Meeting documents

Regeneration Committee - the charity funds are now administered by the private registered charity, Y Gymdeithas, and the County Council is no longer the trustee
Friday, 30th July, 2010

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

 

PWYLLGOR ADFYWIO

 

Cofnodion y cyfarfod ar 30 Gorffennaf 2010

 

YN BRESENNOL:

 

Y Mri. Lewis Davies, D. R. Hughes, T. H. Jones, John P. Williams, Selwyn Williams, Mrs Flur M. Hughes

 

 

 

WRTH LAW:

 

Trysorydd,

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Mri. Keith Evans, Bryan Owen, G. O. Parry MBE, J. Arwel Roberts, Ieuan Williams.

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr. E. Schofield - Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn

Mr. Bob Parry OBE - Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn

Mr. Gerallt Ll. Jones - Rheolwr-gyfarwyddwr (Menter Môn)

 

1

CADEIRYDD

 

Ailetholwyd Mr. John Penri Williams yn Gadeirydd.

 

Diolchodd Mr. Williams i Aelodau'r Pwyllgor am eu hyder ynddo.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Ailetholwyd Mr. Kenneth P. Hughes yn Is-Gadeirydd yn ei absenoldeb.

 

3

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd Mr. D. R. Hughes ddiddordeb yn ystod y drafodaeth ar Eitem 5 (Partneriaeth Moelfre).

 

Datganodd Mr. T. H. Jones ddiddordeb yn ystod y drafodaeth ar Eitem 5 (Menter Mechell, Llanfechell).

 

Datganodd Mr. Selwyn Williams ddiddordeb yn ystod y drafodaeth ar Eitem 5 (Arwyddion Porthaethwy a Mentrau Marchnata).  Dywedodd Mr. Williams ei fod yn Gadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach ar Ynys Môn.

 

4

COFNODION

 

 

Cadarnhawyd  cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2009 fel rhai cywir.

 

 

 

5

CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG - RHAN 1

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan Reolwr-gyfarwyddwr, Menter Môn yn rhoi diweddariad ynglyn â'r uchod.

 

 

 

Dywedodd Mr. Gerallt Llewelyn Jones mai Rhaglen Ewropeaidd yw'r Cynllun Datblygu Gwledig sydd wedi'i rannu yn 4 categori.  Mae Haen 1 a 2 yn gynlluniau cymorth grant amaethyddol h.y. taliadau Tir Gofal a Tir Cynnal.  Mae Haenau 3 a 4 wedi'u gosod o'r neilltu ar gyfer cynlluniau datblygu gwledig mwy cyffredinol sef datblygiadau trefi marchnad a datblygiadau gwledig.  Roedd Menter Môn yn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn hawlio cyllid Axis 3 a 4.  Mae Menter Môn yn cydweithio gyda'r Adran Datblygu Economaidd yng nghyswllt y cynlluniau hyn hefyd.  Roedd y prosiectau canlynol wedi'u cymeradwyo:-

 

 

 

 

 

Menter Gymdeithasol Gwasanaethau Gwledig

 

 

 

Ÿ

Prosiect Digwyddiadau Neuadd Gymuned Sant Gwenfaen

 

Ÿ

Prosiect Amgylcheddol Plas Cybi, Caergybi

 

Ÿ

Arwyddion a Menter Farchnata Porthaethwy

 

Ÿ

Codi Pwysau Caergybi

 

Ÿ

Astudiaeth Dichonolrwydd Cemaes

 

Ÿ

Llanbedrgoch Cam 1 a 2

 

Ÿ

Neuadd Bentref a Siop Gymunedol Talwrn

 

 

 

 

 

Amgylcheddau Tref a Phentref

 

 

 

Ÿ

Miwral Tref Llangefni

 

Ÿ

Rhosneigr - Pwll Cychod

 

Ÿ

Prosiect Cymunedol Llanfachraeth

 

Ÿ

Malltraeth - Cwt Glas

 

Ÿ

Prosiect Cymunedol Llanfachraeth

 

Ÿ

Biwmares - Cymdeithas Thomas Close

 

Ÿ

Prosiect Llecyn Cymunedol Pensarn

 

Ÿ

Gwella Lle Chwarae Llandegfan

 

Ÿ

Neuadd Gymuned Llangoed

 

 

 

