Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 5th February, 2007

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

Cynghorwyr P.M.Fowlie, Gwilym O.Jones, R.Llewelyn Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Diacon Stephen Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

Y Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

 

Undebau’r Athrawon

Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon)

Miss Mefys Jones (UCAC)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Addysg Uwchradd (Mr Gwyn Parri)

Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol (Mrs Carol Llewelyn Jones)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE, Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol), Mrs Heledd Hearn (NASUWT), Mr Rheinallt Thomas (Eglwyds Bresbyteraidd Cymru), Mr John Wyn Jones (SHA), Mrs Helen Roberts (Aelod Cyfetholedig), Parch.Elwyn Jones (Aelod Cyfetholedig), Miss Bethan James (Ymgynghorydd y Dyniaethau)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mrs Alison Jones (Pennaeth Ysgol Parch.Thomas Ellis) Miss Elena Roberts (Cydlynydd Addysg Grefyddol Ysgol Parch.Thomas Ellis)

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith fod y Cynghorydd P.M.Fowlie wedi colli ei nain yn ddiweddar ac ar ran aelodau’r CYSAG, cydymdeimlodd yn ddwys gyda’r Cynghorydd Fowlie a’i deulu yn eu profedigaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’w chyfarfod cyntaf o CYSAG Ynys Môn i Mrs Carol Llewelyn Jones, athrawes yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon sydd wedi’i secondio i swydd rhan amser Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol gyda Chwmni Cynnal.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r aelodau y byddai Mr John Wyn Jones, Pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern ac un o gynrychiolwyr Undebau’r Athrawon ar y CYSAG yn ymddeol cyn cyfarfod nesaf y Cyngor Ymgynghorol, ac roedd yn awyddus ar ran aelodau’r CYSAG i ddymuno’n dda iddo am ymddeoliad dedwydd ac i ddiolch iddo am ei wasanaeth cydwybodol fel aelod o’r Cyngor a’i gyfraniad doeth i’w drafodaethau. Awgrymodd bod llythyr yn cael ei anfon at Mr John Wyn Jones i gyfleu iddo ddiolchiadau aelodau’r CYSAG am ei wasanaeth a’u dymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd y Cynghorydd R.Llewelyn Jones ddiddordeb cyffredinol yng nghyswllt eitem 6 ar y rhaglen - Ysgol Uwchradd Caergybi yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o Fwrdd Llywodraethu’r Ysgol.

 

Datganodd y Diacon Stephen Roe ddiddordeb yng nghyswllt eitem 10 ar y rhaglen - Arolygiadau Ysgolion ar y sail fod ei ferch yn ddisgybl un un o’r ysgolion a arolygwyd.

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, yn amodol ar y diwygiad isod, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2006. (Cofnodion y Cyngor 14.12.2006, tud 71 - 77)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

2.1

Eitem 2.5 - Arolygiadau Ysgolion

 

 

 

Penderfynwyd nodi mai achlysur traws enwadol oedd y cwrs hyfforddiant y cyfeirir ato o dan y cofnod hwn pan gawsai cynrychiolydd Undeb y Bedyddwyr achos i bryderu ynglyn â diffyg gwybodaeth rhai pobl ifanc am Gristnogaeth, ac nid digwyddiad o dan nawddogaeth Undeb y Bedyddwyr.

 

 

 

2.2

Eitem 2.1 - Cymdeithas CYSAGau Cymru

 

 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at yr ohebiaeth rhwng CYSAG Môn ac Ysgrifenyddes Cymdeithas CYSAGau Cymru ynglyn â’r angen i gyrff CYSAGau dderbyn cofnodion cyfarfodydd y Gymdeithas mewn da bryd ynghyd â rhybudd amserol mewn perthynas â chyflwyno enwebiadau ar gyfer swyddi yn y Gymdeithas, a chadarnhaodd fod y sefyllfa wedi gwella a bod y wybodaeth berthnasol wedi’i derbyn mewn pryd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r CYSAG.

 

 

 

2.3

Eitem 2.3 - Rhaglen Waith yr Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol

 

 

 

Cyflwynodd y Swyddog Addysg Uwchradd Mrs Carol Llewelyn Jones i’r CYSAG fel yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol, ac olynydd Mr Paul Matthews Jones yn y swydd. Adroddodd wrth yr aelodau mai athrawes yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon yw Mrs Jones a bydd yn treulio hanner ei hamser yn cyd-weithio gydag Ymgynghorydd y Dyniaethau. Mae  arbenigedd Mrs Jones ym maes CA3 ac mae wedi ymgymryd â chryn waith ym maes ABACH hefyd (Addysg Bersonol a Chymdeithasol). Un o fanteision a rhinweddau’r penodiadau yw fod cryfderau a chefndir yr ymgynghorwyr ar secondiad yn amrywio ac maent i gyd yn dod â gwahanol ddimensiwn i’r swydd.

 

 

 

3

ADRODDIAD BLYNYDDOL TERFYNOL CYSAG

 

 

 

Cyflwynwyd a nodwyd - Copi terfynol Adroddiad Blynyddol 2005/06 CYSAG Ynys Môn y cymeradwywyd y fersiwn drafft ohono yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2006.

