Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 12th June, 2006

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG)

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 MEHEFIN, 2006

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwyds Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

Cynghorwyr Mrs B.Burns, Gwilym O.Jones, P.M.Fowlie, R.Llewelyn Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Mr Stephen Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau'r Athrawon

 

Miss Jane Richards (Undeb Cendlaethol yr Athrawon)

Miss Mefys Jones (UCAC)

 

Aelodau Cyfetholedig

 

Y Parch.Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

 

WRTH LAW:

Swyddog Addysg - Uwchradd (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol (Mr Paul Matthews Jones)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru), Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol), Y Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr), Mrs Heledd Hearn (NASUWT), Mr John Wyn Jones (SHA), Mrs Helen Jones (Aelod Cyfetholedig)

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i'w gyfarfod cyntaf o'r CYSAG i'r Parch. Elwyn Jones a oedd yn bresennol ar ran Cyngor yr Ysgolion Sul.

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda Miss Jane Richards oedd wedi cael profedigaeth deuluol yn ddiweddar.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd gyda thristwch mawr at y ffaith fod Mrs Heledd Hearn wedi colli ei mam yng nghyfraith y bore hwnnw - cydymdeimlwyd yn ddwys â Mrs Hearn a'i theulu yn eu colled.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG  a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2006.(Cyfrol y Cyngor 02.05.2006, tud 24 - 29)

 

Yn codi -

 

 

2.1

Eitem 2 - Cofnodion - 2.2 - Ysgol Uwchradd Caergybi

 

 

Cadarnhaodd Ymgynghorydd y Dyniaethau fod 20 o gopiau ychwanegol o'r Maes Llafir Cytûn wedi cael eu cynhyrchu ar ffurf CD Rom yn dilyn dwyn sylw at y ffaith yn y cyfarfod diwethaf  fod yna brinder copiau.Bydd 5 copi yn cael eu hanfon i Brifysgol Cymru Bangor (Safle'r Normal) a 5 copi i Goleg y Drindod, Caerfyrddin.Bydd y gweddill o'r copiau yn cael eu cadw wrth gefn i ymateb i unrhyw ofyn amdanynt.

 

 

 

2.2

Eitem 7 - Arolygiadau Ysgolion

 

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) ei fod wedi ysgrifennu at Ysgol Gyumuned Carreglefn, Ysgol Gymuned Bryngwran, ac Ysgol Gymuned Rhosybol i'w llongyfach ar eu cyflawniadau yn dilyn arolygiadau yn unol â dymuniad y CYSAG.

 

 

 

2.3

Eitem 8 - Aelodaeth

 

 

 

Penderfynwyd gwirio'r cyfeiriad at Gyngor yr Ysgolion Sir i ddarllen Cyngor yr Ysgolion Sul.

 

 

 

2.4

Eitem 9 - Dyddiadau o Bwys

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gais y CYSAG yn ei gyfarfod diwethaf ei fod yn dwyn sylw Cymdeithas CYSAGau Cymru at yr anhawster mae trefnu achlysuron arbennig megis cynadleddau ar y penwythnos yn gallu ei greu o ran sicrhau presenoldeb ynddynt.Nododd gyda gresyndod nad oedd wedi llwyddo i godi'r mater yn yn Gynhadleddd a gynhaliwyd ar 20 Mai.

 

 

 

Nododd yr Is-Gadeirydd fod yr achlysur yn Llandrindod ar 20 Mai yn drydydd ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas CYSAGau Cymru a bod yr achlysuron hyn i gyd wedi cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn a hynny ar ôl ymgynghori gydag athrawon ynglyn â'r trefniadau hwylusaf iddynt.Byddai cynnal diwrnod o'r fath yn ystod yr wythnos yn golygu colli diwrnod ysgol a gorfod gwneud trefniadau llanw.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Pwyllgor am fanylder y cofnodion ac ategwyd hynny gan yr Is-Gadeirydd.

