Meeting documents

Pay and Grading Review Panel
Thursday, 22nd October, 2009

PANEL TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2009.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, W i Hughes, H Eifion Jones,

Raymond Jones

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr G Pearce (Link Consultants)

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2009.

 

3

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hynny ym Mharagraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm wrth yr adroddiadau."

 

4

CYNIGION TÂL A GRADDFEYDD

 

Ÿ

Adolygiad Tâl a Graddfeydd y Cyngor Sir : Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gyflwyniad ac adroddiad i’r Panel mewn perthynas â’r uchod.  Cyfeiriodd at Gytundeb Statws Sengl 1987 a nododd y rhwymedigaethau statudol a’r rhwymedigaethau a’r disgwyliadau eraill sy’n llifo o’r Cytundeb.  Pwysleisiodd y sialensiau allweddol i’r Cyngor Sir fel:

 

 

 

Ÿ

sicrhau datrysiad tâl derbyniol sy’n cyd-fynd gyda’r strwythur tâl am allu fel y cytunwyd eisoes.

 

 

 

Ÿ

cyfyngu, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, ar y nifer o swyddi cylchoedd coch a chylchoedd gwyrdd.

 

 

 

Ÿ

dangos, yn ymarferol, bod y Cyngor yn cwrdd â’i ddyletswyddau statudol o ran tâl cyfartal am waith o werth cyfartal.

 

 

 

Cyfeiriwyd at y dadansoddiad risg a oedd yn ceisio egluro’r risgiau a manteision cymeradwyo ac / neu methu gweithredu o ran y cynigion a gyflwynir yn awr.

 

Ynghlwm wrth adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) roedd y Cytundeb arfaethedig a oedd yn cynnwys yr holl elfennau y penderfynwyd arnynt trwy drafodaethau manwl gyda’r undebau llafur cydnabyddedig.  Ystyriwyd bod y cynnwys yn cynrychioli’r canlyniad gorau posib y mae modd ei gael trwy drafodaeth, gan gydnabod yr amgylchiadau ariannol heriol y mae’r Cyngor Sir yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Wrth gyflwyno’r set o gynigion a nodir yn y cytundeb, atgoffwyd aelodau’r Panel, unwaith y bydd y cytundeb wedi’i gymeradwyo’n lleol, fe gaiff ei archwilio gan swyddogion cyfreithiol cenedlaethol yr Undebau Llafur fel bod modd iddynt wneud sylwadau arno.  Wedi hynny cynhelir pleidlais leol ymysg aelodau’r tri undeb llafur.

 

 

 

Dygwyd sylw aelodau’r Panel yn benodol at:-

 

 

 

Ÿ

Strwythurau Graddio arfaethedig

 

Ÿ

Symud i fyny’r raddfa yn seiliedig ar allu

 

Ÿ

Canlyniadau Arfarnu Swyddi a Goblygiadau’r Llinell Dâl

 

Ÿ

Cymhathu

 

Ÿ

Ychwanegiadau Marchnad

 

Ÿ

Hyblygrwydd Gwaith

 

Ÿ

Manteision Hyblyg

 

Ÿ

Teithio Busnes

 

Ÿ

Taliadau am fod ar alwad

 

Ÿ

Cymorth i weithwyr unigol gan gynnwys diogelu tâl a thelerau ac amodau

 

 

 

Er nad yw’r Cynllun Gweithredu wedi’i gwblhau’n derfynol, mae cytundeb mewn egwyddor, i ddyddiad y gweithredu ffurfiol ar gyfer y cytundeb, sef 1 Ionawr 2010.

 

 

 

Nodwyd hefyd y byddai Trefn Apelio ar gyfer sialensiau ar ddwy lefel:-

 

 

 

Ÿ

Adolygiad Anffurfiol a ddylai sicrhau bod modd delio gyda’r rhan fwyaf o gamgymeriadau / addasiadau yn gyfeillgar a’u datrys, gan ostwng felly nifer gwrandawiadau apêl ffurfiol diangen neu amhriodol.

