Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 15th October, 2007

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG)

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

Cynghorwyr Mrs B.Burns, MBE,  P.M.Fowlie, G.O.Jones,

Thomas Jones.

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Parch. Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

 

Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon)

Mrs Margaret Chantrell (Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau) (ASCL)

Mrs Mefys Edwards (UCAC)

 

Aelodau Cyfetholedig

 

Mrs Helen Roberts (Prifysgol Cymru)

Parch. Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Parch. Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd), Y Parch. Irfon Jones (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)

 

 

 

 

 

Gan fod y Cadeirydd yn absennol am ran gychwynnol y cyfarfod oherwydd bod ganddo ymrwymiadau eraill, cymerodd Mr Rheinallt Thomas, yr Is-Gadeirydd y Gadair am y pedair eitem gyntaf.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Mrs B.Burns, MBE i’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o salwch. Diolchodd hithau i’r CYSAG am eu cofion cynnes a’u dymuniadau da. Estynnwyd croeso hefyd i’r Cynghorydd Thomas Jones i’w gyfarfod cyntaf o’r CYSAG.

 

Llongyfarchwyd y Parch. Tegid Roberts ar gael ei ddyrchafu yn Ganon yn yr Eglwys, a Mr Gwyn Parri ar ei secondiad yn Bennaeth Gwasanaeth (Addysg). Cyfeiriwyd at y ffaith bod Mrs Margaret Chantrell, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi a chynrychiolydd ASCL ar y CYSAG yn ymddeol ddiwedd tymor yr Hydref, a dymunwyd yn dda iddi am ymddeoliad dedwydd.

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrir uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2007. (Cofnodion y Cyngor 18.09.2007, tud 80 - 89)

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

3.1

Eitem 3.3 - Amser a Neilltuir i Addysg Grefyddol Statudol mewn Ysgolion

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at y consyrn a fynegwyd yng nghyfarfod blaenorol y CYSAG  ynglyn â rhyddhau athrawon i fynychu cyrsiau HMS yn enwedig os yw hynny yn tarfu ar wersi. Sefydlwyd bod yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt  yn y cyfarfod diwethaf yn rhai eithriadol, a bod yr Athrawes AG dan sylw wedi cael ei rhyddhau ar fyr rybudd i gyfrannu at Gynhadledd Medrau Meddwl. Sylwodd bod croeso i’r aelod a gododd y mater ei drafod ymhellach gyda Phennaeth yr ysgol.

 

 

 

3.2

Eitem 4 - Arolygiadau Ysgol

 

 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi ysgrifennu at Ysgol Gynradd Llandrygarn ac Ysgol Gymuned Llanfachraeth ar ran y CYSAG mewn cydnabyddiaeth o’u cyrhaeddiad fel ag a adlewyrchwyd mewn adroddiadau arolygiad canmoladwy iawn.

 

 

 

3.3

Eitem 5 - Addysg Grefyddol yn y Chweched Dosbarth

 

 

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wybod i’r aelodau bod Ymgynghorydd y Dyniaethau wedi rhoi cyflwyniad i Benaethiaid Uwchradd ynglyn ag Addysg Grefyddol statudol ôl-16, ac yn benodol yng nghyswllt ffurfiau gwahanol o gyflwyno’r maes. Mae hyn wedi digwydd yng nghyd-destun trafodaethau gydag Estyn a chyrff eraill mewn perthynas â defnyddio dulliau gwahanol o gyflawni darpariaeth AG statudol ôl-16; ond erys Estyn yn bendant ei safbwynt os nad yw ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion statudol yn hyn o beth fe ellir dyfarnu Graddfa 4 iddi o dan Gwestiwn Allweddol 3, ac mae hynny o dan y trothwy ansawdd.

 

 

 

4

AROLYGIADAU YSGOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd Llaingoch.

