Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 3rd October, 2005

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 3 HYDREF, 2005

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr.Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteriadd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

 

Cynghorydd Gwilym O.Jones

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mr.Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau'r Athrawon

 

Mrs Heledd Hearn (Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgol Feistri/Undeb yr Athrawesau)

Miss Mefys Jones (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru)

Mr.John Wyn Jones (Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd)

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Addysg (Uwchradd) (Mr.Gwyn Parri)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr Mrs B.Burns, P.M.Fowlie, Parch Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Parch. Athro Leslie J. Francis (Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol), Tania ap Sion (Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol)

 

Estynodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mr.Gwyn Parri, Swyddog Addysg (Uwchradd) a oedd yn bresennol yn ei gyfarfod cyntaf o'r CYSAG, a hefyd i'r Parch.Athro Leslie Francis a Tania ap Sion a oeddent yn bresennol i roddi cyflwyniad i aelodau'r Cyngor Ymgynghorol ar waith y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mangor.

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd Mr.Rheinallt Thomas ddiddordeb yn eitem 7 ar y rhaglen, Mudiad Addysg Gristnogol Cymru - Adroddiad Blynyddol yn rhinwedd ei swydd fel Trysorydd y mudiad a ni chymerodd ran yn y drafodaeth ar yr eitem honno.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2005. (Cyfrol y Cyngor 20.09.2005, tud 98 - 102)

 

Yn codi -

 

Rhan 2 - Eitem 2.1 - Safonau Cyrhaeddiad yn yr Arholiadau Allanol 2004

 

Dygwyd sylw at benderfyniad y CYSAG yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin i geisio gwybodaeth gan Ysgol Uwchradd Caergybi ynglyn â darpariaeth Addysg Grefyddol yr ysgol ac yn benodol ynglyn â'r ffaith nad yw'r ysgol yn cynnig Addysg Grefyddol Lefel A, a gofynnwyd a oedd yr ysgol wedi ymateb i'r ymholiad.

 

 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ei fod wedi ysgrifennu at Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi yn unol â chais y CYSAG a'i fod wedi derbyn ymateb mewn llythyr dyddiedig 6 Gorffennaf, 2005.Ynddo, esbonia'r Pennaeth bod disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 yn astudio Addysg Grefyddol trwy gyfrwng modiwlau yn gynwysiedig yn eu Rhaglen Cyfoethogi Cwricwlwm.Gwnaed gwaith yn ddiweddar gydag Ymgynghorydd y Dyniaethau i ddiweddaru'r agwedd hon o'r gwaith.O ran cyrsiau ôl-16, mae'r ysgol yn cynnig gwersi Addysg Grefyddol i bob disgybl.Aiff y Pennaeth rhagddi i nodi bod yr ysgol yn adolygu ei gwricwlwm bob blwyddyn yn ystod tymor yr Hydref ac mae'r cwricwlwm i raddau yn adlewyrchu diddordebau'r myfyrwyr.Yn ddiweddar ychwanegwyd cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Busnes i'r cwricwlwm am fod myfyrwyr wedi dangos diddordeb ynddynt ac wedi gwneud cais am y datblygiadau hyn.Yn anffodus, ni wnaed unrhyw gais am gwrs Lefel A Addysg Grefyddol.Bydd yr ysgol yn parhau i

 

adolygu'r sefyllfa yn flynyddol ac yn gwneud hynny hefyd yng nghyd-destun ystyriaethau staffio.

 

 

 

Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau wybod i'r CYSAG ei bod wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi i drafod darpariaeth Addysg Grefyddol statudol ar gyfer disgyblion CA4, ac, yn absenoldeb Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol, bu iddi dreulio prynhawn a noswaith yn gwirio cynlluniau disgyblion Blwyddyn 10 gyda Phennaeth yr Adran Gymraeg.Nododd ei bod wedi trefnu i ymweld â'r ysgol drachefn y mis hwn i gael cyfarfod gyda Phennaeth yr Adran Addysg Grefyddol.