 

 

 

Ÿ

Apêl ffurfiol lle bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

 

 

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar nifer o faterion gan gynnwys y cytundeb arfaethedig, ac argymhellwyd fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

rhaid gweithredu cynllun gwerthuso cyson;

 

Ÿ

dylid egluro’n ddiamwys na fydd swyddogion yn symud i fyny’r raddfa heb dystiolaeth bod gwerthusiad wedi’i wneud;

 

Ÿ

rhaid adolygu’n rheolaidd unrhyw ychwanegiadau marchnad a gynigir;

 

Ÿ

teithio busnes - gofynnwyd i’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) geisio aildrafod un rhan o’r cynigion

 

 

 

Ÿ

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldebau

 

 

 

Cafwyd cyflwyniad ac adroddiad gan Mr G Pearce o Link Consultants ar yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldebau.  Nododd bod Link Consultants wedi bod yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â’r broses arfarnu swyddi.  Nododd mai pwrpas ei adroddiad oedd asesu’r effaith ar gender sy’n codi o gynigion y Cyngor gan roi sylw i nifer o faterion gan gynnwys:-

 

 

 

Ÿ

Y dewis o’r cynllun arfarnu;

 

Ÿ

Y broses arfarnu swyddi;

 

Ÿ

Y strwythur tâl a graddfeydd arfaethedig;

 

Ÿ

Bwlch tâl rhwng y ddau ryw;

 

Ÿ

Dadansoddiad agosrwydd.

 

 

 

            Ystyrir bod y cynllun CJC a ddefnyddiodd Cyngor Sir Ynys Môn yn cydymffurfio gyda’r meini prawf               a sefydlwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn Cyfleon Cyfartal (sydd bellach yn rhan o’r Comisiwn      

 

            Cydraddoldebau a Hawliau Dynol) ar gyfer arfarnu swyddi’n ddiduedd.  Mae’n amlwg bod y  

 

            trefniadau a sefydlwyd yn lleol wedi’u datblygu ar y cyd gyda’r undebau llafur gan gymryd i

 

            ystyriaeth yr arweiniad a’r egwyddorion yng nghynllun CJC.

 

 

 

Datblygwyd cyfres o strwythyrau tâl a graddfeydd arfaethedig a gafodd eu harfarnu wedyn o ran eu heffaith ar staff a fforddiadwyaeth.  Mae’r strwythur a gynigir yn ostyngiad sylweddol yn nifer y graddfeydd unigol o gymharu â’r strwythur graddio cyfredol.  

 

 

 

Cyflwynodd gyfres o ddadansoddiadau a oedd yn cadarnhau darlun cadarnhaol o’r cynigion, o ran cydraddoldebau.  Roedd yn ymarfer da a llwyddiannus iawn o ran moderneiddio strwythur tâl yr awdurdod yn y modd a ragwelwyd gan y cyflogwyr cenedlaethol ar gychwyn Statws Sengl.

 

 

 

O ran y cynigion cyffredinol casglodd fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

mae’r strwythur graddio arfaethedig yn briodol ac mae’n cynnwys graddfeydd cynyddrannol ar gyfer yr holl weithwyr lle nad yw hyd y raddfa yn fwy na phum cam cynyddrannol ac mae’n seiliedig ar linellau graddfeydd cyson.  Nid oes unrhyw bwyntiau gorgyffwrdd yn y strwythur.  

 

Ÿ

Mae defnyddio cynllun arfarnu swydd CGC yn gyson gyda’r canlyniadau a ddisgwylir.  Fe gafodd ei weithredu yn gyson â’r egwyddorion yng nghanllawiau’r CGC.

 

Ÿ

y canran gyffredinol o gylchoedd coch yn seiliedig ar dâl sylfaenol yw 18.50% a bydd cyfran fwy o weithwyr gwrywaidd yn cael eu gwarchod.  Mae nifer y gweithwyr a warchodir yn gyson gyda’r gyfran gyffredinol yn y gweithlu yn seiliedig ar gender.

 

Ÿ

bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn gweld cynnydd yn eu huchafswm tâl o gymharu â’r strwythur cyfredol.

