Meeting documents

Governance and Audit Committee
Thursday, 18th August, 2005

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Awst, 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd G.O. Parry MBE (Cadeirydd)

Y Cynghorydd W.I. Hughes (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr John Byast, Aled Morris Jones, J. Arthur Jones,

R.G. Parry OBE, E. Schofield, W.T. Roberts.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol)

Rheolwr Cyfrifeg (RP)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd John Roberts (Aelod Portffolio Cyllid, Archwilio a Thechnoleg Gwybodaeth)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr. Ian Howse (Rheolwr Archwilio, PricewaterhouseCoopers)

 

1

DATGANIAD DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2005.

(Cyfrol y Cyngor 20.09.2005, tud 115 - 118)

 

Yn codi

 

2.1

Eitem 4.2 - Hawliadau Cymhorthdal Tai a Chymhorthdal Budd-daliadau Tai

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a gafwyd ar y sefyllfa ddiweddaraf yn y cyfarfod cynt yng nghyswllt cyflwyno Hawliadau Cymhorthdal Tai a Chymhorthdal Budd-daliadau Tai i'r Adran Gwaith a Phensiynau eu harchwilio a hefyd yng nghyswllt materion eraill.  Nodwyd bod rhai materion yn dal i fod heb eu datrys ac o'r herwydd teimlwyd y gellid fod wedi cyflwyno adroddiad arall eto ar y sefyllfa ddiweddaraf i'r cyfarfod hwn.  Gofynnwyd a oedd yr Hawliad Cymhorthdal Budd-daliadau Tai wedi'i gyflwyno bellach i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Nodwyd pryder hefyd byddai'r  buddsoddiad yn y gwelliannau ar gyfer casglu hawliadau budd-dal a gwybodaeth perfformiad yn cael ei wastraffu pe byddid yn gorffen gyda'r System Budd-daliadau.

 

Yng nghyswllt darparu gwybodaeth reolaidd i'r Pwyllgor am hel ynghyd yr Hawliadau Cymhorthdal Tai a Chymhorthdal Budd-daliadau Tai, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod adroddiad wedi'i gyflwyno ar gynnydd sylweddol yn y maes hwn i gyfarfod blaenorol y Pwyllgor ym Mehefin.  Cododd y mater hwn yn y lle cyntaf o Lythyr Archwilio 2004 yr Archwilwyr Allanol a buasai'r Pwyllgor yn derbyn rhagor o wybodaeth ar y mater hwn a materion eraill pan fydd yr Archwilwyr yn adrodd y tro nesaf yn eu Llythyr Archwilio am 2005.  Hefyd câi'r Pwyllgor Archwilio gyfle eto i drafod y materion hyn wrth iddynt gael eu dwyn i'w sylw mewn adroddiadau gan archwilwyr allanol a mewnol.

 

 

 

Gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) cafwyd cadarnhad bod yr Hawliadau Cymhorthdal Tai a Chymhorthdal Budd-daliadau Tai am 2003/04 wedi'u cyflwyno i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac i'w harchwilio, a bod yr archwilwyr wrthi yn cwblhau'r gwaith archwilio ar yr hawliadau am y flwyddyn honno.  Yng nghyswllt y system i hel ynghyd yr hawliadau budd-daliadau nid oedd y mater yn ymwneud yn uniongyrchol â'r awdurdod hwn ond yn hytrach yn ymwneud â grwp defnyddwyr y system, y cwmni a'r Adran Gwaith a Phensiynau.  

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) y byddai'r adran wedi cael defnydd o'r gwelliannau cymhorthdal gyda chymorth grant am ddwy neu dair blynedd o fewn termau'r grant.

 

 

 

2.2

Eitem 5 - Adroddiad Gwaith Archwiliad Mewnol

 

 

 

2.2.1

Cyfeiriwyd at yr archwiliadau hynny na chafwyd ymateb iddynt cyn pen 3 mis ac o'r herwydd roeddent yn dal i fod heb eu setlo, a nodwyd bod cynnydd wedi'i wneud ar 13 o'r archwiliadau oedd y tu allan i'r amserlen hon a chroesawyd hynny. Yr un pryd nodwyd nad oedd ymateb wedi'i dderbyn i 4 archwiliad a bod gwaith yn dal i gael ei wneud ar 2 ohonynt, a gofynnwyd a oedd yr archwiliadau wedi'u cwblhau ai peidio a hefyd beth oedd y sefyllfa yng nghyswllt y 2 archwiliad arall.  

