Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 13th June, 2005

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL A CHYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTÛN

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 MEHEFIN, 2005

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

Cynghorwyr P.M.Fowlie, R.Llewelyn Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

Y Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol)

Mr.Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau'r Athrawon

Mrs Heledd Hearn (Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgol Feistri/Undeb yr Athrawesau)

Miss Mefys Jones (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru)

Mr.John Wyn Jones (Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd)

 

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr Mrs B.Burns, G.O.Jones, J.M.Davies (Aelod Portffolio Addysg) Mr.Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Y Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg), Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol Athrawon), Mrs Eleri Moss (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

 

 

 

 

                       R H A N  1 -  CYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTÛN

 

 

1

MAES LLAFUR CYTÛN ADDYSG GREFYDDOL MÔN

 

Rhoddwyd ystyriaeth i fater adolygu'r Maes Llafur Addysg Grefyddol sydd i'w gyflwyno i ysgolion y sir er gweithrediad.

 

Bu i Ymgynghorydd y Dyniaethau roddi cyflwyniad i'r Gynhadledd ar y cyd-destun a'r ystyriaethau ehangach mewn perthynas â'r mater o adolygu'r Maes Llafur Cytûn fel a ganlyn:

 

1.1

Ei bod yn ofynnol o dan Deddf Addysg 1993 i bob Awdurdod Addysg gychwyn adolygiad o'i Faes Llafur Cytûn Lleol ar gyfer Addysg Grefyddol cyn pen pum mlynedd ar ôl yr adolygiad diwethaf, ac wedyn bob pum mlynedd ar ôl i bob adolygiad pellach gael ei gwblhau;

1.2

cynhaliwyd Symposiwm yn 2002 yn Llanidloes gan ACCAC a Chymdeithas CYSAGau Cymru pryd y daeth asiantaethau a chyrff gyda diddordeb yn y maes Addysg Grefyddol a'i ddarpariaeth mewn ysgolion ynghyd i drafod rôl a statws meysydd llafur cytûn yn y presennol ac i'r dyfodol.Rhoddodd y fforwm hon gyfle i asiantaethau wyntyllu eu syniadau ynglyn â pharatoad meysydd llafur cytûn a'r manteision ac anfanteision o gael maes llafur cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yng Nghymru;

1.3

canlyniad y Symposiwm oedd adroddiad cyhoeddedig a grynhodd naws y drafodaeth yn Llanidloes.Roedd y mwyafrif o gyrff a gyfranogodd yn y Symposiwm o blaid cyflwyno Maes Llafur Cytûn Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Addysg Grefyddol;

1.4

mae ACCAC wedi cyflwyno fframwaith cenedlaethol gogyfer meysydd llafyr cytûn sydd yn cyflwyno elfen o gysondeb tra'n galluogi awdurdodau addysg lleol i gadw blas leol ar eu meysydd llafur cytûn.Er nad yw'r fframwaith hon wedi cael ei gweithredu ar lefel cenedlaethol oherwydd nad oes gorfodaeth ar awdurdodau addysg i'w mabwysiadu, mae wedi lliwio nifer o adolygiadau o gynnwys meysydd llafur cytûn;

1.5

mae yna ddylanwadau eraill mae'n rhaid eu hystyried megis bwriad y Cynulliad Cenedlaethol i ddiwygio addysg cynradd y cyfnod sylfaen (plant dan 7 oed) gan roddi mwy o bwyslais ar brofiadau ymarferol disgyblion iau.Mae'r ddogfen ynglyn â'r Cyfnod Sylfaen ar ffurf drafft ar hyn o bryd ond mae yna ysgolion peilot sydd wrthi yn treialu gweledigaeth y ddogfen.Mae yna hefyd gynlluniau ar y gweill i ddiwygio addysg 14-19 oed sydd yn gofyn i ysgolion fod yn fwy creadigol wrth addysgu gan roddi rhagor o ryddid i ddisgyblion yr oedran hwn lunio eu llwybrau dysgu eu hunain.At hynny, mae ACCAC yn dechrau trafod adolygiad o gwricwlwm CA2 a CA3 ac mae eisoes wedi sefydlu grwpiau i adolygu pynciau cwricwlwm unigol gan roi sylw i'r cydbwysedd rhwng cynnwys a datblygu sgiliau.