 

 

Mona Antiqua

 

 

 

Ÿ

Geomon

 

Ÿ

Swtan - adfer y to gwellt

 

Ÿ

Prosiect Dendrocronoleg

 

Ÿ

Datblygiad Llys Rhosyr

 

Ÿ

Llwybr Cerflun Moelfre

 

Ÿ

Clwb Snwcer Brynsiencyn - Datblygu Amgueddfa

 

Ÿ

Menter Mechell - Llyfr Hanes Lleol

 

Ÿ

Ailgynhyrchu Arteffactau Llyn Cerrig Bach

 

 

 

Prosiectau Axis 4

 

 

 

Gweithdy Gwerth Ychwanegol Coedwigaeth, Llangefni - prosiect i ddarparu gwaith am chwe mis i bobl ifanc heb sgiliau ac heb waith mewn sgiliau gwaith coed ac i'w helpu i gael gwaith llawn amser.  Hefyd ychwanegu gwerth i goed a geir yn lleol trwy broses trin gyda gwres lle gall pobl ifanc wneud cynnyrch coed cryf a chynaliadwy ar gyfer yr awyr agored.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

6

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL - RHAN 2

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd yn 2006 fe gymeradwyodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn (YEYM) ryddhau £300k mewn ymateb i gais gan Menter Môn i ddarparu arian cyfatebol.  Oherwydd bod natur rhai o’r prosiectau unigol wedi newid o’r ceisiadau gwreiddiol yn ystod y broses o sicrhau cymeradwyaeth UE, roedd angen adolygu’r cymeradwyo hwnnw, wnaed fis Ionawr 2009. O ganlyniad i’r gymeradwyaeth ddiwygiedig honno roedd YEYM wedi cyfrannu tuag at nifer o brosiectau RDP.  Fe benderfynwyd ar y prosiectau y byddai YEYM yn cyfrannu atynt yn dilyn rhoddi ystyriaeth ofalus iawn i sut y maent yn cyflawni bwriadau elusennol YEYM a hefyd flaenoraiaethu YEYM ei hun.  O fewn fframwaith lle roedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi bod yn cyllido prosiectau adfywio o’i chyfalaf ac roedd hynny’n golygu bod unrhyw ostyngiad yn y gwerth cyfalaf yn arwain i’r arian hwnnw gael ei rewi.  Nid oedd y dull cychwyn-stopio hwn yn caniatáu i gynlluniau cyllido tymor hir gael eu datblygu.  

 

 

 

Ym mis Rhagfyr 2009, fe fabwysiadodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol strategaeth ariannol newydd oedd yn torri yn ôl ar ddyraniadau eraill o’r incwm buddsoddi blynyddol, gyda golwg ar gyllido adfywio heb orfod dibynnu ar dwf yn y cyfalaf.  

 

 

 

Yn y cyfarfod o’r YEYM fis Ebrill 2010 fe nodwyd bod yr arian refeniw wrth gefn ar 31 Mawrth 2009 yn £296k a bod hyn yn caniatáu peth hyblygrwydd i ryddhau cyllid adfywio ynghynt na’r llif arian a ganiatawyd yn strategaeth mis Rhagfyr 2009.  Fe benderfynodd y Pwyllgor hwnnw y dylai hyn ganiatáu i ymrwymiad gael ei wneud i Menter Môn tuag at Gyfnod 2 y Cynllun Datblygu Gwledig.  Mae’r penderfyniadau hyd yn hyn wedi sefydlu safle YEYM ei fod yn gallu a’i fod yn barod i gefnogi'r math hwn o gais gan Menter Môn.  Hyd yma, nid oes unrhyw gynnig ffurfiol wedi’i gyflwyno ac ni wnaed unrhyw ymrwymiad cadarn i Menter Môn.  Mae’n angenrheidiol felly ystyried cais o’r fath, er mwyn sefydlu ei fod yn cyflawni amcanion yr Ymddiriedolaeth a hefyd i gytuno ar y canlyniadau a ddisgwylir fydd hefyd yn bodloni blaenoriaethau YEYM.