 

 

 

3

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU

 

 

 

3.1

Cylchredwyd copi o gofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ym Margam ar 7 Ebrill, 2006 ynghyd â rhaglen y cyfarfod i'w gynnal yng Nghaernarfon ar 23 Mehefin i aelodau'r CYSAG ac adroddodd y Cadeirydd ar y prif benawdau o gyfarfod Margam fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

derbyniwyd un enwebiad ar gyfer y Pwyllgor Gwaith ac un ar gyfer swydd yr Is-Gadeirydd.Bu i'r Gymdeithas gytuno i wahodd rhagor o enwebiadau er fod y dyddiad cau ffurfiol am enwebiadau bellach wedi pasio.

 

Ÿ

cafwyd cyflwyniad diddorol iawn gan Mr Mike Strange o RE Quest ar sail DVD sydd yn ymchwilio i'r cwestiwn o sut beth yw bod yn Gristion - mae'r CD ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion ac awdurdodau addysg a cheir ymhelaethu ar ei gynnwys o dan eitem 6 isod.

 

Ÿ

cafwyd anerchiad ar le Addysg Grefyddol yn y fformiwla ariannu gan Ms Julie James, Rheolwr Prosiect yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.Bu i Ms James ddweud fod Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth yn cael ei ystyried yn "gyfoethogiad" a bod arian ar ei gyfer yn cael ei ddyrannu i'r cyfan o ysgolion hyd yn oed os nad ydynt yn gwneud y ddarpariaeth.Bu trafodaeth ynglyn â phriodoldeb hyn yn y cyfarfod.

 

 

 

Parthed trefn ariannu ELWa, nododd y Swyddog Addysg Uwchradd fod penaethiaid ysgolion Ynys Môn yn pryderu ynglyn â'r drefn cyllido addysg ôl-16 ac yn arbennig ynghylch y baich gwaith papur mae ymateb i ofynion y drefn yn ei gynhyrchu o ran cadw cofnodion manwl ynglyn â'r nifer sy'n dilyn y pwnc, yn eistedd arholiad yn y pwnc ac yn llwyddo ac ati, sef manylion sydd wedyn yn cael eu hadlewyrchu yn y fformiwla cyllido.

 

O ran enwebiadau i Gymdeithas CYSAGau Cymru, nododd yr Is-Gadeirydd bod cryn ddryswch ynglyn â'r drefn eleni gyda dyddiad cau 1 Mawrth wedi ei fethu, ac oherwydd hyn roedd yn dymuno cynnig bod CYSAG Môn yn gofyn i Gymdeithas CYSAGau Cymru lythyru cyrff CYSAGau bob mis Rhagfyr yn gofyn am enwebiadau ar gyfer swyddi priodol fel bod yna lynu wrth y Côd Ymarfer gytunwyd arno peth amser yn ôl, ac fel bod pob corff CYSAG wedyn yn gweithredu'n gyson ac yn gyfartal.Roedd hefyd yn awyddus i'r CYSAG ail-ddatgan  ei ddymuniad i dderbyn copi o gofnodion drafft cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn da bryd fel bod yna gyfle i gynnig sylwadau yn amserol ar faterion priodol fe bo gofyn.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

3.1.1

Nodi'r wybodaeth o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ym Margam ar 7 Ebrill, 2006 a diolch i'r Cadeirydd am yr adborth.

 

3.1.2

Bod CYSAG Ynys Môn yn gofyn i Gymdeithas CYSAGau Cymru lythyru cyrff CYSAGau bob mis Rhagfyr i ofyn am enwebiadau ar gyfer swyddi priodol o fewn y Gymdeithas yn unol â'r Côd Ymarfer ac er mwyn sicrhau fod pob corff CYSAG yn gweithredu'n gyson ac yn gyfartal.

 

3.1.3

Ail-ddatgan dymuniad CYSAG Ynys Môn i dderbyn copi o gofnodion drafft cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn da bryd i'w alluogi i ystyried y materion yn codi yn amserol fel nad yw eu perthnasedd yn pallu.

