Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Tuesday, 13th October, 2009

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref, 2009   

 

YN BRESENNOL:

 

Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

Mr Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) (Is-Gadeirydd)

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Parch. Peter McLean, (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

Yr Athro Euros Wyn Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

 

Aelodau Cyfetholedig

 

Mrs Helen Roberts (Prifysgol Cymru)

Parch. Elwyn Jones (Cyngor Ysgolion Sul)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Addysg Uwchradd (Mr Ian Roberts)

Ymgynghorydd y Dyniaethau (Miss Bethan James)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mrs Heledd Hearn (NASUWT), Miss Jane Richards (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon), Mr Martin Wise (ASCL), Mrs Mefys Edwards (UCAC)

 

 

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i’r cyfarfod i’r Parch. Peter McLean a’r Athro Euros Wyn Jones a oeddent ill dau yn bresennol am y tro cyntaf.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrwyd uchod.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd ac arwyddwyd fel rhai cywir, yn amodol ar y materion a nodir isod, cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2009.

 

Yn codi -

 

 

Ÿ

Penderfynwyd nodi bod Mrs Helen Roberts a’r Parch.Elwyn Jones wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod ar 8 Mehefin fel aelodau cyfetholedig o’r Cyngor Ymgynghorol.

 

Ÿ

Penderfynwyd diwygio’r cyfeiriad at Mrs Siwan Trefor Jones o dan Eitem 3 yn y fersiwn Gymraeg i ddarllen Mrs Siwan Tecwyn Jones.

 

Ÿ

Penderfynwyd nodi mai Cytun Caergybi a drefnwyd y gwasanaeth yn Ysgol Uwchradd Caergybi fel rhan o ddigwyddiadau’r Wythnos Gristnogol y cyfeirir ato o dan eitem 8.

 

Ÿ

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a oedd cyflenwad o CDs - A Jewish Way of Life - bellach wedi dod i law, ymatebodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod trefniadau wedi’u gwneud i dderbyn yr adnodd hon ac fe ychwanegodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod pecyn wedi’i dderbyn yn yr Adran Addysg yr wythnos ddiwethaf a allasai fod wedi cynnwys y CDs dan sylw ac os felly, roeddent wedi cael eu dosbarthu.

 

Ÿ

Parthed gwneud ymholiadau ynglyn â chael ymateb gan y Gweinidog dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i’r llythyr anfonwyd ati ym mis Mawrth, 2009 ar ran y CYSAG yng nghyswllt y mater o roddi hawl i ddisgyblion chweched dosbarth dynnu’n ôl o addoli ar y cyd, a’r diffyg ymgynghori ynghylch y newid hwn, cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wedi cysylltu â Swyddfa’r Gweinidog drachefn ac fe ddywedwyd y byddai yna ymateb yn dod o fewn 15 diwrnod. Ar hyn o bryd nid yw’r ymateb hwnnw wedi’i dderbyn. Soniodd yr Is-Gadeirydd bod Prif Weinidog Cymru wedi cael ei holi ynghylch y mater hwn mewn cyfarfod o’r Grwp Ffydd a bod y mater wedi codi ei ben yn wreiddiol ym mis Awst, 2006. Wrth wraidd yr anfodlonwrydd yw’r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnu ar addewid a wnaed y byddai yna ymgynghori ynglyn ag unrhyw symudiad i gyflwyno’r newid a grybwyllir uchod mewn perthynas â rhoi hawl i ddisgyblion chweched dosbarth beidio mynychu  addoli ar y cyd. Fodd bynnag, bu i’r Gweinidog presennol dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol oes a Sgiliau lofnodi’r Gorchymyn i weithredu’r newid yr Haf hwn heb gysylltu ag unrhyw un o’r enwadau crefyddol na’r awdurdodau addysg i ymorol eu barn.

