Meeting documents

Regeneration Committee - the charity funds are now administered by the private registered charity, Y Gymdeithas, and the County Council is no longer the trustee
Tuesday, 20th February, 2007

PWYLLGOR ADFYWIO

 

Cofnodion o gyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 20 Chwefror, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Mr J Arwel Edwards - Is-Gadeirydd yn y Gadair

 

Mri J Arwel Edwards, Keith Evans, C Ll Everett, Denis

Hadley, D R Hughes, Thomas H Jones, G O Parry MBE

 

 

 

WRTH LAW:

 

Trysorydd

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mri J M Davies, P J Dunning, P M Fowlie, Fflur M Hughes, Elwyn Schofield.

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd Mr C Ll Everett ddiddordeb yn Eitem 5 - Monadfyw/Monased a'i fod wedi gwneud cais am grant fel Clerc Tref Cyngor Tref Caergybi.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2006 fel rhai cywir.

 

3

SWYDDOGION DATBLYGU RHANBARTH

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.

 

Nododd y Trysorydd nad oedd adroddiad ar weithgareddau'r Swyddogion Datblygu Rhanbarth wedi'i dderbyn.  Nododd ymhellach fod un o'r Swyddogion Datblygu Rhanbarth wedi gadael ei swydd am nifer o fisoedd ac nad oedd y swydd wedi'i llenwi hyd yma.  Gofynnwyd cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor ynglyn â chyllid pellach fyddai ar gael ar ôl 2008 i barhau gyda'r prosiect.  Dywedodd y Trysorydd bod cyllid ar gyfer y swyddi yn ei le hyd at 2008 ond byddai unrhyw gais i barhau'r cyllid yn fater i'r Pwyllgor hwn ei benderfynu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a disgwyl am yr adroddiad ar weithgareddau'r Swyddogion Datblygu Rhanbarth.

 

4

Y DEYRNAS GOPR

 

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch mewn perthynas â'r uchod.

 

 

Nodwyd fod amcanion Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch yn cynnwys gwarchodaeth a chadwraeth ac yn bwysicach hyrwyddo gwell gwerthfawrogiad gan y cyhoedd o'r adfeilion diwydiannol unigryw ac arwyddocaol yn Mynydd Parys a Phorth Amlwch.  Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch yn gweld treftadaeth 'Y Deyrnas Gopr' fel ased bwysig i Ynys Môn.

 

 

 

I gydfynd â'i amcanion mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch wedi sicrhau Cynllun Rheoli Cadwraeth, wedi'i gyllido'n rhannol gan y £113.8k oedd wedi'i ddyrannu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Mae'r Cynllun Rheoli Cadwraeth wedi galluogi arbenigwyr i asesu pwysigrwydd adfeilion archeolegol diwydiannol a nodweddion hanesyddol, daearegol a biolegol (mewn rhai achosion yn cael eu hystyried i fod o 'Bwysigrwydd Rhyngwladol') ac i adnabod sut y dylai'r asedion hyn gael eu rheoli.  

 

 

 

 

 

Hefyd, mae cyllid ychwanegol gan yr Ymddiriedolaeth Elsuennol wedi helpu i sicrhau Cynllun Busnes ar gyfer prosiect Y Deyrnas Gopr. (£15k gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol). Bydd y Cynllun Rheoli Cadwraeth  a’r Cynllun Busnes yn cael eu defnyddio fel sail i fid i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn y cyfamser mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch wedi sicrhau £383k o gyllid o gronfa Interreg IIIa (Cyllid Ewropeaidd) ar gyfer prosiect ar y cyd gyda phartneriaid yn Avoca, Co. Wicklow yn Iwerddon. Mae’r prosiect hwn, wedi ei seilio ar flaenoriaethau strategol gafodd eu hadnabod yn y Cynllun Busnes, yn darparu ar gyfer gwell isadeiladwaith, er enghraifft arwyddion ffyrdd a gwybodaeth i dwristiaeth; datblygu pecyn addysgol, gweithio’n agos gyda ysgolion a chynllun marchnata sylweddol ar gyfer y Deyrnas Gopr i ddigwydd dros yr 18 mis nesaf. Mae arian yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi talu am ran o gyflog swyddog rhan amser Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch, heb ei wasanaeth ni allai’r prosiect fod wedi symud ymlaen.