 

 

 

4

MAES LLAFUR YSGOL EGLWYS

 

 

 

4.1

Bu i’r Parch. Tegid Roberts roddi cyflwyniad i’r CYSAG ar brif nodweddion maes llafur ysgol eglwys fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

amlinellodd y cefndir deddfwriaethol i sefydlu ysgolion eglwys a chyflwyno maes llafur yr eglwys gam wrth gam gan nodi fod gan yr eglwys hanes hir  fel darparwr addysg sydd yn mynd yn ôl ganrifoedd.Mae ym Môn dair ysgol eglwys sef Ysgol Parc y Bont, yn Llanddaniel Fab, Ysgol y Parch.Thomas Ellis, Caergybi ac Ysgol Gynradd Llangaffo.Ysgol Parch.Thomas Ellis yw’r unig ysgol o’r dair sydd wedi gofyn i rieni am yr hawl i ddefnyddio maes llafur yr Eglwys sy’n neilltuol i ysgolion yr Eglwys yng Nghymru. Gyda gweithredu Deddf Addysg 1944 a chyflwyno trefniant addysg newydd, didolwyd yr ysgolion yn ddau gategori o dan y drefn sef ysgolion cynorthwyedig y mae gofyn iddynt ddilyn maes llafur yr Eglwys ac ysgolion rheoledig sy’n dilyn maes llafur cytun yr Awdurdod Addysg Lleol;

 

Ÿ

mae Maes Llafur Cytun yr Eglwys yn canolbwyntio ar Gristnogaeth yn bennaf  tra mae’r Maes Llafur Cytun Lleol yn rhoi cyfle i ddisgyblion astudio Cristnogaeth a hefyd rhai crefyddau eraill. Yn CA2 Maes Llafur yr Eglwys mae hawl i edrych ar grefyddau undduwiaeth megis Islam, Cristnogaeth ac Iddewiaeth, ond nid oes ynddo ymwneud â chrefyddau megis Bwdîaeth a Siciaeth;

 

Ÿ

ymhlith y rhesymau dros gael Maes Llafur Addysg Grefyddol newydd yr Eglwys mae Gofynion Llywodraeth y Cynulliad a’r Cwricwlwm Cymreig; er mwyn rhoddi i Addysg Grefyddol yr un fformat â phynciau eraill ac er mwyn amlygu hunaniaeth yr Eglwys yng Nghymru trwy gyflwyno’r un maes llafur ym mhob Esgobaeth; a hefyd i ddathlu canrif milflwyddiant newydd;

 

Ÿ

daethpwyd at y Maes Llafur trwy gywain barn grwp o athrawon a rhoddi ystyriaeth i feysydd llafur Iwerddon a Solihull fel rhai gydag agweddau cyffredin i faes llafur yr Eglwys. Gwahoddwyd Coleg y Drindod Caerfyrddin fel yr unig goleg eglwysig i ymwneud â’r gwaith a llunio copi drafft o’r Maes Llafur. Fe’i gylchredwyd i Gyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth a swyddogion ysgol cyn ei gyflwyno wedyn am gymeradwyaeth i Fainc yr Esgobion;

 

Ÿ

derbyniwyd adborth gan 2 bennaeth a chyd-gysylltydd Addysg Grefyddol ym mhob esgobaeth cyn wedyn cyhoeddi fersiwn diwygiedig o’r Maes Llafur;

 

Ÿ

bu i’r ysgolion ym mhob Esgobaeth dreialu’r Maes Llafur ac fe’i lansiwyd yn ffurfiol ym mis Mai, 2001. Mae’r Maes Llafur yn  6 oed eleni a bydd gofyn ei ail wampio er mwyn adlewyrchu’r newidiadau ym maes Addysg Grefyddol;

 

Ÿ

mae i’r Maes Llafur y nodweddion canlynol -

 

 

 

Ÿ

yn cynnwys pob agwedd o Gristnogaeth yng Nghymru;

 

Ÿ

parodrwydd i roddi blaenoriaeth i gynnwys yn hytrach na sgiliau;

 

Ÿ

crefydd wedi’i drefnu o gwmpas cofiant sylfaenwyr y ffydd;

 

Ÿ

ymdrech i adeiladu iddo ddilyniant a gwahaniaethu;

 

Ÿ

canolbwyntio ar grefydd undduwiaeth;

 

Ÿ

parodrwydd i fynd i’r afael o ddifrif â hanes yr Eglwys a thestunau Beiblaidd;

 

Ÿ

gosod sylfaen ar gyfer Addysg Grefyddol yn yr uwchradd a Christnogaeth yn arbennig;

 

Ÿ

osgoi themau aml-grefyddol all fod yn gymhleth i ddisgyblion;

 

Ÿ

cysylltiadau rhwng yr amgylchfyd a ffydd;

 

Ÿ

disgwyliad bod yr eglwys yn adnodd ddylid ei defnyddio;

 

Ÿ

cynnwys defodau megis bedydd a chonffirmasiwn ac achlysuron eraill sydd yn nodedig i’r Eglwys yng Nghymru fel Eglwys Gristnogol;

 

Ÿ

parodrwydd i weld Cristnogaeth yn rhan o fyd heddiw;

 

Ÿ

defnyddio themau traws-gwriciwlaidd sydd yn cyd-fynd â chyhoeddiadau eraill megis rhai AADGOS;

 

Ÿ

defnydd o ddatganiadau ffocws i osod cywair priodol ar gyfer grwp blwyddyn a’r maes;

 

Ÿ

ystyried ac ymateb i ffenomenau nad oes bob tro esboniad hawdd drostynt megis ysbrydolrwydd;

 

Ÿ

creu canllawiau asesu a defnyddio.

