Meeting documents

Governance and Audit Committee
Wednesday, 19th September, 2007

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr W I Hughes, J Arthur Jones R G Parry OBE,

E Schofield.  

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)(Eitem 5)

Rheolwr Cyfrifeg (RMJ)(Eitem 5)  

Rheolwr Archwilio (JF)

Cyfreithiwr y Swyddog Monitro (MJ)(Eitemau 3 a 4)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd C Ll Everett, G O Parry MBE, J Arwel Roberts,

W T Roberts.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr Patrick Green (RSM Bentley Jennison), Mr Gareth Jones (PWC), Mr John Roberts (SAC)

 

Rhoes y Cadeirydd groeso cynnes i’r Cynghorydd E Schofield a oedd yn ailgydio yn ei waith fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio ar ôl cyfnod o waeledd.

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

Ar y pwynt penodol hwn cyfeiriodd rhai o’r aelodau, gyda phryder, at absenoldeb nifer o aelodau ac yn arbennig aelodau’n cynrychioli’r grwp mwyafrifol, gan wneud sylw ei fod yn ymddangos bod y patrwm hwn yn cael ei ail-adrodd - cyfeiriwyd wedyn at y presenoldeb yn nau is-bwyllgor y Pwyllgor hwn fel y cofnodwyd y presenoldeb hwnnw yng nghofnodion y cyfarfodydd hynny dan eitem 3.  Awgrymwyd a chytunwyd, i ddwyn sylw Arweinydd y Grwp at y mater hwn, oherwydd y teimlad bod absenoldeb yn tanseilio busnes y Pwyllgor Archwilio.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a llofnodwyd fel rhai cywir gofnodion cyfarfod cynt y Pwyllgor Archwilio ar 29 Mehefin, 2007 (Tudalen 115 yng Nghyfrol Chwarterol Cofnodion y Cyngor, Medi 2007)

 

3

IS-BWYLLGORAU 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd - Cofnodion cyfarfodydd yr is-bwyllgorau a ganlyn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir :

 

 

3.1

Is-Bwyllgor Ffocws ar y Cwsmer a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2007

 

 

 

Yn codi -

 

 

 

Ÿ

Dywedodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro wrth yr aelodau bod cylch gorchwyl yr is-bwyllgor (a hefyd gylch gorchwyl yr Is-Bwyllgor Llywodraeth a Rheoli Risg y cyfeirir ato isod) wedi’i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor ac ar gael i’r aelodau yn y ddogfen honno.

 

Ÿ

yng nghyswllt eitem 4 - Cylch Gorchwyl, Pwynt Bwlet 5, dywedodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro am ei fwriad i gyflwyno fersiwn ddrafft ddiwygiedig o’r Weithdrefn Cwynion Corfforaethol i gyfarfod nesaf yr is-bwyllgor ym mis Hydref.  Roedd ef a’r Cynghorydd C L Everett wedi cyfarfod i drafod y mater hwnnw - nid y Protocol Cwynion;

 

Ÿ

rhoes y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro gyngor i’r Pwyllgor Archwilio eu bod, trwy gadarnhau cofnodion yr Is-Bwyllgor Ffocws ar y Cwsmer, hefyd yn cadarnhau’r newidiadau arfaethedig i gylch gorchwyl yr Is-Bwyllgor fel y cafodd hynny ei gofnodi yn y cofnodion, a hynny’n golygu diwygio Cyfansoddiad y Cyngor gan fod y Cylch Gorchwyl hwnnw bellach yn rhan o’r ddogfen honno y cyfeirir ati uchod.  Mae hyn yn golygu y bydd raid cyflwyno’r newidiadau i’r Pwyllgor Gwaith yn y lle cyntaf, ac yna i’r Cyngor llawn eu cymeradwyo fel newid i’r Cyfansoddiad;

 

Ÿ

yng nghyswllt eitem 5 - Cwynion Chwarterol, dywedodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro mai’r Penaethiaid Gwasanaeth, dan y Protocol Swyddogion/Aelodau presennol, nid y Swyddogion Cwynion Adrannol, yw’r swyddogion a ddynodwyd i fynychu cyfarfodydd i gyflwyno eglurhad ar gwyn neu i ddarparu gwybodaeth ychwanegol petai raid, ond ei bod hi’n briodol iddynt ddod â’r Swyddog Cwynion Adrannol gyda nhw petai hynny’n angenrheidiol;

 

Ÿ

yng nghyswllt y cynnig hwnnw bod aelodau yn medru cysylltu gyda Chadeirydd yr Is-Bwyllgor, os dymunant, i dderbyn rhagor o wybodaeth ynghylch unrhyw gwyn benodol a wedyn gwadd y Swyddog Cwynion perthnasol i ddarparu’r wybodaeth honno, dywedodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro fod hyn, mewn gwirionedd, yn golygu bod raid i bob Swyddog Cwynion Adrannol fod yn barod i gael galwad i fynychu cyfarfod, a bod hyn yn ymarferol yn creu problem o bosib.  Y drefn gynt oedd cyflwyno adroddiad ychwanegol mewn ymateb i unrhyw gais am ragor o wybodaeth.  

 

 

 

Penderfynwyd cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl yr Is-Bwyllgor Ffocws ar y Cwsmer.

 

 

 

3.2

Is-Bwyllgor Llywodraeth a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2007.

 

 

 

4

ARCHWILIO COFRESTRAU DATGAN DIDDORDEB A DERBYN LLETYGARWCH

 

 

 

 

 

Cyn y cyfarfod ffurfiol o’r Pwyllgor Archwilio, gwnaed trefniadau i aelodau’r Pwyllgor gael golwg ar gofrestrau o ddatganiadau o ddiddordeb ac o letygarwch a wnaed gan aelodau a swyddogion a hynny gan ddilyn cyfrifoldebau newydd y Pwyllgor a hefyd gan gydymffurfio gyda phenderfyniad y Pwyllgor i’r perwyl hwn yn y cyfarfod cynt.  Ymlaen llaw rhannwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol yn rhestru’r cofrestrau hynny oedd ar gael i’r cyhoedd eu hastudio ac yn yr adroddiad dygwyd sylw aelodau’r Pwyllgor at faterion y byddant, o bosib, yn dymuno meddwl amdanynt yng nghyd-destun y cofrestrau.

 

 

 

Cafwyd sylw gan yr aelodau hynny o’r Pwyllgor a fanteisiodd ar y cyfle i astudio’r cofrestrau nad oedd sesiwn ddwy awr yn ddigon i wneud cyfiawnder â’r holl ddeunydd a gyflwynwyd iddynt, a gofynasant am sesiwn arall.  Gan fod y cofrestrau hyn ar gael i’r holl aelodau eu harchwilio cynigiwyd bod y sesiwn archwilio nesaf yn agored i’r holl aelodau, nid rhai y Pwyllgor Archwilio’n unig, ac felly bod angen gwadd holl aelodau’r Cyngor i fanteisio ar y cyfle.  Hefyd cafwyd cynnig i roddi eitem ar raglen y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio fel bod aelodau yn medru codi unrhyw fater sy’n codi ar ôl iddynt gael golwg bellach ar y cofrestrau.  

 

 

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro y bydd ail sesiwn archwilio yn cael ei threfnu ar gyfer 10:00 a.m., dydd Gwener, 28 Medi, 2007.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

4.1

Cadarnhau’r trefniadau i archwilio, unwaith eto, y cofrestrau o ddatganiadau o ddiddordeb ac o letygarwch gan swyddogion ac aelodau - sef ar 10:00 a.m., dydd Gwener, 28 Medi, 2007;

 

4.2

Gwadd holl aelodau’r Cyngor Sir i ddod i’r sesiwn pellach o archwilio y cyfeirir ati yn 4.1 uchod;

 

4.3

Ar raglen cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio cynnwys eitem i roddi sylw i faterion sy’n codi ar ôl yr archwiliad arall hwn o’r cofrestrau.

 

 

 

5

DATGANIAD CYFRIFON 2006/07

 

 

 

Cyflwynwyd adroddiad Pricewaterhouse Coopers yn amlinellu materion allweddol yn codi o’u gwaith archwilio ar y fersiwn ddrafft o Ddatganiad Cyfrifon 2006/07.  