 

 

 

Cydnabu aelodau'r CYSAG fod yr uchod yn broblem hir-sefydlog a bod ystyriaethau staffio yn rhai problemus o ran recriwtio personau addas gyda'r cymwysterau priodol yn y maes i ddarparu'r pwnc, a thra'n derbyn esboniad Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi dros ddiffyg darpariaeth Addysg Grefyddol Lefel A yn yr ysgol, roedd yr aelodau yn tristau ynghylch y sefyllfa.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden tra'n derbyn fod diffyg arbenigedd Addysg Grefyddol yn ffactor, mae'r sir wedi cyrraedd cryn aeddfedrwydd o ran gallu gwneud darpariaeth ar y cyd ac mae yna ddealltwriaeth a chyd-weithrediad da rhwng yr ysgolion o ran rhannu adnoddau yn arbennig mewn pynciau lleiafrifol.Gall disgybl felly ddilyn cwrs Addysg Grefyddol nad yw efallai ar gael iddo/iddi yn yr ysgol mae wedi ei gofrestru ynddi trwy ddarpariaeth ganolog yn Llangefni neu thrwy fynychu ysgol arall sydd yn cynnig y ddarpariaeth. Efallai mai dyma'r ffordd orau i sicrhau cyfle cyfartal i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi sydd yn dymuno dilyn cwrs Addysg Grefyddol hyd at safon Lefel A.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn llythyr Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ynglyn â darpariaeth Addysg Grefyddol yn yr ysgol, a nodi'r wybodaeth.

 

 

 

3

CYFLWYNIAD GAN Y PARCH.ATHRO LESLIE FRANCIS

 

 

 

Bu i'r Parch.Athro Leslie Francis, Cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol a Tania ap Sion o'r Ganolfan roddi cyflwyniad ar yr amryfal agweddau o waith a gweithgaredd y Ganolfan ym Mangor.

 

 

 

Diolchodd yr Athro Leslie Francis i aelodau'r CYSAG am y gwahoddiad caredig i'w cyfarch ac am y croeso cynnes a rhoddodd ef a Tania ap Sion amlinelliad o waith y Ganolfan fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Cymerodd gyfrifoldeb am y Ganolfan ym 2000 ac roedd yn gwerthfawrogi'n fawr iawn cefnogaeth CYSAG Ynys Môn i'r Ganolfan.Amcanai yn ei gyflwyniad i roddi blas i aelodau ar werth y Ganolfan fel adnodd lleol a chenedlaethol ac fel un gall wneud cyfraniad hefyd ar lefel rhyngenedlaethol;

 

Ÿ

mae'r Ganolfan yn deillio o flaengareddau Anglicanaidd a welodd sefydlu Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin a Choleg y Santes Fair ym Mangor, ac mae Cronfa Ymddiriedolaeth Coleg y Santes Fair yn parhau i gynnal y Ganolfan ynghyd â chyfraniadau o ffynonellau eraill megis awdurdodau addysg a'r eglwysi. Ymdrechir i gadw at y weledigaeth wreiddiol a oedd wedi seilio ar y cysyniad o Ganolfan Addysg Grefyddol fel endid ar wahân o fewn y Brifysgol; ac mae hyn yn gryfder o ran galluogi'r Ganolfan i wneud y mwyaf o holl fanteision yr amgylchfyd academaidd tra'n cadw ei hannibynniaeth;

 

Ÿ

ffocws y ganolfan yw Addysg Grefyddol o fewn yr Eglwys ac ysgolion ac anelir at sicrhau fod y ffocws hwn yn greiddiol i'w gweithgareddau.Mae'r Ganolfan hefyd yn hyrwyddo gwaith ymchwil a datblygu ar y sail bod ymchwil yn gonglfaen Addysg Grefyddol o'r ansawdd orau.Felly, mae'r pwyslais gyfredol ar y Ganolfan Adnoddau; Addysg Grefyddol mewn ysgolion ac eglwysi; Addysg Oedolion Lleyg; addysg gychwynnol a pharhaus addysgwyr crefyddol; gwaith ymchwil, a'r Ganolfan Addysg Byd sydd yn dod o dan ymbarél y Ganolfan Genedlaethol AG;

