Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 6th October, 2008

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

(CYSAG)

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2008   

 

YN BRESENNOL:

 

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd) (Yn y Gadair)

 

Yr Awdurdod Addysg

 

Cynghorwyr Gwilym O.Jones, John Williams

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Parch. Canon Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Diacon Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

 

Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon)

 

Aelodau Cyfetholedig

 

Mrs Helen Roberts (Prifysgol Cymru)

Parch. Elwyn Jones (Cyngor yr Ysgolion Sul)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) (Mr Gwyn Parri)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Addysg Uwchradd (Mr Ian Roberts)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr E.G.Davies (Cadeirydd), Thomas Jones, Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol), Y Parch. Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg), Mr Martin Wise (ASCL), Mrs Mefys Edwards (UCAC), Mrs Carol Llewelyn Jones (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

 

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at absenoldeb Mrs Carol Llewelyn Jones, yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol oedd wedi derbyn triniaeth ysbyty yn ddiweddar, ac ar ran aelodau’r CYSAG, dymunodd yn dda i Mrs Jones am wellhâd llwyr a buan. Soniodd y Cadeirydd hefyd am achlysur hapus geni plentyn i Mrs Mefys Edwards ychydig amser yn ôl ac estynnodd longyfarchiadau cynhesaf yr aelodau i Mrs Edwards ar enedigaeth ei phlentyn. Cyflwynodd y Cadeirydd Mr Ian Roberts, fel y Swyddog Addysg Uwchradd newydd i aelodau’r CYSAG, ac fe groesawodd ef i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Ymgynghorol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrwyd uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir yn amodol ar y mater a nodir isod, gofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2008:

 

Yn codi -

 

 

 

3.1

Penderfynwyd nodi bod y Cynghorydd Gwilym O.Jones wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, a bod Mrs Helen Roberts wedi cyflwyno ymddiheuriad am absenoldeb ar gyfer y cyfarfod.

 

 

 

3.2

Eitem 5 - Arolygiadau Ysgolion

 

 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi anfon llythyr at benaethiaid Ysgol Gynradd Biwmares ac Ysgol Gynradd Goronwy Owen, ac at Bennaeth Ysgol Uwchradd Llangefni a Phennaeth yr Adran Addysg Grefdydol yn ogystal, i gyfleu iddynt longyfarchiadau’r CYSAG ar eu cyflawniadau fel yr adroddwyd amdanynt i’r cyfarfod blaenorol.

 

 

 

3.3

Eitem 8 - Addoli ar y Cyd

 

 

 

Ÿ

Penderfynwyd diwygio’r cyfeiriad at Addoli ar y Cyd yn fersiwn Saesneg y cofnodion i ddarllen Collective Worship yn hytrach na Joint Worship.

 

Ÿ

Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau wybod i’r aelodau mewn perthynas â’r penderfyniad o dan yr eitem hon, nad oedd eto wedi cylchredeg arweiniad atodol Estyn ar addoli ar y cyd mewn ysgolion anenwadaol i ysgolion uwchradd a chynradd y sir.

 

 

 

4

AROLYGIADAU YSGOLION

 

 

 

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Esceifiog, Ysgol Gymuned Llanfechell ac Ysgol Llangaffo.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) am gasgliadau’r arolygiadau uchod fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Esceifiog

 

 

 

Daw’r Arolygydd i’r casgliad cyffredinol bod Ysgol Esceifiog yn ysgol dda iawn gyda llawer o nodweddion rhagorol. Mae proffil graddau’r ysgol ar draws y saith cwestiwn allweddol mae Estyn yn eu gofyn wrth asesu perfformiad yn ategu’r dyfarniad hwn ac yn gyfuniad o raddau 1 a 2 . Mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3 sy’n gofyn pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, dywed yr Arolygydd bod cyfarfodydd addoli ar y cyd yn yr ysgol a’r trafodaethau yn y gwersi yn cyfrannu’n dda iawn at ddealltwriaeth disgyblion o faterion moesol ac ysbrydol ac yn eu helpu i barchu amrywiaeth, gwirionedd a chyfiawnder. Cyfeiria’r Arolygydd at gyswllt yr ysgol â Chlwb yr Henoed ac at ei gweithgareddau Urdd, a hefyd cyfranogiad yr ysgol mewn cyngherddau a chystadlaethau sy’n gyfryngau effeithiol i hyrwyddo datblygiad  cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Mae cyswllt agos yr ysgol gydag ysgol yn Lesotho ac astudiaethau’r ysgol o ardal yn India yn fodd o hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill.