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) bod y 2 archwiliad hwnnw oedd heb eu setlo am y cyfnod hwyaf yn dal i fod heb eu setlo ond bod gwaith sylweddol wedi'i wneud ar weddill yr archwiliadau oedd heb eu setlo fel yr adroddwyd i gyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn.  Ychwanegodd y buasai mewn sefyllfa well i adrodd ar y mater i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio oedd wedi'i drefnu ar gyfer mis Medi.

 

 

 

Mynegwyd pryder gan un aelod o'r Pwyllgor am na weithredwyd yn llawn ar benderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Archwilio - sef penderfyniad na ddylai archwiliad barhau i fod heb ei setlo am gyfnod hwy na 3 mis.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod cynnydd sylweddol wedi digwydd yn y maes hwn ac adroddiad wedi'i gyflwyno ar hynny i gyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor a bod y gwaith yn parhau i fynd yn ei flaen.  Buasai'n fwy priodol ystyried y mater hwn yng nghyfarfod chwarterol nesaf y Pwyllgor ym mis Medi pryd y bwriedir cyflwyno adroddiad cynnydd llawn a hynny pan fydd yr holl ffeithiau ar gael.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y buasai adroddiad cynnydd llawn ar waith archwilio mewnol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Medi.

 

 

 

2.2.2

Cyfeiriwyd at ysgol a sefydlodd gronfa gynilion answyddogol ac arian ohoni wedi'i gamddefnyddio.  Roedd adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor hwn yn nodi bod trafodaethau wedi'u cynnal ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio polisi yswiriant y Cyngor Sir i ad-dalu y rheini a gyfrannodd tuag at y gronfa ac a gollodd arian, ond gofynnwyd a oedd hi'n briodol defnyddio yswiriant y Cyngor i ddiogelu cronfa answyddogol a mynd i gostau o'r fath.  

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol bod yn y rheoliadau ariannol ddiffiniad o gronfeydd answyddogol ac yn y diffiniad hwnnw gwahaniaethir rhwng cronfeydd sy'n cael eu prosesu trwy gyfrif canolog y Cyngor ar y naill law a threfniadau eraill, megis  cronfeydd ysgolion.  Nid cronfeydd y Cyngor fel y cyfryw yw'r cronfeydd hyn sydd gan ysgolion ond cânt eu rheoli yn lleol gan y Prifathro a'r corff Llywodraethol.  Fodd bynnag, mae staff archwilio'r Cyngor, fel rhan o'u gwaith beunyddiol, yn monitro cronfeydd answyddogol, ac mae dyletswydd ar y Cyngor i ddarparu diogelwch yswiriant i staff sy'n delio gydag arian yn rhinwedd eu swyddi.  Roedd y gronfa yn yr ysgol dan sylw yn un fwy anffurfiol na chronfa answyddogol ysgol ac o'r herwydd roedd yn dod o dan gategori mwy anodd i'w ddiffinio. Mae'r polisi yswiriant i hawlio yn ei erbyn felly mewn lle ac mae'r trafodaethau yr adroddwyd arnynt i gyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn ymwneud â'r broses o gyflwyno hawliad.  

 

 

 

2.2.3

Eitem 6 - Adroddiad yr Archwiliwr Allanol

 

 

 

Yng nghyswllt y drafodaeth ar Reoli Perfformiad, nododd aelod o'r Pwyllgor ei bod hi'n briodol i'r Pwyllgorau Sgriwtini ac Archwilio fonitro a chadw golwg ar berfformiad ac ar gynnydd yn y maes hwn er mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt penderfyniadau o ddydd i ddydd, yw rheoli perfformiad.

 

3

FERSIWN DDRAFFT O DDATGANIAD CYFRIFON 2004/05

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid yn cynnwys fersiwn ddrafft o Ddatganiad Cyfrifon 2004/05.

 

 

 

Gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid cafwyd cyd-destun cyflwyno'r fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon i'r Pwyllgor Archwilio a dygodd sylw at rai o'r prif ystyriaethau yn codi o'r datganiad fel a ganlyn:

 

 

 

3.1

Mewn llywodraeth leol mae gofyn i'r Cyngor fabwysiadu y fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon cyn ei archwilio, ac yn y maes cyhoeddus.  Wedyn bydd y rhain yn wynebu cyfnod o archwilio cyhoeddus a dyma pryd y dechreua gwaith yr archwiliwr ar y datganiad cyfrifon.  Ar ôl derbyn barn yr archwiliwr ar y cyfrifon, mae'r cyfrifon archwiliedig yn cael eu cyhoeddi'n ffurfiol.  Hefyd mae'n bosibl y bydd raid adrodd yn ôl i'r Cyngor ar unrhyw newidiadau sylweddol i'r Datganiad Cyfrifon ers cyflwyno'r fersiwn ddrafft.