 

Ÿ

mae'r Ganolfan yn aelod o Goleg a Phrifysgol y Gymuned Anglicanaidd sydd yn rhoddi iddi fynediad at rwydwaith adnoddau byd eang.Cynhwysa sefydliad staff y Ganolfan Gyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Astudiaethau, Cyfarwyddwr Rhaglenni, swyddogion prosiect, cynorthwywyr ymchwil a myfyrwyr ymchwil - nifer ohonynt yn gweithio yn rhan amser ac ar gontractau rhan amser.

 

Ÿ

mae gan y Ganolfan Adnoddau dros 20,000 o adnoddau ar gael i'w benthyg yn cynnwys llyfrau, deunyddiau clywedol ac arteffactau yn berthnasol i addysg grefyddol mewn ysgolion ac eglwysi, ac addysg datblygiad,  ac mae ar agor trwy'r wythnos ac yn ystod y penwythnosau. Mae gan y Ganolfan Swyddog Adnoddau i gynorthwyo pobl yn eu cais am wybodaeth ac mae'r Swyddog hwnnw ar hyn o bryd yn gweithio ar sefydlu basdata newydd o'r adnoddau gyda mynediad iddo ar y Wê.Cychwynnwyd hefyd ar y broses o greu archif o'r casgliad sylweddol o ddeunyddiau hyn sydd gan y Ganolfan. Agwedd arall o waith y Ganolfan yw darparu cyngor proffesiynol yng nghyswllt Addysg Grefyddol, Addysg Datblygiad ac Ysgolion Eglwysig;

 

Ÿ

fel rhan o'r gwaith cefnogol gydag ysgolion sydd yn elfen bwysig iawn o'r gweithgareddau, mae'r Ganolfan yn cyhoeddi cylchgrawn dwyieithog, Newyddlen Addysg Crefyddol, sef yr unig gylchgrawn sylweddol sydd yn canolbwyntio ar faterion Addysg Crefyddol sydd yn berthnasol i Gymru.Ymgymerir â gwaith datblygu adnoddau arbenigol newydd i athrawon ac ysgolion megis cyfres o lyfrau CA1 fel rhan o brosiect ACCAC o dan y teitl, Mannau Arbennig Cristnogol sydd yn dilyn profiadau dau blentyn, Aled a Sian wrth iddynt fynychu eglwysi Cristnogol ar gyfer achlysuron, dathliadau a gweithgareddau traddodiadol megis gwasanaeth y Pasg, gwasanaeth priodas mewn eglwys anglicanaidd, gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer yr henoed a'r digartref yn y capel sy'n dangos sut mae Cristnogaeth yn ymdrwytho i fywyd bob dydd; gwasanaeth Nadolig, gwasanaeth diolchgarwch a gwasanaeth bedyddio mewn Eglwys Gatholig;

 

Ÿ

dilynwyd y gyfres hon gan gyfres bellach a luniwyd eto ar ran ACCAC ar gyfer disgyblion CA2.Yn y gyfres newydd mae'r ddau blentyn yn dysgu am grefyddau yng Nghymru a'r byd trwy gyfrwng 7 llyfr stori, ac mae dau lyfr yn y gyfres wedi'u neilltuo i archwilio Cristnogaeth ac un llyfr yr un i Islam, Iddewiaeth, Siciaeth, Bwdïaeth, a Hindwaeth. Mae'r Ganolfan hefyd yn cyd-weithio gyda'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru ar y prosiect hwn a gyda SPCK i ddatblygu adnoddau cynradd dwyieithog ar gyfer cyd-addoli.Bwriedir datblygu adnoddau uwchradd hefyd fel mae cyllid yn caniatau;

 

