Meeting documents

Governance and Audit Committee
Tuesday, 29th September, 2009

PWYLLGOR ARCHWILIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 29 Medi, 2009

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R. Llewelyn Jones (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Jim Evans (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Barrie Durkin, C.Ll. Everett,

Eric Jones, H. Eifion Jones, J.P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)

Rheolwr Archwilio (JF)

Uchel Archwiliwr Mewnol (EW)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (MJ)

Swyddog Pwyllgor ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd J.V. Owen, Mrs Lynn Hind (PWC)

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Thomas Jones (Deilydd Portffolio Cyllid),

Mr James Quance (PWC), Mr Dylan James (PWC)

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a llofnodwyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio ar 14 August, 2009.

 

Yn codi  -

 

Eitem 3 - Arolwg Llywodraethu Corfforaethol

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Barrie Durkin at ran olaf y drafodaeth dan yr eitem hon pryd y gofynnwyd a oedd mater Craig-wen wedi’i gladdu’n derfynol.  Ar y pryd dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Clive McGregor a oedd yn bresennol yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio, bod y mater hwn yn wir “wedi’i gladdu unwaith ac am byth” yn unol â chyfarwyddyd yr Archwiliwr Cyffredinol yn yr Adroddiad  Arolwg Llywodraethu Corfforaethol.  Ond pryder y Cynghorydd Durkin oedd bod Craig-wen unwaith eto wedi codi mewn cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 15 Medi, pryd y cyfeiriodd y Cynghorydd W.J. Chorlton ato a hynny er gwaethaf y ddealltwriaeth gyffredinol ymhlith pawb bod y mater wedi’i gau.  Wedyn ychwanegodd y Cynghorydd  Durkin nad oedd yn hapus o gwbl gyda’r adroddiad terfynol glastwraidd  oherwydd ei fod ef yn credu nad oedd dim llai nag Arolwg Barnwrol ynghylch prynu’r Graig-wen yn ddigon i sicrhau bod popeth yn dod i’r amlwg ynghylch y mater a chau’r hanes unwaith ac am byth.

 

Gan y Cadeirydd cafwyd y sylw nad oedd y Cynghorydd W.J. Chorlton yn ymwybodol o bosib ar y pryd o’r hyn gafodd ei ddweud gan Arweinydd y Cyngor yng nghyfarfod 14 Awst o’r Pwyllgor Archwilio yng nghyswllt cau mater Craig-wen - hynny ydyw pan oedd y Cynghorydd Chorlton yn codi’r mater yn y Cyngor.

 

 

 

Yng nghyswllt y cyfeiriad at y bwriad i gael Siartr i aelodau’r Pwyllgor Archwilio, gofynnodd y Cynghorydd Cliff Everett beth oedd ystyr Siartr o’r fath o gofio bod aelodau, yn barod, yn gorfod cydymffurfio gyda gofynion y Cod Ymddygiad, ac yn fwy perthnasol beth sy’n mynd i ddigwydd pan fo aelod yn anwybyddu gofynion y Siartr, neu mewn geiriau eraill beth yw pwerau’r Cyngor i bwrpas gweithredu ar y Siartr.

 

 

 

                                             54

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cadeirydd mai ei syniad ef yng nghyswllt y Siartr oedd bod dogfen o’r fath yn mynd i fod yn ffordd ymarferol o roddi credinedd i’r Pwyllgor Archwilio a swyddogaeth y Pwyllgor y tu mewn i’r Cyngor.  Amlinellwyd diben y Siartr ar dudalennau 3 a 4 y cofnodion lle dywedir ei fod yn crynhoi cylch gorchwyl y Pwyllgor ac yn fath o ddyfais i atgoffa’r aelodau o’u swyddogaeth fel aelodau o’r Pwyllgor Archwilio ac osgoi unrhyw wrthdaro gwleidyddol neu wrthdaro personol - sef ymddygiad y barnwyd ei fod, yn yr Adroddiad ar yr Arolwg Llywodraethu Corfforaethol yn cyfyngu ar effeithiolrwydd y Pwyllgor fel corff sy’n darparu sicrwydd annibynnol.  Wrth ddyfeisio’r Siartr roedd ef yn gobeithio y gallai fod yn ddatganiad o fwriad i aelodau’r Pwyllgor Archwilio i bwrpas gweithio ynghyd fel tîm ac ymrwymo i roddi lle mwy blaenllaw i ddyheadau’r etholwyr nag i bethau o bwys gwleidyddol.  Wedyn atgoffodd yr aelodau, nad oedd y Siartr eto wedi’i lofnodi ac y câi ei drafod mae’n bur debyg yn y Bwrdd Adfer; felly roedd modd dweud bod y ddogfen yn dal i fod yn ei ffurf esblygol ac yn agored i gael ei datblygu eto gan yr aelodau yn ôl eu dymuniad nhw.

