Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 11th June, 2007

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

(CYSAG)

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

 

 

Cynghorwyr P.M.Fowlie, Gwilym O.Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol)

Diacon Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

 

Mrs Margaret Chantrell (ASCL)

Mrs Mefys Edwards (UCAC)

 

Aelodau Cyfetholedig

 

Mrs Helen Roberts (Prifysgol Cymru)

Y Parch.Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Addysg Uwchradd (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol (Mrs Carol Llewelyn Jones)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE, Cynghorydd Thomas Jones, Y Parch.Tegid Roberts, Mrs Heledd Hearn, Miss Jane Richards.

 

 

 

 

Cyn cychwyn ar fusnes ffurfiol y cyfarfod, rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r aelodau y carai wneud rhai cyhoeddiadau. Llongyfarchodd dau aelod o’r CYSAG , sef Mrs Mefys Edwards a Mrs Helen Jones ar eu priodasau yn ddiweddar a dymunodd bob hapusrwydd iddynt am y dyfodol. Rhoddodd wybod i’r CYSAG bod y Cynghorydd Mrs B.Burns wedi derbyn triniaeth ysbyty a chynigiodd bod nodyn ysgrifenedig yn cael ei anfon i’r Cynghorydd Mrs Burns i gyfleu iddi ddymuniadau gorau’r aelodau am wellhad llwyr a buan. Estynnodd groeso cynnes i Mrs Margaret Chantrell, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi i’w chyfarfod cyntaf o’r CYSAG fel cynrychiolydd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL).

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd Mrs Catherine Jones ddiddordeb yng nghyswllt yr adroddiad arolygiad mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Llandrygarn o dan eitem 4 ar y rhaglen.

 

2

AELODAETH

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y Cynghorydd Thomas Jones wedi cael ei benodi’n aelod o’r CYSAG i gymryd lle’r Cynghorydd R.Llewelyn Jones. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith ei bod yn arfer yng nghyfarfod Haf y Cyngor Ymgynghorol i gadarnhau swyddi’r Gadair a’r Is-Gadair. O ystyried bod blwyddyn yn unig cyn etholiad llywodraeth leol, awgrymodd bod y CYSAG  yn ystyried cadarnhau deilydd presennol swydd y Gadair. Cydsyniodd aelodau’r CYSAG gyda’r awgrym hwn a bu iddynt gadarnhau’r Cynghorydd E.G.Davies fel Cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol a Mr Rheinallt Thomas fel ei Is-Gadeirydd.

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir yn amodol ar y materion a godir isod, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2007. (Cofnodion y Cyngor 06.03.2007, tud 96 - 104)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

3.1

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd ei fod, yn unol â dymuniad y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol, wedi ysgrifennu at Mr John Wyn Jones, cyn Bennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern a chyn cynrychiolydd y Gymdeithas Penaethiaid Uwchradd ar y Cyngor Ymgynghorol i ddiolch iddo am ei wasanaeth triw a’i gyfraniad i drafodaethau’r Cyngor yn ystod tymor ei aelodaeth.

 

 

 

3.2

Eitem 6 -  Ysgol Uwchradd Caergybi

 

 

 

Ÿ

Penderfynwyd diwygio’r ymadrodd yn nhrydydd paragraff fersiwn Saesneg y cofnod hwn , “in preparation for a second inspection by Estyn in June” i ddarllen “in preparation for a second monitoring visit by Estyn in June”;

 

Ÿ

penderfynwyd dileu’r geiriau “erbyn hyn” yn ail frawddeg yr un paragraff yn y fersiwn Gymraeg a’r gair “now” yn ail frawddeg  yr un paragraff yn y fersiwn Saesneg;

 

Ÿ

cyfeiriodd y Swyddog Addysg Uwchradd at bedwerydd paragraff yr eitem hon ac esboniodd bod naws y paragraff yn awgrymu ei bod yn arferol i aelodau o dîm uwch rheoli’r ysgol arsylwi gwersi a roddir gan athrawon newydd gymhwyso tra nad dyna’r achos mewn ffaith. Cadarnhaodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi bod pob athro/awes sydd newydd gymhwyso yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion bugeiliol yr ysgol a chan gyd-gysylltwyr anghenion arbennig ond nid gan reolwyr uwch yr ysgol bob amser.

 

 

 

3.3

Amser a Neilltuir i Addysg Grefyddol Statudol mewn Ysgolion

 

 

 

