Meeting documents

Regeneration Committee - the charity funds are now administered by the private registered charity, Y Gymdeithas, and the County Council is no longer the trustee
Wednesday, 29th March, 2006

PWYLLGOR ADFYWIO

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 29 MAWRTH, 2006

 

yn breSENNOL:

P.J. Dunning, J. Arwel Edwards, Keith Evans, C.Ll. Everett,

P.M. Fowlie, Denis Hadley, Fflur M. Hughes, G.O. Parry MBE,

Elwyn Schofield, W.J. Williams MBE.

 

 

WRTH LAW:

Trysorydd,

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

YMDDIHEURIADAU:

J.M. Davies, D.R. Hughes, J. Arwel Roberts, Keith Thomas.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd bod gohebiaeth wedi ei dderbyn gan y Grwp Annibynnol Gwreiddiol yn nodi y byddai Mr. E. Schofield yn cynrychioli'r Grwp ar y Pwyllgor hwn yn lle Mr Bryan Owen.

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. P.M. Fowlie fel Cadeirydd.

 

Roedd Mr. C.Ll. Everett yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi cynnig Mr. E. Schofield fel Cadeirydd y Pwyllgor.  Dywedodd Mr. Schofield nad oedd yn dymuno cael ei ystyried fel Cadeirydd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mrs. Sasha Davies, Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) i'r cyfarfod.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. J. Arwel Edwards fel Is-Gadeirydd.

 

3

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd Mr. C.Ll. Everett diddordeb gan ei fod yn Glerc i Gyngor Tref Caergybi a'i fod wedi gwneud cais am gyllid i'r Ymddiriedolaeth ar ran Cyngor y Dref.

 

Datganodd Mr. W.J. Williams MBE ddiddordeb mewn trafodaethau oedd yn ymwneud â chynlluniau Menter Môn gan ei fod yn Aelod o Bwyllgor Rheoli Menter Môn.  Gadawodd Mr. Williams y cyfarfod yn ystod trafod yr eitem.

 

4

COFNODION

 

Cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 28 Medi, 2005.  Gofynodd Mr. Schofield gwestiynau ynglyn â nifer y Canolfannau Hyfforddi oedd yn derbyn cymorth ariannol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  Nododd y dylai adroddiadau monitro rheolaidd gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor hwn yn amlinellu'r cyfleusterau oedd ar gael a chostau rhedeg y canolfannu.  Ymatebodd y Trysorydd fod monitro cynlluniau o'r fath o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn.  Roedd yn cytuno y dylai adroddiadau monitro gael eu hystyried gan y Pwyllgor ac i adroddiadau o'r fath gale eu hystyried yn y cyfarfod diwethaf.

 

Roedd Mr. Schofield am wybod os oedd y balans o £48,000 wedi ei ollwng a hwnnw wedi ei glustnodi'n wreiddiol tuag at prosiect Y Deyrnas Gopr a gofynodd os oedd y les wedi ei harwyddo.  Dywedodd y Trysorydd y byddai'n gwneud ymholiadau ynglyn â'r brydles cyn gollwng y balans llawn.

 

Holodd y Cadeirydd am y posibilrwydd o drefnu ymweliad safle i Llys Llywelyn sydd yn rhan o Gynllun Monadfyw.  Cytunodd y Pwyllgor ar drefnu ymweliad safle i Lys Llywelyn, Aberffraw.

(Roedd Mr. W.J. Williams MBE yn dymuno iddo gael ei gofnodi na wnaeth bleidleisio ar y mater hwn).

 

5

RHAGOLYGON AM FLOC CYLLID ADFYWIO

 

Dywedodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi rhyddhau swm o £1.8m yn 2002 allan o'r twf fu yn y gorffennol yng nghyfalaf yr Ymddiriedolaeth er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer ariannu cynlluniau adfywio.  Fodd bynnag, roedd y disgyn sylweddol yng ngwerth buddsoddiadau'r farchnad stoc yn 2002 a 2003 wedi dileu'r twf hwn a fu yng gnhyfalaf yr Ymddiriedolaeth.  Arweiniodd hyn at benderfyniad i 'rewi' gweddill y £1.8m yn y gobatih y byddai cyflwr y farchnad yn gwella.  Bu gwelliant yng nghyflwr y farchnad stoc yn ystod 2004 ac fe ddyfarnwyd £0.35m i dri phrosiect h.y. Monased, Canolfan Sgiliau Amlwch a Chymunedau Môn.