 

 

 

Tra oedd y Cynghorydd Cliff Everett yn deall be oedd y rheswm am y Siartr ac yn cytuno i’w gael a chyfeiriodd at ei brofiad ei hun fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio pan geisiodd ddelio gydag ymyrraeth gwleidyddol yng nghwaith y Pwyllgor, ni fedrai ef er hynny ddeall yn iawn pa gosbau y gellid eu gorfodi ar aelodau pryd bynnag y byddant yn torri darpariaethau’r Siartr.  Ni chredai ef bod pwynt cael Siartr onid oedd y Siartr honno yn seiliedig ar system agored a chytunedig o gosbau a buasai’n amharod i lofnodi’r ddogfen onid oedd system o’r fath yn ei lle.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cadeirydd y buasai’n rhaid troi o bosib at y Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau petai gofynion y Siartr yn cael eu torri.  Mewn ymateb i hynny dywedodd y Cynghorydd Everett nad oedd y Pwyllgor Safonau yn ymyrryd, yn ôl ei ddealltwriaeth, onid oedd y Cod Ymarfer wedi’i dorri, a holodd tybed a oedd y Siartr i fod yn atodiad wrth gwt y Cod Ymarfer neu a ydyw’n ddim byd amgenach na darn o bapur, ac a oedd i’r ddogfen hon unrhyw awdurdod gwaelodol.  Pwysleisiodd ei fod yn gofyn y cwestiynau hyn i bwrpas sicrhau bod y syniad o Siartr yn gweithio yn ymarferol.  

 

 

 

Dywedodd Cadeirydd mai’r Bwrdd Adfer fydd yn gyfrifol am oruchwylio sut y bydd y Siartr yn gweithio a sut y gweithredir arno; fodd bynnag, roedd yn werthfawrogol i gefnogaeth y Cynghorydd Everett i’r Siartr mewn egwyddor.  Tybiai’r Cynghorydd Eric Jones hefyd bod angen gwneud mwy o waith ar fanylion y Siartr ac nid yw’r ddogfen, fel y mae, yn ddim ond canllawiau.  Yng nghyswllt cais y Cynghorydd Durkin am arolwg barnwrol ynghylch prynu’r Graig-wen credai’r Cynghorydd Jones bod mater o’r fath yn rhywbeth i’r Cyngor Sir edrych arno.

 

 

 

Cytuno gyda’r Cynghorydd Everett a wnaeth y  Cynghorydd H. Eifion Jones ynghylch pwysigrwydd cael Siartr a fydd yn cyflwyno cosbau am fethu â chydymffurfio.  Yng nghyswllt cwestiynau mwy cyffredinol a gododd yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 14 Awst ar fater yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol dywedodd ei fod yn fodlon gydag ymateb yr Arweinydd yn cadarnhau bod mater y  Graig-wen wedi dod i ben.  Ond hefyd yn y cyfarfod hwnnw roedd wedi codi’r mater o gael cyfarfod rhwng y Pwyllgor Gwaith a’r Tîm Rheoli Corfforaethol i roddi sylw i’r llythyr hwnnw a anfonwyd gan y Pwyllgor Gwaith at yr Archwilwyr ym mis Rhagfyr, 2008 - llythyr ac ynddo sylwadau beirniadol am y Tîm Rheoli.  Er bod yr Arweinydd yn rhoi sicrwydd y buasai cyfarfod yn cael ei gynnal rhyngddo ef ei hun, y Dirprwy Arweinydd a’r Tîm Rheoli yn cael ei gynnal ac yn dod i ganlyniadau priodol hoffai wybod a oedd y cyfryw gyfarfod wedi’i gynnal ers iddo ef grybwyll y mater ar 14 Awst.  Wrth ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod cwestiwn tebyg wedi’i ofyn yng nghyfarfod y Cyngor Sir ac ar y pryd yn ei ymateb dywedodd yr Arweinydd y câi y pwnc sylw dan arweiniad y Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro.

 

 

 

3

IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU A RHEOLI RISG

 

 

 

Cyflwynwyd - Cofnodon yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 1 Medi, 2009.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                        55

 

 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei siom am nad oedd yr Is-Bwyllgor wedi llwyddo i ethol Cadeirydd i’r cyfarfod fel bod modd symud ymlaen gyda’r busnes y cynhaliwyd y cyfarfod ar ei gyfer.  Aeth ymlaen i ddweud bod yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg yn bwyllgor o bwys gyda swyddogaeth i roddi sylw i’r materion allweddol sy’n wynebu’r Cyngor.  O ddarllen y cofnodion teimlai bod yn y cyfarfod gyfle i ethol Cadeirydd i’r cyfarfod o blith y pedwar aelod presennol a chan ddilyn cyngor y swyddogion ar y pryd, ac ni fedrai ddallt yn iawn pam na ddigwyddodd hynny.  Y cwestiwn gerbron oedd - sut yr oedd modd symud ymlaen gyda’r mater?

 

 

 