3.3.1

Yn y fan hyn, bu i aelod godi mater oedd yn peri consyrn iddo ddaeth i’w sylw trwy sefyllfa ei fab, ac a ddymunai i’r CYSAG fod yn ymwybodol ohono. Adroddodd bod y plentyn ar fin sefyll arholiad Astudiaethau Crefyddol sy’n cyfateb i 50% o’r cymhwyster TGAU. Tra’i fod yn hynod fodlon bod ei fab wedi dewis Astudiaethau Crefyddol, roedd yn bryderus oherwydd i’w fab  dderbyn llythyr gan ei Athrawes Addysg Grefyddol yn rhoi gwybod i’r dosbarth ei bod yn gorfod mynychu sesiwn Hyfforddiant mewn Swydd er bod ganddi wers wedi’i pharatoi ar gyfer y dosbarth sy’n sefyll arholiad. Bu i’r Athrawes Addysg Grefyddol drefnu cyflenwi’r wers trwy alw’r dosbarth i mewn am 2 awr ychwanegol ac roedd yr aelod yn arbennig o ddiolchgar iddi am wneud hyn ac yn ei llongyfarch ar ei selogrwydd. Ei brif bryder fodd bynnag oedd y ffaith ei bod yn ymddangos bod yna flaenoriaethu Hyfforddiant mewn Swydd ar draul addysgu’r pwnc ac roedd yn resyndod ganddo fod rheidrwydd ar athrawon i fynychu hyfforddiant sy’n digwydd ar draws gwers.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mewn ymateb nad oedd yn ymwybodol bod Cynnal wedi gwneud unrhyw drefniadau HMS yn y cyfnod y cyfeiria’r aelod ato a bod rhaglen HMS yn digwydd ar adegau pan mae’r ysgolion wedi’u cau. Fodd bynnag, cynhaliwyd Cynhadledd Medrau Meddwl ar y diwrnod dan sylw ac os gwahoddwyd yr Athrawes Addysg Grefyddol i fynychu’r gynhadledd hon, efallai bod hynny am yr ystyrir bod yr ysgol yn dangos arferion da a bod yna ddeisyfiad i rannu’r arferion gydag ymarferwyr mewn ysgolion eraill. Roedd yn gresynu bod mab yr aelod yn colli gwers o’r herwydd a hyderai nad oedd hynny yn batrwm oedd wedi amlygu’i hun ar adegau eraill o’r flwyddyn. Atgoffodd yr aelodau bod hyfforddiant yn elfen annatod o’r broses o feithrin sgiliau athrawon a bod yr egwyddor o rannu arferion da hefyd yn un pwysig yng nghyd-destun datblygu dulliau addysgu.

 

 

 

Tra’n cydnabod y sylwadau uchod, roedd yr aelod yn awyddus iddo gael ei ddeall ei fod yn ymagweddu tuag at y mater o safbwynt y pwnc ac o safbwynt y disgyblion, ac nad oedd yn teimlo ei fod yn dderbyniol bod pwysau ar yr athrawes i fynychu’r sesiwn hyfforddiant a hithau wedi nodi bod ganddi ddosbarth arholiad pwysig Astudiaethau Crefyddol ar yr un pryd. Roedd o’r farn bod trefniadau o’r fath angen eu trafod ymhellach, ac mai cyfarfod o’r CYSAG oedd y fforwm mwyaf priodol i wneud hynny fel y corff y mae ei ddyletswyddau yn ymwneud â goruchwylio materion Addysg Grefyddol mewn ysgolion.

 

 

 

Roedd y Cadeirydd o’r farn bod y drafodaeth yn ymestyn tu hwnt i gylch gorchwyl penodol y CYSAG ac awgrymodd bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg Iechyd a Lles am ystyriaeth. Esboniodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod yr eitem y codwyd y mater o dano ac a drafodwyd gan y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol yn ymwneud â’r oriau y neilltuir ar gyfer Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth, tra bod testun pryder yr aelod yn ymwneud ag amser cyswllt ar gyfer TGAU Addysg Grefyddol a rhyddhau staff ar gyfer HMS. Awgrymodd bod yr aelod yn trafod ei bryderon gyda Phennaeth yr Ysgol neu fel arall, ei fod ef, y Swyddog Addysg Uwchradd yn gwneud ymholiadau ar ei ran.

 

 

 

Ymatebodd yr aelod ei fod yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi codi’r mater a’i fod yn anhapus nad oedd yn cael ei drafod ymhellach gan y fforwm oedd yn ei dyb ef y mwyaf cymwys  i’w drafod. Ail ddatganodd ei ddiolch i Athrawes Addysg Grefyddol ei fab am wneud amser ychwanegol ar gyfer y wers sy’n cael ei cholli, a nododd ei fod yn fodlon i’r Swyddog Addysg Uwchradd ymholi i’r mater ar ei ran.

 

 

 

Gwnaeth cynrychiolydd y penaethiaid uwchradd y sylw bod hyfforddiant neu arsylwi gwersi yn gallu bod yn fater dyrys os ydynt yn tynnu athrawon o’r dosbarth. O berspectif Pennaeth Ysgol, byddai’n gwerthfawrogi pe bai rhiant plentyn yn ei hysgol sydd â phryderon tebyg yn dod i’w gweld i gael sgwrs.

 

 

 

Mynegodd yr aelod a gododd y mater werthfawrogiad o’r amser a roddwyd iddo yn y cyfarfod hwn, a’r cyfraniadau a gafwyd, a phwysleisiodd ei fod yn fater y dylid rhoi sylw iddo oherwydd pwysigrwydd Addysg Grefyddol fel pwnc.

 

 

 

(Bu i’r Parch Elwyn Jones ddatgan diddordeb fel aelod o gorff llywodraethol yr ysgol y cyfeiriwyd ati yn ystod y drafodaeth)

 

 

 

Penderfynwyd nodi pryder yr aelod yng nghyswllt yr achos o wrthdaro rhwng trefniant HMS a gwers Astudiaethau Crefyddol, a bod y Swyddog Addysg Uwchradd yn gwneud ymholiadau pellach yn ei gylch.

 

 

 

3.3.2

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd ei fod wedi cysylltu â Paul Morgan mewn perthynas â’r mater o neilltuo amser i Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth a byddai’n adrodd ymhellach arno o dan yr eitem briodol ar y rhaglen.

