Meeting documents

Governance and Audit Committee
Thursday, 27th April, 2006

PWyllgor Archwilio

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 EBRILL 2006

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd G. O. Parry (Cadeirydd)

Y Cynghorydd W. I. Hughes (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr John Byast, J. Arthur Jones, R. G. Parry OBE, E. Schofield, W. T. Roberts

 

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cyllid

Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol)

Swyddog Pwyllgorau (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr C. Ll. Everett, J. Arwel Roberts

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Mr. Ian Howse (Uwch Reolwr Archwilio - PricewaterhouseCoopers)

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd datganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod cynt o’r Pwyllgor Archwilio a’u llofnodi fel rhai cywir.  

(Tudalen 82 Cyfrol Cofnodion y Cyngor Sir, 2 Mawrth 2006).

 

3

CYNLLUN STRATEGOL ARCHWILIO MEWNOL : EBRILL 2006 - MAWRTH 2010

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) yn ymgorffori cynllun strategol i archwilio mewnol am y cyfnod o 4 blynedd o Ebrill 2006 hyd at Fawrth 2010

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) bod y cynllun strategol yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol i gyfateb i newidiadau yn y meysydd archwilio, yn yr asesiadau risg newydd a hefyd yn y llithriadau oherwydd swyddi gweigion, gwaeledd staff etc.  Roedd y cynllun yn seiliedig ar 8 aelod o staff yn gweithio yn yr Adain yn 2006/07 ac yn 2007/08 ac yn mynd i lawr i 7 ym mis Rhagfyr 2008.  Ar ôl cyfrifo nifer y dyddiau oedd ar gael fe dynnwyd diwrnodau ar gyfer gwyliau, salwch, hyfforddi staff a gwnaed lwfans hefyd ar gyfer swyddi gweigion.  Hefyd fe dynnwyd amser ar gyfer gweinyddu, gwaith heblaw archwilio a gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio.  Y diwrnodau sy’n weddill (5,637 diwrnod gwaith dros 4 blynedd) yw’r diwrnodau archwilio sydd ar gael.

 

Yn yr adroddiad amlinellwyd y ffactorau hynny y mae’r fformiwla clandro risg yn seiliedig arnynt.  Mae’r fformiwla yn fodd i bennu risg i bob maes archwiliadwy ac ohoni ceir wybod pa mor aml y dylid archwilio maes penodol y tu mewn i’r cylch o 4 blynedd.  Pan fo’r fformiwla yn dangos bod asesiad risg uchel mewn unrhyw faes yna mae hwnnw’n cael ei archwilio’n flynyddol a’r meysydd hynny lle mae'r asesiad risg yn isel iawn yn cael eu harchwilio unwaith bob 4 blynedd.

 

Mae’r Cynllun a baratowyd yn canolbwyntio ar waith archwilio creiddiol a thraddodiadol gan adlewyrchu lefel bresennol yr adnoddau a sgiliau’r tim archwilio presennol.  Yn ystod y broses ymgynghori nodwyd meysydd risg eraill ac efallai bod modd ystyried y meysydd hynny ar gyfer gwaith archwilio yn y dyfodol, ond i wneud y gwaith hwnnw byddai raid i adnoddau gael eu trosglwyddo o’r gwaith archwilio creiddiol ac ailasesu sut y cynigir y gwasanaeth archwilio.  Ymgynghorydd a Chyfarwyddwr pob adran ynghylch effaith y cynllun arni ac ymgynghorwyd â’r Cyfarwyddwr Cyllid, y Rheolwr-gyfarwyddwr a’r Swyddog Monitro ynghylch y cynllun llawn.  Ym mharagraff 5.2 yr adroddiad roedd dadansoddiad o’r Cynllun Strategol fesul math o waith archwilio ac fesul adran.  Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Phenaethiaid Gwasanaeth unigol ar weithredu'r cynllun yn 2006/07 gan roddi sylw arbennig i amseriad ac i sgôp pob archwiliad unigol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Strategol Archwilio Mewnol am y 4 blynedd o Ebrill 2006 hyd at Fawrth 2010 ac fel y'i cyflwynwyd y Cynllun.

 

 

 

4

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR ARCHWILIO MEWNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Yr Adroddiad Blynyddol ar Archwilio Mewnol gan grynhoi’r gwaith a wnaed gan yr Adain Archwilio Mewnol yn ystod 2005/06.  

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) at y prif ystyriaethau fel a ganlyn :-

 

 

 

4.1

Roedd cymhariaeth rhwng yr holl waith archwilio cynlluniedig (1,231 diwrnod) am y flwyddyn gyda’r gwaith gwirioneddol a wnaed (1,235.9 diwrnod) yn dangos gwahaniaeth o 4.9 diwrnod.