Ar ôl iddo ddarllen y cofnodion dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ei fod yntau hefyd yn siomedig iawn gyda’r datblygiadau yn y cyfarfod.  Aeth ymlaen i atgoffa’r aelodau o un feirniadaeth yn yr Adroddiad Arolwg Llywodraethu Corfforaethol, sef nad oedd yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli wedi cyfarfod ers Chwefror, 2008, ac nad oedd yr Awdurdod wedi rhoddi sylw priodol i reoli risg - sef y mater sylweddol.  Roedd y cyfarfod o’r is-bwyllgor yn gyfle i wneud cynnydd - roedd adroddiad gan yr Adain Archwilio Mewnol gerbon yr is-bwyllgor a’r swyddogion a fu’n delio gyda’r mater o reoli risg yn bresennol ar gyfer trafodaeth ar y mater sylweddol  ynghylch beth oedd ar y gweill yng nghyswllt y maes penodol hwn; ond oherwydd yr holl ffraeo fe dybiai ymhlith aelodau ni chafwyd y cyfarfod na thrafodaeth ar y pynciau pwysig gerbon.  Dywedodd nad oedd peth o’r fath yn adlewyrchu’n dda ar yr Awdurdod o ran wynebu’r rhaglen fawr yng nghyswllt yr Arolwg Llywodraethu Corfforaethol, hefyd ynghylch y feirniadaeth yn yr Arolwg hwnnw ac nad oedd pethau’n argoeli’n dda onid oedd modd cynnal cyfarfod ac ynddo faterion ar bapur i’w trafod.  O’r herwydd awgrymodd bod y mater o bwys a oedd i fod yn bwnc trafodaeth yn yr is-bwyllgor, sef Datganiad Sefyllfa yr Adain Archwilio Mewnol a Rheoli Risg, yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio ei hun.  Onid oedd cytundeb ynghylch pwy ddylai gadeirio’r is-bwyllgor yna nid oedd waeth i’r Pwyllgor Archwilio ei hun ystyried y mater gan fod yr aelodau â materion o bwys i’w trafod fel Pwyllgor Archwilio.  Mae modd gwneud hyn dan y Cyfansoddiad, gan fod y pwer i ddirprwyo materion i’r is-bwyllgor yn gorwedd gyda’r Pwyllgor Archwilio a hynny’n golygu bod modd i’r Pwyllgor hwnnw benderfynu peidio â dirprwyo unrhyw fater ac yn lle hynny ystyried y mater ei hun heb orfod diwygio’r Cyfansoddiad i wneud hynny.  Felly awgrymodd bod y Pwyllgor, yn y lle cyntaf, yn cadarnhau a oedd cofnodion cyfarfod yr is-bwyllgor yn gywir ai peidio, a wedyn yn symud ymlaen i ystyried yr adroddiad cynghori gan yr Adain Archwilio Mewnol ar Reoli Risg mewn cyfarfod o’r Pwyllgor hwn.

 

 

 

Ond ni fedrai’r Cynghorydd Barrie Durkin dderbyn yn llawn sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid gan fod y rheini yn beio’r is-bwyllgor am beidio â chynnal y cyfarfod a dywedodd ymhellach bod geiriau’r Cyfarwyddwr yn anhygoel pan ddywedodd bod methiant yr is-bwyllgor i’w briodoli i “ffraeo ymysg aelodau”.  Credai ef bod y sefyllfa ddiadlam yn y cyfarfod i’w phriodoli’n rhannol i’r swyddogion a’u hymdrechion nhw i wastrodi aelodau o ran beth y dylid ei wneud neu beidio a hynny yng nghyd-destun derbyn aelod absennol i fod yn Gadeirydd; - aelod nad oedd yn dymuno bod yn Gadeirydd ac nad oedd hyd yn oed yn dymuno bod yn aelod o’r Pwyllgor.  A phan fo’r Awdurdod yn cydnabod polisi o roddi’r cyfle i aelodau nad ydynt ar y grwp rheoli y cyfle i fod yn Gadeiryddion roedd yr ymdrechion yn y cyfarfod o’r is-bwyllgor i ethol Cadeirydd o blith y rheini oedd yn bresennol [a’r cyfan ohonynt yn aelodau o un o’r grwpiau rheoil], hyd yn oed dros dro yn weithred gwbl anystyriol o’r polisi hwnnw.  O’r herwydd dywedodd ei fod yn wyllt, ac yn wir roedd am ddweud ei fod yn wyllt oherwydd ymddygiad per se swyddogion ar y Cyngor; roedd y peth yn anhygoel.  Dyma pryd y dywedodd y Cynghorydd Durkin ei fod yn ymddiswyddo yn syth fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio a’i fod am i’r cyhoeddiad hwn gael ei nodi yn y cofnodion.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd C.L. Everett am gofnodi bod aelod o’r Pwyllgor wedi ymosod ar swyddogion yr Awdurdod.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd  Durkin nad oedd raid caniatáu’r cais gan fod y cyfarfod yn cael ei recordio beth bynnag.  Ond aeth y Cynghorydd Everett ymlaen i ddweud ei fod ef o’r farn bod angen cymryd camau pellach ynghylch hyn.  Wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd Durkin bod sawl peth y dylid cymryd camau pellach yn ei gylch ac y dylid cofnodi hynny hefyd.  Wedyn gadawodd y Cynghorydd Durkin y cyfarfod.

 

 

 

Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad bod ganddo ffydd lawn yn y swyddogion oedd yn gwasanaethu’r Pwyllgor Archwilio ac yn bresennol hefyd yn yr is-bwyllgor a bod ganddo bob ffydd yn eu galluoedd ac yn eu hymddygiad.  Teimlai bod y swyddogion hyn wedi rhoddi cyngor priodol i’r aelodau hynny oedd yn bresennol yn yr is-bwyllgor.  O’r herwydd cafodd ei siomi’n fawr bod un aelod wedi penderfynu ymddiswyddo oherwydd beth a ddigwyddodd yn y cyfarfod penodol hwnnw o’r is-bwyllgor.  

 

                                                                       56

 

Teimlai’r Cynghorydd C.L. Everett y dylai’r Cadeirydd herio’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd  Durkin mewn pwyllgor agored a bod angen trosglwyddo’r mater i’r Swyddog Monitro’r Cyngor.  Teimlai ef bod y sylwadau yn cyffwrdd ag ymddygiad swyddogion yn gyffredinol y tu mewn i’r awdurdod gyda’r ystyr na ddylid caniatáu i swyddogion ddweud pethau heb her, ac onid oedd y Cadeirydd yn mynd ar drywydd y mater yna fel aelod unigol buasai ef yn gwneud hynny yn bendant.  Ond hefyd, gan fod yr aelodau hynny oedd yn perthyn i’r un grwp gwleidyddol â’r Cynghorydd Durkin fe ddylent ystyried ei ddisgyblu.  O ran y cofnodion eu hunain, holodd a oedd y posibilrwydd o ethol cadeirydd i’r cyfarfod hwnnw yn unig wedi’i gyflwyno fel opsiwn i’r is-bwyllgor.