 

 

 

3.2

Adroddodd yr Is-Gadeirydd o Gynhadledd Arbennig Cymdeithas CYSAGau Cymru ac ACCAC a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 20 Mai, 2006 fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

bu'r presenoldeb yn y Gynhadledd yn dda iawn ac fe estynwyd croeso i bawb iddi gan Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru.Rhoddwyd cyflwyniad i raglen y diwrnod gan John Valentine Willimas, AADGOS (gynt ACCAC) ac fe anerchwyd y cyfarfod gan Weinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad;

 

Ÿ

Bu i'r Gweinidog Addysg ddweud ei bod yn falch fod cyrff CYSAGau wedi penderfynu gohirio ystyried cynnwys eu Meysydd Llafur a bod yr adolygiad o'r Cwriwcwlm Cenedlaethol yn rhoddi cyfle i bennu rhaglen unigryw benodol i Gymru;

 

Ÿ

byddai'r Mesur Addysg newydd hefyd yn rhoddi rhagor o gyfle i Gymru weithredu ar ei phen ei hun;

 

Ÿ

roedd adroddiadau Estyn yn 2004/05 yn dangos fod 483 o wersi Addysg Grefyddol wedi cael eu arsylwi a 9 yn unig a gafodd eu dyfarnu islaw Lefel 3;

 

Ÿ

pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd Addysg Grefyddol nid yn unig fel pwnc ond fel adnodd sydd yn cynorthwyo undod cymunedol, cyd-ddealltwriaeth ac ymagwedd o barch, a sydd hefyd yn hyrwyddo perthynas gymunedol dda mewn cymdeithas aml-ffydd;

 

Ÿ

dywedodd bod Addysg Grefyddol yn rhoi'r cyfle i godi cwestiynau mawr athronyddol, diwinyddol ac ysbrydol a'i fod yn annog trin a thrafod;

 

Ÿ

rhoddir pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau gan ddechrau hynny yng nghyfnod y blynyddoedd cynnar.Fodd bynnag, ni ddylai'r pwyslais a roddir ar ddatblygu sgiliau filwrio yn erbyn cynnwys - fe dylai'r ddwy agwedd weithio'n integreiddiedig;

 

Ÿ

bod y berthynas trwy Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi arwain i Addysg Grefyddol gael ei gynnwys mewn adolygiad cwricwlwm am y tro cyntaf;

 

Ÿ

bwriedir cyhoeddi'r cwricwlwm newydd yn derfynol yn 2008 a rhoi'r maes llafur ar waith ym mis Medi 2008 - bydd y pwyslais ar fod yn ddisgybl canolog h.y. bydd y ffocws ar y disgybl;

 

Ÿ

bydd llwyddiant y cwricwlwm newydd yn ddibynnol ar athrawon a'r ymarferwyr proffesiynol yn y maes - mae partneriaeth ar bob lefel yn hanfodol;

 

Ÿ

bu i Roger Palmer, cyn Swyddog Addysg Grefyddol nodi'r angen i ysgogi disgyblion;

 

Ÿ

yn ôl yr amserlen fwriedig, bydd y Rhaglen Fframwaith yn cael ei chyhoeddi i bwrpas ymgynghori yn 2007, bydd y ddogfennaeth yn cael ei chylchredeg ymhlith ysgolion a chyrff CYSAGau yn gynnar yn 2008 gyda'r amcan o weithredu'r Fframwaith ym mis Medi, 2008;

 

Ÿ

awgrymir fod cyrff CYSAGau yn paratoi meysydd llafur ar sail yr ymgynghori;

 

Ÿ

bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi i gefnogi'r Fframwaith a byddant yn cynnwys deunydd enghreifftiol.