 

4.2

Roedd dadansoddiad o’r gwaith archwilio cynlluniedig a’r gwaith archwilio gwirioneddol a wnaed yn ystod 2005/06 fel yr ymddangosodd y dadansoddiad hwnnw yn nhabl 3.1 yr adroddiad, yn dangos fod cyfanswm o 96 o unedau archwilio wedi eu cynllunio ar y cychwyn, ac wedyn wedi ei ddiwygio i 98;  cwblhawyd 106 uned o waith archwilio erbyn 31 Mawrth 2006 a pharatowyd adroddiad drafft i 13 arall;  roedd gwaith yn mynd rhagddo ar 22 o unedau eraill erbyn 31 Mawrth 2006 a’r gwaith heb ddechrau ar 4 uned archwilio erbyn diwedd yr un cyfnod. Roedd cyfanswm o 28 o unedau archwilio a gwblhawyd neu rai yn y cyfnod drafft neu rai o dan sylw yn ymwneud â gwaith cynlluniedig 2004/05 tra bod 12 uned arall oedd wedi eu cwblhau neu mewn diwyg drafft yn ymwneud â gwaith cynlluniedig yn perthyn i’r cyfnod cyn 2004/05; hefyd roedd 7 o archwiliadau contract o 2004/05 wedi eu cwblhau erbyn 31 Mawrth, 2006.

 

4.3

Er bod gwaith yn cael ei gynllunio ar gyfer blynyddoedd penodol yn y cynlluniau strategol a blynyddol mae unedau o waith yn cael eu trosglwyddo o’r naill flwyddyn i’r llall, yn enwedig felly yr unedau archwilio mawrion neu unedau y mae gwaith yn dechrau arnynt tua diwedd y flwyddyn ariannol.  Mae hyn yn cyfrif am y 47 o unedau archwilio yng nghyswllt cynlluniau y blynyddoedd cynt a drosglwyddwyd ymlaen i 2005/06 a’r 39 o unedau gwaith a gwblhawyd yn 2006/07 (13 wedi cyrraedd lefel ddrafft, 22 yn y broses o gael sylw a 4 heb ddechrau eto).

 

4.4

Roedd angen 170 o ddiwrnodau yn 2005/06 i gwblhau unedau archwilio a ddygwyd ymlaen o’r blynyddoedd cynt ac amcangyfrifir y bydd angen 150 o ddiwrnodau i gwblhau unedau heb eu cwblhau yng nghyswllt 2005/06 yn 2006/07.

 

4.5

Yn ystod y flwyddyn diwygiwyd y cynllun archwilio ac ychwanegwyd dwy uned archwilio cynlluniedig arall at y cynllun.  Ni ddechreuwyd ar 4 uned archwilio a’r 4 yn cyfrif am 70 diwrnod o waith archwilio cynlluniedig.  Ni ddechreuwyd ar yr unedau hyn am fod unedau archwilio eraill wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl i’w cwblhau.

 

4.6

Gwnaed lwfans am lithriad adeg llunio cynllun strategol 2006-2010 ac felly bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod oes y cynllun yn unol â’r asesiad risg;

 

4.7

Yn ystod 2005/06 cyhoeddwyd 65 o adroddiadau archwilio ffurfiol a gwnaed 462 o argymhellion a derbyniwyd y cyfan ac eithrio 2 ohonynt.

 

4.8

I bwrpas mesur perfformiad yr Adain Archwilio Mewnol pennwyd set o ddangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt yn y Pwyllgor Archwilio fel mesur o berfformiad yr Adain.  Dengys y dangosyddion perfformiad am 2005/06, fel y ceir nhw yn nhabl 4.1 yr adroddiad fod costau yr Adain Archwilio Mewnol yn dal i fod dan reolaeth dda ac yn is na meincnod cyfartaleddog CIPFA i awdurdodau cyffelyb.

 

4.9

Gwelwyd gwelliant yn lefel deilliannau 2005/06 a’r dyddiau y codwyd amdanynt ar gyfer pob archwiliwr, nifer yr unedau archwilio cynlluniedig a gwblhawyd a nifer yr unedau archwilio a gwblhawyd y tu mewn i’r amser cynlluniedig i gyd yn uwch na chanlyniadau 2004/05.  Ond roedd canran yr unedau archwilio cynlluniedig a gwblhawyd (75%) a chanran yr unedau archwilio a gwblhawyd y tu mewn i’r amser cynlluniedig (64%) yn dal i fod yn is na’r nod y penderfynwyd arno (83% a 71% i’r ddau gategori) a bydd y gwaith yn parhau yn ystod 2006/07 ar ddiwygio’r gweithdrefnau gyda’r nod o gyrraedd y targedau a bennwyd.