 

 

 

Ÿ

o ran strwythur, mae i’r Maes Llafur 6 maes neu linyn ffocws yn cwmpasu ffigwr yr Iesu, y Beibl, yr Eglwys, Gwyliau, Credoau eraill ynghyd â Bywyd a Gwerthoedd Cristnogol. Cyfeiriwyd yn y fan hyn at amcanion, nodau dysgu  a gweithgareddau dysgu pob maes fesul blwyddyn ynghyd â’r dulliau asesu;  

 

Ÿ

o ran maes, neu linyn  ffocws y  Beibl er enghraifft, mae’r gofynion wedi’u seilio ar y canlynol -

 

 

 

Ÿ

bod yn gyfarwydd â’r Beibl fel llyfr;

 

Ÿ

bod yn gyfarwydd â storiau adnabyddus o’r Beibl - actio ac ail-adrodd storiau Beiblaidd;

 

Ÿ

bod yn ymwybodol fod y Beibl yn sôn am bobl real o’r gorffennol;

 

Ÿ

bod yn ymwybodol bod y Beibl yn adrodd wrth bobl am eu bywydau nhw heddiw;

 

Ÿ

deall strwythur a chynllun y Beibl;

 

Ÿ

deall sut y bu i’r Beibl ein cyrraedd;

 

Ÿ

deall iaith damhegion;

 

Ÿ

deall trefn cymeriad a chronoleg y Beibl;

 

Ÿ

gwybod am fywyd Crist;

 

Ÿ

deall lleoliad hanesyddol bywyd Crist

 

 

 

Ÿ

mae dull cyflwyno’r Beibl yn ystyrlon ac yn gysylltiedig â hanes a phwysig yw gwerthfawrogi nad cyfres o storiau di-gyswllt yw’r Beibl. Mae’n ddull cyflwyno sy’n gymorth i ddysgu gwersi o edrych ar fywydau pobl a ddisgrifir yn y Beibl, a dyma’r dull sydd yn rhoddi sylw disgyblion ar y modd y dylid astudio’r testun;

 

Ÿ

mae’r datganiad ffocws yn dweud dylai disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ddechrau dod yn gyfarwydd â’r Beibl yn ei wahanol ffurfiau. Ceisir darllen storiau o’r Beibl iddynt sy’n addas i’w hoedran o gwmpas themau megis perthyn, rhannu a rhoi diolch i Dduw yn ogystal a bod yn ymwybodol fod y Beibl yn ein dysgu am y byd naturiol;

 

Ÿ

soniwyd am y dosbarthaidau meithrin a derbyn, a sut y gwahaniaethir rhyngddynt wrth eu haddysgu am y Beibl;

 

Ÿ

diweddwyd y cyflwyniad trwy ddangos trosolwg o’r holl linynau neu feysydd ffocws gan roddi darlun o gynnwys pob cyfnod allweddol yn ei grynswth a beth sydd yn ddisgwyliedig ynddo;

 

Ÿ

nodwyd fod yna ail ymweld â’r pynciau bob dwy flynedd yn y Maes Llafur hwn.

 

 

 

4.2

Yn dilyn cyflwyniad y Parch. Tegid Roberts ynglyn â nodweddion craidd Maes Llafur yr Eglwys, bu i Mrs Alison Jones a Miss Elena Roberts o Ysgol Parch.Thomas Ellis, Caergybi ddangos i aelodau’r CYSAG Faes Llafur yr Eglwys ar waith, a gwnaed hynny trwy gyfrwng cyflwyniad gweledol a thrwy arddangos samplau o ddeunyddiau dosbarth.

 

 

 

Isod, nodir prif bwyntiau’r cyflwyniad -

 

 

 

Ÿ

bu i Ysgol Parch.Thomas Ellis fabwysiadu Maes Llafur yr Eglwys yng Nghymru bum mlynedd yn ôl. Mae 107 o blant ar lyfrau’r ysgol ac mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal ddifreintiedig ac mewn dalgylch Cymunedau’n 1af ; serch hynny mae’r disgyblion yn derbyn addysg o’r safon gorau;

 

Ÿ

mae’r ysgol yn dilyn Maes Llafur yr Eglwys, sef  6 maes yn CA2 sef y  Beibl, Iesu, Eglwys, Bywyd a Gwerthoedd, Credoau Eraill, a Gwyliau; a 5 maes yn  CA1 ac o dan 5 oed; mae’r Maes Llafur wedi’i gyfuno â Chynllun Addoli ar y cyd yr ysgol;

