|
|
|
3.1.1
|
Rhoi barn am y cyfrifon;
|
|
|
3.1.2
|
Adolygu agweddau ariannol trefniadau rheoli corfforaethol
yr Awdurdod a chyflwyno adroddiad arnynt i sicrhau cyfreithlondeb
trafodion allanol; fod sefyllfa ariannol yr Awdurdod yn gadarn; fod
ganddo systemau cadarn o reolaeth ariannol fewnol ynghyd â
safonau priodol o ymddygiad ariannol ac atal a chanfod twyll a
llygredd.
|
|
|
3.1.3
|
Adolygu trefniadau'r Awdurdod a chyflwyno adroddiad arnynt
o ran sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth
ddefnyddio adnoddau ynghyd â pharatoi a chyhoeddi gwybodaeth
benodol am berfformiad, a sicrhau fod yna gydymffurfio â
gofynion statudol o ran cynllun gwella'r Awdurdod.
|
|
|
|
|
3.2
|
O ran cylch cynllunio'r archwiliad, bu i'r Comisiwn
Archwilio newid y flwyddyn archwilio i gyfateb â blwyddyn
ariannol cyrff iechyd a chyrff llywodraeth leol.O ganlyniad, mae'r
Cynllun gwasanaeth uchod yn cwmpasu cyfnod hwy na'r arferol o fis
Tachwedd, 2002 hyd at fis Mawrth, 2004, ac yn cynnwys y ddwy
flwyddyn archwilio, 2002/03 a 2003/04.Yn yr amgylchedd deinamig y
gweithreda'r Cyngor ynddo, efallai bydd y risgiau mae'n eu hwynebu
yn newid yn ystod y cyfnod 17 mis hwn, ac er mwyn bodloni ei
gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â'r Côd
Archwilio, bydd y risgiau a adnabyddir o fewn y Cynllun yn cael eu
hadolygu ym mis Mehefin/Gorffennaf 2003 er mwyn sicrhau eu bod yn
briodol o hyd. Ymhellach, bu i'r Comisiwn Archwilio benodi Rheolwr
Perthynas i gynorthwyo'r Cyngor dderbyn gwasanaeth llyfn wedi'i
deilwra, a gaiff ei integreiddio gyda gwaith arolygiaethau eraill,
ac a fydd yn cydlynu'r broses o ddarparu'r gwaith a chyflwyno
adroddiadau arno.
|
|
|
3.3
|
Mae Llywodraeth Leol yn gweithredu o fewn amgylchedd sy'n
newid yn barhaus, ac mae'n wynebu amrywiaeth eang o ddatblygiadau
newydd.Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyflwyno rhaglen
radical gogyfer moderneiddio llywodraeth leol a darparu gwell
gwasanethau, gan gynnwys cyflwyno'r fframwaith moesegol, cynllunio
yn y gymuned a phartneriaethau yn y gymuned a'r cynigion ar gyfer
Rhaglen Gwella Cymru.Cyflwyna'r holl newidiadau yma heriau a
sialensau newydd ynghyd â risgiau busnes sylweddol.Yn erbyn y
cefndir hwn felly, mae ymagwedd archwilio Pricewaterhouse Coopers
yn rhoi rhagor o bwyslais ar y ffordd y mae'r Cyngor yn rheoli
ystod y prif risgiau sy'n effeithio ei weithrediadau tra'n parhau
hefyd i ganolbwyntio ar effaith y risgiau hyn ar amcanion y
Côd.
|
|
|
3.4
|
Er mwyn pennu natur a graddau'r gwaith archwilio craidd
sydd ei angen, mae Pricewaterhouse Coopers wedi ystyried pob maes
gweithredu ac wedi asesu i ba raddau y cred fod yna risgiau busnes
a risgiau archwilio posibl sy'n gysylltiedig ac un neu fwy o
amcanion y Côd.Yna ystyriwyd ei ddealltwriaeth o'r ffordd
mae'r gweithdrefnau rheoli yn lleihau'r risgiau hyn ac ar sail yr
asesiad hwn, targedwyd gwaith craidd y cwmni ym mhob un o'r meysydd
yma.Rhoddir crynhoad o'r risgiau ariannol a gweithredol sylweddol
sy'n wynebu'r Cyngor yn y Cynllun Gwasanaeth gerbron ac fe
ymhelaethir arnynt mewn asesiad risg archwilio manwl ar wahân
a ddosbarthwyd i'r swyddogion.
