Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 9th October, 2006

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG)

 

  Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

Cynghorwyr Mrs B.Burns, MBE, P.M.Fowlie, Gwilym O.Jones,

R.Llewelyn Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Y Parch. Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Diacon Stephen Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

Y Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

 

Undebau’r Athrawon

 

Mrs Heledd Hearn (NASUWT)

Miss Mefys Jones (UCAC)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Addysg - Uwchradd (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol Rufeinig), Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Mr John Wyn Jones (SHA)

 

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2006. (Cyfrol y Cyngor 19.09.2006, tud 109 - 115)

 

Yn codi -

 

2.1

Cymdeithas CYSAGau Cymru

 

Cyfeiriodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) at benderfyniadau 3.1.2 a 3.1.3 o dan y pennawd uchod a oedd yn nodi yn y lle cyntaf, gais y CYSAG am i Gymdeithas CYSAGau Cymru rybuddio cyrff CYSAGau mewn da bryd am yr angen i gyflwyno enwebiadau ar gyfer swyddi priodol o fewn y Gymdeithas, ac yn ail, gais y CYSAG am i’r Gymdeithas gylchredeg copi drafft o gofnodion ei chyfarfodydd  yn amserol, er mwyn galluogi cyrff CYSAGau i drafod materion o bwys heb oedi, a rhoddod wybod i’r aelodau ei fod wedi llythyru Ysgrifenyddes y Gymdeithas ynglyn â’r ddau fater uchod. Bu i’r Ysgrifenyddes ymateb mewn llythyr dyddiedig 13 Medi, 2006, ac ynddo eglurodd y gohebwyd â phob corff CYSAG ym mis Ionawr i ofyn am enwebiadau erbyn diwedd Mawrth, ond oherwydd y derbyniwyd ond un enwebiad erbyn y dyddiad cau, bu i Gadeirydd y Gymdeithas benderfynu dderbyn enwebiadau hyd at ddyddiad y cyfarfod. Roedd yn rhy hwyr i roddi gwybod am yr estyniad amser yma i gyrff CYSAGau gan fod y mwyafrif eisoes wedi cynnal eu cyfarfodydd tymhorol. Cydnabu’r Ysgrifenyddes nad oedd y sefyllfa hon yn un ddelfrdyol ac ymddiheurodd gan ymrwymo i sicrhau na fyddai  hyn yn digwydd drachefn.

 

 

 

Parthed y mater o gylchredeg cofnodion cyfarfodydd y Gymdeithas, bu i’r Ysgrifenyddes nodi yn ei llythyr bod y cofnodion yn cael eu hanfon yn brydlon bob tymor i Glercod cyrff CYSAGau gan gynnwys Ynys Môn.

 

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) bod hynny wedi digwydd y tro hwn a bod cofnodion cyfarfod diweddaraf Cymdeithas CYSAGau Cymru yn gynwysedig ym mhapurau’r rhaglen oedd gerbron.

 

 

 

2.2

Penderfynwyd cywirio’r cyfeiriad at AADGOS o dan bwynt 3.2 a phwynt 3.3 yn fersiwn Saesneg y cofnodion i ddarllen DELLS.

 

 

 

2.3

Eitem 4 - Rhaglen Waith yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol

 

 

 

Holwyd ynglyn â’r gweithgor o athrawon o Fôn a Gwynedd y cyfeirir ato o dan y pennawd  uchod yng nghyswllt prosiect Addysg Grefyddol ôl-16, a gofynnwyd beth oedd ffrwyth y gwaith.

 

 

 

Cadarnhaodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y cyfarfu’r gweithgor yn ystod yr Haf ac fe gynhaliwyd sesiwn gogyfer y rheini sy’n addysgu disgyblion ôl-16 o dan arweiniad Roger Daniel, o Creative Education.Bu i’r gweithgor dreulio amser yn llunio deunydd ar gyfer uned o waith i gyd-fynd ag Addysg Grefyddol ac mae’r gwaith hwn wedi cael ei wirio. Roedd 3 athro/awes o ysgolion uwchradd Môn yn rhan o’r gweithgareddau. Llywiwyd y gwaith gan Paul Matthews Jones, yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol ar y pryd sydd bellach wedi’i benodi i swydd Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Mae swydd wag yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol ar fin cael ei hysbysebu yn y wasg.