 

4.10

Er bod y canlyniadau yn deillio o’r holiaduron ansawdd a roddwyd i glientau yn dal i fod yn uwch na thargedau a bennwyd, mae’r perfformiad wedi syrthio o lefel 2004/05.  O edrych yn fanwl ar yr holiaduron gwelwyd fod gwasanaethau wedi mynegi pryderon, mewn rhai meysydd, ynghylch agweddau ar y gwaith archwilio a ddarparwyd.  Mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda gwasanaethau a fynegodd bryderon ac adolygir y gweithdrefnau mewn ymateb i’r pryderon hynny.

 

4.11

Yn deillio o’r argymhellion yn yr unedau archwilio ceir 4 prif ganlyniad - gwella mesurau rheoli mewnol a hynny’n arwain at ostwng y perygl o gamgymeriadau neu dwyll; gwella trefniadau gweithio ac effeithlonrwydd; gwella trefniadau casglu incwm a chywiro camgymeriadau a ganfuwyd yn ystod y gwaith archwilio ac adennill arian yn sgil archwiliadau o dwyll.  Yn ystod gwaith archwilio 2005/06 cafwyd cyfanswm o £26,275 yn cynnwys posibilrwydd dwyn/twyll, talu gormod a dim digon i staff/aelodau, incwm heb ei gasglu, taliadau dyblygol/anghywir a chywiro cyfrifon terfynol contractau.  Adenillwyd £17,256 ac mae cyfanswm o £9,019 yn dal i fod yn ddyledus.

 

4.12

Mae pob uned o waith archwilio yn cael gradd o A (yn dangos na chafwyd gwendid yn y rheolau mewnol na chamgymeriadau wrth brofi samplau) i E (yn dangos fod y system o reolau mewnol yn gwbl annigonol hyn wedi arwain at risg uchel o gamgymeriadau neu o dwyll i’r awdurdod).  Yng nghyswllt y 65 o unedau o waith archwilio a wnaed ac a gwblhawyd yn ystod 2005/06 rhoddwyd gradd A i 4, gradd B i 42, gradd C i 16, gradd D i 1 a gradd E i un arall.  Nid oedd modd rhoddi gradd yn achos un uned o waith archwilio.

 

4.13

Y raddfa gyffredinol yn seiliedig ar yr holl waith a wnaed yn ystod y flwyddyn yw B, sef risg fechan i’r awdurdod.  Yn seiliedig ar sgôp y gwaith a wnaed, a chyda’r amod bod rheolwyr yn gweithredu ar yr argymhellion ac os ydyw’r system yn parhau i weithio fel y bwriadwyd hi i weithio ni welodd yr Archwiliwr unrhyw wendidau mawr yn y trefniadau rheoli a fyddai’n rhwystro’r Cyngor rhag dibynnu, o fewn rheswm, ar y systemau rheoli mewnol a adolygwyd yn ystod y flwyddyn.  Dylid nodi mai dim ond sicrwydd o fewn rheswm yn hytrach na sicrwydd pendant, y gall unrhyw system reoli fewnol ei rhoi yn erbyn colled sylweddol neu ffeithiau a gofnodwyd yn anghywir.

 

 

 

Mewn ymateb cyfeiriodd un aelod at y swm a gollwyd oherwydd dwyn neu dwyll, sef cyfanswm o £10,019 ac yn arbennig mai dim ond £1,000 ohono a adenillwyd.  Gofynnwyd a oedd rhagor o gamau’n cael eu cymryd i adennill yr arian oedd yn dal i fod ar ôl.

 

 

 

Mewn ymateb rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod yr arian hwn yn ymwneud ag achos penodol y cyflwynwyd adroddiad arno i’r Pwyllgor Archwilio yn y gorffennol a’r gwaith wedi arwain at gael unigolyn yn euog o ddwyn, a gwnaed gorchymyn Llys i ad-dalu £10,019 ac roedd £1,000 ohono eisoes wedi ei dalu’n ôl.  Y llys felly, yn hytrach na’r awdurdod, sy’n gyfrifol am sicrhau y bydd gweddill yr arian yn cael ei ad-dalu.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad blynyddol ar Archwilio Mewnol 2005/06 a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

5

ADRODDIAD GWAITH AR ARCHWILIO MEWNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain dros y cyfnod 1 Ebrill, 2005 hyd at 31 Mawrth, 2006.  

