|
Ÿ
|
llwyddodd dwy o'r ysgolion oedd mewn diffyg ar 31 Mawrth,
2005 (Ysgol Bodorgan ac Ysgol Morswyn) i'w glirio erbyn 31 Mawrth,
2006.Yn achos y drydedd ysgol, Ysgol Llangoed, y bwriad oedd
gostwng y diffyg dros gyfnod o ddwy flynedd a hyd yma mae'r cynnydd
yn yr ysgol yn dilyn y cynllun. Ar 31 Mawrth, 2006, roedd Ysgol
Gynradd Bodedern ac Ysgol Dwyran mewn diffyg ond mae ganddynt
gynlluniau i ddatrys hyn yn ystod 2006/07.Yn gyffredinol felly,
mae'n ymddangos bod yr ysgolion yn mynd ati i wynbeu'r diffygion
hyn mewn ffordd foddhaol;
|
|
|
Ÿ
|
mewn perthynas â'r ysgolion hynny sydd â
gwargedion mawr, disgwylir i bob ysgol gynnwys yn ei Chynllun
Datblygu Ysgol, gynlluniau gwario a all gynnwys gwariant o
wargedion cronedig sylweddol.Yn achos yr ysgolion hynny sydd ag
arian wrth gefn sydd yn fwy na 5% o'u cyllideb neu £25k
(p'run bynnag yw'r isaf), gofynnir iddynt yn ffurfiol i egluro eu
cynlluniau gwario neu i gadw'r balansau.Ni wnaed y cais hwn hyd yma
ar gyfer 2006 gan mai ond yn ddiweddar ddaeth y ffigyrau hyn i law.
Mae Atodiad B i'r adroddiad yn dangos yr ymatebion a dderbyniwyd ar
gyfer 2005, ac ar gyfer ysgolion gyda balansau oedd dros 10% o'u
cyllidebau ar 31 Mawrth, 2005;
|
|
|
Ÿ
|
fel rhan o'r rhaglen archwilio mewnol cyffredin, pan
archwilir ysgolion, mae'r archwilwyr mewnol yn trafod gyda'r
Pennaeth, beth yw cynlluniau'r ysgol ar gyfer yr arian wrth gefn,
ac a yw'r ysgol wedi pennu targed i'r arian yma ac os felly, sut
mae'r Pennaeth yn bwriadu cyflawni'r targed;
|
|
|
Ÿ
|
yn gyffredinol, nid yw'r Adain Archwilio Mewnol yn gwneud
sylwadau ar lefel ysgol unigol (onid yw'r lefel honno'n uchel iawn)
ond maent yn edrych ar y rheolaethau a luniwyd i sicrhau bod yr
ysgol yn ymwybodol o faint y balans, ac mae'r archwilwyr yn gofyn
pa gynlluniau sydd gan yr ysgol ar gyfer yr arian wrth
gefn;
|
|
|
Ÿ
|
yn achos yr ysgolion hynny yr ymwelwyd â nhw dros y
ddwy flynedd diwethaf yr oedd eu balansau dros 10%, mae'r sylwadau
a wnaed gan yr Adain Archwilio Mewnol yn dangos bod yr ysgolion hyn
yn gyffredinol yn ymwybodol bod eu balansau yn uchel, a'u bod hefyd
gyda chynlluniau i'w gwario - rhai i leihau effaith y gostyngiad yn
nifer y disgyblion ac eraill yn rhai penodol i wario ar adeiladau
neu ar offer technoleg gwybodaeth. Tueddiad yr archwilwyr yw
canfod a oes gan yr ysgolion gynlluniau gwario cyfredol ai peidio
yn hytrach nag adolygu a yw cynlluniau'r gorffennol wedi'u
gweithredu;
|
|
|
Ÿ
|
mae aelodau wedi mynegi consyrn ynglyn â beth sydd
yn ymddangos yn gyfanswm balansau ysgolion uchel iawn - yn
ddianghenraid felly. Yn wir mae'n ymddangos bod ysgolion yr
awdurdodau eraill yn ymdopi gyda lefelau is o arian wrth
gefn;
|
|
|
Ÿ
|
anodd yw gweld beth yw'r rhesymau dros y lefelau hyn heb
edrych ar bob ysgol fesul un ac mae hi bron yn amhosib i neb yn y
canol herio penderfyniadau a wneir gan gyrff llywodraethu ysgolion
unigol.Yn nhermau real, mae cyllidebau'r holl ysgolion yn disgyn a
hynny oherwydd effaith gyfunol niferoedd yn disgyn, gwariant
integreiddio ac arbedion effeithiolrwydd.Fe all fod perspectif
ysgolion ar effaith y rhain yn wahanol ac yn eu harwain tuag at
bwyll tra'n cynilo;
|
|
|
Ÿ
|
mae'n ymddangos o gymryd yr holl ysgolion gyda'i gilydd eu
bod yn fwy pesimistaidd am y sefyllfa gyllidol nag ydyw mewn
gwirionedd.Gall yr ofn hwn beri bod arian wrth gefn yn tyfu'n
raddol.Yn y dyfodol efallai bydd modd i staff yr Adain Archwilio
Mewnol herio'r lefelau hyn y fwy cadarn.
