Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 8th June, 2009

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

 

 

Yr Awdurdod Addysg

 

Cynghorwyr  Gwilym O.Jones, Raymond Jones, Peter Rogers.

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Diacon Stephen Francis Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

 

Undebau’r Athrawon

 

Mrs Heledd Hearn (NASUWT)

Mr Martin Wise (ASCL)

 

WRTH LAW:

 

Mr Gwyn Parri (Pennaeth Gwasanaeth (Addysg)

Miss Bethan James (Ymgynghorydd y Dyniaethau)

Mr Ian Roberts (Swyddog Addysg - Ysgolion Uwchradd)

Ann Holmes (Swyddog Pwyllgor)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Cynghorwyr P.M.Fowlie, Thomas Jones, Parch.Canon Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru) Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon), Mrs Mefys Edwards (UCAC), Mrs Carol Llewelyn Jones (Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mrs Siwan Tecwyn Jones, Pennaeth Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel Fab (ar gyfer y cyflwyniad yn eitem 3)

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i’r Cynghorydd Raymond Jones i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Ymgynghorol. Soniodd hefyd y byddai’r Parch.Canon Tegid Roberts yn ymadael am Batagonia ym mis Medi am gyfnod o flwyddyn a dymunodd yn dda i’r Parch. Canon Roberts gyda’ii arhosiad yn y Wladfa.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb y rhai a enwir uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Er na dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ffurfiol, nodwyd bod gan Mr Martin Wise ddiddordeb yn eitem 8 ar y rhaglen, Cefnogaeth i Adran Addysg Grefyddol, ond byddai ei gyfraniad i’r eitem yn hwyluso trafodaeth y CYSAG ar y mater.

 

3

SUT MAE SICRHAU NODWEDDION RHAGOROL (GRADD 1) MEWN ADDYSG GREFYDDOL

 

 

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Siwan Tecwyn Jones, Pennaeth Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel Fab i’r cyfarfod. Roedd Mrs Jones yn bresennol i rannu rhai o’i safbwyntiau a’i syniadau ynglyn â pham y tybiai hi y dyfarnwyd Gradd 1 i’r ysgol am ei darpariaeth Addysg Grefyddol yn CA1 a CA2 mewn arolygiad  gan Estyn yn hwyr y flwyddyn ddiwethaf.

 

Yn gyntaf cyfeiriodd Mrs Siwan Tecwyn Jones at yr hyn oedd yn ei barn hi, yn gwahaniaethu rhwng ysgolion gyda nodweddion da (yn cyfateb i Radd 2) ag ysgolion gyda nodweddion rhagorol (yn cyfateb i Radd 1). Credai bod nodweddion da i’w canfod yn y mwyafrif o ysgolion a bod y rhain yn cwmpasu bod â gwybodaeth gadarn o storïau Beiblaidd a chrefyddau eraill; cynnal ymweliadau â sefydliadau a  mannau crefyddol; ymgymryd â gwaith elusennol ac arddel a chynnal egwyddorion cymdeithasol. Os am ddyrchafiad o fod yn ysgol â chanddi nodweddion da i fod yn ysgol ag iddi nodweddion rhagorol, rhaid bod gan y plant ddealltwriaeth ddofn o faterion crefyddol a’u bod yn gallu dangos hynny; eu bod yn barod i gwestiynu, ac yn gwneud hynny’n ddeallus; eu bod yn gallu gweld rhyfeddod mewn pethau naturiol bywyd  a’u bod yn gallu teimlo’r hyn sydd o’u cwmpas. Yn ogystal, credir bod gofyn i’r plant allu perthnasu’r wybodaeth i’w profiadau personol; bod gofyn iddynt feddu ar y gallu i fyfyrio a gwerthfawrogi ystyr hynny a’u  bod yn barod i ystyried cwestiynau mawr bywyd. Dyna sut y gwelai hi’r gwahaniaeth rhwng derbyn Gradd 1 a derbyn Gradd 2  - yn gryno, ffeithiau a gwybodaeth yw Gradd 2  a dealltwriaeth yw Gradd 1.

 

 

 

O ran cwestiwn Allweddol 1 sy’n gofyn pa mor dda mae dysgwyr yn cyflawni,  nodir pwysigrwydd sgiliau traws Cwricwlaidd y ceisir eu meithrin yn y plant, strategaethau dysgu newydd, asesu ar gyfer dysgu, chwilfrydedd, cyd-weithio, gallu i ddatrys problemau a pheidio bod ofn pethau newydd , annibynniaeth ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol fel  rhinweddau sy’n gallu arwain at Radd 1. Parthed Cwestiwn Allweddol 2 sy’n ymwneud â safon yr addysgu, gellir dweud bod gan staff Ysgol Parc y Bont wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o feysydd llafur y Cwricwlwm, dogfennaeth diweddar  Llywodraeth y Cynulliad a Chwricwlwm 2008 ac o ddatblygiadau diweddar, a’u bod yn awchu i ddatblygu’u hunain mewn unrhyw gynlluniau newydd ac i drosglwyddo’r wybodaeth wedyn yn brofiad ar lawr y dosbarth. At hynny, gwnant yn siwr eu bod yn paratoi ac yn cynllunio’n fanwl ac yn draws gwricwlaidd. Maent  yn gwneud defnydd o strategaethau dysgu amrywiol a maent yn gweld y manteision o ddefnyddio medrau meddwl - cwestiynu, holi, dangos dealltwriaeth. O ddod at Gwestiwn Allweddol 3 sy’n gofyn pa mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, ymdrechir yn bennaf i geisio llunio gwersi sy’n ddiddorol yn hytrach na chyflwyno ffeithiau moel mewn gofod. Ceisir cysylltu stori feiblaidd â phynciau eraill megis daearyddiaeth y stori a gwneud pethau’n ddiddorol i’r plant trwy gynnig profiadau byw a thrwy amrywio’r addysgu a thrwy hyrwyddo dysgu creadigol lle y gofynnir i’r plant greu rhywbeth o’r stori boed hynny’n ddarlun neu’n waith celf. Cysylltir Addysg Grefyddol gyda phynciau eraill a hefyd gyda chynlluniau megis Ysgol Iach ac Ysgol Werdd.