 

      

 

     Cadarnhaodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro i hynny ddigwydd a dyfynnodd o’r cofnodion, “that members of the sub-committee were asked whether they wished to elect a chair for that meeting only simply for the purpose of progressing the matter for which the meeting had been called, and that Cynghorydd  Durkin had responded to  that suggestion by saying that he had proposed that the meeting be adjourned until such time as a proper Chair could be appointed and be present to preside.”

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Everett yn derbyn yr eglurhad a chynigiodd bod y Pwyllgor yn mabwysiadu awgrym y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod y Pwyllgor Archwilio yn cymryd cyfrifoldeb am faterion rheoli risg hyd oni fydd yr is-bwyllgor yn medru cyfarfod.

 

      

 

     Cytunodd y Cynghorydd H. Eifion Jones gyda’r Cadeirydd bod y swyddogion wedi ymddwyn yn briodol yng nghyfarfod yr is-bwyllgor; ac er nad oedd yn bresennol ei hun yn y cyfarfod hwnnw credai, ar ôl darllen cofnodion y cyfarfod, bod y swyddogion wedi rhoddi’r cyngor cywir trwy gydol y cyfarfod ond am ryw reswm anhysbys roedd yr aelodau wedi penderfynu peidio â derbyn y cyngor hwn.  Wedyn nododd, gan nad oedd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ei hun yn aelod o’r Wrthblaid, a chan fod eitem o bwys gerbron yr is-bwyllgor, ni welai pam nad oedd modd penodi yr Is-Gadeirydd neu Gadeirydd dros dro i’r cyfarfod.  Yna cyfeiriodd at yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Barrie Durkin sef nad oedd y Cynghorydd Eifion Jones yn dymuno bod yn aelod o’r is-bwyllgor.  Nid felly yr oedd pethau ac roedd yn berffaith fodlon gwasanaethu ar yr is-bwyllgor fel pwyllgor o bwys, ond dywedodd nad oedd bellach yn fodlon gwneud hynny a hynny ar ôl beth a welai fel nonsens yn digwydd.  Gofynnodd beth oedd y pwynt i aelod fod yn Gadeirydd is-bwyllgor, a phan fo’r aelod hwnnw yn methu mynychu, nid oes dim o gwbl yn digwydd a hynny am nad oes neb yn fodlon cymryd y Gadair.  Ac er ei fod ar un adeg yn fodlon bod yn aelod o’r is-bwyllgor, dywedodd na fedrai barhau i fod yn aelod oherwydd y dystiolaeth gerbron heddiw.  Aeth ymlaen i son mai un aelod yn unig o blith y rheini oedd yn bresennol yn y cyfarfod o’r is-bwyllgor ar 1 Medi oedd wedi siarad heddiw, ac nad oedd yr aelodau eraill, a dau o’r rheini yn bresennol heddiw yn y cyfarfod hwn o’r is-bwyllgor, wedi dweud yr un gair i egluro pam bod nonsens o’r fath wedi bod yn angenrheidiol.  Y ddadl a gyflwynwyd yn yr is-bwyllgor oedd na ddylai’r Is-Gadeirydd fod yn aelod o’r is-grwp rheoli ac felly gan fod y Cynghorydd Jim Evans yn aelod o un o’r grwpiau rheoli ni ddylai fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, a chan nad oedd neb yn gwrthwynebu i’r Cynghorydd  Evans fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn, ceisiai ddangos nad oedd unrhyw reswm i’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod o’r is-bwyllgor.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd J.P. Williams, aelod o’r is-bwyllgor ond heb fod yn bresennol yn y cyfarfod ar 1 Medi, ei fod yn derbyn rhesymeg y Cynghorydd H. Eifion Jones a nododd bod y cofnodion yn dangos iddo wneud y pwynt bod 80% o aelodau’r is-bwyllgor yn bresennol ac efallai bod materion o fwy o bwys wedi’u trafod mewn pwyllgorau lle roedd llai yn bresennol; ond teimlai nad oedd fawr y gallai rywun wneud mewn lleiafrif.  Ond roedd am ymddiheuro i’r Cynghorydd H. Eifion Jones am ei enwebu i’r Gadair yn ei absenoldeb, ond roedd yn gwneud hynny yn yr ysbryd gorau.  Wrth eilio’r cynnig gan y Cynghorydd J.P. Williams i enwebu’r Cynghorydd H. Eifion Jones yn Gadeirydd dywedodd y   Cynghorydd Jim Evans ei fod yn cydymffurfio’n unig gyda’r Cyfansoddiad lle dywedir bod raid dewis y Cadeirydd o blith yr aelodau sydd ddim yn aelodau o un o’r grwpiau rheoli.  Ond nid ethol Cadeirydd oedd cnewyllyn y mater yn ôl y Cynghorydd H. Eifion Jones ond yn hytrach methu ag ethol Is-Gadeirydd a fuasai, yn absenoldeb y Cadeirydd, wedi cadeirio’r cyfarfod a symud ymlaen y  drafodaeth ar y mater y galwyd y cyfarfod i roddi sylw iddo.