 

 

 

Yng nghyswllt Addysg Grefyddol, bu i’r Arolygydd ddyfarnu Gradd 1 i’r pwnc yn CA1 sy’n golygu

 

ei fod yn dda gyda nodweddion rhagorol, a Gradd 2 i’r pwnc yn CA2, h.y. y canfuwyd nodweddion da a dim diffygion pwysig. Noda’r Arolygydd y wybodaeth dda iawn sydd gan disgyblion CA1 am y Beibl fel nodwedd rhagorol. At hynny, maent yn gallu trafod y Beibl yn hyderus gan ddangos ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd fel llyfr sanctaidd. Cyfeirai’r Arolygydd hefyd ar drylwyredd y wybodaeth sydd gan disgyblion CA 1 am brif nodweddion ac arferion y grefydd Iddewig fel elfen o ragoriaeth y pwnc yn CA1.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gymuned Llanfechell

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Gymuned Llanfechell yn arbennig o gryf gyda Gradd 1 wedi’i ddyfarnu i’r ysgol ar draws y saith cwestiwn allweddol. Dywed yr Arolygydd mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3 bod cyfarfodydd addoli ar y cyd yn yr ysgol yn cyfrannu’n dda iawn at hybu dealltwriaeth disgyblion o faterion moesol ac ysbrydol ac yn eu helpu i barchu amrywiaeth, gwirionedd a chyfiawnder.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Llangaffo

 

 

 

Mae proffil graddau Ysgol Llangaffo yn gyfuniad o raddau 2 a 3, sef bod  yna nodweddion da wedi’u canfod a dim diffygion pwysig mewn pump allan o’r saith cwestiwn allweddol a bod nodweddion da yn gorbwyso diffygion o ran y ddau gwestiwn allweddol arall (yn ymwneud ag agweddau rheolaethol, arweinyddiaeth, arfarnu a gwella ansawdd a safonau). Dywed yr Arolygydd mai rhinwedd arbennig Ysgol Llangaffo yw’r ymdeimlad o gymuned deuluol ac agosatrwydd ei disgyblion, a’i bod yn sefydliad hapus iawn. Mewn perthynas â Chwestiwn Allweddol 3, noda’r Arolygydd bod yr ysgol yn rhoi sylw da i ddatblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion, a bod amser cylch, addysg grefyddol a thrafodaethau dosbarth am faterion cymdeithasol, ysbrydol a moesol, yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.

 

 

 

Dygodd y Parch. Canon Tegid Roberts sylw’r CYSAG at y ffaith bod Ysgol Llangaffo yn rhinwedd ei statws fel Ysgol Eglwys wedi bod yn destun arolygiad gan yr Eglwys yn ddiweddar hefyd, ac mai ef a gynhaliodd yr arolygiad hwnnw. Roedd copi o adroddiad Arolygiad yr Eglwys wedi cael ei anfon at yr Awdurdod Addysg. Adroddodd ei fod wedi bod yn bresennol mewn dwy sesiwn addoli ar y cyd yn yr ysgol a’i fod wedi eu cael yn brofiad bendigedig. Roedd y disgyblion wedi bod ar bererindod i Ynys Llanddwyn, a gwelodd bod yr ymweliad wedi bod yn brofiad ysbrydol i’r disgyblion a’i fod yn cael ei adlewyrchu yn yr achlysuor addoli ar y cyd ac yn ategu ethos yr ysgol.

 

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) mai’r drefn yw bod copi o adroddiad arolygiad gan yr Eglwys yn cael ei gyflwyno i’r CYSAG ar yr un pryd ag adroddiad Estyn, ac awgrymodd, gan nad oedd adroddiad yr Eglwys yn gynwysiedig yn mhapurau rhaglen y cyfarfod hwn, ei fod yn cael ei gylchredeg i aelodau yn y bythefnos nesaf fel nad yw’n colli ei berthnasedd.

 

 

 

Sylwodd y Parch. Canon Tegid Roberts bod yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yn adroddiad swmpus ac efallai mai priodol fyddai dethol y rhannau perthnasol ohono i’w rhannu gydag aelodau’r CYSAG. Fel arall, roedd ef yn fodlon ei fod wedi cael y cyfle fel yr arolygwr yn yr achos hwn, i gyflwyno naws casgliadau arolygiad yr Eglwys o Ysgol Llangaffo i aelodau’r CYSAG.

 

 

 

Mynegodd aelodau’r CYSAG eu parodrwydd i dderbyn sylwadau llafar y Parch. Canon Tegid Roberts ynglyn â’r arolygiad Eglwys o Ysgol Llangaffo, a bod adroddiad arolygiad yr Eglwys yn cael ei  gyflwyno i’r CYSAG ynghlwm wrth arolygiad Estyn ar yr achlysur nesaf y caiff ysgol eglwys ei harolygu. Cytunwyd hefyd bod yna lythyru’r dair ysgol yn y modd arferol i’w llongyfarch ar eu llwyddiannau ac i ddiolch iddynt am eu gwaith caled.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

4.1

Nodi’r wybodaeth o adroddiadau arolwg Estyn o Ysgol Gynradd Esceifiog, Ysgol Gymuned Llanfechell ac Ysgol Llangaffo ynghyd â’r adborth llafar ynglyn ag arolygiad yr Eglwys o Ysgol Llangaffo.

 

4.2

Bod adroddiad ysgrifenedig o arolwg yr Eglwys yn cael ei gyflwyno i’r CYSAG ar yr un pryd ag adroddiad Estyn ar yr achlysur nesaf y caiff ysgol eglwys ei harolygu.