 

 

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd y cynigion prosiect presennol wnaed gan  Menter Môn i Lywodraeth Cynulliad Cymru am gyllid Cynllun Datblygu Gwledig.  Nid yw LlCC wedi cymeradwyo’r rhain yn derfynol ac i ryw raddau mae yna broses o negodi sydd yn parhau er mwyn sicrhau bod prosiectau yn derbyn cymeradwyaeth pob un o’r rhanddeiliaid.  Ceisir yn awr i'r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i gefnogi cyd-gyllido dros fywyd y prosiectau fel a ganlyn:-

 

 

 

 

Cyfanswm Cost y Prosiect

£

Cyfraniad YEYM

£

Adfywio Pentrefol

Gwasanaethau Bro

Mona Natura

Rheoli a Gweinyddu

385

520

282

77

104

30

89

___

300

 

 

 

 

Roedd cred bod Menter Môn wedi rhoi sylw i’r blaenoriaethau hyn fynegwyd gan yr Ymddiriedolaeth  i’r graddau y mae hynny’n bosibl mewn proses o negodi gyda nifer o gydranddeiliaid y bydd yn rhaid iddi fod yn llwyddiannus yn y pen draw i ddenu cyllid.  Roedd hyn hefyd yn adlewyrchu diwedd boddhaol i ddatblygiad yr Ymddiriedolaeth ei hun o’i strategaeth ar gyfer cyllido prosiectau adfywio.  

 

 

 

Rhoddodd y Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn hanes cefndir y tri prosiect yn fyr.  Nododd bod y prosiectau Adfywio Pentrefol a Mona Natura wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ond roedd y prosiect Gwsanaethau Bro i'w dal yn ôl gan y Cynulliad.  Roedd Menter Môn yn bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad y Cynulliad a bydd diweddariad yn cael ei roddi i Drysorydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar y canlyniad.

 

 

 

Nododd Mr. T. H. Jones ei fod yn ystyried ei fod yn hanfodol bod y cyllid tuag at y prosiectau uchod yn cael ei dargedu tuag at gymunedau gwledig yr Ynys.

 

 

 

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ei fod yn cytuno gyda'r hyn ddywedodd Mr. T. H. Jones ond nododd bod yr Ynys gyfan wedi cael ei nodi fel ardal ddifreintiedig. Aeth Mr. Schofield yn ei flaen ymhellach i ddweud bod prosiectau Menter Môn yn gynlluniau gwerth chweil gyda rhagolygon mawr i'r Ynys allai ddenu cyfanswm o hyd at £3m.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

bod ymrwymiad cryf yn cael ei roi i Menter Môn o arian cyfatebol i'r prosiectau uchod yn ôl y cyfansymiau a amlinellwyd yn amodol ar:

 

 

 

Ÿ

bod Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn cytuno ar unrhyw newidiadau bychan fyddai eu hangen i fanylion y prosiect;

 

 

 

Ÿ

bod y telerau a'r amodau gweinyddol, yn cynnwys y mater o amseriad y taliadau, yn cael eu cytuno gan y Trysorydd.

 

 

 

 

 

7

PROSIECT Y DEYRNAS GOPR

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r cais dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch i ryddhau'r £38,800 a neilltuwyd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn tuag at y cynlluniau.

 

 

 

Rhoddodd y Trysorydd adroddiad ar gefndir y prosiect fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Ebrill 2002 -  Cymeradwywyd y cais cyllido gwreiddiol gan Banel Adolygu Strategol yr YEYM fel rhan o’r cyfran cyntaf o gyllido adfywio a ryddhawyd gan YEYM.  Ar y pryd, roedd y cais am £113,800, sef cyfraniad 40% tuag at gost cyfanswm cynllun o £284,450, gyda’r 60% gweddilliol yn destun cais i’r Gronfa Loteri Treftadaeth Genedlaethol (CLT).  Roedd y cyfanswm gost yma i gyllido astudiaeth dichonoldeb i ddatblygu cais Amcan Un llawer mwy.  Cymeradwywyd y cynllun fel un yn cwrdd a phwrpas elusennol YEYM a hefyd yr amcanion a osodwyd ar gyfer defnydd y cyllid adfywio, yn amodol ar dermau ac amodau sydd, erbyn hyn, wedi dod yn arferol ar gyfer cynlluniau o’r fath.