Ÿ

o ran Addysg Grefyddol yn yr Eglwys datblygwyd cymeriad ar gyfer plant y blynyddoedd sylfaenol o dan yr enw Teddy Horsley sydd yn archwilio cysyniadau crefyddol gyda phlant ifanc.Mae'r gyfres Learning with Sunday Gospels yn cynnwys deunydd i'w ddefnyddio gan eglwysi gyda phlant a phobl ifanc - dymunir darparu gwefan lle gall rhieni dynnu adnoddau i'w defnyddio gyda'u plant i baratoi am wasanaeth yr eglwys ar y Sul fel eu bod yn teimlo'n rhan o'r gwasanaeth ac yn rhan o gymuned ddysgu'r eglwys;

 

Ÿ

rhan bwysig arall o waith y Ganolfan yw Addysg Grefyddol Oedolion Lleyg - mae cynulleidfaoedd eglwys yn gynyddol awyddus i hyrwyddo addysg ac mae lleygwyr yn cymryd arnynt swyddogaeth gynyddol bwysig yn yr eglwys.Mae'r rhaglen Exploring Faith wedi'i llunio ar gyfer unigolion o fewn cynulleidfaoedd eglwys sydd am wella eu dealltwriaeth o faterion ffydd yn ogystal â'r rheiny sydd yn dymuno dilyn gweinidogaeth gydnabyddedig, ac fe'i cynhelir ar sail dysgu o bell.Ceir cwrs hefyd ar gyfer unigolion sydd yn ymwneud â gweinidogaeth plant - mae Addysg Gweinidogaeth Gychwynnol yn waith sydd wedi tyfu'n gyflym iawn ac wedi datblygu yn Ganolfan ar gyfer gweinidogaeth sydd yn sefyll ochr yn ochr â'r prif Ganolfan;

 

Ÿ

mae'r Ganolfan AG yn cynnal nifer o gyrsiau fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn hyrwyddo gwaith ymchwil, ac mae'r cyhoeddiadau sydd wedi deillio o waith ymchwil yn amrywiol - mae testunau ymchwil cyfredol yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a'r Cwricwlwm Cymreig, datblygiad agweddau crefyddol ymhlith disgyblion uwchradd, a chyfraniad y Gadeirlan ym Mangor tuag fywyd y ddinas o berspectif yr economi lleol yn ogystal â'r hyn mae'r adeilad yn sefyll drosto;

 

Ÿ

wrth fesur gwerth y Ganolfan, rhaid ystyried a yw'r Ganolfan fel ag y mae yn etifeddiaeth deilwng i'r sawl a'i sefydlwyd ac i'w gweledigaeth o Ganolfan Addysg Grefyddol arbenigol yn rhoddi gwasanaeth eang  - mae'r Ganolfan yn darparu adnoddau ar gyfer ysgolion ac eglwysi a'u disgyblion yn lleol, ar draws Cymru, ac mae ganddo hefyd gyfraniad i'w wneud i addysgwyr crefydd ar lefel cenedlaethol a byd eang, a hynny ar gefn gwaddol gymharol fychan.Mae'n gweithio mewn partneriaethau â chyrff eraill i ddatblygu adnoddau ac i sicrhau wedyn bod yr adnoddau hynny ar gael i ysgolion yn lleol ac o hirbell. Mae Newyddlen Addysg Grefyddol yn parhau i fod yn faner i'r Ganolfan ac yn dod â materion Addysg Grefyddol i sylw ysgolion ac addysgwyr AG yn genedlaethol.

 

 

 

Diolchwyd i'r Athro Leslie Francis a Tania ap Sion am gyflwyniad cynhwysfawr a chyflawn o weithgareddau'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol oedd yn rhoi darlun o'r ystod eang o waith mae'r Ganolfan yn ymgymryd ag ef ym maes Addysg Grefyddol, a mynegwyd gwerthfawrogiad gan aelodau'r CYSAG i gyd o'r gwaith hwnnw, gan ddymuno'n dda i'r Ganolfan am lwyddiant parhaus yn y dyfodol.

 

 

 

Penderfynwyd diolch i'r Parch.Athro Leslie Francis a Tania ap Sion am roddi o'u hamser i fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn o CYSAG Ynys Môn ac am gyflwyniad diddorol a dadlennol o waith y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol.