 

 

 

Dywedodd Mr. Gareth Jones PWC wrth yr aelodau bod y materion sy'n codi o'r gwaith archwilio ar y fersiwn ddrafft o ddatganiadau cyllido yn gorfod cael eu cyflwyno i'r rheini sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan ddilyn y Safon Genedlaethol ar Archwilio (International Standard on Auditing - ISA) 260, a hynny cyn cyflwyno barn ar y datganiadau cyllidol hynny.  Trafodwyd y materion manwl oedd yn codi o'r gwaith archwilio gyda'r swyddogion mewn cyfarfod i glirio'r datganiadau cyllidol - cyfarfod a gafwyd ar 14 Medi, 2007.  Roedd crynodeb o'r materion allweddol a drafodwyd yn ymddangos yn Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

 

Mae ISA 260 yn ei gwneud yn ofynnol i archwilwyr gyflwyno adroddiad i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ar y materion canlynol cyn iddynt roi barn ar y datganiadau cyllidol -

 

 

 

Ÿ

cydberthnasau a allai ddylanwadu ar annibyniaeth yr Archwilydd;

 

Ÿ

gwybodaeth am gynllunio archwiliad; a

 

Ÿ

canfyddiadau'r archwiliad yn cynnwys safbwyntiau'r archwilydd ar yr agweddau ansoddol ar waith cyfrifon a chyflwyno adroddiadau'r endid.

 

 

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y ddau fater cyntaf i'r Awdurdod yn y Cynllun Rheoliadol.  Paratowyd yr adroddiad uchod i gyflawni cyfrifoldebau'r archwilwyr o ran y trydydd pwynt.  Bellach mae'r gwaith archwilio bron wedi'i gwblhau a'r rhain yw canfyddiadau'r Archwilwyr ar y datganiadau cyllidol -

 

 

 

5.1

Dim newidiadau i adroddiad yr archwilydd

 

 

 

Yn seiliedig ar y gwaith archwilio a wnaed ni welwyd unrhyw fater yn gofyn am newid y farn archwilio.  Roedd y farn archwilio y bwriadwyd ei rhoddi yn ymddangos yn Atodiad 2 ynghlwm wrth yr adroddiad.  Ond oherwydd mater sydd heb ei ddatrys yng nghyfrifon y flwyddyn cynt nid oeddid yn rhagweld y câi tystysgrif ei rhyddhau'n ffurfiol i gau'r cyfrifon.  

 

 

 

5.2

Ni chanfuwyd unrhyw wendidau sylweddol o ran rheolaeth fewnol.

 

 

 

5.3

Yng nghyswllt camddatganiadau na chawsant eu cywiro - ni chredwyd eu bod yn berthnasol i'r datganiadau cyllidol.

 

 

 

Mae'r archwilydd yn cyflwyno adroddiad ar yr holl gamddatganiadau na chafodd eu cywiro heblaw y mân gamddatganiadau amlwg (diffinnir mân gamddatganiadau fel rhai sy'n hollol ddibwys, boed hynny'n unigol neu gyda'i gilydd, yn feintiol a/neu'n ansoddol).  Yn seiliedig ar y methodoleg safonol clandrwyd uchafswm i'r swm dibwys fel £1,000.

 

 

 

Nid oedd yr awdurdod wedi gwneud newidiadau ar gyfer rhai camddatganiadau penodol a welwyd yn ystod y gwaith archwilio am nad ydynt, i gyd gyda'i gilydd, yn berthnasol i'r datganiadau cyllidol. Roedd effaith net camddatganiadau na chawsant eu diwygio yn £27,000 o ddebyd yn y cyfrif incwm a gwariant.  Bydd yr archwilwyr yn derbyn sylwadau ysgrifenedig gan y rheolwyr yn egluro pam na wnaed y diwygiadau a nodwyd a gofynnir i'r Pwyllgor Archwilio ystyried argymhelliad y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol yng nghyswllt y gwahaniaethau hynny a nodwyd ac na chawsant eu diwygio yn ei ymateb ffurfiol ef i ganfyddiadau’r archwilwyr isod.

 

 

 

5.4

Dim pryderon ynghylch agweddau ansoddol arferion cyfrifo yr Awdurdod nac ynghylch cyflwyno adroddiadau cyllidol.

 

 

 

5.5

Nid oedd unrhyw faterion yn codi yr oedd yn rhaid i'r Archwilwyr gyflwyno adroddiadau arnynt dan ISA eraill.

 

 

 

5.6

Nid oedd unrhyw faterion o ddiddordeb llywodraethu'n codi.

 

 

 

Cadarnhaodd Mr. Gareth Jones bod y cyfrifon yn rhai o safon uchel gyda dogfennau cefnogol a oedd yn gymorth i wneud y gwaith archwilio a chadarnhaodd iddo dderbyn cefnogaeth a chydweithrediad lawn y staff ac roedd hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr.  Nododd hefyd bod mwy a mwy o bwysau yng nghyswllt yr amserlen statudol - yr amserlen ar gyfer cynhyrchu cyfrifon a derbyn tystysgrif wedyn iddynt;  mae dyddiad cyhoeddi'r cyfrifon wedi dod ymlaen eleni i 30 Mehefin a'r dyddiad i bwrpas cyhoeddi barn archwilio ymlaen i 30 Medi.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Gareth Jones PWC am ei adroddiad a llongyfarchodd Dîm Cyfrifon yr Adran Gyllid ar yr holl waith a'r llwyddiant yn ei gyswllt; roedd aelodau eraill y Pwyllgor Archwilio yr un mor ganmoliaethus.  Wedyn gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol i ymateb yn ffurfiol i'r canfyddiadau archwilio.

 

 

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol fel a ganlyn :-

 

 

 

Yng nghyswllt y camddatganiadau na chawsant eu cywiro roedd y Pwyllgor Cyllid wedi derbyn cyngor yn y blynyddoedd cynt nad oedd raid gwneud y newidiadau hynny.  Pan fo'r newidiadau yn golygu mân waith diwygio e.e. i eiriau neu i ffigyrau mewn colofn, yna nid yw hynny'n creu unrhyw anhawster; ond pan fo'r newid yn golygu diwygio datganiadau cyllidol yna mae hynny’n creu'r angen i gysoni etc. a’r tueddiad yw peidio â gwneud y cyfryw newidiadau.  Y cyngor a roddir, o'r herwydd, i'r Pwyllgor Archwilio yw peidio â newid y £27,000 gan fod yr archwilwyr eisoes wedi cadarnhau nad yw'r camddatganiadau yn berthnasol i'r datganiadau cyllidol.  O'r herwydd gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo, yn ffurfiol, nad oedd modd cywiro'r camddatganiadau y cyfeiriwyd atynt uchod.  

 

 

 

Fodd bynnag, roedd dau fater arall o bwys y dylai'r Pwyllgor Archwilio fod yn ymwybodol ohonynt a'r rheini yn golygu newidiadau i'r datganiadau cyllidol.  Roedd y rhain yn ymwneud ag ymrwymiadau wrth gefn sydd yn eu hanfod yn golygu bod yn ymwybodol o ymrwymiadau posibl ond heb fedru amcangyfrif gydag unrhyw sicrwydd, beth y gallai'r ymrwymiadau hynny fod.  Ond roedd yn rhaid egluro fod y fath ymrwymiadau yn bod yn y cyfrifon fel bod pwy bynnag sy'n darllen y cyfrifon yn deall fod yma risg i'r awdurdod.  Y rhain yw'r ymrwymiadau -

 

 

 

Ÿ

y posibilrwydd y bydd cyfrifoldeb ôl-dalu yn sgil yr Arolwg Tâl Cyfartal.  Ar hyn o bryd mae sawl awdurdod lleol yn gorfod ymdopi gyda'r mater hwn - mater sensitif.  Ond credir bod yr awdurdod yma yn Ynys Môn mewn gwell sefyllfa na llawer o'r awdurdodau eraill oherwydd yma mae proffil y gweithwyr yn wahanol a chafwyd trafodaethau gyda'r archwilwyr ynghylch asesiad y Cyngor o'r ymrwymiad.  Beth bynnag y gall yr awdurdod ei wneud ynghylch y mater rhaid cydnabod bod yma elfen o ansicrwydd ac er bod yr awdurdod o'r farn nad oes raid iddo wneud darpariaeth ar gyfer yr un ymrwymiad heb ei setlo yn y cyswllt hwn, ni all fod yn gwbl bendant ar y mater.  Oherwydd hyn, a hefyd i bwrpas cydymffurfio gydag argymhelliad yr archwilwyr, bydd raid cynnwys, gyda datganiadau cyllidol, nodyn datgelu yng nghyswllt ymrwymiad wrth gefn.  