 

 

 

3.3

Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau flas i aelodau'r CYSAG o gyflwyniad a roddwyd i'r Gynhadledd gan Denize Morris, Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau  (AADGOS) fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

roedd y cyflwyniad hwn ym ymwneud ag Addysg Grefyddol tu hwnt i 2008 ac yn gofyn i aelodau ystyried pa fath ddarpariaeth byddid yn dymuno ei wneud ar gyfer disgyblion yr unfed ganrif ar hugain a'r oes ddigidol;

 

Ÿ

fel rhan o'r Fframwaith, mae'r disgwyliadau o ran sgiliau yn cymryd  bydd disgyblion yn medru ymwneud â chwestiynau sylfaenol, yn medru ymchwilio i gredoau, dysgeidiaeth ac ymarferion, ac yn medru  mynegi ymatebion personol.Bydd rhai yn gallu ymateb ar sail ffydd ond nodir bod rhaid annog y rhai hynny nad ydynt yn gallu gwneud hynny i ymateb i'w profiadau yn y dosbarth.Nid yw hyn yn cynnig unhryw newid mawr o ran maes llafur presennol Môn a Gwynedd;

 

Ÿ

o ran ystod a chyd-destun ceir y themau penagored hyn - Y Byd, Profiad Dynol a Chwilio am Ystyr.Mae nifer o'r testunau yr ymwneir â hwy ar hyn o bryd o fewn y Maes Llafur i'w gweld yn y penawdau yma;

 

Ÿ

trafodwyd  priodoldeb y cyd-destun ac yn arbennig a ddylid pennu'r nifer o grefyddau a astudir - tra ystyriwyd na fyddai ymhel â nifer o grefyddau'r byd yn ymarferol o fewn cwricwlwm llawn y cynradd, ar y llaw arall cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol i'r uwchradd wybod beth mae disgyblion wedi'i ddilyn yn yr ysgol gynradd;

 

Ÿ

o ran disgrifiadau lefel glynir wrth y rhai a bennwyd gan ACCAC lle mae athro/awes yn gweld gweld sut mae'r disgybl wedi perfformio mewn nifer o dasgau trwy'r flwyddyn;

 

Ÿ

gofynnir beth ddylai'r weledigaeth fod ar gyfer Addysg Grefyddol fel pwnc ac fel elfen ddylanwadol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer 2008 a thu hwnt.Hefyd, beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer cyrff CYSAGau a Chymdeithas CYSAGau Cymru dros y 5 mlynedd nesaf. Gofynnir i aelodau'r CYSAG bori dros y cwestiynau hyn yn y misoedd i ddod, ac i rannu eu syniadau.

 

 

 

Nododd yr Is-Gadeirydd y disgwylir adroddiad ffurfiol ar allbwn y gynhadledd maes o law a thebygir y bydd ail-ymweld â'r maes trafod hwn yn y misoedd i ddod.

 

 

 

Nododd y Swyddog Addysg Uwchradd ei fod yn galonogol gweld cyflwyno'r newid yn raddol a chroesawir y cyfle i CYSAG Môn gyfrannu i'r broses ymgynghori.

 

 

 

Dygodd yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol sylw'r CYSAG at y ffaith fod Mrs Meinir Evans, Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol David Hughes hefyd wedi mynychu'r gynhadledd uchod a'i fod yn cydnabod hynny.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth o Gynhadledd Arbennig Cymdeithas CYSAGau Cymru a diolch i'r Is-Gadeirydd ac Ymgynghorydd y Dyniaethau am fanylder yr adborth.

 

 

 

3.4

Ystyriwyd, a phenderfynwyd cadarnhau'r Cynghorydd E.G.Davies (Yr Awdurdod Addysg) a Mr Rheinallt Thomas (Yr Enwadau Crefyddol) a Mrs Heledd Hearn (Athrawon) fel cynrychiolwyr i fynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru i'w gynnal yng Nghaernarfon ar 23 Mehefin, 2006 gan nodi bydd Mr Gwyn Parri a Miss Bethan James yn mynychu'r cyfarfod yn rhinwedd eu swyddi.