 

3.2

Dan y rheoliadau nid yw'n bosib dirprwyo'r Datganiad Cyfrifon i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.  Yn y gorffennol y Cyngor llawn a fu'n gwneud y gwaith hwn yn ei gyfarfod ym mis Medi a'r Pwyllgor Archwilio yn derbyn adroddiad ar newidiadau i'r cyfrifon ar ôl cwblhau'r farn archwilio yng nghyfarfod Rhagfyr gan adlewyrchu'r amserlen statudol a than honno mae'n rhaid cwblhau'r fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon erbyn 30 Medi bob blwyddyn, a'r farn archwilio erbyn 31 Rhagfyr.

 

3.3

Ond mae'r amserlen statudol wedi'i dwyn ymlaen a'r nod, erbyn 2007 yw cyhoeddi cyfrifon 2006-07 erbyn 30 Mehefin a chael y farn archwilio dri mis yn ddiweddarach.  Mae'r amserlen statudol eisoes wedi'i chyflwyno yn Lloegr.  Er nad oes grym statudol i hyn yng Nghymru eto mae'r Awdurdod yn amcanu at gwblhau yn Awst 2005 fel paratoad ar gyfer dwyn y broses ymlaen gam ychwanegol i Orffennaf 2006.

 

3.4

Er mwyn osgoi gorfod galw cyfarfod o'r Cyngor llawn ym mis Awst mae'r cynllun dirprwyo ym Môn bellach yn caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio gymeradwyo'r fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon.  Hwn oedd pwrpas galw cyfarfod o'r Pwyllgor hwn.  

 

3.5

Wrth i'r Pwyllgor Archwilio sgriwtineiddio'r Datganiad Cyfrifon mae'n cael cyfle i ofyn cwestiynau ar faterion na fuasent, fel arall, yn dod i'w sylw, ond gan fod y Datganiad Cyfrifon yn adroddiad ar ffeithiau hanesyddol ac yn gorfod cydymffurfio gyda fformat cydnabyddedig dan y Datganiad o Arferion a Argymhellir, dyw'r Pwyllgor yn cael fawr ddim cyfle i newid y Datganiad Cyfrifon cyn ei gymeradwyo.

 

3.6

Mae ffyrdd eraill, heblaw y Datganiad Cyfrifon, o roddi gwybod i aelodau'r Cyngor am ganlyniadau ariannol y flwyddyn.  Cyflwynir adroddiadau rheolaidd ar fonitro'r gyllideb i'r Pwyllgor Gwaith, a chyflwynwyd adroddiadau ar gau'r cyfrifon ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf eleni; roedd yr adroddiadau hyn ar gael i holl aelodau'r Cyngor ac roeddynt hefyd yn y maes cyhoeddus. Ond mae'r Datganiad Cyfrifon yn cadarnhau'r canlyniadau hyn a hynny mewn ffordd ffurfiol a chydnabyddedig.

 

3.7

Roedd rhannau o'r Datganiad Cyfrifon a gyflwynwyd i'r aelodau yn anghyflawn (dosbarthwyd y fersiwn ddiweddaraf yn y cyfarfod), ond roedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth yr oedd y Pwyllgor Archwilio yn debyg o fod ei hangen wedi'i chynnwys yn y fersiwn ddrafft a gyflwynwyd.  Y bwriad oedd cyflwyno Datganiad Cyfrifon llawn a gorffenedig i gyfarfod mis Medi o'r Pwyllgor Archwilio am ei gymeradwyaeth cyn symud ymlaen i'r broses o adolygu ac archwilio cyhoeddus.  Buasai unrhyw newidiadau i'r Datganiad, ar ôl derbyn y farn archwilio, yn destun adroddiad i gyfarfod mis Rhagfyr o'r Pwyllgor Archwilio.

 

3.8

Roedd y Datganiad Cyfrifon yn rhoddi arolwg o flwyddyn ariannol 2004/05 ac yn egluro materion cyllidol Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod y flwyddyn honno a hefyd yn egluro ei sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn.

 

3.9

Roedd gwir wariant y flwyddyn yn dangos gorwariant sylweddol yn erbyn y cyllidebau gwreiddiol ar gyfer lleoliadau all-sirol gwasanaethau cymdeithasol i blant, ac ar gyfer ymateb i ddigartrefedd: dwy gyllideb sydd yn cael eu harwain gan y galw ac a adnabuwyd fel rhai risg uchel i gyllid y Cyngor.  Yn ystod y flwyddyn hefyd, gorfu i wasanaeth Priffyrdd y Cyngor ymateb ar frys i effaith llifogydd a difrod tywydd garw fis Hydref, gwariant ychwanegol a gyllidwyd yn bennaf o gynllun cymorth argyfwng "Bellwin" gan y Cynulliad Cenedlaethol.  Rhagwelir y bydd adroddiad addasu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn lleihau'r swm ar gyfer Grant Cymorth Refeniw am y flwyddyn i fod yn is nag oedd yn hysbys wrth osod y gyllideb.  Ymdopwyd a'r costau uwch hyn yn rhannol gan welliant sylweddol ar gyllidebau llog, a chan drosglwyddo £0.5m o gronfeydd wrth gefn ychwanegol nad oedd mo'i angen yno.