 

Ÿ

Ymrwymiad posib yn codi o lythyr a dderbyniwyd yn ddiweddar o Swyddfa'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol yng nghyswllt mater cynllunio.   Er nad yw'r llythyr yn cyfateb i adroddiad terfynol mae'r Ombwdsmon ynddo yn awgrymu ei fod o blaid cynnwys yn ei adroddiad terfynol, pan gyhoeddir hwnnw, argymhellion bod yr awdurdod yn talu iawndal i hawlydd sy'n honni fod gwerth ei eiddo wedi gostwng oherwydd penderfyniad cynllunio a wnaed gan yr awdurdod - a hwnnw yn erbyn y cyngor a roddwyd gan y swyddogion.  Hefyd mae'r Ombwdsmon yn cyfeirio at achos arall tebyg iawn ac mae yma ragdybiaeth y bydd o bosib yn dyfarnu iawndal yn yr ail achos hefyd.  Mae pryderon y bydd adroddiad yr Ombwdsmon, ar ôl darparu cyhoeddusrwydd, angenrheidiol iddo, yn arwain at achosion eraill cyffelyb.  Nid yw'r awdurdod mewn sefyllfa i asesu'r ymrwymiad hwn gydag unrhyw sicrwydd, ond credir bod angen darparu ar ei gyfer fel ymrwymiad wrth gefn yn y datganiad cyfrifon.

 

 

 

Nodwyd y sefyllfa gan yr aelodau a chynigiwyd y dylid cymeradwyo canfyddiadau'r archwiliwr ac argymhellion y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch y canfyddiadau hynny.  Fodd bynnag dygwyd sylw at yr hyn oedd yn ymddangos yn anghysondeb - ar y naill law roedd yr archwilwyr allanol yn cadarnhau nad oedd yr un gwendid wedi ei ganfod o ran rheolaeth fewnol o bwys yn ystod y gwaith archwilio ond ar y llaw arall roedd yr Archwiliwr Mewnol, mewn adroddiad cynnydd isod ar y rhaglen hon, yn dwyn sylw at achos o fethu â chydymffurfio gyda rheolau'r Awdurdod ei hun - peth a allai fod wedi arwain at golled ariannol.  Gofynnwyd am eglurhad ar y gwrthdrawiad rhwng yr asesiadau hyn.  

 

Eglurodd Mr. Gareth Jones, PWC nad yw'r Archwilwyr Allanol yn ailgodi materion gafodd sylw mewn adroddiadau eraill ar archwilio;  os ydyw mater yn cael ei ddwyn i sylw'r aelodau gan swyddogion archwilio mewnol yna ni chaiff y mater hwnnw ei godi eilwaith mewn adroddiad gan yr archwilwyr allanol; fodd bynnag roedd yr archwiliwr allanol yn cydnabod bod rhai materion y bydd y swyddogion archwilio mewnol yn eu dwyn i sylw'r aelodau.

 

 

 

Cytuno gyda'r farn hon a wnaeth Mr. Patrick Green o RSM Bentley Jennison a nododd y bydd materion yn codi yn y dyfodol, yn rhwym o godi, yng nghyswllt amseru yn ymwneud â chyfnod y cyfrifon sy'n berthnasol i waith yr archwilwyr allanol, ac nid yw'n bosib bob amser i'r archwilwyr allanol nodi'r holl faterion rheoli mewnol yr adroddwyd arnynt yn yr adroddiadau cynnydd.  Nid yw'n beth anarferol i waith archwilio mewnol beidio â chytuno bob amser gyda'r gwaith archwilio allanol gan fod yr archwilwyr allanol yn gweithio mewn cyfnodau amser gwahanol.  Os ydyw PWC o'r farn fod unrhyw fater sy'n codi yn cyfateb i wendid o bwys yna mae'n bosib iawn y bydd hwnnw yn cael sylw penodol mewn adroddiad yn y dyfodol.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

5.7

Nodi canfyddiadau'r Archwiliwr Allanol ar ôl archwilio’r fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon am 2006/07 ac fel y cyflwynwyd y datganiad hwnnw;

 

5.8

Cymeradwyo argymhelliad y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol na ddylid, am y rhesymau a roddwyd, diwygio'r cyfrifon ar gyfer y camddatganiadau hynny na chawsant eu cywiro ac a nodwyd gan yr Archwiliwr  Allanol yn ystod y gwaith archwilio (debyd £27,000 i'r Cyfrif Incwm a Gwariant);

 

5.9

Nodi'r ddau fater o ymrwymiad wrth gefn yr adroddodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol arnynt a derbyn y ddarpariaeth ar eu cyfer yn y Datganiad Cyfrifon fel y cafodd honno ei hamlinellu.

 

 

 

6

ADRODDIAD GWAITH ARCHWILIO MEWNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Archwilio (RSM Bentley Jennison) yn crynhoi gwaith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill - 31 Awst 2007.

 

      

 

     Wedyn aeth Mr. Patrick Green i gyflwyno Mr. John Fidoe i'r Pwyllgor - Mr. Fidoe yw'r Rheolwr Archwilio newydd dan gontract rheoli Bentley Jennison.

 

      

 

     Yna dygwyd sylw'r Pwyllgor at y materion a ganlyn a gododd ar yr adroddiad uchod -

 

      

 

Ÿ

roedd y tabl ym mharagraff 2.1 yr adroddiad yn dangos y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Archwilio 2007/08 a'r dyddiadau a bennwyd ar gyfer prosiectau newydd.  Lle nad oedd dyddiadau wedi eu dangos roedd hynny yn arwydd bod y prosiectau perthnasol wedi eu cario ymlaen o 2006/07.  Roedd y graddfeydd/y farn yn adlewyrchu rhywfaint o orgyffwrdd rhwng yr hen ddull o gyflwyno adroddiad a'r dull newydd;  roedd gwaith yn parhau ar yr adolygiadau hynny a gafodd raddfeydd A - E yn ôl yr hen system o gyflwyno adroddiadau tra bo adolygiadau y rhoddwyd iddynt sicrwydd cyfyngedig, digonol neu sylweddol yn adlewyrchu'r dull newydd o archwilio a fabwysiadwyd gan RSM Bentley Jennison;

 

Ÿ

roedd Tabl 2.2 yr adroddiad yn dangos y gymhariaeth rhwng y dyddiau cynlluniedig i bob categori o waith yn erbyn y dyddiau gwirioneddol a gofnodwyd yn erbyn pob categori dros gyfnod yr adroddiad.  Roedd y dyddiau a gollwyd,112.10, i’w priodoli i swyddi gweigion yn y Tîm Archwilio ac roedd cyfanswm y rheini yn y cyfnod dan sylw yn 217.5 diwrnod.  Er mwyn gwneud iawn am y dyddiau hyn a gollwyd trefnwyd i gael 80 diwrnod o waith Archwilio Mewnol gan RSM Bentley Jennison;

 

Ÿ

roedd y Pwyllgor Archwilio, yn y gorffennol, wedi penderfynu y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno iddo pan fo ymateb heb ei dderbyn cyn pen 3 mis i gyhoeddi adroddiad drafft neu adroddiad drafft diwygiedig.  Adeg paratoi’r adroddiad gwaith uchod roedd 4 adroddiad drafft Archwilio Mewnol heb gofnod o ymateb rheolwyr iddynt cyn pen 3 mis i ryddhau’r adroddiad.  Roedd yr adroddiadau drafft hyn yn ymwneud ag arolygon ar -

 

 

 

Ÿ

Monitro Gwaeledd;

 

Ÿ

Diogelwch Adeiladau;

 

Ÿ

Rhestru Eiddo;

 

Ÿ

Ailgylchu Gwastraff.

 

 

 

Roedd y Rheolwr Archwilio yn bwriadu cysylltu gyda’r Penaethiaid Adeiniau perthnasol i gytuno ar yr adroddiadau hyn a’u cwblhau gyda golwg ar eu rhyddhau cyn gynted ag y bo’n bosib.