 

Ÿ

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod y llythyr arferol o ddiolch a gwerthfawrogiad wedi cael ei anfon at y dair ysgol yr adroddwyd amdanynt yn y cyfarfod diwethaf yng ngyhswllt arolygiadau gan Estyn

 

Ÿ

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at eitem 9 a dywedodd nad anfonwyd y llythyr y sonnir amdano o dan y pennawd hwn ynghylch yr angen i gylchredeg cofnodion cyfarfodydd  Cymdeithas CYSGAau Cymru yn brydlon oherwydd y canfuwyd bod cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas ym mis Mawrth wedi cael eu cylchredeg, ond trwy amryfusedd ni chawsant eu cyflwyno i gyfarfod diwethaf y CYSAG. Aeth yr Is-Gadeirydd rhagddo wedyn i ddweud bod y mater hwn wedi cael ei godi ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas lle’r adroddwyd mai’r drefn yw cylchredeg y cofnodion ar ffurf uniaith drafft mor fuan â phosib ar ôl cyfarfodydd y Gymdeithas; yn anffodus CYSAG Môn yw’r cyntaf fel rheol i gynnal cyfarfod yn dilyn cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru felly ef yw’r corff sydd tebycaf i gael ei effeithio os nad yw wedi bod yn bosibl cylchredeg y cofnodion yn brydlon. Mae Cymdeithas CYSAGau Cymru yn amcanu at sefydlu gwefan ac fe fyddai adnodd o’r fath yn symleiddio ac yn hwyluso mynediad at ei deunydddiau gan gynnwys cofnodion ei chyfarfodydd.

 

 

 

4

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN

 

 

 

Cyflwynwyd - Drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am y flwyddyn o fis Medi, 2008 i fis Awst, 2009.

 

 

 

Adroddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau mai crynhoad o weithgareddau’r flwyddyn yw’r Adroddiad Blynyddol sydd gerbron ac mae ar ffurff drafft ar hyn o bryd am fod ambell i fwlch data i’w lenwi. Mae fframwaith yr adroddiad wedi’i bennu gan APADGOS  ac ynddo wedyn fe roddir cryn sylw i safonau Addysg Grefyddol fel yr amlygir mewn arolygiadau ysgol. Mae yna hefyd ymdrech i adlewyrchu hunan arfarniadau ysgolion a hynny oherwydd bod yna lai o arolygiadau pynciau erbyn hyn. Cyfeiria’r adroddiad  at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion ynghyd â safonau mewn arholiadau a phrofion allanol. Mewn perthynas â phrofion ac arholiadau allanol, dechreuwyd ers oddeutu 2 flynedd i gyfeirio at ganlyniadau asesiadau Athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3, ond gan mai prin yw’r cyfleodd i gyd-safoni gwaith yn y Cyfnod hwn ni ddaepthwyd i unrhyw gasgliadau ynglyn â’r canlyniadau hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar y gorwel mae yna fwriad i sicrhau bod pob adran uwchradd yng Nghymru yn cyflwyno portffolio eu safonau CA3 i sylw safonwyr ac achredwyr allanol, ac unwaith bydd hynny wedi digwydd efallai gellir dod i gasgliad ystyriol ynglyn â safonau CA3

 

 

 

Mae disgwyliad i’r Adroddiad Blynyddol gynnwys ymateb yr Awdurdod Addysg Lleol i’r cyngor a’r arweiniad a roddwyd yn ystod y flwyddyn gan y CYSAG,  ac mae hwn wedi’i nodi ar dudalen 11 yr adroddiad lle cyfeirir at y ffaith bod y CYSAG yn ceisio adlewyrchu blaenoriaethau Cynllun Plant  a Phobl Ifanc Môn. O dan adran arall yn yr adroddiad fe grybwyllir y gefnogaeth a roddir gan y Gwasanaeth Ymgynghorol gan gynnwys mewnbwn yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol. Bellach fe ddaeth tymor gwasanaeth Mrs Carol Llewelyn Jones i ben, ac mae penodiad newydd i’r swydd wedi cael ei wneud, a bydd Mrs Leisa Jones yn cymryd arni dyletswyddau’r Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol. Ceir sôn yn yr adroddiad hefyd am Raglen Hyfforddiant Mewn Swydd ynghyd â’r cyswllt a fu yn ystod y flwyddyn rhwng Addysg Grefyddol ac APADGOS. Cofnodir unrhyw ddatblygiad sydd wedi bod mewn perthynas ag addoli ar y cyd ac yn rhan olaf yr adroddiad fe roddir sylw i faterion yn ymwneud ag aelodaeth a gweinyddiaeth y CYSAG, ynghyd â’r prif bynciau trafod yn ei gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.