1.6

Mae'r arweiniad a roddir gan Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru fel a gofnodir  yng nghyfarfod y Gymdeithas dyddiedig 19 Tachwedd, 2004 yn argymell yn gryf bod cyrff CYSAGau yn gohirio paratoi meysydd llafur cytûn newydd hyd nes fod gwybodaeth mwy pendant i law ynglyn â'r newidiadau sydd ar y gweill fel a grybwyllir uchod.Fodd bynnag, mae'n ofynnol i'r Gynhadledd ddod i benderfyniad ynglyn â'r mater ac mae dau ddewis posibl ganddi sef:

 

 

 

1.6.1

Ail-lunio'r Maes Llafur Cytûn yn gyfan gwbl; neu

 

1.6.2

ail-fabwysiadu'r Maes Llafur presennol am y tro

 

 

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden y Gynhadledd bod CYSAG Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 7 Chwefror wedi cymeradwyo sefydlu Cynhadledd Maes Llafur Cytûn i ystyried y mater a bod gweithgor tasg o blith swyddogion ac athrawon Môn yn cael ei ffurfio i ymgymryd â'r gwaith paratoadol gogyfer y Gynhadledd.Yn dilyn y penderfyniad hwn, ymgynghorwyd â swyddogion Cyngor Gwynedd ynglyn â'r priodoldeb o ohirio adolygu'r Maes Llafur hyd nes y bydd ACCAC wedi cwblhau ei waith ac argymell ail-fabwysiadu'r Maes Llafur presennol yn y cyfamser.Cytunwyd i argymell y strategaeth hon i Gynhadledd Maes Llafur Cytûn y ddau awdurdod.Gofynnir felly i Gynhadledd Môn ystyried yr argymhelliad hwn a dod i safbwynt ar y mater.

 

 

 

Yn y fan hyn, ymrannodd y Gynhadledd yn grwpiau i ystyried eu hymateb i'r argymhelliad i ail-fabwysiadu'r Maes Llafur presennol hyd nes fod gwaith ACCAC wedi ei gwblhau.Yn dilyn trafodaeth fesul grwp, bu i'r Gynhadledd ail-gynnull ac adroddodd y grwpiau ar eu safbwynt fel a ganlyn:

 

 

 

Yr Awdurdod Addysg Lleol - yn cefnogi mabwysiadu'r argymhelliad i ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun presennol;

 

 

 

Yr  Enwadau Crefyddol - yn cefnogi mabwysiadu'r argymhelliad i ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun presennol;

 

 

 

Undebau'r Athrawon - yn cefnogi mabwysiadu'r argymhelliad i ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun presennol;

 

 

 

Penderfynwyd yn unfrydol bod y Gynhadledd Maes Llafur Cytûn yn ail fabwysiadu'r Maes Llafur Cytûn Addysg Grefyddol presennol am gyfnod pellach o bum mlynedd neu hyd y cyhoeddir adolygiad ACCAC o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'i fwriadau mewn perthynas â Maes Llafur cenedlaethol, gan alw cynhadledd pellach i drafod y mater mewn manylder bryd hynny.

 

 

 

 

 

                            R H A N 2 - CYFARFOD Y CYSAG

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

 

 

Cyfeiriwyd yn y fan hyn at y ffaith fod Arweinydd y Cyngor Sir, sef y Cynghorydd W.J.Williams wedi derbyn anrhydedd yr MBE yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am ei wasanaeth i addysg a llywodraeth leol.Bu i aelodau'r CYSAG longyfarch y Cynghorydd W.J.Williams ar dderbyn yr anrhydedd hwn.

 

 

 

2

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2005.  (Cyfrol y Cyngor 3 Mawrth, 2005 - tud 126)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

2.1

Eitem 2.1 - Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol - Adroddiad Blynyddol

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden nad oedd yr Athro Leslie Francis o'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yn gallu bod yn bresennol heddiw i gyfarch y CYSAG oherwydd ymrwymiadau eraill.Fodd bynnag, byddir yn gwneud pob ymdrech i gyd-gordio dyddiadau fel bod yr Athro Francis yn gallu mynychu un o gyfarfodydd nesaf y CYSAG.