 

 

 

3.4

Eitem 9 - Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol

 

 

 

Cyflwynwyd - Yr ymateb a anfonwyd i AADGOS ar ran CYSAG Ynys Môn mewn perthynas â’r  ymgynghoriad ynglyn â sefydlu Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

 

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd yn unol â phenderfyniad y CYSAG yn ei gyfarfod blaenorol y daethpwyd ag ymarferwyr proffesiynol ynghyd mewn sesiwn a gynhaliwyd ar y cyd â chynrychiolwyr o Wynedd ym Mharc Menai i ystyried yn fanwl Dogfen Ymgynghori  AADGOS ynglyn â chael Fframwaith Enghreifftiol ar gyfer Addysg Grefyddol, ac i lunio ymateb iddi. Roedd cynrychiolaeth Môn wedi’i gyfansoddi o Bennaeth Ysgol Gynradd Llangaffo, Pennaeth Ysgol Gynradd Llandrygarn, Pennaeth Addysg Grefyddol Ysgol Syr Thomas Jones a chynrychiolydd UCAC ar y CYSAG, ynghyd â Phennaeth AG Ysgol Uwchradd David Hughes. Derbyniwyd hefyd  sylwadau gan Is-Gadeirydd y CYSAG a gwerthfawrogwyd ei fewnbwn.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau am ymateb y grwp dethol uchod i gynnwys y ddogfen ymgynghori fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

bod y grwp yn derbyn mewn egwyddor mai da fyddai gweld Fframwaith Cenedlaethol sy’n gyffredin i bawb;

 

Ÿ

bod y grwp yn cydnabod er bod y Fframwaith Cenedlaethol yn wahanol o ran ei diwyg, nid yw mor annhebyg o ran ei brif sylfeini i gynnwys y Maes Llafur Cytun lleol, ac nad oes gan athrawon felly achos dros bryderu’n ormodol yn ei gylch;

 

Ÿ

bod prif gonsyrn y grwp yn ymwneud â’r ffaith bod yna beth amryfusedd mewn perthynas â disgyblion dan 7 oed; mae’r grwp wedi nodi ei fod o’r farn bod y gwahaniaethu rhwng Addysg Grefyddol i ddisgyblion 3-4 oed ac Addysg Grefyddol i ddisgyblion 5-7 yn artiffisial ac yn gwrthddweud athroniaeth ac egwyddorion holistaidd y Cyfnod Sylfaen;

 

Ÿ

bod y grwp yn cefnogi’n gryf y gosodiadau mewn perthynas ag eglurder y disgrifiadau lefel at bwrpas asesiadau athrawon yn CA2 a CA3, a bod y sgiliau a nodir yn rhaglenni astudio CA2, a CA3, yn briodol i’r naill gyfnod a’r llall;

 

Ÿ

bod ymateb y grwp i’r sylwadau mewn perthynas â CA4 ac Ôl-16 hefyd yn gadarnhaol;

 

Ÿ

bod y grwp o’r farn bod y mater o bennu nifer y crefyddau i’w hastudio mewn maes llafur cytun yn bwnc y dylid ei drafod a’i benderfynu’n lleol. Yn bresennol, dynodir Cristnogaeth fel y brif grefydd, a dywed y Maes Llafur Cytun lleol y dylai plant dan 7 oed astudio un grefydd arall; dylai disgyblion CA2 astudio 1 ond nid mwy na 2 grefydd arall a bod y nifer o grefyddau a astudir yn cynyddu wrth i’r disgyblion wneud cynnydd yn y maes. Cymera’r grwp lleol y safbwynt na ddylid pennu nifer y crefyddau a astudir mewn maes llafur cytun lleol.

 

 

 

Atgoffodd Ymgynghorydd y Dyniaethau’r aelodau nad dogfen statudol mo’r Fframwaith a bod rhaid cynnull cyfarfod lleol i ystyried a phenderfynu ar un o dri chwrs yn ei chylch, sef -

 

 

 

Ÿ

ei mabwysiadu yn ei chyfanrwydd a’i gwneud yn Faes Llafur Cytun;

 

Ÿ

ei haddasu a’i pherchnogi a dangos lle mae’n wahanol i’r hyn fydd gweddill Cymru yn ei astudio; neu

 

Ÿ

ei diystyrru a datblygu fframwaith lleol yn ei lle.

 

 

 

Teimlad y Grwp Lleol yw y byddai cael Fframwaith Cenedlaethol yn fanteisiol oherwydd byddai’n rhoi cyfle i gyhoeddwyr, hyfforddwyr a sefydliadau megis y Grid Cenedlaethol drafod ar lefel gyffredin.  Daeth y cyfnod ymgynghori ar y Ddogfen Fframwaith i ben ddiwedd mis Mawrth ac mae swyddogion AADGOS bellach yn ystyried cynnwys yr holiaduron a ddychwelwyd .Yr addewid yw y bydd y Fframwaith ddrafft ar gael ar y Wê erbyn diwedd y flwyddyn a bydd copïau caled yn barod i’w dosbarthu yn y Gwanwyn yn 2008 i’w cyflwyno wedyn i’r disgyblion ym mis Medi, 2008, a hynny os yw CYSAGau Môn a Gwynedd yn barod i dderbyn y Fframwaith neu ei addasu.

 

      

 

     Bu i’r Cadeirydd fynegi ei ddiolch am y mewnbwn gan dîm proffesiynol ac ymroddedig.

 

      

 

     Bu i’r Is-Gadeirydd nodi bod ymateb y tîm dethol uchod yn cyd-fynd yn gyffredinol ag ymagwedd Cymdeithas CYSAGau Cymru tuag at gynnwys y Fframwaith, a phwysleisiodd ei bod yn bwysig bod yna ymdeimlad cyffredin bod cael maes llafur y gall pawb yn y maes weithio gydag ef yn dda o beth. Gall CYSAG Ynys Môn ymfodloni ei fod yn symud yn y cyfeiriad iawn ond iddo gynnal Cynhadledd erbyn mis Medi, 2008 a threfnu hyfforddiant i athrawon.