 

Ÿ

mae yn yr ysgol lle blaenllaw i’r gwasanaeth boreol ac fe ymwêl  Rheithor a Ficer y plwyf â’r ysgol yn wythnosol bob bore dydd Iau i arwain y gwasanaeth boreol. Mae’r plant yn arwain y gwasanaeth ar ddydd Mawrth, Pennaeth yr ysgol ar ddydd Llun a chynhelir ymarfer canu ar ddydd Mercher. Ar ddydd Gwener cynhelir gwasanaeth yn y dosbarth lle caiff y plant gyfle i rannu tystysgrifau am waith neu ymddygiad da. Mae’r cyd-lynydd yn cadw cofnod o’r gwasanaethau boreol yn yr ysgol;

 

Ÿ

pob dwy flynedd cynhelir gwasanaeth esgobaethol yn yr ysgol. Hefyd mae eglwysi gwadd yn dod i’r ysgol. Trwy gynnal gwasanaethau o’r fath rhoddir i’r plant brofiadau amrwyiol megis canu emynau a salmau, gweddîo a gwrando a dysgu am y Beibl.Mae’r plant hefyd yn cymeryd rhan yn rheolaidd mewn gwasanaethau yn Eglwys Cybi ac yn arbennig ar achlysuron neilltuol yng nghalendr yr Eglwys - Diolchgarwch, dydd Mercher y Lludw a‘r Pasg;

 

Ÿ

mae’r ysgol yn cydnabod gwerth yr Ysgol Sul ac yn credu ei fod yn bwysig i’r plant ei mynychu fel lle y gallent ddysgu sgiliau gwrando a darllen, ac ers rhai blynyddoedd bellach mae’r ysgol wedi sefydlu Ysgol Sul yn yr ysgol, o dan diwyg clwb ar ôl ysgol gyda’r enw Cerrig Sarn (Stepping Stones) sydd yn cael ei redeg gyda chymorth rhai o wragedd y plwyf. Maent wedi trefnu amryw o wasanaethau yn yr ysgol - Gwasanaeth Sul y Fam, Gwasanaeth Adfent ac Operation Christmas Child yn eu plith. Rhydd hyn eto  gyfle i’r plant gwrdd a pherfformio o flaen gwahanol gynulleidfaoedd;

 

Ÿ

adeg y Nadolig bu i’r disgyblion baratoi addurniadau Nadolig eu hunain i’w gosod ar goeden Nadolig a arddangoswyd fel rhan o Wyl Coed Nadolig Eglwys Cybi. Bu i’r plant hefyd wisgo i fyny a gorymdeithio trwy Stryd Fawr Caergybi fel rhan o’u perfformiad o’r Geni ac fel anogaeth i bobl y dref ymuno mewn gwir ysbryd y Nadolig, sef profiad na fydd y plant yn ei anghofio;

 

Ÿ

fel rhan o waith dosbarth CA1 a Blwyddyn 5 yn ystod tymor yr Haf, 2006 edrychwyd ar arwyddocâd y Bedydd a chynhaliwyd seremoni bedydd ffug yn yr Eglwys trwy ddefnyddio dol a chan wisgo’r ddol mewn gwisg bedydd go iawn y bu’r plant yn ei dewis - erbyn diwedd yr achlysur roedd y plant yn deall arwyddocâd Bedydd ynghyd â gwahanol agweddau’r digwyddiad. Hefyd cafwyd achlysur Bedydd iawn yn yr ysgol ar 1 Rhagfyr, 2006 pryd y cafodd 12 o blant ac 1 oedolyn eu bedyddio mewn gwasanaeth prydferth ac ystyrlon - roedd yr achlysur yn ddigwyddiad hanesyddol ym mywyd yr ysgol;

 

Ÿ

mae’r ysgol hefyd yn ceisio codi ei phroffil trwy fwydo gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau a chyflawniadau i’r wasg a chylchgronnau lleol;

 

Ÿ

rhoddwyd disgrifiad manwl o’r trefniadau arsylwi gwersi ac arfarnu Addysg Grefyddol yr ysgol ynghyd â gwaith y Cydlynwyr; ymdrechir i osgoi gorasesu er mwyn gallu rhoddi profiadau byw i’r plant;

 

Ÿ

cedwir proffil ysgol lle mae’r cydlynwyr yn casglu samplau gwaith, ac yn y proffil gellir gweld gwaith Addysg Grefyddol ac addysg bersonol a chymdeithasol y plant o’r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6, ac fe ellir gweld sgiliau’r plant yn datblygu ynghyd â’u dealltwriaeth o Addysg Grefyddol a’r byd eang. Ceir ym mhob dosbarth gornel Beibl a chornel Dychymyg;

 

Ÿ

mae gweithgarwch addoli ar y cyd yn yr ysgol a’r Maes Llafur yn hyrwyddo ymddygiad moesol cadarn yn y plant; yn CA1 ac yn y dosbarth o dan 5 oed rhoddir cyfle i’r plant actio storiau, chwarae rôl a chanu a dawnsio, ac mae’r plant yn cael profiadau byw trwy gymeryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath yn hytrach na thrwy gwblhau ymarferion mewn llyfrau;