 

 

 

Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar y prif ystyriaethau fel a ganlyn:

 

 

 

5.1

Yn ystod y cyfnod 19 Medi 2005 hyd at 23 Mawrth 2006 gwnaed gwaith ar 33 o unedau archwilio ac ym mhob achos cyflwynwyd adroddiad terfynol; roedd gwaith ar 11 o unedau wedi cyrraedd y lefel ddrafft, a’r gwaith yn mynd rhagddo ar 22 o unedau archwilio eraill.  Yn achos y 33 o unedau archwilio y cyhoeddwyd adroddiad ffurfiol arnynt, rhoddwyd graddfeydd A i 3, graddfeydd B i 21 a graddfeydd C i 7.  Y raddfa i waith archwilio Ysgol Rhoscolyn oedd E, a chyflwynwyd adroddiad llawn ar y gwaith i sylw aelodau’r Pwyllgor.  O dynnu cymhariaeth gyda gwaith archwilio y gorffennol gwelwyd bod gwelliant yn y raddfa yn achos 11 o achosion, y raddfa wedi aros yn ei hunfan yn achos 16 o unedau, y raddfa wedi mynd i lawr yn achos 2 ac yng nghyswllt y 4 uned arall o waith archwilio hwn oedd y gwaith archwilio cyntaf a wnaed yn y meysydd penodol hynny neu fel arall nid oedd y gwaith blaenorol wedi ei raddio.

 

5.2

Roedd y gwaith anorffenedig ar y 33 o unedau archwilio eraill, ar 31 Mawrth 2006, wedi cyrraedd cyfnodau amrywiol - roedd y Pwyllgor eisoes wedi penderfynu y dylai gael adroddiad ar bob achos lle na chafwyd unrhyw ymateb cyn pen 3 mis i ryddhau fersiwn ddrafft neu ddiwygiedig.  Nid oedd yr un uned o waith archwilio yn perthyn i’r categori hwn.

 

5.3

Yn ychwanegol at y gwaith ffurfiol hwn daeth 19 o gontractau cyfalaf i’r Adain Archwilio rhwng 19 Medi 2005 a 31 Mawrth 2006.  Cwblhawyd y gwaith archwilio ar 17 ohonynt a dychwelwyd y ffeiliau i’r adrannau perthnasol.  Roeddid yn dal i weithio ar y ddau gontract arall.

 

5.4

Yn ystod y flwyddyn mae’r Adain Archwilio Mewnol yn gorfod gwneud gwaith ar faterion sy’n dod i’r fei yn ystod gwaith archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir i sylw’r Adain gan Adrannau eraill a gwaith hefyd y mae Adrannau eraill yn gofyn i’r Adain Archwilio Mewnol ei wneud.  Hefyd mae’n bosib y bydd yr Archwiliwr Allanol yn gofyn iddynt am wybodaeth neu am gymorth i ddarparu gwybodaeth yn sgil rhai o’r ymchwiliadau cyn cyhoeddi adroddiadau archwilio ffurfiol ond efallai na fydd adroddiadau yn dilyn rhai ymchwiliadau yn yr adroddiad. Cyflwynwyd, yn yr adroddiad, wybodaeth am waith ymchwil arbenigol a wnaeth yr Adain Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod a hefyd y canlyniadau.

 

5.5

Hefyd mae’r Adain Archwilio Mewnol yn darparu cyngor ar reolau, systemau a rheoliadau ac mae’r gwaith a gofnodwyd dan y categori hwn yn waith a wnaed ar gais Adrannau ac fel arfer yn cyfateb i gyngor ar reolau cyllidol, ar reolau sefydlog i gontractau ac ar drefniadau tendro, ar y rheolau mewnol sy’n angenrheidiol i systemau newydd neu yn ymwneud â thrafodaethau i newid systemau.  Dros gyfnod yr adroddiad hwn rhoes yr Adain Archwilio Mewnol gyngor ar drefniadau tendro yng nghyswllt contractau amrywiol, cyngor hefyd ynghylch hyfforddi prifathrawon newydd yn y broses o wneud gwaith archwilio mewnol mewn ysgolion a rhoddwyd cyngor cyffredinol ar faterion amrywiol i’r Adrannau.

 

5.6

Gwnaed gwaith dilyn-i-fyny ar 33 o adroddiadau archwilio a gyhoeddwyd rhwng 1 Mawrth 2005 a 31 Awst 2005 a chafwyd, gan y mwyafrif o’r adrannau/gwasanaethau, ymateb boddhaol.  Bellach roedd modd dweud hefyd am yr ymateb boddhaol o’r Adran Addysg a Hamdden ynghylch archwilio incwm a gwariant cludiant ysgol.