 

4.3

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) anfon llythyr ar ran y CYSAG i benaethiaid y dair ysgol i’w llongyfarch ar lwyddiannau a chyflawniadau eu hysgolion.

 

 

 

5

ARHOLIADAU ALLANOL HAF 2008

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn ymgorffori gwybodaeth am ganlyniadau Addysg Grefyddol yn arholiadau’r Haf, 2008.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod canlyniadau CA3 yn cael eu cyflwyno er gwybodaeth yn unig. Daw adrannau i farn am gyflawniad disgyblion ar sail gwaith y flwyddyn, tasgau asesu penodol a phrofion. Fodd bynnag, nid yw’r disgyblion yn sefyll yr un profion na thasgau asesu cyffredin ac nid yw’r athrawon yn cael cyfleoedd rheolaidd i safoni gwaith eu disgyblion gydag adrannau eraill. Gall athrawon gyfeirio at y gyfrol Mesur Cynnydd mewn Addysg Grefyddol (Gwynedd a Môn 2001) er mwyn adnabod nodweddion lefelau penodol. Dosbarthwyd Deunyddiau Asesu Dewisol Addysg Grefydol gan ACCAC yn 2005; mae’r rhain hefyd yn cynnig tasgau a chanllawiau asesu i athrawon. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn casglu data Addysg Grefyddol ond mae Cynnal wedi casglu asesiadau athrawon o gyrhaeddiad disgblion CA3 mewn Addysg Grefyddol ers 1999.

 

 

 

Mae’r Cwricwlwm wedi newid yn 2008 ac  i bynciau sylfaen, mae Llywodraeth y Cynulliad (yn gweithredu trwy APADGOS) wedi sefydlu cymedrolwyr allanol i arsylwi ar bortffolios o waith disgyblion CA3 a hynny fel rhan o gynllun peilot i gychwyn. Dyma’r tro cyntaf yn hanesyddol felly iddo fod yn bosibl i gymharu perfformiad disgyblion ar ddiwedd CA3.

 

 

 

O ran canlyniadau TGAU Astudiaethau Crefyddol 2008, gellir adrodd bod y canlyniadau yn rhai da gyda’r manylion wedi’u nodi isod:

 

 

 

Ÿ

155 o ymgeiswyr yn 114 o ferched a 41 i fechgyn sydd yn uwch na niferoedd y flwyddyn gynt, sef 58;

 

Ÿ

disgyblion o 4 o ysgolion Môn yn sefyll arholiad TGAU, gyda’r niferoedd yn amrywio o 22 mewn un ysgol i 53 mewn ysgol arall;

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn;

 

Ÿ

bu i bawb lwyddo i ennill gradd TGAU (cwrs llawn) gyda 83.9% yn ennill gradd A*-C, a 38.1% yn ennill gradd A*/-A;

 

Ÿ

cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 5.9 sy’n sylweddol uwch na’r sgôr o 5.1 yn y pynciau eraill;

 

Ÿ

sgôr gyfartalog y merched (6.1) yn sylweddol uwch na’u sgôr yn y pynciau eraill (5.2) a sgôr gyfartalog y bechgyn (5.2) ychydig yn uwch na’u sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill (5.1).

 

 

 

Roedd y canlyniadau TGAU - Astudiaethau Crefyddol (Cwrs Byr) 2008 hefyd yn dda fel y dengys yr ystadegau isod -

 

 

 

Ÿ

125 o ymgeiswyr yn 78 o ferched a 47 o fechgyn, sydd yn is na nifer y flwyddyn flaenorol, sef 207. Roedd 124 ymgeisydd yn 2006. Felly mae poblogrwydd y cwrs byr yn cynyddu;

 

Ÿ

disgyblion o 2 o ysgolion Môn yn sefyll arholiad cwrs byr TGAU, gyda’r niferoedd yn amrwyio o 48 mewn un ysgol i 77 yn yr ysgol arall;

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn;

 

Ÿ

bu i 99.2% lwyddo i ennill gradd TGAU (cwrs byr), gyda 78.4% yn ennill gradd A* i C, a 34.4% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd A*/A.

 

 

 

Gellir adrodd bod canlyniadau arholiadau Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol 2008 yn rhai da iawn fel yr ategir gan y  manylion isod -

 

 

 

Ÿ

54 o ymgeiswyr yn 47 o ferched a 7 bachgen (57 ymgeisydd yn 2007);

 

Ÿ

ymgeiswyr o 4 ysgol uwchradd yn y sir gyda maint y dosbarthiadau’n amrwyio o 3 i 24 disgybl;

 

Ÿ

100% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd Safon Uwch;

 

Ÿ

sgôr gyfartalog y pwnc yn yn ysgolion yw 97.0 sy’n uwch na’r sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill (92.5);

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar rai’r bechgyn. Mae sgôr gyfartalog y merched (98.3) ychydig yn uwch na’u sgôr yn y pynciau eraill (93.1) a sgôr gyfartalog y bechgyn (88.6) yn uwch na’u sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill (86.3).