 

Ÿ

yn CA2 rhoddir rhagor o bwyslais ar ddatblygu sgiliau meddwl a dadansoddol, ac mae yna fwy o gyfle i roi i blant Blwyddyn 2 a 4 brofiadau gwrando, trafod ac ysgrifennu storiau crefyddol gan gofio fod hyn yn rhan o’u datblygiad moesol hefyd;

 

Ÿ

defnyddir gweithagareddau Addysg Grefyddol hefyd i ddatblygu sgiliau traws-gwricwlaidd;

 

Ÿ

defnyddir canllawiau Maes Llafur yr Eglwys yng Nghymru i ddibenion asesu gan ei fod yn annog ymatebion amrywiol gan y plant - deallus, moesol, ysbrydol ac artistig ac fe’i seilir ar amrediad o brofiadau sy’n berthnasol i grefydd ac y deuir ar eu traws yn yr ysgol. Defnyddir hefyd lyfrau asesu Cynnal a’u haddasu i faes Llafur yr Eglwys yn ogystal â deunyddiau AADGOS;

 

Ÿ

mae Addysg Grefyddol yn Ysgol Parch. Thomas Ellis yn llawer mwy na phwnc; mae’n gyfrwng i hyrwyddo ymddygiad da ac mae hefyd yn rhan annatod o ethos a meddylfryd yr ysgol. Y nod yw dysgu’r plant i gyd-fyw, i barchu eu hunain, i barchu ei gilydd a hefyd i barchu’r gymdeithas maent yn rhan ohoni. Mae Addysg Grefyddol yn plethu i mewn â pholisiau eraill yn yr ysgol megis y polisi cyfle cyfartal, atal bwlio ac amddiffyn plant.

 

 

 

     Diolchwyd yn fawr i Mrs Alison Jones a Miss Elena Roberts am gyflwyniad lliwgar a hynod diddorol a mynegwyd werthfawrogiad o’r gwaith a’r amser aeth i’w baratoi.

 

      

 

     Penderfynwyd diolch i’r Parch. Tegid Roberts, Mrs Alison Jones a Miss Elena Roberts am eu cyflwyniadau mewn perthynas â maes llafur ysgol yr Eglwys a sut y’i gweithredir mewn cyd-destun ysgol, gan nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

      

 

5

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Nhorfaen ar 17 Tachwedd, 2006.

 

      

 

6

YSGOL UWCHRADD CAERGYBI

 

      

 

     Bu i’r Swyddog Adddysg Uwchradd ddiweddaru’r aelodau ynglyn â’r cynnydd a wnaed gan Ysgol Uwchradd Caergybi yng nghyswllt Addysg Grefyddol yn dilyn dyfarnu Gradd 4 i ddarpariaeth Addysg Grefyddol yr ysgol yn CA3 ac yn CA4 mewn arolwg yr adroddwyd arno i gyfarfod diwethaf y CYSAG.

 

      

 

     Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd y rhoddwyd gwybod i’r CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol fod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi derbyn grant o £69,000 o dan Raglen Rhagori Llywodraeth y Cynulliad i godi safonau mewn meysydd penodol megis llythrennedd, rhifedd a phresenoldeb a’i fod yn gallu cadarnhau, yn dilyn ymweld â’r ysgol, fod y defnydd priodol yn cael ei wneud o’r arian hwnnw i godi safonau llythrennedd a rhifedd a bod defnydd o’r grant yn cael effaith gadarnhaol ar safonau yn y

 

      

 

     meysydd hyn. Bydd Mr Iolo Dafydd o Estyn hefyd yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn ystod yr wythnos hon i sicrhau bod yr ysgol yn gwneud y defnydd gorau o’r cymhorthdal grant a bod ei ddefnydd yn cael ei fonitro gan yr Awdurdod Addysg.

 

      

 

     O ddod at Gynllun Ôl-Arolwg Ysgol Uwchradd Caergybi, caiff ei fonitro gan y Swyddog Addysg Uwchradd ac Uwch Ymgynghorydd Uwchradd Cynnal mewn paratoad ar gyfer ail ymweliad gan Estyn ym mis Mehefin i asesu’r cynnydd ar y cynllun. Nodir fod gan  Adran Addysg Grefyddol yr Ysgol 2 athro/awes gyda chymhwyster dysgu Addysg Grefyddol erbyn hyn. Yn bresennol, mae’r ymdrechion i wella wedi’u canolbwyntio ar CA3;  mae Addysg Grefyddol CA4 yn rhan o Gwricwlwm Cyfoethogi’r ysgol. Er fod yr Arweinydd Pwnc yn athro newydd gymhwyso mae’r ffaith fod gan yr ysgol bellach unigolyn cymwys sydd yn arwain ar y pwnc yn tystio at welliant yn y sefyllfa ac at hynny, mae’r arweinydd pwnc yn derbyn cefnogaeth gan Gavin Craigen, Cadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru sydd yn ymweld â’r ysgol i arsyllu gwersi ganddo.Ymhellach, mae Ymgynghorydd y Dyniaethau hefyd wedi bod yn ymweld â’r ysgol yn ddiweddar i arsyllu gwers Addysg Grefyddol, a hyderir y bydd adborth ysgrifenedig ar gael gan Gavin Craigen ac Ymgynghorydd y Dyniaethau yn y man.