 

 

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wybod i’r aelodau mai  arolwg safonol a gafodd y ddwy ysgol uchod, ac adroddodd yn eu cylch fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Corn Hir

 

 

 

Yn achos Ysgol Gynradd Corn Hir, casgliad cyffredinol yr Arolygydd oedd bod yr ysgol yn un hapus, bywiog a llwyddiannus a bod ganddi nifer sylweddol o nodweddion rhagorol. Cyfeiria’r Arolygydd yn benodol at lwyddiant yr ysgol wrth gynnal y safonau da a da iawn yr adroddwyd arnynt yn 2001 a bod hynny wedi’i wneud gyda chymorth staff ymroddgar a chorff llywodraethu cefnogol iawn. Yng nghyswllt y 7 cwestiwn allweddol y seilir arolwg arnynt sy’n cwmpasu cyflawniad dysgwyr, effeithiolrwydd yr addysgu, profiadau dysgu, arweinyddiaeth a rheolaeth, arfarnu a gwella ansawdd ynghyd â’r defnydd o adnoddau, bu i’r Tîm Arolygu ddyfarnu Gradd 1 mewn perthynas â Chwestiynau Allweddol 1,3,4,5,6,7, a Gradd 2 mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 2. Mewn perthynas â safonau cyflawniad yn y pynciau a arolygwyd a gynhwysai Addysg Grefyddol ynghyd â Chymraeg, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, a Hanes, dyfarnwyd Gradd 1 i bob un o’r 6 pwnc yn CA2 yn ogystal ag yn CA1 sy’n rhoi i’r ysgol broffil graddau arbennig iawn. At hynny, daethpwyd i’r casgliad bod datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn rhagorol.

 

 

 

Cytunodd yr aelodau bod hwn yn adroddiad arolwg gwych iawn a holwyd a oedd cyfle i’r ysgol rannu’r rhagoriaeth yma gydag ysgolion eraill.

 

 

 

Adroddwyd mewn ymateb er bod yna grwp Arfer Dda yn y sector Uwchradd nid oes yna grwp cyfatebol yn y sector cynradd, ac felly nid oes yna gyfle ffurfiol i rannu a chyfnewid arfer da oni bai fod y penaethiaid yn cyfarfod, neu fod ysgol yn cyfrannu tuag at gwrs hyfforddi. Fodd bynnag, cynhelir Cynhadledd Penaethiaid Cynradd gyda’r nesaf i’w chynnull yn y Gwanwyn, ac mae cynnal safonau yn uchel ar yr agenda - bydd y Gynhadledd yn gyfle i ystyried y nodweddion da sydd wedi codi o adroddiad arolwg Ysgol Corn Hir.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Llaingoch

 

 

 

Ym marn yr Arolygydd mae Ysgol Llaingoch yn ysgol dda, yn cynnig amgylchedd dysgu ysgogol sy’n hybu addysg ei holl ddisgyblion. Canmolir arweinyddiaeth yr ysgol ynghyd â’r gefnogaeth lwyr a roddir i’w gweithgareddau gan y rhieni.

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Llaingoch o ran y 7 cwestiwn allweddol yn gyfuniad o raddfeydd 1 a 2 sydd eto’n dda. O ran safonau cyflawniad yn y pynciau a arolygwyd (nid oedd Addysg Grefyddol yn eu plith) dyfarnwyd Gradd 2 i Wyddoniaeth, Technoleg Gwybodaeth, Daearyddiaeth, Celf a Cherddoriaeth yn CA1 ynghyd â Gradd 2 i bedwar o’r pynciau yn CA2 gyda Gradd 1 i Gelf. Oherwydd na arolygwyd Addysg Grefyddol fel pwnc, dyfynnir yn y wybodaeth a gyflwynir i’r Cysag gasgliadau’r Arolygydd mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3 - Pa mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach. Mae’r Arolygydd o’r farn  bod cwricwlwm ac ethos yr ysgol yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn effeithiol.