 

 

 

     Yn yr un modd, mae canlyniadau arholiadau Uwch Gyfrannol 2008 hefyd yn dda iawn fel y dangosir isod -

 

      

 

Ÿ

78 o ymgeiswyr yn 71 o ferched a 4 bachgen o’i gymharu â 73 ymgeisydd yn 2007;

 

Ÿ

ymgeiswyr o 4 ysgol uwchradd yn y sir gyda maint y dosbarthiadau yn amrywio o 7 i 36 disgybl;

 

Ÿ

97.4% o’r ymgeiswyr yn ennill gradd Uwch Gyfrannol, gyda 76.9% yn ennill gradd A-C a 35.9% yn ennill gradd A;

 

Ÿ

Mae sgôr gyfartalog y pwnc yn yr ysgolion (45.9) yn uwch na sgôr gyfartalog y pynciau eraill (43.9);

 

Ÿ

canlyniadau’r merched yn rhagori ar ganlyniadau’r bechgyn. Mae sgôr gyfartalog y merched (45.1) yn uwch na’u sgôr yn y pynciau erill (44.3) a sgôr gyfartalog y bechgyn (42.5) yn sylweddol uwch na’u sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill (34.0).

 

 

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) at y Tabl yn yr adroddiad oedd yn dangos yr ystadegau mewn perthynas â safonau CA3 ar lefel ysgol unigol, a sylwodd bod yna gryn amrywiaeth yn yr ystadegau ar sail lefelau o ran Ysgol Uwchradd Caergybi, a bod y canlyniadau yn isel ar gyfer lefel 7 yn benodol.

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei fod efallai’n bosibl priodoli’r anghysonderau i natur disgyblion yr ysgol a’r ffaith nad oes yn yr ysgol amrediad mor eang o alluoedd. Gall Cynnal gefnogi’r Adran Addysg Grefyddol wrth wirio asesiadau athrawon ym mis Mai eleni ac fe all athrawon ddod at ei gilydd i sicrhau bod lefel 7 yn gyson ar draws yr ysgolion.

 

      

 

     Awgrymodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) oherwydd yr anghysonderau ar draws y lefelau yn CA3 yn benodol mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Caergybi, ac yng ngoleuni’r pryderon fu gan y CYSAG ynglyn â sefyllfa Addysg Grefyddol yn yr ysgol honno, bod y CYSAG yn nodi ei ddymuniad i weld y gefnogaeth a’r gynhaliaeth a roddir gan Cynnal i’r Adran yn parhau o dan y Cytundeb Lefel Gwasanaeth. Er gwybodaeth i’r aelodau hynny nad oeddent yn gyfarwydd â chefndir pryderon y CYSAG ynghylch Ysgol Uwchradd Caergybi, bu i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) adrodd yn fras bod y consyrn hwnnw yn deillio o’r ffaith nad oedd gan yr ysgol berson yn arwain ar Addysg Grefyddol oedd yn gymwys yn y pwnc.  Bellach, fe benodwyd unigolyn cymwys yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi ond gan ei fod yn ddi-brofiad, bu’n derbyn cefnogaeth gan Cynnal.

 

      

 

     Croesawodd yr aelodau’r adroddiad yn gyffredinol fel un i ymfalchio ynddo a chytunwyd y dylid llythyru penaethiaid adran y bedair ysgol uwchradd i’w llongyfarch ar ganlyniadau mor dda.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

5.1     Derbyn adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn â chanlyniadau Addysg Grefyddol yn arholiadau allanol 2008 a nodi ei gynnwys;

 

5.2     Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) lythyru Penaethiaid Adran Addysg Grefyddol y bedair ysgol uwchradd berthnasol i gyfleu iddynt longyfarchiadau’r CYSAG ar eu llwyddiannau;

 

5.3     Yng ngoleuni’r anghysonderau ar draws rhai o’r lefelau yn CA3 mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Caergybi, bod Cynnal yn parhau i gefnogi Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi o dan y Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

 

      

 

6

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN

 

      

 

     Cyflwynwyd - Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2007/08.

 

      

 

     Tra roedd yr aelodau yn gytun ar gynnwys yr adroddiad bu iddynt gynnig mân ddiwygiadau iddo ar sail cywirdeb a chysondeb fel a ganlyn -

 

      

 

     Tudalen 5

 

 

 

Ÿ

y frawddeg o dan baragraff 2.3 yn y fersiwn Saesneg yn anghyflawn;

 

Ÿ

parthed y trydydd pwynt bwled o dan baragraff 2.3.1 yn y fersiwn Saesneg - ychwanegu’r rhif 3 ar ôl Key Question;

 

Ÿ

parthed y tabl o dan baragrff 2.3.2, diwygio’r cyfeiriad at CA5 i ddarllen chweched dosbarth fel ei fod yn cyd-fynd â’r fersiwn Saesneg.