 

Ÿ

mae’r bwlch tâl rhwng y ddau ryw yn gyffredinol yn sylweddol, sef 24.95%, ond bydd hyn yn gostwng yn seiliedig ar y cynigion.  Bydd hyn yn gostwng ymhellach hefyd wrth i weithwyr symud tuag at frig y raddfa dâl newydd.  Mae gostyngiad sylweddol yn y bwlch tâl rhwng y ddau ryw ar lefel graddfeydd unigol o ganlyniad i’r strwythur newydd, ac nid oes raid ymchwilio ymhellach na dadansoddi mwy ar unrhyw raddfa unigol.  Pwysleisiodd nad yw’r bwlch tâl sylweddol yn codi o’r cynigion, ond mae’n rhan annatod o gyfansoddiad y gweithlu.

 

Ÿ

mae lleoliad y llinellau graddfeydd yn cael effaith ar weithwyr benywaidd a gwrywaidd o ran y rheini sy’n agos i’r raddfa uwchben neu islaw.

 

 

 

Agweddau Ariannol yr Adolygiad Tâl a Graddfeydd

 

 

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) adroddiad i’r Panel ar agweddau ariannol yr Adolygiad Tâl a Graddfeydd.

 

 

 

Adroddwyd bod ymarfer modelu tâl manwl wedi’i gynnal gan ddefnyddio’r pecyn meddalwedd Northgate Arinso (Link) a oedd yn cynnwys y mwyafrif llethol o’r swyddi a arfarnwyd gan y Cynllun Arfarnu Swyddi.  Mae’n cynnwys swyddi fel yr oeddynt ar 31 Mawrth 2007, ar sail “cyn gorbenion” a heb gynnwys lwfansau.  Mae’r strwythyrau arfaethedig wedi’u modelu ar sail swyddi ac Amser Llawn Cyfatebol.

 

 

 

O ganlyniad i’r ymarfer arfarnu swyddi, mae rhai newidiadau sylweddol yn nhrefn ranc swyddi, gan fod nifer o grwpiau mawr yn mynd i fyny’r drefn.  Hyn sy’n gyrru rhan o’r cynnydd yn y costau.  Mae 16% o’r unigolion yn y model yn cael gwarchodaeth cyflog.

 

 

 

Mae dyluniad y strwythur newydd hefyd yn cael effaith ar symud i fyny’r raddfa fesul increment; mae llawer o hen swyddi maniwal ar gyflogau ‘spot’ yn cael eu cymhathu i raddfeydd 4 neu 6 phwynt; mae rhai graddfeydd gyrfa hir yn cael eu cymhathu i mewn i raddfa 6 phwynt; mae lefelau mynediad yn cael eu chwyddo o bwynt 4 i bwynt 10 mewn rhai achosion.

 

 

 

Mae trosiant staff dan y strwythur cyfredol bron â bod yn wastad, gyda nifer fawr o staff ar ben uchaf y raddfa a chyda symudiad cynyddrannol yn cael ei gydbwyso gan ddechreuwyr newydd.  Mae’r twf ar gyfartaledd yn llai na 0.5% y flwyddyn.  Bydd y newid hwn yn dod â’r cylchoedd gwyrdd (50% o’r staff) i waelod eu graddfa, sy’n cyfateb i lefelau uchel o symudiad cynyddrannol am y pum mlynedd nesaf - neu 9.49% fel cyfanswm.

 

 

 

Oherwydd nad yw lwfansau wedi’u cynnwys yn y prif ymarfer modelu tâl, bu raid eu hystyried ar wahân.  Fel rhan o’r Adolygiad Tâl a Graddfeydd hwn, mae’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol wedi bod yn trafod nifer o newidiadau gyda’r Undebau.  Mae’r newidiadau arfaethedig i’w gweld yn y cytundeb drafft.  Nodwyd bod gan yr isod effaith ariannol:-

 

 

 

Ÿ

Lwfansau Amrywiadwy - Cynhaliwyd ymarfer i nodi unrhyw lwfansau sy’n cydnabod dyletswyddau neu gyfrifoldebau sy’n cael eu sgorio yn y broses Arfarnu fel nad ydynt yn cael eu cyfrif ddwywaith.  Mae bron i bob un o’r lwfansau amrywiol wedi’u cadarnhau.  Telir llawer o’r rhain i swyddi yn y maes gofal sydd yn y cylchoedd gwyrdd.  Rhagwelir cynnydd mewn costau yn y maes hwn.

 

 

 

Ÿ

Lwfansau Sefydlog - Mae yna nifer gymharol fechan o lwfansau sefydlog perthnasol.