 

 

 

Yn ystod wythnos yr arolwg, cyflwynwyd gwersi yn y dosbarth derbyn ac ym Mlwyddyn 1 a 2  lle y gofynnwyd i’r plant ystyried cwestiynau o bwys. Gofynnwyd iddynt ystyried beth oedd yn bwysig yn eu bywydau hwy ac wedyn fe ddangoswyd iddynt gyflwyniad o fywydau plant o gyfandir Affrica gan ofyn iddynt wedyn a oedd eu hamgyffred o beth sy’n bwysig iddynt wedi newid ar ôl gweld y cyflwyniad. Yn y wers gwnaethpwyd defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth ac fe anogwyd y plant i drafod, i gymharu ac i newid meddwl. Ym mlwyddyn 3 a 4 fe drafodwyd crefydd Islam ac yn arbennig, symboliaeth crefydd Islam trwy ymarferion dadansoddi lluniau, stori, profiadau personol ac ysgrifennu. Ym mlwyddyn 5 a 6  cafwyd gwers lle’r oedd y plant yn astudio ffynonellau i ateb y cwestiwn mawr - yn yr achos hwn “Beth yw rôl dyn ar y ddaear?”. Dyma’r math o fframwaith ar gyfer gwers yr oedd yr ysgol wedi ei ddatblygu cyn yr arolwg a arweiniodd at Radd 1.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd yn fawr iawn i Mrs Siwan Tecwyn Jones am ei chyflwyniad a mynegodd werthfawrogiad o’r cynllunio gofalus a thrylwyr ar ran yr ysgol wrth addysgu Addysg Grefyddol; roedd yn amlwg bod yr ysgol yn llwyddo i ennyn gwir ddiddordeb y plant yn y pwnc ac roedd hyn yn rhywbeth i ymfalchio ynddo.

 

 

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd a oedd y ffaith mai ysgol eglwysig yw Ysgol Parc y Bont yn gwneud gwahaniaeth; gan hynny, oedd gan yr ysgol  unrhyw ofynion mynediad penodol a pham y dewisai ddilyn Maes Llafur Cytun Môn a Gwynedd yn hytrach na Maes Llafur yr Eglwys? Adroddodd Mrs Siwan Tecwyn Jones mewn ymateb bod yr ysgol yn cael cefnogaeth dda gan yr Eglwys a’i bod yn falch o’r gefnogaeth honno. Yn ogystal ag arolwg Estyn lle bu Addysg Grefyddol y pwnc yn destun arolygiad, cafodd yr ysgol arolygiad blaenorol gan yr Eglwys oedd yn canolbwyntio ar dri chwestiwn allweddol ac ar addoli ar y cyd a chredir bod yna gysylltiad agos iawn rhwng yr addoli ar y cyd sy’n digwydd yn yr ysgol ag  Addysg Grefyddol.  Nid oes gan yr ysgol unrhyw ofynion mynediad; mae’n ysgol ag ynddi blant o gefndiroedd aml-ethnig ac aml-ffydd ac edrychir ar hyn fel mantais o ran ei fod yn ymestyn profiad y plant ac yn eu cynorthwyo i werthfawrogi bod yna bobl â ganddynt gefndir a ffydd wahanol a thrwy hynny yn meithrin empathi. Er bod yr ysgol yn dilyn Maes Llafur Cytun Môn a Gwynedd,  mae hefyd yn tynnu oeddi ar faes llafur yr Eglwys ac yn gwneud defnydd ohono.

 

 

 

Diolchodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) i Mrs Siwan Trefor Jones am ei pharodrwydd i rannu o’i hamser a’i phrofiad gyda’r CYSAG y prynhawn hwn a rhoddodd wybod i’r aelodau ei bod hefyd ymhlith y siaradwyr gwadd a gyfarchodd Cynhadledd Penaethiaid Môn a chredai ei bod wedi amlygu’r nodweddion hynny sy’n cyfrannu at ragoriaeth ym maes Addysg Grefyddol.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Peter Rogers am ddwyn sylw at bwysigrwydd cyfranogiad plant a bod y ffaith bod plant yn Ysgol Parc y Bont yn ymddiddori mewn ffordd weithredol ym maes Addysg Grefyddol yn ffactor allweddol yn ei llwyddiant. Diolchodd y Cynghorydd Raymond Jones yntau am y cyflwyniad ac fe aeth ar drywydd cyfarfodydd boreol yn yr ysgol a gofynnodd a oedd y cyfarfodydd hyn yn dal i gael eu cynnal.