 

 

 

     Tudalen 19

 

      

 

Ÿ

Diwygio’r cyfeiriad at Mr Carol Llewelyn Jones yn y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg i ddarllen Mrs Carol Llewelyn Jones;

 

Ÿ

Diwygio’r cyfeiriad at y Parchedig Tegid Roberts yn y fersiwn Gymraeg i ddarllen y Parchedig Canon Tegid Roberts ac yn y fersiwn Saesneg i ddarllen the Rev.Canon Tegid Roberts.

 

 

 

     Cytunwyd y byddai aelodau yn rhoi gwybod i Ymgynghorydd y Dyniaethau am unrhyw fân ddiwygiadau eraill o’r natur uchod y digwydd iddynt ddod ar eu traws wrth fynd trwy’r Adroddiad Blynyddol, a bod ganddynt hyd at ddiwedd y mis i wneud hynny er mwyn galluogi Ymgynghorydd y Dyniaethau wedyn i lunio fersiwn derfynol a’i chyflwyno yn ôl y gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn diwedd y flwyddyn.

 

      

 

     Fe godwyd un pwynt trafod neilltuol mewn perthynas â’r paragraff olaf o dan gymal 2.4 ar dudalen 8 yr adroddiad sy’n cyfeirio at benderfyniad a wnaed gan y CYSAG ym mis Mehefin 2005 y dylai’r CYSAG dderbyn copi o hunan arfarniad ysgolion sy’n derbyn arolygiadau pan nad oes yna adroddiad penodol ar Addysg Grefyddol, yn y flwyddyn pan arolygir yr ysgol. Dywed brawddeg olaf y paragraff hwn  na dderbyniwyd copiau o adroddiadau hunan arfarnu yn ystod y flwyddyn a chwestiynodd y Cadeirydd a oedd gwir angen cynnwys y gosodiad hwn yn arbennig am ei fod yn tynnu sylw at  y ffaith na weithredwyd ar y penderfyniad, a holodd pam na chyflwynwyd adroddiadau hunan-arfarnu gerbron y CYSAG.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod yn ei hanfod yn fater o sefydlu trefn weinyddol addas fydd yn golygu bod y CYSAG yn derbyn adroddiadau hunan arfarnu’r ysgolion yn systematig ar yr amser priodol, ac awgrymodd bod yna ofyn i’r ysgolion gyflwyno’r cyfryw adroddiadau yn y llythyr o  gydnabyddiaeth yr anfonir atynt ar ôl i’r CYSAG dderbyn casgliadau adroddiadau arolygu Estyn.

 

      

 

     Atgoffodd y Cadeirydd aelodau’r CYSAG bod ganddynt ddyletswydd statudol i fonitro safonau Addysg Grefyddol yn ysgolion y sir a’r unig ffordd y gallant wneud hynny’n effeithiol os nad yw Estyn wedi arolygu’r pwnc yw trwy dderbyn adroddiad hunan arfarnu’r ysgol unigol. Yn dilyn trafodaeth o’r mater, cytunwyd y dylid dileu brawddeg olaf paragraff 2.4 ar dudalen 8, gan nodi bod y CYSAG yn cydnabod bod angen gweithredu’r penderfyniad a wnaed yn 2005 o hyn allan a’i fod yn ymddiried i’r swyddogion lunio trefn fydd yn galluogi gwneud hynny.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

6.1     Cymeradwyo’r  Adroddiad Blynyddol drafft am 2007/08 yn amodol ar -

 

      

 

Ÿ

weithredu’r mân ddiwygiadau ar sail cywirdeb y cyfeiriwyd atynt uchod;

 

Ÿ

ddileu brawddeg olaf y paragraff olaf o dan gymal 2.4 ar dudalen 8 yr adroddiad.

 

 

 

6.2     Bod aelodau’r CYSAG yn rhoi gwybod i Ymgynghorydd y Dyniaethau am unrhyw fân ddiwygiadau pellach i’r Adroddiad Blynyddol erbyn diwedd mis Hydref.

 

6.2     Cytuno bod angen gweithredu yn y dyfodol ar y penderfyniad a wnaed gan y CYSAG yn 2005 ei fod yn derbyn copi o adroddiadau hunan arfarnu ysgolion gan ofyn i’r swyddogion lunio trefn sy’n galluogi gwneud hynny orau.

 

6.2     Diolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei gwaith arferol ar yr Adroddiad Blynyddol.

 

      

 

7

CD - A JEWISH WAY OF LIFE

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn derbyn nifer o geisiadau gan fudiadau crefyddol i ddosbarthu deunyddiau i ysgolion, ac atgoffodd aelodau’r CYSAG mai eu cyfrifoldeb hwy fel corff yw penderfynu a yw deunyddiau yn addas i’w dosbarthu i ysgolion. Oddeutu dwy flynedd yn ôl cymeradwyd cais gan RE Quest am gael cylchredeg CD ar destun Sut Beth yw bod yn Gristion i ysgolion, ac mae RE Quest wedi gofyn eto am gael dosbarthu diweddariad ar y CD hwnnw, sef Christianity Unpacked sy’n gyfres o dair CD yn cwmpasu gwahanol agweddau o’r bywyd Cristnogol.