 

 

 

Yn olaf, gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Elusennol, mae’r Ymddiriedolaeth Treftadaeth wedi sicrhau les 35 mlynedd ar Fynydd Parys, sy’n hanfodol i gynnigion yr Ymddiridolaeth Treftadaeth. Mae elfennau eraill o’r cyllid wedi eu clustnodi ar gyfer gwariant i wella’r isadeiladwaith ym Mhorth Amlwch.  Cadarnhaodd y Trysorydd ei fod wedi gweld dogfennau'r les a'i fod yn awr yn fodlon bod hyn wedi'i gwblhau.  Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor eu boddhad bod y les yn awr wedi'i harwyddo yng nghyswllt Mynydd Parys.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd bod ansicrwydd ynglyn â ffurf y prosiect hwn yn y dyfodol, ond nododd, fodd bynnag, fod y Cynllun Rheoli Cadwraeth luniwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch wedi bod yn ddogfen o ddiddordeb gwyddonol a hanesyddol sylweddol i'r ynys, gyda chopïau o'r ddogfen mewn llyfrgelloedd lleol.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

5

MONADFYW / MONASED

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ynglyn â'r uchod.

 

 

 

Roedd y diweddariadau a'r prosiectau a disgrifiadau o'r prosiectau wedi'u nodi yn yr adroddiad yng nghyswllt y cynlluniau canlynol:-

 

 

 

Cynlluniau Monased

 

 

 

Neuadd y Dref Caergybi Cam 2

 

Neuadd y Pentref Rhosneigr

 

Neuadd y Pentref Cemaes

 

Canolfan Sgiliau Amlwch

 

Gorsaf Llannerch-y-medd

 

Llys Llewelyn, Aberffraw

 

Neuadd Pritchard Jones, Niwbwrch

 

 

 

Cynlluniau Monadfyw

 

 

 

Creche Gwelfor, Caergybi

 

Neuadd y Dref, Caergybi

 

Llys Llewelyn, Aberffraw

 

Lle Chwarae Bryngwran

 

Neuadd Aberffraw

 

Neuadd yr Eglwys, Gwalchmai

 

Canaolfan Pencarnisiog

 

Safle'r Stestion Llannerch-y-medd

 

Neuadd y Pentref Rhosneigr

 

Meithrinfa Camau Cyntaf - Amlwch

 

Canoflan Sgiliau Amlwch

 

Parc y Twr, Llaingoch, Caergybi  

 

 

 

ynghyd â grantiau llai a roddwyd o'r Gronfa Cyswllt Cymunedol tuag at

 

 

 

Institiwt Pritchard Jones, Niwbwrch

 

Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rhosyr

 

Di Gartref Ynys Môn

 

Neuadd Community Guide, Caergybi

 

Eglwys Cyngar Sant

 

Partneriaeth Aberffraw

 

Prosiect Cloc Rhosneigr

 

Amgueddfa Forwrol Caergybi

 

Cymunedau'n Gyntaf Caergybi

 

Arosfan Porth Llechog

 

Theatr Ieuenctid Môn

 

 

 

Nododd Mr C Ll Everett bod Neuadd y Dref yng Nghaergybi wedi elwa oddi wrth y cynlluniau hyn gyda gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnig o fewn un adeilad.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

6

CANOLFAN SGILIAU AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yng nghyswllt yr uchod.  Roedd adroddiad cynnydd gan Hyfforddiant Parys Training ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

 

Nodwyd fod Hyfforddiant Parys Training wedi gofyn am estyniad i ddyddiad gorffen y prosiect.  Cytunwyd ar hyn mewn egwyddor gyda'r Cyllidwyr Ewropeaidd.  Bydd ymestyn y dyddiad terfynu yn galluogi i'r prosiect gynyddu eu deilliannau o fewn y cyllid a gymeradwywyd yn wreiddiol.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Trysorydd i ymestyn dyddiad gorffen y prosiect.