|
|
|
|
|
|
Bu i'r Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) wneud sylwadau i'r
perwyl fod yr Awdurdod Addysg yn bryderus ynglyn â lefel
uchel balansau'r ysgolion yn gyffredinol, ond gan nad oes
unrhyw batrwm wedi amlygu ei hun, mae'n anodd addasu'r
fformiwla i ymateb i'r sefyllfa.Un o'r prif resymau dros gadw arian
tu cefn yw bod cyrff llywodraethu yn wyliadwrus wrth wario am fod
yna ddarogan sefyllfa ariannol dynn blwyddyn ar ôl blwyddyn
tra mae'r realaeth efallai yn well. Mae rhai ysgolion yn cadw arian
tu cefn i geisio osgoi sefyllfa o ddiswyddo athrawon wrth i'w
dyraniad cyllidol leihau, tra bod eraill sydd gyda chynlluniau
gwario penodol yn methu gwireddu'r cynlluniau yn syth. Tra fod lle
efallai i graffu'n fwy manwl ar gyllidebau ysgolion yn lleol, mae
yna gyfyngiadau mawr ar beth all y canol ei wneud yn eu cylch gan
mai arian sydd wedi'i ddatganoli i ysgolion yw'r arian hwn, a chan
y cyrff llwyodraethu mae'r hawl i benderfynu sut i'w
ddefnyddio.
|
|
|
|
|
|
Tra'n cydnabod nad oedd gan y Pwyllgor fawr o sgôp i
ddylanwadu ar y sefyllfa, nododd aelodau y byddent wedi dymuno
derbyn rhagor o fanylion ynglyn â chynlluniau a bwriadau
gwario'r ysgolion hynny sydd â balansau sylweddol. Gwnaed y
sylw y gallai gwneud defnydd cyfunol o'r arian hwn fod yn fwy
cynhyrchiol na bod pob ysgol yn ei wario ar sail unigol, ac
awgrymwyd bod gan y Pwyllgor gyfrifoldeb i ddwyn perswâd ar
ysgolion i edrych ar y ffordd maent yn defnyddio'u harian wrth
gefn.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Deilydd Portffolio (Addysg ac Addysg Gydol Oes)
bod yr Awdurdod Addysg yn cynghori ysgolion i ystyried 5% o'u
cyllideb fel lefel resymol ar gyfer arian wrth gefn i gwrdd ag
unrhyw ofynion annisgwyl.
|
|
|
|
|
Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid
sylw'r Pwyllgor at y ffaith y bu i'r Cyngor ychydig flynyddoedd yn
ôl dorri ar yr hawl i ysgolion ennill llôg ar eu
balansau, sef symudiad oedd yn effeithio yn arbennig ar ysgolion
gyda balansau sylweddol.Fodd bynnag, rhoddodd y Cynllun Ariannu Teg
hawl wedyn i ysgolion symud eu balansau er mwyn cael cyfradd
llôg well mewn man arall.
|
|
|
|
Penderfnwyd nodi adroddiad y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cyllid ynglyn â balansau ysgolion ynghyd
â'r sylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth ar y
mater.
|
|
|
|
4
|
DATGANIAD CYFRIFON 2005/06
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd i'w fabwysiadu, fersiwn ddrafft o Ddatganiad
Cyfrifon 2005/06. (Cylchredwyd papur ar ddechrau'r cyfarfod yn
ymgorffori mân ddiwygiadau i'r drafft cyntaf).