 

      

 

     Fodd bynnag, roedd ymweliad y Swyddog Addysg Uwchradd â’r ysgol wedi amlygu dau bryder, sef nad oedd unrhyw aelod o dîm uwch reoli’r ysgol wedi gweld yr Arweinydd Pwnc Addysg Grefyddol yn dysgu rhwng y cyfnod o fis Medi, 2006 hyd at yr ymweliad yma. Daethpwyd â hyn i sylw Pennaeth yr Ysgol ac erbyn hyn mae mentor wedi’i ddynodi i’r Pennaeth Pwnc i’w gefnogi yn ei ddyddiau cynnar. Hefyd, oherwydd cyfyngiadau cyllidol, roedd yr ysgol wedi ystyried cwtogi ar yr amser a roddir i Addysg Grefyddol. Bernir byddai hyn yn gam yn ôl ac yn dilyn trafodaeth gyda’r Pennaeth, gellir adrodd fod yr ysgol wedi penderfynu yn hytrach i gynyddu’r amser a neilltuir i’r pwnc o 3.3% i 3.8.% o gwricwlwm wythnosol CA3.

 

      

 

     Croesawodd yr aelodau y camau a gymerwyd eisoes i wella’r sefyllfa fel ag adroddwyd uchod, a bu iddynt nodi y byddai’n fanteisiol iddynt weld adroddiadau ysgrifenedig Gavin Graigen ac Ymgynghorydd y Dyniaethau cyn dod i gasgliadau pendant ynglyn â chynnydd yr ysgol mewn perthynas ag Addysg Grefyddol.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â chynnydd Ysgol Uwchradd Caergybi yng nghyswllt Addysg Grefyddol, a diolch i’r Swyddog Addysg Uwchradd am yr adborth.

 

      

 

7

ADRODDIADAU HUNAN-ARFARNU

 

      

 

     Cylchredwyd yn y cyfarfod, gopi o adroddiadau hunan arfarnu Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

 

      

 

     Amlinellodd y Swyddog Addysg Uwchradd y cefndir i’r uchod ac eglurodd bod y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg Estyn yn ymwneud ag Addysg Grefyddol yn cael eu cyflwyno i’r CYSAG. Fodd bynnag, mewn achosion lle nad yw Addysg Grefyddol wedi bod yn destun arolwg, yna mae’r CYSAG wedi penderfynu gofyn am gael gweld adroddiadau hunan arfarnu’r ysgolion yn ystod blwyddyn yr arolwg, sef adroddiad  sydd yn rhoi darlun o sut mae’r ysgolion eu hunain yn gweld eu cryfderau a’u gwendidau.

 

      

 

     Mae adroddiad hunan arfarnu Ysgol David Hughes yn cyfeirio at y cwrs TGAU llawn sydd yn newydd sefydledig yn yr ysgol ac mae’n nodi’r canlyniadau - 72% o ddisgyblion a safodd yr arholiad wedi cael gradd A neu A*. Mae Adran Addysg Grefyddol yr ysgol yn cymharu’r perfformiad yn erbyn cymaryddion cenedlaethol ac yn nodi bod sgôr cyfartalog y pwnc yn uwch na phynciau eraill (52.76% o’i gymharu â 43.07%). Parthed y Cwrs Byr Addysg Grefddyol sydd hefyd yn ddatblygiad newydd yn yr ysgol, er nad oes data cymharol ar gyfer y cwrs mae’r adroddiad yn nodi fod 80% o’r cohort wedi cael graddau A neu A*. Mae’r asesiad hefyd yn adnabod meysydd lle gellir gwella ynddynt megis y modd o farcio gan

 

      

 

      

 

     gymryd i ystyriaeth sylwadau arholwyr CBAC. O ddod at Gwrs llawn Lefel A  Astudiaethau Crefyddol mae sgôr cyfartalog y pwnc ychydig yn uwch na’r pynciau eraill.

 

      

 

     Fodd bynnag, fe nodir y modiwl Bwdîaeth fel un anodd sydd angen rhagor o sylw. Mae’r hunan arfarniad yn nodi cynnydd yn y niferoedd sy’n dilyn Cwrs Uwch Gyfrannol Astudiaethau Crefyddol ac mae canrannau llwyddiant y pwnc yn sylweddol uwch na’r ganran genedlaethol. Unwaith eto, adnabyddir maes y gellir gwella yndddo - y tro hwn y modiwl Iddewiaeth. Yn cyd-fynd â’r wybodaeth ystadegol mae yna adroddiad disgrifiadol ar agweddau eraill o gyflwyno’r pwnc yn yr ysgol megis ymweliadau â’r Adran gan gyrff cenedlaethol megis y Samariaid a Chymdeithas Atal Creulondeb i Blant. Adroddir am ymweliad Blwyddyn 9 yr ysgol â’r Ganolfan Holocost yn Nottingham, sef profiad mae’r disgyblion yn mynd i’w gofio ac a fydd yn debygol o gryfhau eu dealltwriaeth o destunau mawr y maes.