 

 

 

Croesawodd yr aelodau yr adroddiad uchod fel un y gellir eto ymfalchio ynddo, ac roeddent yn gytun y dylid anfon llythyr o gydnabyddiaeth ar ran y Cysag i’r ddwy ysgol am eu gwaith caled a’u cyflawniad clodwiw. Awgrymwyd bod gair o ddiolch hefyd yn cael ei anfon at gyn Bennaeth Ysgol Corn Hir oedd bellach wedi ymddeol yn diolch iddo am ei waith ac yn dymuno’n dda iddo yn ei ymddeoliad.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

4.1

Nodi’r wybodaeth o’r adroddiadau arolwg yng nghyswllt Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd Llaingoch gan ddiolch yn ddiffuant i staff a disgyblion y ddwy ysgol am eu gwaith a’u cyflawniad arbennig;

 

4.2

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) lythyru’r ddwy ysgol i gyfleu iddynt longyfarchiadau a diolchiadau’r Cysag yng nghyswllt yr adroddiadau arolwg, ynghyd â  chyn Bennaeth Ysgol Gynradd Corn Hir gyda dymuniadau da iddo ar ei ymddeoliad.

 

 

 

5

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG YNYS MÔN 2006-07

 

 

 

5.1

Cyflwynwyd er ystyriaeth y CYSAG - Fersiwn ddrafft o’r Adroddiad Blynyddol am 2006/07.

 

 

 

Roedd y Cadeirydd yn y Gadair am yr eitem hon a’r eitemau dilynol.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod yr adroddiad blynyddol wedi’i lunio yn unol â chanllawiau newydd a gyflwynwyd gan AADGOS y llynedd a’i fod wedi ei rannu yn dair adran fel a ganlyn -

 

 

 

Adran 1 - Rhagair gan Gadeirydd CYSAG

 

 

 

Adran 2 - Y Cyngor a Roddwyd yn ystod y flwyddyn i Awdurdod Addysg Ynys Môn gan y CYSAG trwy gyfrwng ei gyfarfodydd sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol :

 

 

 

Ÿ

Swyddogaeth y Cysag mewn perthynas ag Addysg Grefyddol;

 

Ÿ

Y Maes Llafur Cytun;

 

Ÿ

Safonau Addysg Grefyddol;

 

Ÿ

Y drefn hunan arfarnu;

 

Ÿ

Safonau Cyrhaeddiad mewn arholiadau allanol;

 

Ÿ

Ymateb yr Awdurdod Addysg Lleol;

 

Ÿ

Adroddiad ar Hyfforddiant mewn Swydd;

 

Ÿ

Addysg Grefyddol ac AADGOS;

 

Ÿ

Swyddogaeth CYSAG mewn perthynas ag Addoli ar y Cyd.

 

 

 

Adran 3 - Atodiadau yn cynnwys gwybodaeth am gyfansoddiad y CYSAG, ei aelodaeth yn ystod 2006/07 a’r materion a drafodwyd ganddo ynghyd â’r sefydliadau hynny a dderbyniodd gopi o’r adroddiad blynyddol.

 

 

 

Ymhelaethodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ar gynnwys yr adroddiad, a bu i’r aelodau wrth ei drafod, gynnig mân ddiwygiadau iddo - cytunwyd byddai unrhyw ddiwygiadau pellach yn cael eu cyfeirio at sylw Ymgynghorydd y Dyniaethau.

 

 

 

Diolchodd yr aelodau i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei gwaith caled ar yr Adroddiad Blynyddol.

 

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2006/07.

 

 

 

5.2

Cyflwynwyd - Gwybodaeth am ganlyniadau Addysg Grefyddol yn arholiadau’r Haf, 2007.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y cynhwyswyd yn yr adroddiad uchod hefyd, wybodaeth am  ganlyniadau CA3. Mae adrannau yn dod i farn am gyflawniad disgyblion ar sail gwaith y flwyddyn, tasgau asesu a phrofion. Nid yw’r disgyblion yn sefyll yr un profion na thasgau asesu, ac nid yw athrawon yn cael cyfleoedd rheolaidd i safoni gwaith eu disgyblion gydag adrannau eraill. Gall athrawon gyfeirio at y gyfrol Mesur Cynnydd Mewn Addysg Grefyddol (Gwynedd a Môn 2001) er mwyn adnabod nodweddion lefelau penodol. Dosbarthwyd Deunyddiau Asesu Dewisol Addysg Grefyddol gan ACCAC yn 2005 - mae’r rhain hefyd yn cynnig tasgau a chanllawiau asesu i athrawon.