 

      

 

     Roedd un mater arall y teimlai’r Cynghorydd J.P. Williams bod angen ei egluro yng nghyswllt beth a ddigwyddodd yng nghyfarfod 1 Medi yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg, sef na chredai ef bod unrhyw “gega” wedi digwydd nag anghytundeb ymhlith aelodau ar y dydd.  Ond yr oedd peth

 

      

 

                                              57

 

     anghytuno, yn bennaf rhwng y Cynghorydd Barrie Durkin a’r swyddogion, ond ni fedrai ddweud bod unrhyw gega neu anghytundeb ymhlith aelodau - dim yr oedd ef yn ymwybodol ohono - a theimlai bod  cyfeirio at gega ymhlith aelodau braidd yn gryf.

 

      

 

     Mewn ymateb, taflodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ragor o oleuni ar beth a ddywedodd ar ddechrau’r drafodaeth, ac ymddiheurodd os nad oedd wedi egluro’i hun yn iawn ar y pryd.  Wrth gyfeirio at gega ymhlith aelodau nid oedd yn awgrymu bod y pedwar aelod yn y cyfarfod o’r is-bwyllgor ar 1 Medi mewn gwirionedd yn cega gyda’i gilydd.  Awgrymu a wnaeth bod y datblygiadau ar y dydd yn nodweddiadol o’r gwrthdaro cyffredinol ymhlith aelodau’r Cyngor p’un a oeddynt yn bresennol ai peidio ar y diwrnod penodol hwn.  

 

      

 

     Yma nododd y Cadeirydd mai ei ddymuniad oedd dwyn y drafodaeth ar y mater i ben a gofynnodd a oedd yr aelodau yn fodlon cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a gafwyd ar 1 Medi fel rhai cywir.  Felly gan y Cynghorydd J.P. Williams cafwyd cynnig i dderbyn y cofnodion fel rhai cywir a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jim Evans.  Yn ogystal derbyniodd y Pwyllgor yr awgrym a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod y Pwyllgor Archwilio ei hun yn ystyried yr adroddiad hwnnw a gyflwynwyd i’r is-bwyllgor yng nghyswllt rheoli risg a sut i fwrw ymlaen gyda’r mater.

 

      

 

     Ond cyn gadael y mater yn derfynol, gofynnodd y Cynghorydd C.L. Everett am gadarnhad y bydd y Cadeirydd yn cymryd camau ynghylch sylwadau y Cynghorydd Barrie Durkin cyn iddo adael y cyfarfod heddiw a gofynnodd yn daer am i’r sylwadau hynny gael eu hatgynhyrchu’n gyfewin yn seiliedig ar recordiad o’r cyfarfod oherwydd tybiai ef bod y geiriau a ddywedwyd yn rhai pwysig iawn.  Wrth ymateb dywedodd y Cadeirydd y buasai’n trafod y mater gyda’r Swyddog Adran 151.  Yn ogystal â gwrando’n dra gofalus ar beth a ddywedwyd mewn gwirionedd cafwyd cyngor gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid i ymgynghori gyda’r swyddogion hynny oedd yn bresennol yng nghyfarfod 1 Medi o’r is-bwyllgor cyn cymryd unrhyw gamau pellach.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

Ÿ

Derbyn cofnodion yr Is-Bwyllgor Llywodraethu a Rheoli Risg a gafwyd ar Medi, 2009;

 

Ÿ

bod y Pwyllgor Archwilio yn ystyried Adroddiad Cynghorol yr Adain Archwilio Mewnol ar Reoli Risg a’r materion yn yr adroddiad a oedd i fod i gael sylw yr is-bwyllgor yn y cyfarfod uchod.

 

 

 

2

IS-BWYLLGOR CANOLBWYNTIO AR Y CWSMER

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd  - Cofnodion y cyfarfod o’r Is-Bwyllgor Canolbwyntio ar y Cwsmer a gafwyd ar 1 Medi, 2009.

 

      

 

     Achubodd y Cynghorydd C.L. Everett ar y cyfle i ddiolch i’r swyddogion, ond yn arbennig i Gyfreithiwr y Swyddog Monitro am y gwaith a wnaed ar gwblhau’r weithdrefn newydd - cwynion a chanmoliaeth gorfforaethol.  Ond hefyd cyfeiriodd y Cadeirydd at y diolchiadau dyledus i’r Cynghorydd  Everett a gyfrannodd yn fawr at y gwaith hwn yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd yr Is-Bwyllgor uchod.

 

      

 

3

DATGANIAD CYFRIFON 2008/09

 

      

 

5.1

Cyflwynwyd - Adroddiad yr Archwiliwr Allanol, PricwaterhouseCoopers i’r rheini sy’n gyfrifol am lywodraethu, cyflwyniad yn dilyn yr archwiliad o ddatganiadau ariannol yr Awdurdod am 2008/09.

 

      

 

5.1.1

Dechreuodd Mr James Quance, PWC ar ei gyflwyniad yng nghyswllt casgliadau’r Archwilwyr Allanol ar ôl archwilio datganiadau cyfrifo’r Awdurdod a nodiadau cysylltiedig trwy ddweud bod yr Awdurdod wedi cyflwyno Datganiad Cyfrifon i’r Archwilwyr Allanol ym Mehefin a bod y gwaith archwilio arnynt bellach bron wedi’i gwblhau.  Roedd yr adroddiad uchod yn manylu ar faterion allweddol yn codi o’r archwiliad.  Rhaid cyfleu’r materion hyn i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, yn unol â Safon Archwilio Ryngwladol (ISA) 260, cyn

 

      

 

                                                                 58

 

      

 

     rhoi barn ar gywirdeb a thegwch y datganiadau cyfrifo.  Hefyd mae ISA 260 yn ei gwneud

 

                    yn ofynnol i archwilwyr gyflwyno adroddiad i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynglyn â’r 