 

      

 

     Bu i Miss Mefys Jones ymhelaethu ar adroddiad hunan arfarnu Ysgol Syr Thomas Jones mewn perthynas ag Addysg Grefyddol gan nodi ei fod yn seiliedig ar Gynllun 3 blynedd sydd yn ceisio mynd i’r afael â’r 7 cwestiwn allweddol mae arolwg yn seiliedig arnynt. Nodir yn yr adroddiad y maes arfarnu, sef pa gwestiwn mae’n cyfeiro ato, y dystiolaeth, agweddau arfarnu ynghyd â phwy sy’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith. Ynghlwm wrth yr adroddiad hefyd mae cyfres o atodiadau sy’n cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ac sy’n cyfrannu at adeiladu ffeil hunan arfarnu gynhwysfawr ar gyfer yr arolygwyr. Er enghraifft, yn ystod y tymor diwethaf arafarnwyd canlyniadau arholiadau allanol a mewnol a bu i Uwch Dîm Rheoli’r Ysgol fonitro llyfrau Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10. Mae’n arfer hefyd i ofyn i athrawon yr adran a’r disgyblion fel ei gilyddd arfarnu cyflawniad diwedd tymor.

 

     Aeth Miss Mefys Jones rhagddi i fanylu ar gynnwys y ffeil hunan arfarnu.

 

      

 

     Diolchodd yr aelodau am yr adborth uchod fel tystiolaeth o’r gwaith caled a chydwybodol sydd yn cael ei wneud yn yr ysgolion.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth o adroddiadau hunan arfarnu Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

 

      

 

8

AMSER A NEILLTUIR I ADDYSG GREFYDDOL STATUDOL MEWN YSGOLION

 

      

 

     Bu i Miss Mefys Jones, cynrychiolydd  UCAC ar y CYSAG roddi gwybod i’r aelodau ei bod wedi gwneud cais i gael godi’r mater hwn yn y CYSAG er mwyn cael trafodaeth ac arweiniad ar y mater. Adroddodd ei bod yn ofynnol i bob ysgol ddarparu Addysg Grefyddol gogyfer pob disgybl

 

     CA4 a CA5 yn arbennig os nad ydynt yn dewis dilyn y pwnc i safon TGAU a Lefel A. Cafwyd arolwg o Ysgol Syr Thomas Jones Mawrth diwethaf ac er nad oedd Astudiaethau Crefyddol ymhlith y pynciau a arolygwyd, edrychwyd ar y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yng nghyd-destun Cwestiwn Allweddol 3 -  Pa mor dda mae profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Bu i’r Arolygwr hawlio yn groes i farn yr Ysgol, bod rhaid addysgu’r pwnc am wers yr wythnos trwy gydol Blwyddyn 10, 11 a’r 6ed dosbarth; bu iddo ddod i’r casgliad bod yr amser a roddir i Addysg Grefyddol yn CA4 a’r 6ed dosbarth yn gyfyng. Trefn yr ysgol yw ei addysgu pob 4 wythnos fel bod disgyblion Blwyddyn 10 yn cael eu gweld 4 gwaith am 4 wythnos. O ran y 6ed dosbarth, mae’r disgyblion yn derbyn gwers yr wythnos gan Miss Mefys Jones a Phennaeth y 6ed ac fe gaiff ei wau i mewn i addysgu sgiliau allweddol cyfathrebu. Roedd Miss Mefys Jones  yn dymuno i’r Cyngor ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf fel bod yna ganllaw ysgrifenedig y gellir cyfeirio ato os cyfyd unrhyw anghytundeb rhwng ysgol ac arolygwr.

 

      

 

     Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd y cafodd 3 ysgol uwchradd eu harolygu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf ac mai ond yn achos Ysgol Syr Thomas Jones y codwyd cwestiwn ynglyn â’r amser a roddir i’r pwnc. Cyfeiriodd at Gylchlythyr 10/94 sydd yn gosod allan y disgwyliadau mewn perthynas ag Addysg Grefyddol a nododd ei fod yn dweud ym mharagraff 39 y Cylchlythyr bod argymhellion adroddiad Cyngor Cwricwlwm Cymru ar y Cwricwlwm Cenedlaethol yn “cymryd yn ganiataol y dylai 36 awr y flwyddyn gael eu dyrannu i AG yng nghyfnod allweddol 1-3 ; a rhyw 5% o gyfanswm amser y cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 4. Mater i bob ysgol benderfynu arno yw’r union amser a ddyrennir ar gyfer AG.”  Awgrymodd bod y CYSAG yn cysylltu gyda rhywun fel Paul Morgan, Llywodraeth Cynulliad Cymru am farn ac yn cynnal trafodaeth ynglyn â’r mater yn ei gyfarfod nesaf fel bod yna arweiniad clir yn cael ei roddi yn ei gylch i bob ysgol ym Môn.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

8.1     Nodi pryderon cynrychiolydd UCAC ynglyn â’r mater;

 

8.2     Gofyn i’r Swyddog Addysg Uwchradd gysylltu gyda rhywun fel Paul Morgan, Llywodraeth y Cynulliad am farn ar ran y CYSAG, a bod yna drafodaeth lawn ar fater yr amser a neilltuir i Addysg Grefyddol yn y cyfarfod nesaf.