 

 

 

4

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

 

 

Cyflwynwyd - Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghonwy ar 22 Mehefin, 2005 ynghyd â'r rhaglen gogyfer cyfarfod nesaf y Gymdeithas i'w gynnal yng Nghasnewydd ar 19 Hydref, 2005.

 

 

 

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

rhoddwyd cyflwyniad arbennig i'r cyfarfod gan yr Athro Leslie Francis ar ran NAPfRE ar destun, Ffydd a Gwerthoedd : dylanwad parhaus hunaniaeth grefyddol ymysg pobl ifanc;

 

Ÿ

derbyniwyd adborth gan y Gymdeithas o gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mai gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru, a nodwyd mai un o'r prif bynciau trafod o'r cyfarfod hwnnw oedd AG yn Llwybrau Dygsu 14-19 a noddiant ariannol ELWa i gyrsiau arholiad ôl-16 mewn Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol.Penderfynodd Cymdeithas CYSAGau Cymru gylchredeg holidaur ymysg ysgolion uwchradd Cymru i ganfod beth yw'r sefyllfa a maint y broblem o ran cyllido Addysg Grefyddol ôl-16.

 

Ÿ

cafwyd cyflwyniad ar Brosiect CACC yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu;

 

Ÿ

roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno i fod yn bresennol fel un o'r llefarwyr allweddol (yn ddarostyngedig i'w threfniadau dyddiadur) mewn Symposiwm i'w gynnal ym mis Mai 2006;

 

Ÿ

yn y Cyfarfod Blynyddol, etholwyd y Parch.Eldon Phillips o Abertawe a Ms.Vicky Thomas o Dorfaen i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith am 2005-08.

 

 

 

Penderfynwyd nodi cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghonwy ar 22 Mehefin, 2005 ynghyd â chynnwys y rhaglen gogyfer y cyfarfod i'w gynnal yng Nghasnewydd ar 19 Hydref, 2005 gan ddiolch i Is-Gadeirydd y CYSAG am ei adborth ar lafar.

 

 

 

5

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN

 

      

 

     Cyflwynwyd - Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2004/05.

 

      

 

     Codwyd cwestiwn ynglyn â threfn arolygu newydd ESTYN a nodwyd y bu i'r CYSAG gytuno i barhau i dderbyn adborth ynglyn â pherfformiad ysgolion y sir yn y maes trwy gyfrwng adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, a holwyd a oedd yna unrhyw ddatblygiadau i'w hadrodd ynghylch hyn.

 

      

 

     Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden bod dymuniad y CYSAG i barhau i fonitro'r agweddau perthnasol o waith ysgolion sydd o dan ei gyfrifoldeb fel corff wedi cael ei nodi.Mae Cynnal wedi datblygu offeryn hunan arfarnu ar gyfer ysgolion ac mae trafodaethau yn parhau gyda Phenaethiaid ysgol ynglyn â chytuno ar ffurf a model ar gyfer adrodd  i'r CYSAG. Unwaith y ceir consenws ynghylch hyn byddir yn cyflwyno cynllun gerbron y CYSAG  gyda'r wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chwennych gan geisio sicrhau na fyddir yn sgîl  hynny yn gor-feichio'r ysgolion.

 

      

 

     Nodwyd bod ysgol yn rhoddi sylw i'r holl agweddau cwricwlaidd wrth baratoi ar gyfer arolygiad er mai ond 6 phwnc sydd yn cael eu harolygu'n benodol o dan y drefn newydd, a byddai modd cyflwyno'r adroddiad rhagbaratoawl gerbron y CYSAG fyddai hefyd yn cynnwys trosolwg o agweddau Addysg Grefyddol o waith yr ysgol.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol am 2004/05 fel ag a gyflwynir yn amodol ar y diwygiadau a nodir isod -

 

      

 

Ÿ

Dileu'r cyfeiriad at Mr.Rheinallt Thomas fel Chairman Wales Association of SACREs yn fersiwn Saesneg yr Adroddiad Blynyddol;

 

Ÿ

Cywiro'r cyfeiriad at Welsh Centre for Religious Education Centre for Wales yn fersiwn Saesneg yr Adroddiad i ddarllen Welsh National Centre for Religious Education;

 

Ÿ

cysoni'r cyfeiriadau at yr Annibynnwyr trwy'r adroddiad i ddarllen Undeb yr Annibynnwyr yn y Gymraeg ac Union of Welsh Independents yn y Saesneg.