 

 

 

Nododd y Cadeirydd fod diolch yn ddyledus i Mr Paul Matthews Jones am ei waith a’i gyfraniad gwerthfawr i ddatblygu Addysg Grefyddol yn ystod ei gyfnod fel Athro Ymgynghorol a’i fod yn dymuno’n dda iddo yn ei swydd newydd. Awgrymodd fod llythyr i’r perwyl yn cael ei anfon at Mr Jones ar ran y CYSAG.

 

 

 

2.4

Eitem 6 - Cyflwyniad RE QUEST

 

 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) ei fod wedi cysyslltu â Mike Strange o Re Quest i ofyn iddo am gopiau o’r CD Rom Sut Beth yw Bod yn Gristion y rhoddwyd cyflwyniad arno yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn ystod y Gwanwyn i’w dosbarthu i ysgolion y sir yn unol â’r dymuniad a fynegwyd gan y CYSAG yn ei gyfarfod diwethaf. Derbyniwyd cyflenwad o’r disgiau erbyn hyn a byddant yn cael eu hanfon i holl ysgolion y sir yn rhad ac am ddim.

 

 

 

2.5

AROLYGIADAU YSGOLION

 

 

 

Adroddodd cynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr yn y fan hyn am gwrs hyfforddiant gogyfer pobl ifanc o Fôn a Gwynedd a gynhaliwyd o dan nawddogaeth yr Undeb yn ystod yr Haf, a chyfeiriodd gyda gresyndod at y ffaith fod nifer o’r pobl ifanc oedd yn bresennol ynddo wedi dweud eu bod yn gwybod mwy am grefyddau eraill y byd nac am Gristnogaeth. Roedd wedi’i siomi gan y datganiad hwn ac roedd yn pryderu fod pwyslais yn cael ei roddi ar gredoau eraill ar draul Cristnogaeth.

 

 

 

Roedd rhai o aelodau’r CYSAG yn rhannu pryderon cynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr ar dderbyn y wybodaeth hon, a mynegwyd consyrn fod yna efallai wendid yn y drefn os yw pobl ifanc yn fwy ymwybodol o grefyddau eraill nag ydynt o Gristnogaeth, a bod angen dwyn y genadwri hon at sylw’r Awdurdod Addysg.Gofynnwyd i’r Cadeirydd wneud ymholiadau i sicrhau nad yw’r fath sefyllfa yn bodoli ym Môn ac adrodd yn ôl i’r CYSAG i gadarnhau hynny.

 

 

 

Nododd y Cadeirydd nad oes yn yr adroddiadau arolwg a gyflwynir gerbron y CYSAG dystiolaeth o orbwysleisio crefyddau eraill ar draul Cristnogaeth a bod disgyblion ysgolion y sir yn gyfarwydd â nodweddion Cristnogaeth.

 

 

 

Cadarnhawyd hyn gan gynrychiolwyr yr Undebau Athrawon ac esboniasant fod Cristnogaeth yn cael ei addysgu ar draws y cyfnodau allweddol ynghyd ag un crefydd arall.Ymgeisir i wau crefyddau eraill i mewn yn dymhorol e.e. gellir treulio dau dymor ar Gristnogaeth a thymor ar grefydd arall, ac mae’r Maes Llafur Cytun yn cefnogi’r safbwynt hwn.

 

 

 

Dygodd Ymgynghorydd y Dyniaethau sylw’r aelodau at y ffaith y ceir darlun da o sefyllfa Addysg Grefyddol yn ysgolion y sir trwy gyfrwng yr adroddiadau arolwg, a rhoddant gyfle i’r Cysag graffu yn neilltuol ar y pwnc mewn ffordd nad yw’n digwydd gydag unrhyw bwnc cwricwlwm arall. Dywed yr arolygwyr yn aml fod gan ddisgyblion amgyffred dda o storiau’r Beibl a’u bod yn gwybod am y gwyliau Cristnogol ac am addoldai ac ati. Mae’r neges a gyfleir gan gynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr yn siomedig ond rhaid ei gadw mewn cyd-destun gan ystyried pa ganran oedd y bobl ifanc yma y cyfeirir atynt yn ei gynrychioli. Fe all y Cysag ymfodloni fod yr adroddiadau arolwg yn cynnig ciplun teg o sefyllfa Addysg Grefyddol yn ysgolion y sir.

