Meeting documents

Governance and Audit Committee
Wednesday, 6th May, 2009

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mai, 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Barrie Durkin, C Ll Everett,

Jim Evans, R Llewelyn Jones, J V Owen, J P Williams,

Selwyn Williams.  

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfreithiwr y Swyddog Monitro (MJ)

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgorau (JG)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr Eric Jones, H Eifion Jones.

 

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2

CADEIRYDD

 

Holodd y Cynghorydd C Ll Everett yng nghyswllt Para 3.4.8.3 o’r Cyfansoddiad, ac â oedd yn cynnwys apwyntiadau wnaed gan Arweinydd y Cyngor pe bai aelodau digyswllt yn methu cytuno ymysg ei gilydd ynglyn â’u dewisiadau ar bwyllgorau?  Sut byddai hyn yn cael ei ddehongli y tu mewn a’r tu allan i’r Cyngor?

 

Dywedodd Cyfreithiwr y Swyddog Monitro yn ei ateb ei fod yn credu bod yn rhaid i aelodau dderbyn y sefyllfa bresennol yn yr ystyr bod yna dri o unigolion y tu allan i’r ddau grwp oedd yn rheoli, sef y Cynghorwyr C Ll Everett, H Eifion Jones ac R Llewelyn Jones.  Roedd y Cynghorydd Everett yn dymuno iddo gael ei nodi yn y cofnodion bod Arweinydd y Cyngor wedi apwyntio aelod digyswllt i wasanaethu ar y Pwyllgor Archwilio.  Roedd yr Arweinydd wedi symud y Cynghorydd P S Rogers ac apwyntio’r Cynghorydd R Llewelyn Jones i’r Pwyllgor hwn.

 

Cafwyd cynnig, a’i eilio, bod y Cynghorydd R Llewelyn Jones yn gwasanaethu fel Cadeirydd y  Pwyllgor hwn.  Cynigiodd y Cynghorydd C Ll Everett y Cynghorydd H Eifion Jones.  Ni chafwyd eilydd i’r cynnig.

 

Etholwyd y Cynghorydd R Llewelyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn.

 

3

IS-GADEIRYDD

 

Cafwyd cynnig a’i eilio y dylai’r Cynghorydd Jim Evans wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd C Ll Everett y byddai’r Is-Gadeirydd yn amlwg yn dirprwyo dros y Cadeirydd pan fyddai’n absennol, ond oherwydd ei fod yn aelod o’r grwp mwyafrifol, roedd o’r farn nad oedd yr apwyntiad yn un cyfansoddiadol.

 

 

Mewn ateb,  dywedodd Cyfreithiwr y Swyddog Monitro bod y Cyfansoddiad yn cyfeirio at Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn unig ac nad oedd yn cyfeirio o gwbl at yr Is-Gadeirydd.  Roedd y Cynghorydd Everett yn dymuno iddo gael ei nodi yn y cofnodion ei fod wedi bwriadu cynnig y Cynghorydd Peter Rogers fel Is-Gadeirydd, ond nad oedd hyn bellach yn bosibl oherwydd iddo gael ei symud oddi ar y Pwyllgor gan Arweinydd y Cyngor, ac felly roedd am gynnig y Cynghorydd H Eifion Jones er mwyn i’r cyfan fod yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.  Roedd hefyd am gwestiynu apwyntiad y Cynghorydd R Llewelyn Jones fel Cadeirydd am y rheswm ei fod wedi’i ethol i eistedd ar y Pwyllgor hwn gan yr Arweinydd, ac iddo hefyd gael ei ganfasio gan y Cynghorydd Thomas Jones, y Deilydd Portffolio Cyllid newydd.  Lle roedd yr annibyniaeth yn y penderfyniad hwn?  Roedd o’r farn ei fod yn hollol anghredadwy, a byddai’n codi’r mater gyda Swyddfa’r Archwiliwr Cyffredinol.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin mai’r Cynghorydd Jim Evans oedd yr Is-Gadeirydd y flwyddyn ddiwethaf ac nad oedd unrhyw bryder wedi’i leisio ar y pryd ac roedd yn tybio mai rhagrith llwyr oedd codi’r mater hwn.

 

 

 

Etholwyd y Cynghorydd Jim Evans yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones

 

Cadeirydd