 

 

 

Ÿ

Ers y Pwyllgor Archwilio diwethaf, roedd 6 o adroddiadau terfynol wedi’u cyhoeddi; un ohonynt wedi cael graddfa D a dim un wedi derbyn graddfa E neu “sicrwydd cyfyngedig”.  Roedd yr adroddiad ar raddfa D yn ymwneud ag Adolygu Gwaith Glanhau Adeiladau ac wedi’i baratoi ym Mawrth, 2007.  Casgliad pennaf y gwaith hwn oedd bod y Cyngor wedi methu â glynu wrth ei Reolau Gweithdrefn wrth wadd tendrau am y gwasanaethau ac o’r herwydd ni allai ddangos ei fod yn cynnal y trefniadau mwyaf priodol o ran costau a safonau glanweithdra.  Yr argymhelliad pennaf a wnaed felly yw bod angen adolygu’r dull o wneud y gwaith glanhau ar adeiladau’r Cyngor ac wedyn gwadd tendrau am y fanyleb y penderfynir arni gan wadd y tendrau yn unol â deddfwriaeth prynu yr Undeb Ewropeaidd ac yn unol hefyd â rheolau sefydlog contractau y Cyngor.  Roedd yr argymhelliad hwn wedi’i dderbyn gan yr Adran berthnasol ond nodwyd, gyda pheth pryder na chafwyd unrhyw arwydd ynghylch pryd y gweithredir arno.

 

Ÿ

Yn ystod y flwyddyn mae’r Adain Archwilio Mewnol yn gorfod gwneud gwaith ar faterion sy’n dod i’r fei yn ystod gwaith archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir i sylw’r adain gan adrannau eraill a gwaith hefyd y mae adrannau eraill yn gofyn i’r Adain Archwilio Mewnol ei wneud.  Hefyd mae’n bosib y bydd yr Archwiliwr Allanol yn gofyn i’r Adain am wybodaeth neu am gymorth i ddarparu gwybodaeth.  Ymgymerwyd ag ymholiadau arbennig ar gais rheolwyr yn ystod y cyfnod hwn.  Mae hwnnw yn dal i barhau a chyflwynir y manylion i’r Pwyllgor unwaith y bydd yr ymholiadau wedi’u cwblhau.  

 

Ÿ

Ni wnaed unrhyw waith dilyn-i-fyny ffisegol yn ystod y flwyddyn a hynny oherwydd adnoddau cyfyngedig yn yr Adain Archwilio Mewnol yn codi oherwydd swyddi gweigion ac roedd hwnnw’n fater oedd yn cael sylw.  Roedd rheswm arall, sef gorfod cwblhau’r cyfan o’r gwaith angenrheidiol i’r archwilwyr allanol ar y prif systemau ariannol.  

 

 

 

Er bod bwriad i sefydlu system i olrhain yr holl argymhellion er mwyn rhoddi sylw i’r argymhellion hynny o natur hanfodol neu sylweddol iawn a chynnal profion archwilio i sicrhau y bydd gweithredu nid yw’r broses hon wedi’i chyflwyno eto.  Unwaith y bydd wedi’i chyflwyno, bydd y gwaith yng nghyswllt gweithredu ar argymhellion sylweddol yn destun adroddiad dan eitem sefydlog ac fel rhan o adroddiadau cynnydd yn y Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol.  

 

 

 

Yn ystod y drafodaeth ar y wybodaeth a gyflwynwyd gwnaed y pwyntiau a ganlyn :

 

 

 

Ÿ

anfodlonrwydd yr aelodau gyda’r pedwar achos lle na chafwyd ymateb gan reolwyr i’r fersiwn ddrafft o’r Adroddiad Archwilio Mewnol cyn pen tri mis i gyhoeddi’r adroddiad ac roeddynt o’r farn bod oedi o’r fath yn gwbl annerbyniol.

 

                                                  

 

Wth droi at yr adroddiad archwilio gwaeledd dywedodd y Rheolwr Archwilio bod yma gamddealltwriaeth ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am ymateb - yn awr roedd hwn wedi’i setlio a rhoddir blaenoriaeth i gyhoeddi adroddiad terfynol.

 

 

 

Cafwyd sylwadau gan y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol bod problemau wedi codi wrth gydlynu ymateb rheolwyr i adroddiadau archwilio pan oedd yr adroddiadau hynny yn ymwneud â mwy nag un adran - fel enghraifft roedd yr adroddiad ar oruchwylio gwaeledd yn cyffwrdd â phob rheolwr, ac roedd angen gwella’r broses o ymateb yn y cyswllt hwn.

 

 

 

O gofio faint o adnoddau cyfathrebu, rhai technolegol ac fel arall, oedd gan y Cyngor teimlai’r aelodau na ddylai cydlynu ymatebion fod yn fater anodd,  a phrun bynnag dylai fod yn bosibl datrys problemau o fewn yr amserlen 3 mis ar gyfer ymateb.  Awgrymwyd a chytunwyd i yrru llythyr at y Deilyddion Portffolio sy’n gyfrifol am y pedwar maes gwasanaeth a enwyd a lle mae’r rheolwyr wedi methu ag ymateb yn ôl y gofynion (Goruchwylio Gwaeledd, Diogelwch Adeiladau, Rhestru Eiddo ac Ailgylchu Gwastraff), a gofyn iddynt am eglurhad ar yr oedi a phennu amser - 6 wythnos - iddynt ymateb.

 

 

 

Ÿ

Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch y gwendidau hynny a welwyd wrth archwilio’r Contract Glanhau Adeiladau ac yn enwedig oherwydd y casgliad y gallai fod wedi arwain at golled ariannol i’r Awdurdod.  Gofynnwyd ai tendro am y gwasanaeth oedd y ffordd fwyaf cost-effeithiol ymlaen.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Mr Patrick Green nad dyletswydd Archwilio Mewnol oedd cyflwyno barn ar y mater; fodd bynnag roedd hi’n ddyletswydd ar Archwilio Mewnol i sicrhau bod yr Awdurdod yn gwneud penderfyniad ystyrlon ar y ffordd orau o weithredu ar y contract yn hytrach na pharhau i lynu wrth ddull nad oes yr un rhesymeg yn sylfaen iddo.

 

 

 

Credai’r Aelodau y dylid gwadd tendrau am y contract Glanhau Adeiladau cyn gynted ag y bo’n bosib gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth brynu yr Undeb Ewropeaidd a hefyd gyda Rheolau Sefydlog Contractau y Cyngor ei hun ac y dylid cyflwyno argymhelliad i’r perwyl i’r Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol ei fod yntau hefyd yn pryderu ynghylch y contract uchod ond bod angen nodi yma bod yr arolwg a gynhaliwyd yn cadarnhau ar y naill llaw bod y system a gyflwynwyd i oruchwylio safonau glanhau a hefyd y system yng nghyswllt prisiau wedi bod yn foddhaol.  Wedyn dywedodd wrth yr aelodau bod y contract gyda Gwynedd i ddarparu prydau ysgolion yn dod i ben a bod angen ailystyried, am resymau gwahanol, y ddau gontract.  Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi rhoddi sylw i’r ddau gontract a phenderfynu ceisio cytuno ar delerau gyda Chyngor Gwynedd yng nghyswllt trefniant dros dro fel bod modd glynu wrth y trefniadau presennol hyd oni fydd y contractau yn barod i wadd tendrau ar eu cyfer.  Yma nodwyd bod yr angen i gynnal trafodaethau yn berthnasol i’r ddau gontract.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

6.1

Derbyn adroddiad gwaith yr Adran Archwilio Mewnol yng nghyswllt y cyfnod o Ebrill hyd at Awst 2007 a nodi ei gynnwys;

 

6.2

Bod llythyr yn cael ei yrru at y Deilyddion Portffolio sy’n gyfrifol am y meysydd gwasanaeth a enwyd yn yr adroddiad - meysydd y mae eu rheolwyr wedi methu ag ymateb i’r fersiynau drafft o adroddiadau archwilio cyn y 3 mis gofynnol (Monitro Gwaeledd, Diogelwch Adeiladau, Rhestri Eiddo ac Ailgylchu Gwastraff) - a gofyn iddynt am eglurhad ar yr oedi a hefyd am ymateb cyn pen 6 wythnos;

 

6.3

Argymell i’r Pwyllgor Gwaith bod tendrau yn cael eu gwadd am y Contract Glanhau Adeiladau cyn gynted ag y bo’n bosibl.                                                                                   

 

 

 

7     STAFFIO ARCHWILIO MEWNOL

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn amlinellu newidiadau staffio arfaethedig i'r Adain Archwilio Mewnol a hynny er mwyn cryfhau'r sgiliau.

 

      

 

     Manylodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ar y materion a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Pryderon y Pwyllgor Archwilio ynghylch staffio Archwilio Mewnol ac a fynegwyd mewn cyfarfodydd cynt a hynny oherwydd lefel y swyddi gweigion sy'n golygu na fedrai'r Adain weithredu'n llawn ar y cynllun archwilio tra oedd y swyddi yn parhau i fod yn weigion.  Hefyd roedd pryderon ynghylch a oedd gan yr Adain y balans iawn o sgiliau i wneud gwaith o'r safon ddisgwyliedig.