 

 

 

Adroddodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi o safbwynt yr ysgol honno mai ar ddiwedd y diwrnod ysgol cynhelir y cyfryw gyfarfodydd; fodd bynnag, yn y deunaw mis diwethaf gwnaed ymdrech i adfer cyfarfodydd ysgol gyfan ar ddydd Llun ac ar ddydd Gwener gan geisio hefyd datblygu elfen grefyddol o fewn y cyfarfodydd. Rhoddant gyfle iddo ef fel Pennaeth yr ysgol i weld yr ysgol gyfan ac mae’r cyfarfod ar ddydd Llun yn gosod y cywair ar gyfer yr wythnos i ddod tra bo’r cyfarfod dydd Gwener yn adolygu digwyddiadau a chyflawniadau’r wythnos.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn sialens i ysgolion drefnu cyfnodau addoli ar y cyd ac mae’n ddisgwyliad arnynt i wahaniaethu rhwng cyfarfod sy’n ymwneud â threfn yr ysgol ac â llwyddiannau’r wythnos, a’r cyfarfodydd hynny sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu’n ysbrydol ac yn foesol ac sy’n gofyn am awyrgylch â naws priodol iddo. Weithiau mae’n fwy priodol i’r math hwn o gyfarfod ddigwydd ar lefel blwyddyn neu ar lefel dosbarth yn hytrach nag ar lefel ysgol gyfan.

 

 

 

Roedd yr Is-Gadeirydd am i’r CYSAG gofio nad yw’r term Saesneg ar gyfer cyfarfod o’r fath sef “Assembly” bellach yn derm ag iddo unrhyw rym o fewn y Ddeddf a’i fod wedi cael ei ddisodli gan addoli ar y cyd (Collective worship). Fe all gweithred o addoli ar y cyd ddigwydd o fewn unrhyw grwp ac er y gwelir manteision o gynnull cyfarfodydd seciwlar ar y llinellau a ddisgrifir gan Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi uchod, gellir dadlau y dylai’r ddau gyfarfod gael eu harwain gan bobl wahanol er mwyn  peidio â chymylu’r ffiniau’r rhwng y ddwy elfen, sef cyfarfod sy’n weithred o addoli ar y cyd a chyfarfod sy’n seciwlar ei naws.

 

 

 

Penderfynwyd diolch i Mrs Siwan Trefor Jones am ei chyflwyniad ac am roi o’i hamser i fynychu’r cyfarfod hwn o’r CYSAG.

 

 

 

4

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol, y CYSAG a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2009.

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Ÿ

Penderfynwyd diwygio’r cyfeiriad at Mr Stephen Francis Rowe yn y rhestr presenoldeb i ddarllen Mr Stephen Francis Roe.

 

 

 

Ÿ

Holodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) a oedd y CD  - A Jewish Way of Life - y cyfeirir ato ar dudalen 3 y cofnodion wedi dod i law erbyn hyn.  Dywedodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mewn ymateb y byddai’n cynnal ymholiadau’n ei gylch.

 

 

 

Ÿ

Ar dudalen 3 hefyd mewn perthynas ag aelodaeth y CYSAG,  adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod yn deall bod cwrdd chwarter Annibynwyr Môn wedi cadarnhau enwebiad yr Athro Euros Wyn Jones fel cynrychiolydd yr enwad ar CYSAG Môn. Nid oedd wedi derbyn ymateb hyd yn hyn ynglyn ag enw’r sawl fyddai’n gwasanaethu ar y CYSAG ar ran yr Eglwys Babyddol. Soniodd y Parch. Elwyn Jones nad oedd yn ymwybodol  bod enwebiad yr Athro Euros Wyn Jones wedi cael ei gymeradwyo gan y cwrdd chwarter; gofynnodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) iddo sicrhau bod enwebiad yr Athro Euros Wyn Jones yn cael ei ffurfioli.

 

 

 

Ÿ

Cadarnhaodd Mrs Helen Roberts mai ar sail bob yn ail gyfarfod yr oedd hi’n mynychu cyfarfodydd o Gymdeithas CYSAGau Cymru ac na fyddai’n mynd i’r ddau gyfarfod nesaf fel y cofnodwyd.

 

 

 

Ÿ

Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) parthed y Maes Llafur Cytun y cyfeirir ato ar dudalen 4 y cofnodion a oedd yn a unrhyw gynnydd wedi’i wneud o ran rhoi naws leol iddo. Ymatebodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod trafodaethau yn ei gylch yn parhau.

 

 

 

Ÿ

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ei fod wedi ysgrifennu at Benaethiaid Ysgol y Bont, Llangefni, Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel Fab ac Ysgol y Parch. Thomas Ellis, Caergybi yn dilyn adrodd am eu llwyddiannau mewn  arolygiadau i gyfarfod diwethaf y Cysag (tudalen 6 ar y cofnodion), a’i fod hefyd wedi ysgrifennu at Bennaeth Ysgol Llangaffo mewn gwerthfawrogiad o’r hunan arfarniad a ddarparwyd gan yr ysgol ac a gyflwynwyd i gyfarfod diwethaf y Cysag.

 

 

 

Ÿ

Parthed y drafodaeth mewn perthynas ag addoli ar y cyd ar dudalennau 7 ac 8 y cofnodion, ac yn benodol yr hawl a roddwyd yn awr i ddisgyblion chweched dosbarth beidio â chymryd rhan mewn addoli ar y cyd,  rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wybod i’r Cysag ei fod wedi codi’r mater gyda Phenaethiaid Uwchradd Môn mewn cyfarfod o’r Grwp Strategol Uwchradd. Bu i’r penaethiaid gadarnhau nad oeddent wedi hysbysebu’r ffaith bod hawl gan ddisgyblion chweched dosbarth i beidio â chymryd rhan mewn addoli ar y cyd a’u bod wedi nodi mai ond cychwyn ar y broses o reoli’r newid oeddent. Roeddent oll hefyd yn cydnabod bod yna werth mewn presenoldeb disgyblion y chweched dosbarth mewn addoli ar y cyd. Y genadwri yn gyffredinol felly yw nad yw disgyblion chweched dosbarth ysgolion uwchradd Ynys Môn yn tynnu allan o addoli ar y cyd.

