Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Wednesday, 16th September, 2009

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, W.I. Hughes, H. Eifion Jones,

Raymond Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid),

Pwyllgor Swyddog (MEH)

 

 

 

 

 

1

DATGANIADAU O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn unrhyw fater a allai ymwneud â swydd ei gefnder yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 4 - Adolygiad o Dâl a Graddfeydd Uwch Reolwyr.

 

Gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 4 - Adolygiad o Dâl a Graddfeydd Uwch Reolwyr.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2009.

(Cofnodion Chwarterol y Cyngor Sir, 15 Medi, 2009, Tudalennau 159 i 161)

 

3

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Profion Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm wrth yr adroddiadau.”

 

4

ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD UWCH REOLWYR

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod yna ymrwymiad hirsefydlog, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn yr adolygiad tâl a graddfeydd ehangach, y byddai swyddi uwch reolwyr (sef Prif Weithredwr (Rheolwr-gyfarwyddwr), Cyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol (Penaethiaid Gwasanaeth) yn cael eu harfarnu ac y byddai’r canlyniadau’n cael sylw ar yr un pryd â’r adolygiad ehangach hwnnw.  Roedd dau reswm dros wneud hyn:-

 

 

Ÿ

Dylid delio gydag Uwch Reolwyr ar yr un pryd â gweddill y gweithlu er mwyn osgoi unrhyw argraff neu honiad o driniaeth ffafriol.

 

 

 

Ÿ

Byddai delio gyda’r ddau ymarfer ar yr un pryd yn golygu y gellid creu un rhestr wrthrychol o swyddi mewn trefn ranc o’r brig i’r gwaelod yn y sefydliad.

 

 

 

Dan y telerau a’r amodau cenedlaethol, roedd swyddi uwch reolwyr yn dod o dan broses arfarnu ar wahân, sef ‘Cynllun Hay’.  Roedd y dadansoddiad a’r broses arfarnu a wnaed yn annibynnol gan sefydliad Hay yn nodi bod tair swydd - y tair ar lefel Pennaeth Gwasanaeth - o fewn yr hierarchaeth swyddi a sefydlwyd trwy adolygiad y Cyngor o’r sefydliad yn 2000/2001 - mewn gwirionedd yn cyfateb i swyddi uwch ac fe gawsant eu symud i fyny trwy gyfeirio at y drefn gyfredol.  Aeth un swydd i lawr dan yr un broses.

 

 

 

Roedd yr adolygiad croesgyfeiriol o ganlyniadau cynllun Hay a’r Llyfr Gwyrdd yn nodi bod tair swydd (Rheolwyr Gwasanaeth) yn gorgyffwrdd â gwaelod trefn ranc Hay ac y dylid cynnwys y swyddi hyn yn yr adolygiad o swyddi uwch reolwyr.  Pe bai hynny’n cael ei wneud, byddai’n golygu cynnydd bychan yng nghost yr adolygiad o swyddi uwch reolwyr, ond, ar yr un pryd, byddai’n gostwng cost yr adolygiad Llyfr Gwyrdd.  O ran trefn ranc Hay a’r llinell dâl bosib, efallai y byddai goblygiadau cost symud y tair swydd hyn o fantais i’r Cyngor Sir.

 

 

 

Hyd nes y bydd y Panel Tâl a Graddfeydd wedi gwneud penderfyniad ar y llinell dâl ar gyfer yr adolygiad o gyflogau swyddi uwch reolwyr, nid oes modd sefydlu byddai yw cost gweithredu’r elfen honno o’r adolygiad.   

 

 

 

Nododd y Swyddog y gwnaed cyfeiriad yn y cyfarfod diwethaf o’r Panel hwn at yr adolygiad sydd ar y gweill o swyddi uwch reolwyr y mynnwyd arno gan Weinidog Cynulliad Cymru a allai olygu bod y strwythur rheoli uchel yn newid.  Os byddai’n newid, efallai y byddai angen edrych eto ar rai o’r arfarniadau.   Roedd y cyfarfod yn credu y dylid ystyried gohirio’r adolygiad uwch reolwyr hyd nes y byddai’n Rheolwr-gyfarwyddwr Interim wedi cwblhau ei adolygiad.  

 

 

 

Dywedodd y Swyddog wrth aelodau’r Panel y byddai’r Undebau Llafur yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw symudiad i ffwrdd o’r ymrwymiadau hirsefydlog i ddelio gyda’r ddau ymarfer ar yr un pryd.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones y cafwyd cytundeb yn y cyfarfod diwethaf i ohirio’r adolygiad  o swyddi uwch reolwyr oherwydd y posibilrwydd y byddai newidiadau sylweddol yn yr adolygiad rheoli.  Argymhellodd y dylid gohirio’r adolygiad.  