 

Ÿ

Ar wahân i'r swydd Rheolwr Archwilio y mae darpariaeth ar ei chyfer yn y contract rheoli gyda RSM Bentley Jennison, ac ar wahân hefyd i'r swydd arbenigol perfformiad, roedd yr Adain Archwilio gyda staff o 6.  Roedd dwy o'r swyddi yn weigion ar ôl i'r rhai oedd yn eu dal yn barhaol gael swyddi mewn mannau eraill.

 

Ÿ

Yn aml mae swyddi gweigion yn creu cyfle i ailasesu anghenion staffio ac ystyried a fuasai strwythur gwahanol yn fwy priodol i anghenion y gwasanaeth.  Fel a ddywedwyd wrth y Pwyllgor roedd angen cwblhau'r gwaith ar y cynllun strategol a ailaseswyd yn ddiweddar gyda chefnogaeth RSM Bentley Jennison a symud ymlaen i ystyried y cydbwysedd sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu ar y cynllun hwnnw.  

 

Ÿ

Yn y dadansoddiad yn yr adroddiad ar y strwythur staffio archwilio - y strwythur ar hyn o bryd ac yn 1996-2000 - yn erbyn anghenion archwilio fel y cawsant eu diffinio yn y cynllun strategol, cadarnheir bod angen newid rhywfaint ar y cymysgedd sgiliau a hynny at i fyny.  Yn ychwanegol at hyn roedd yr Adain wedi bod heb swydd Uwch Swyddog - un gyda'r sgiliau angenrheidiol a'r profiad i reoli tasgau anodd a phetai raid hefyd i ddirprwyo yn lle'r Rheolwr Archwilio.  Roedd swydd o'r fath yn strwythur 1996 ar lefel PO 36-39 ond fe'i dilëwyd yn yr ailstrwythuro yn 2000.  O edrych yn ôl mae'n ymddangos rwan fod y penderfyniad hwnnw wedi bod yn un annoeth.  Gyda chyllideb benodedig, nid yw'n bosib creu swydd uwch gyda'r un nifer o staff a rhaid hefyd ystyried fod yr Adain yn gorfod gwneud arbedion effeithiolrwydd y naill flwyddyn ar ôl y llall.

 

Ÿ

O'r herwydd awgrymwyd strwythur gyda 5 yn hytrach na 6 staff archwilio mewnol ac adfer y swydd Uwch Archwiliwr a ddilëwyd yn 2000.  Wedyn gellid defnyddio balans y gyllideb (ar ôl tynnu arbedion effeithiolrwydd) i brynu cymorth staff tymor byr neu i gomisiynu cefnogaeth arbenigol ychwanegol oddi ar RSM Bentley Jennison dan y contract presennol, neu efallai droi at ddarparwyr eraill.  

 

Ÿ

Y Pwyllgor Gwaith fydd yn gwneud penderfyniad ar y gyllideb a'r strwythur staffio ond gofynnir am sylwadau'r Pwyllgor hwn ac am ei gefnogaeth cyn cyflwyno'r cynigion i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Ÿ

Unwaith y bydd y strwythur arfaethedig wedi ei gymeradwyo bydd yr Adain wedyn yn mynd ati i recriwtio i'r swyddi gweigion newydd.  Ond roedd pryderon gwirioneddol na lwyddid wrth geisio recriwtio o gofio nad ydyw'r awdurdod wedi llwyddo bob amser i recriwtio a chadw staff proffesiynol yng nghyd-destun y farchnad lafur leol.  Petai'r awdurdod yn methu recriwtio yna bydd raid ailystyried y sefyllfa a defnyddio'r gyllideb i gael darpariaeth dros dro yn y cyfamser.

 

Ÿ

Ar ôl recriwtio i'r swydd newydd gall fod newidiadau pellach i weddill y strwythur gan ddibynnu ar broffil y person a benodir ac oherwydd mân newidiadau ers adolygu'r strwythur ddiwethaf.  Hefyd manteisir ar y cyfle i adolygu ac i foderneiddio swydd ddisgrifiadau.  Byddir yn gofyn am awdurdod y Pwyllgor Gwaith i gyflwyno'r newidiadau pellach yma o fewn y gyllideb.

 

Ÿ

Yn fwriadol cadwyd rhai swyddi'n wegion er mwyn creu'r amser a'r cyfle i ystyried yr ailstrwythuro hwn.  Yn y cyfamser comisiynwyd gwaith oddi ar RSM Bentley Jennison i barhau gyda'r gwaith archwilio.  Bydd y trefniant hwn yn parhau hyd nes penodi i'r swyddi.

 

Ÿ

Gofyn i'r Pwyllgor Archwilio am ei sylwadau ar y strwythur arfaethedig a amlinellwyd yn yr adroddiad cyn i hwnnw fynd gerbron y Pwyllgor Gwaith.

 

 

 

     Ond roedd gan aelodau'r Pwyllgor Archwilio amheuon ynghylch y strwythur staffio arfaethedig uchod ac roeddent, yn gyffredinol, yn amharod i ddychwelyd yn rhannol i strwythur staffio 1996-2000 a thrwy hynny ailgyflwyno'r uwch swydd.  Un fantais dan y contract rheoli presennol gyda RSM Bentley Jennison oedd y cyfle a grëwyd i'r awdurdod ymarfer ystwythder a phrynu gwasanaethau ychwanegol yn ôl yr angen a hynny heb orfod gwneud trefniadau penodi parhaol.  Hefyd bu'r trefniant hwn yn llwyddiant.  Felly, er eu bod yn cydnabod bod gofynion staffio yn yr Adain Archwilio Mewnol roedd yr aelodau o blaid rhoddi sylw i'r anghenion trwy barhau, dan y trefniant presennol, i brynu gwasanaethau ychwanegol oddi ar RSM Bentley Jennison yn ôl fel y cyfyd yr angen.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y disgrifiad uchod yn ddisgrifiad o'r sefyllfa bresennol a bu o fantais i'r awdurdod droi am arbenigedd at RSM Bentley Jennison wrth wneud, fel enghraifft, waith archwilio ar systemau cymhleth.  Ond roedd yr Adain Archwilio hefyd yn gwneud gwaith rheolaidd a sylfaenol y mae angen staff dwyieithog a lleol ar eu cyfer - a'r cyd-bwysedd priodol o sgiliau ar bob lefel oedd yr hyn yr oedd ar yr Adain ei angen.  Yr opsiwn gorau yw'r strwythur hwnnw a gyflwynwyd yn yr adroddiad oherwydd, trwyddo, bydd modd cryfhau proffil sgiliau cyffredinol yr Adain Archwilio Mewnol a sicrhau y bydd yr Adain wedyn yn medru ymgymryd â holl amred y gofynion archwilio.

 

 

 

O safbwynt proffesiynol dywedodd Mr. Patrick Green, o RSM Bentley Jennison, pa mor bwysig yw sicrhau bod gan yr awdurdod unigolion gyda'r galluoedd priodol yn gweithio yn yr Adain a bod angen cyfuniad o sgiliau ar gyfer yr amryfal lefelau o waith archwilio.  Ond roedd ganddo amheuon ynghylch gallu'r awdurdod i recriwtio yr unigolyn iawn i'r swydd a phetai ymgeisydd priodol yn ymateb dywedodd mai'r ffordd briodol a gorau o symud ymlaen oedd gwneud penodiad parhaol.  Ychwanegodd na ddylai'r awdurdod gyfaddawdu ar y mater hwn ac na ddylai benodi onid oes ymgeisydd addas yn cynnig am y swydd.

 

 

 

Ond er gwaethaf yr eglurhad uchod nid oedd yr aelodau yn fodlon oherwydd bod yr Adain Archwilio a'r awdurdod drwyddo draw wedi cael problemau sylweddol wrth recriwtio a chadw staff, a bod raid rhoddi sylw i'r problemau gwaelodol hyn cyn gwneud rhagor o benodiadau parhaol.  O'r herwydd cafwyd cynnig ffurfiol a eiliwyd o blaid parhau gyda'r trefniadau yn yr Adain Archwilio a phrynu gwaith ychwanegol yn ôl y galw oddi ar RSM Bentley Jennison neu oddi ar ddarparwr arall, fod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno yn manylu pam fod yr Adain yn colli staff a hefyd beth oedd yn cael ei wneud i'w ddatrys.  