|
|
|
3.5
|
Amlinellir yn y Cynllun hefyd, amserlen a chynnyrch yr
archwiliad yn y flwyddyn ariannol 2002/03.Yn ogystal, gosodir allan
amlinelliad bras o gyllideb a ffioedd yr archwiliad.£195,000
yw'r ffioedd ar gyfer archwiliad Côd Ymarfer 2002/03 (heb
gynnwys TAW a cheisiadau am grantiau).Gellir dadansoddi'r ffi fel a
ganlyn:
|
|
|
|
|
|
|
2002/03 Ffi fynegol
2003/04
|
|
|
|
|
|
Cyfrifon a Rheolaeth
105,000 110,000
|
|
|
|
|
|
|
Perfformiad gan gynnwys (*)
90,000
95,000
|
|
|
|
|
|
|
- Archwiliad Cynllun Gwella 2003/04 a
|
|
|
|
|
|
|
|
|
- Cwblhau'r Asesiad ar y Cyd
|
|
|
|
|
- Gwaith perfformiad lleol
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
4.2
|
Rhoddodd Mr.Justin Crowley, y Rheolwr Archwilio
ddiweddariad o ran y gwaith a wnaed gan yr archwiliwyr hyd yma a
nododd y bu'r cwmni yn ymgyfarwyddo'n drwyadl gyda phrosesau a
threfniadau gwaith y Cyngor trwy gynnal cyfarfodydd gyda'r Rheolwr
Gyfarwyddwr a swyddogion allweddol. Eisoes, cynhyrchwyd asesiad
risg manwl a bydd y ddogfen hon yn greiddiol i'r broses o
gynllunio'r archwiliad.Cytunwyd ar brotocol grantiau gyda'r
Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) gyda golwg ar ddatrys rhai materion
mewn perthynas â'r broses hawlio grantiau gan Lywodraeth
Cynulliad Cymru.Un o ddyletswyddau'r archwiliwyr yw cadarnhau fod y
grantiau sydd yn cael eu hawlio gan yr Awdurdod yn cydymffurfio
â'r amodau perthnasol a osodir gan y Cynulliad.Hefyd
cynhaliwyd adolygiad o'r systemau gogyfer rheolaeth ariannol fewnol
ac archwilio mewnol y Cyngor, a byddid yn trafod yr adroddiadau
drafft gyda'r swyddogion perthnasol.Gwnaethpwyd gwaith ar faterion
deddfwriaethol a chynhyrchwyd adroddiad drafft mewn perthynas
â phwrcasu.O ran y Côd Ymarfer Archwilio yn ymwneud
â Pherfformiad, mae cyfran helaeth o'r gwaith yn cael ei
wneud o dan Gynllun Gwella Cymru, ac mae angen i aelodau a
chyfarwyddwyr ddod i gytundeb ar risgiau corfforaethol.Fodd bynnag,
mae'r asesiadau risg sydd wedi cael eu cynnal ar wasanaethau o
safon uchel.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ei fod yn fodlon
iawn gyda'r ffordd y cawsai'r broses o drosglwyddo cyfrifoldebau
o'r Archwiliwr Dosbarth i Pricewaterhouse Coopers ei rheoli a'i fod
wedi'i galonogi gan ymagwedd archwilio yr archwilwyr newydd.Roedd y
risgiau gweithredol a'r risgiau archwilio a adnabyddwyd gan yr
archwilwyr allanol yn rhai yr oedd yr Awdurdod yn eu cydnabod, ac
nid oedd gan yr Awdurdod unrhyw ddadl yn eu cylch.O ran y broses
hawlio grantiau gan y Cynulliad, mae gan yr Awdurdod bryder
ynghylch y maes hwn ac mae wedi datblygu protocol mewnol mewn
ymateb i hynny.Byddir yn edrych ar asio hwn gyda'r gwaith mae'r
archwilwyr hefyd yn ei wneud yn y maes hwn yn benodol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd fod y Pwyllgor Archwilio yn mabwysiadu