 

 

 

Sylwodd yr Ymgynghorydd ei bod yn awyddus i gynnwys canlyniadau CA3 eleni yn benodol am fod newidiadau ar droed mewn perthyns â’r pynciau sylfaen eraill. Bydd adrannau yn y dyfodol yn gorfod profi eu dealltwriaeth o’r drefn asesu ar ddiwedd CA3, ac mae yna gyfnod peilot newydd orffen, a bydd adrannau yn yr ysgolion uwchradd yn paratoi portffolios fydd yn cael eu hachredu gan safonwr allanol a hynny yn CA3 am y tro cyntaf erioed yn hanes y Cwricwlwm Cendlaethol. O ran Addysg Grefyddol, er nad yw eto’n sefyllfa i feddwl am Fframwaith Genedlaethol, efallai daw’r amser pan roddir yr un lefel o sgriwtini i safonau AG ar lefel cenedlaethol ag a roddir i’r pynciau eraill. Nid yw’r Cynulliad yn gallu penodi safonwyr AG am nad oes cwricwlwm cenedlaethol ar ei gyfer ond yn hytrach, 22 maes llafur cytun. Dymuniad y Cynulliad fodd bynnag, a hefyd y gymuned Addysg Grefyddol yw gweld ffurfioldeb ac unffurfiaeth ym maes Addysg Grefyddol yng Nghymru; gan hynny, credir mai doeth o beth felly yw cynnwys canlyniadau CA3 er gwybodaeth.

 

      

 

     O ddod at ganlyniadau TGAU Astudiaethau Crefyddol, gellir dweud bod y canlyniadau ar y cyfan yn dda. Nodir yr ystadegau perthynol isod:

 

      

 

Ÿ

58 o ymgeiswyr, 48 o enethod a 10 bachgen sydd yn fwy na ffigwr y flwyddyn flaenorol oedd yn 48;

 

Ÿ

disgyblion o ddwy ysgol uwchradd ym Môn yn sefyll arholiad llawn TGAU, gyda’r niferoedd yn amrywio o 25 mewn un ysgol i 33 yn yr ysgol arall;

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn;

 

Ÿ

bu i bawb lwyddo i ennill gradd TGAU (cwrs llawn), gydag 86.2% yn ennill gradd A*-C. Mae 31% o’r ymgeiswyr wedi ennill gradd A*/A;

 

Ÿ

cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 5.8 sy’n uwch na’r sgôr o 5.5. yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

sgôr cyfartalog y genethod (6.1) yn uwch na’u sgôr yn y pynciau eraill (5.6) a sgôr cyfartalog y bechgyn (4.5) yn is na’u sgôr cyfartalog yn y pynciau eraill (5.1)

 

 

 

     Gellir adrodd hefyd bod canlyniadau TGAU Astudiaethau Crefyddol Cwrs Byr yn rhai da iawn gyda’r manylion fel a ganlyn :

 

      

 

Ÿ

207 o ymgeiswyr, yn 165 o enethod a 42 bachgen, sydd yn fwy na’r flwyddyn flaenorol oedd yn 126. Roedd 112 ymgeisydd yn 2005, felly gellir dweud bod poblogrwydd y cwrs byr yn cynyddu;

 

Ÿ

mae disgyblion o 3 o ysgolion uwchradd Môn yn sefyll arholiad cwrs byr TGAU, ac mae’r niferoedd yn amrywio o 1 mewn un ysgol i 130 mewn ysgol arall;

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn;

 

Ÿ

llwyddodd pawb i ennill gradd TGAU (Cwrs Byr), gydag 87.9% yn ennill gradd A*-C. Mae 55.1% o’r ymgeiswyr wedi ennill gradd A*/A.

 

 

 

     Da fu’r canlyniadau Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol hefyd fel a y dengys isod:

 

      

 

Ÿ

57 o ymgeiswyr yn 45 o ferched ac yn 12 bachgen;

 

Ÿ

ymgeiswyr o 4 ysgol uwchradd yn y sir gyda maint y dosbarthiadau yn amrywio o 9 i 21 disgybl;

 

Ÿ

100% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd Safon Uwch;

 

Ÿ

sgôr cyfartalog y pwnc yn yr ysgolion yw 94.4 sydd ychydig yn is na’r 94.7 yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn. Mae sgôr cyfartalog y merched (95.6) yn is na’r sgôr yn y pynciau eraill (97.4) a sgôr cyfartalog y bechgyn (90.0) yn uwch na’r sgôr cyfartalog yn y pynciau eraill (85.3).