 

3.10

Yn ystod y flwyddyn roedd tanwariant net gan yr ysgolion wedi ychwanegu at eu cronfeydd wrth gefn a chodi cyfanswm y rheini i £2.4m, ac roedd hynny'n uchel o'i gymharu gydag awdurdodau eraill Cymru.  Roeddynt wedi'u diogelu ar gyfer defnydd yr ysgolion unigol ac roedd sefyllfaoedd y rheini yn amrywio o ysgol i ysgol.

 

3.11

Roedd y rhaglen gyfalaf am y flwyddyn yn cynnwys eitemau mawrion a wnaeth wahaniaeth i wasanaethau sylfaenol y Sir a hynny'n cynnwys prosiectau Caergybi a Phenrhos a Ffordd Gyswllt Llangefni.  Cafwyd sawl enghraifft o gostau'n cynyddu yng nghyswllt eitemau o wariant cyfalaf a hynny i'w briodoli'n bennaf i'r cynnydd yn y costau adeiladu, a bu'r cynnydd yn y costau oherwydd chwyddiant prisiau yn gymaint o broblem â llithriad yn erbyn amserlenni a gynlluniwyd.

 

3.12

Cyllidwyd y rhaglen gyfalaf gan gymysgedd o grantiau gan gyrff allanol, cyfraniad refeniw o £0.25m a drosglwyddwyd o arian wrth gefn clustnodedig fel rhan o'r gyllideb wreiddiol, ffynonellau refeniw eraill, a derbynion cyfalaf.  Wedi cynnydd mawr yn nerbyniadau cyfalaf y flwyddyn flaenorol, yn codi yn bennaf o newidiadau yn y trefniadau Hawl i Brynu tai, disgynnodd gwerth derbynion cyfalaf yn 2004-05.  Gyda'r hyblygrwydd a gyflwynwyd gan y Côd Pwyllog ar gyfer Cyllid Cyfalaf, newidiwyd y flaenoriaeth o wahanol ddulliau o gyllido, gan olygu na ddefnyddiwyd benthyca fel dull o gyllido gwariant cyfalaf y flwyddyn.  Gan adlewyrchu hyn a pheth llithriad ar wariant, mae'r Angen Cyllido Cyfalaf yn llai ar ddiwedd y flwyddyn nag a ragwelwyd ar ddechrau'r flwyddyn.  Cynyddodd y ddyled allanol £0.5m yn unig yn y flwyddyn, i £93.9m.  

 

3.13

Mae'r datganiad yn datgelu ymrwymiad net amcangyfrifiedig o £56.0 miliwn mewn perthynas â phensiynau, wedi codi o £32.5 miliwn ar 31 Mawrth 2004.  Er bod gwerth marchnad asedau'r Gronfa Bensiwn wedi cynyddu, mae'r diffyg wedi cynyddu yn bennaf oherwydd newid yn y rhagdybiaeth y mae'n ofynnol i'r actiwari ei ddilyn wrth amcangyfrif gwerth yr ymrwymiadau.  Mae'r sylw cynyddol i'r mater hwn yn parhau i effeithio ar y sefyllfa ariannol ac ar benderfyniadau cyllidol yn y dyfodol.

 

3.14

Roedd y Cyngor wedi gwneud darpariaeth ar gyfer atebolrwydd oedd yn hysbys ac wedi sefydlu cronfeydd wrth gefn pan oedd gofyn am hynny dan statud, pan glustnodwyd hynny gan gynlluniau'r Cyngor, neu pryd bynnag yr oedd hi'n ddoeth i bwrpas wynebu risg neu ansicrwydd.  Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd cronfeydd wrth gefn yr ysgolion yn £2.4m, Cronfeydd wrth Gefn y Cyfrif Refeniw Tai yn £0.8m, a'r Balansau Cyffredinol yn £3.6m.  Ond roedd cyfanswm yr arian wrth gefn clustnodedig wedi gostwng, a hynny yn rhannol am fod rhan ohono wedi'i ddefnyddio i gwrdd â gorwariant yn ystod y flwyddyn.  Gallai'r materion a ddatgelwyd fel atebolrwydd wrth gefn yn y cyfrifon hyn, dan amgylchiadau drwg, fygwth sefydlogrwydd ariannol y Cyngor.  Roedd y fantolen yn wannach ar 31 Mawrth, 2005 nag ydoedd flwyddyn ynghynt.

