|
|
|
Nododd yr Archwiliwr Dosbarth hefyd bod y
Cyngor wedi datblygu rhaglen waith glir i symud tuag at
Ddadansoddiad o'r Awdurdod Cyfan. Y farn yw, os gweithredir
arno'n gywir, dylai fedru darparu dadansoddiad sy'n nodi'r materion
allweddol ar gyfer gwaith y Cyngor o reoli ei swyddogaethau
corfforaethol a gwasanaeth yn strategol ac yn weithredol.
Roedd rhaid i'r Cyngor sicrhau ei fod yn neilltuo digon o
adnoddau ac yn rheoli prosiectau'n gadarn trwy'r Uned Bolisi
Gorfforaethol a'r Grwp Strategaeth Rheoli Perfformiad i sicrhau y
cafodd eu hamcanion eu bodloni.
|
|
|
|
Roedd trefniadau'r Cyngor o ran strategaeth
gymunedol, Cefnogi Pobl, rheoli gwastraff e-Lywodraeth a
rheolau systemau telagyfathrebu wedi nodi esiamplau o arfer da ac
annog datblygiad. Roedd y Cyngor wedi datblygu'n sylweddol o
ran rhoi sylw i'r materion a gyfyd yn sgil adolygiadau cynt o
grantiau cyfalaf y sector preifat a chynllunio a rheoli ymddeoliad
cynnar.
|
|
|
|
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio adroddiad ar
adolygiad o reolau diogelwch system ffonio'r Cyngor Sir.
Nododd bod y Cyngor wedi sefydlu rhyw gymaint o reolaeth i
rwystro pobl rhag camddefnyddio'r system hon neu i gyfyngu ar hyn
ond roedd rhaid gwella'r rheolau i wneud y gwaith yn llwyr
effeithiol.
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Ceri Stradling ac
i Mr. Kevin Thomas am yr anerchiad cadarnhaol ar gynnwys y llythyr
archwilio. Nododd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod
olaf Mr. Stradling a diolchodd iddo am ei waith dros y
blynyddoedd.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn Llythyr Archwilio
Blynyddol 2001/2002.
|
|
|
|
3
|
AGWEDDAU CYLLIDOL AR LYWODRAETH
GORFFORAETHOL
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - er gwybodaeth - adroddiad yr Archwiliwr
Dosbarth ar yr uchod.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
4
|
ADRODDIAD ARCHWILIO - RHAGLEN CYMRU AR GYFER GWELLA - CYNLLUN GWELLA
2002/2003
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - er gwybodaeth, adroddiad yr Archwiliwr
Dosbarth ar yr uchod.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD T.LL. HUGHES
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|