 

 

 

7

COLEG HARLECH - WEA - CYMUNEDAU MÔN

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yng nghyswllt yr uchod.  Adroddodd y Trysorydd fod Coleg Harlech WEA wedi derbyn cymeradwyaeth yn ddiweddar gan WEFO i brosiect Cymunedau Môn.  Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant i aelodau o grwpiau cymunedol ac i'r unigolyn hynny sy'n helpu a chefnogi'r grwpiau i ennill y sgiliau sydd eu hangen fel eu bod yn gallu asesu ac ateb gofynion eu cymunedau.  Bydd hyn yn cynyddu'r gallu yng nghymunedau difreintiedig Ynys Môn i weithredu drostynt eu hunain ac i sicrhau cynaliadwyaeth cymunedau Ynys Môn.  Cyfanswm cost y prosiect yw £178,080 a bydd 300 o unigolion yn cael budd ohono.

 

 

 

Bydd y prosiect yn weithredol yn y 3 ward flaenoriaeth ar Ynys Môn a bydd yn cael ei farchnata a'i hyrwyddo gan y Swyddogion Datblygu Rhanbarth.

 

 

 

Argymhellodd Aelodau'r Pwyllgor y dylid gofyn i gynrychiolwyr o Goleg Harlech WEA fynychu'r Pwyllgor i ddweud pa fanteision oedd yn deillio o'r cynllun hwn i bobl Ynys Môn.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn i gynrychiolwyr o Goleg Harlech WEA fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

8

RHAGOLYGON AR GYFER Y BLOC ADFYWIO

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn wedi gofyn i'r Pwyllgor hwn ystyried clustnodi swm o gyfalaf yr Ymddiriedolaeth at brosiectau adfywio Cydgyfeiriant, yn yr un modd ag a glustnodwyd £1.8 miliwn at brosiectau adfywio Amcan Un.  Dynodwyd y swm o £2 filiwn fel targed i'w ystyried.  Talwyd allan £778,255 o'r £1.8 miliwn hyd yma, a bod £178,920 o'r swm gwreiddiol heb ei ymrwymo.

 

 

 

Yr hyn sy'n gyrru'r strategaeth buddsoddi yw'r angen i gynnal gwerth y buddsoddiadau i gadw i fyny â chwyddiant, a'r angen i gynhyrchu incwm buddsoddi digonol i gynnal gwariant refeniw yr Ymddiriedolaeth.  Mae'r nôd cyntaf wedi ei adlewyrchu mewn targed tymor hir o ran gwerth y buddsoddiadau.  Adeg y penderfyniad i neulltuo'r £1.8 miliwn yn 2002, roedd gwerth y buddsoddiadau bron i £5 miliwn uwchlaw'r targed, felly roedd yn ymddangos bod modd gwario'r £1.8 miliwn heb beryglu'r targed.  Ond nid felly y bu, bu cwymp sylweddol yn y farchnad stoc yn gorfodi rhewi rhan o'r £1.8 miliwn nes daeth yr adferiad.

 

 

 

Adroddwyd fod yr Ymddiriedolaeth wedi adolygu'r targed tymor hir mor ddiweddar â 2005, yn y diwedd yn cadarnhau bod y targed dal yn briodol.  Ar hyn o bryd mae gwerth y buddsoddiadau tua £3 miliwn uwchlaw'r targed.  Er bod lle yma i neilltuo £2 filiwn, yn amlwg mae'r risg bod cwymp arall yn y farchnad stoc yn peryglu cyflawniad y targed yn uwch.

 

 

 

Mae ail nôd, sef cynhyrchu incwm blynyddol o £400,000, wedi bod yn anodd ei gyrraedd.  Mewn blynyddoedd diweddar mae'r Ymddiriedolaeth wedi gorfod cyfyngu ar ei wariant blynyddol, ac wedi cael hi'n anodd gwneud hynny ac yn rhannol wedi tynnu ar arian wrth gefn.