 

      

 

     Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau wybod i’r CYSAG bod cais arall wedi dod i law  gan y Pears Foundation am gael dosbarthu’r CD a nodir uchod, sef A Jewish Way of Life sydd wedi’i ariannu gan y Foundation. Sylwodd mai priodol oedd i’r aelodau gael blas ar gynnwys y CD cyn iddynt ddod i benderfyniad ynghylch addasrwydd ei ddosbarthu i ysgolion y sir, ac fe ddangosodd clip o’r CD i’r aelodau. O safbwynt proffesiynol, roedd hi’n fodlon gyda chynnwys y CD sydd wedi’i rhannu i dair rhan, sef Who We Are; What We Do, a What We Believe. Ceir rhagair i’r CD gan yr Athro Arglwydd Robert Winston ac mae’r CD yn cyflwyno bachgen a merch, David a Sara, sy’n tywys y gynulleidfa trwy’r ffydd Iddewig. Cyfeiria’r CD at hanes yr Iddewon ym Mhrydain ac ar draws y byd, ac mae’n esbonio rhai o nodweddion y ffydd yn ymwneud ag ymlynu wrth y rheolau am fwyd, addoli; gwerthoedd; y Torah ac Israel. Awgrymodd bod y CD yn cael ei ddosbarthu i ysgolion y sir o dan lythyr yn enw’r CYSAG.  Er bod aelodau’r CYSAG yn gefnogol i’r awgrym hwn fe godwyd cwestiwn ynghylch argaeledd y CD yn y Gymraeg. Sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y byddai’n codi’r mater gyda’r swyddog priodol yn APADGOS.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo’r CD - A Jewish Way of Life gan y Pears Foundation i’w  ddosbarthu i ysgolion y sir.

 

      

 

8

CYNHADLEDD

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ar lafar ar drafodaethau’r Gynhadledd ar Addysg Grefyddol i Oedolion Ifanc 14-19 oed a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn,  4 Hydref, 2008, o dan nawdd APADGOS a Chymdeithas CYSAGau Cymru. Estynwyd gwahoddiad i’r gynhadledd hon i benaethiaid ysgol, dirprwyon a phenaethiaid adrannau addysg grefyddol ac fe’i cynhaliwyd ar ddau safle (wedi’u cysylltu trwy gyfrwng offer fideo gynadledda), y naill yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwynn yn y Fflint a’r llall yng Ngholeg Dewi Sant, Caerdydd.

 

      

 

     Bu’r diwrnod yn arbennig o lwyddiannus ac yn un oedd wedi’i lenwi gyda chyfres o gyflwyniadau cryno a chaboledig ynghyd â gweithdai amrywiol. Ymhlith y cyflwyniadau cafwyd amlinelliad gan Denize Morris (Swyddog Pwnc APADGOS) o gyfraniad Addysg Grefyddol i’r dysgu craidd ar gyfer dysgwyr 14-19 oed. Disgrifiodd Lat Blaylock (RE Today) mewn cyflwyniad brwdfrydig a chynhyrchiol, y cynadleddau undydd a gynhelir gan y mudiad DARE2ENGAGE ac y gellir eu defnyddio gyda dosbarthiadau chweched dosbarth i’w hannog i “Ymdrin â’r Ysbrydol.” Mae’r deunydd hwn wedi’i gasglu ynghyd mewn ffeil o adnoddau sydd ar gael yn y Gymraeg, a rhaid nodi gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth ariannol gafwyd gan Fudiad Addysg Grefyddol Cymru a rhai enwadau eraill ar gyfer ei gyfieithu.

 

      

 

     Cafwyd cyflwyniad gan Emyr Williams ac Alice Pyke, sef myfyrwyr graddedig Addysg Grefyddol a siaradodd am eu profiadau personol o Addysg Grefyddol a pham y cawsant eu hysbrydoli gan y pwnc. Rhannwyd hefyd ymatebion y Ddraig Ffynci i holiaduron a luniwyd er mwyn cywain barn pobl ifanc yng Nghymru ynghylch addysg grefyddol; gwelwyd bod llawer o bobl ifanc yn awyddus i drafod mwy ar faterion yn ymwneud â chrefydd. Bu i Pam Kelly, Ditectif Prif Arolygydd Heddlu Dyfed Powys sôn am pa mor bwysig ydyw i heddweision fod â dealltwriaeth o ddiwylliant a daliadau crefyddol y cymunedau hynny maent yn eu gwasanaethau. Mae’r Heddlu, fel gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi astudio addysg grefyddol yn yr ysgol neu’r coleg. Dangosodd Ian Russell, Athro Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Bangor nad yw hyfforddiant proffesiynol i weithwyr iechyd hyd yma wedi archwilio’n llawn dylanwad credoau a ffydd mewn iechyd - mae cyfraniad addysg grefyddol felly yn bwysig. Croesawodd Jane Hutt, Gweinidog yr Adran Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ymdrechion athrawon, swyddogion AALl, APADGOS a Chymdeithas CYSAGau Cymru i gydweithio i ddarparu profiadau Addysg Grefyddol da a chydlynus i bobl ifanc Cymru.