 

 

 

Mewn perthynas â’r  llythyr a anfonwyd gan Gadeirydd y Cysag at y Gweinidog dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn Llywodraeth y Cynulliad dyddiedig 26 Mawrth, 2009, yn mynegi anfodlonrwydd y corff gyda’r modd y cyhoeddwyd y newid hwn ynghyd â’r diffyg ymgynghori yn ei gylch, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) nad oedd ymateb i’r llythyr wedi’i dderbyn hyd yma.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd Peter Rogers o’r farn bod y diffyg cydnabyddiaeth i’r llythyr a’i neges o du Llywodraeth y Cynulliad yn siomedig ac yn annerbyniol ac fe gynigiodd bod y Cysag yn erlid y mater ac yn ceisio ymateb gan y Gweinidog. Roedd y Cysag yn gefnogol i’r cynnig hwn. Adroddodd yr Is-Gadeirydd o safbwynt yr Eglwys Bresbyteraidd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb i lythyr gwreiddiol a anfonwyd gan yr enwad yn protestio yn erbyn y newid hwn a’r modd y’i gweithredwyd ond oherwydd na farnwyd bod yr ymateb yn ddigonol, anfonwyd ail lythyr yn gofyn am esboniad llawnach, ac nid oedd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn i’r ail lythyr hwn.

 

 

 

Roedd y Cadeirydd yn nodi barn yr aelodau ac roedd hefyd am gydnabod mewnbwn yr Is-Gadeirydd i’r llythyr anfonwyd ar ran y Cysag at y Gweinidog dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

 

 

 

Penderfynwyd gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ymholi ynglyn â chael ymateb gan y Gweinidog dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i’r llythyr a anfonwyd ati gan y Cysag ar 26 Mawrth, 2009, yn cofnodi ei siom ynglyn â’r modd y cyflwynwyd y newid sy’n golygu y caiff disgyblion chweched dosbarth dynnu’n ôl o addoli ar y cyd.

 

 

 

 

 

 

 

5

AROLYGIADAU

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28, Deddf Addysg 2005 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolygu ysgolion mewn perthynas ag Ysgol Gymuned Bodffordd, Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol Gymuned Llannerchymedd.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ar brif ganfyddiadau’r arolygiadau uchod fel a ganlyn -

 

      

 

     Ysgol Gymuned Bodffordd

 

      

 

     Arolwg byr oedd hwn sy’n golygu na arolygwyd pynciau unigol. Yn ei grynodeb dywed yr Arolygwr bod yr ysgol yn un dda a bod ei nodweddion da yn cael eu hadlewyrchu mewn nifer o bethau gan gynnwys ethos arbennig yr ysgol. Mae’r proffil graddau yn gryf gyda chwe Gradd 2 ac un Gradd 1 wedi’u dyfarnu ar draws y saith cwestiwn allweddol. Mewn perthynas â chwestiwn allweddol 3  sy’n gofyn pa mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, daw’r Arolygwr i’r casgliad bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda’r gofyn statudol i gynnal addoli ar y cyd yn ddyddiol a bod y staff yn hybu datblygiad ysbrydol y disgyblion yn rhagorol drwy wersi addysg grefyddol a thrwy addoli ar y cyd. Canfu’r arolygwr hefyd bod yr ysgol yn hybu datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn rhagorol.

 

      

 

     Yn y fan hyn fe atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) aelodau’r Cysag eu bod mewn penderfyniad peth amser yn ôl wedi gofyn, yn yr achosion hynny pan nad yw Addysg Grefyddol y pwnc yn cael ei arolygu, bod hunan arfarniad yr ysgol unigol yn cael ei gyflwyno gerbron, a gofynnodd iddynt a oeddent am lynu wrth y penderfyniad hwn. Soniodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ei fod yn dra thebygol o gofio bod Estyn yn bwriadu newid y drefn arolygu, na fydd pynciau unigol yn cael eu harolygu yn y cylch nesaf a bydd y ffocws y hytrach ar edrych ar sgiliau. Lleiafrif o ysgolion sy’n cael eu harolygu’n bynciol ac felly mae’n annhebyg y ceir adroddiad arolygiad ar Addysg Grefyddol yn Ysgol Bodffordd yn y dyfodol agos. Disgwylir bydd y drefn newydd yn golygu y cynhyrchir adroddiad pynciol yn achlysurol ac er na fydd yna adroddiad felly ar sail ysgol unigol fe fydd yn fantais cael gweld sefyllfa ehangach Addysg Grefyddol yng Nghymru.

 

      

 

     Dywedodd yr Is-Gadeirydd ei fod wedi bod yn bresennol yng Nghynhadledd Estyn pan drafodwyd y syniadaeth newydd ynghylch y drefn arolygu ac yn y gynhadledd honno fe bwysleisiwyd pa mor bwysig felly fyddai adroddiadau hunan arfarnu’r ysgolion. Yng ngoleuni hynny, ac yng ngoleuni hefyd dyletswydd y Cysag i fonitro perfformiad ysgolion yn y maes Addysg Grefyddol, credai y dylai’r Cysag ofyn am gael gweld adroddiadau hunan-arfarnu ysgolion. Cefnogodd y Cysag y safbwynt hwn ac fe nodwyd y cafwyd adroddiad hunan-arfarnu Addysg Grefyddol Ysgol Llangaffo a gyflwynwyd i’r cyfarfod blaenorol yn un adeiladol iawn.

