Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Tuesday, 11th November, 2008

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, Aled Morris Jones, W. I. Hughes, H. Eifion Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

2

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r isod :-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohonoi. "

 

3

TALIADAU YCHWANEGOL - RHEOLEIDDIO

 

Nododd y Cadeirydd y gohiriwyd yr eitem hon yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2008 a hynny ar gais yr Arweinydd oherwydd bod angen trafodaeth bellach mewn perthynas â'r mater hwn.

 

Ailgyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn perthynas â threfniadau rheoli interim er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o fewn y Cyngor Sir yn cael y gefnogaeth gywir gyda llinellau atebolrwydd clir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Eifion Jones at yr ail baragraff yn yr adroddiad mewn perthynas â Phennaeth Gwasanaeth sy'n ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Corfforaethol ac sydd hefyd wedi ei enwebu fel Cyfarwyddwr yr Adran benodol honno.  Cyfeiriodd ymhellach at Gyfansoddiad y Cyngor ac yn arbennig felly at 2.12.1.2.4 a ddywed "Full Council should engage this post".  Gofynnodd y Cynghorydd Jones a oedd y trefniadau uchod am gyfnod dros dro ac a oedd gan y Panel hwn yr awdurdod i gymeradwyo trefniadau interim o'r fath.  Nododd nad oedd hynny'n glir yn yr adroddiad.  Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud bod y trefniadau hyn yn rhai interim yn unol â phennawd yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod ganddo ef, fel Pennaeth y Gwasanaethau Tâl, bwerau dirprwyol yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor i gymeradwyo trefniadau interim er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn y Cyngor Sir yn cael eu cynnal a'u bod yn ddiogel.  Roedd y Cynghorydd H. Eifion Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi y gall Pennaeth y Gwasanaethau Tâl o'r herwydd wneud trefniadau interim ac mewn gwirionedd, roedd y Panel yn cefnogi hynny yn y cyfarfod hwn.  Nid oedd yn dymuno mynd yn groes i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jones y dylid cytuno ar ddyddiad pryd y deuai'r trefniadau interim hyn i ben.  Ymatebodd y Rheolwr-gyfarwyddwr trwy ddweud nad yw hynny wedi ei ddatgan yng Nghyfansoddiad y Cyngor.  Nododd y Cadeirydd y gellid trafod y mater yn y cyfarfod nesaf o'r Panel hwn er mwyn gwneud penderfyniad ar ystyr trefniadau dros dro.

 

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd A. M. Jones bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a pheidio â phennu dyddiad i'r trefniadau interim dod i ben.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi a chytuno i'r trefniadau talu interim yn yr Adran benodol hon.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

CADEIRYDD