 

 

 

     Da eto fu canlyniadau’r arholiadau Uwch Gyfrannol Astudiaethau Crefyddol fel y tystia’r manylion isod:

 

      

 

Ÿ

73 o ymgeiswyr yn 59 o ferched a 14 bachgen;

 

Ÿ

ymgeiswyr o 4 ysgol uwchradd yn y sir gyda maint y dosbarthiadau yn amrywio o 10 i 27 disgybl;

 

Ÿ

94.5% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd Uwch Gyfrannol, 72.6% yn ennill gradd A-C a 24.7% yn ennill gradd A;

 

Ÿ

mae sgôr cyfartalog y pwnc yn yr ysgolion (42.6) yn uwch na sgôr cyfartalog y pynciau eraill (40.3);

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar ganlyniadau’r bechgyn. Mae sgôr cyfartalog y merched (45.4) yn uwch na’r sgôr yn y pynciau eraill (42.0) a sgôr cyfartalog y bechgyn (30.7) yn is na’r sgôr cyfartalog yn y pynciau eraill (33.2).

 

 

 

     Croesawyd y canlyniadau uchod fel rhai calonogol iawn ac awgrymwyd bod y CYSAG yn cydnabod llwyddiant cyffredinol ysgolion yr Ynys yn y maes trwy lythyr. Cyfeiriwyd at y dadansoddiad ystadegol o ganlyniadau’r bechgyn, a gofynnwyd a oedd y ffaith nad oeddent cystal â rhai’r merched i’w briodioli i gynnwys y maes  a hefyd, ai oherwydd hyn mae’r pwnc yn ymddangos yn llai atyniadol i fechgyn ei ddilyn.

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mewn ymateb mai’r consensws yw gan fod Addysg Grefyddol yn ymwneud i raddau helaeth ag ymdrin â chysyniadau haniaethol a thrafod emosiynau a theimladau, nid yw bechgyn yn ei gael yn faes rhwydd i ymwneud ag ef nac ychwaith yn bwnc maent yn cael eu tynnu tuag ato.

 

      

 

     Dygwyd sylw at y gwelliant nid ansylweddol yn y canlyniadau ac yn arbennig yng nghyswllt Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol, a gofynnwyd a oedd rheswm arbennig dros hyn.

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mewn ymateb bod yna dri ffactor sy’n allweddol i lwyddiant Astudiaethau Crefyddol ar lefel uwch, sef -

 

      

 

Ÿ

cwrs newydd i ddisgyblion TGAU Astudiaethau Crefyddol sy’n ymagweddu tuag at Addysg Grefyddol yng nghyd-destun y byd modern; cwrs Manyleb B sy’n trafod materion cyfoes e.e. y berthynas rhwng Gwyddoniaeth a chrefydd - mae hwn wedi profi’n boblogaidd;

 

Ÿ

mae Addysg Grefyddol yn bwnc statudol ac mae nifer o ysgolion yn dewis cofrestru disgyblion AG statudol ar gyfer cwrs sydd wedyn yn arwain at gymhwyster ;

 

Ÿ

gan fod mwy o ddisgyblion yn llwyddo yn arholiad TGAU Astudiaethau Crefyddol, maent yn bwydo i mewn i’r Cwrs Uwch Gyfrannol Astudiaethau Crefyddol ac yn ei ddilyn fel y pedwerydd bwnc ar lefel uwch.

 

 

 

     Penderfynwyd nodi canlyniadau Addysg Grefyddol yn arholiadau’r Haf, 2007 gan ofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gydnabod llwyddiant yr ysgolion trwy lythyr.

 

      

 

6

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 28 Mehefin, 2007.