 

 

 

2.6

Eitem 8 - Gohebiaeth

 

 

 

2.6.1     Cyfeiriodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) at y bwrsariaeth oedd yn cael ei gynnig gan      y  Jerusalem Trust i athrawon Addysg Grefyddol mewn ysgolion uwchradd nad ydynt           yn ysgolion eglwysig i brynu adnoddau i addysgu Cristnogaeth, a rhoddod wybod i’r           Cysag bod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi gwneud cais am gyllid yn y cyswllt hwn.           Dywedodd Mrs Heledd Hearn ei bod hithau hefyd wedi gwneud cais ar ran Ysgol                Uwchradd Bodedern ac fel rhan o’r cais bu raid rhestru’r arteffactau a’r llyfrau a’r                adnoddau a ddefnyddir gan yr ysgol.

 

 

 

2.6.2     Penderfynwyd cywiro’r cyfeirad at Wales Movement for Religious Education yn           fersiwn Saesneg y cofnodion i ddarllen, Religious Education Movement,                Wales.

 

 

 

3

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN

 

 

 

Cyflwynwyd - Drafft o Adroddiad Blynyddol Cysag Ynys Môn am 2005/06.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn ofynnol ar gyrff CYSAGau i lunio adroddiad blynyddol ar eu gweithgareddau a’i gyflwyno i AADGOS (gynt ACCAC) erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Mae’r adroddiad a gyflwynir gerbron yn adlewyrchu ychydig o newidiadau yn y fformat adrodd yn unol ag awgrymiadau’r Cynulliad, ac mae’n cyfeirio at swyddogaeth ymgynghorol y Cyngor drwy nodi dyddiad mabwysiadu’r Mes Llafur Cytun, safonau Addysg Grefyddol yn ysgolion y sir, y drefn hunan arfarnu, canlyniadau yn y maes mewn arholiadau allanol ynghyd â’r cyrsiau HMS a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.Mae trydydd rhan yr adroddiad yn ymwneud â materion gweinyddol a chyfansoddiadol y CYSAG.

 

 

 

Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi wedyn i esbonio cynnwys yr adroddiad yn fanwl, a bu i’r aelodau wrth ei drafod, gynnig y diwygiadau canlynol arno :

 

 

 

Ÿ

dileu’r cyfeiriad at Gyngor Gwynedd yn nhudalen 14 yr adroddiad;

 

Ÿ

dileu’r cyferiad at y Pwyllgor Addysg yn nhudalen 14 yr adroddiad;

 

Ÿ

dileu’r cyfeiriad at y Cynghorwyr Bryan Owen a John Williams o dan rhestr cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg ar dudalen 15;

 

Ÿ

dileu’r cyfeiriad at y Parchedig Gwynfor Williams o dan restr cynrychiolwyr yr Enwadau Crefyddol ar dudalen 15 a rhoddi yn ei le enw’r Diacon Stephen Francis Roe;

 

Ÿ

diwygio’r cyfeiriad at June yn y fersiwn Gymraeg ar dudalen 16 i ddarllen Mehefin;

 

Ÿ

diwygio’r cyfeirad at Wynedd o dan baragraff (a) ar dudalen 16 i ddarllen Môn.

 

 

 

Awgrymodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) bod unrhyw ddiywgiadau pellach yn cael eu cyflwyno iddo ef erbyn diwedd mis Hydref.

 

 

 

Diolchwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei gwaith ar yr Adroddiad Blynyddol.

 

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2005/06 fel a gyflwynwyd yn amodol ar gynnwys y diwygiadau a nodwyd gan nodi y dylai unrhyw awgrymiadau pellach gael eu cyflwyno i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) erbyn diwedd mis Hydref.

 

4

CANLYNIADAU ARHOLIADAU’R HAF, 2006

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â safonau cyrhaeddiad yn yr arholiadau allanol yn 2006.