 

      

 

     Ychwanegodd y Swyddog Addysg Uwchradd y cafwyd sesiwn fuddiol iawn ym Mharc Menai i lunio ymateb i’r Fframwaith a chredai bod yna awydd ledled Cymru i symud ymlaen gyda’r Fframwaith yn genedlaethol ond bod rhaid cadw mewn cof hefyd bod yna waith ymarferol i’w gyflawni ar ffurf cynnal Cynhadledd cyn mabwysiadu’r Maes Llafur maes o law.

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ymhellach y dymunai gofnodi gwerthfawrogiad y gymuned bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi cefnogi’r athrawon ac AADGOS yn hyn o beth; braf gallu adrodd bod yna gydweithio da wedi bod rhwng y sawl sydd ar lawr y dosbarth a’r CYSAGau lleol.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r ymateb i Ddogfen Ymgynghori Fframwaith Enghreifftiol Genedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol a luniwyd ar ran y CYSAG gan y tîm o ymarferwyr proffesiynol gan ddiolch iddynt am roddi o’u hamser i’r dasg ac am eu mewnbwn.

 

4

AROLYGIADAU YSGOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Llandrygarn ac Ysgol Gynradd Llanfachraeth.

 

      

 

     Atgoffodd y Swyddog Addysg Uwchradd yr aelodau bod y drefn arolygu bellach yn golygu y caiff ysgol ei harfarnu yn erbyn 7 cwestiwn allweddol y dyfarnir gradd arolygu iddynt yn ymestyn o 1 (y gorau) i 5 (y gwanaf). Yn achos Ysgol Gynradd Llandrygarn bu i Arolygwr Estyn ddyfarnu Gradd 2 i’r cyfan o’r cwestiynau sy’n broffil graddau cryf iawn. Roedd y safonau cyflawniad yn y gwersi a arolygwyd i gyd yn cyrraedd Graddfa 1 neu Raddfa 2 ac yn uwch na tharged Llywodraeth Cynulliad Cymru am 2007. Cafodd Addysg Grefyddol fel pwnc ei asesu yn yr arolygiad hwn a dyfarnwyd Gradd 2 iddo yn CA1 sy’n dynodi y canfuwyd nodweddion da yn y ddarpariaeth ac nad oedd ynddi  unrhyw ddiffygion pwysig, tra dyfarnwyd Gradd 1 i’r pwnc yn CA2 sy’n dynodi bod y ddarpariaeth yn dda gyda rhai nodweddion rhagorol.

 

      

 

     Nodwedd arall y dymunir dwyn sylw’r aelodau ati yw’r ffaith bod asesiad yr Arolygwr yn cyd-fynd ag hunan arfarniad yr ysgol ym mhob un o’r cwestiynau allweddol sy’n tystio bod gan yr ysgol drefn rheoli ansawdd gadarn iawn.

 

      

 

     Gwnaeth y Cadeirydd y sylw bod canfyddiadau’r arolygiad yn glodwiw ac ategodd yr Is-Gadeirydd y ganmoliaeth trwy nodi bod yr adroddiad yn brawf o lwyddiant arbennig iawn.

 

      

 

     Aeth y Swyddog Addysg Uwchradd rhagddo wedyn i adrodd bod y proffil graddau yn achos Ysgol Gynradd Llanfachraeth yn gydradd â phroffil graddau Ysgol Llandrygarn gyda Gradd 2 wedi’i ddyfarnu unwaith eto ar draws y cwestiynau allweddol. O ran safonau’r gwersi a arolygwyd dyfarnwyd bod 71% yn deilwng o Radd 2 a bod 29% yn teilyngu Gradd 3. Ni chafodd Addysg Grefyddol fel pwnc ei arolygu tro hwn yn Ysgol Llanfachraeth ond fe ddyfarnwyd Gradd 2 i Gwestiwn Allweddol 3 sy’n ymwneud â pha mor dda mae’r profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach ac sy’n cwmpasu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Dywed yr Arolygwr hefyd bod yna ymdrechion i godi   ymwybyddiaeth y disgyblion o’r gymdeithas o’u cwmpas gan gynnwys y rheini sy’n llai ffodus, a’u bod yn ymateb yn bositif i weithgareddau’r ysgol i gasglu arian ar gyfer amrywiol elusennau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n datblygu’u hymdeimlad o fod yn ddinasyddion byd eang.

 

      

 

     Roedd aelodau’r CYSAG yn gytun bod yma ddau adroddiad arolygiad canmoladwy iawn a bu iddynt fynegi eu balchder a’u diolch am y gwaith ymroddedig a esgorodd ar arfarniadau mor dda.

 

     Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw at yr anghysonderau o ran defnydd yr Arolygwr o dermau i ddisgrifio addoli ar y cyd a hynny er amlygu’r gwendid hwn gydag Estyn.

 

      

 

     Penderfynwyd cofnodi gwerthfawrogiad aelodau’r CYSAG o’r gwaith a’r ymdrech gan staff a disgyblion Ysgol Gynradd Llandrygarn ac Ysgol Gynradd Llanfachraeth oedd yn sail i adroddiadau arolygiad arbennig iawn a gofynnwyd i’r Swyddog Addysg Uwchradd lythyru’r ddwy ysgol i’w llongyfarch ar eu cyrhaeddiad.