Cynllun Gwasanaeth Archwilio Pricewaterhouse Coopers am 2002/04 fel
ag a gyflwynir uchod.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yn unol â chais a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor
Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2002, rhoddodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) gyflwyniad yn amlinellu prif agweddau
y broses archwilio mewnol, gan gyfeirio hefyd at y Protocol ar
gyfer cynnal archwiliadau mewnol.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) at
brif gamau'r broses fel a ganlyn:
|
|
|
|
|
5.1.1
|
Bu'r Adain Archwilio mewnol yn gweithio ar ddatblygu
protocol ar gyfer cynnal archwiliadau mewnol ers blwyddyn gyda
golwg ar wella'r cyd-weithrediad rhwng adrannau'r Cyngor a'r adain
ynghyd ag egluro'r swyddogaethau a'r disgwyliadau. Gwelwyd o
ymgynghori gydag adrannau nad oeddent yn glir eu meddwl ynglyn
â phwrpas archwiliadau, ac fel rhan o'r broses byddid yn
trafod ac yn cytuno ar amodau gorchwyl unrhyw archwiliad a gynhelir
ar faes penodol gyda'r adran berthnasol.
|
|
|
5.1.2
|
Mae archwiliadau mewnol yn deillio o'r Cynllun Archwilio
Blynyddol, ac mae pob archwiliad yn torri i lawr yn 3 rhan sef
archwiliad o systemau/cydymffurfio/contract refeniw; archwiliad o
drafodion neu archwiliad sefydliad.O ran trefnu'r archwiliad,
cytunir ar ddyddiad yr ymweliad gyda Phennaeth y Sefydliad yng
nghyswllt archwiliad sefydliad; cytunir ar y profion fydd yn cael
eu cynnal os mai archwiliad o drafodion a gynhelir a chytunir ar
gylch gorchwyl yr archwiliad mewn perthynas ag archwiliad
systemau/cydymffurfio, a chontract refeniw.
|
|
|
5.1.3
|
Bydd amseriad rhai archwiliadau yn cael eu cytuno yn ystod
y borses cynllunio.Bydd yr amserlen gogyfer cynnal y gweddill yn
cael ei phenderfynu gan y Pennaeth Archwilio mewn ymgynghoriad
â'r adain briodol.
|
|
|
5.1.4
|
Mae'r broses o gynnal yr archwiliad yn golygu edrych ar
ddogfennaeth a gwaith papur a chynnal cyfweliadau gyda staff.Rhan
olaf y cam hwn yw trafod canlyniadau'r gwaith gyda'r cleient, ac
mewn achos o archwilio cyfundrefn o faint, bydd y drafodaeth honno
yn cael ei chynnal yn ffurfiol gyda'r Pennaeth Gwasanaeth.Trwy
wneud hynny, gobeithir dod i gytundeb ar gynnwys yr adroddiad
drafft a sicrhau ei fod yn eglur ac yn ddealladwy.
|
|
|
5.1.5
|
Cylchredir yr adroddiad drafft i'r Pennaeth Gwasanaeth
perthnasol a'r swyddogion a rheolwyr hynny bu'n ymwneud â'r
archwiliad ac a chawsant eu henwi yn yr amodau gorchwyl.Caiff yr
adran gyfle i ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad drafft, gan drafod
unrhyw bwyntiau a godir gyda'r Archwiliwr a fydd wedyn yn cyhoeddi
ail-ddrafft cytunedig.Os nad yw'r Adran yn gallu cytuno gyda'r
cynnwys, nodir fod yna anghytundeb yn yr adroddiad, y Crynodeb
Gweithredol a'r Cynllun Gweithredu.