 

      

 

     Ysgol Gynradd Llangoed

 

      

 

     Ni chafodd Addysg Grefyddol y pwnc ei arolygu yn yr achos hwn ychwaith. Mae proffil graddau’r ysgol ar draws yr ystod o gwestiynau allweddol yn gyson Gradd 2 gyda Gradd 3 wedi’i ddyfarnu i Gwestiwn Allweddol 6. O ran Cwestiwn Allweddol 3 mewn perthynas â pha mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach, dywed yr Arolygwr bod datblygiad moesol a diwylliannol y disgyblion yn cael ei feithrin yn effeithiol iawn; ei farn hefyd yw bod disgyblion yn ymdrin â gwahanol ddiwylliannau a chrefyddau yn aeddfed a chydwybodol a bod addoli ar y cyd yn bodloni’r gofynion statudol ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ystyried cwestiynau moesol.

 

      

 

     Ysgol Gynradd Llannerchymedd

 

      

 

     Yn ei grynodeb, mae’r Arolygydd yn dweud bod Ysgol Llannerchymedd yn ysgol dda gyda nifer o nodweddion rhagorol a’i bod hefyd yn ysgol gynnes a chyfeillgar sy’n rhoi amgylchedd hapus a diogel lle mae’r disgyblion yn awyddus i ddysgu.  Mae proffil graddau’r ysgol yn y saith cwestiwn eto yn gyson Radd 2 gyda Gradd 1 wedi’i ddyfarnu i Gwestiwn Allweddol 4.  Bu Addysg Grefyddol y pwnc yn destun arolygiad tro hwn ac fe fu i’r Arolygwr ddyfarnu Gradd 2 i Addysg Grefyddol yn CA1 ac yn CA2 sy’n dynodi y canfuwyd nodweddion da a dim diffygion pwysig. Mae’r adroddiad yn ymhelaethu ar yr hyn a farnwyd yn nodweddion da ac un nodwedd sy’n dal sylw yw’r datganiad bod disgyblion hyn yn CA2 yn gwneud cyfraniad aeddfed iawn i drafodaethau dosbarth ar arferion megis peryglon stereoteipio a rhagfarn. Sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau nad oedd y safonau a gyrhaeddwyd cystal yn yr arolygiad blaenorol a da yw gallu dweud bod yr ysgol wedi dangos cynnydd trwy ymroddiad a gwaith caled.

 

      

 

     Roedd y Cysag yn croesawu casgliadau’r arolygwyr yn achos y tair ysgol ac roedd yn gwerthfawrogi’r ymdrech a’r gwaith caled yr oedd yr adroddiadau yn tystio iddynt. Yn ôl yr arfer roedd yr aelodau am i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) lythyru’r tair ysgol i gyfleu iddynt ddiolchiadau’r Cysag am eu gwaith a’u cyflawniadau canmoladwy.

 

      

 

     Penderfynwyd  -

 

      

 

5.1

Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ysgrifennu at Benaethiaid y tair ysgol uchod i gyfleu iddynt hwy a’u staff  ddiolchiadau‘r Cysag am eu gwaith caled a’i longyfarchiadau ar eu cyflawniadau canmoladwy.

 

5.2

Bod adroddiadau hunan-arfarnu  Addysg Grefyddol diweddaraf Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gynradd Llangoed yn cael eu cyflwyno i’r Cysag maes o law.

 

      

 

6

ADDYSGU, ADNODDAU A HYFFORDDIANT ATHRAWON

 

      

 

     Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i gynorthwyo athrawon i gyflwyno Addysg Grefyddol ar lawr y dosbarth gyda ffocws penodol ar CA2. Rhoddodd ddiweddariad bras cychwynnol hefyd ynglyn â beth oedd y sefyllfa mewn perthynas ag effaith y Maes Llafur Cytun ar lawr y dosbarth

 

      

 

     Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau at rai enghreifftiau o unedau o waith Addysg Grefyddol yn CA2  yng nghyswllt y cwestiwn allweddol “Fi Fy Hun - Pwy Ydw I?” ar gyfer cyfres o wersi yn ymwneud â sawl pwnc a hefyd  “Oes Rhaid Marw?,” ac fe eglurodd sut y defnyddir y themâu i ddatblygu sgiliau ac yng nghyswllt gweithgareddau gwahaniaethol. Teg yw dweud bod athrawon yn eithaf cyfforddus gyda’r gofyn o ran archwilio credoau ac arferion crefyddol, ac maent wedi cael llwyddiant o ran annog plant i fynegi ymatebion personol ac i ofyn cwestiynau. Fodd bynnag, maent yn llai hyderus gyda chael plant i ymdrin â chwestiynau sylfaenol a da yw gallu adrodd bod APDGOS wedi datblygu dwy gyfres o lyfrynnau i gefnogi athrawon ar lawr y dosbarth gyda’r gofyn hwn. Mae’r gyfres sydd wedi’i hysgrifennu gan Gavin a Fiona Craigen ag iddi nifer o destunau megis A Oes Heddwch?, sef adnodd y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau Sul y Cofio ac ar gyfer hanes y Rhyfelau Byd; A Oes Rhaid Marw?; Beth Sy’n Gwneud Ni’n Ddynol?; Ydi Awdurdod yn creu Rhyddid? ; Byd Pwy Ydi Hwn? a Beth sy’n Real? Lluniwyd cynllun gweithredu ar sail y llyfryn, “A Oes Rhaid Marw?” ac mae wedi cael ei ddefnyddio gan un ysgol sydd hefyd wedi gweithio i mewn i’r uned, astudiaeth o fynwent. [Dosbarthwyd y llyfrynnau a rhoddwyd cyfle i’r aelodau bori drostynt]  Credir bod y gyfres hon yn ffordd hwylus o gynorthwyo athrawon i fynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol.

