Meeting documents

Governance and Audit Committee
Tuesday, 9th September, 2003

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi, 2003.  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Gwyn Roberts - Cadeirydd

Y Cynghorydd W.T. Roberts - Is-Gadeirydd

 

Y Cynghorwyr D.D. Evans, P.M. Fowlie, Dr. J.B. Hughes,

O. Gwyn Jones, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Cymdeithasol)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr R.Ll. Hughes, G. Alun Williams.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Bob Parry O.B.E. (Arweinydd y Cyngor)

Y Cynghorydd R.Ll. Jones (Aelod Portffolio Adnoddau)

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd y Cynghorydd D.D. Evans ddiddordeb mewn perthynas â'i swyddogaeth fel llywodraethwr yn y Ysgol y Bont, Llangefni.

 

Datganodd y Cynghorydd O. Gwyn Jones ddiddordeb mewn unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei fab a'i bartner o fewn yr Adran Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

Datganodd y Cynghorydd John Williams ddiddordeb mewn perthynas a chyfeiriad at Queen's Park, Caergybi yn y Rhaglen.

 

Datganodd Aelodau sy'n Llywodraethwyr Ysgolion ar yr Ynys ddiddordeb mewn unrhyw fater yn ymwneud â'r ysgolion y maent yn eu gwasanaethu.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mai, 2003

(Cyfrol y Cyngor 23.09.2003, tudalennau 44 - 52)

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mai, 2003 wedi mabwysiadu Cynllun Gwasanaeth Archwilio Pricewaterhouse Coopers am 2002/2004 ac ychwanegodd bod fersiwn ddrafft o Gynllun Gwasanaeth arall yn cael sylw ac yn cael ei ddiweddaru ar ôl asesu risgiau dan y Dadansoddiad Awdurdod Cyfan.  Gan ddibynnu ar natur y newidiadau a gynigir efallai y bydd raid i Pricewaterhouse Coopers ailgyflwyno cynllun diwygiedig i'r Pwyllgor ei fabwysiadu.

 

 

 

3

ADRODDIAD GWAITH - ARCHWILIO MEWNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill, 2003 i 31 Awst, 2003.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol), yn dilyn bid llwyddianus am gyllid, bod swydd y Dadansoddwr Perfformiad wedi'i hychwanegu at sefydliad yr Uned Archwilio Mewnol.  Penodwyd i'r swydd a dechreuodd y swyddog yn ei gwaith ar 1 Awst, 2003.  Y dyletswyddau yw cynnal gwaith archwilio ar systemau sydd yn cynhyrchu gwybodaeth rheoli perfformiad, hefyd bydd yn gwirio cywirdeb dangosyddion perfformio statudol a lleol ac yn cynnig cymorth i'r tîm Perfformio Corfforaethol ac i'r Adrannau sefydlu systemau i gasglu a chynhyrchu gwybodaeth rheoli perfformiad.  Eisoes mae'r Swyddog wedi dechrau gweithio ar ddadansoddiad risg yng nghyswllt systemau rheoli perfformiad a defnyddir y wybodaeth fel sylfaen i raglen archwilio yng nghyswllt gwaith rheoli perfformiad.

 

 

 

Yn ychwanegol at y gwaith archwilio cynlluniedig derbyniwyd 12 o gontractau cyfalaf yn yr Adain Archwilio rhwng 5 Mai 2003 a 31 Awst 2003.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth bod crynodebau gweithredol i bob un o'r 13 adroddiad a gyhoeddwyd rhwng 5 Mai 2003 a 31 Awst 2003 ynghlwm wrth yr adroddiad.   Yn unol â phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor Archwilio, rhoddwyd adroddiad llawn ar Gynllun Byw'n Annibynnol Ucheldre, maes a gafodd raddfa 'E', i Aelodau'r Pwyllgor hwn fel dogfennau ar wahân.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth mai amcan y gwaith archwilio hwn oedd asesu trefniadau a dulliau rheoli sy'n bod y tu mewn i'r cynllun i sicrhau bod asedion cyllidol y cleientau ac asedion eraill a fo ganddynt a rhai'r awdurdod yn cael eu diogelu.  

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr Adran yn gweithredu ar argymhellion yr adroddiad.

 

 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) bod raid i'r Adain Archwilio Mewnol, yn ystod y flwyddyn, wneud gwaith ar faterion sy'n dod i'r fei yn ystod y gwaith archwilio rhaglenedig neu ar faterion y mae adrannau eraill yn eu dwyn i'w sylw.  Fel yr adroddwyd yn y Pwyllgor diwethaf, cynhaliwyd ymchwiliad i anghysondebau o ran casglu a bancio incwm prydau ysgol yn un o Ysgolion Cynradd y Cyngor.  Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor roedd y mater wedi'i gyfeirio i'r Heddlu am ragor o ymchwiliadau a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor unwaith y bydd canlyniad yr ymchwiliadau hynny yn hysbys.