|
|
|
5.1.6
|
Cyhoeddir yr adroddiad terfynol mewn tair rhan - prif
adroddiad, crynodeb gweithredol a chynllun gweithredu ac fe'i
anfonir at y rheolwyr perthnasol, y Pennaeth Gwasanaeth, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Pennaeth
Gwasanaeth (Cyllid).Cyflwynir y crynodeb gweithredol i'r Rheolwr
Gyfarwyddwr a'r Pwyllgor Archwilio.
|
|
|
5.1.7
|
Mae rhan olaf y broses yn ymwneud â gwaith dilyn i
fyny i sicrhau fod yna weithredu wedi bod ar yr argymhellion a
wnaed ar ddiwedd yr archwiliad yn yr adroddiad terfynol.Fe all hyn
olygu ysgrifennu at y sefydliad dan sylw neu gynnal haparchwiliad
byr.Bydd y canlyniadau wedyn yn bwydo yn ôl i'r asesiad risg
a'r Cynllun Archwilio Blynyddol.
|
|
|
|
|
Cyfeiriwyd gan aelod at y
Polisi Rhannu Pryderon a gofynnodd sut yr oedd materion a godir o
dan y polisi hwn yn plethu i mewn i waith yr adain archwilio
mewnol, ac a oedd hi'n glir i'r sawl a oedd yn dymuno codi unrhyw
bryder o dan y polisi ei fod yn agored iddo/iddi fynd at yr
Archwilwyr Allanol yn ogystal â'r Archwiliwr Mewnol.Gofynnwyd
hefyd a oedd hi'n fwriad cynnal archwiliad o effeithiolrwydd y
polisi.
|
|
|
|
Ymatebodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) fod y Polisi Rhannu Pryderon yn ei
gwneud hi'n eglur ei fod yn agored i unrhyw un sydd yn dymuno codi
mater o dan y polisi ddwyn ei bryder gerbron y Swyddog Monitro, yr
Archwiliwr Allanol neu'r Archwiliwr Mewnol. Byddai unrhyw fater a
ddygid i sylw'r Archwiliwr Mewnol yn cael ei ystyried fel gwaith
arbennig y mae yna gynllunio ar ei gyfer yn y Cynllun Archwilio.O
ran adolygu effeithiolrwydd y polisi, er yr ystyrir fod y
swyddogaeth hon yn perthnasu fwy i'r Swyddog Monitro, mae yna
bennawd yn y Cynllun ar gyfer y Codau Ymarfer newydd y gellid ei
ddefnyddio i archwilio gweithrediad polisiau o'r fath.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn a
nodi'r wybodaeth mewn perthynas â'r broses archwilio mewnol
ynghyd â'r protocol ar gyfer archwiliadau mewnol fel ag a
gyflwynir gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol), gan ddiolch
iddo am y cyflwyniad.
|
|
|
|
5.2
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
2002/03
|
|
|
Cyflwynwyd -
Adroddiad yn crynhoi gwaith yr Adain
Archwilio Mewnol yn ystod 2002/03.
|
|
|
|
Dygodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) sylw'r Pwyllgor at y prif
ystyriaethau fel a ganlyn:
|
|
|
|
5.2.1
|
Mae cymhariaeth rhwng y gwaith gwirioneddol a gynhaliwyd
yn erbyn y gwaith a gynlluniwyd am flwyddyn yn dangos diffyg
o 79 diwrnod.Gellid priodoli hyn yn rhannol i absenoldebau staff ac
i'r angen i hyfforddi staff newydd a olygai nad oedd gwaith
archwilio yn cael ei gynnal ar yr adegau hyn a diwrnodau yn cael eu
colli.
|
|
|
5.2.2
|
Er mai'r bwriad yw gwneud y gwaith mewn blynyddoedd
penodol yn y cynlluniau strategol a blynyddol, mae gwaith unigol yn
cael ei gario ymlaen o un flwyddyn i'r nesaf, yn arbennig felly y
gwaith archwilio mwyaf neu waith archwilio sy'n dechrau yn agos at
ddiwedd y flwyddyn ariannol.Mae hyn yn cyfrif am y 26 o
archwiliadau sy'n ymwneud â chynllun 2001/02 a gwblhawyd yn
2002/03 a'r 30 o archwiliadau a fydd wedi'u cwblhau yn
2003/04.