 

 

 

Bu i Ymgynghorydd y Dyniaethau adrodd fel a ganlyn -

 

 

 

4.1

Yng nghyswllt canlyniadau TGAU - Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Crefyddol (Cwrs Byr) gellir nodi’r pwyntiau canlynol -

 

 

 

Ÿ

cafwyd canlyniadau da gyda chyfanswm o 119 o ymgeiswyr, yn 85 o ferched a 34 o fechgyn sydd yn nifer llai na’r 144 y flwyddyn flaenorol;

 

Ÿ

niferoedd yn amrywio o 0 mewn un ysgol i 48 mewn ysgol arall;

 

Ÿ

roedd canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn (bechgyn = 4.8, merched = 5.8);

 

Ÿ

roedd cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 5.5 tra bod sgôr y pynciau eraill yn 5.0;

 

Ÿ

mae sgôr cyfartalog y merched (5.8) yn uwch na’u sgôr yn y pynciau eraill (5.0), a sgôr cyfartalog y bechgyn (4.8) yn cyfateb i’r sgôr cyfartalog yn y pynciau eraill (4.8);

 

Ÿ

bu cynnydd sylweddol yn y nifer sydd yn dewis dilyn cwrs byr (165) ac yn cael canlyniadau da.

 

 

 

4.2

Yng nghyswllt canlyniadau Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol, roedd y ffeithiau fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

cafwyd canlyniadau da gyda 34 o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad mewn 4 ysgol o’i gymharu â 30 ymgeisydd yn 2005;

 

Ÿ

6 o fechgyn a 28 o ferched;

 

Ÿ

roedd sgôr gyfartalog y pwnc yn 82.4 yn erbyn 82.3 yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

roedd sgôr gyfartolog y merched (84.3) ychydig yn uwch na sgôr gyfartalog y bechgyn (73.3)

 

 

 

4.3

Yng nghyswllt canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol (AS), gellir gwneud y sylwadau canlynol -

 

 

 

Ÿ

bu’r canlyniadau eto yn rhai da gyda 68 o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad mewn 4 ysgol o’i gymharu â 49 ymgeisydd yn 2005, a rheini yn ymrannu’n 15 o fechgyn a 53 o ferched;

 

Ÿ

roedd sgôr gyfartalog y pwnc yn 42.8 yn erbyn 19.6 yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

roedd sgôr gyfartalog y merched (42.8) a sgôr gyfartalog y bechgyn (42.7) yn gyson â’i gilydd.

 

      

 

     Dygodd Ymgynghorydd y Dyniaethau sylw at y cynnydd ym mhoblogrwydd y cwrs byr a nododd ei fod yn apelio yn arbennig am ei fod yn cyfeirio at faterion cyfoes sy’n destun trafodaeth megis erthylu ac ewthanasia a’u tebyg.Yn genedlaethol, mae myfyrwyr wedi ymddiddori’n gynyddol ynddo.

 

     Byddai’n ddiddorol cael cyfle yn y dyfodol i edrych ar y math o werslyfrau sydd ar gael i bobl ifanc yn eu harddegau.

 

      

 

     Gwnaeth yr aelodau’r sylw bod y canlyniadau yn adlewyrchiad o ymroddiad athrawon i ddenu pobl ifanc i ddilyn y pwnc a’i fod yn galonogol iawn ei fod yn parhau yn boblogaidd.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ynglyn â safonau cyrhaeddiad yn yr arholiadau allanol yn ystod yr Haf, 2006, gan nodi’r cynnwys a chan ddiolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau am y wybodaeth.

 

      

 

5

GWASANAETH YMGYNGHOROL CYNNAL

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ar ddau fater o dan y pennawd uchod sef yng nghyswllt y prosiect ôl-16 y crybwyllwyd ef yn gynharach, i roddi gwybod i aelodau bod deunyddiau ar gyfer y

 

     cwrs statudol Addysg Grefyddol wedi cael eu cynhyrchu gyda’r nod penodol o ysbarduno trafodaeth ymysg disgyblion a rhoi ffocws ar faterion cyfoes. Yn ail, dymunai gydnabod cyfraniad Mr Paul Matthews Jones, y cyn Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol i weithgaredd ysgolion yn y maes ac i’w datblygiad, a hefyd i ddiolch iddo am y gefnogaeth a roddasai iddi hi yn ei swydd fel Ymgynghorydd trwy gydol y cyfnod.

 

      

 

     Holwyd ynglyn â swyddogaeth Cynnal mewn perthynas ag Addysg Grefyddol ac yng nghyd-destun cael gwerth am arian.Gofynnwyd am y trefniadau oedd yn bodoli cyn sefydlu’r cwmni.