 

 

 

Wedyn cafwyd trafodaeth ar adroddiad archwilio Ysgol Rhoscolyn a'r radd E.  Er bod sail gadarn i faterion cyllidol yr ysgol a’r swrplws cyllidebol £34,951 yn cyfateb i 12.5% o'i chylllideb roedd casgliadau archwilio yn crybwyll nifer o wendidau sylweddol yng ngweinyddiaeth yr ysgol.  Roedd cyfran dda o’r gwendidau hyn hefyd wedi ei nodi yn y ddau adroddiad archwilio cynt ond methodd yr ysgol â gweithredu ar yr argymhellion a wnaed.  Mae’n ofynnol i'r ysgol fabwysiadu a gweithredu canllawiau’r awdurdod a rhai’r Adran Addysg i bwrpas gweinyddu busnes yr ysgol a hefyd i bwrpas lleihau risg o gamgymeriadau neu o dwyll.

 

 

 

Cafwyd sylwadau gan yr aelodau ar lefelau uchel yr arian wrth gefn yn yr ysgol a gofynnwyd am sicrwydd nad oedd y gwendidau gweinyddol a ddaeth i’r amlwg trwy’r gwaith archwilio yn arwydd o wendidau mwy difrifol o’r golwg.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) nad oedd yr ymholiadau archwilio wedi dod o hyd i unrhyw beth amhriodol iawn ac eithrio methiant systemataidd i weithredu’n iawn ar reolaethau gweinyddol ac ar weithdrefnau gweithredol mewn ysgolion cynradd i reoli a chofnodi gweithgareddau megis incwm prydau ysgol, archebu nwyddau a gwasanaethau a thalu amdanynt, casglu incwm yr ysgol a’i fancio, ffioedd hyfforddiant miwsig ac yn y blaen.  Roedd yr archwiliad wedi dyfarnu graddfa E oherwydd amred a nifer y gwendidau gweinyddol a ganfuwyd ac oherwydd methu â rhoddi sylw iddynt yn sgil archwiliadau blaenorol.

 

 

 

Er bod cronfeydd wrth gefn Ysgol Rhoscolyn yn uchel yng nghyd-destun cyllideb yr ysgol  dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad oeddent yn anarferol yng nghyd-destun ysgolion cynradd Môn ac roedd y Pwyllgor Archwilio eisoes wedi penderfynu edrych ar y mater hwn yn un o’i gyfarfodydd yn y dyfodol.  Canfu’r Adain Archwilio Mewnol bod lefelau gweinyddol yn amrywio o’r naill ysgol i’r llall, ac er nad yw diffygion o angenrheidrwydd yn golygu bod twyll yn digwydd, rhaid cofio bod gwendidau yn y system weinyddol yn ychwanegu at risgiau o gamgymeriadau neu o dwyll.  Y pryder pennaf gydag Ysgol Rhoscolyn yw’r methiant i symud ymlaen i weithredu ar argymhellion yn deillio o waith archwilio’r gorffennol; ac mewn cyfnod pan fo ysgolion yn cael mwy a mwy o annibyniaeth mae’r hyn y gall yr Awdurdod hwn ei wneud yn gyfyngedig yn achos yr ysgolion hynny sy’n methu â chydymffurfio gyda gweithdrefnau ac yn methu â gweithredu ar gyfarwyddyd - yr unig beth, mewn gwirionedd, y gall ei wneud yw rhyddhau adroddiad graddfa E.  Gyda’r cefndir hwn gofynnwyd i’r Pwyllgor yrru llythyr i’r ysgol yn dweud bod methiant yr ysgol i weithredu ar argymhellion gwaith archwilio mewnol y gorffennol yn annerbyniol.

 

 

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn gefnogol i’r awgrym hwn a chytunwyd i yrru llythyr at y corff llywodraethol yn mynegi pryderon y Pwyllgor Archwilio oherwydd methiant yr ysgol i weithredu ar argymhellion i unioni gwendidau a ganfuwyd mewn dau archwiliad blaenorol.  Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn fodlon, a nodwyd hynny, bod y methiannau a ganfuwyd yn Ysgol Rhoscolyn yn sgil y gwaith archwilio yn rhai o natur weinyddol yn unig.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) a’i staff am y gwaith ac am yr adroddiad manwl iawn a gyflwynwyd dan yr eitem hon a hefyd am yr adroddiadau a gyflwynwyd dan y ddwy eitem flaenorol.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

5.7

Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain yng nghyswllt y cyfnod o 1 Ebrill 2005 hyd at 31 Mawrth 2006 a nodi’i gynnwys.