|
|
|
5.2.3
|
Roedd angen 166 o ddyddiau yn 2002/03 i gwblhau'r gwaith
archwilio a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn gynt ac amcangyfrifir y
bydd angen 150 o ddyddiau i gwblhau'r archwiliadau sy'n parhau i
ddisgwyl sylw yn 2003/04.
|
|
|
5.2.4
|
Diwygiwyd y Cynllun Archwilio yn ystod y flwyddyn o 111 o
archwiliadau a gynlluniwyd i lawr i 95, a gohiriwyd gwneud 6
archwiliad oherwydd bod llai na 79 o ddiwrnodau ar gael i waith
archwilio cytunedig.Ni ddechreuwyd gweithio ar 7 archwiliad yn
cyfateb i 80 diwrnod o waith archwilio cytunedig.Ni ddechreuwyd ar
y gwaith oherwydd fod archwiliadau eraill wedi cymryd mwy o amser
nag a fwriadwyd.Cadwyd y llithriad mewn cof wrth lunio cynllun
strategol 2003/07 ac o'r herwydd, bydd y gwaith yn cael ei wneud yn
ystod oes y cynllun hwn yn unol â'r asesiad risg.
|
|
|
5.2.5
|
Cyhoeddwyd cyfanswm o 58 o adroddiadau yn ystod 2002/03 ac
roedd ynddynt gyfanswm o 335 o argymhellion, ac o'r rheiny cafodd
329 eu derbyn.
|
|
|
5.2.6
|
Caiff perfformiad yr Adain Archwilio Mewnol ei fesur yn
unol â chyfres o ddangosyddion penodol a sefydlwyd i'r perwyl
mewn blynyddoedd cynt.Dengys yr ystadegau diweddaraf fod gwaith yr
Adran wedi aros ar lefel gyson o'i gymharu â'r blynyddoedd
cynt gyda gostyngiad bychan (1%) yn nifer yr archwiliadau a
gynlluniwyd ac a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn a chynnydd bychan
(1%) yn nifer yr archwiliadau a gynlluniwyd na ddechreuwyd
arnynt.Bu cynnydd o 6% o'r flwyddyn gynt yn nifer yr archwiliadau a
gwblhawyd y tu mewn i nifer y dyddiau a gynlluniwyd.
|
|
|
5.2.7
|
Yng Nghynllun Gwella 2002/03 ar gyfer Archwilio Mewnol
pennwyd targedau i'w cwblhau erbyn 31 Mawrth, 2003 yn cynnwys
paratoi holiadur boddhad y cleient; coladu'r ymatebion a datblygu
dangosyddion perfformiad lleol.Cwblhawyd yr holiadaur ac fe'i
rhoddir i'r Cleient Adran ar ôl cwblhau pob archwiliad.Gan
ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd ynghyd â gwybodaeth arall a
gasglwyd gan Grwp Meincnodi CIPFA a Grwp Prif Archwiliwyr Mewnol
Cymru, datblygwyd set o ddangosyddion perfformiad lleol ac fe
fanylir ar y rhain yn yr adroddiad.Bwriedir defnyddio'r set newydd
yma i gyflwyno adroddiadau yn y dyfodol.
|
|
|
5.2.8
|
Caiff pob gwaith archwilio ei raddio o A i E i nodi safon
y rheolaeth fewnol lle mae A yn dynodi dim gwendid yn y rheolau
mewnol ac E yn dynodi fod y system o reolau mewnol yn gwbl
annigonol.B/C yw'r raddfa gyffredinol yn seiliedig ar yr holl waith
a wnaed yn ystod y flwyddyn, sy'n cynrychioli risg bychan i'r
Awdurdod.Yn seiliedig ar sgôp y gwaith a wnaed, a chyda'r
amod bod rheolwyr yn gweithredu ar yr argymhellion a'r systemau yn
parhau i weithredu fel ag y maent ar hyn o bryd, ni welodd yr
Archwiliwr unrhyw wendidau mawr yn y trefniadau rheoli a fyddai'n
rhwystro'r Cyngor rhag dibynnu, o fewn rheswm, ar y systemau rheoli
mewnol yng nghyswllt y systemau hynny a adolygwyd yn ystod y
flwyddyn.Dylid nodi fodd bynnag, mai dim ond sicrwydd o fewn rheswm
yn hytrach na sicrwydd pendant y gall unrhyw system reoli fewnol ei
rhoi yn erbyn colled sylweddol neu ffeithiau a gofnodwyd yn
anghywir.