 

Holwyd ynglyn ag un ystadegyn yn yr Adroddiad Blynyddol oedd yn dweud bod y sawl a safodd arholiad TGAU Astudiaethau Crefyddol yn 2008 wedi cynyddu o 58 i 155 ac mewn ymateb esboniodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod y naid i’w briodoli’n rhannol i’r ffordd y cesglir y wybodaeth. Mae rhai ysgolion yn gwneud hanner TGAU un flwyddyn a hanner TGAU yn y flwyddyn ddilynol ac yr hyn sydd yn debygol o fod wedi digwydd yw nad yw  disgyblion wedi cael eu cynnwys un flwyddyn, ac maent yn ymddangos wedyn yn yr ystadegau yn y flwyddyn ar ôl hynny.Yn y cyswllt hwn soniodd mai pleser oedd gallu dweud bod sefyllfa Addysg Grefyddol yn ysgolion Ynys Môn yn iach, ac fe ategodd y Swyddog Addysg Uwchradd y farn hon trwy sôn am Ysgol Uwchradd Caergybi a’r camau cadarnhaol y mae’r  ysgol honno wedi’u cymryd yn ddiweddar tuag at wneud darpariaeth Addysg Grefyddol hyd at safon arholiad TGAU am y tro cyntaf mewn blynyddoedd.

 

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2008 yn amodol ar gwblhau unrhyw fylchau yn ôl yr angen.

 

 

 

5

AROLYGIADAU YSGOLION

 

 

 

5.1

Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 28, Deddf Addysg 2005, am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolygu mewn perthynas â’r ysgolion  a nodir isod -

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd y Parc, Newry Fields, Caergybi

 

 

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd nad oedd Addysg Grefyddol wedi bod yn destun arolygiad y tro hwn, felly cyflwynir casgliadau’r Arolgydd ynglyn â chyflawniadau’r ysgol o  dan Cwestiwn Allweddol 3, sef,  Pa mor dda mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach? Dywed yr Arolygydd bod y ddarpariaeth a wna’r ysgol ar gyfer datblygiad moesol a chymdeithasol y disgyblion yn dda, ac mae yna raglen addysg bersonol a chymdeithasol effeithiol ar waith. Cynhelir sesiynau addoli ar y cyd dyddiol ac mae’r rhain yn ceisio hyrwyddo datblygiad ysbrydol y disgyblion er y bernir  bod ffocws yr addoli yn cael ei golli ar adegau.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd  bod Estyn wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i godi safonau yn Ysgol y Gynradd y Parc ar lefel ysgol gyfan, a bod yr Awdurdod Addysg yn cyd-weithio gyda’r ysgol i adfer y sefyllfa.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Ty Mawr, Capel Coch, Llangefni

 

 

 

Adrodddd y Swyddog Addysg Uwchradd mai yn yr achos hwn hefyd arolygiad safonol a gynhaliwyd ond nid oedd Addysg Grefyddol ymhlith y chwe phwnc y cyflwynwyd adroddiad arnynt. Mae’r Arolygydd o’r farn bod darpariaeth yr ysgol ar gyfer hyrwyddo datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda. Trwy raglen addysg bersonol a chymdeithasol sydd wedi’i strwythuro’n glir, caiff disgyblion gyfleoedd gwerthfawr i drafod, cwestiynu a dod i benderfyniad ar nifer o faterion moesol a chymdeithasol. Ymhellach, disgrifia’r Arolygydd ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygiad ysbrydol y disgyblion fel un rhagorol a dywed bod y cyfnodau addoli ar y cyd yn cydymffurfio’n llawn â‘r gofynion statudol a’u bod yn cynnig cyfleoedd rhagorol i’r disgyblion ystyried eu gwerthoedd eu hunain a myfyrio ar elfennau ysbrydol a phersonol.

 

 

 

Ÿ

Ysgol Gynradd Pencarnisiog

 

 