 

 

 

Rhoes yr aelodau groeso i'r adroddiad a'r wybodaeth fanwl ynddo a nodwyd hefyd yr holl waith mawr a wnaed ar y Datganiad.  Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd codwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

 

 

3.15

Yng nghyswllt y diffyg yn y Gronfa Bensiwn, gofynnwyd beth oedd y rhagolygon i'r Gronfa dros y blynyddoedd nesaf ac a oedd y diffyg yn debygol o dyfu a sut yr oedd sefyllfa Ynys Môn yn cymharu gyda sefyllfa awdurdodau lleol eraill.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod yr Actiwari wedi gwneud asesiad i dalu'r diffyg yn ôl dros gyfnod o 30 mlynedd ac felly câi'r mater sylw dros gyfnod hir iawn.  Roedd hi'n debyg y buasai'r Awdurdod yn adrodd ar ddiffyg yn y Gronfa Bensiwn o flwyddyn i flwyddyn ond roedd cyfraniad y cyflogwr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.  Mewn ymateb i'r cwestiwn ar sefyllfa Môn yng nghyswllt y Gronfa Bensiwn a sut yr oedd yn cymharu gydag awdurdodau eraill, dywedwyd bod cronfa'r awdurdod hwn ynghlwm wrth Gyngor Sir Gwynedd a bod sefyllfa'r Cyngor hwnnw yn nodweddiadol o gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yn gyffredinol.  Roedd Powys ac ardal hen sir Dyfed mewn sefyllfa well yng nghyswllt eu Cronfeydd Pensiwn ond nid oedd sefyllfa Ynys Môn yng nghyswllt diffyg yn y Gronfa Bensiwn yn anarferol.

 

      

 

3.16

Mynegwyd rhai pryderon oherwydd bod cymaint o ddefnydd yn cael ei wneud o gronfeydd wrth gefn yr Awdurdod i gwrdd â gorwariant.  Nodwyd bod ansicrwydd ynghylch pwy oedd yn cwrdd â'r gorwariant, ai cronfeydd wrth gefn yn yr adrannau neu gronfeydd eraill, a gofynnwyd am eglurhad ar y mater.

 

     Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod penderfyniad ffurfiol wedi'i wneud i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yr hen Drefniant Llafur Uniongyrchol a Hyfforddiant Môn ar ôl asesu anghenion y gwasanaethau hynny a'r gwaith hwnnw wedi dangos bod ganddynt fwy nag oedd ei angen.  Yng nghyswllt cronfeydd wrth gefn yn yr adrannau, roedd y cyfrifon yn dangos fod y gwasanaethau wedi gwneud defnydd o'u cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn yn unol â'r pwerau a roddwyd iddynt i ddefnyddio cronfeydd adrannol wrth gefn i gyllido cynigion penodol.  Yn gyffredinol, roedd cronfeydd wrth gefn y gwasanaethau wedi gostwng yn ystod y flwyddyn a hynny oherwydd gweithredu ar gynlluniau penodol i'w defnyddio.

 

      

 

     Yn ôl dealltwriaeth un aelod o'r cyfrifon roedd £750k wedi'i gymryd o'r cronfeydd wrth gefn i gwrdd â gorwariant a bod y cyfryw swm yn ymddangos yn fwy na'r cronfeydd wrth gefn oedd yn cael eu dal gan y Trefniant Llafur Uniongyrchol a Hyfforddiant Môn.  Roedd penderfyniad wedi'i wneud i drosglwyddo arian o'r cronfeydd wrth gefn i'r gronfa ganolog, ond yn ôl ei ddealltwriaeth ef roedd angen enwi, yn y gyllideb, unrhyw gynllun yr oedd bwriad i wario arian wrth gefn arno a gofynnodd a oedd penderfyniad o'r fath wedi'i wneud gan y Pwyllgor Gwaith.

 

      

 

     Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod swm o £250k yn rhan o'r gyllideb wreiddiol am y flwyddyn; roedd bwriad yn y gyllideb, yn unol â chynnig gan y Pwyllgor Gwaith, i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i ddibenion y rhaglen gyfalaf.  Yn ystod y flwyddyn, yn wyneb y gorwariant, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith wneud rhagor o ddefnydd o'r cronfeydd wrth gefn ac roedd y cynnig hwn yn rhan o gynigion cyllidebol cyfun am 2005/06 a gyflwynwyd i'r Cyngor.  Fodd bynnag, cafodd y weithrediad ei gyflawni yn y cyfrifon yn ystod blwyddyn ariannol 2004/05  - mae hyn yn bosibl gan fod y penderfyniad wedi'i wneud ym mis Mawrth, 2005.

