Cyflwynwyd - Datganiad Cyfrifon 2004/05 (heb eu
harchwilio).
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ei fod yn
ofynnol i'r Pwyllgor Archwilio fabwysiadu'r Datganiad
Cyfrifon cyn 30 Medi yn unol â'r amserlen statudol, a
dyna oedd pwrpas cynnull y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor.Cyflwynwyd
drafft cyntaf o'r Datganiad Cyfrifon am 2004/05 i'r Pwyllgor
Archwilio yn ei gyfarfod ar 18 Awst pryd gafodd gyfle i roddi ei
sylwadau ar y cynnwys.Nodir y newidiadau yn y Datganiad Cyfrifon
ers cyflwyno'r fersiwn i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Awst yn y
dudalen rhagarweiniol i'r Datganiad a gyflwynir uchod.Y prif newid
yw'r ychwanegiadau i'r Datganiad Llif Arian sydd yn awr wedi ei
gwblhau.Yn ychwanegol, derbyniwyd cyfrifon drafft 2004/05 gan
Gwmni Gwastraff Môn/Arfon erbyn hyn sy'n golygu y gallwyd
cwblhau'r Cyfrifon Grwp. (Cylchredwyd tudalennau ychwanegol i'r
Datganiad ar ddechrau'r cyfarfod yn ymgorffori'r wybodaeth
hon).
Gofynnir felly i'r Pwyllgor Archwilio fabwysiadu'r
Datganiad Cyfrifon am 2004/05 yn ffurfiol er mwyn ei gyflwyno ar
gyfer y broses archwilio allanol ac archwiliad gan y
cyhoedd.
Gofynnwyd cwestiynau ynglyn â'r wybodaeth yn y
Datganiad ac yn arbennig ynghylch ffigyrau yn y Fantolen, a gwnaed
sylw ynghylch y ffaith eu bod yn ymddangos i awgrymu fod gan y
Cyngor arian sylweddol dros ben oedd yn cael ei drosglwyddo o
flwyddyn i flwyddyn, a chafwyd trafodaeth ynglyn â hyn.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid esboniad manwl ynglyn
â'r ffigyrau ar y fantolen.
Yn gyffredinol, croesawyd y Datganiad fel sail gwybodaeth
ddefnyddiol iawn ar gyfer proses cynllunio cyllidebol y flwyddyn i
ddod a chytunwyd i'w gymeradwyo.
Penderfynwyd cymeradwyo'r Datganiad Cyfrifon am
2004/05 i'w gyflwynoar gyfer y
broses archwilio allanol ac archwiliad gan y cyhoedd.