 

      

 

5

ADDYSG GREFYDDOL YN Y CHWECHED DOSBARTH

 

      

 

     Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd y bu i’r drafodaeth ynglyn â’r mater uchod gychwyn yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn sgîl beirniadaeth gan Arolygwr Estyn nad oedd yr ysgol yn neilltuo amser digonol i Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth. Os yw Arolygwr o’r farn nad yw ysgol yn cyflawni’r gofynion cyfreithiol trwy beidio â rhoddi amser digonol i Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth fe all hynny arwain at ddyfarnu Graddfa 4 i’r ysgol yng nghyswllt cwestiwn Allweddol 3. Trafodwyd y mater hwn gyda Paul Morgan, Swyddog yn y Cynulliad, a  bu iddo ef gyfeirio at ysgolion lle mae yna ymarfer da o ddefnyddio’r amser wythnosol mewn ffordd fwy creadigol na neilltuo cyfnodau diffiniedig mewn wythnos ar gyfer Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth y mae disgyblion yn gyndyn i’w mynychu. Ymhlith y dulliau amgen mae rhai ysgolion wedi’u datblygu yw cynllunio pecynnau dysgu (supported self-study packs) a rhain wedi’u cynllunio’n ofalus a dilyniant iddynt. Mae ysgolion eraill yn cynnal seminar neu gynhadledd. Fodd bynnag, pryder pennaf Paul Morgan ynghylch y dulliau hyn yw ansawdd darpariaeth o’r fath ac mae’n bendant iawn ei feddwl  bod ansawdd y profiad a’r ddarpariaeth yn hollbwysig.

 

      

 

     Awgrymodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod hyn yn fater efallai byddai’r CYSAG yn dymuno dychwelyd iddo yn rheolaidd. Cyfeiriodd at y ffaith bod llawer o ryddid i ddisgyblion ôl-16 wneud dewisiadau o ran gwahanol agweddau o’u bywyd gan gynnwys mynd i goleg i astudio lle nad oes rhaid iddynt wneud Addysg Grefyddol. Mae’n galonogol bod y nifer sy’n dewis gwneud cwrs Astudiaethau Crefyddol yn eithaf iach trwy Gymru a’i fod ar gynnydd. Fodd bynnag, mae’r disgyblion hynny sy’n gwneud Addysg Grefyddol yn cael eu hunain mewn sefyllfa o gael dethol a dewis cyfuniad o bynciau am y tro cyntaf ac mae gofyn cadw hyn mewn cof wrth ail ymweld â’r Maes Llafur ac ystyried addasrwydd yr hyn a gynigir iddynt gan ofyn a yw efallai’n briodol cynnig arlwy gwahanol iddynt. Llynedd o dan arweiniad Mr Paul Matthews Jones, y cyn Athro Ymgynghorol Addysg Grefyddol daethpwyd â grwp o ymarferwyr proffesiynol at ei gilydd mewn gweithgor a chynhaliwyd sesiwn benodol gogyfer y sawl sy’n addysgu disgyblion ôl-16. Lluniwyd deunydd ar gyfer uned o waith Addysg Grefyddol ac mae’r pecyn gorffenedig sy’n dwyn y teitl, A yw Crefydd yn Rym Cydlynol neu Ysgarol mewn Cymdeithas, bellach ar gael. Cafodd yr uned o waith ei chyflwyno i sesiwn HMS Môn ac Arfon  yn ystod y Gwanwyn eleni a chredir bod y modiwl yn ddigonol i gynnal gwaith am hanner tymor, neu efallai am dymor. Mae Panel Ymgynghorol Cymru hefyd wedi bod yn ystyried y maes hwn a’r teimlad yw y byddai cael trafodaeth agored ynglyn â faint o amser sy’n cael ei roddi i AG statudol ôl-16 yn ddymunol. Mae rhai cyrff CYSAGau yn Ne Ddwyrain Cymru sy’n cael eu gwasanaethu gan ESIS wedi nodi yn eu maes llafur hwy bod 20 awr y flwyddyn yn dderbyniol ar gyfer Addysg Grefyddol ôl-16, a bod dulliau amgen o wneud y ddarpariaeth hefyd yn gymeradwy a bod modd felly hepgor y cyfnod penodedig wythnosol. Efallai bod gofyn ystyried y dulliau amgen hyn a bod yn ddigon hyderus i’w cynnwys yn y Maes Llafur Cytun lleol.

 

      

 

     Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi wedyn i ymhelaethu ar rai o’r dulliau amgen o gyflenwi darpariaeth Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

cyflwyno darpariaeth Astudiaethau Crefyddol trwy ei gyd-blethu â sgiliau allweddol;

 

Ÿ

defnyddio cwrs TGAU Byr fel cwrs statudol yn CA4 ;

 

Ÿ

Athroniaeth i Blant - byddai’r cwrs hwn yn ddefnyddiol i’r sawl sydd yn dymuno dilyn gyrfa sy’n ymwneud â phobl; mae cwmni Sapier wedi arbrofi gyda rhai disgyblion ôl-16 ac wedi rhoddi cymhwyster Lefel 1 Sapier iddynt;

 

Ÿ

cynadleddau - o’i weithredu’n iawn mae’r cysyniad o baratoi plentyn ar gyfer cynhadledd a chyfranogi mewn gweithdai a chwrdd ag unigolion o amryfal ffydd yn ddeniadol ac o werth. Rhydd gyfle i’r plentyn fagu sgiliau gwahanol a throsglwyddadwy;

 

Ÿ

defnyddio offer fideo gynadledda -  nid yw hwn yn ddull hwylus ar gyfer grwp mawr o blant ond o’i ddefnyddio yn ddychmygus fe all fod o werth.