 

 

 

Yn ychwanegol at y problemau y daethpwyd o hyd iddynt gyda'r Cynllun Camerâu Goruchwylio Cymunedau'n Gyntaf, nodwyd problemau hefyd o ran gweinyddu Grantiau Diogelwch Cymunedol eraill a roddwyd i'r Cyngor yn 2001 a 2002.  Roedd archwiliad yn  cael ei gynnal a buasai canlyniadau'r archwiliad hwnnw yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio unwaith y bydd yr ymchwil wedi'i gwblhau.

 

 

 

Ym mis mis Gorffennaf 2003, cafodd incwm ei ddwyn o un o sefydliadau'r Cyngor.  Cyfeiriwyd y mater yn brydlon i'r Heddlu ac mae'r ymchwiliadau yn parhau.  Roedd yr  Adran dan sylw wedi cymryd camau, yn seiliedig ar gyngor a roddwyd gan yr Adain Archwilio Mewnol, i wella trefniadau rheoli mewnol ac i rwystro'r fath beth rhag digwydd eto yn y dyfodol.  Rhoddwyd gwybod i Yswirwyr y Cyngor fel y gall y Cyngor, os bydd angen, gyflwyno hawliad am unrhyw incwm a gollwyd.  Bydd adroddiad ar ganfyddiadau ymchwiliadau'r Heddlu yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor pan fydd wedi'i gwblhau.

 

 

 

Mae Adran wedi cyfeirio cais am gyllid i'r Adain Archwilio Mewnol ymchwilio iddo. Mae'r archwiliad yn ceisio sefydlu a yw'r ymgeisydd wedi camddatgan incwm ac wedi cyflwyno dogfennau ffug i gefnogi'r cais er mwyn cael cyllid na fyddai, fel arall, wedi bod â hawl iddo.  Mae'r archwiliad yn parhau a chyflwynir adroddiad ar y canfyddiadau i'r Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth bod gwaith yn cael ei wneud ar gais Adrannau ac fel arfer yn cyfateb i gyngor ar reolau cyllidol, ar y rheolau sefydlog i gontractau ac ar drefniadau tendro, ac ar y rheolau mewnol sy'n angenrheidiol i systemau newydd neu yn ymwneud â thrafodaethau i newid systemau.  Yn achos y rhan fwyaf o'r gwaith ni pharatoir adroddiad a gallai'r gwaith mewn gwirionedd fod cyn lleied â ½ awr.  Dyma'r meysydd y rhoddwyd sylw iddynt rhwng 5 Mai a 31 Awst 2003 :-

 

 

 

Ÿ

Cynnal asesiad ariannol o dendrwyr ar gyfer contractau.

 

Ÿ

Rhoi cyngor ar drefniadau tendro ar gyfer amryfal gontractau.

 

Ÿ

Rhoi cyngor cyffredinol ar nifer o faterion i'r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol,  Ysgolion,  yr Adran Addysg a Hamdden.  

 

 

 

Gwnaed gwaith-dilyn-i-fyny ar 16 o adroddiadau archwilio a gyhoeddwyd rhwng 5 Mai a 31 Awst 2003 ac mae'r manylion ar gael yn yr adroddiad.  Diweddarodd y Pennaeth Gwasanaeth yr adroddiad a nododd bod y rhai a ganlyn wedi ymateb yn foddhaol:-

 

 

 

Rhenti Amryfal Eiddo - Adain Datblygu Economaidd;

 

Ffioedd All-Sirol - Adran Addysg a Hamdden;

 

Grantiau i Fusnesau - Datblygu Economaidd - Adain Datblygu Economaidd;

 

 

 

Llyfrgelloedd Rhosneigr, Moelfre, Cemaes, Benllech a Niwbwrch - Adran Hamdden ac Addysg;

 

Cyflogau Athrawon - Adran Hamdden ac Addysg.

 

 

 

Yng nghyswllt gosod adeiladau yr Ysgolion dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth bod yr Adran Addysg a Hamdden wrthi'n adolygu'r polisi ac yn achos Taliadau Cludiant i Ysgolion cododd anawsterau oherwydd absenoldeb gwaeledd tymor hir yr unigolyn sy'n gweinyddu'r gwasanaeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

3.1

derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill - 31 Awst 2003 a nodi ei gynnwys.

 

 

 

3.2

bod adroddiad yn cael ei gyflwyno cyn pen y cyfnod 6 mis ar Gynllun Byw'n Annibynnol Ucheldre ac yn nodi'r cynnydd.

 

 

 

Y CYNGHORYDD GWYN ROBERTS

 

CADEIRYDD