Meeting documents

Governance and Audit Committee
Tuesday, 28th June, 2005

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MEHEFIN, 2005

 

yn breSENNOL:

Cynghorydd G.O.Parry, MBE (Cadeirydd)

Cynghorydd W.I.Hughes (Is-Gadeirydd)

 

Cynghorwyr A.M.Jones, R.G.Parry, OBE, J.Arthur Jones.

 

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid

Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol)

Cyfreithiwr (MJ) (ar gyfer eitem 1)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Cynghorwyr John Byast, Cliff Everett.

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

Cynghorydd John Roberts (Deilydd Portffolio Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth), Mr.Ian Howse (Rheolwr Archwilio, Pricewaterhouse Coopers)

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd G.O.Parry, MBE yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd W.I.Hughes yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

3

DATGAN DIDDORDEB

 

Datganodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE ddiddordeb mewn perthynas â pharagraff 5.2 yn yr adroddiad o dan Eitem 5 ar y rhaglen - Adroddiad Gwaith ar Archwilio Mewnol yn gysylltiedig ag ysgol benodol.

 

4

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2005. (tud 18 - 25 o’r Gyfrol hon)

 

Yn codi -

 

4.1

Eitem 2.1 Rheoli Asedau

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol, cyflwynwyd Adroddiad Crynodeb Rheoli Asedau 2005 o eiddo Comisiwn Archwilio Cymru.

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod adroddiad Comisiwn Archwilio Cymru ynglyn â Chynllniau Rheoli Asedau yn amlinellu'n gryno y sefyllfa ar draws awdurdodau Cymru o ran cyflawni cynnydd mewn perthynas â pharatoi Cynlluniau Rheoli Asedau, a'i fod yn gosod y cyd-destun yn glir ac yn gytbwys.Bu i'r Pennaeth Gwasanaeth (Eiddo) adrodd i'r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill ei fod yn disgwyl y byddid wedi cwblhau'r Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer yr Awdurdod ym Môn erbyn Medi, 2005; mae adroddiad Comisiwn Archwilio Cymru yn dangos fod y cynnydd ar waith rheoli asedau wedi bod yn araf mewn nifer o awdurdodau yng Nghymru a bod cryn waith eto i'w wneud yn y maes hwn.Fodd bynnag, noda'r adroddiad hefyd fod y mwyafrif o awdurdodau wedi bwrw ati o ddifrif gyda'r gwaith o reoli asedau yn y flwyddyn ddiwethaf ac wedi sicrhau ei fod yn cael ei sbarduno ar lefel briodol gydag ymrwymiad corfforaethol clir iddo, ynghyd â chyfranogiad swyddogion ac aelodau.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad Comisiwn Archwilio Cymru - Crynodeb Rheoli Asedau 2005 a nodi ei gynnwys.

 

 

 

4.2

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol, cyflwynwyd - Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â materion yn ymwneud â hawliadau Cymhorthdal Budd-dal.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid y bu i'r Deilydd Portffolio Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth esbonio i'r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill y rhesymau am yr oedi cyn cyflwyno Hawliadau Cymhorthdal Tai a Chymhorthdal Budd-daliadau Tai 2003/04 i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Adran Waith a Phensiynau, ac i'w harchwilio o fewn amser penodol.Codwyd nifer o gwestiynau ar faterion yn gysylltiedig â'r Hawliadau Cymhorthdal Budd-dal gan gynnwys diffygion y meddalwedd ar gyfer cynhyrchu hawliadau budd-dal a'r cytundeb ar ei gyfer, grwp defnyddwyr y meddalwedd hwn ynghyd â sefyllfa Môn o'i chymharu ag aelodau eraill o'r grwp defnyddwyr, a chyflwynir diweddariad ar y materion hyn isod:

 

 

 

Ÿ

y sefyllfa ddiweddaraf yw bod ymgynghorydd o'r cwmni meddalwedd wedi ail-osod y meddalwedd ac wedi adnabod rhai problemau.Bu'n hyfforddi nifer o staff y gwasanaeth budd-dal ac eisteddodd gydag hwy wrth baratoi'r ffigyrau i hawliad 2003/04;

 

Ÿ

mae'r Hawliad Cymhorthdal Tai bellach wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad ac i'w harchwilio a'r ffurflen Cymhorthdal Budd-daliadau Tai wedi ei chwblhau; ac os na gyfyd unrhyw broblemau caiff ei hanfon i'r Adran Waith a Phensiynau yn y dyddiau nesaf;

 

Ÿ

mae gwaith sylweddol eisoes wedi ei wneud ar hawliadau 2004/05 ac fe ddylent cael eu cyflwyno yn ystod mis Gorffennaf; mae hawliad 2002/03 wedi cael ei arwyddo gan yr archwilwyr gyda rhai amodau, ac mae'n debygol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn iddynt wneud mwy o waith;

 