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio’r adolygiad o gyflogau uwch reolwyr hyd oni fyddai’r Rheolwr-gyfarwyddwr Interim/Pennaeth y Gwasanaethau Tâl wedi cwblhau’r adolygiadau sydd wedi eu rhaglennu.

 

 

 

5

DIWEDDARIAD MANWL AR YR ADOLYGIAD TÂL A GRADDFEYDD

 

 

 

Dosbarthodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gopi drafft o’r pecyn arfarnu swyddi I Aelodau’r Pwyllgor yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.  

 

 

 

Nododd mai prif egwyddor yr adolygiad yw statws sengl yn nhermau trin pawb yn gyfartal o fewn y grwpiau tâl sydd wedi cyfuno.  Mae’r awdurdod wedi bod yn edrych ar yr adolygiad o berspectif ei fod yn gynaliadwy o safbwynt ariannol ac yn seiliedig ar ddatblygu sgiliau/gwybodaeth.  Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith mewn perthynas â’r adolygiad ei gwblhau erbyn Medi 2007 ond cafwyd problemau i ddod o hyd i ‘linell dâl’ a fyddai’n gweithio’n ymarferol.  Nododd y Pennaeth Gwasanaeth fod gan yr adolygiad strwythur o 11 o raddfeydd tâl o gymharu gyda bron i 200 o raddfeydd tâl yn flaenorol.  Byddai strwythur graddfeydd yn y dyfodol yn seiliedig yn rhannol ar gynnydd yn seiliedig ar allu.  Mae hyn yn golygu y bydd raid cynnal gwerthusiadau yn rheolaidd ac yn gyson.

 

 

 

Mae’r model y bu’r Swyddogion yn gweithio arno yn dangos bod dros draean o’r gweithwyr ar y raddfa gyflog gywir; nad yw oddeutu hanner yn cael digon o gyflog a bod 16% yn cael gormod o gyflog.  Parheir i weithio ar oblygiadau ariannol yr adolygiad.  

 

 

 

Holodd y Cynghorydd H. Eifion Jones am y diogelwch cyflog y mae’r awdurdod yn ystyried ei gynnig i’w weithwyr.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod y diogelwch cyflog sy’n cael ei ystyried yn seiliedig ar bolisi’r Cyngor o roi 4 blynedd.  Roedd y Cynghorydd Jones o’r farn bod y diogelwch yn hael o gymharu gydag awdurdodau eraill; nododd fod Cyngor Gwynedd yn cynnig diogelwch am 3 blynedd a bod awdurdod arall yng Ngogledd Cymru yn cynnig diogelwch am flwyddyn yn unig.   Nododd y Pennaeth Gwasanaeth bod y cynlluniau y cyfeiriwyd atynt gan y Cynghorydd Jones yn cael eu talu ar sail diogelwch ar y cyflog gros ond y bydd yr awdurdod yn talu diogelwch ar y cyflog net.  

 

 

 

Dosbarthodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gopi o gynllun peilot Data-bas Gwybodaeth am y Farchnad o awdurdodau lleol eraill a swyddi sector cyhoeddus er mwyn rhoi syniad i’r Aelodau ynghylch sut y mae’r strwythurau cyflog yn cymharu gyda swyddi a hysbysebwyd gan awdurdodau eraill.  

 

 

 