 

 

 

6

SAFONAU CYRHAEDDIAD YN YR ARHOLIADAU ALLANOL 2005

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn ymgorffori dadansoddiad o ganlyniadau disgyblion ysgolion Môn yn arholiadau allanol Haf 2005.

 

      

 

     Adroddwyd am ganlyniadau disgyblion ysgolion Môn yn arholiadau allanol Haf 2005 fel a ganlyn -

 

      

 

6.1

Canlyniadau  TGAU  - Astudiaethau Crefyddol

 

      

 

Ÿ

canlyniadau yn dda gyda 144 o ymgeiswyr, 110 yn enethod a 34 bachgen, oedd yn uwch na nifer ymgeiswyr y flwyddyn flaenorol, sef 135;

 

Ÿ

roedd y nifer yn amrwyio o 0 mewn un ysgol i 53 mewn ysgol arall;

 

Ÿ

bu i ganlyniadau'r merched ragori ar rai'r bechgyn ond gwelwyd y bwlch yn cau rhyngddynt;

 

Ÿ

roedd cyfartaledd sgôr y pwnc yn 5.5 tra bod sgôr y pynciau eraill yn 5.1;

 

Ÿ

mae sgôr cyfartalog y merched (5.6) yn uwch na'u sgôr yn y pynciau eraill (5.1), a sgôr cyfartalog y bechgyn (5.4) yn ychydig yn uwch na'r sgôr cyfartalog yn y pynciau eraill (5.1);

 

Ÿ

dewisodd 23 ymgeisydd  sefyll y cwrs byr a chawsant ganlyniadau da.

 

 

 

6.2

Canlyniadau Safon Uwch - Astudiaethau Crefyddol

 

      

 

Ÿ

canlyniadau boddhaol gyda 30 o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad mewn 4 ysgol (38 ymgeisydd yn 2004);

 

Ÿ

6 o fechgyn a 24 o enethod;

 

Ÿ

canran sy'n ennill gradd A wedi codi'n sylweddol ers 2003;

 

Ÿ

sgôr gyfartalog y pwnc yn 87.3 yn erbyn 89.9 yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

sgôr gyfartalog y genethod (87.5) yn ychydig yn uwch na sgôr gyfartalog y bechgyn (86.7)

 

 

 

6.3

Canlyniadau Uwch Gyfrannol

 

      

 

Ÿ

canlyniad au bodhaol gyda 49 o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad mewn 4 ysgol (30 ymgeisydd yn 2004);

 

Ÿ

9 o fechgyn a 40 o enethod yn sefyll yr arholiad;

 

Ÿ

canran a enillodd gradd A wedi gostwng ers 2004;

 

Ÿ

sgôr gyfartalog y pwnc yn 34.5 yn erbyn 35.2 yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

sgôr gyfartalog y genethod (35.5) yn ychydig yn uwch na sgôr gyfartalog y bechgyn (30.0).

 

 

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â chanlyniadau disgyblion ysgolion Ynys Môn yn arholiadau allanol Haf, 2005 a nodi ei gynnwys.

 

      

 

7

MUDIAD ADDYSG GRISTNOGOL CYMRU - ADRODDIAD BLYNYDDOL

 

      

 

     Cyflwynwyd -  Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am 2004/05.

 

      

 

     Bu i Ymgynghorydd y Dyniaethau fynegi ei gwerthfawrogiad i'r Mudiad am yr ymdrech sydd wedi ei wneud i gyfieithu deunyddiau ar ran athrawon megis cyhoeddiadau Saesneg gan RE Services ar gyfer ysgolion cynradd - "Mannau Arbennig", "Adegau Arbennig", "Iesu" a "Nadolig".