 

 

 

Ÿ

Amodau Gwasanaeth - Mae ymarfer ar wahân ar amodau gwasanaeth yn arwain at nifer o newidiadau sy’n anodd i’w hasesu.  Gwelwyd bod rhai cynigion yn rhy ddrud ac fe’u tynnwyd o’r ddogfen.

 

 

 

Ÿ

Amodau Gwasanaeth - Goramser -  Bydd trafod contract ‘unrhyw bum diwrnod allan o saith’ yn cyfyngu’r amgylchiadau lle bydd raid talu goramser ar gyfraddau premiwm.

 

 

 

Ÿ

Lwfansau Defnyddiwr Car - Er nad yw hwn yn rhan greiddiol o’r pecyn tâl, mae’r lwfansau defnyddiwr car wedi’u defnyddio fel rhan o’r pecyn recriwtio / cadw ac, am nifer o resymau, mae angen rhesymoli’r trefniadau cyfredol.

 

 

 

Nodwyd mai’r prif feysydd risg ariannol yn yr ymarfer hwn yw:-

 

 

 

Ÿ

Apeliadau

 

Ÿ

Hawliadau tâl cyfartal

 

Ÿ

Methiant i ragamcanu costau yn gywir

 

Ÿ

Effeithiau’r system newydd nad oes modd eu rhagweld

 

Ÿ

Yr angen i dalu ychwanegiad marchnad i gadw/ recriwtio staff

 

Ÿ

Methiant i gytuno ar ddyddiad gweithredu

 

Ÿ

Methiant i gytuno / gorfodi

 

 

 

Mae’r awdurdod wedi neilltuo adnoddau ers nifer o flynyddoedd tuag at gostau cyffredinol yr adolygiad tâl a graddfeydd; gan gynnwys costau gweinyddol, cost y graddfeydd tâl newydd ac unrhyw warchodaeth ac ôl dâl.  Ar 31 Mawrth, 2009 y cyllid a oedd wedi cronni ac sydd ar gael ar gyfer arfarnu swyddi a thâl cyfartal yw £1.8m.  Mae £0.7m ychwanegol hefyd ar gael eleni ac mae wedi’i gynnwys yn y gyllideb sail i’r dyfodol (2% o’r bil tâl perthnasol, gan adael 2% o’r bil tâl uchel reolwyr ar gyfer ymarfer Hay).  Daeth yn gynyddol amlwg y bydd angen i’r Panel ddefnyddio rhywfaint o’r £1.2m y flwyddyn o dwf sydd wedi’i adeiladu i’r strategaeth ariannol tymor canol; rhagwelwyd hyn eisoes a gall y Panel ofyn am ragor o gyllid sydd wedi ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith.  Y nod yw cyllido costau gwarchod ac ôl dâl o’r gronfa sydd wedi hel gyda chostau parhaus yn cael eu cyllido o’r cyllidebau blynyddol.  Yn ôl y rhagdybiaethau cyfredol, mae’r gwariant unwaith ac am byth yn fwy na’r hyn sydd yn y gronfa wrth gefn.  Fodd bynnag, oherwydd bod y cyfnod cymhathu yn weddol rhad, mae’n bosib defnyddio’r arian wrth gefn na chafodd ei wario eleni.  Mae angen £240k ychwanegol fel eitem unwaith ac am byth o dwf y flwyddyn nesaf.

 

 

 

Gellir cyllido’r costau a fodelwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a gyhoeddwyd.  Fodd bynnag, maent yn tueddu i roi straen ar dwf a ragwelir yn y Strategaeth.  Mae pryderon ynghylch y twf arfaethedig yn dibynnu ar sicrhau arbedion sylweddol bob blwyddyn.  ?