 

      materion isod cyn cyflwyno’r farn honno -

 

      

 

Ÿ

y cydberthnasau a all ddylanwadu ar annibyniaeth yr archwilydd;

 

Ÿ

gwybodaeth am gynllunio archwiliad;

 

Ÿ

canfyddiadau’r archwiliad, yn cynnwys barn yr archwilydd ar yr agweddau ansoddol ar drefniadau cyfrifo ac adrodd ar endid

 

 

 

     Cyflwynwyd adroddiad ar y ddau fater cyntaf i’r Awdurdod yn y Cynllun Rheoliadol.  Paratowyd yr adroddiad uchod fel bod modd i’r Archwilwyr gyflawni eu dyletswyddau o ran y trydydd pwynt.  Bwriad yr Archwilwyr oedd cyflwyno adroddiad Archwilydd diamod ar y datganiadau cyfrifo a’r nodiadau cysylltiedig.  Fel rhan o’r broses hon mae’n ofynnol bod Archwilwyr yn cael Llythyr Cynrychiolaeth gan yr Awdurdod. Cytunir ar eiriad y Llythyr gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid.  Dyma yn gryno ganfyddiadau’r Archwilwyr -

 

      

 

Ÿ

ceir rhai gwelliannau y gellir eu gwneud o ran yr agweddau ansoddol ar eich arferion cyfrifo a’ch adroddiadau ariannol;

 

Ÿ

nid oes unrhyw gamddatganiadau perthnasol na chawsant eu cywiro;

 

Ÿ

nid yw’r Archwilwyr yn disgwyl y bydd raid addasu barn safonol yr Archwilydd ar y cyfrifon blynyddol;

 

Ÿ

ni chanfuwyd unrhyw wendidau perthnasol o ran rheolaeth fewnol;

 

Ÿ

nid oes unrhyw faterion eraill y mae’n ofynnol i’r Archwilwyr gyflwyno adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Rhyngwladol eraill arnynt i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, a

 

Ÿ

nad oes unrhyw faterion archwilio eraill o ddiddordeb llywodraethu i gyflwyno adroddiad arnynt.

 

5.1.2

Yna aeth Mr Dylan James, PWC, ymlaen i amlinellu canfyddiadau manwl yr archwilwyr fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Cyfrifon

 

 

 

Mae’r Archwilwyr yn rhagweld y rhoddir barn archwilio ddiamod ar y datganiadau ariannol.

 

      

 

Ÿ

Materion Cyfrifo

 

 

 

Mae’n ofynnol i’r Archwilwyr gyflwyno adroddiad i’r rheini sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt yr holl gamddatganiadau na chafodd eu haddasu ac a nodwyd yn ystod yr archwiliad, heblaw’r rhai sydd o natur ddibwys.  Nodir y camddatganiadau hyn yn Atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

 

Ÿ

Grantiau Cyfalaf Gohiriedig

 

 

 

Mae’r Datganiad ar yr Arfer a Argymhellir (SORP) yn egluro y dylai’r math yma o grant gyfateb i ased a bod y rhyddhad o’r grant i’r cyfrif incwm a gwariant yn cyfateb i ddibrisiad yr ased.  Yn hanesyddol mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu yr arfer o ryddhau y grantiau hyn i’r cyfrif incwm a gwariant i gyd-fynd â dibrisiant yn seiliedig ar werth cyfartaleddog gweddill oes ddefnyddiol yr asedau

 

 

 

Yng nghyfrifon 2008/09, roedd yr Awdurdod yn bwriadu rhyddhau £51m o’i falans grantiau gohiriedig y llywodraeth i’r cyfrif Incwm a Gwariant fel addasiad i’r cyfnod blaenorol, ar gyfer grantiau a dderbyniwyd yn 2006/07, ac yn gynharach, ar y sail nad oedd yn bosib i baru’r grantiau yn erbyn asedau.  Ar ôl trafodaeth gyda’r Awdurdod, cytunwyd i beidio â rhoddir cofnod hwn yng nghyfrifon 2008/09.  Yn hytrach, bydd yr Awdurdod yn nodi cynifer o grantiau a phosib dros y flwyddyn nesaf ac ailystyried pa mor briodol yw rhyddhau unrhyw grantiau na chafodd eu nodi ac sy’n weddill yng nghyfrifon 2009/2010.

 

 

 

 

 

                                                       59

 

Ÿ

Cyfrifo’r Ddarpariaeth ar gyfer Drwg-Ddyledion

 

 

 

Clandrwyd y ddarpariaeth ar gyfer dyledion amheus gan ddefnyddio canrannau cyffredinol heb fod yn seiliedig ar ‘colledion yr aed iddynt’ h.y. nid ydynt yn seiliedig ar gofnodion ariannol lefel y dyledion a adenillwyd yn hanesyddol.  Mae’n ofynnol i’r sail colledion yr aed iddynt gael ei chynnwys er mwyn i’r cyfrifon gydymffurfio â’r SORP er ein bod wedi’n bodloni na fyddai hyn yn achosi gwall perthnasol yn y cyfrifon.

 

 

 

Argymhelliad - Yn ystod 2009/10 dylai’r Awdurdod nodi unrhyw ostyngiad posib mewn gwerth o ran eu dyledwyr unigol mwyaf a chlandro’r dyledion a adenillwyd yn hanesyddol ar gyfer pob dosbarth o ddyledwr.