 

      

 

     Adroddodd y ddau aelod cyfetholedig oedd wedi mynychu’r cyfarfod uchod eu bod wedi cael yr achlysur yn brofiad buddiol iawn ac wedi mwynhau yn arbennig y ddau gyflwyniad a gafwyd yn y cyfarfod, y naill gan NAPfRE ar destun Gerddi Ffydd gan Vicky Barlow ac Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam, a oedd yn rhan o ymdrech i godi proffil AG yn Wrecsam, a’r llall gan Emma Ward a Farah Ahmad o Dîm Prosiect Croeso sy’n fenter gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, sy’n cael ei ariannu gan y Cynulliad ac sy’n amcanu at hybu trafodaeth a dealltwriaeth rhwng gwahanol gymunedau.

 

      

 

     Dygwyd sylw at y cyfeiriad yng nghofnodion y cyfarfod at y drafodaeth a gafwyd mewn perthynas â chyflawni prosiect Croeso trwy gyfrwng y Gymraeg ac at yr esboniad a roddwyd nad oedd modd gwneud hynny ar hyn o bryd am nad oedd siaradwr Cymraeg yn y tîm ac am nad oedd cyfyngiadau ariannol yn caniatau cyflogi person ychwanegol. Roedd yna ymdeimlad yn y CYSAG nad oedd hyn yn sefyllfa foddhaol, ac awgrymwyd byddai’n ddefnyddiol o beth ysgrifennu at gyllidwyr y prosiect i ofyn iddynt geisio adnabod cyllid i alluogi ychwanegu at Dîm Croeso hyd yn oed ar sail rhan amser er mwyn hwyluso darparu’r prosiect trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) bod Emma Ward a Farah Ahmad o Dîm Prosiect Croeso wedi ymweld â Môn yn ystod yr Haf a’u bod wedi cadarnhau byddai’r deunydd ar gyfer unrhyw weithdai a gynhelir ar gyfer ysgolion yr Ynys yn ddwyieithog. Trefnwyd yn anffurfiol i’r Prosiect ddod i Fôn i siarad ar destun Amryfaliaeth Hiliol ym mis Chwefror, 2008.

 

      

 

     Cadarnhaodd Ymgynghorydd y Dyniaethau hithau bod y deunydd ar wefan Prosiect Croeso yn ddwyieithog ac ychwanegodd bod testun hiliaeth a chydraddoldeb yn cael ei drafod yn gyson yn yr ysgolion yng nghyswllt Addysg Grefyddol a bod cyrsiau sy’n rhoi ffocws ar ddinasyddiaeth byd eang hefyd yn rhoi sylw i’r pwnc. Felly er nad oedd Prosiect Croeso eto wedi ymweld ag Ynys Môn, nid yw’r testun wedi’i anwybyddu mewn cyrsiau hyfforddiant.

 

      

 

     Tra’n cydnabod bod amcanion y Prosiect Croeso yn rhai gwerthfawr ac mai da o beth fyddai iddo ymweld ag ysgolion Môn, cytunodd yr aelodau y byddai’n briodol pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i ddarparu rhagor o arian ar ei gyfer er mwyn gwneud darparu’r prosiect trwy gyfrwng y Gymraeg yn bosibl.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

6.1     Nodi cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSGAau Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 28 Mehefin, 2007.

 

6.2     Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ar ran y CYSAG, ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cynulliad Cymru i ofyn iddo geisio adnabod arian i ganiatau cyllido personél ychwanegol ar gyfer Prosiect Croeso er mwyn galluogi darparu’r prosiect trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

7

ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOL UWCHRADD CAERGYBI

 

      

 

     Bu i Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ddiweddaru aelodau’r CYSAG ar y cynnydd mewn perthynas â darparu Addysg Grefyddol yn yr ysgol.