 

 

 

4

RHAGLEN WAITH YR ATHRO YMGYNGHOROL ADDYSG GREFYDDOL

 

      

 

     Rhoddodd Mr Paul Matthews Jones gyflwyniad ar ei waith yn ystod y cyfnod ers cyfarfod diwethaf y CYSAG fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

prif ffocws hyffordiant mewn swydd Môn oedd codi safonau Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol CA4;

 

Ÿ

rhoddwyd cefnogaeth cyn arolygiad i Ysgol Uwchradd Caergybi;

 

Ÿ

rhoddwyd cefnogaeth ymgynghorol i Ysgol Gyfun Llangefni ar hunan arfarnu ac i Ysgol David Hughes ar feddalwedd recordio a golygu;

 

Ÿ

mynychwyd gweithgor arfer dda ar ddwyieithrwydd ar lawr y dosbarth oedd ar gael i ysgolion trwy becyn "toolkit" dwyieithrwydd Cynnal;

 

Ÿ

prosiect Addysg Grefyddol ôl-16.Bwriad y prosiect yw ceisio datblygu uned Addysg Grefyddol fydd o gymorth i ysgolion ymateb yn llawn i ofynion statudol Addysg Grefyddol yn unol â chylchlythyr 10/94.O dan arweiniad Cynnal, bydd grwp o athrawon o Wynedd a Môn yn cyfarfod ar 28 - 30 o Fehefin mewn gweithgor i gynllunio'r uned, ac fel rhan o'r gweithgor darperir cwrs gan Roger Daniel o Creative Education ar ddulliau ysgogi disgyblion ôl-16.

 

 

 

     Yn codi o'r wybodaeth uchod, holwyd yn benodol am yr arolwg yn Ysgol Uwchradd Caergybi a phryd gellir disgwyl adborth o'r arolwg.Holwyd hefyd ynghyd â swyddogaeth Cynnal, a gofynnwyd a oedd y ffaith fod gofyn am fewnbwn gan Cynnal ym maes Addysg Grefyddol yn golygu nad yw'r trefniadau presennol yn effeithiol.

 

      

 

     O ran yr adolygiad o Ysgol Uwchradd Caergybi, rhoddwyd gwybod i'r CYSAG y byddai'r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar wefan Estyn yr wythnos hon a byddir yn cyflwyno gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â'r ddarpariaeth Addysg Grefyddol er ystyriaeth a thrafodaeth lawn gan y CYSAG yn ei gyfarfod ym mis Hydref. Parthed y gefnogaeth cyn arolwg a roddwyd i'r ysgol, fe wnaethpwyd hyn trwy gynnig cefnogaeth i staff, a thrwy gynorthwyo gyda llunio gwersi a chynlluniau gwaith. Esboniwyd fod Cynnal yn darparu gwasanaeth hyfforddiant i athrawon, gwasanaeth ymgynghorol pynciol a chyffredinol ynghyd â gwasanaethau cefnogol megis yn achos Ysgol Uwchradd Caergybi. Nodwyd hefyd mai bwriad y gweithgor y cyfeirir ato uchod yw sicrhau bod adnoddau ac unedau ar gael i ysgolion os ydynt yn dymuno eu defnyddio.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi rhaglen waith yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol ers cyfarfod diwethaf y CYSAG gan ddiolch iddo am y wybodaeth.

 

      

 

5

RHAGLEN WAITH DDRAFFT CYSAG YNYS MÔN 2006/07

 

      

 

     Cyflwynwyd - Rhaglen Waith ddrafft CYSAG Ynys Môn am 2006/07 yn amlinellu pynicau trafod  gogyfer y CYSAG yn ei gyfarfodydd yn y Gwanwyn, yr Haf a'r Gaeaf.