 

 

 

Dyma pryd y mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) ei bryderon oherwydd safiad y Pwyllgor Archwilio ar y mater, ac yn arbennig gan fod y Pwyllgor ar achlysuron o'r blaen wedi mynegi pryderon oherwydd bylchau yn staff parhaol yr Adain Archwilio ac wedi bod yn pwyso am ddatrys y sefyllfa.  Ond yn awr roedd y Pwyllgor fel petai wedi newid ei farn ac yn cefnogi mynd â mwy o'r gwasanaethau archwilio mewnol i'r sector allanol.  Pwysleisiodd mai ei gyfrifoldeb proffesiynol ef oedd sicrhau bod digon o adnoddau archwilio mewnol ar gael ac ar ôl ystyried y mater yn ofalus a hefyd ar ôl ei drafod gyda RSM Bentley Jennison credai mai'r ffordd orau o symud ymlaen oedd trwy ddilyn y strwythur a gynigiwyd yn yr adroddiad uchod.

 

 

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad hwn ei ddymuniad oedd sicrhau cefnogaeth y Pwyllgor Archwilio iddo ond atgoffodd ef yr aelodau fod y penderfyniad olaf yn gorwedd gyda'r Pwyllgor Gwaith ac o'r herwydd buasai'n rhaid iddo ystyried cyflwyno'r achos i'r Pwyllgor Gwaith heb gefnogaeth y Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Dadleuodd yr aelodau nad  oedd unrhyw sôn wedi bod am anawsterau wrth ddarparu'r gwasanaeth oherwydd y sefyllfa gyfredol.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod y gwasanaeth, er gwaethaf y swyddi gweigion, wedi ei gynnal a hynny wrth flaenoriaethu gwaith.  Fodd bynnag, roedd llithriad yng ngwaith y Rhaglen Archwilio fel ag a amlinellwyd yn yr adroddiad gwaith blaenorol,  ac er bod sefyllfa o'r fath yn risg dderbyniol yn y tymor byr nid yw'n ymarferol yn y tymor hir.                       

 

 

 

Yn dilyn y drafodaeth hon, tynnodd yr aelod a eiliodd y cynnig ei gefnogaeth i'r cynnig yn ôl.

 

 

 

 

 

 

 

Wedyn cafwyd sylw gan y Cynghorydd E. Schofield ei fod yn fodlon iddo gael ei gofnodi ei fod yn dal i fod o'r un farn ac yn gwrthwynebu symud ymlaen gyda'r cynnig staffio yn yr adroddiad yn seiliedig ar y dadleuon a gyflwynwyd.

 

 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Archwilio yn derbyn, gydag amheuon, y strwythur staffio arfaethedig i'r Adain Archwilio Mewnol fel yr amlinellir y strwythur hwnnw yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).

 

 

 

8     ADRODDIAD BLYNYDDOL DAN Y POLISI AR DWYLL A LLYGREDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Yr Adroddiad Blynyddol ar Waith Gwrth-dwyll yn 2006-07 ynghyd ag arolwg o’r polisi presennol ar Dwyll a Llygredd.  

 

      

 

     Yng nghyswllt y materion uchod adroddodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol fel a ganlyn -

 

 

 

8.1

Mae osgoi twyll a llygredd yn treiddio i holl weithgareddau'r Cyngor ac nid yw'n bosib rhoddi darlun cyflawn mewn adroddiad megis yr un uchod.  Yn hytrach, rhoddir y pwyslais yma ar nifer o gamau penodol ac o ddigwyddiadau sy'n dangos yn fras y dull cyffredinol o fynd i'r afael â'r maes.  

 

8.2

Mae'r adroddiad yn dilyn yr egwyddorion allweddol hynny a gyflwynwyd yn y polisi gwrth-dwyll:- Lleihau'r Cyfleon, Atal, Rhwystro, Datgelu ac Ymchwilio, Erlyn a Hawlio'n Ôl, - a'r egwyddorion yn seiliedig ar - Diwylliant ac Ymwybyddiaeth.  Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar waith yr Adain Archwilio Mewnol (y cyflwynwyd adroddiad arno'n barod i'r pwyllgor hwn), gwaith yr adain Gwrth-dwyll Budd-daliadau Tai, rhywfaint o waith y Swyddog Monitro a llawer o waith ailadroddus yng nghyswllt gweinyddu cyllidol.

 

      

 

8.2.1

Lleihau’r Cyfleon, Atal a Rhwystro

 

      

 

     Y gwaith pwysicaf - nid o angenrheidrwydd yr un mwyaf diddorol - yw'r broses o fabwysiadu systemau a threfniadau dibynadwy sy'n ei gwneud hi'n anodd i unigolion dwyllo neu ddilyn arferion llwgr a hefyd sy'n hwyluso'r dasg o ganfod arferion o'r fath.  Mae atal yn broses llawer mwy economaidd. Y prif egwyddorion sydd wrth wraidd Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, Rheolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor a'r gweithdrefnau'n gyffredinol yw'r rhai a ganlyn - gwirio gwybodaeth allweddol, gwahanu dyletswyddau - i sicrhau na fydd un swyddog yn unig yn awdurdodi, yn cyflawni ac yn cofnodi un gweithred ariannol sengl, gwaith gwirio mewnol.  Mae’r gweithdrefnau hyn hefyd yn diogelu rhag camgymeriadau - dro ar ôl tro, mae siecio trafodion yn cael gwared o gamgymeriadau ond hefyd yn dangos i bawb sy’n gysylltiedig bod proses o’r fath yn atal cymhellion gwirioneddol ddrwg ar adegau.

 

      

 

     Mae’r Awdurdod yn dal i gydymffurfio gyda’r Fframwaith Gwirio a’r staff wedi dangos mwy a mwy o ymrwymiad i rwystro twyll rhag dod i mewn i’r system pan gyflwynir hawliadau newydd.  Mae sawl achos wedi’i wrthod gan yr adain Budd-daliadau Tai am nad yw’r hawlydd wedi cyflwyno tystiolaeth yn ôl y safon angenrheidiol i sicrhau bod y cais yn cael ei wirio’n gywir dan adran 1 Deddf Gweinyddu Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

 

      

 

8.2.3

Gwaith Canfod ac Ymchwilio; Erlyn ac Adennill

 

      

 

     Yn wastadol mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud i haeriadau ac i amheuon ond yn aml nid oes sail i'r cyfryw bethau.  Dan Weithdrefn Gyllidol y Cyngor mae'n rhaid dod ag unrhyw anghysondeb a amheuir ac sy'n cyffwrdd ag arian y Cyngor, i sylw’r Cyfawryddwr Cyllid Corfforaethol.  Hwn yw man cychwyn nifer o'r ymholiadau, ac eraill yn deillio o anghysondeb a welwyd ac a ganfuwyd dan y system weinyddol; fel arfer mae'r rhain yn cael eu trosglwyddo i'r Adain Archwilio Mewnol ymchwilio iddynt.  

 

      

 

Ÿ

Cosbau yng nghyswllt Twyll Budd-daliadau - Yn aml mae gwaith Ymchwilio llwyddiannus i dwyll budd-daliadau yn arwain at gosb heblaw erlyn yn y Llys.  Mae cosbau eraill yn cael eu defnyddio yn ôl amgylchiadau pob achos unigol -

 

 

 

Ÿ

Cost Weinyddol - dan amgylchiadau o’r fath cynigir cosb 30% o’r holl fudd-daliadau a ordalwyd i’r hawlydd a hynny yn lle cymryd camau trwy’r llys.  Mewn 5 achos cynigiwyd cosb weinyddol yn dilyn twyll gyda budd-daliadau a phenderfynodd y 5 unigolyn dderbyn y gosb yn hytrach na chosb trwy’r llys. Cyflwynwyd enghraifft o achos o’r fath yn yr adroddiad.

 

Ÿ

Rhybudd Ffurfiol -  os ydyw’r hawlydd wedi addef iddo dramgwyddo a’r gordaliad yn gymharol isel yna mae modd cynnig Rhybudd Ffurfiol yn hytrach na chymryd camau trwy’r Llys.  Cynigiwyd Rhybudd Ffurfiol i 8 o hawlwyr a chafodd y rhybuddion hynny eu derbyn, ac roedd 4 o’r achosion yn ymchwiliadau ar y cyd, gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Ÿ

Erlyn drwy’r Llys - Bu’r tîm yn llwyddiannus gyda chamau cyfreithiol mewn 9 achos o dwyll Budd-daliadau Tai neu’r Dreth Gyngor.  Roedd wyth o’r achosion yn rhai ar y cyd gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a 6 o’r rheini wedi’u canfod gan dîm twyll y Cyngor ar ôl i hwnnw ddechrau gwneud ymholiadau.  Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y gordaliadau i unigolion, ac o’r herwydd cafodd dau achos sylw yn Llys y Goron am nad oedd y Llys Ynadon gyda’r pwerau priodol i ddedfrydu.  Cyflwynwyd enghraifft yn yr adroddiad o achos a gafodd gyhoeddusrwydd uchel a hwnnw yn ymwneud â swm sylweddol o arian a chyhuddiadau o gynllwyn.