 

Pan ryddhawyd y £1.8m yn 2002, yr oedd i'w ddefnyddio'n benodol gydag arian cyfatebol Amcan Un UE.  Nodwyd y bydd Amcan Un yn dod i ben yn 2006.

 

Nododd y Trysorydd ymhellach i'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn Ebrill 2005 ystyried ffyrdd posibl o ariannu'r cyfraniad arfaethedig o £250,000 i Gemau'r Ynysoedd.  Roedd bid Gemau'r Ynysoedd yn aflwyddiannus ond mae gwir angen adnewyddu canolfannau hamdden y Cyngor Sir.

 

Nododd hefyd bod cyfanswm o £480,000 ar gael oherwydd yr adfywiad yn y farchand stoc ac nid yw hwn wedi ei ddyrannu i unrhyw gynllun.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd i gyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn benderfynu y dylid chwilio i mewn i brosiectau eraill ar gyfer cyllido posibl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn sydd i'w gynnal ddechrau'r flwyddyn newydd.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) fod Cronfeydd Cydgyfeiriad UE (cyllid Amcan Un newydd) wedi eu sefydlu yn awr ac y bydd newidiadau yn y meini prawf cymhwyster, er nad ydynt ar gael hyd yn hyn.  Nododd hefyd y bydd cynlluniau yn fwy strategol ac efallai bydd prosiectau yn seiliedig ar y Gymuned yn gorfod dod gerbron yr Ymddiriedolaeth Elusennol am gymorth ariannol a pheidio â dibynnu ar gyllid Cydgyfeiriad.  Cafwyd amlinelliad gan y Pennaeth Gwasanaeth o'r adnoddau cyllido gwahanol.  Fodd bynnag, nid oes ar hyn o bryd unrhyw gyfarwyddyd swyddogol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â'r mathau o gynlluniau y gellir eu cyllido o dan y cronfeydd UE newydd (Cydgyfeiriad, Datblygu Gwledig ac Interreg).

 

 

 

Nododd Mr. W.J. Williams y bydd yn rhaid i gynlluniau nawr ddod o fewn Agenda Lisbon sydd yn canolbwyntio ar Addysg, Sgiliau, Economi yn seiliedig ar Wybodaeth.

 

 

 

Dywedodd Mr. D. Hadley fod gwneud paratoadau ar gyfer ieuenctid Ynys Môn yn hanfodol gan fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem fawr a bod cefnogaeth y cynlluniau Tref/Cymunedol yn hanfodol.

 

 

 

Dywedodd Mr. C.Ll. Everett nad yw Cynghorau Tref/Cymuned yn gallu derbyn arian o gronfeydd Cymunedau'n Gyntaf.  Nododd ymhellach y gallai cynlluniau Monadfyw ddenu hyd at 70% o grantiau tuag at gynlluniau.

 

 

 

Cafwyd cyngor gan y Trysorydd y gallai cynlluniau a noddir gan Menter Môn megis Monadfyw, wario llawer o'r £480,000 sydd ar ôl.  Fodd bynnag, os rhoddir blaenoriaeth i'r rhain, fe allai hynny fod ar gorn cynlluniau eraill nad ydynt yn barod ar hyn o bryd i roi cais i mewn am gyllid.  Roedd Menter Môn wedi ceisio trafod eu sefyllfa yn y dyfodol agos ac roeddent mae'n debyg mewn sefyllfa yn y dyfodol agos ac roeddent mae'n debyg mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion penodol ar gyfer gwario cronfeydd adfywio.

 

 

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai cynlluniau tebygol ar gyfer arian posibl gale eu cyflwyno i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor hwn ar ddiwedd y mis nesaf.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

5.1

nodi'r adroddiad.

 

5.2

fod cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor hwn yn cale ei drefnu yng nghyswllt cynlluniau posibl ar gyfer cyllid o gronfeydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol nad ydynt hyd yma wedi eu dyrannu.

 

 

 

 

 

P.M. FOWLIE

 

CADEIRYDD