 

      

 

     Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw at y ffaith y dylai'r eitem ar gyfer derbyn enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru gael ei ddynodi o dan gyfarfod y Gwanwyn yn hytrach na chyfarfod yr Haf gan mai 1 Mawrth yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau.Dylid hefyd ddileu'r ail gyfeiriad at Gymdeithas CYSAGau Cymru o dan gyfarfod yr Haf.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo'r Rhaglen Waith ddrafft yn amodol ar ofyn i Ymgynghorydd y Dyniaethau wneud y diwygiadau a nodir.

 

      

 

6

CYFLWYNIAD RE QUEST

 

      

 

     Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad i'r aelodau yn seiliedig ar gyflwyniad Mike Strange o RE Quest i gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Margam ar 7 Ebrill, 2006.

 

      

 

     Eglurodd Ymgynghorydd y Dyniaethau fod y cyflwyniad a roddwyd yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn seiliedig ar CD ROM o dan y testun, Sut beth yw Bod yn Gristion a'i fod yn cynnwys y themau canlynol:

 

      

 

Ÿ

Bod yn Gristion

 

Ÿ

Y Beibl

 

Ÿ

Cyflwyniad i fedydd oedolion a phlant

 

Ÿ

Cyflwyno babanod

 

Ÿ

Bedydd Credinwyr

 

Ÿ

Conffirmasiwn

 

Ÿ

Y Cymun

 

Ÿ

Gweddi

 

Ÿ

Perthyn (Aelodaeth)

 

Ÿ

Adeiladau

 

 

 

Cynhwysa'r CD Rom Fynegai i'r Daflen Waith, Nodiadau i'r Athro ynghyd â Mynegai i'r Daflen "Siarad Am.."  Cynhwysa'r CD hefyd bobl ifanc yn siarad am eu profiadau fel Cristnogion.Mae RE Quest yn gofyn i gyrff CYSAGau ystyried a ydynt yn dymuo cymeradwyo'r CD ROM i'w ddefnyddio gan ysgolion; credir fod hyn yn ffordd dda o ddelio gyda'r nifer o geisiadau ddaw i'r swyddfa yn cynnig amryfal ddeunyddiau er sylw ysgolion.Rhiad sicrhau fod unrhyw ddeunydd yn addysgu am ffydd ac nid yn ceisio ei newid.

 

 

 

Nododd yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol fod y CD Rom uchod yn dangos pobl ifanc wedi'u ffilmio mewn meysydd tua allan i addoldai sy'n gosod Cristnogaeth a phrofiad Gristnogol mewn cyd-destun byw.Credir ei fod yn adnodd gweledol all fod yn ddefnyddiol iawn i ysgolion.

 

 

 

Cytunodd y Cadeirydd fod unrhyw adnoddau sy'n ceisio gwneud crefydd yn fyw yn werth eu hystyried.

 

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo fod CD ROM RE Quest o dan y testun Sut Beth yw bod yn Gristion yn cael ei ddosbarthu i ysgolion y sir fel adnodd addysgu Addysg Grefyddol.

 

 

 

 

 

7

AROLYGIADAU YSGOL

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ar lafar am arolygiadau yng nghyswllt Ysgol Gynradd Penysarn,Ysgol y Ffridd, ac Ysgol Llanddona o dan y drefn arolygu newydd.

 

      

 

     Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau fod un o'r dair ysgolion cynradd uchod wedi derbyn gradd 1 dda gyda rhai nodweddion eithriadol am Gwestiwn 3 (h.y. y cwestiwn sy'n gofyn a yw'r ysgol yn diwallu anghenion a diddordebau'r dysgwyr a'r gymuned ehangach.Dyma'r cwestiwn hefyd sy'n sicrhau fod yr ysgol yn cyflawni'r Maes Llafur Cytûn, yn holi am ddatblygiad ysbrydol a moesol y disgyblion ac i ba raddau maent yn gallu trafod cysyniadau megis cyfiawnder, tegwch ac ati).