 

      

 

9

FFRAMWAITH ENGHREIFFTIOL CENEDLAETHOL AR GYFER ADDYSG GREFYDDOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yn rhoddi arweiniad ar gyfer Awdurdodau Addysg Lleol a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytun yng Nghymru.

 

      

 

9.1     Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y ddogfen ymgynghori uchod yn un o nifer o ymarferion ymgynghori cyfochrog sy’n cael eu cynnal gan AADGOS a’i fod yn ôl Cyfarwyddwr y Grwp Cymwysterau a Chwricwlwm yn gyfle i ddarparu fframwaith asesu cydlynol i Gymru gyfan a gwella safonau addysg grefyddol yn genedlaethol. Mae’r cyfnod ymgynghori ar y ddogfen yn ymestyn tan ddiwedd Mawrth a’r teimlad yw fod angen amser i ystyried y cynnwys a llunio ymateb manwl iddo. Roedd yn argymell felly bod grwp o blith ymarferwyr Môn a Gwynedd yn y maes yn cael ei gynnull i drafod y ddogfen, a bod rhyddid i aelodau’r CYSAG  gyflwyno eu sylwadau yn ogystal i’r Swyddog Addysg Uwchradd. Nododd bod Is-Gadeirydd y CYSAG eisoes wedi cyflwyno barn ar y ddogfen.

 

      

 

     Penderfynwyd bod grwp o ymarferwyr proffesiynol o Fôn a Gwynedd yn cael ei gynnull i ystyried cynnwys y Ddogfen Ymgynghori Fframwaith Enghreifftiol ar gyfer Addysg Grefyddol a llunio ymateb iddo,  a bod unrhyw sylwadau gan aelodau’r CYSAG ar y ddogfen yn cael eu cyflwyno i’r Swyddog Addysg Uwchradd.

 

      

 

9.2     Cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at ohebiaeth dyddiedig 9 Ionawr, 2007 oddiwrth AADGOS yn rhoddi gwybod am gynhadledd i’w chynnal yn Llandrindod ar 12 Mawrth, 2007 i drafod cynigion ar gyfer y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol ac yn gwahodd bob corff CYSAG i gyflwyno 4 enwebiad o bob un o’r tri grwp sydd wedi’u cynrychioli arnynt i gynnwys 2 o blith grwp yr athrawon (un o’r sector cynradd ac un o’r sector uwchradd).

 

      

 

     Penderfynwyd enwebu Mr Rheinallt Thomas (Enwadau Crefyddol), Mrs Carol Llewelyn Jones (Athrawon Sector Uwchradd) a Miss Jane Richards (Athrawon Sector Cynradd) i fynychu Cynhadledd Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yn Llandrindod ar 12 Mawrth, 2007, a rhoddi hawl i’r Swyddog Addysg Uwchradd enwebu’r 4ydd cynrychiolydd yn ôl ei ddisgresiwn.

 

      

 

10

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth ynglyn â chynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Cemaes,  Ysgol Gynradd Llanbedrgoch ac Ysgol y Tywyn.

 

      

 

     Nododd y Swyddog Addysg Uwchradd nad oedd Addysg Grefyddol wedi bod yn destun arolwg yn y tri achos uchod, ond fe ystyriwyd Addysg Grefyddol yng nghyd-destun Cwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda mae profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Mae’r tri adroddiad yn rhai boddhaol iawn gyda’r adroddiad mewn perthynas ag Ysgol y Tywyn yn un arbennig o gryf.

 

      

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a llongyfarch y dair ysgol ar eu cyflawniad.

 

      

 

11

GOHEBIAETH

 

      

 

11.1     Derbyniwyd llythyr dyddiedig Tachwedd, 2006 oddiwrth Gavin Craigen yn cyfeirio at oblygiadau cyllidol newidiadau cwricwlaidd y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol;

 

11.2     Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gymdeithas CYSAGau Cymru yn gwahodd enwebiad ar gyfer Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas. Mae Is-Gadeirydd CYSAG Ynys Môn wedi’i benodi i wasanaethu ar Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas tan 2009 a chan nad yw cyfansoddiad y Gymdeithas yn caniatau i fwy nag un swyddog o’r un corff eistedd ar y Pwyllgor Gwaith, nid oes gofyn gweithredu ynglyn â’r ohebiaeth.

 

      

 

12

CYFARFOD NESAF

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn, ddydd Llun, 11 Mehefin, 2007.

 

      

 

      

 

                            Cynghorydd E.G.Davies

 

                                       Cadeirydd