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Uwchradd y bu Addysg Grefyddol ymhlith y pynciau y cyflwynwyd adroddiad arnynt y tro hwn ac fe ddyfarnodd yr Arolygydd Rradd 3 i Addysg Grefyddol yn CA1 (yn golygu bod yna nodweddion da yn gorbwyso diffygion),  a Gradd 2 i Addysg Grefyddol yn CA2 (yn golygu bod yna nodweddion da a dim diffygion pwysig). Mae’r Arolygydd yn nodi bod disgyblion CA1 yn ymwybodol bod plant mewn rhannau eraill o’r byd yn dioddef o achos prinder gofal a bwyd, ac maent yn gwybod am waith y Fam Teresa yn India a Dr Barnado ym Mhyrydain Fawr. Hefyd, nodwedd diddorol y mae’r Arolygydd yn tynnu sylw ato yw’r ffaith bod disgyblion CA1 yn ysgrifennu eu gweddïau o ddiolch eu hunain i’w teulu a’u ffrindiau sy’n awgrymu bod y plant yn ddigon hyderus i lunio eu gwaith eu hunain. Noda’r Arolygydd un diffyg a hynny yn CA1 lle y barna bod gwybodaeth disgyblion y cyfnod hwn am y storïau a adroddwyd gan Iesu a’u harwyddocâd yn gyfyngedig.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Addysg Uwchradd am y wybodaeth a sylwodd bod yr adroddiadau ar y cyfan yn eithaf calonogol yn ôl yr arfer. Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw at yr hyn yr oedd ef yn ei weld yn anghysondeb yn yr adroddiad ynglyn ag Ysgol Gynradd Pencarnisiog, a dywedodd bod yr Arolygydd wedi dyfarnu Gradd 3 gogyfer y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn CA1 a’i fod wedi nodi bod gwybodaeth y disgyblion o storïau’r Iesu yn gyfyngedig. Fodd bynnag, yng nghorff yr adroddiad mae’r Arolygydd yn canmol disgyblion CA1 am ysgrifennu eu gweddïau eu hunain heb gydnabod y byddai hynny yn sicr o gyfyngu ar yr amser sydd ar gael i gyflwyno storïau. Awgrymodd y byddai’n fuddiol i’r CYSAG dderbyn copi o hunan-arfarniad Ysgol Gynradd Pencarnisiog er mwyn gweld a yw barn yr ysgol yn cyd-fynd â barn yr Arolygydd. Soniodd nad hwn oedd y tro cyntaf i’r CYSAG ganfod anghysonderau mewn adroddiadau arolygu a’i fod eisoes wedi codi’r mater mewn llythyr at Estyn. Sylwodd y Swyddog Addysg Uwchradd mai Estyn fydd yn arwain ar bob arolygiad o hyn allan ac efallai bydd yna safoni arolygiadau ysgolion cynradd o ganlyniad.

 

 

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth gan ofyn i’r Swyddog Addysg Uwchradd ysgrifennu at Benaethiaid y dair ysgol i ddiolch iddynt am eu gwaith a’u hymdrechion.

 

 

 

5.2

Cyflwynwyd - Adroddad hunan-arfarnu Ysgol Gynradd Llangoed.

 

 

 

Dywedodd  Ymgynghorydd y Dyniaethau ei bod yn croesawu’r hunan-arfarniad uchod gan Ysgol Gynradd Llangoed. Ar un olwg, ymddengys bod hon yn drefn arwynebol ar gyfer monitro safonau ond dygir sylw’r aelodau at yr adran yn yr adroddiad sy’n nodi’r agweddau hynny y mae’r ysgol o’r farn bod angen rhoi sylw iddynt dros y ddwy flynedd nesaf a diolchir i’r ysgol am ei gonestrwydd wrth gydnabod bod yna le i wella ac am ei pharodrwydd i rannu’r wybodaeth hon gyda’r CYSAG a  hwnnw’n fforwm gyhoeddus. Yn y cyswllt hwn hefyd atgoffir aelodau bod gofyn trafod rôl fonitro’r  CYSAG mewn perthynas â’r drefn arolygu newydd mae Estyn yn ei chyflwyno. O dan y drefn honno ni fydd adroddiadau ar safonau  Addysg Grefyddol yn cyrraedd y CYSAG, ond yn hytrach  bydd y drefn yn llawer mwy cryno,  bydd yn rhoi llai o bwyslais ar arolygiadau pwnc a bydd    arolygiadau pynciol yn cael eu cynnal o dro i dro yn unig. O gofio swyddogaeth fonitro’r CYSAG felly,  cystal i’r corff ddechrau meddwl am sut mae am ymateb i’r newidiadau hyn a pharhau i gyflawni ei swyddogaeth fonitro.