 

         

 

Ÿ

Matsio Data - Man cychwyn rhai ymchwiliadau yw matsio data gweinyddol ynghylch unigolion pan fo’r data yn cael ei ddal gan gyrff cyhoeddus.  Mae eithriadau yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data yn caniatáu defnyddio gwybodaeth o’r fath i bwrpas casglu trethi, pan fo amheuaeth o dwyll.  Mae’r gwasanaeth matsio i’r Budd-daliadau Tai yn gymorth gwerthfawr wrth ymholi i dwyll yn y maes Budd-daliadau Tai ac i’r perwyl hwnnw ceir enghraifft dda yn yr adroddiad.

 

Ÿ

Hefyd mae’n bosib cymryd camau yng nghyswllt unrhyw amheuon a fo gan Wasanaethau’r Cyngor - yng nghyswllt anghysonderau - cyflwynwyd enghraifft yn yr adroddiad; hefyd mae’r polisi Gwrth-Dwyll yn ymwneud â methiant i ddatgan diddordeb - cyflwynwyd enghraifft ar ôl cymryd camau yn erbyn cynghorydd cymuned a fethodd â datgan diddordeb.  

 

 

 

Ÿ

Adennill - Pan fo gwaith ymholi llwyddiannus yn sefydlu bod arian wedi'i golli o'r cronfeydd cyhoeddus, yna rhaid cyflwyno mesurau cadarn a dibynadwy i adennill colledion yn y dull cyflymaf a mwyaf cost-effeithiol bosib.  Ar ôl canfod unrhyw golledion cymerir camau wedyn, yn otomatig, i adennill y symiau perthnasol.  Gall yr Awdurdod ddefnyddio sawl ffordd i adennill arian sy'n ddyledus iddo ac yn eu plith mae modd codi biliau dyledwr, adennill o fudd-daliadau sy'n cael eu talu, adennill o fudd-daliadau i drydydd parti, camau trwy'r Llys Sirol a'r Uchel Lys a defnyddio cwmnïau casglu dyledion a dulliau methdaliad/ansolfent.  I bwrpas hwyluso'r broses o hawlio Budd-daliadau Tai a ordalwyd yn ôl yn effeithiol mae'r Awdurdod yn defnyddio system gyflym i fynd â dyledwyr Budd-daliadau Tai i'r Llys Sirol - pan fo wedi methu ag adennill trwy ddulliau eraill.  At hyn mae gan yr Awdurdod Gytundeb Lefel Gwasanaeth gydag Adain Rheoli Dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

 

 

8.2.4

Diwylliant ac Ymwybyddiaeth

 

      

 

     Mae’n rhaid i'r Cyngor feithrin diwylliant lle na fydd twyll na llygredd yn cael ei oddef.  Yn ôl gofynion Safonau Perfformiad yr Adran Gwaith a Phensiynau mae'n rhaid i'r staff sy'n ymwneud â gweinyddu budd-daliadau dderbyn hyfforddiant o'r newydd o hyd yng nghyswllt ymwybyddiaeth twyll.  Mae trafodaethau'n cael eu cynnal i sicrhau fod staff arall yr awdurdod a allai ddod i gysylltiad â'r system budd-daliadau yn derbyn lefel sylfaenol o hyfforddiant yng nghyswllt ymwybyddiaeth twyll.

 

      

 

     Ond mae yr un mor bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn gyffredinol yn medru dwyn sylw, yn ddirwystr ac yn rhwydd, at unrhyw amheuon a fo ganddynt bod twyll yn digwydd yn erbyn yr Awdurdod.  Ym mis Ionawr 2006, sefydlwyd llinell gymorth twyll gan yr Adain Refeniw a Budd-daliadau fel bod y cyhoedd yn gyffredinol yn medru dweud am unrhyw amheuon a fo ganddynt am unrhyw dwyll yn uniongyrchol wrth yr Adain Gwrth-dwyll.

 

      

 

     Er mwyn codi ymwybyddiaeth ac atal twyll mae'r awdurdod bob amser yn ceisio cyhoeddusrwydd pryd bynnag y bydd yn cymryd camau llwyddiannus trwy'r llys.  Yn ystod 2006-07 cyhoeddwyd datganiadau i'r wasg a thrwyddynt tynnwyd sylw at yr holl achosion yn y wasg leol a'r wasg arbenigol.

 

 

 

8.3

Mae’n ofynnol i’r Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol adolygu’n wastadol y polisi Twyll a Llygredd ac i’r perwyl hwnnw bu sylwadau RSM Bentley Jennison o gymorth.  Mae’r polisi presennol yn rhan o Gyfansoddiad y Cyngor, a hefyd mae rhannau eraill o’r Cyfansoddiad yn cyffwrdd ag agweddau cysylltiedig.  Teimlir bod y polisi yn rhoi sylw i’r agweddau hanfodol ond bod angen diweddaru ychydig mewn mannau, a mwy o groes-gyfeirio mewn mannau eraill o’r Cyfansoddiad a’r Gweithdrefnau.  Y bwriad yw cyflwyno’r newidiadau angenrheidiol a nodwyd yn Atodiad 1 (y rheini yn ymddangos gyda marciau adolygu).  Gofynnir i’r Pwyllgor Archwilio ystyried y newidiadau arfaethedig hyn cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac wedyn i’r Cyngor llawn.

 

      

 

     Roedd yr aelodau’n croesawu’r adroddiad uchod ac yn gwerthfawrogi’r gwaith sylweddol yr oedd yn tystio iddo; yn ogystal roeddent yn gwbl gefnogol i’r newidiadau arfaethedig i’r polisi.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

8.4

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Gwrth-Dwyll am 2006/07 a nodi’r cynnwys;

 

8.5

Cefnogi’r newidiadau i’r Polisi Twyll a Llygredd a amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

      

 

9     ADRODDIAD CYNNYDD PWC / SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

 

      

 

     Gan Mr Gareth Jones a Mr John Roberts cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y cynnydd gyda’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan PWC a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

      

 

9.1

Cyfeiriodd Mr Gareth Jones, PWC at ganfyddiadau’r Gwaith Archwilio ar y Datganiad Cyfrifon y cyflwynwyd adroddiad arno’n gynharach ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Archwilio.  Yn awr bydd yr Archwiliwr Allanol yn cyflwyno barn ar y cyfrifon diwygiedig a bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi’r cyfrifon erbyn diwedd Medi a thrwy hynny’n cau y broses.  Hefyd disgwylir i PWC ryddhau tystysgrif erbyn Medi yng nghyswllt yr holl gyfrifon llywodraeth a hynny’n golygu trosglwyddo cyfrifon yr Awdurdod i fformat sy’n bodloni gofynion Swyddfa Archwilio Cymru.  Roedd gwaith yr Archwiliwr Allanol yn parhau yng nghyswllt adolygu trefniadau sydd gan y Cyngor i sicrhau gwerth am arian, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth ddefnyddio’i adnoddau.  Er mwyn sicrhau cysondeb yn y dull o gyflwyno adroddiadau gan Archwilwyr Allanol ar y pwnc hwn mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal cyfarfod cymedroli - cyfarfod a gafwyd y mis hwn a bydd canlyniadau’r cyfarfod hwnnw yn destun adroddiad yn y Llythyr Archwilio Blynyddol.  Hefyd roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen ar y Rhaglen Wella gyda’r nod o ryddhau adroddiad erbyn diwedd mis Hydref, 2007 ac mae’r gwaith hefyd yn mynd yn ei flaen gyda’r Archwilio Mewnol.  Yn ogystal roedd gwaith yn dal i gael ei wneud ar Reoli Gwaeledd fel pwnc a nodwyd yn y Broses a’r Cynllun Asesu Risg.