 

 

 

Mae'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, gyda chymorth ymgynghorwyr allanol, newydd gwblhau adolygiad o'r holl drefniadau buddsoddi.  Yr amcan oedd cael strategaeth fyddai'n cwrdd orau â'r ddau nôd uchod.  Canlyniad yr ymarferiad oedd cadarnhau yn fras y dyraniad asedau, ac ail-benodi'r rheolwyr buddsoddi ond gyda thîm newydd ac amcanion newydd i ran sylweddol o'r portffolio.

 

 

 

Roedd yr adolygiad hefyd wedi cadarnhau bod y nôd o gynnal gwerth yr asedau a'r nôd o gynhyrchu incwm blynyddol o £400,000 at ei gilydd yn uchelgeisiol.  Y ffordd o gyflawni'r rhain yw rhoi cyfran uchel o'r portffolio mewn ecwitiau, ac o fewn hynny anelu at or-berfformio'r farchnad trwy ddethol stociau.  Mae'r dulliau hyn yn golygu risg uwch y gall y portffolio tan-berfformio mewn unrhyw un blwyddyn - hynny yw, strategaeth sy'n anghyson â neilltuo £2 filiwn ar gyfer adfywio a chwrdd â'r targed tymor hir.  Dylid nodi hefyd, bod y penderfyniad i roi £0.15 miliwn at Oriel Syr Kyffin Williams hefyd wedi goddiweddyd y strategaeth buddsoddi a lleihau gwerth y gronfa).

 

 

 

Rhoddodd y Trysorydd amlinelliad o'r opsiynau posibl fyddai'n caniatáu neilltuo £2 miliwn heb fynd yn erbyn polisïau neu arferion arall fel oedd wedi'i nodi yn ei adroddiad, ond nododd hefyd fod anfanteision i bob un ohonynt ac na allai argymell yr un ohonynt.  O ystyried amseriad y gwario o'r dyraniad a wnaed yn 2002, hwyrach bod modd ailedrych ar hwn o safbwynt y galwad ar lif-arian yr   Ymddiriedolaeth dros gyfnod hwy.  Roedd angen i'r Pwyllgor hefyd ystyried cyngor ar y galw tebygol a'r llif-arian ar gyfer arian Cydgyfeiriant.  Awgrymwyd y gallai, yn y man, gyfarfod ar y cyd o gynrychiolwyr o'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a'r Pwyllgor hwn drafod y mater a gofyn i'r Rheolwyr Buddsoddi fodelu rhai dewisiadau amgen.  

 

 

 

Nododd Mr Everett bod gwir angen rhyddhau cyfalaf o'r Ymddiriedolaeth Elusennol tuag at brosiectau adfywio Cydgyfeiriad yn y dyfodol ac roedd yn croesawu sefydlu cyfarfod ar y cyd rhwng cynrychiolwyr o'r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau.  

 

      

 

     Cytunodd Mr D R Hughes fod angen rhyddhau cyfalaf tuag at brosiectau adfywio a nododd y dylid cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor hwn gan yr Adran Datblygu Economaidd yng nghyswllt cynlluniau posibl allai fanteisio o ryddhau cyfalaf o'r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

      

 

     Nododd y Trysorydd y gellid defnyddio rôl y Swyddogion Datblygu Rhanbarth yn yr ardaloedd difreintiedig er mwyn helpu cynlluniau lleol  i wella eu cynlluniau tebygol ar gyfer arian Cydgyfeiriant.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac y dylid trefnu cyfarfod pellach i ystyried y galw a'r amseriad ar gyfer arian Cydgyfeiriant, ac yn dilyn hynny fe all y bydd angen ystyried yr effaith ar y strategaeth fuddsoddi ar y cyd gyda'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau.

 

      

 

      

 

     J ARWEL EDWARDS

 

     IS-GADEIRYDD YN Y GADAIR