 

      

 

     Sylwodd yr Is-Gadeirydd bod hwn wedi bod yn fater trafod ym Mhwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru a rhaid cofio bydd rôl fonitro statudol y CYSAG o safonau Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd yn dal i barhau ond mae sut mae gwnud hynny o fewn y fframwaith arolygu newydd yn fater i’w ystyried. Tra bod rhai cyrff CYSAGau yn ymweld ag ysgolion, barnai bod y drefn hunan arfarnu yn cynnig ffordd effeithiol o gyflawni’r gofyn statudol sydd ar y corff heb i hynny fod yn rhy feichus ar y CYSAG na’r ysgol. Awgrymodd bod Ymgynghorydd y Dyniaethau yn codi’r mater gyda’i chyd ymgynghorwyr mewn cyfarfod o NAPfre ym mis Tachwedd. Cytunodd cynrychioydd Undeb y Bedyddwyr gan bod pob ysgol yn ymgymryd â hunan arfarniad ni ddylai anfon copi ohono ymlaen at y CYSAG arwain at waith ychwanegol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â’r meddwl tu cefn i gyflwyno’r drefn newydd, dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod datblygiadau yn Lloegr wedi bod yn ysgogiad i Estyn symud i’r cyfeiriad hwn lle mae llai o rybudd yn cael ei roi i ysgolion cyn cynnal arolwg; mae Ysgol Gynradd Niwbwch eisoes yn arbrofi’r  drefn newydd a bydd yr adroddiad o’r arolygiad hwnnw yn debygol o fod yn un cryno iawn gyda chrynswth y gwaith wedi’i baratoi o flaen llaw trwy hunan-arfarniad yr ysgol. Dywedodd yr Is-Gadeirydd bod y broses arolygu sy’n cael ei disodli wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth ysgolion ynglyn â beth yw’r safonau a sut i hunan-arfarnu gan olygu y bydd y drefn newydd cytbwys yn fwy ymarferol.  Sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y bydd penodiad Arolygydd Addysg Grefyddol yn cael ei groesawu oherwydd bydd hynny’n rhoi fwy o ystyr i’r adroddiad cenedlaethol yn enwedig gan fod y mwyafrif o gyrff CYSAGau bellach wedi mabwysiadu’r Fframwaith Genedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad hunan-arfanu Ysgol Gynradd Llangoed gan ddiolch i’r ysgol am y wybodaeth.

 

      

 

      

 

6

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

      

 

6.1     Cyflwynwyd a nodwyd - Cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ym Mhen y Bont ar Ogwr ar 13 Mawrth, 2009.

 

      

 

6.2     Cyflwynwyd - Cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a hefyd y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llangollen ar 24 Mehefin, 2009.

 

      

 

     Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Helen Roberts a’r Parch Elwyn Jones am gymryd o’u hamser i fynychu’r cyfarfod uchod yn Llangollen, ac fe’u gwahoddodd i adrodd am unrhyw fater oedd wedi cymryd eu bryd o’r cyfarfod hwnnw.

 

      

 

     Ar ôl crybwyll y ffaith na chafodd ef, na Mrs Helen Roberts y gwaith papur ar gyfer y cyfarfod, dyweddodd y Parch Elwyn Jones bod y cyfarfod wedi bod yn un difyr iawn ac un yr oedd ef wedi’i fwynhau ac yn arbennig felly, y cyflwyniad gan Vicky Barlow ar destun Addysg Grefyddol a Phlant Mwy Galluog a Thalentog oedd yn arbennig o ddiddorol. Soniodd hefyd bod y Cadeirydd yn ei araith ymadawol wedi codi pwynt miniog wrth grybwyll pa mor bwysig ydyw o safbwynt y pwnc Addysg Grefyddol i fod yn effro i ddigwyddiadau ac yn arbennig y her a ddaw o gyfeiriad y gymdeithas seciwlar.  Roedd wedi pwysleisio  tra nad oedd popeth yn y gymdeithas seciwlar yn bygwth y bywyd crefyddol, roedd cryn nifer o bobl yn cysylltu crefydd gyda ffwndamentaliaeth grefyddol ac yn gweld gwedd eithafiaeth ar bob dim crefyddol ac yn sgîl hynny, yn edrych yn ddrwgdybus ar fywyd crefyddol ac yn tanbrisio ei werth. Sylwodd yr Is-Gafeirydd bod y ffaith bod y drefn ar gyfer  cylchredeg papurau wedi torri lawr yn yr achos uchod yn ddadl bellach dros sefydlu gwefan i’r Gymdeithas.