 

      

 

     Yn ystod prynhawn y dydd Sadwrn, cynhaliwyd cyfres o weithdai a chafodd y cynadleddwyr gyfle i dreialu rhai o weithgraeddau DARE2ENGAGE. Cafwyd profiad hefyd o’r gwaith mae Rachel Thomas, athrawes o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a Rhian Davies, athrawes o Ysgol Brenin Harri VII, Y Fenni yn ei wneud trwy ddefnyddio casgliad o e-clips y BBC i ddatblgu deunyddiau ar gyfer disgyblion ôl-16 o dan y teitl,  Addysg Grefyddol - Addysg Ryfeddol. Cynhwysa’r deunyddiau DVD o’r clipiau fideo, cynllun gwaith enghreifftiol a thaflenni gwaith, a bwriad APADGOS yw dosbarthu’r deunyddiau yma  i bob ysgol yng Nghymru. Bydd y pecyn Cymraeg yn cynnwys unedau megis - Aberthu Addoldai - Colli Cymuned; Trychinabeu Naturiol - Pwys sy’n Becso; Beth sydd ar y Fwydlen; Ymrwymiad ac Ysbrydoliaeth - Beth yw’r Amheuaeth;  tra bydd y pecyn Saesneg yn cynnwys unedau megis - Who are the Peacemakers; Can the Media be Trusted;  Religion and the Restaurant Business; Jewellery or Symbol of Faith; Whose Law is it Anyway; Everyone Equal a Why Should We Help Others.

 

      

 

     Yn olaf cafwyd cyfle dan arweinyddiaeth Gavid Craigen, Cymdeithas CYSAGau Cymru i bori dros rhai o’r astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys fel rhan o ddogfen APADGOS, Addysg Grefyddol - Canllawiau ar gyfer Dysgwyr 14-19 oed sy’n dangos cyfraniad addysg grefyddol at y Llwybrau Dysgu 14-19 oed a’r dulliau cyflwyno posibl sydd ar gael i ysgolion. Mae un athro ac un athrawes uwchradd wedi defnyddio cyllid y Cyngor Addysgu i’w rhyddhau am gyfnod Sabbothol i ddatblygu deunyddiau ac ymhlith y detholid o ddeunyddiau a ranwyd  yn y gynhadledd oedd rhai ar destun Beth yw Hapusrwydd ac Effeithiolrwydd yn yr Unfed Ganrif ar Hugain, a Thwristiaeth Eco ac Ethegol.

 

      

 

     Diweddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei hadroddiad trwy nodi bod diolch yn ddyledus i Bennaeth Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi am fynychu’r gynhadledd uchod.

 

      

 

     Diolchodd y Cadeirydd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei hadborth diddorol o’r Gynhadledd Addysg Grefyddol Ôl-16, a phwysleisiodd ei fod yn bwysig hefyd cynnwys y sector addysg uwch yn y trefniadau ar gyfer dosbarthu’r deunyddiau y cyfeiriwyd atynt uchod, ac awgrymodd bod yna atgoffa APADGOS o hynny.

 

      

 

     Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wybod i’r CYSAG bod penaethiaid uwchradd Ynys Môn wedi derbyn arweiniad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau trwy’r grwp stratgeol uwchradd ynglyn ag addysg grefyddol ôl-16  er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofyn statudol yn hyn o beth, ynghyd ag awgrymiadau ynglyn â ffyrdd amgen o gyflwyno Addsg Grefyddol i’r garfan hon o ddisgyblion.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau o’r Gynhadledd Addysg Grefyddol Ôl-16, gan ddioch iddi am yr adborth.

 

      

 

9

GOHEBIAETH

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) am yr ohebiaeth ganlynol oedd wedi dod i law -

 

      

 

9.1     Llythyr oddi wrth Tania ap Siôn, Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru dyddiedig 12 Medi, 2008, yn ail fynegi pryderon ynglyn â lefel presenoldeb mewn cyfarfodydd o’r Gymdeithas gyda chyfeiriad penodol at gyfarfod CCYSAGC ar 26 Mehefin yn Yr Wyddgrug. Dywed yr Ysgrifennydd bod diffyg cynrychiolwyr o du athrawon yn destun pryder arbennig a noda’r angen am i Awdurdodau Addysg Lleol alluogi cynrychiolwyr athrawon o’u CYSAGau fynychu cyfarfodydd, drwy dalu am athrawon llanw i gyflenwi drostynt, a thalu eu treuliau teithio.

 

 

 

Trafododd y CYSAG sut orau i hwyluso presenoldeb cynrychiolwyr yr athrawon mewn cyfarfodydd o Gymdeithas CYSAGau Cymru. Sylwyd bod rhai cyrff  CYSAGau yn cynnwys cynrychiolwyr ysgolion fel grwp yr athrawon, ac awgrymwyd hwn fel ffordd o oresgyn y broblem. Dygwyd sylw fodd bynnag at y ffaith bod cyfansoddiad CYSAG Ynys Môn yn pennu bod y grwp athrawon wedi’i gyfansoddi o blith cynrychiolwyr undebau’r athrawon, a bod cyfansoddiad cyrff CYSAGau  yn dueddol o amrywio o gorff i gorff. Cynigiwyd  bod ystyriaeth yn cael ei roi i newid y cyfansoddiad fel bod y grwp athrawon yn cynnwys cynrychiolwyr o blith ysgolion ac o blith undebau’r athrawon. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r aelodau mai gan y Cyngor Sir mae’r hawl i newid cyfansoddiad y CYSAG, ac fe all y CYSAG ond gofyn iddo ystyried gwneud hynny.