 

      

 

3.17

O ran pennu materion polisi, roedd y cyfrifon yn rhoddi gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i'r aelodau o ran amlinellu dewisiadau posib wrth benderfynu ar y rhaglen gyfalaf a'r gyllideb am y flwyddyn ddilynol e.e. newidiadau i'r Cynlluniau Hawl i Brynu Tai a'r Côd Pwyllog ar gyfer cyllid cyfalaf a oedd yn golygu na fu i'r awdurdod wneud defnydd llawn o'i allu i fenthyca.

 

      

 

     Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) roedd gofyn i'r cyfrifon fod wedi cael eu drafftio i adlewyrchu sut yr oedd derbynion cyfalaf yn cael eu trin yn 2003/04 yn unol â Deddf 1989, a hefyd y driniaeth ar gyfer 2004/05 o dan ddeddfwriaeth newydd 2003.  Roedd y cefndir technegol wedi newid ond, yn ymarferol, roedd y dull o wneud penderfyniadau ar gynlluniau cyfalaf yn aros heb newid ac yn seiliedig ar a oedd y cynllun yn fforddiadwy ai peidio.  Roedd rhywfaint o ystwythder o ran defnyddio mwy neu lai o fenthyca i gyllido gwariant, neu ar gyfer defnyddio mwy o dderbynion cyfalaf a gosod llai o'r neilltu  ar gyfer ad-dalu, ond yn ymarferol mae'r ystwythder hwn wedi'i gyfyngu gan y cwestiwn o fforddiadwyaeth sydd yn parhau yn ystyriaeth o bwys ac sydd yn cael ei asesu cyn dechrau pob blwyddyn ariannol - fel rhan o broses y gyllideb.

 

      

 

3.18

Gwnaed sylw bod y cyfrifon yn dangos bod sefyllfa'r Awdurdod yn wannach ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2004/05 nag yn y flwyddyn cynt a bod rhybudd yma y gallai materion a ddatgelir fel ymrwymiadau wrth gefn yn y cyfrifon, petai pethau'n mynd yn ddrwg, fygwth sefydlogrwydd ariannol y Cyngor.  Nodwyd bod angen darparu rhagor o wybodaeth fanwl am yr union ddefnydd a wneir o'r cronfeydd wrth gefn er mwyn medru asesu perfformiad.  Petai'r Awdurdod heb orwario yn ystod y flwyddyn buasai mewn sefyllfa ariannol gref iawn, ac o'r herwydd rhaid rhoi cyfrif am y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn.

 

      

 

     Un neges a ddeuai o'r cyfrifon, yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid, yw bod sefyllfa ariannol yr Awdurdod rhywfaint yn wannach.  Nid oedd y cyfrifon yn manylu ar danwariant nac ar orwariant nac yn dweud ymhle y digwyddodd y cyfryw bethau, ond yn hytrach yn rhoi  trosolwg cyffredinol o sefyllfa'r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Ond roedd adroddiadau chwarterol i'r Pwyllgor Gwaith yn dwyn sylw at achosion o orwario ac o danwario fel bod modd rhoddi sylw i'r cyfryw faterion a chymryd camau i gywiro.  

 

      

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon am 2004/05 a nodi y bydd drafft arall yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi.  

 

 

 

      

 

4     ADRODDIAD CYNNYDD YR ARCHWILWR ALLANOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf gan Archwilwyr Allanol y Cyngor a hwnnw'n amlinellu cynnydd yn erbyn Llythyr Archwilio Blynyddol 2004/05 ac yn nodi'r meysydd yr oedd gwaith wedi'i wneud arnynt.

 

      

 

     Dywedodd Mr. Ian Howse, Rheolwr Archwilio, PricewaterhouseCoopers wrth yr aelodau iddo gyflwyno adroddiad llafar ar y cynnydd i gyfarfod cynt y Pwyllgor Archwilio a chytunwyd yno y buasai'n cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar y sefyllfa ddiweddaraf i'r cyfarfod nesaf gan ddilyn patrwm adroddiadau cynnydd yr Adain Archwilio Mewnol.  Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd crynodebau gweithredol i'r tri phrif adroddiad y cyfeiriwyd atynt yng nghyfarfod cynt y Pwyllgor yng nghyswllt bid Gemau'r Ynysoedd, Rheoli Prosiectau a Rheoli Perfformiad.  Roedd yr adroddiadau wedi'u cyflwyno i'r ffora perthnasol ac yn achos rheoli perfformiad a rheoli prosiectau cawsant eu cyfeirio i'r Pwyllgor Gwaith ymateb iddynt.