Ÿ

o ran y cytundeb meddalwedd a'r grwp defnyddwyr, prynwyd y system bresennol gan y cyn Gynor Bwrdeistref a chafodd ei huwchraddio gryn dipyn dros y blynyddoedd. Oherwydd problemau creu hawliadau cymhorthdal a gwybodaeth perfformiad, cafodd bid llwyddiannus ei wneud gan gyngor unigol ar ran y grwp defnyddwyr i Gronfa Cymorth yr Adran Waith a Phensiynau am arian i ddatblygu a gwella cyfleusterau adrodd gwybodaeth;

 

Ÿ

bu'r cyfleusterau newydd hyn ar gael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac maent yn cynnwys dull pwerus o adrodd gwybodaeth a gwelliannau sylweddol yn y ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei chadw a'i chwestiynu.Nid yw'r cyflenwr bellach yn marchnata'r system hon ac o ganlyniad i hyn ac i adolygiad o'r systemau cyllidol, mae'r adran yn bwriadu newid y system yn ystod y dair mlynedd nesaf;

 

Ÿ

mae yna broblemau o fathau gwahanol gyda'r holl systemau refeniw a Budd-dal gan eu bod yn systemau cymhleth iawn neu sy'n cael eu newid yn barhaus o ganlyniad i ddeddfwriaeth ac arweiniad newydd;

 

Ÿ

o ran cymhariaeth ag awdurdodau eraill, deëllir fod bron pob un o ddefnyddwyr y system arbennig hon wedi cael problemau mawr wrth roi'r hawliad at ei gilydd y flwyddyn ddiwethaf, ond bod bron pawb wedi cyflwyno eu hawliad;

 

Ÿ

mae'r Adran Waith a Phensiynau yn ymwybodol o'r sefyllfa ynglyn â systemau amrywiol ac mae'r Awdurdod wedi bod mewn cyswllt gyda'r Adran mewn perthynas â'r mater hwn.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn diweddariad y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) ynglyn â'r sefyllfa mewn perthynas â materion yn gysylltiedig â Hawliadau Cymhorthdal Budd-dal a nodi ei gynnwys.

 

 

 

5

ADRODDIAD GWAITH ARCHWILIAD MEWNOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain am y cyfnod o 1 Ebrill, 2005 hyd at 10 Mehefin, 2005.

 

 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) at y prif ystyriaethau fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ÿ

cyhoeddwyd 14 o adroddiadau archwilio terfynol yn ystod y cyfnod a chyhoeddwyd  adroddiadau drafft mewn perthynas â 19 archwiliad arall.Yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill, bu i'r Pwyllgor Archwilio nodi ei fod yn disgwyl i adrannau ymateb i adroddiadau archwilio mewnol o fewn 3 mis ac yn ystod y cyfnod hwn gwnaethpwyd cryn waith ar 13 o archwiliadau a oedd yn disgyn tu allan i'r amserlen honno.Mae'r cyfanswm o archwiliadau na dderbyniwyd ymateb iddynt o fewn 3 mis bellach wedi gostwng i 4 ac mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar 2 ohonynt;

 

Ÿ

gwelwyd gwelliant yn y raddfa o'r gwaith archwilio blaenorol yn achos 3 o'r archwiliadau; nid oedd newid yn y raddfa mewn achos 6 o'r archwiliadau; bu gostyngiad yn y raddfa mewn achos 2 o'r archwiliad ac mewn achos 3 arall ni roddwyd graddfa i'r gwaith blaenorol neu hwn oedd y gwaith archwilio cyntaf yn y maes;

 

Ÿ

yn nghyswllt gwaith ymchwilio arbennig a ymgymerir gan yr Adain Archwilio mewnol ym mis Mai, 2005 yn dilyn gwaith siecio arferol a balansio incwm cinio ysgol gan yr Adran Gyllid, nodwyd anghysonderau gyda bancio incwm cinio ysgol yn un o ysgolion y Cyngor ac fe gyfeiriwyd y mater i'r Adain Archwilio mewnol i'w ymchwilio ymhellach.Datryswyd y cwestiynau a godwyd ond fe arweiniodd hyn at ymchwiliad pellach gan yr Archwiliwyr i gamddefnyddio posibl ar arian o gronfa answyddogol oedd yn cael ei gweithredu gan yr ysgol.Yn dilyn cwblhau'r archwiliad, penderfynwyd, yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor ac mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, i gyfeirio'r mater at yr Heddlu i'w ymchwilio ymhellach.Gellir adrodd yn awr bod aelod o staff yr ysgol wedi ymddangos gerbron y Llys ar gyhuddiad o gymeryd arian o'r Gronfa Gynilo a gynhelir gan yr ysgol.