 

 

 

Awgrymodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) bod hwn yn fater o bwys y dylid rhoi sylw haeddiannol iddo yng nghyfarfod neasf y CYSAG ac fe gytunwyd ar hynny. Dygodd sylw’r CYSAG at y ffaith bod Cylchlythyr 10/94 yn nodi y dylai’r Awdurdod Addysg Lleol dalu costau athrawon llanw i gyflenwi dros gynrychiolwyr athrawon ar gorff y CYSAG, a dywedodd bod CYSAG Môn wedi derbyn yr egwyddor hon. Sylwodd er bod problem gyda phresenoldeb wedi cael ei hadnabod, roedd yn gysur gallu dweud bod  CYSAG Ynys Môn wedi’i gynrychioli’n rheolaidd mewn cyfarfodydd o Gymdeithas CYSAGau Cymru.  Atgoffodd  yr aelodau  mai Mrs Heledd Hearn yw cynrychiolydd enwebedig grwp athrawon CYSAG Môn mewn cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru, ac awgrymodd ei fod yn gofyn i Mrs Heledd Hearn a’i chyd-aelodau o’r grwp athrawon i ddod i drefniant fydd yn golygu os nad yw Mrs Hearn yn gallu ymbresenoli mewn cyfarfod o’r Gymdeithas, bod un ohonynt yn mynychu’r cyfarfod, a bod Mrs Helen Roberts yn cael ei chynnwys yn y trefniadau hefyd.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

Ÿ

Bod ystyriaeth yn cael ei roi i gyfansoddiad y CYSAG yn ei gyfarfod nesaf yng nghyd-destun mater presenoldeb cynrychiolwyr grwp yr athrawon mewn cyfarfodydd o Gymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Ÿ

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gysylltu gyda Mrs Heledd Hearn i ofyn iddi a’i chyd-aelodau o’r grwp athrawon i ddod i drefniant fydd yn golygu, os nad yw Mrs Hearn fel y cynrychiolydd enwebedig yn gallu ymbresenoli mewn cyfarfod o’r Gymdeithas, bod un o’r grwp yn mynychu cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru a bod Mrs Helen Roberts yn cael ei chynnwys yn y trefniadau hefyd.

 

 

 

9.2     Llythyr oddi wrth Tania ap Sion, Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru dyddiedig 24 Medi, 2008, yn amgau copi o gofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd  yn Yr Wyddgrug ar 26 Mehefin, 2008.

 

      

 

9.3     Llythyr dyddiedig 1 Hydref, 2008 oddi wrth Mrs Sheila Dunning, cynrychiolydd yr Eglwys Babyddol Rufeinig ar y CYSAG, yn cynnig ei hymddiswyddiad fel aelod o CYSAG Ynys Môn.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod hefyd wedi derbyn neges ei fod yn ddymuniad gan y Parch. Irfon Jones i ymddiswyddo fel cynrychiolydd Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg ar y CYSAG. Cytunwyd i lythyru’r ddau aelod uchod i ddiolch iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr i drafodaethau CYSAG Ynys Mon, a bod camau yn cael eu cymryd i enwebu cynrychiolwyr yn eu lle.

 

      

 

     Penderfynwyd gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)  -

 

      

 

Ÿ

Anfon llythyr ar ran y CYSAG i Mrs Sheila Dunning a’r Parch. Irfon Jones i ddiolch i’r ddau ohonynt am eu gwasanaeth clodwiw dros gyfnod hir i CYSAG Ynys Môn, ac i ddymuno’n dda iddynt am y dyfodol;

 

Ÿ

gysylltu gyda’r Eglwys Babyddol Rufeinig ac Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg i ofyn yn ffurfiol i’r ddau gorff enwebu aelod newydd yr un i’w cynrychioli ar CYSAG Ynys Môn.

 

      

 

10     CYFARFOD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2 o’r gloch y prynhawn ar ddydd Llun, 2 Chwefror, 2009.

 

      

 

11

CYFARFODYDD NESAF CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Nodwyd bod cyfarfodydd nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi’u rhaglennu ar  7 Tachwedd, 2008 yn Sir Fynwy ac ar 13 Mawrth, 2009 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

      

 

      

 

      

 

     Mr Rheinallt Thomas

 

          Is-Gadeirydd

 

          (Yn y Gadair)

 

      

 

      

 

     Yn dilyn cyfarfod y CYSAG, cynhaliwyd Cynhadledd Maes Llafur Cytun i bwrpas mabwysiadu’n ffurfiol y Maes Llafur Cytun newydd.