 

      

 

     I gynorthwyo athrawon o ran pryd mae’n briodol iddynt gyflwyno credoau eraill, ceir cyfres o lyfrau gan yr Athro Leslie Francis a Tania ap Sion sy’n ddilyniant i’r gyfres a gyhoeddwyd ganddynt ar gyfer CA1 lle gwelwyd dau gymeriad - Aled a Sian yn ymweld â mannau crefyddol. Yn y gyfres ar gyfer CA2, Rhys a Sara yw’r cymeriadau ac mae’r ddau yn byw mewn cymdeithas aml-ethnig ac aml-ffydd. Ceir llyfryn ar bob un o’r crefyddau mawr ac mae’r testun wedi’i rannu yn bedair pennod, sef addoldy; defod; llyfr sanctaidd; crefydd yng nghyswllt yr amgylchedd ac elusennau, ynghyd â themau yn ymwneud â bwyd. [Dosbarthwyd y llyfrynnau hyn hefyd i aelodau’r Cysag gael eu gweld].

 

      

 

     Mae modd i athrawon ddefnyddio’r llyfrynnau hyn mewn mwy nag un ffordd , er enghraifft ar lefel set benodol ac fe ddangoswyd enghraifft o gynllun tymor byr wedi’i seilio ar destun Eglwys Uniongred. Wrth astudio addoldy fe ellir gwneud defnydd o nifer o strategaethau megis defnyddio cartwn cysyniad sy’n dangos nifer o gymeriadau a’r rheini’n cynnig sawl ateb i’r cwestiwn sylfaenol - Pam mae eiconau yn bwysig i aelodau’r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol? Gofynnir i’r plant ddethol yr hyn maent yn ei dybio yw’r ateb cywir.

 

      

 

     Gellir defnyddio mwy nag un llyfryn ar yr un pryd. Gofynnwyd y cwestiwn Pwy sy’n gwrando ar negeseuon amgylcheddol? ac fe drafodwyd gwaith Cynllun Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Môn ac fe edrychwyd ar y gwaith a wnaed mewn daearyddiaeth; edrychwyd hefyd ar y syniad o ryfeddod trwy edrych ar rai o’r delweddau ar safle’r we, Earth from Above. Mae rhai ysgolion wedi ceisio ateb y cwestiwn, Pwy sy’n gwrando ar negeseuon amgylcheddol, ac maent yn gwneud hynny trwy ddefnyddio’r bennod yn y llyfrau sy’n sôn am agwedd y ffydd tuag at stiwardiaeth a’r amgylchedd ; mae’r ysgolion wedi mynd ati wedyn i geisio ateb y cwestiwn “Beth mae gwahanol grefyddau  yn ei gredu am y byd?” Rhydd y gyfres hon ddulliau amgen i athrawon roddi gwaith at ei gilydd ac mae diolch yn ddyledus i’r Mudiad Addysg Grefyddol am eu gwaith cyfieithu ar lyfrynnau Addysg Grefyddol CA2 ac fe wyddir y bydd y ddau lyfryn diweddaraf sef Ymchwilio i Gwestiynau Dyrys ac Ymchwilio i Gredoau ar Waith yn y Byd yn cael croeso mawr gan athrawon.

 

      

 

     Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau Cysag i Ymgynghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad a sylwodd mai da oedd gweld cymaint o adnoddau o ansawdd ar gael i  athrawon i’w cefnogi wrth gyflwyno Addysg Grefyddol.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi’r wybodoaeth a gyflwynwyd gan Ymgynghorydd y Dyniaethau gan ddiolch iddi am y cyflwyniad.

 

      

 

7

GOHEBIAETH

 

      

 

     Cyflwynwyd ac fe’u nodwyd  -

 

      

 

Ÿ

Copi o’r llythyr a anfonwyd gan Gadeirydd y Cysag at Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn mynegi pryder y corff ynglyn â’r modd y cyflwynwyd y newid sy’n caniatau i ddisgyblion chweched dosbarth  beidio mynychu addoliad ar y cyd ac y’i crybwyllwyd o dan y drafodaeth ar y cofnodion uchod.

 

 

 

Ÿ

Copi o lythyr gan Mrs Rhian Linecar o gorff Cytun yn rhoi gwybod mai hi bellach yw’r person cyswllt rhwng yr Eglwysi Rhyddion a’r cyrff CYSAGau yng Nghymru petai swydd yn dod yn wag ar un o’r Cysagau a bod angen aelod o un o’r Eglwysi Rhyddion i’w llenwi. Sylwodd yr Is-Gadeirydd bod y llythyr yn berthnasol yng nghyswllt y cyrff CYSAGau hynny yng Nghymru y mae arnynt gynrychiolaeth o’r Eglwysi Rhyddion ond bod sefyllfa Cysagau Môn  a Gwynedd yn wahanol gan fod gan gyrff Cysagu Môn a Gwynedd gynrychiolaeth arnynt o du’r enwadau  unigol yn hytrach na’r Eglwysi Rhyddion fel corff cyfansawdd.