 

      

 

     Eglurodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod ei swydd hi gyda Cynnal yn cwmpasu Daearyddiaeth, Hanes ac Addysg Grefyddol a’i bod yn derbyn cefnogaeth yn y maes Addysg Grefyddol gan Athro/awes Ymgynghorol ar secondiad. Cynhwysa gyfrifoldebau Cynnal drefnu cyrsiau  hyfforddiant i athrawon naill ai trwy eu rhedeg yn fewnol neu trwy brynu darpariaeth i mewn, ymweld ag ysgolion i’w cynorthwyo gyda gwaith cynllunio a mapio pynciau, arsylwi ar wersi mewn ysgolion ynghyd â’u cefnogi gydag hunan arfarnu. Yn ei swydd fel Ymgynghorydd y Dyniaethau mynychai gyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ynghyd â chyfarfodydd gydag ymgynghorwyr Addysg Grefyddol eraill i bwrpas ymgymryd â gwaith datblygol.

 

      

 

     Nododd y Swyddog Addysg (Uwchradd) nad oes gan  nifer o siroedd ddarpariaeth gefnogol fel un Cynnal; cyn sefydlu Cynnal roedd yna ymgynghorwyr yn y ddwy sir o dan Gyngor Gwynedd ac fe ddaeth Cynnal i fodolaeth i warchod y gwasanaeth ymgynghorol sydd yn arbennig o werthfawr yn enwedig mewn awdurdod addysg gymharol fychan ei faint fel Môn.

 

      

 

     Diolchwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am amlinellu swyddogaethau Cynnal ac roedd yna gydnabod gwerth cyffredinol y gefnogaeth a’r gwasanaeth a ddarperir gan Cynnal yn arbennig yng nghyd-destun ysgolion llai.

 

      

 

6

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Cofndion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd  yng Nghaernarfon ar 23 Mehefin, 2006 ynghyd â’r Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno ar 22 Mehefin, 2006.

 

      

 

     Bu i’r Cadeirydd gyfeirio at y croeso gwresog a gafwyd gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd ar achlysur cynnal cyfarfod y Gymdeithas yng Nghaernarfon ac at ei gyflwyniad brwdfrydig ynglyn ag   Addysg Grefyddol, ei berthnasedd a’i le yn y byd cyfoes. Er gwybodaeth i aelodau, nododd bod Is-Gadeirydd y CYSAG, sef Mr Rheinallt Thomas wedi’i ethol i wasanaethu ar Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas am dair blynedd o 2006 i 2009.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaernarfon  ar 23 Mehefin, a chofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yng Nghyffordd Llandudno ar 22 Mehefin.

 

      

 

7

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth o dan Adran 10, Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg yng nghyswllt Ysgol Gynradd Llanddona, Ysgol Gymuned y Ffridd, Gwalchmai, Ysgol Gynradd Penysarn, Amlwch, Ysgol Gynradd Brynsiencyn, Llanfairpwll, Ysgol Gymuned Pentraeth, Ysgol Gymuned y Fali, Caergybi ac Ysgol Uwchradd Caergybi.

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod datblygiad moesol, diwylliannol ac ysbrydol disgyblion o dan y drefn arolygu newydd yn cael ei drafod o dan Gwestiwn Allweddol 3, sef cwestiwn sydd yn ymwneud â phrofiadau dysgu a pha mor dda mae’r rhain yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Dengys y detholiad o adroddiadau mewn perthynas â’r ysgolion a nodir uchod fod 2 ysgol wedi derbyn Gradd 1 o dan y maen prawf hwn, sy’n dynodi bod y ddarpariaeth yn dda gyda nodweddion rhagorol, bod 3 ysgol wedi derbyn gradd 2 sy’n dynodi bod yna nodweddion da a dim diffygion pwysig a bod 1 ysgol wedi derbyn Gradd 3 sy’n dynodi bod y nodweddion da yn gorbwyso diffygion. Mae’r arolygwyr wedi sylwi ar ymarferion da mewn sawl ysgol o ran bod y disgyblion yn cael profiadau eang sydd yn hyrwyddo eu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, a bod yna gynnal cyfnodau myfyrio ac amser cylch. Yng nghyswllt Addysg Grefyddol y pwnc, cafodd 4 ysgol Radd 2 yn CA1,  cafodd 1 ysgol Radd 1 yn CA2, cafodd 2 ysgol Radd 2 yn CA2, ac fe gafodd 1 ysgol Radd 3 yn CA2. Yn y gorffennol bu yna sylwadau i’r perwyl nad yw disgyblion yn gallu ymdrin â chrefyddau eraill nac â chwestiynau mawr - awgryma’r adroddiadau arolwg diweddaraf bod y sefyllfa hon wedi gwella a bod gan ddisgyblion ymwybyddiaeth dda am straeon Beiblaidd ac am wyliau Cristnogol ac addoldai lleol. Mae ganddynt hefyd ymwybyddiaeth dda o grefyddau eraill ac maent hefyd yn ymwybodol o werth addoli i grediniwr ac maent yn gallu llunio gweddi eu hunain. Mae’r gwendidau a nodir yn ymwneud gan bennaf â gallu disgyblion i ysgrifennu’n estynedig ond nid ydynt yn adlewyrchu patrwm o wendidau.