 

      

 

     Codwyd y materion a ganlyn ar yr adroddiad -

 

      

 

4.1

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at y crynodeb gweithredol o Asesiad Risg Bid Gemau'r Ynysoedd a gofynnodd am gopi llawn o'r adroddiad.  Yng nghrynodeb yr Archwilwyr sylwodd eu bod wedi dweud mai ychydig o dystiolaeth oedd ar gael i'r defnydd o her allanol i'r gwerthuso opsiynau, a'r cyswllt rhwng hynny a'r bid am Gemau'r Ynysoedd ac i wneud defnydd ehangach o gynaliadwyaeth, a gofynnodd am eglurhad ar y mater hwn.   

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd Rheolwr Archwilio PWC mai'r mater mwyaf oedd absenoldeb unrhyw strategaeth hamdden i'r Ynys ac roedd y bid yn rhan o'r cyd-destun eang hwnnw.  Yr ystyriaeth allweddol yw'r strategaeth ac ym mha fodd y mae'r Awdurdod hwn yn bwriadu cwrdd ag anghenion hamdden yr Ynys.  Y cwestiwn, yng nghyswllt y bid am y Gemau, oedd hwn - a oedd yr Awdurdod wedi'i herio'n ddigonol adeg rhoi'r bid wrth ei gilydd ac a oedd sylw wedi'i roddi i'r holl opsiynau cyn symud ymlaen?

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod gwaith yn dal i gael ei wneud ar y Strategaeth Hamdden a'r gwerthuso opsiynau.  Roedd yr ymarferiad Gwerthuso Opsiynau yn ymwneud â'r ddarpariaeth hamdden bresennol a chodi safon y Canolfannau Hamdden, ac er bod cyswllt rhwng y materion hyn â'r bid am Gemau'r Ynysoedd roedd y mater yn un ar wahân ac yn dal i gael sylw.   Roedd rhaid gweithio mwy ar y gwerthusiad opsiynau ac wrth gwblhau'r ymarferiad hwn bydd yr Awdurdod yn dangos bod ganddo syniadau a fydd yn cyfrannu tuag at y strategaeth hamdden.  Yng nghyswllt prinder tystiolaeth o'r defnydd a wnaed o her allanol i'r gwerthusiad ar yr opsiynau cafodd y cyfryw waith ei wneud gan ymgynghorwyr allanol, a gormod efallai yw gofyn bod yr ymarferiad yn cael ei wneud yn allanol a wedyn ei fod hefyd yn cael ei herio yn allanol.  

 

      

 

4.2

  Cyfeiriwyd at y Côd Ymarfer Archwilio ac Arolygu newydd i Gymru sy'n cyflwyno

 

     gofynion statudol fel bod archwilwyr yn gorfod cyflwyno casgliad ar a ydyw corff a archwiliwyd gyda threfniadau priodol yn eu lle i sicrhau gwerth am arian yng nghyswllt defnyddio'i adnoddau. Dygwyd sylw at y ffaith fod yr archwilwyr wedi nodi nad oedd yr un mater o bwys yn codi o'r gwaith i'w ddwyn i sylw'r Pwyllgor, ac yn sgîl hynny gofynnwyd a oedd yr Archwilwyr yn credu bod yr Awdurdod wedi cyflawni'r gofynion gwerth am arian ym mhob agwedd ar ei waith.  

 

      

 

     Nododd y Rheolwr Archwilio bod yr archwilwyr wrth ddatgan nad oedd ganddynt unrhyw fater i ddwyn i sylw'r Pwyllgor yn cyfeirio at faterion yn ymwneud ag agweddau ariannol gwaith llywodraeth gorfforaethol a chyfrifon.  Yng nghyswllt y Côd Ymarfer Archwilio ac Arolygu Newydd nid oedd Swyddfa Archwilio Cymru, hyd yma, wedi cyhoeddi meini prawf i'w defnyddio wrth asesu a oedd corff archwiliedig â threfniadau boddhaol yn eu lle i sicrhau effeithiolrwydd ariannol a gwerth am arian; hyd oni fuasai meini prawf yn eu lle ni allai'r Archwilwyr gynghori'r Awdurdod ar sut i gydymffurfio gyda nhw.  Unwaith y cânt eu cyhoeddi, bydd y meini prawf hyn yn cael eu defnyddio gan yr holl archwilwyr yng nghyswllt holl awdurdodau Cymru er mwyn penderfynu a ydyw'r trefniadau'n foddhaol i sicrhau gwerth am arian.