 

 

 

8

CEFNOGAETH I ADRAN ADDYSG GREFYDDOL

 

      

 

     Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau ynghylch cefndir y mater hwn ac fe atgoffodd y Cysag bod darpariaeth Addysg Grefyddol yn Ysgol Uwchradd Caergybi wedi bod yn destun pryder ers cyfnod a bod y Cysag yn ei gyfarfod yn y Gwanwyn wedi gofyn am ddiweddariad ynlgyn â sefyllfa’r pwnc yn yr ysgol. Yn fras, be benodwyd athro ifanc newydd gymhwyso yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol yn Ysgol Uwchradd Caergybi oddeutu dwy flynedd yn ôl a bu i’r Cysag ofyn iddi hi fel Ymgynghorydd y Dyniaethau, yr Athrawes Ymgynghorol  Addysg Grefyddol  a Chwmni Cynnal ei gefnogi ac fe ddarparwyd cefnogaeth i’r adran yn y gwaith. Gellir adrodd bod y Pennaeth Adran wedi ymateb yn bositif i’r sialens ac wedi ymgymryd â’r gwaith yn gydwybodol iawn.

 

      

 

     Ym mis Mai eleni fe gynhaliwyd ymweliad ag Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi ac fe ganfuwyd bod y Pennaeth Adran wedi llunio cynlluniau gwaith ar gyfer CA3 yn ôl yr hyn oedd yn flaenoriaeth ganddo. Roedd cwrs diddorol wedi’i sefydlu a oedd hefyd yn ysgogol i ddisgyblion yn ymuno â’r ysgol yn CA3. Cafwyd y cyfle i arsylwi ar wers, a braf oedd gweld y Pennaeth Adran yn gwneud defnydd o strategaethau addysgu gwahanol a mentrus hefyd. Mae’n ddisgwyliad bellach ar ddisgyblion i fod yn fwy gweithredol yn eu gwersi yn hytrach na bod yr athro’n cyflwyno gwybodaeth iddynt yn fecanyddol, ac fe allai ddweud ei bod wedi gweld yn ystod y wers hon, plant yn weithgar am gyfnodau hir a’r gwaith hwnnw yn cynnwys darllen, gwaith grwp neu waith creu a teg yw dweud bod angen sgiliau rheoli dosbarth cadarn i gadw trefn ar ddosbarth o’r fath. Gwelodd gwneud defnydd o adnoddau newydd ynghyd â pharodrwydd i gydio yn yr agenda sgiliau newydd. Gellir adrodd hefyd bod grwp cymharol fychan o 12 neu 13 o ddisgyblion yn awyddus i weithio tuag at gymhwyster Addysg Grefyddol y flwyddyn nesaf, a dyma’r tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Caergybi i ddisgyblion ddewis i astudio Addysg Grefyddol fel pwnc arholiad. Braf felly yw gallu adrodd am gynnydd o bwys mewn cyfnod byr, ac er y gwelodd ambell i blentyn yn herio’r athro fe welodd eraill yn ymddiddori yn y pwnc er eu gwaethaf. Serch hynny, erys gwaith i’w wneud eto o ran Addysg Grefyddol statudol yn CA4 a CA5 ac roedd yn fater o bryder na welodd llawer o waith ysgrifenedig gan ddisgyblion heblaw am sampl bychan o waith disgyblion Blwyddyn 9.  Mae yna faterion sydd angen sylw ac mae yna sialensau y bydd gofyn i’r ysgol ymateb iddynt. Ar y llaw arall, ni allai feirniadu’r addysgu o ran yr ymroddiad, y gwaith paratoi a’r gwaith cynllunio, a gallai ond dymuno’n dda i’r Pennaeth Adran gyda’r grwp TGAU.

 

      

 

     Adroddodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ei fod yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Ymgynghorydd y Dyniaethau trwy gydol y cyfnod; mae Addysg Grefyddol yn gyfrifoldeb athro sydd yn gymharol amhrofiadol ond sydd yn berson diwyd ac sy’n benderfynol o ddatblygu Addysg Grefyddol o fewn yr ysgol. Mae dipyn o waith eto i’w wneud ond mae camau ymlaen wedi cael eu gwneud yn CA3 ac yn CA4 fel rhan o’r rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol. Bu i’r Pennaeth Adran Addysg Grefyddol lunio taflen wybodaeth ar y cwrs TGAU ar gyfer noson rhieni ac athrawon ac fe wnaed argraff gadarnhaol ar y rhieni a rhaid nodi ei fod yn gwrs llawn yn hytrach na chwrs byr. Yn y chweched dosbarth mae Addysg Grefyddol wedi’i amserlennu fel rhan o’r Fagloriaeth Gymreig ac mae’n amcanu at ofyn cwestiynau sy’n berthnasol i brofiadau pobl ifanc y gymdeithas gyfoes.  Er ei bod wedi bod yn gyfnod dwy flynedd heriol ac anodd weithiau i’r Pennaeth Adran newydd mae wedi llwyddo i sefydlu grwp o ddisgyblion TGAU sydd â chymhelliant i astudio’r pwnc i’r lefel hon. Bydd Blwyddyn 7 y flwyddyn nesaf yn ymwneud â gwaith prosiect ac mae Addysg Grefyddol fel un o bynciau’r Dyniaethau ymhlith y pynciau fydd yn cael eu haddysgu trwy’r cyfrwng hwn.