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ar y cefndir
i'r mater fel a ganlyn -
|
|
|
|
|
Ÿ
|
mewn llywodrath leol mae gofyn i'r Cyngor fabwysiadu'r
fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon cyn ei archwilio, ac yn y
maes cyhoeddus.Bydd y rhain wedyn yn wynebu cyfnod o archwilio
cyhoeddus a bydd gwaith yr archwiliwr ar y datganiad cyfrifon yn
dechrau. Ar ôl derbyn barn yr archwiliwr ar y cyfrifon, mae'r
cyfrifon archwiliedig yn cael eu cyhoeddi'n ffurfiol. Hefyd, mae'n
bosib bydd raid adrodd yn ôl i'r Cyngor ar unrhyw newidiadau
sylweddol i'r Datganiad Cyfrifon ers cyflwyno'r fersiwn
ddrafft;
|
|
|
Ÿ
|
mae'r amserlen statudol wedi'i dwyn ymlaen a'r nod, erbyn
2007, yw cyhoeddi cyfrifon 2006/07 erbyn 30 Mehefin a chael y farn
archwilio dri mis yn ddiweddarach.Dyddiad cyhoeddi eleni yw 31
Gorffennaf. Mae'r amserlen hon yn her fawr i awdurdodau lleol ac yn
enwedig i'r Adran Gyllid eleni gan fod swydd allweddol Rheolwr y
Cyfrifwyr wedi bod yn wag dros y cyfnod;
|
|
|
Ÿ
|
nid y Datganiad cyfrifon yw'r dull pennaf o roi gwybod i
aelodau'r Cyngor am ganlyniadau cyllidol y flwyddyn.Cyflwynir
adroddiadau yn rheolaidd i'r Pwyllgor Gwaith ar fonitro'r gyllideb,
a pharatowyd adroddiadau cynyddol fanwl a sicr ar gau cyfrifon ym
Mai a Gorffennaf eleni sydd yn maes cyhoeddus.Yr unig beth a wna'r
Datganiad Cyfrifon yw cadarnhau'r canlyniadau hyn mewn ffordd
ffurfiol a chydnabyddedig;
|
|
|
Ÿ
|
sgîl-effaith anffodus o ddod ag amserlen Datganiad
Cyfrifon ymlaen yw'r ffaith fod adroddiadau mewnol i aelodau ar
gyllid mewnol wedi'i gyfaddawdu - bydd adroddiad pellach i'r
Pwyllgor Gwaith ym mis Medi yn cwblhau'r lefel arferol o
fanylder;
|
|
|
Ÿ
|
wrth i'r Pwyllgor Archwilio graffu ar y Datganiad Cyfrifon
caiff gyfle i ofyn cwestiynau ar faterion na fuasai, fel arall, yn
dod i'w sylw.Gan fod y Datganiad Cyfrifon yn adroddiad ar ffeithiau
hanesyddol ac yn gorfod cydymffurfio gyda fformat cydnabyddedig,
nid oes fawr o gyfle i'r Pwyllgor newid y Datagniad cyn ei
gymeradwyo;
|
|
|
Ÿ
|
mae rhannau o fersiwn ddrafft y Datganiad Cyfrifon fel ag
y'i gyflwynir yn anghyflawn - fodd bynnag, roedd y rhain wedi'u
cwblhau a'u cynnwys yn y papur a gylchredwyd ar ddechrau'r
cyfarfod. Mae'r rhan fwyaf o wybodaeth mae'r Pwyllgor Archwilio yn
debyg o fod ei hangen eisoes wedi'i chynnwys yn y fersiwn ddrafft
sydd gerbron;
|
|
|
Ÿ
|
nid yw un datganiad wedi'i ddarparu yng nghyswllt y
cyfrifon grwp.Byddai'r datganiadau yma yn cyfuno gweithgareddau
Cwmni Gwastraff Môn Arfon gyda chyfrifon y Cyngor.Nid yw'r
wybodaeth angenrheidiol wedi'i derbyn ac nid ydyw yn debygol o ddod
i law mewn amser i'w harchwilio.Beth bynnag, mae'n annhebygol y
byddai gan y Gwasanaeth Cyllid yr adnoddau yn ystod yr wythnosau
nesaf i ddarparu datganiad technegol mor gymhleth.Golyga hyn na
fydd y Cyngor yn cydymffurfio gyda'r Datganiad o Weithdrefn
Argymelledig yn y cyswllt yma;
|
|
|
Ÿ
|
mae'r Datganiad Cyfrifon yn cynnwys y Datganiad o Reolaeth
Mewnol a adolygwyd a chymeradwywyd yn y cyfarfod blaenorol o'r
Pwyllgor Archwilio.Gwnaed mân ddiwygiadau iddo ers
hynny;
|
|
|
Ÿ