 

      

 

     Cytunodd y Cadeirydd bod sylwadau Vaughan Salisbury, sef cyn Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru bellach, yn rhai gwerth eu darllen. Aeth ymlaen i longyfarch Mr Rheinallt Thomas ar ei etholiad i’r Pwyllgor Gwaith ac fe ddiolchodd iddo am ei gyfraniad dros gyfnod hir. Bu i’r Is-Gadeirydd yn ei dro sôn am gyfansoddiad y Pwyllgor Gwaith newydd a’r ffaith bod iddo naws Gymraeg cryf ar hyn o bryd. Dygodd sylw’r CYSAG hefyd bod gofyn arno ddangos yn ffurfiol ei fod am ymaelodi’n swyddogol â Chymdeithas CYSAGau Cymru am y flwyddyn i ddod, a’i fod yn cytuno i dalu’r tâl tanysgrifio o £383 am 2009/10. Dywedodd wrth y CYSAG ei fod ef am baratoi dadansoddiad o’r niferoedd o bob sir sydd wedi mynychu cyfarfodydd y Gymdeithas a hynny heb gynnwys yr ymgynghorwyr.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

Ÿ

Derbyn cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a’r Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llangolled ar 24 Mehefin gan nodi eu cynnwys.

 

Ÿ

Bod y CYSAG yn cytuno i danysgrifio i Gymdeithas CYSAGau Cymru am 2009/10 a’i fod yn gofyn i’r Awdurdod Addysg dalu’r ffi ymaelodi o £383.

 

 

 

7

ARHOLIADAU ALLANOL HAF 2009

 

      

 

     Cyflwynwyd - Dadansoddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau o ganlyniadau arholiadau Haf 2009 mewn perthynas ag Addysg Grefyddol.

 

      

 

     Cyfeiriodd Ymgynghorydd y Dyniaethau at y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Bod canlyniadau CA3 yn cael eu cyflwyno er gwybodaeth yn unig. Daw adrannau i farn am gyflawniad disgyblion CA3 ar sail gwaith y flwyddyn, tasgau asesu a phrofion. Nid yw’r disgyblion yn sefyll yr un profion na’r un tasgau asesu ar draws y sir ac nid yw athrawon yn cael cyfle rheolaidd i safoni gwaith eu disgyblion gydag adrannu eraill. Eleni bydd rhai adrannau yn cael cyfle i fod yn rhan o raglen peilot gan APADGOS a byddent yn cyflwyno portffolios ar gyfer achrediad allanol. Mae cyrsiau HMS Cynnal wedi rhoi cyfle i athrawon pwnc i rannu profiadau ac i gyd-safoni samplau o waith.

 

Ÿ

Roedd canlyniadau Astudiaethau Crefyddol TGAU 2009 yn rhai da. Amrywia’r nifer a safodd yr arholiad o 13 mewn un ysgol i 48 mewn ysgol arall. Llwyddodd 99.5% o’r ymgiesywr i ennill gradd TGAU gydag 83.9% yn ennill gradd A*-C. Enillodd 44.5% o’r ymgeiswyr radd A*/A. Roedd cyfartaledd sgôr y pwnc yn 6.3 a hwnnw’n uwch na’r sgôr cyfartalog o 5.4 yn y pynciau eraill. Unwaith eto bu i fwy o ferched na bechgyn ddewis y pwnc ac roedd canlyniadau’r merched yn rhagori ar ganlyniadau’r bechgyn. Mae Cynnal yn awyddus i gynnig cefnogaeth ychwanegol i Ysgol Uwchradd Caergybi am fod yna ddosbarth TGAU Addysg Grefyddol ym mlwyddyn 10 am y tro cyntaf mewn dros degawd a dyma’r cohort cyntaf i’r Pennaeth Adran, a hefyd i Ysgol Bodedern am fod yr athrawes lanw fydd yn gyfrifol am yr adran yn ystod cyfnod mamolaeth y Pennaeth Adran yn athrawes newydd gymhwyso.

 

Ÿ

Cafwyd canlyniadau da iawn ar gyfer Astudiaeth Crefyddol TGAU (Cwrs Byr). Roedd 108 o ymgeiswyr o ddwy ysgol ym Môn gyda 37 disgybl mewn un ysgol a 71 yn yr ysgol arall. Llwyddodd 100% o’r ymgeiswyr i ennill gradd TGAU gydag 78.7% yn ennill gradd A*-C. Bu i 47.2% o’r ymgeiswyr ennill gradd A*/A.