 

5.8

Gyrru llythyr at Gorff Llywodraethol Ysgol Rhoscolyn yn mynegi bod y Pwyllgor yn anfodlon gyda’r gwendidau hynny sy’n dal i fod ym mhrosesau gweinyddol yr ysgol a siom hefyd am na weithredwyd ar argymhellion  mewn dau archwiliad blaenorol i unioni’r gwendidau hyn.

 

5.9

Diolch i’r Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) a’i staff am eu gwaith.

 

      

 

6

ARCHWILIO ALLANOL - CYNLLUN RHEOLEIDDIOL 2005/06

 

      

 

     Cyflwynwyd - Cynllun Rheoleiddiol 2005/06 i Gyngor Sir Ynys Mon.

 

      

 

     Dygodd Mr. Ian Howse, Uwch Reolwr Archwilio, PricewaterhouseCoopers sylw’r aelodau at y pwyntiau hynny yn y cynllun oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Archwilio fel a ganlyn :

 

      

 

6.1

Mae'r cynllunio rheoleiddiol uchod yn ymwneud â gwaith PWC fel archwilwyr allanol yr awdurdod ar y naill law a hefyd yn cyffwrdd â gwaith Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwaith honno ar archwilio perfformiad a hefyd mae'n ymwneud â chyrff archwilio eraill megis Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (SSIW) ac Estyn.  Daw'r cynllun â'r holl waith rheoleiddio ac archwilio ynghyd mewn un dogfen - sef y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn ystod blwyddyn archwilio 2005/06.  Mae'r rhan honno o'r Cynllun sy'n ymwneud yn benodol â gwaith PWC yn ymddangos ym mharagraffau 13 - 18 ac Arddangosyn 2 lle yr amlinellir y gwaith perfformiad ar feysydd risg am y flwyddyn.

 

6.2

Mae rhan PWC o'r cynllun cyffredinol yn ymrannu'n ddwy, sef

 

      

 

6.2.1

Archwilio Cyfrifon Ariannol - mae hyn yn cyfateb i archwiliad traddodiadol o ddatganiad ariannol y Cyngor.  Er mwyn cyhoeddi'r adroddiad archwilio a barn ar y datganiadau ariannol, yn unol â'r rolau a'r cyfrifoldebau a nodwyd yn Atodiad 2, mae'n rhaid i'r archwilydd apwyntiedig sicrhau fod yr holl risgiau archwilio sy'n gysylltiedig â'r uchod yn cael eu dynodi ac yn cael sylw.  Mae asesiad cychwynnol o risgiau wedi ei wneud ac isod cyflwynir crynodeb o'r canlyniadau -

 

      

 

Ÿ

cydymffurfio â rheoliadau cyfrifon ac archwilio - mae llawer o newidiadau i'r prosesau cyfrifo sy'n deillio o'r rheoliadau newydd ynghylch cyfrifon ac archwilio.  Y prif newid yw bod Cyfrifon ar gyfer 2005/06 angen eu cymeradwyo erbyn 31 Gorffennaf yn hytrach nag erbyn 31 Medi fel yr oedd pethau y llynedd.  Hefyd mae'n rhaid iddynt gael eu llofnodi a'u dyddio gan Gadeirydd y Pwyllgor sy'n cymeradwyo neu gan Gadeirydd y Cyngor.  Yn yr un modd mae'r dyddiad cau i'r gwaith archwilio wedi ei ddwyn ymlaen i 30 Hydref yn hytrach na 31 Rhagfyr fel yr oedd pethau y llynedd;

 

Ÿ

cyfrifon Llywodraeth Gyfan Cymru - bwriedir i'r set gyntaf o Gyfrifon y Llywodraeth Gyfan i Gymru gael eu cynhyrchu ar gyfer 2005/06.  Bydd yr archwilwyr yn trafod, gyda'r awdurdod, drefniadau'r awdurdod i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y broses hon;

 

Ÿ

Cyfrifon Grwp - erbyn 2005/06 gweithredir yn llawn ar Gyfrifon Grwp mewn Llywodraeth Leol.  Mae'r awdurdod hwn wedi bod yn darparu Cyfrifon Grwp ers blynyddoedd ac mae mewn sefyllfa gref i symud ymlaen yn y maes hwn.  Bydd yr archwilwyr yn gweithio gyda'r Awdurdod i sicrhau gweithrediad llawn a llyfn eleni.