|
o ran sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 Mawrth, 2006, roedd
gwerth net yr awdurdod, fel y datgelwyd hwn yn y Fantolen, wedi
codi i £151m yn bennaf oherwydd effaith ail-brisio asedion
sefydlog yn hytrach nag unrhyw newid gwirioneddol yn ystod y
flwyddyn.Mae'r datganiad hefyd yn datgleu ymrwymiad net
amcangyfrifiedig o £61.7m mewn perthynas â phensiynau,
sydd wedi cynyddu o £56m ar 31 Mawrth, 2005;
|
|
|
Ÿ
|
nid oes unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol i adrodd amdanynt
yn ystod 2005/06 sydd yn effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar
ddiwedd y flwyddyn.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd yr aelodau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid
am y wybodaeth a bu iddynt wneud y sylwadau canlynol arni
-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
nodwyd byddai hyfforddiant i aelodau'r Pwyllgor Archwilio
ar ddarllen y Datganiad Cyfrifon yn ddefnyddiol ac yn eu cynorthwyo
i graffu arno, a gofynnwyd a chytunwyd bod y cyfryw
drefniadau yn cael eu gwneud;
|
|
|
|
|
Ÿ
|
croesawyd y ffaith bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn
adroddiadau rheolaidd ar fonitro'r gyllideb ac awgrymwyd bod y
Pwyllgor Archwilio hefyd yn derbyn yr un adroddiadau er mwyn edrych
ar y mater o berspectif archwilio;
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid mewn ymateb bod
y wybodaeth a gyflwynir i'r Pwyllgor Gwaith ar gael i bob
aelod fel rhan o'r ddyletswydd i adrodd yn agored i aeldau
a'r Cyngor.Prif swyddogaeth y Pwyllgor Gwaith yw gweithredu ar
faterion ac mae'r adroddiadau monitro cyllideb yn aml yn gofyn am
weithredu ar argymhellion.O ran craffu ar benderfyniadau'r Pwyllgor
Gwaith, mater i'r Prif Bwyllgor Sgriwtini yw galw penderfyniadau i
mewn fel bo'n briodol.Er nad oes yna reswm pam na all y Pwyllgor
Archwilio dderbyn yr adroddiadau yma, mae prif swyddogaeth y
Pwyllgor hwn yn ymwneud â rheolaeth fewnol a llywodraethu
priodoldeb - o ymhel â gwaith monitro'r gyllideb mae yna
berygl y bydd gwaith yn cael ei ddyblygu a bydd y Pwyllgor
Archwilio yn canolbwyntio llai ar ei briod
ddyletswyddau.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
holwyd yn benodol ynglyn â'r ffigyrau o dan bennawd
Trafodion gyda Chyrff Cysylltiedig a gofynnwyd am esboniad ohonynt
- bu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid egluro'r ffigyrau hyn
ynghyd â'r gofynion adrodd yn eu cylch.
|
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
4.1
|
Cymeradwyo'r fersiwn ddrafft o'r Datganiad Cyfrifon i
bwrpas ei gyflwyno ar gyfer y broses archwilio allanol ac
archwiliad gan y cyhoedd, yn amodol ar awdurdodi'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cyllid i gwblhau unrhyw waith sydd heb ei orffen a
gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol;
|
|
|
4.2
|
Bod trefniadau yn cael eu gwneud i aelodau'r Pwyllgor
Archwilio dderbyn hyfforddiant ar ddarllen y Datganiad
Cyfrifon.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cynghorydd G.O.Parry,
MBE
|
|
Cadeirydd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|