 

 

 

2.2

Eitem 2.2 - Safonau Cyrhaeddiad yn yr Arholiadau Allanol 2004

 

 

 

Cyfeirwyd at yr ystadegau mewn perthynas â nifer y disgyblion a safodd Astudiaethau Crefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at safon Arholiad Lefel A a'r Arholiad Uwch Gyfrannol yn 2004 a holwyd pam nad oedd ystadegau o Ysgol Uwchradd Caergybi yn gynwysiedig yn y ffigyrau hyn.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden nad yw Ysgol Uwchradd Caergybi yn cynnig Addysg Grefyddol Lefel A  a bod yr amrediad o bynciau sydd ar gael yn fater i'r ysgol unigol a bod y dewis sydd ar gael yn aml yn ddibynnol ar y nifer o ddisgyblion sydd yn mynegi diddordeb mewn pwnc.Mae'n bosibl bod disgyblion sydd yn dymuno dilyn Addysg Grefyddol a phynicau lleiafrifol eraill yn gallu gwneud hynny trwy fynychu gwersi mewn ysgol arall sydd yn cynnig y ddarpariaeth. Fodd bynnag, tra bod y bedair ysgol uwchradd arall yn y sir yn gwneud darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A, mae yna peth ansicrwydd ynglyn â beth fydd y sefyllfa yn y dyfodol yn sgîl cyflwyno trefniadau cyllido newydd gogyfer addysg chweched dosbarth, ac mae ELWa ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau ynglyn â'r niferoedd a ystyrir yn hyfyw ar gyfer pynciau penodol.

 

 

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas y Penaethiaid Uwchradd tra ei bod yn bosib crynhoi niferoedd i grwp cyfrwng Cymraeg a grwp cyfrwng Saesneg ar gyfer pynciau penodol nid yw hynny'n ymarferol bosibl mewn perthynas â darpariaeth Addysg Grefyddol oherwydd nad yw amserlenni'r ysgolion uwchradd yn cyd-fynd.Felly, os yw disgybl o Ysgol Uwchradd Caergybi yn awyddus i ddilyn Addysg Grefyddol hyd Lefel A byddai'n rhaid iddo/iddi newid ysgol.

 

 

 

Rhoddodd Yngynghorydd y Dyniaethau wybod i'r CYSAG nad yw Ysgol Uwchradd Caergybi yn cynnig cwrs TGAU Addysg Grefyddol ychwaith, ond mae'r ysgol yn gwneud darpariaeth Astudiaethau Crefyddol statudol a bu'r ddarpariaeth hon yn destun arolygiad allanol ac fe gyflwynwyd copi o'r adroddiad arolygiad hwnnw gerbron y CYSAG.

 

 

 

Roedd cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg a chynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr yn bryderus iawn ynglyn â'r diffyg darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caergybi a bu iddynt nodi eu bod yn awyddus i gael gwybod beth yw'r rhesymau paham nad yw'r ysgol yn cynnig y cyfryw ddarpariaeth, ynghyd â beth fyddai'r ysgol yn gallu ei wneud i wirio'r sefyllfa, a bu iddynt ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adysg a Hamdden gysylltu gyda'r ysgol i'r perwyl hwn. Ychwanegwyd y byddai o gymorth i'r CYSAG gael gwybod hefyd beth yw'r ddarpariaeth statudol mae'r ysgol yn ei wneud.

 

 

 

Yn y drafodaeth ddilynol cytunwyd yn gyffredinol ei bod yn deg i'r CYSAG yn rhinwedd ei swydd gwestiynu'r diffyg darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caergybi, ond  mynegwyd y safbwynt hefyd na ddylid canolbwyntio ar ddiffyg darpariaeth mewn un ysgol yn enwedig pan fo adroddiad arolygiad yn cwmpasu darpariaeth Addysg Grefyddol statudol yn yr ysgol wedi ei gyhoeddi ac wedi ei nodi gan y CYSAG.

 

 

 

Ar ôl ystyried y mater, daeth y CYSAG i'r casgliad ei fod yn briodol iddo ymholi ynglyn â'r diffyg darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caergybi a chytunwyd i ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden wneud hynny.

 

 

 

Yn y cyswllt hwn hefyd, dygwyd sylw at y ffaith mai 10 disgybl a safodd Arholiad Lefel A cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Grefyddol yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn 2004 ac mai 6 disgybl a safodd yr Arholiad Uwch Gyfrannol.