 

 

 

Ÿ

Gorwario ar y Gyllid

 

 

 

Roedd canlyniadau terfynol yr Awdurdod am 2008/09 yn dangos y gorwariant £1,077k. Roedd hyn yn bennaf oherwydd gorwariant o £1.1m, yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a chyfradd gasglu is na’r hyn y cyllidebwyd ar ei chyfer o £493k ar y Dreth Gyngor.  Gwrthbwyswyd hyn gan lai o wario yn y maes ariannu cyfalaf a llog.

 

 

 

Argymhelliad - Oherwydd y sefyllfa economaidd, y setliad statws sengl sydd ar y gweill a’r posibilrwydd y ceir rhai’n hawlio cyflog cyfartal, mae angen i’r Awdurdod barhau i graffu’n ofalus ar ei gyllidebau a’u monitro mewn paratoad i wneud penderfyniadau anodd o bosib fel ymateb i unrhyw ddirywiad yn y sefyllfa ariannol.

 

 

 

Ÿ

Cronfeydd wrth Gefn

 

 

 

Mae aelodau a swyddogion yn parhau i adolygu cronfeydd wrth gefn i sicrhau bod y rhesymau dros eu sefydlu yn parhau i fod yn rhai dilys a bod y swm a neilltuwyd yn seiliedig ar dybiaethau realistig o angen.  Ar 31 Mawrth, 2009, roedd gan yr Awdurdod £23.064m (£24.114m yn 2007/08) mewn cronfeydd dosbarthiadwy wrth gefn ond mae’r ymrwymiadau yng nghyswllt y Setliad Statws Sengl posib ac Arfarnu Swyddi, a’r setliadau a fydd mae’n debyg yn is yn y dyfodol a bwriadau’r Cyngor i ddefnyddio arian wrth gefn yng nghyllideb 2009/10 yn rhoddi pwyslais sylweddol ar lefelau’r arian wrth gefn, gan ostwng y symiau sydd ar gael i ariannu unrhyw benderfyniadau anffafriol yn erbyn yr Awdurdod yn codi dan yr hawliadau Cyflog Cyfartal.  

 

 

 

Argymhelliad - Dylai’r Awdurdod adolygu lefelau ei gronfeydd wrth gefn a chael cynlluniau wrth gefn yn eu lle i ddiogelu yn erbyn y posibilrwydd o ddyfarniadau hawliadau anffafriol yn ei erbyn.

 

 

 

Ÿ

Camddatganiadau heb eu Addasu

 

 

 

Fel a ddywedwyd uchod, mae’n ofynnol i’r Archwilwyr adrodd ar yr holl gamddatganiadau na chafodd eu haddasu ac a ganfuwyd yn ystod y gwaith archwilio, ac eithrio y rhai hynny sydd yn fân eu natur.  Roedd y rhain yn ymddangos yn Atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

 

Wedyn manylodd Mr Dylan James ar bob camddatganiad na chafodd ei addasu ac a restrwyd yn Atodiad A a dygodd sylw’r aelodau at y ffigwr o £145k, yng nghyswllt yr holl gamddatganiadau heb eu diwygio, ac ni chredai’r Archwilwyr bod y swm hwn yn un sylweddol i’r cyfrifon.  Fodd bynnag, gofynnwyd i’r Pwyllgor Archwilio ystyried yn ffafriol y gwallau hynny na chafodd eu diwygio ac a restrwyd yn Atodiad A a phenderfynu hefyd a ddylid diwygio’r cyfrifon ar eu cyfer.  Onid yw’r gwallau hyn yn cael eu diwygio bydd yr Archwilwyr angen sylwadau ysgrifenedig yr Awdurdod yn egluro beth yw’r rhesymau dros beidio â chyflwyno newidiadau.

 

 

 

                                                         60

 

Roedd yr archwilwyr hefyd yn dwyn sylw’r Pwyllgor at y camddatganiadau diwygiedig yn  Atodiad B - rhai a gywiriwyd gan y rheolwyr a’r archwilwyr o’r farn y dylai’r aelodau fod yn ymwybodol ohonynt wrth gyflawni a chymryd eu chyfrifoldebau llywodraethu.

 

 

 

Ÿ

Systemau Rheolaeth Fewnol

 

 

 

Ni nodwyd yr un gwendid perthnasol yn y system cyfrifo nag yn y rheolaeth fewnol yn ystod yr archwiliad, ond roedd yr archwilwyr wedi cyflwyno awgrymiadau ar gyfer gwella o ran mân wendidau rheoli a nodwyd yn ystod y gwaith archwilio.

 

 

 

Ÿ

Arferion Cyfrifo

 

 

 

Hefyd mae’n ofynnol i’r Archwilwyr gyflwyno adroddiad ar eu barn yng nghyswllt agweddau ansoddol ar arferion cyfrifo ac adroddiadau ariannol yr Awdurdod.  Y rhain oedd sylwadau’r archwilwyr ar faterion allweddol oedd yn cael effaith ar yr Awdurdod -

 

 

 

Ÿ

Diwygiadau Cyfalaf

 

 

 

Fel a nodwyd yn Atodiadau A a B, gwnaed nifer sylweddol o addasiadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn gyfredol.

 

 

 

Ÿ

Argymhelliad - Dylai’r Awdurdod adolygu’r rhesymau am y gwallau hyn a nodi gwelliannau i brosesau cyfrifo cyfalaf a chyfarwyddiadau cau er mwyn rhwystro hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol.