Cyfeiriodd y Swyddog ar y rhan honno o’r pecyn yn dilyn trafodaethau mewn Gweithgor ar y Cyd ar y manteision hynny a allai arwain at arbedion i’r awdurdod e.e. gweithio 5 allan o 7 niwrnod.  Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at Deithio Busnes; bydd y pecyn hwn yn arwain at arbedion i’r awdurdod.  Nododd bod yna nifer o faterion yn ymwneud ag ôl-gyflog a bod oddeutu 100 o achosion mewn perthynas â hawliadau cyflog cyfartal yn disgwyl am benderfyniad Tribiwnlys ac y gallai hynny arwain at geisiadau am iawndal i’r awdurdod.   Ymatebodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod angen i’r Panel hwn dderbyn rhestr ynghylch faint fydd y materion hyn yn ei gostio i’r awdurdod.  Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod arbedion yn bosibl yn sgil y cynllun hwn ac y bydd rhestr o’r costau ar gael yn y cyfarfod nesaf o’r Panel hwn.  Gofynnodd y Cadeirydd am wybodaeth i’r cyfarfod nesaf ynghylch cyfnod diogelwch yn achos gweithwyr sy’n colli’r lwfans defnyddiwr car hanfodol ynghyd â gwybodaeth ynghylch nifer y gweithwyr sy’n derbyn y lwfans defnyddiwr car hanfodol.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod yr awdurdod yn wynebu toriadau llym yn ystod y deng mlynedd nesaf.  Mae’r gweithlu’n costio £40m gyda’r posibilrwydd o godiad cyflog oherwydd symud ymlaen ar y raddfa yn costio £4m arall.  Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones y dylai’r modelau tâl fod ar gael erbyn hyn; mae’n amlwg na fedr yr awdurdod fforddio codiadau cyflog oherwydd symud ymlaen ar y raddfa.  Nododd mai dyma pam y mae’n rhaid i’r Panel hwn fod yn ymwybodol o ffyrdd o grafangu’r arian hwn yn ôl, h.y. drwy ostwng y diogelwch cyflog.  

 

 

 

Nododd y Cadeirydd ei bod hi’n amlwg bod llawer o waith ar ôl i’w wneud; roedd o dan yr argraff yn y cyfarfod diwethaf y byddai’r bleidlais ymysg gweithwyr ynghylch derbyn/gwrthod y pecyn wedi’i chynnal ym mis Rhagfyr.  Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) y bydd adroddiad ar y model tâl, gyda gobaith, yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Panel hwn.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y gobeithir cynnal cyfres o sioeau teithiol ym mis Hydref ar gyfer holl weithwyr yr awdurdod i gyflwyno’r pecyn arfarnu swyddi, gyda llythyrau personol i weithwyr yn nodi canlyniadau’r broses arfarnu swyddi a’r llinell dâl.  Mae’r Undebau Lleol a Rhanbarthol wedi derbyn cyfarwyddyd i beidio â chymryd rhan yn y sioeau teithiol hyd oni fydd yr Undebau Llafur Cenedlaethol wedi derbyn y pecyn mewn egwyddor.  Mae’r drefn hon ar hyn o bryd yn cymryd hyd at 3 i 4 wythnos i’w chwblhau.  Cytunwyd mai’r diwrnod gweithredu fydd 1 Ionawr, 2010.  

 

 

 

Nododd y Chyngorydd H. Eifion Jones, pan edrychwyd ar y broses arfarnu swyddi ydychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y marchnadoedd ariannol byd-eang yn hollol wahanol i’r hyn y maent yn awr.  Rhaid i’r Undebau Llafur wynebu’r ffaith nad yw’r awdurdod mewn sefyllfa i roi pecyn mor hael â’r pecyn a ystyriwyd ddwy flynedd yn ôl.   Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod raid i’r awdurdod benderfynu ar ateb call o safbwynt cyflogau neu fe all y Cyngor wynebau costau mwy sylweddol o lawer petai unigolion yn mynd i’r tribiwnlys i setlo hawliadau cyflog cyfartal.  Efallai y bydd staff hefyd yn gadael yr awdurdod oherwydd bod Cynghorau eraill yn talu’n well.  

 

 

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno gwybod am y tasgau y bydd rhaid ymgymryd â nhw yn ystod y misoedd nesaf er mwyn gweithredu’r cynllun arfarnu swyddi.  Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Y Panel Tâl a Graddfeydd i gymeradwyo’r cynllun arfarnu swyddi;

 

Ÿ

Y pecyn arfarnu swyddi i gael ei anfon at yr Undebau Llafur Cenedlaethol (mis i gael ei gymeradwyo);

 

Ÿ

Sioeau teithiol gyda’r gweithlu (2/3 wythnos);

 

Ÿ

Llythyrau personol i’r gweithwyr;

 

Ÿ

Pleidlais ymysg y gweithwyr (2 wythnos);

 

Ÿ

Proses weithredu a delio gydag apeliadau;

 

Ÿ

Dyddiad gweithredu - 1af Ionawr, 2010.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod rhaid i Aelodau’r Panel hwn gael y ffeithiau i gyd yn y cyfarfod nesaf cyn y gellir gwneud penderfyniad cadarn i dderbyn y pecyn arfarnu swyddi.

 

 

 

PENDERFYNWYD bod y pecyn cyfan mewn perthynas ag arfarnu swyddi a modelu tâl yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf o’r Panel hwn a gynhelir ar 22 Hydref, 2009.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

CADEIRYDD