|
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
yr Adroddiad Blynyddol ar waith yr Adain Archwilio Mewnol yn ystod
2002/03, a nodi ei gynnwys.
|
|
|
|
4.3
Adroddiad Gwaith
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan
y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) ar waith yr Adain yn ystod
y cyfnod o 2 Tachwedd, 2002 hyd at 2 Mai, 2003.
|
|
|
|
Bu i'r Pennaeth Gwasanaeth
(Archwilio Mewnol) grynhoi prif bwyntiau'r adroddiad fel a
ganlyn:
|
|
|
|
4.3.1
Cwblhawyd gwaith ar gyfanswm o 31 o
archwiliadau yn ystod y cyfnod uchod a chyhoeddwyd adroddiad
terfynol ym mhob achos.Rhyddhawyd adroddiadau drafft yng nghyswllt
13 o archwiliadau pellach ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar 13
archwiliad arall.Yn unol â chais a wnaed mewn cyfarfod
blaenorol o'r Pwyllgor dangosir unrhyw newid yn y graddfeydd rhwng
canlyniadau gwaith archwilio'r gorffennol mewn maes arbennig a
chanlyniadau'r gwaith archwilio presennol.O gymharu'r ystadegau
felly gwelir fod 11 o archwiliadau yn dangos gwelliant yn y raddfa
o'i gymharu â'r archwiliad cynt; 5 yn dangos dim newid; 5 yn
dangos gostyngiad yn y raddfa ac mewn 9 achos ni ddyfarnwyd gradd
yn flaenorol neu hwn oedd y gwaith archwilio cyntaf yn y maes.Yn
ychwanegol at y gwaith hwn, derbyniwyd 20 o gontractau cyfalaf yn
yr Adain Archwilio rhwng 2 Tachwedd, 2002 a 2 Mai, 2003.Cwblhawyd y
gwaith archwilio ar 13 o'r contractau hyn a dychwelwyd y ffeil i'r
adran berthnasol.
|
|
4.3.2
Yn atodiadau 1 - 31 yr adroddiad gwaith ceir
crynodeb gweithredol i bob un o'r 31 adroddiad llawn a gyhoeddwyd
rhwng 2 Tachwedd, 2002 a 2 Mai, 2003.Dyfarnwyd gradd B yn achos 18
o'r archwiliadau; gradd C yn achos 8; gradd D yn achos 4 a gradd E
yn achos 1 o'r archwiliadau, sef yng nghyswllt y System Oriau
Ystwyth.
|
|
4.3.3
Yn ystod y flwyddyn mae'r Adain Archwilio
Mewnol yn gorfod gwneud gwaith ar faterion sy'n dod i'r amlwg yn
ystod gwaith archwilio cynlluniedig neu oherwydd materion a ddygir
i sylw'r Adain gan adrannau eraill a gwaith hefyd mae adrannau
eraill yn gofyn i'r Adain Archwilio Mewnol ei wneud.Hefyd mae'n
bosibl y bydd yr Archwiliwr Dosbarth yn gofyn i'r Adain am
wybodaeth neu am gymorth i ddarparu gwybodaeth.Yn sgîl
materion yn codi o dan y pennawd hwn, gwnaethpwyd y gwaith canlynol
yn ystod y cyfnod:
|
|
|
|
4.3.3.1
Cyflwynwyd adroddiad i gyfarfod diwethaf y
Pwyllgor hwn ynglyn â gwaith oedd yn cael ei wneud i ganfod
faint o lythyrau geirda oddiwrth gyflogwyr blaenorol oedd yn cael
eu dilyn i fyny wrth benodi staff newydd.Cynhaliwyd y gwaith hwn
mewn ymateb i bwynt a godwyd gan yr Archwiliwr Dosbarth yn ei
adroddiad ar Agweddau Cyllidol Llywodraeth Gorfforaethol a
gyhoeddwyd yn 2002.Cwblhawyd y gwaith erbyn hyn a chyflwynwyd y
casgliadau i'r rheolwyr.