 

      

 

4.3

Cyfeiriwyd at waith perfformiad lleol a hefyd hyfforddiant ar y cyd a roddwyd ym mis Gorffennaf gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Er nad oedd modd cynnwys y cyfan o'r Cyngor Sir yn y rhaglenni hyfforddi nodwyd bod angen rhoddi gwybod i bob aelod o'r Cyngor Sir am y datblygiadau a'r cynnydd yng nghyswllt perfformiad ac awgrymwyd bod pob aelod unigol yn cael gwybod am y meini prawf a ddefnyddir i sicrhau trefniadau ar gyfer effeithiolrwydd a gwerth am arian unwaith y cânt eu cyhoeddi a hefyd bod unrhyw ddogfennaeth sy'n codi o sesiynau hyfforddiant ar gael i'r holl aelodau.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio y Pwyllgor at y Crynodeb Gweithredol - Asesiad Sylfaenol o Waith Rheoli Perfformiad - a hefyd at sylwadau'r archwilwyr bod raid i'r Awdurdod sicrhau y bydd swyddogaeth y Tîm Rheoli Corfforaethol, dan y fframwaith newydd, yn canolbwyntio ar integreiddiad a pherchenogaeth gan y cyfan o'r Awdurdod, a nododd hefyd bod yr archwilwyr yn gwbl gefnogol i'r dull cyfannol hwn o weithio.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd E. Schofield cafwyd cynnig bod y Pwyllgor yn gwneud penderfyniad ffurfiol i'r perwyl hwn, a gofynnodd am gopi llawn o'r tri adroddiad ar Fid Gemau'r Ynysoedd, y Prosiect Rheoli a Rheoli Perfformiad.

 

      

 

4.4

Gofynnwyd hefyd a oedd strwythur yr uned archwilio mewnol yn ddigonol i fodloni gofynion y Côd Ymarfer Archwilio ac Arolygu newydd.

 

      

 

     Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Archwilio y buasai'n rhaid ystyried y mater hwn unwaith yn rhagor pan fydd y meini prawf ar gael a'u goblygiadau'n hysbys.

 

      

 

4.5

Dygwyd sylw at sylwadau a wnaed gan yr archwilwyr, sef bod raid i'r Awdurdod sicrhau nad yw gwaith monitro yn cael ei ddyblygu ar lefel gwasanaeth neu ar lefelau corfforaethol, a nodwyd hefyd bod yn rhaid i'r awdurdod fod yr un mor ofalus i sicrhau bod materion a nodwyd fel rhai sy'n haeddu sylw yn cael eu gweithredu wedyn, a bod cyfrifoldeb ar bob aelod unigol i fonitro perfformiad ac ystyried pa mor dda y mae'r Awdurdod yn gweithredu a pha mor effeithiol y mae'n rheoli ei wasanaethau.  Rhoddwyd croeso i sefydlu'r Panel Rheoli Perfformiad a llongyfarchwyd ef ar ei waith.  I bwrpas sicrhau dull cytbwys a chyfannol o weithio cynigiwyd y dylid cael cynrychiolaeth o'r tu allan i'r Grwpiau Rheoli ar y Panel Rheoli Perfformiad, a bod y cynnig yn cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.  

 

      

 

     Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid mai'r neges i'w nodi o adroddiad yr archwilwyr oedd yr angen i fod yn glir ynghylch swyddogaeth yr amryfal banelau a'r Tîm Rheoli Corfforaethol er mwyn osgoi dyblygu gwaith.  Petai'r Pwyllgorau Archwilio a Sgriwtini yn cael eu tynnu i mewn yn gyflawn i'r broses o reoli perfformiad buasai hynny ar y naill law yn sicrhau perchenogaeth ehangach o'r mater ond buasai ar y llaw arall yn creu dryswch yng nghyswllt atebolrwydd am benderfyniadau.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

4.6

Derbyn adroddiad yr Archwilwyr Allanol ar y cynnydd gyda gwaith archwilio blynyddol 2004/05, a nodi ei gynnwys;

 

4.7

bod y Pwyllgor Archwilio yn dymuno sicrhau perchenogaeth y Cyngor cyfan o waith monitro a gwella perfformiad, a bod gwybodaeth ar y materion hyn ar gael i holl aelodau'r Cyngor;

 

4.8

argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid caniatáu cynrychiolaeth i rai o'r tu allan i'r grwpiau gwleidyddol sy'n rheoli ar y Panel Rheoli Perfformiad.

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd G O Parry OBE

 

     Cadeirydd