 

 

 

Bydd yr archwilydd apwyntiedig yn diweddaru'r asesiad risg yn ystod y flwyddyn ac yn cynhyrchu Cynllun Cyfrifon Ariannol mwy manwl cyn cwblhau unrhyw waith.

 

 

 

6.2.2

Gwaith Perfformiad - yr hen enw arno oedd gwaith gwerth am arian a'r archwilwyr yn edrych ar feysydd penodol o wasanaeth i benderfynu a oedd gwasanaeth yn rhoddi gwerth am arian ai peidio a phennu hefyd a oedd y dulliau rheoli angenrheidiol yn eu lle ac ystyried ym mha fodd i wella'r gwasanaeth.  Bydd prif ffocws gwaith yr archwilydd apwyntiedig yng nghyswllt y cyfrifoldeb hwn yn parhau i fod ar adolygu trefniadau rheoli perfformiad a rheolaeth gyllidol gorfforaethol allweddol y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu cyflwyno, fel rhan o system rheoli mewnol yr Awdurdod fel bod modd iddo sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio ei adnoddau ac fel y manylir ar y materion hyn ym mharagraffau 48 a 52 y Côd Archwilio ac Ymarfer Arolygu a manylir mwy arnynt yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Bydd casgliad yr archwilydd apwyntiedig yn seiliedig, yn bennaf, ar dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'i waith archwilio Côd arferol, ac ar ddatganiadau ariannol blynyddol yr Awdurdod ac ar ffynonellau perthnasol eraill o dystiolaeth, megis gwaith archwilio ac arolygu perfformiad a wnaed yn ystod y flwyddyn.  Yn achos Cynllun Gwella'r awdurdod mae gofyn i'r archwilydd hefyd gynnal archwiliad a chyhoeddi adroddiad, fel yr amlinellir hyn yn Atodiad 2 ynghlwm wrth yr adroddiad uchod.

 

6.2.3

Mae'r meysydd y gwneir gwaith archwilio perfformiad arnynt eleni  ac, a grynhoir uchod, wedi eu dewis a'u dethol ar ôl gwneud asesiad risg yn sgil cynnal cyfweliadau gyda chyfarwyddwyr y gwasanaethau, ac ar ôl dadansoddi gwybodaeth DP a gwybodaeth arall am y sefydliad oedd ar gael i'r archwilydd ac yn gymorth i benderfynu ar y meysydd i ganolbwyntio arnynt :-

 

      

 

6.2.3.1

Astudiaethau Archwilio Perfformiad Lleol

 

      

 

Ÿ

Rheolaeth Cynllunio a Datblygu - bydd yr archwiliwr yn adolygu'r prosesau gwneud penderfyniadau cynllunio ac yn benodol y rhesymau dros y nifer sylweddol o'r penderfyniadau sy'n tynnu'n groes i'r Cynllun Datblygu Unedol.

 

Ÿ

Cyfathrebu Gwybodaeth a Thechnoleg (ICT) - bydd yr archwiliwr yn asesu buddsoddiad yr awdurdod mewn ICT ac yn ystyried yn arbennig lefel y buddsoddiad a wnaed i ganfod y meysydd hynny ble mae ICT, o bosib, yn methu â chefnogi blaenoriaethau a busnes yr Awdurdod.

 

Ÿ

Dilyn i fyny y gwaith a wnaed yn y blynyddoedd a fu - bydd yr archwiliwr yn dilyn i fyny y cynnydd y mae'r Awdurdod wedi'i wneud mewn gweithredu'r argymhellion yn dilyn o waith perfformiad yr archwiliwr yn y blynyddoedd a fu.

 

6.2.3.2

Trefniadau - rheolaeth ariannol

 

      

 

Ÿ

Prynu - bydd yr archwiliwr yn asesu strategaeth prynu'r Awdurdod ac yn ystyried y prosesau er mwyn ystyried a oes cyfle ai peidio i gyflawni mwy o arbedion.

 

Ÿ

Cyllideb Addysg - bydd yr archwiliwr yn cynnal adolygiad fel cymorth i'r Adran ddynodi pa feysydd posib y bydd modd cyflawni arbedion effeithlonrwydd ynddynt.

 

Ÿ

Defnyddio adnoddau : casgliad gwerth am arian - bydd yr archwiliwr yn paratoi casgliad ynghylch a ydyw'r awdurdod wedi gosod trefniadau digonol ai peidio yn eu lle i sicrhau gwerth am arian yn ei ddefnydd o adnoddau.  (ond ni fydd yn penderfynu a ydyw'r trefniadau yn effeithiol yn ymarferol).