 

Ÿ

Da oedd y canlyniadau ar gyfer Addysg Grefyddol Lefel A hefyd. Roedd 60 o ymgeiswyr o Fôn yn amrywio o 4 ymgeisydd mewn un ysgol i 26 mewn ysgol arall. Bu i fwy o ferched ddewis y pwnc na bechgyn. Llwyddodd 98.3% i ennill gradd Safon Uwch gydag 80% yn ennill gradd A*-C. Bu i 33.3% o’r ymgeiswyr ennill gradd A. Mae’r cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 85.3 sydd ychydig yn uwch na’r sgôr yn y pynciau eraill. Mae ymgeiswyr Môn yn perfformio’n dda mewn Addysg Grefyddol. Mae sgôr cyfartalog y merched a’r bechgyn yn is na sgôr gyfartalog y ddau yn y pynicau eraill. Awgryma’r canlyniadau y dylid ystyried sicrhau cefnogaeth ychwanegol i Adran Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Bodedern er mwyn cefnogi’r athrawes lanw fydd yn gyfrifol am y pwnc yn ystod absenoldeb mamolaeth y Pennaeth Adran.

 

Ÿ

Mewn perthynas ag  Astudiaethau Crefyddol Uwch Gyfrannol roedd 63 o ymgeiswyr o ysgolion Môn gyda’r niferoedd yn amrywio o  8 disgybl mewn un ysgol i 25 mewn ysgol arall. Dewisodd mwy o ferched y pwnc ym Môn na bechgyn a mae eu canlyniau yn rhagori ar rai’r bechgyn. Llwyddodd 96.8% i ennill gradd Uwch Gyfrannol gyda 74.6% yn ennill gradd A*-C. Bu i 33.3% o’r ymgeiswyr ennill gradd A. Mae cyfartaledd sgôr y pwnc yn 45.1 sydd ychydig yn uwch na’r sgôr yn y pynicau eraill.

 

 

 

     Gofynnodd cynrychiolydd Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg o ystyried bod nifer o bynciau yn cael eu haddysgu ar sail partneriaethol yng Ngwynedd a oes yna fygythiad i Addysg Grefyddol ym Môn. Ymatebodd y Swyddog Addysg Uwchradd trwy ddweud nad yw Grwp Cwricwlwm Ynys Môn sy’n cyfarfod i drafod addysgu pynciau ar y cyd wedi ystyried Addysg Grefyddol yn y cyd-destun hwn o gwbl. Mae yna bwyslais cynyddol ar gyrsiau mwy galwedigaethol eu naws a gwneir darpariaeth ar y cyd â Choleg Menai yn y maes hwn, ond mae Addysg Grefyddol yn apelio at garfan wahanol o ddisgyblion. Sylwodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gan fod yr arlwy o bynciau yn fwy a rheini’n cael eu cyflwyno mewn amrywo o leoliadau, efallai y gwelir cyfnod lle bydd yna  leihad yn y niferoedd sy’n dewis Addysg Grefyddol. Roedd yr Is-Gadeirydd o’r farn bod y canlyniadau yn rhai calonogol iawn yn enwedig y rhai Uwch Gyfrannol a Lefel A sydd yn dangos bod y nifer sydd yn parhau’n ffyddlon i’r  pwnc yn ail flwyddyn  y chweched dosbarth yn eithaf cyson a bod y nifer sy’n dilyn Astudiaethau Crefyddol wedi dyblu mewn degawd. Cytunodd Mrs Helen Roberts bod gan Fôn athrawon Addysg Grefyddol rhagorol sydd yn denu disgyblion ac wedyn yn eu cadw, a bod y niferoedd felly yn cael eu cynnal gan safonau clodwiw. Dywedodd cynrychiolydd Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg ei fod wedi codi’r pwynt oherwydd cystal i’r CYSAG fod yn effro i unrhyw fygythiad i’r pwnc.

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

      

 

8

CYFARFOD NESAF Y CYSAG

 

      

 

     Roedd cyfarfod nesaf y CYSAG wedi’i raglennu yn y calendr ar gyfer dydd Llun 8 Chwefror, ond oherwydd bod yna wrthdaro rhwng y dyddiad hwn a chwrs HMS, cytunwyd byddai’r CYSAG yn cyfarfod yn hytrach ar brynhawn dydd Mawrth, 9 Chwefror, 2010.

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd E.G.Davies

 

             Cadeirydd