyfredol ac amserlen i’r dyfodol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y disgwylid y byddai’r drefn restrol newydd a’r strwythur cyflogau yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi.  Roedd o’n disgwyl y bydd pob aelod o staff yn derbyn llythyr yn nodi ei sgôr arfarnu swyddi a’r band cyflog newydd.  Bydd sesiynau briffio hefyd ar gael i’r cyfan o’r staff yn ystod mis Medi.

 

     Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y bydd yr amserlen yn cael ei hadolygu’n barhaus a gobeithir y bydd staff yn gwybod canlyniad y broses arfarnu swyddi erbyn canol mis Medi.  Nododd fodd bynnag y bydd y materion yn ymwneud â fforddiadwyaeth yn fater i’r Panel Cyflogau a Graddfeydd ei drafod a bydd y trafodaethau gyda’r Undebau Llafur yn parhau.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd H Eifion Jones ei fod o’n gobeithio y bydd ochr weinyddol y broses arfarnu yn parhau yn ystod y trafodaethau.  Dywedodd y dylai’r Panel dderbyn gwybodaeth ynghylch taliadau wrth gefn, materion ôl-gyflog a chostau teithio.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod yna faterion y bydd raid i’r Panel eu trafod yn fanwl ac awgrymodd y dylid cynnal cyfarfod o’r Panel ym mis Awst.

 

      

 

     PENDERFYNWYD

 

      

 

7.1

nodi’r amserlen ar gyfer gwaith cyfredol a gwaith yn y dyfodol.

 

      

 

7.2

bod cyfarfod o’r Panel Cyflogau a Graddfeydd yn cael ei gynnal ar ddyddiad cyfleus i’r Aelodau yn ystod mis Awst.

 

      

 

     EITEM YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GAN Y PANEL

 

      

 

     CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

      

 

     PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

      

 

     "Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni."

 

      

 

8

TALIADAU YCHWANEGOL PENODOL - RHEOLEIDDIO

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn perthynas â’r uchod.

 

      

 

     Dywedodd y Rheolwr Personel y codwyd pryderon yn ystod cyfnod y Rheolwr-gyfarwyddwr blaenorol yn y swydd.  Cymeradwywyd tri achos o daliadau ychwanegol gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ei hun ac mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) a’r Aelod Portffolio (Adnoddau Dynol).  Roedd y tri achos yn ymwneud â Swyddogion a gyflogwyd yn unol â thelerau ac amodau’r JNC a lle roedd cyfansoddiad y Cyngor yn nodi mai’r Cyngor Sir ei hun sy’n gyfrifol am benderfynu ar delerau ac amodau cyflogi Swyddogion o’r fath.

 

      

 

     Roedd y tri achos yn ymwneud â:-

 

      

 

Ÿ

dau increment ychwanegol a roddwyd i Gyfarwyddwr Corfforaethol am gyfrifoldebau ychwanegol;

 

Ÿ

lwfans o 7.5% o gyflog sylfaenol a roddwyd i Bennaeth Gwasanaeth am drefniadau allan o oriau;

 

Ÿ

cydnabyddiaeth ariannol a roddwyd i Bennaeth Gwasanaeth a weithredodd fel un o’r Panelwyr i bwrpas yr ymarfer arfarnu swyddi.

 

 

 

Gofynnodd yr Aelodau am ychwaneg o wybodaeth am yr ail achos. (document not available)Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD:-

 

 

 

8.1     cadarnhau’r ddau increment ychwanegol a roddwyd i Gyfarwyddwr Corfforaethol am gyfrifoldebau ychwanegol hyd oni fydd penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud mewn perthynas â swydd y Cyfarwyddwr o fewn yr adolygiad cyfredol o gyflogau a graddfeydd.

 

      

 

8.2     cadarnhau’r lwfans a roddwyd i’r Pennaeth Gwasanaeth am drefniadau allan o oriau ond rhoddir rhybudd o 3 mis i’r Swyddog y bydd y taliadau’n dod i ben, gyda golwg ar i’r Panel adolygu’r angen am y taliadau hyn yn y cyfamser.

 

      

 

8.3     cadarnhau’r taliad a roddwyd i’r Pennaeth Gwasanaeth a weithredodd fel Panelwr i bwrpas y broses arfarnu swyddi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

      

 

     Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

     CADEIRYDD

 

 

 

Trove Loading Errors

 

A page break in a paragraph has been ignored.