 

      

 

     Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi wedyn i gyfeirio at yr adroddiad arolwg yng nghyswllt Ysgol Uwchradd Caergybi. Mewn perthynas â Chwestiwn 3 - pa mor dda mae’r profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, bu i’r Arolygwr ddyfarnu Gradd 3 i’r ysgol, sy’n dynodi bod y nodweddion da yn gorbwyso diffygion. O ran y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3 ac yng Nghyfnod Allweddol 4, dyfarnwyd Gradd 4 i’r ysgol sy’n dynodi bod yna rai nodweddion da, ond bod yna ddiffygion mewn meysydd pwysig. Ymhelaethir ar y ddiffygion hyn yn yr adroddiad.

 

      

 

     Adroddodd yr Ymgynghorydd ymhellach bod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi profi problemau yn sgîl absenoldeb Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol yn y cyfnod paratoi ar gyfer yr arolwg, ac er fod yr asesiad o’r ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn siomedig, mae’n adlewyrchu ymdrech lew ar ran yr athrawes oedd yn llenwi bwlch a’r staff a ymgymrodd â’r gwaith paratoi. Bu Ymgynghorydd y Dyniaethau a’r Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn ymweld â’r ysgol cyn yr arolwg i gynnig cefnogaeth gyda’r gwaith. Bellach, penodwyd athro sydd newydd gymhwyso yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol yr ysgol a hyderir y gellir cynnig pob cefnogaeth iddo yn ei yrfa newydd. Disgwylir i’r ysgol yn awr baratoi cynllun ôl-arolwg sydd yn ymateb i’r diffygion a nodwyd gan yr arolygwyr.

 

      

 

     Bu i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) osod yr adroddiad uchod yn y cyd-destun ehangach, a nododd er bod yna agweddau positif yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, mae’r gwendidau a adnabyddwyd yn peri pryder. Mae niferoedd yn yr ysgol yn disgyn ac mae’r ysgol yn colli disgyblion i wahanol gyfeiriadau; mae 22.7% o blant yr ysgol â hawl i ginio am ddim ac mae 29% o’r plant gydag anghenion addysgol arbennig sy’n tystio i gefndir o amddifadedd cymdeithasol.  Arolygwyd 6 pwnc y tro hwn ac Addysg Grefyddol a Mathemateg oedd yr unig bynciau i dderbyn Gradd 4 sydd islaw’r trothwy ansawdd ac sy’n dynodi fod yna wendidau o bwys yn y maes. Rhannwyd pryderon yr Awdurdod Addysg ynghylch yr adroddiad gyda’r Pennaeth ac fe fydd yr ysgol yn awr yn addasu ei chynllun datblygu i ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr arolygydd. Bydd Uwch Ymgyhgorydd Cynnal yn cynorthwyo gyda’r dasg hon. At hynny, mae’r ysgol wedi derbyn £69,000 o dan Rhaglen Rhagori Llywodraeth y Cynulliad yn seiliedig ar nifer y disgyblion sydd yn derbyn cinio am ddim er mwyn codi safonau mewn meysydd penodol megis llythrennedd a phresenoldeb.