 

      

 

     Rhoddodd y Pennaeth wybod i’r aelodau bod Pennaeth newydd Adran Addysg Grefyddol yr ysgol wedi gwneud cynnydd yn ei waith ond byddai’n derbyn cefnogaeth hyd at y Nadolig. Bu i Dirprwy Bennaeth yr ysgol arsylwi ar wers AG  pythefnos yn ôl a bu’r casgliadau yn galonogol. Mae’r Pennaeth Adran wedi bod yn gweithio ar ail lunio’r cynllun gwaith gyda phwyslais ar asesu ar gyfer dysgu, ac ar ddefnydd o dermau allweddol y dylai disgyblion wybod amdanynt. Mae hefyd yn ymgymryd â chynllun gwaith heriol sy’n golygu defnyddio Cyfres AG - Ymchwilio Cwestiynau (Exploring Questions - RE Series) ac yn ogystal, mae’n defnyddio unedau asesu ACCAC ar gyfer y gwahanol lefelau ac yn cael cymorth yr ymgynghorwyr yn hyn o beth. Gellir dweud bod gwaith yn mynd rhagddo ac mae AG CA3 bellach yn dechrau ennyn diddordeb disgyblion fel bod darpariaeth AG yn CA4 yn bosibilrwydd ar gyfer y dyfodol ac mae yna drafodaeth ynghylch Cwrs Byr Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Gellir adrodd bod disgyblion yn siarad am Addysg Grefyddol am y tro cyntaf. Mae Pennaeth yr Adran Addysg Grefyddol yntau bellach yn fwy hyderus yn ei waith. Bydd y Pennaeth Adran hefyd yn ymweld â’r sector cynradd i ddysgu o’r ffynhonnell hon. Erys gwaith i’w wneud ond mae cynnydd yn digwydd.

 

      

 

     Croesawodd aelodau’r CYSAG yr adroddiad uchod fel un calonogol iawn, a chydnabuwyd yr ymdrech a’r gwaith caled a wnaed yn Ysgol Uwchradd Caergybi yng nghyswllt Addysg Grefyddol.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi adroddiad Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ynglyn â’r cynnydd mewn perthynas ag Addysg Grefyddol yn yr ysgol gan ddiolch iddi am y wybodaeth.

 

      

 

8

TREFN CYFARFODYDD CYSAG YNYS MÔN 2007-08

 

      

 

     Cyflwynwyd a nodwyd - Amlinelliad o bynciau trafod arfaethedig y CYSAG yn ei gyfarfodydd ar gyfer y Gwanwyn, yr Haf a’r Hydref, 2008.

 

      

 

     Sylwyd mai yng nghyfarfod y Gwanwyn y dylid ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cysagau Cymru fel eu bod wedyn yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 1 Mawrth. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) i ddiwygio’r daflen i adlewyrchu hynny.

 

      

 

9

DYDDIADAU CYFARFODYDD CYSAG YNYS MÔN

 

      

 

     Nodwyd mai ar 4 Chwefror, 2008 y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG a byddai cyfarfodydd wedi hynny yn cael eu pennu fel rhan o’r broses o lunio Calendr Cyfarfodydd y Cyngor Sir am 2008/09.

 

      

 

     Awgrymwyd a chytunwyd bod yna glustnodi’r dydd Llun cyntaf ym mis Hydref ar gyfer cyfarfod y CYSAG yn nhymor yr Hydref , sef 6 Hydref, 2008, fel nad oes yna wrthdaro gyda Llun y Diolchgarwch.

 

      

 

10

DYDDIADAU CYFARFODYDD CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas am y flwyddyn i ddod ar 4 Rhagfyr, 2007 yng Nglyn Ebwy; ar 14 Mawrth, 2008 yng Nghaerfyrddin ac ar 26 Mehefin, 2008 yn Yr Wyddgrug.

 

      

 

     Cadarnhawyd  byddai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn bresennol ar ran CYSAG Ynys Môn yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas a gynhelir ar 4 Rhagfyr ond sylwyd nad oedd yn ymddangos byddai cynrychiolydd o du’r athrawon yn bresennol.

 

      

 

     Diolchodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) i Mrs Helen Roberts a’r Parch Elwyn Jones am ymbresenoli yng nghyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 28 Mehefin ac a adroddwyd amdano yn gynharach uchod, a diolchodd hefyd i aelodau’r CYSAG yn gyffredinol am selogrwydd eu presenoldeb yng nghyfarfodydd y Cyngor Ymgynghorol ym Môn.

 

      

 

      

 

                           Cynghorydd E.G.Davies

 

                                     Cadeirydd