 

 

 

Penderfynwyd gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addsyg a Hamdden gysylltu gydag Ysgol Uwchradd Caergybi i bwrpas cael gwybod beth yw rhesymau'r ysgol dros beidio â chynnig darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A, beth all yr ysgol ei wneud i wirio'r sefyllfa a beth yw'r ddarpariaeth statudol Addysg Grefyddol mae'r ysgol yn ei chynnig ar hyn o bryd.

 

 

 

3

HYFFORDDIANT MEWN SWYDD ADDYSG GREFYDDOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn amlinellu'r gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd a gynhaliwyd ar gyfer athrawon Addysg Grefyddol y sir yn ystod y flwyddyn Ebrill, 2004 i Fawrth, 2005.

 

 

 

Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau y prif bwyntiau fel a ganlyn:

 

 

 

3.1

Fel rhan o'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda'r ysgolion mae'r Awdurdod Addysg yn darparu rhaglen hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon yr Awdurdod.Mae'r Cynllun Strategol Addysg yn cyfeirio at bwysigrwydd y rhaglen hyfforddi fel ffordd o sicrhau bod athrawon yn cael gwybodaeth am ddatblygiadau newydd, rhannu arferion da a chydweithio i ddatblygu strategaethau dysgu ac addysgu a deunyddiau pwrpasol.Anelir at sicrhau bod y rhaglen hyffordiant yn ymateb i anghenion ysgolion ac athrawon trwy ymgynghori gyda phenaethiaid, athrawon a thiwtoriaid proffesiynol yn yr ysgolion.

 

3.2

Eleni gwelwyd toriadau yn y grant ar gyfer hyfforddiant mewn swydd.Nid oedd cyllidebau'r ysgolion yn caniatau iddynt dalu am athrawon llanw ac roedd hyn yn effeithio ar y niferoedd oedd yn gallu mynychu cyrsiau.

 

3.3

Mewn ymateb i hyn treialwyd trefn newydd eleni trwy gau ysgolion cynradd ac uwchradd am ddau ddiwrnod er mwyn cynnal cyrsiau hyfforddiant.Y tiwtoriaid proffesiynol oedd yn gyfrifol am ddewis y cyrsiau ar gyfer yr ysgolion uwchradd a'r penaethiaid oedd yn dewis y cyrsiau ar gyfer yr ysgolion cynradd.

 

3.4

Yn ystod y flwyddyn darparwyd cwrs sirol i'r sector cynradd gogyfer CA1 o dan destun Crefyddau Mawr y Byd a bu i 3 o Fôn ei fynychu; hefyd darparwyd cwrs HADA 5 diwrnod yn cynnwys ymweliad â'r Mosg yng Nghyffordd Llandudno a bu i 5 o Fôn ei fynychu.

 

3.5

O ran cyrsiau uwchradd gorfu canslo'r cwrs sirol ar destun Addysg Grefyddol yn y Newyddion am nad oedd yna niferoedd digonol i gyfiawnhau ei gynnal.Cynhaliwyd 2 gwrs Consortiwm i Fôn, y naill ar Hunan Arfarnu a Symbolaeth Crefyddol a fynychwyd gan 7 athro/awes, a'r llall ar Asesu Cynnydd Disgyblion yn CA3 a fynychwyd gan 5 athro/awes.

 

3.6

Mae ysgolion cynradd ac uwchradd y sir yn derbyn cefnogaeth yr Ymgynghorydd Dyniaethau a'r Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol (rhan amser) wrth iddynt ymweld ag ysgolion fel rhan o'r rhaglen hawl a haeddiant.Byddant yn cynorthwyo athrawon wrth iddynt gynllunio'u rhaglenni astudio a chynlluniau asesu, paratoi gweithgareddau dosbarth a dethol adnoddau dosbarth addas.Mae cyfraniad yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn allweddol i rannu arferion da a datblygu gweithgareddau dosbarth symbylus, yn aml trwy gyfrwng TGCh.

 

3.7     Yn y cyswllt hwn, nodir bod secondiad Mrs Eleri Moss, Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol y Moelwyn fel Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn dirwyn i ben y tymor hwn.Mae Mrs Moss wedi rhoi cefnogaeth ddwys i rai o ysgolion uwchradd yr ardal yn ogystal ag ymgymryd â dyletswyddau arferol athrawes ymgynghorol.Mae athrawon Addysg Grefyddol a disgyblion yn ddyledus iawn iddi am ei hymroddiad a'i chefnogaeth ymarferol.Mae hefyd wedi cyfrannu at brosiectau arbennig ac wedi cefnogi ysgolion wrth arsylwi gwersi Addysg Grefyddol ac arfarnu samplau o waith disgyblion.