 

 

 

Bydd cyflwyno cynllun symud i fyny’r raddfa yn seiliedig ar allu yn lleddfu’r gost.  ? Ni fydd effaith lawn y lleddfu hwn ar gael tra bydd staff swyddi cylchoedd coch a staff swyddi cylchoedd gwyn sy’n cael eu cymhathu ar ben neu yn agos i frig y raddfa yn aros yn eu swyddi cyfredol.  Bydd symud i fyny sy’n seiliedig ar allu hefyd yn golygu bod y cynllun cyfredol o symud i fyny fesul increment (neu daliadau unwaith ac am byth) ar ôl cwblhau cyrsiau hyfforddi’n llwyddiannus yn rhywbeth y gellir ei gwtogi neu ei ddwyn i ben.  Newid o strwythur tâl gyda graddfeydd hir a graddfeydd cyswllt i strwythur sydd yn seiliedig ar raddfeydd pedwar neu chwe phwynt yn dod â nifer o faterion eraill yn ei sgil.  Bydd angen adolygu fesul achos i sicrhau bod y swyddi hyn a’r bobl sy’n gwneud y swyddi yn cael eu trin yn briodol.

 

 

 

Nid yw gweithredu’r strwythur newydd ond y cam cyntaf gyda gweithredu canlyniadau’r adolygiad.  Bydd eu sefydlu ar y rhestr gyflogau yn her.  Bydd newidiadau i reoli staff, dirprwyo cyllidebau ac ati hefyd yn golygu buddsoddiad sylweddol yn y fframwaith newydd.  O ganlyniad bydd angen:-

 

 

 

Ÿ

Rhoi strwythur newydd ar y gyflogres;

 

Ÿ

Gweithredu meddalwedd AD gan gynnwys system galluoedd;

 

Ÿ

Sicrhau system werthuso safonol ar draws yr awdurdod;

 

Ÿ

Sicrhau hyfforddiant priodol ar gyfer rheolwyr;

 

Ÿ

Adolygu trefniadau dirprwyo ar gyfer cyllidebau staffio;

 

Ÿ

Ailymweld ag asesiadau ariannol o opsiynau cydweithredu ac allanoli.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad yw cylch gorchwyl y Panel hwn yn rhoi awdurdod iddo ymrwymo cyllidebau ychwanegol ac eithrio i’r graddau y mae pwerau dirprwyol penodol yn bodoli.  Y Cyngor Sir sydd gyda’r grym i ymrwymo adnoddau i’r dyfodol gyda dirprwyaeth gyfyngedig, o fewn y strategaeth gyllidebol, i’r Pwyllgor Gwaith.  Rhagwelwyd tra’n gosod y gyllideb am eleni, y byddai angen i’r Pwyllgor wneud penderfyniadau a fyddai’n cynyddu bil tâl yr Awdurdod, a gwnaed hawliau dirprwyo penodol i’r Panel.  Yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth, 2009 penderfynodd y Cyngor Sir:-

 

 

 

“2(dd) am y cyfnod hyd at 31 Mawrth, 2012, dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y pwerau a ganlyn:-

 

 

 

(i)  pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw blynyddol y dyfodol hyd at uchafswm £1.2m bob blwyddyn yn Nhabl B, gan gydymffurfio gyda fframwaith gyllidebol.

 

 

 

a

 

 

 

2(e) “dirprwyo i’r Panel Cyflogau a Graddfeydd am Flwyddyn Ariannol 2009/10 y pwer i wyro o’r ddarpariaeth ar gyfer Arfarnu Swyddi a Chostau Cyflogaeth, ac os bydd raid, gofyn am y symiau am y blynyddoedd dilynol - rhai a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Gwaith yn (dd)(i) uchod. “

 

 

 

Gan fod y cynllun a gynigir yn gofyn am gyllid ychwanegol sylweddol yn y dyfodol, bydd angen i’r Panel wneud argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau cyllid.

 

 

 

Ar ôl ystyried yr adroddiadau a’r cyflwyniadau gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid), y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) a Mr Pearce o Link Consultants,

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

 

 

4.1

cymeradwyo’r Ddogfen Cytundeb mewn egwyddor, yn amodol ar unrhyw addasiadau a sicrhawyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol), trwy drafodaeth bellach gyda’r Undebau Llafur ynghylch materion teithio busnes.

 

      

 

4.2

ceisio cyllid ychwanegol gan y Pwyllgor Gwaith y caniatawyd ar ei gyfer yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol fel yr amlinellir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol fel bod modd gweithredu’r cytundeb arfaethedig o fewn cynlluniau cyllidebol yr awdurdod.

 

 

 

 

 

 

 

      

 

     Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

     CADEIRYDD