|
|
4.3.3.2
Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei gynnal ar
gontract arlwyo'r Cyngor yng nghyswllt arlwyo tu mewn i Swyddfeydd
y Cyngor.Dengys y gwaith archwilio dechreuol fod yna rhai problemau
gyda threfniadau contract ac mewn perthynas â chasglu rhent
dyledus.Trosglwyddwyd y mater i'r swyddogion priodol i ddatrys y
sefyllfa a byddir yn adrodd ar y pwnc i'r Pwyllgor hwn maes o
law.
|
|
4.3.3.2
Yn dilyn cais gan yr adran berthnasol, mae
arolwg yn cael ei gynnal o wariant yr Uned Diogelwch Cymunedol gan
gynnwys y Cynllun Camerau'n Gyntaf - Camerau Goruchwylio.Mae'r
gwaith yn mynd rhagddo ac adroddir yn llawn ar y casgliadau unwaith
y cwblheir y dasg.
|
|
4.3.3.4
Cynhaliwyd ymholiad i anghysonderau wrth
gasglu a bancio incwm prydau ysgol yn un o ysgolion cynradd y
Cyngor.Mae'r gwaith hwn yn tynnu tuag at ei derfyn a chyflwynir
adroddiad ar y mater i gyfarfod nesaf y Pwyllgor
Archwilio.
|
|
4.3.3.5 Ymchwiliwyd
i haeriad bod un o swyddogion y Cyngor yn torri rheolau cynllun
oriau ystwyth y Cyngor.Cwblhawyd y gwaith hwn a rhoddodd yr Adran
berthnasol sylw i'r mater yn unol â threfniadau disgyblu'r
Cyngor.
|
|
|
|
4.3.4
O ran cyngor cyllidol, mae'r gwaith a
gofnodwyd dan y pennawd hwn yn waith a wnaed ar gais Adrannau ac
fel arfer yn cyfateb i gyngor ar reolau cyllidol, rheolau sefydlog
i gontractau, trefniadau tendro neu ar y rheolau mewnol sy'n
angenrheidiol i systemau newydd.Isod nodir y meysydd y rhoddwyd
sylw iddynt rhwng 2 Tachwedd, 2002 hyd at 2 Mai, 2003:
|
|
|
|
4.3.4.1
Gwerthuso'n ariannol dendrwyr ar gyfer
contractau;
|
|
4.3.4.2
Cynghori ar drefniadau tendro ar gyfer amryfal
gontractau;
|
|
4.3.4.3
Rhoi cyngor ar achosion penodol yng nghyswllt
Grant Datblygu Economaidd;
|
|
4.3.4.4
Rhoi cyngor cyffredinol ar nifer o fatrerion
i'r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion a'r Adran
Addysg a Hamdden.
|
|
|
|
4.3.5
Gwnaethpwyd gwaith dilyn i fyny ar 16
adroddiad archwilio a gyhoeddwyd rhwng 1 Mawrth, 2002 a 31 Mai,
2002, a nodir manylion hynny yn yr adroddiad.
|
|
|
|
Tra'n pryderu fod gradd E
wedi'i ddyfarnu yn achos y system oriau ystwyth, croesawodd yr
aelodau yr adroddiad archwiliad ar y maes hwn, ynghyd â'r
Cynllun Gweithredu Rheolaeth cysylltiedig, ac roedd consensws yn eu
plith fod angen tynhau'r trefniadau ar gyfer rheoli a monitro'r
system er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei
chamddefnyddio.Cytunwyd y dylid cyfeirio'r adroddiad a'r mater er
sylw'r Pwyllgor Gwaith.