 

 

 

     Rhaid ystyried pa mor ymarferol yw corffori’r dulliau amgen uchod yn y Maes Llafur Cytun lleol. A chofio nad yw’n bosibl dileu’r amser statudol gogyfer Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth, rhaid ei gyflwyno mewn modd mwy atyniadol na thrwy ddatgan ei fod yn orfodol a’i werthu fel darpariaeth sydd yn cynorthwyo pobl ifanc i baratoi yn feddyliol ac yn emosiynol am y byd mawr.

 

      

 

     Diolchwyd yn fawr iawn i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad uchod.

 

      

 

     Ategodd cynrychiolydd Cymdeithas Arweinyddwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) y sylwadau uchod a chytunodd ei bod yn anodd gwneud darpariaeth Addysg Grefyddol ôl-16 sy’n apelgar i ddisgyblion o gofio hefyd bod amser di-gyswllt disgyblion blwyddyn gyntaf y chweched dosbarth yn brin. Mae ysgol Uwchradd Caergybi yn paratoi ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig a bydd y sgiliau a ddatblygir trwy gyfrwng y Fagloriaeth yn cael eu hachredu. Defnyddiol felly fyddai priodi’r ddarpariaeth AG gyda’r ddarpariaeth sgiliau allweddol hon, a thrwy hynny ei wneud yn fwy diddorol a buddiol i’r disgyblion.

 

      

 

     Adroddodd yr Is-Gadeirydd bod y mater hwn ag iddo hanes hir. Fodd bynnag, mae sefyllfa Ynys Môn yn glir ac yn cyd-fynd â’r cyfarwyddyd bod 36 awr y flwyddyn yn cael eu neilltuo i AG yn CA3  a 5% o gyfanswm amser y cwricwlwm i’r pwnc yn CA4. At hynny, mae barn Prif Arolygydd Estyn a’r cyn Weinidog dros Addysg yn Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn ddigyfaddawd ar y mater hwn a mynnent  nad yw rhai o’r cynlluniau amgen newydd yn dderbyniol. Mae gofynion statudol Addysg Grefyddol yn y chweched dosbarth yn ychwanegol i ddarpariaeth y Fagloriaeth a’r disgwyl yw y cânt eu cyflawni yn ychwanegol i’r Fagloriaeth, ac nad yw eu gweithredu o fewn y Fagloriaeth yn gymeradwy. Bu’r duedd i gamddehongli beth yw Addysg Grefyddol a beth yw Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn broblem dros y blynyddoedd - rhaid i’r elfennau Addysg Grefyddol a’r amser a roddir iddynt fod yn eglur; heb hynny ni fernir bod yna gyflawni’r gofynion statudol. Yr her yw ceisio ei wneud yn fwy diddorol, ac addawol yw gweld bod y nifer o ddisgyblion sy’n dewis Astudiaethau Crefyddol ar eu fyny sy’n awgrymu bod yna fwy o dynfa i’r pwnc.

 

      

 

     Mynegodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei gwerthfawrogiad o’r sylwadau a gyflwynwyd ac ychwanegodd y disgwyliai y byddai yna ail-ymweld â’r mater hwn. Annhebyg iawn y bydd yna unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth mewn perthynas ag Addysg Grefyddol statudol yn y chweched dosbarth ac felly gofynnai i aelodau’r CYSAG ystyried syniadau ar gyfer ei ddarparu bydd yn bodloni’r arolygwyr, yr ysgolion a’r bobl ifanc eu hunain.

 

      

 

     Diolchodd y Swyddog Addysg Uwchradd i’r aelodau am eu cyfraniadau uchod a nododd bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn cael ei grisialu yn nhudalen 5 y Maes Llafur Cytun. Bydd angen rhoi arweiniad i benaethiaid ysgol maes o law yng nghyd-destun datblygu’r Maes Llafur newydd.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynghyd â’r sylwadau a wnaethpwyd yn ystod y drafodaeth arno.

 

      

 

6

ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOL UWCHRADD CAERGYBI

 

      

 

     Bu i Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi adrodd ar y cynnydd yn yr ysgol o ran ei darpariaeth Addysg Grefyddol  fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

penodwyd pennaeth Adran newydd o 6 Medi, 2006;

 

Ÿ

rhoddwyd pwyslais ar ail-lunio Cynlluniau Gwaith CA3;

 

Ÿ

yn 2006 ni roddwyd lefelau CA3 oherwydd absenoldeb athro; gyda’r newidiadau mae’r Pennaeth Adran newydd yn rhagweld 68% Lefel 5 ac uwch ar gyfer Blwyddyn 9 yn 2007;

 

Ÿ

dengys adolygiad o lyfrau’r disgyblion gynnydd amlwg ym maes medrau;

 

Ÿ

gwelir bod y disgyblion yn awr yn gwerthuso, myfyrio a mynegi barn;

 

Ÿ

maent hefyd yn fwy sicr eu gwybodaeth;

 

Ÿ

dengys llyfrau’r disgyblion a chanlyniadau arsylwi gwersi bod y disgyblion yn defnyddio termau priodol a bod disgyblion Blwyddyn 7 yn benodol yn dod i’r dosbarth ag agwedd bositif;

 

Ÿ

o ran ymarferion monitro, arsylwyd gwersi gan staff, ymgynghorwyr, AEM ac fe adolygwyd llyfrau;

 

Ÿ

holwyd y Pennaeth Adran gan AEM ac arsylwyd dosbarth Addysg Grefyddol Blwyddyn 9. Cawsant eu bodloni gan y cynnydd a wnaed;

 

Ÿ

byddir yn parhau i godi safonau dysgu;

 

Ÿ

bydd yna hyfforddiant rheoli parhaol ar gyfer y Pennaeth Adran;

 

Ÿ

bwriedir cwblhau Cynllun Gwaith newydd ar gyfer CA3;

 

Ÿ

bydd staff CA4 fydd yn dysgu Addysg Grefyddol o fis Medi, 2007 yn derbyn hyfforddiant;

 

Ÿ

trefnir i’r Pennaeth Adran newydd ymweld ag ysgolion cynradd lleol i weld addysgu Addysg Grefyddol ddwyieithog.