 

 

 

Ÿ

Ebrill 2003 -  Erbyn hyn, ymddangosodd nad oedd y CLT yn fodlon cymeradwyo’r astudiaeth dichonoldeb llawn, a oedd yn destun y cais blaenorol.  Awgrymwyd byddai triniaeth mwy graddol tuag at ddatblygu’r anghenion yn well.  Allbwn allweddol i hyn oedd astudiaeth manwl o asedau ardaloedd Porth Amlwch a Mynydd Parys, i’w gwblhau mewn Cynllun Rheoli Cadwraeth.  Cytunodd yr YEYM i’r driniaeth newydd yma, gan ryddhau £65,000 o’r £113,800 gwreiddiol, i gyllido’n rhannol y Cynllun Rheoli Cadwraeth fel rhan cyntaf y cynllun ac i gychwyn datblygu Cynllun Busnes.  Amod y cyllido oedd byddai copïau o’r cynllun yn cael eu danfon i YEYM a’u rhoi yn y llyfrgelloedd cyhoeddus.

 

 

 

Ÿ

Chwefror 2005 -  Cwblhawyd y Cynllun Rheoli Cadwraeth.

 

 

 

Ÿ

Medi 2005 - Ystyriwyd adroddiad pellach ar y cynllun gan y Pwyllgor Adfywio, o ganlyniad i gwblhau’r Cynllun Rheoli Cadwraeth a Chynllun Busnes.  Roedd gweledigaeth y cynllun ar y pryd yma wedi datblygu i ganolbwyntio ar ddatblygiad ardal Porth Amlwch.  Ceisiodd YTDA am ryddhad o’r £48,800 gweddillol.  Gofynnwyd am £10,000 tuag at gostau cyfreithiol a gweinyddol a £38,800 tuag at uwchraddio a llwybrau ar y Cei Gorllewinol ym Mhorth Amlwch.  Cymeradwywyd y cais am £10,000 yn amodol ar roi copïau o’r Cynllun Rheoli Cadwraeth yn y llyfrgelloedd (nid oedd hyn wedi ei gyflawni ar y pryd) a chwblhau’r lesio tir ym Mynydd Parys.  Ni ryddhawyd y £38,800 i’r YTDA ond fe’i gadwyd gan YEYM gyda’r bwriad byddai’r YEYM ei hun yn cyllido’r gwaith angenrheidiol ar y tir i’r ochr orllewinol o Borth Amlwch, sydd ym mherchnogaeth YEYM.

 

 

 

Ÿ

Chwefror 2007 -  Cadarnhawyd fod yr amodau wedi eu cyflawni a rhyddhawydd y £10,000.

 

 

 

Yn Nhachwedd 2009  ceisiodd y Pwyllgor Adfywio fwy o wybodaeth ar  gynllun y Deyrnas Gopr.  Fel y gwelir o’r nodiadau uchod, cyn belled ac roedd cyfraniad yr YEYM yn y cwestiwn, ychydig iawn oedd wedi digwydd ers 2006.  Fodd bynnag, mae’r YTDA wedi parhau i hyrwyddo a datblygu gweledigaeth y cynllun, sy’n arwain i’r cais presennol

 

 

 

Mae’r allbynnau a gyflawnwyd gan y cais presennol yn gyson â’r cais gwreiddiol.  Mae’r cais presennol yn denu cyllideb cyfatebol sylweddol am gyfanswm cost cynllun o £781,700.  Mae hyn yn dangos fod yr amser a gymerwyd i ddatblygu’r cynllun wedi gwella ei allbynnau.

 

 

 

Roedd aelodau'r Pwyllgor yn ystyried y dylid monitro'r cynllun hwn yn rheolaidd a rhoi manylion am y meini prawf gwariant arfaethedig yr oedd yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth yn bwriadu ei wneud yn y safle.  Awgrymwyd y dylai cynrychiolydd o'r Ymddiriedolaeth Treftadaeth fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn i roddi diweddariad i'r aelodau am y cynnydd ar y safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD rhyddhau'r £38,800 oedd ar ôl fel arian cyfatebol i'r prosiect oedd yn cael ei ariannu gan Gyllid Loteri Treftadaeth ac i ofyn am i gynrychiolydd o'r Ymddiriedolaeth Treftadaeth ddod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn i roi cyflwyniad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud ar y safle.

 

 

 

 

 

 

 

MR. JOHN PENRI WILLIAMS

 

CADEIRYDD