 

      

 

     Roedd aelodau’r Cysag am longyfarch Ysgol Uwchradd Caergybi ar y cynnydd a wnaed gan yr ysgol ac roeddent wedi’u calonogi ganddo. Ategwyd hyn gan sylwadau gan aelodau unigol a oedd wedi bod yn ymhel â gweithgareddau yng Nghaergybi - y Diacon Stephen Roe oedd wedi trefnu gwasanaeth yn Eglwys Caergybi fel rhan o ddigwyddiadau Wythnos Gristnogol ac wedi cael cynrychiolydd o Ysgol Uwchradd Caergybi yno am y tro cyntaf mewn amser maith, a’r Parch Elwyn Jones oedd wedi bod yn aelod o dîm a gynhaliodd weithdy yn yr ysgol gyda Blwyddyn 8 ac oedd yn nodi bod y disgyblion wedi creu argraff ffafriol iawn arnynt.

 

      

 

     Sylwodd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) y bu’r drafodaeth hon ynglyn ag Addysg Grefyddol yn y gorffennol yn troi o gwmpas  athrawon heb gymhwyster Addysg Grefyddol yn addysgu’r pwnc ; bellach mae yna athro cymwys yng Nghaergybi yn gyfrifol amdano. Teimlad y Cysag oedd y dylai’r athro newydd gymhwyso ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar CA3 a sicrhau bod  trefniadaeth gadarn yn ei lle ar gyfer y pwnc ar y lefel hon cyn symud ymlaen wedyn i CA4, ac fe fydd yna gostau ychwanegol o geisio cynnal dosbarth TGAU  a hynny mewn cyfnod ariannol anodd. Pery materion y mae angen rhoi sylw iddynt gan gynnwys y ddarpariaeth Addysg grefyddol ôl-16. Yng ngoleuni’r ystyriaethau hyn felly awgrymodd bod y Cysag yn cofnodi ei ddiolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau a thîm Cynnal am eu cynhaliaeth a’u cefnogaeth a hefyd i Bennaeth Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi am ei waith caled a’i ddyfalbarhad, a’i fod yn gofyn bod y gefnogaeth honno o du Cynnal yn parhau. Credai bod pennod newydd cadarnhaol yn hanes Ysgol Uwchradd Caergybi wedi dechrau ac yn ogystal â datblygu Addysg Grefyddol o fewn yr ysgol roedd y Pennaeth Ysgol hefyd wedi gwneud cryn waith ar adfer y berthynas rhwng yr ysgol uwchradd ag ysgolion cynradd y dref. Barnai y dylai’r Cysag dderbyn adroddiad cynnydd pellach o fewn y flwyddyn.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

8.1     Derbyn y wybodaeth mewn perthynas â chynnydd Ysgol Uwchradd Caergybi ym maes Addysg Grefyddol gan ddiolch i Ymgynghorydd y Dyniaethau a’r Pennaeth Ysgol amdani.

 

8.2     Bod y Cysag o’r farn y dylai’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Gwmni Cynnal i Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi barhau.

 

8.3     Bod y Cysag yn derbyn adroddiad cynnydd pellach mewn perthynas ag Addysg Grefyddol yn Ysgol Uwchradd Caergybi ym mhen blwyddyn.

 

8.4     Cofnodi gwerthfawrogiad y Cysag am y gwaith a’r ymdrech o du Ymgynghorydd y Dyniaethau a Chwmni Cynnal ynghyd â Phennaeth Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Caergybi sydd wedi arwain at y cynnydd yr adroddwyd amdano uchod.

 

      

 

9

MATERION CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

     Adroddodd y Cadeirydd ei fod ef a’r Is-Gadeirydd wedi mynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Mhen y Bont ar Ogwr ar 13 Mawrth, 2009, ond nad oedd cofnodion y cyfarfod eto wedi’u derbyn. Eglurodd yr Is-Gadeirydd mai’r nod yw bod fersiwn ddrafft cofnodion cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ar gael o fewn bythefnos i dair wythnos o’r cyfarfod er mwyn i gyrff CYSAGau unigol fedru trafod eu cynnwys. Awgrymodd bod y Cysag yn llythyru Ysgrifennydd y Gymdeithas i’w hatgoffa am y drefn hon ac yn gofyn iddi geisio sicrhau bod y cofnodion drafft ar gael o fewn y priod amser. Aeth yr Is-Gadeirydd rhagddo wedyn i amlinellu’r sefyllfa yng nghyswllt enwebiadau i Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas.

 

      

 

     Penderfynwyd gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) anfon llythyr at Tania ap Sion, Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gylchredeg cofnodion drafft cyfarfodydd y Gymdeithas o fewn yr amserlen a gytunwyd er mwyn galluogi cyrff Cysagau unigol i drafod y materion yn codi ohonynt.

 

      

 

10

CYFARFODYDD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Nodwyd bod dau gyfarfod nesaf y Cysag am y flwyddyn wedi’u rhaglennu ar gyfer dydd Mawrth, 13 Hydref, 2009 am ddau o’r gloch y prynhawn ac ar gyfer dydd Llun, 8 Chwefror, 2010 am ddau o’r gloch y prynhawn.

 

      

 

      

 

     Cyn cau’r cyfarfod adroddodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf y CYSAG y byddai Mr Gwyn Parri, y Pennaeth Gwasanaeth Addysg yn ei fynychu ac mai Mr Ian Roberts, y Swyddog Addysg Uwchradd fyddai’n cymryd y cyfrifoldeb am y CYSAG o heddiw ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau’r CYSAG i Mr Gwyn Parri am ei gefnogaeth a’i arweiniad.

 

      

 

      

 

     Cynghorydd E.G.Davies

 

            Cadeirydd