 

      

 

     Diweddodd y Pennaeth ei hadroddiad trwy nodi er y gwnaed cryn gynnydd o fis Medi 2006, ymlaen, erys cryn waith eto i’w wneud.

 

      

 

     Diolchwyd i Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi am ei throsolwg clir a chytbwys o’r sefyllfa parthed Addysg Grefyddol yn yr ysgol.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi adroddiad Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ynglyn â’r cynnydd a wnaed o safbwynt darpariaeth Addysg Grefyddol yr ysgol gan ddiolch iddi am y wybodaeth.

 

      

 

7

RHAGLEN WAITH YR ATHRAWES YMGYNGHOROL ADDYSG GREFYDDOL

 

      

 

     Diweddarodd yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol yr aelodau ar ei rhaglen waith a rhagflaenodd ei chyflwyniad gyda diolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei chyngor tryloyw a pharod bob amser.

 

      

 

     A hithau wedi cwblhau 6 mis yn y swydd, roedd yn mwynhau’r amryw brofiadau ddeuai i’w rhan yng nghwrs ei gwaith ac roedd yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol. Ymhlith ei dyletswyddau roedd trefnu cyrsiau HMS a ffocws HMS mis Chwefror Môn ac Arfon oedd Athroniaeth i Blant, sef dull o ddysgu sy’n addas ar gyfer pob oedran a gallu  ac sy’n annog disgyblion i athronyddu trwy holi ac ymateb i gwestiynau pwysig a meddylgar. Cafwyd mewnbwn i’r sesiwn gan Dr Tim Lucock, arbenigwr yn y maes.

 

      

 

     Mae cefnogi athrawon newydd gymhwyso yn rhan greiddiol o’i gwaith ac mae hyn wedi golygu  ymweld ag Ysgol Uwchradd Caergybi i ddarparu cefnogaeth a chynhaliaeth i Bennaeth newydd Adran Addysg Grefyddol yr ysgol gan gynnig arweiniad iddo ynghylch cynllunio gwaith a datblygu sgiliau rheoli dosbarth.Ymwelsai hefyd ag Ysgol Uwchradd David Hughes i bwrpas arsylwi ar yr Athrawes AG newydd gymhwyso yn yr ysgol honno, a braf gallu dweud ei bod yn alluog ac yn frwdfrydig iawn ac yn cyfrannu tuag at gynnal safonau uchel yr adran. Bu iddi fynychu cwrs dulliau dysgu disgyblion 14-16 oed ac roedd cwrs hyfforddiant defnyddio byrddau gwyn rhyngweithiol mewn gwersi AG wedi’i drefnu a byddai’n bresennol yn y sesiwn honno.

 

      

 

     Mynychai hefyd gyfarfodydd o’r Tîm Ymgynghorol llawn i ymgyfarwyddo ag ymarfer da mewn dysgu.

 

      

 

     Cadarnhaodd yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol ei bod yn cael pleser a defnydd mawr o’r gwaith.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi adroddiad yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol ynglyn â’i rhaglen waith gan ddiolch iddi am y wybodaeth.

 

      

 

8

RHAGLEN HMS CYNNAL

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau am weithgareddau HMS yn y sector cynradd yn ystod 2006/07 fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

bu i athrawon CA1 ymrwymo i gwrs yn ymwneud â gwyliau crefyddol o fewn Cristnogaeth oedd cwmpasu profiadau i ddisgyblion CA1 a’r adnoddau diweddar sydd ar gael. Edrychwyd ar waith celf yng nghyd-destun y Cyfnod Sylfaen ac ar y defnydd o degannau byd bach fel modd o gyflwyno gwyliau Cristnogol i ddisgyblion CA1. Cynhaliwyd sesiwn ar eu cyfer hefyd ar  athroniaeth i blant;

 

Ÿ

cynhaliwyd sesiwn ar lunio ymholiadau diddorol ar gyfer disgyblion CA2 ar gyfer y Dyniaethau yn eu cyfanrwydd. Her y sesiwn i Addysg Grefyddol oedd i ba raddau gellid llunio cwestiynau diddorol sy’n yn ymateb i Tacsonomi Bloom, sef fframwaith penodol o feddwl yn graff ac o ddefnyddio sgiliau meddwl, a gwneud hynny mewn cyd-destun o edrych ar gardiau Nadolig a brofodd yn sialens.

 

Ÿ

cyflwynwyd rhestr faith o awgrymiadau ar gyfer testunau HMS 2007/08 gogyfer y Panel sydd yn ystyried cyrsiau hyfforddiant yn y ddau sector. Yr hyn fydd yn siapio cynnwys y rhaglen hyfforddiant am y flwyddyn nesaf fydd y Fframwaith Genedlaethol gogyfer Addysg Grefyddol a’r angen i ymateb i gwestiynau ymarferol fydd yn codi yn ymwneud â chynllunio, asesu a’r newidiadau fydd y Fframwaith yn eu golygu.

 

 

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodaeth gan ddiolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau amdani.

 

 

 

9

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - Cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Hwlffordd ar 23 Mawrth, 2007.