 

Ÿ

ni ymgymerwyd ag unrhyw waith dilyn i fyny yn ystod y cyfnod ac fe adroddwyd i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill nad oedd ymatebion wedi eu derbyn i rai adroddiadau archwilio penodol. Gellir cadarnhau fod ymatebion bellach wedi'u derbyn yn achos yr archwiliadau mewn perthynas â gwerthu tai cyngor; Ysgol Llanbedrgoch; Ysgol y Morswyn ac Ysgol Parc y Bont.Tra parheir i ddisgwyl ymateb ffurfiol i'r adroddiad archwiliad ynglyn â Chanolfan J.E.O'Toole deëllir gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai fod  5 allan o'r 7 argymhellion wedi cael eu gweithredu.O ran yr archwiliad mewn perthynas â gwerthu tai cyngor, nid oedd taliad gwasanaeth wedi cael ei godi yng nghyswllt fflatiau oedd wedi cael eu gwerthu ac er bydd y taliad hwn yn cael ei gyflwyno yn Ebrill  2006, mae trafodaethau yn parhau ynglyn ag ad-ennill y taliadau nas codwyd dros y blynyddoedd.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid at yr achos yn ymwneud â Chronfa Gynilo yr ysgol unigol a grybwyllwyd uchod a rhoddodd wybod i'r Pwyllgor mai trefniant answyddogol gan yr ysgol oedd y Gronfa nad oedd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor; felly nid yw'r Cyngor Sir yn atebol yn ei gylch.Fodd bynnag, mae trafodaethau yn cael eu cynnal ynglyn â'r posibilrwydd o ddigolledu'r unigolion sydd wedi cyfrannu at y Gronfa ac sydd wedi colli eu harian, trwy bolisi yswiriant y Cyngor Sir.

 

 

 

Mynegodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad i staff yr Adain Archwilio ac i'r Cyngor yn gyffredinol am eu hymdrechion yng nghyswllt yr achos uchod a gofynnwyd a oes yna bolisi ffurfiol ynglyn â gweithredu cronfeydd o'r fath mewn ysgolion.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid y credir na ddylid ymagweddu'n rhy llawdrwm tuag at gronfeydd o'r fath oherwydd fod iddynt yn eu hanfod werth lleol.Yn yr achos dan sylw, roedd y llôg o'r Gronfa yn cael ei ddefnyddio er budd yr ysgol ac mae cronfeydd o'r fath yn debyg i Gronfa Ysgol sydd yn lled swyddogol.Yn achos y rhain mae'r Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) a'i staff  yn sicrhau fod person annibynnol yn eu harchwilio ac yn adrodd yn ôl at gorff llywodraethu'r ysgol.Rhaid ystyried a ddylid ymestyn y trefniant hwn i gynnwys y cyfan o'r cronfeydd sydd yn cael eu cynnal mewn ysgolion.

 

 

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain am y cyfnod o 1 Ebrill, 2005 hyd at 10 Mehefin, 2005, a nodi ei gynnwys.

 

 

 

6

ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIAD ALLANOL

 

 

 

Bu i Mr.Ian Howse, Rheolwr Archwilio PricewaterhouseCoopers ddiweddaru'r Pwyllgor ar lafar ynglyn â'r cynnydd mewn perthynas â rhai prosiectau cyfredol mae archwiliwyr PWC yn ymgymryd â hwy fel a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

cwblhawyd yr asesiad risg mewn perthynas â Gemau'r Ynysoedd ac mae fersiwn derfynol hwnnw ar y gweill;

 

Ÿ

cwblhawyd dau ddarn o waith arwyddocaol yn ymwneud â rheoli prosiectau a rheoli perfformiad ac mae'r rhain wedi cael eu cyflwyno i'r Panel Perfformiad.

 

 

 

Roedd aelodau'r  Pwyllgor o'r farn y byddai wedi bod yn ddefnyddiol iddynt petai'r adroddiadau uchod wedi bod ar gael iddynt yn y cyfarfod hwn yn arbennig gan fod oblygiadau cyllidol sylweddol i Gemau'r Ynysoedd ac i werthuso swyddi fel rhan o reoli perfformiad.Roedd y materion hyn felly o ddiddordeb penodol i'r Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod y rhaniad rhwng cyfrifoldebau'r archwiliwyr allanol a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Archwilio wedi bod yn destun trafod yn y gorffennol.Mae ffocws gwaith y Pwyllgor Archwilio yn fwy ar faterion cyllidol traddodiadol yn ymwneud â rheolaethau mewnol tra mae PWC yn ymgymryd â gwaith rheoli perfformiad yn ogystal â gwaith archwilio cyllidol.Mae'r cyfrifoldeb ar gyfer rheoli perfformiad yn disgyn yn bennaf ar y Pwyllgor Gwaith ac nid yw'r adroddiadau a gynhyrchir yn y maes hwn felly o reidrwydd yn cael eu cyflwyno er sylw'r Pwyllgor Archwilio.

 

 

 

Nododd Rheolwr Archwilio PWC ei fod yn barod i grynhoi cynnwys yr adroddiad yn ymwneud â Gemau'r Ynysoedd ynghyd â'r adroddiad ar reoli perfformiad gogyfer y Pwyllgor Archwilio a bu i'r Pwyllgor gytuno i hynny.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad a gyflwynwyd gan Rheolwr Archwilio PWC ynglyn â'r cynnydd ar waith cyfredol.

 

 

 

 

 

Cynghorydd G.O.Parry, MBE

 

           Cadeirydd