 

      

 

     Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn dymuno cofnodi ei diolch ffurfiol a phersonol i Mrs Eleri Moss am ei chyfraniad, ei chefnogaeth a'i chwmniaeth yn ystod cyfnod ei secondiad.

 

      

 

     Ategwyd y diolchiadau uchod gan aelodau'r CYSAG a bu iddynt ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden anfon llythyr ar eu rhan at Mrs Moss i fynegi eu gwerthfawrogiad iddi am ei gwaith yn ystod ei secondiad fel Athrawes Ymgynghorol.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â gweithgaredd hyfforddiant yn ystod y flwyddyn a nodi ei gynnwys.

 

      

 

4

LLYTHYR ACCAC YNGLYN Â DEUNYDDIAU YSTAFELL DOSBARTH

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gohebiaeth dyddiedig Mai, 2005 gan ACCAC yn gofyn am sylwadau ac awgrymiadau i'w cyflwyno gerbron Paneli Ymgynghorol sydd yn gyfrifol am adnabod anghenion ac am ddarparu cyngor ar ddeunyddiau i'w comisiynu gan ACCAC ym mhob pwnc, ac sydd yn cwrdd eleni yn ystod yr hydref.

 

      

 

     Cytunwyd y byddai'n ymarferol i unrhyw aelod o'r CYSAG ac yn arbennig yr athrawon fel ymarferwyr proffesiynol i gysylltu'n uniongyrchol ag Ymgynghorydd y Dyniaethau os ydynt yn teimlo bod yna unrhyw fylchau o ran gwerslyfrau Addysg Grefyddol fel y gall hithau wedyn fwydo'r wybodaeth ymlaen i ACCAC.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi'r ohebiaeth gan ACCAC gan ofyn i gynrychiolwyr undebau'r athrawon os oes ganddynt unrhyw awgrymiadau o ran deunyddiau i'w comisynu ym maes Addysg Grefyddol i'w cyflwyno'n uniongyrchol i Ymgynghorydd y Dyniaethau.

 

      

 

5

CANOLFAN GENEDLAETHOL ADDYSG GREFYDDOL - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003/04

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol am 2003/04, ynghyd â gohebiaeth ynglyn â'r tanysgrifiad gogyfer 2005/06.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden bod yr Adroddiad Blynyddol uchod yn dod gerbron y CYSAG i roi gwybod iddo am weithgareddau'r Ganolfan dros y flwyddyn oherwydd fod Cyngor Sir Ynys Môn ymhlith tanysgrifwyr y Ganolfan sydd yn cyfarnnu'n ariannol iddi yn flynyddol.Teimlir fod y Ganolfan yn adnodd arbennig o werthfawr ac mae'r Cyngor Sir eisoes wedi cytuno i barhau gyda'r tanysgrifiad iddi am y flwyddyn nesaf, sef cyfraniad o £1,290 tuag at y Ganolfan a £376 tuag at gostau cynhyrchu Newyddlen Addysg Grefyddol.

 

 

 

Roedd y CYSAG yn gytun ei gefnogaeth tuag at y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol am 2003/04 a nodi ei gynnwys.

 

 

 

6

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth am gynnwys adroddiadau Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygu 1996 mewn Addysg Grefyddol a materion perthynol mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Amlwch, Ysgol Gymuned Bodorgan ac Ysgol Gynradd Llanddeusant.

 

      

 

     Nodwyd gyda boddhad fod yr adroddiadau yn rhai cadarnhaol iawn o ran darpariaeth Addysg Grefyddol yn y dair ysgol ac nad oedd yna unrhyw ddiffygion o bwys yn cael eu hamlygu.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi cynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau Arolygiad mewn perthynas â'r ysgolion a nodir gan ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu at y dair ysgol i gyfleu i'w staff a'u disgyblion ddiolch a llongyfarchiadau aelodau'r CYSAG am eu gwaith da a'u cyflawniad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd Eurfryn Davies

 

                Cadeirydd