 

      

 

     Mae’n bwysig i Bennaeth newydd yr Adran Addysg Grefyddol dderbyn cynhaliaeth yn ei ddyddiau cynnar ac yn dilyn trafodaeth, cytunwyd gofyn i Gavin Craigen, Cadeirydd newydd Cymdeithas CYSAGau Cymru roddi o’i brofiad i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn. Mae’n bwysig hefyd bod yr ysgol yn gweithredu ar yr adroddiad arolwg a bydd yr Awdurdod Addysg yn monitro’r cynnydd yn ofalus ac yn rheolaidd.

 

      

 

     Diolchodd yr aelodau  i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) am gyflwyno’r wybodaeth gefndirol uchod a oedd yn eu cynorthwyo i ddeall yn well, sefyllfa gyffredinol yr ysgol. Er fod canfyddiadau’r adroddiad arolwg yng nghyswllt Addysg Grefyddol yn siomedigaeth iddynt, bu iddynt bwysleisio ei bod yn bwysig rhoddi pob cefnogaeth i’r Pennaeth Adran newydd a’r ysgol yn eu hymdrechion i wirio’r sefyllfa. Mynegwyd gobaith o benodi Pennaeth Adran newydd ac o weithredu mewn ymateb i ganfyddiadau’r arolwg,  byddai yna droi dalen newydd yn hanes yr ysgol yn y maes hwn.

 

      

 

     Awgrymodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) ei fod yn adrodd yn rheolaidd i gyfarfodydd y CYSAG am gynnydd Ysgol Uwchradd Caergybi o safbwynt Addysg Grefyddol ac fe gytunodd yr aelodau gyda’r awgrym hwn.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

7.1     Nodi cynnwys yr adroddiadau arolwg ynglyn ag Addysg Grefyddol yng nghyswllt y 6 ysgol gynradd a nodwyd gan ofyn i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) i ysgrifennu atynt i longyfarch y staff a’r disgyblion ar eu cyflawniadau.

 

7.2     Derbyn y wybodaeth o’r adroddiad arolwg mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Caergybi gyda siom gan ofyn i’r Swyddog Addysg (Uwchradd) adrodd yn ôl i’r CYSAG yn rheolaidd ar gynnydd yr ysgol yng nghyswllt Addysg Grefyddol.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

8

MATERION TRAFOD/SIARADWYR GWADD 2006/07

 

      

 

     Rhoddwyd ystyriaeth i faterion trafod posibl ar gyfer y flwyddyn i ddod ynghyd â siaradwyr y gellid eu gwahodd i annerch y Cyngor.

 

      

 

     Awgrymodd y Swyddog Addysg (Uwchradd) ddau bwnc trafod sef Maes Llafur Addysg Grefyddol yr Eglwys ac Addysg Grefyddol yn y blynyddoedd cynnar. Cydsyniwyd â’r awgrymiadau yma a chytunwyd i ystyried Maes Llafur AG yr Eglwys fel pwnc trafod yn gyntaf.

 

      

 

     Rhoddodd cynrychiolydd yr Eglwys wybod i’r CYSAG mai o dan Adran 50, Deddf Addysg 2005 y byddai ysgolion yr Eglwys yn cael eu harolygu o hyn allan.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi Maes Llafur AG yr Eglwys ac Addysg Grefyddol yn y Blynyddoedd Cynnar fel pynciau trafod ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

      

 

9

GOHEBIAETH

 

      

 

9.1     Cyfeiriwyd at lythyr oddiwrth Ifan Roberts, Ysgrifennydd y Presbyteriaid ynglyn ag addoli ar y cyd;

 

9.2     nodwyd y derbyniwyd cyflenwad o ddeunyddiau ac adnoddau Moslemaidd gan Gyngor Moslemiaid Prydain.Trosglwyddwyd yr adnoddau i’r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mangor i’w dosbarthu i ysgolion yn ôl yr angen;

 

9.3     derbyniwyd copi o Adroddiad Blynyddol Mudiad Addysg Grefyddol Cymru am 2005/06 ynghyd â gwahoddiad gan ei Lywydd a’i Gadeirydd i achlysur ail lawnsio’r mudiad ar 2 Tachwedd yn Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

 

 

 

10

CYFARFOD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn, ddydd Llun, 5 Chwefror, 2007.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd E.G.Davies

 

             Cadeirydd