 

      

 

9.2

Cafwyd yr adroddiad a ganlyn gan Mr John Roberts, Swyddog Archwilio Cymru ar y gwaith sy’n mynd yn ei flaen -

 

      

 

9.2.1

Archwiliad Lleol Swyddfa Archwilio Cymru

 

      

 

Ÿ

Rheoli Pobl - cwblhawyd adroddiad a chytunwyd arno gyda’r Cyngor;

 

Ÿ

Asesiad Gwella Gwasanaeth - y canlyniadau yn y broses o gael eu paratoi;

 

Ÿ

Effeithiolrwydd y trefniadau Pwyllgor Gwaith a Phwyllgorau Sgriwtini - roedd gwaith yn dal i gael ei wneud ar ôl cynnal arolwg o’r trefniadau democrataidd - arolwg a gynhaliwyd fel rhan o Gynllun Rheoleiddio 2005/06;

 

Ÿ

Adroddiad Cynnydd ar Safonau Ansawdd Tai Cymru - Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai - gwaith yn mynd yn ei flaen ar oruchwylio i ganfod a ydyw’r Cyngor yn rhoddi fframwaith rheoli yn ei le a sicrhau y bydd Safonau Ansawdd Tai Cymru yn cael eu bodloni;

 

Ÿ

Gweithio ar y Cyd yng nghyswllt Rheoli Gwastraff - cyfarfod ar y cyd gyda’r 3 chyngor ar y gweill;

 

Ÿ

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru - trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Bwrdd;

 

Ÿ

Archwilio Cyfleusterau Hamdden - mae’r fersiwn ddrafft o Strategaeth Hamdden y Cyngor yn cael ei hadolygu yn Rhan 1 proses y mae iddi 2 ran;

 

Ÿ

Adolygiad ar y Cyd o’r Gwasanaethau Cymdeithasol - dilyn-i-fyny - cytuno ar amserau a threfniadau.

 

    

 

9.2.2

Rhaglen Astudiaethau Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru (Cymru Gyfan)

 

      

 

Ÿ

Cynyddu Lefelau Gweithgaredd Corfforol - Cyhoeddwyd Adroddiad Cenedlaethol ym Mehefin, 2007;

 

Ÿ

Rheoli Ynni a Dwr yn y Sector Tai - Cyhoeddwyd Adroddiad Cenedlaethol ym mis Medi, 2007;

 

Ÿ

Creu’r Cysylltiadau a Gweithredu (2) - wrthi’n datblygu’r gwaith;

 

Ÿ

Arferion Da wrth Reoli Absenoldeb Gwaeledd yn y Sector Cyhoeddus - yn cysylltu gyda Chynghorau unigol i drafod y ffordd orau ymlaen;

 

Ÿ

Asesu effeithiolrwydd gwybodaeth rhan 1 a’r cynlluniau gwella cryno fel ffordd o dynnu’r cyhoedd i mewn - adolygiad yn y swyddfa yn bennaf;

 

Ÿ

A ydyw’r trefniadau yn ddigon da ai peidio yng nghyswllt rheoli cyllid etholiadau - ar gyfer etholiadau’r Cynulliad 2007 - y gwaith hwn yn golygu cynnal un cyfweliad gyda swyddog allweddol ym mhob awdurdod lleol yn ystod Hydref/Tachwedd; efallai y bydd raid gwneud mwy o waith ar safleoedd unigol yng nghyswllt unrhyw risgiau a ddaw i’r amlwg yn y rywnd gyntaf o gyfweliadau.

 

 

 

9.2.3

Rhaglen Waith y Dyfodol Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

      

 

Ÿ

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc / Rheoli Risg Llifogydd / Datblygiadau Cynaliadwy (gwneud trefniadau busnes) - wrthi’n datblygu sgop a methodoleg yr holl arolygon hyn;

 

Ÿ

Buddsoddi Cyfalaf mewn Ysgolion - erbyn diwedd mis Hydref bydd holiadur yn cael ei yrru i’r holl Gynghorau ac wedyn trefnir ymweliadau â rhai awdurdodau yn Rhagfyr / Ionawr;

 

Ÿ

Trafnidiaeth Gyfun - y mater yn cael ei sgopio ar hyn o bryd ac efallai na fydd y gwaith yn ymwneud â Llywodraeth Leol.

 

 

 

Diolchodd yr aelodau i’r ddau swyddog am y wybodaeth uchod gan wneud sylw y buasai  diweddariad llai eang gan Swyddfa Archwilio Cymru yn well yng nghyfarfodydd y dyfodol fel bod aelodau yn medru canolbwyntio ar rai materion allweddol.

 

 

 

Cododd y materion a ganlyn o’r adroddiadau a gyflwynwyd -

 

 

 

Ÿ

cyfeiriwyd at waith yr Archwiliwr Allanol yng nghyswllt asesu trefniadau’r Awdurdod i wneud y defnydd mwyaf economaidd, effeithiol ac effeithlon o’i adnoddau a chwestiynwyd a oedd dal symiau sylweddol o arian wrth gefn (lefelau uwch na’r arian wrth gefn angenrheidiol) am gyfnodau hir yn adlewyrchu’r defnydd gorau o adnoddau, a gofynnwyd hefyd a oedd arferion o’r fath yn gyffredin dderbyniol.  Cafwyd sylw fod dal cymaint o adnoddau wrth gefn yn mynd yn groes i ddatganiadau cyhoeddus mae’r Awdurdod yn eu gwneud yn ystod y broses flynyddol o setlio ar y gyllideb ei fod yn gorfod ymdopi gydag adnoddau annigonol a phrinder arian.

 

 

 

Mewn ymateb dywedwyd mai cyfrifoldeb yr Archwiliwr Allanol yw asesu a ydyw’r Awdurdod gyda threfniadau ai peidio i sicrhau gwerth am arian, nid penderfynu a ydyw’r trefniadau hynny yn effeithiol.  Roedd gan yr Awdurdod system ddoeth o gyfrifo - un yn bodloni’r Archwiliwr Allanol - a chymerwyd yn ganiataol bod lefel yr arian wrth gefn yn fater sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd.  Mae lefelau’r arian wrth gefn yn amrywio o’r naill Awdurdod i’r llall gan ddibynnu ar anghenion ac ar waith asesu ymrwymiadau.  Fodd bynnag, roedd hi’n bosib i’r Archwiliwr Allanol, ar y cyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru, gasglu gwybodaeth am lefelau cyffredinol yr arian wrth gefn yng Nghymru i ddibenion tynnu cymhariaeth.  

 

 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol bod trefniadau rheoli’r trysorlys yn faes priodol i’w sgriwtineiddio, a hwn oedd y rheswm y tu cefn i gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys i’r Cyngor Sir a hefyd i’r Prif Bwyllgor Sgriwtini.  Yn y gorffennol cafodd y trefniadau hyn eu hadolygu gan Archwilwyr Mewnol a hefyd cyflogwyd ymgynghorwyr allanol i gynorthwyo gyda’r gwaith o reoli’r trysorlys; cafwyd fod y trefniadau hynny yn foddhaol.  Roedd modd cyflwyno i’r Pwyllgor ystadegau cymharol yn dangos nad yw lefel uchel o fuddsoddi yn erbyn lefel uchel o fenthyca yn arfer anghyffredin ymhlith awdurdodau lleol Cymru.

 

 

 

Ÿ

codwyd sawl cwestiwn ynghylch y cynnydd wrth symud ymlaen tuag at gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ac yn benodol yng nghyswllt codi safon y ceginau fel rhan o’r rhaglen yn Ynys Môn a gofynnwyd a oedd y gwaith hwn wedi’i gefnogi gan arolwg manwl ac a ellid fod wedi gwneud gwell defnydd o’r adnoddau ar ran arall o’r rhaglen.  Yn ogystal cafwyd cwestiynau ynghylch dulliau rheoli’r contract yng nghyswllt yr uwchraddio hwn ac a lynwyd wrth y gweithdrefnau tendro.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd Mr John Roberts bod Penaethiaid Gwasanaeth Tai yr Awdurdodau Lleol wedi cael rhybudd o faterion fel maent yn codi, a bod sawl Awdurdod yn pryderu ynghylch cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.  Ar ôl ymgynghori gyda’r tenantiaid yr aethpwyd ati i godi safon y ceginau.

 

 

 

Cafwyd sylwadau gan y Cadeirydd fod mater y contract yn un y gallai’r Archwiliwr Allanol fynd ar ei drywydd.

 

 

 

Penderfynwyd nodi’r diweddariadau gan PWC a Swyddfa Archwilio Cymru a diolch i’r swyddogion am y wybodaeth.  

 

      

 

 

 

Y Cynghorydd R Llewelyn Jones

 

Cadeirydd