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am 2004/05 a nodi ei gynnwys.

 

8

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiad arolwg Ysgol Gynradd y Talwrn ac adroddiad arolwg Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad.

 

      

 

     Bu i aelodau'r CYSAG nodi gyda boddhad fod yr adroddiadau arolwg yn achos y ddwy ysgol yn cyfeirio at nodweddion da a rhagorol mewn perthynas â'r ddarpariaeth Addysg Grefyddol ganddynt a diolchasant i staff a disgyblion yr ysgolion am eu gwaith a'u hymroddiad.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi cynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg Ysgol Gynradd y Talwrn ac Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad gan ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu at y ddwy ysgol i gyfleu i'r staff a'r disgyblion ddiolchiadau'r CYSAG am eu gwaith, ac i'w llongyfarch ar eu cyflawniad.

 

      

 

9

EITEMAU YCHWANEGOL

 

      

 

     Nid oedd yr eitemau hyn wedi'u cynnwys ar y rhaglen yn wreiddiol ond fe gytunodd y Cadeirydd i'w hystyried fel materion y dylai'r CYSAG wybod amdanynt ac yr oeddent angen sylw ganddo.

 

      

 

9.1

Aelod Cyfetholedig o'r CYSAG

 

      

 

     Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden wybod i aelodau'r CYSAG ei fod wedi derbyn llythyr o ymddiswyddiad gan Mrs Jean Pleming, aelod cyfetholedig o'r CYSAG ar y sail ei bod bellach wedi terfynu ei chyswllt ag Adran Addysg Grefyddol Prifysgol Cymru Bangor.Roedd Mrs Pleming yn ei llythyr yn cydnabod y pleser a gawsai o fod yn aelod o'r Cyngor Ymgynghorol ac yn awgrymu Mrs Helen Jones, ei holynydd yn Adran Addysg Grefyddol y Brifysgol fel enwebiad i gymeryd ei lle ar y CYSAG.

 

      

 

     Cydnabu aelodau'r CYSAG gyfraniad Mrs Jean Pleming i'w drafodaethau yn ystod ei chyfnod fel aelod cyfetholedig a bu iddynt ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu ati i ddiolch iddi am ei hamser a'i theyrngarwch iddo.Roeddent hefyd yn gytun y byddai Mrs Helen Jones, Athrawes Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn olynydd priodol i Mrs Pleming fel aelod cyfetholedig o'r CYSAG.

 

      

 

     Penderfynwyd  -

 

      

 

Ÿ

cofnodi diolch y CYSAG i Mrs Jean Pleming am ei gwasanaeth i  CYSAG Ynys Môn yn ystod ei chyfnod fel aelod cyfetholedig ohono;

 

Ÿ

penodi Mrs Helen Jones, Athrawes Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn aelod cyfetholedig o'r CYSAG gan estyn gwahoddiad iddi gymryd arni'r swyddogaeth honno.

 

      

 

9.2     Ysgol Uwchradd David Hughes

 

      

 

     Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau at ohebiaeth oddi wrth Pennaeth Ysgol Uwchradd David Hughes yn cydnabod penderfyniad y CYSAG i ail-fabwysiadu'r Maes Llafur Cytun Lleol cyfredol ac yn gwneud cais i'r Cyngor am gael defnyddio lefelau cyrhaeddiad ACCAC i adrodd yn ôl i rieni yn hytrach na'r Maes Llafur Cytun Lleol oherwydd fod geiriad ACCAC yn fwy hylaw i rieni na geiriad y Maes Llafur yn hyn o beth.

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd cytuno i gais Ysgol Uwchradd David Hughes i ddefnyddio lefelau cyrhaeddiad ACCAC  i bwrpas adrodd ar Addysg Grefyddol i rieni disgyblion yn yr ysgol.

 

      

 

      

 

           E.G.Davies

 

            Cadeirydd