|
|
|
|
Ategodd yr Aelod
Portffolio gyda chyfrifoldeb dros Adnoddau Dynol y sylwadau uchod a
nododd ei fod o'r farn fod yr adroddiad yn fater y dylai'r Pwyllgor
Gwaith ei ystyried mewn manylder fel bo gweithredu buan i wirio'r
gwendidau.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
4.3.6
Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth
(Archwilio Mewnol) ynglyn â gwaith yr Adain Archwilio Mewnol
am y cyfnod o 2 Tachwedd, 2002 hyd at 2 Mai, 2003, gan nodi ei
gynnwys.
|
|
4.3.7
Cyfeirio'r adroddiad archwiliad ynglyn
â'r system oriau ystwyth er sylw'r Pwyllgor Gwaith, gan ofyn
i'r Pwyllgor hwnnw roi sylw manwl iddo a hefyd, ystyried pa mor
effeithiol yw'r gyfundrefn oriau ystywyth yn ei
chyfanrwydd.
|
|
|
|
4.4
Cynllun Strategol Archwilio Mewnol :
Ebrill, 2003 - Mawrth, 2007
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan
y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) yn ymgorffori Cynllun
Strategol ar gyfer yr adain am y cyfnod, Ebrill, 2003 hyd at
Mawrth, 2007.
|
|
|
|
Crynhodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Archwilio Mewnol) y prif bwyntiau fel a
ganlyn:
|
|
|
|
4.4.1
Yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2002
penderfynodd y Pwyllgor Archwilio dderbyn y Cynllun Strategol
Archwilio Mewnol am y cyfnod 2002-2006.Fel sydd wedi ei adrodd yn y
gorffennol, rhaid diweddaru'r cynllun strategol hwn er mwyn iddo
ystyried newidiadau mewn meysydd archwilio, newid asesiad risg a
llithriad oherwydd swyddi gweigion, salwch ac ati.Cynhelir y broses
hon yn flynyddol a chynhyrchir y cynllun newydd.
|
|
4.4.2
Seilir y cynllun yn ôl 7 aelod o staff
yn gweithio yn yr Adain, a rydd cyfanswm o 1,827 oriau gwaith sydd
ar gael ym mhob blwyddyn.Dadansoddir y Cynllun fesul 4 prif
bennawd, sef Gwaith Archwilio a Gynlluniwyd; Gwaith Archwilio
Arall, Gwaith heb fod yn waith Archwilio, ac Amser heb fod yn Amser
Cynhyrchiol.
|
|
4.4.3
Mae'r Cynllun sydd wedi'i lunio yn
canolbwyntio ar waith archwilio craidd traddodiadol ac yn
adlewyrchu lefel bresennol adnoddau sydd ar gael a sgiliau'r
tîm archwilio presennol.Yn ystod y broses ymgynghori nodwyd
rhai meysydd risg eraill, ac efallai bydd modd ystyried y meysydd
hynny ar gyfer gwaith archwilio yn y dyfodol, ond i wneud y gwaith
hwn byddai raid i adnoddau gael eu trosglwyddo o'r gwaith archwilio
craidd hwn ac ailasesu sut y cynigir y gwasanaeth archwilio h.y.
byddai yna fwy o reidrwydd i brynu adnoddau archwilio'n allanol er
mwyn cael y sgiliau angenrheidiol.
|
|
4.4.4
Yn seiliedig ar amcanion yr Adain Archwilio
Mewnol a'r dull uchod lluniwyd y cynllun a ymgorfforir yn yr
adroddiad uchod.Ymgynghorwyd â Chyfarwyddwr pob Adran ynglyn
â'r cynllun fel mae'n ymwneud â'u hadran hwy ac
ymgynghorwyd â'r Cyfarwyddwr Cyllid, y Rheolwr Gyfarwyddwr
a'r Swyddog Monitro ynghylch y cynllun llawn.Rhoddir dadansoddiad
yn yr adroddiad o'r Cynllun Strategol fesul math o archwiliad a
hefyd, fesul adran.
|
|
|
|
Penderfynwyd
mabwysiadu'r Cynllun Strategol ar gyfer 2003-2007 fel ag a
gyflwynwyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio Mewnol).
|
|
|
|
Gwyn Roberts
|
|
Cadeirydd
|