 

Ÿ

Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella - bydd yr archwiliwr yn gorffen y gwaith hwnnw sy'n angenrheidiol i ddarparu barn ar Gynllun Gwella'r Awdurdod am 2006/07.

 

 

 

6.2.4

Ar dudalen 10 yr adroddiad cyflwynir y ffioedd archwilio fesul maes Côd.

 

 

 

Diolchodd yr aelodau i Mr. Ian Howse am ei grynodeb o'r materion allweddol ac yn y drafodaeth dygwyd sylw at bwysigrwydd rhoi cyfle i aelodau gael mewnbwn adeg penderfynu ar y meysydd gwasanaeth fydd yn cael eu harchwilio a hefyd fewnbwn yn ystod y cyfnod casglu gwybodaeth ar gyfer archwiliad; cyfeiriwyd yn arbennig at yr astudiaeth o faterion cynllunio a rheoli datblygu.  Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cyfyngu, yng nghyswllt gwaith archwilio ar y defnydd a wneir o adnoddau, i gyflwyno barn ar a ydyw'r awdurdod gyda'r trefniadau angenrheidiol yn eu lle ai peidio i sicrhau gwerth am arian yn hytrach na barn ar a ydyw trefniadau hynny'n effeithiol ai peidio - teimlwyd mai ychydig o wrth fuasai i waith o'r fath o ran cynorthwyo'r awdurdod i gyflwyno gwelliannau.

 

 

 

Yng nghyswllt rôl yr archwiliwr yn gwneud dim rhagor na rhoddi casgliad ar a oes gan yr awdurdod drefniadau digonol yn eu lle ai peidio i sicrhau gwerth am arian a pheidio â chyflwyno sylwadau ar a ydyw'r trefniadau hynny'n effeithlon ai peidio, eglurwyd bod yr archwilwyr yn cael eu cyllido'n benodol i asesu a rhoddi barn ar a ydyw'r trefniadau yn eu lle ai peidio.  Wrth fynd y tu draw i'r cylch gorchwyl hwn mae'n bosib y buasai'n rhaid i'r archwiliwr gymryd darnau sylweddol iawn o waith a mynd i gostau sylweddol.  Yng nghyswllt ymwneud yr aelodau dywedwyd fod cylch gorchwyl nifer o astudiaethau archwilio, fel y cafwyd nhw yn Arddangosydd 2, yn y broses o gael eu llunio; gan gyfeirio'n benodol at yr astudiaeth ar gynllunio a rheoli datblygu nodwyd yn barod y bydd angen cael mewnbwn yr aelodau.  O ran yr astudiaethau eraill sy'n cael eu paratoi yn ystod 2005/06 gofynnir i'r aelodau am eu mewnbwn pryd bynnag y credir bod hynny'n berthnasol.  Yng nghyswllt mewnbwn yr aelodau'n gyffredinol, un o sylfeini eraill y cynllun rheoleiddio yw'r cydasesiad risg sy'n cael ei gynnal y tu mewn i'r awdurdod ac yn cyfrannu tuag at y Cynllun Gwella.  Yn y cydasesiad risg roedd gan yr aelodau gyfraniad pwysig yng nghyswllt edrych ar y risgiau ym mhob maes gwasanaeth unigol a bwydo'r gwaith wedyn i'r Cynllun Rheoleiddio - felly mae cyfraniad yr aelodau i'r cydasesiad risg a hefyd i'r Cynllun Gwella yn rhan annatod o'r broses sy'n penderfynu ar y rhaglen waith a nodir yn y Cynllun Rheolaethol.

 

 

 

Yng nghyswllt y risgiau hynny  a nodwyd yng nghyd-destun yr Archwiliad Cyfrifon Cyllidol dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol, gan gydnabod bod peth cynnydd wedi ei wneud, bod yr her sydd yn ymhlyg wrth ddwyn yr amserlen yn ei blaen i bwrpas cau'r cyfrifon ar 31 Gorffennaf yn her wirioneddol galed i'r awdurdod a rhagwelai ef anawsterau. Mae'r sefyllfa yn anos oherwydd y ffaith fod swydd y Rheolwr Cyfrifeg sydd yn swydd allweddol yn y broses o baratoi'r cyfrifon yn wag yn bresennol.  Yng nghyswllt cyfrifon grwp roedd gan yr awdurdod brofiad o baratoi cyfrifon o'r fath dan y rheoliadau blaenorol ond bellach mae'r gofynion yn drymach ac yn fanylach.

 

 

 

Penderfynwyd nodi Cynllun Rheoleiddiol 2005/06 fel yr oedd yn ymwneud â'r Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

 

 

G. O. Parry MBE

 

Cadeirydd