 

      

 

     Cyfeiriwyd at ddiffyg presenoldeb aelodau etholedig yn y cyfarfod uchod, sef tuedd sydd wedi amlygu’i hun mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Gymdeithas. Dygwyd sylw yn y cyswllt hwn at y ffaith bod y presenoldeb o du athrawon CYSAG Ynys Môn mewn cyfarfodydd y Gymdeithas hefyd yn wan a’i bod yn amserol efallai ail ystyried y gynrychiolaeth. Nodwyd bod angen i’r CYSAG ystyried sut oedd am bleidleisio o ran ethol cynrychiolwyr i Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas, neu  fel arall, a oedd am ymddiried y ddyletswydd hon i’w gynrychiolwyr ar ddiwrnod y cyfarfod. Yn olaf, rhoddwyd gwybod i’r aelodau ei bod yn fwriad ail argraffu’r ddogfen Felly Rydych am Ymuno â’ch CYSAG Lleol?, sef canllaw defnyddiol iawn i aelodau newydd o gyrff CYSAGau, a hynny mewn ymateb i alw cynyddol amdani.

 

      

 

     Awgrymodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y CYSAG yn ymddiried y dasg o bleidleisio yng nghyswllt ethol aelodau i’r Pwyllgor Gwaith i’w gynrychiolwyr ar y diwrnod. Mewn perthynas â’r llyfryn, Felly Rydych am Ymuno â’ch CYSAG lleol? byddir yn dosbarthu’r fersiwn ddiwygiedig unwaith y derbynnir cyflenwad ohoni. O ran presenoldeb cynrychiolydd yr athrawon mewn cyfarfodydd y Gymdeithas, roedd dau opsiwn yn bosibl -

 

      

 

Ÿ

Ysgrifennu at y cynrychiolydd presennol i ofyn iddi a oedd yn dymuno parhau yn y swyddogaeth honno, neu

 

Ÿ

ethol cynrychiolydd o’r newydd.

 

 

 

     Ar ôl trafod y mater, ac  yng ngholeuni’r ffaith nad oedd yr Is-Gadeirydd ychwaith yn gallu ymbresenoli yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas yn Llandrindod ym mis Mehefin fel cynrychiolydd yr enwadau crefyddol, daeth yr aelodau i’r casgliad mai’r cwrs mwyaf ymarferol am y tro hwn fyddai enwebu aelodau i fynychu’r cyfarfod yn Llandrindod yn unig, gan ystyried y mater o gynrychiolaeth sefydlog mewn cyfarfod i’r dyfodol.

 

      

 

     Penderfynwyd bod y CYSAG -

 

      

 

9.1     Yn ymddiried y dasg o bleidleisio mewn perthynas ag ethol aelodau i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru i’w gynrychiolwyr yn y cyfarfod ar y diwrnod;

 

9.2     Yn enwebu’r canlynol i fynychu cyfarfod y Gymdeithas a gynhelir yn Llandrindod ar 28 Mehefin -

 

Ÿ

Cynghorydd E.G.Davies fel cynrychiolydd yr Awdurdod Addysg;

 

Ÿ

Y Parch Elwyn Jones fel cynrychiolydd yr enwadau crefyddol (yn amodol ar ei gadarnhau)

 

Ÿ

Mrs Helen Roberts fel cynrychiolydd yr Athrawon (yn amodol ar ei gadarnhau)

 

 

 

 

 

10

MUDIAD ADDYSG GREFYDDOL CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - Cofnodion cyfarfod Mudiad Addysg Grefyddol Cymru a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2007.

 

      

 

     Rhoddodd yr Is-Gadeirydd wybod i’r aelodau y sefydlwyd y Mudiad yn wreiddiol yn 1966  fel Mudiad Addysg Gristnogol Cymru. Cafodd ei ail lawnsio ym mis Tachwedd, 2006 o dan ei newydd wedd uchod i adlewyrchu’r ffaith bod y mudiad yn un cynhwysol sy’n cwmpasu bob ffydd ac nid Cristnogaeth yn unig. Yn hanesyddol, mae Cadeirydd y mudiad wedi cael ei ddethol o blith Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ac yn y cyfarfod uchod cadarnhawyd i Gyfarwyddwr Addysg Ynys Môn dderbyn y gwahoddiad i gadeirio’r Mudiad am y tair blynedd nesaf. Mae’r Mudiad yn cefnogi Addysg Grefyddol mewn ysgolion trwy addasu a chyfieithu cyhoeddiadau AG gan Wasanaethau RE Today ar gyfer y sector cynradd. Cyhoedda hefyd Syniadau AG a ddosbarthir i bob awdurdod sy’n ei gefnogi’n ariannol.

 

      

 

     Diolchodd y Cadeirydd am y braslun uchod o waith a chefndir y Mudiad a chyfeiriodd gyda siom at y sylw yng nghofnodion y cyfarfod bod rhai awdurdodau wedi datgan yn glir na fyddant am amryw o resymau, yn cefnogi’r Mudiad yn ariannol yn y dyfodol.

 

      

 

     Nododd yr Is-Gadeirydd bod Cadeirydd newydd y Mudiad wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r cwestiwn o gefnogaeth ariannol.

 

      

 

      

 

11

GOHEBIAETH

 

      

 

     Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd nad oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth ffurfiol i

 

     adrodd amdani.

 

      

 

12

CYFARFOD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn, ddydd Llun, 15 Hydref, 2007.

 

      

 

      

 

 

 

 

 

                      Cynghorydd E.G.Davies

 

                                Cadeirydd