 

      

 

     Roedd dwy ysgol gynradd wedyn wedi cael adroddiad ar y pwnc Addysg Grefyddol. Cafodd un ysgol radd 1 yn CA2, cafodd un ysgol radd 2 yn CA1 ac fe gafodd un ysgol radd 3 yn CA2 (gradd 3 yn golygu bod y nodweddion yn dda a bod rheini'n gorbwyso'r diffygion).Roedd nodweddion mewn rhai o'r ysgolion wedi cael eu dynodi'n rhagorol ac yn achos un ysgol fe ddywedwyd fod gan ddisgyblion CA2 syniadau personol am gwestiynau  mawr crefydd sydd yn rhywbeth i ymfalchio ynddo.

 

      

 

     Mae disgyblion yn y dair ysgol yn gwybod am straeon y Beibl; maent yn gallu deall y neges tu ôl i'r storïau; maent  yn deall arwyddocâd llyfrau sanctaidd; maent yn gwybod beth yw arwyddocâd gweddi ac yn gallu llunio gweddi syml eu hunain.Mae'r disgyblion yn gwneud defnydd o arteffactau ac maent yn barod i fynegi barn.Maent wedi astudio'r prif wyliau crefyddol ac maent yn derbyn cefnogaeth y gymuned ehangach.

 

      

 

     Bu i'r arolygiadau adnabod rhai diffygion hefyd ac fe gafodd yr ysgolion arweiniad yn eu cylch gan yr arolygwyr - roedd y gwendidau yn ymwneud â'r angen am ragor o waith ar straeon y Beibl a chrefyddau eraill.

 

      

 

     Diolchwyd i Ymghynghorydd y Dyniaethau am y wybodaeth a nodwyd byddai gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch yr arolygiadau uchod yn cael ei chyflwyno gerbron y CYSAG maes o law.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi'r adborth llafar yng nghyswllt Addysg Grefyddol gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn sgîl arolygiadau yn y dair ysgol a nodir.

 

      

 

8

GOHEBIAETH

 

      

 

8.1

Cylchredwyd copi o Newyddlen Addysg Grefyddol tymor y Gwanwyn i aelodau'r CYSAG.

 

8.2

Cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at anfoneb a dderbyniwyd oddi wrth y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mangor a nododd mai'r tanysgrifiad am eleni yw £404 am y Newyddlen Addysg Grefyddol a £1,386 tuag at gostau cynnal y Ganolfan. Cadarnhaodd

 

     bod yr anfoneb wedi'i thalu.

 

      

 

8.3

Dygodd y Swyddog Addysg Uwchradd sylw at ohebiaeth a dderbyniwyd oddi wrth y Jerusalem Trust yn cynnig bwrsariaeth gogyfer athrawon Addysg Grefyddol  mewn ysgolion uwchradd nad ydynt yn ysgolion eglwysig i addysgu Cristnogaeth.Mae'r bwrsariaeth yn werth £500, ac mae'n cael ei chynnig i'w defnyddio ar gyfer prynu adnoddau.Bwriedir cylchredeg yr ohebiaeth i ysgolion y sir am geisiadau.

 

      

 

     Nodwyd y byddid yn dymuno derbyn adborth yn ôl am y ceisiadau a wnaed, y nifer fu'n llwyddiannus a'r defnydd a wnaed o'r adnoddau.

 

      

 

     Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw aelodau'r CYSAG at y ffaith fod Mudiad Addysg Grefyddol Cymru wedi cytuno i roddi £3,000 i'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol i gynhyrchu deunydd addoli ar y cyd yn y Gymraeg ar y wefan am gyfnod o 3 mlynedd.

 

      

 

      

 

9

CYFARFODYDD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Nodwyd byddai cyfarfodydd nesaf y CYSAG yn cael eu cynnal am 2 o'r gloch y prynhawn ar ddydd Llun, 9 Hydref, 2006, ac am 2 o'r gloch y prynhawn ar ddydd Llun, 5 Chwefror, 2007.

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd E.G.Davies

 

              Cadeirydd