 

 

 

Ÿ

Materion Eraill

 

 

 

Roedd yn ofynnol i’r Awdurdod gymeradwyo ei gyfrifon blynyddol erbyn 30 Mehefin, 2009. Cyflwynwyd y cyfrifon drafft i’r Pwyllgor Archwilio cyn y cyfarfod ar 25 Mehefin pryd yr oeddent bron yn gyflawn.  Roedd hyn yn welliant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn cynt.  Ac eithrio’r addasiadau cyfalaf a nodwyd uchod roedd y nifer o newidiadau eraill o fewn ein disgwyliadau arferol.  Fodd bynnag, dylai’r Pwyllgor Archwilio fod yn ymwybodol bod y cyfrifon y bydd yr Archwilwyr yn cyflwyno barn arnynt yn wahanol, i ryw raddau, i’r fersiwn a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Archwilio. Roedd y newidiadau arwyddocaol hyn wedi’u nodi yn Atodiad B.

 

 

 

Ÿ

Argymhelliad -  Bod yr Awdurdod yn sicrhau bod gweithdrefnau ac adnoddau priodol ar waith i sicrhau y bydd cyfrifon 2009/10 yn cael eu darparu a’u hadolygu’n llawn.

 

 

 

Ÿ

Datganiad ar Reolaeth Fewnol

 

 

 

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi Datganiad ar Reolaeth Fewnol sy’n gyson â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan CIPFA/SOLACE. Roedd y Datganiad ar Reolaeth Fewnol yn rhan o’r datganiadau ariannol.  Roedd yr archwilwyr wedi adolygu’r Datganiad ar Reolaeth Fewnol er mwyn ystyried a oedd y Datganiad hwnnw yn gamarweiniol neu’n anghyson â’r wybodaeth arall sy’n hysbys iddynt yn sgil gwaith archwilio.  Ni ddaeth yr archwilwyr  ar draws yr un maes oed yn peri pryder ac i’w nodi yn y cyd-destun hwn.  ‘Chwaith ni chanfu’r archwilwyr unrhyw faterion yn codi o’r gwaith yng nghyswllt yr Arolwg Archwiliad Llywodraethu Corfforaethol ac yr oedd angen datgelu rhagor yn eu cylch yn y Datganiad ar Reolaeth Fewnol.

 

 

 

Ÿ

Eraill

 

 

 

Adeg paratoi’r fersiwn ddrafft hon o’r adroddiad, ni chafwyd yr un gwrthwynebiad ffurfiol yng nghyswllt datganiadau ariannol 2008/09.

 

 

 

 

 

                                                         61

 

     Wedyn cyfeiriodd Mr Dylan James at Atodiad C lle rhestrwyd y materion na chafodd eu setlo fel yr oedd pethau ar 23 Medi, 2009 ynghylch gwaith yr archwilwyr yn yr Awdurdod a chyflwynodd i’r aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am statws pob eitem unigol a’r cynnydd ar yr eitem honno.  i gloi diolchodd i staff yr Adran Gyllid am bob cydweithrediad yn ystod y gwaith archwilio ar y cyfrifon.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Selwyn Williams i’r archwilwyr sut oedd nifer y camddatganiadau a nodwyd eleni yn cymharu gyda niferoedd y gorffennol ac a oedd y Cyngor yn gwella yng nghyswllt paratoi’r cyfrifon.  Mewn ymateb dywedodd Mr James Quance ei bod hi’n anodd iawn tynnu cymhariaeth gan fod rheswm gwahanol i bob camddatganiad unigol.  Fodd bynnag, nodwyd yr eitemau cyfalaf fel ystyriaeth ar wahân gan fod yr archwilwyr wedi dod ar draws rhagor o gamgymeriadau na’r disgwyl yn y maes hwn a rhagor hefyd mae’n debyg nag yn y blynyddoedd a fu; fel arall roedd y gwaith nodi ar gamddatganiadau yn rhan o’r broses o archwilio cyfrifon ac yn gyffredin ac roedd yr Archwilwyr Allanol yn disgwyl nifer o ddiwygiadau. Mae’r rhesymau amdanynt yn ddealladwy ac nid ydynt yn adlewyrchiad ar unrhyw broblem wirioneddol y tu mewn i’r broses o baratoi’r cyfrifon; gallai pethau fod yn waeth o lawer.  Medrai ddweud nad oedd perfformiad y Cyngor o ran paratoi’r cyfrifon yn waeth na’r flwyddyn cynt.

 

 

 

     Penderfynwyd adroddiad yr Archwilwyr Allanol yn ôl y Safon Archwilio Rhyngwladol 260 ac yng nghyswllt archwilio Datganiadau Ariannol 2008/09 a nodi’r materion a godwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

5.2

Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid mewn ymateb i’r adroddiad Safon Archwilio Rhyngwladol 260 gan yr Archwilwyr Allanol uchod a hynny i ddibenion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005.

 

      

 

     Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) adroddiad fel a ganlyn ar y materion yn codi -

 

      

 

Ÿ

Agweddau Ansoddol ar y Cyfrifon

 

      

 

Ÿ

Yng nghyswllt agweddau ansoddol ar y cyfrifon ac fel hefyd a nodwyd yn y blynyddoedd cynt, mae’r cywasgu ar y cyfnod a ganiateir i ddarparu’r cyfrifon o chwe mis i dri wedi rhoi pwysau ar staff cyllid ac yn dangos yn glir hefyd y cytbwysedd sy’n bod rhwng cywirdeb a chyflwyno ar amser.  Bellach mae’n sialens sicrhau’r balans rhwng darparu’r cyfrifon statudol, a’r meysydd allweddol o gynghori swyddogion ac aelodau ar y gyllideb derfynol ac ar y cadernid cyllidol.  Roedd y gwasanaeth Cyllid yn ymwybodol bod pwysau amser yn gallu gostwng ansawdd y cyfrifon ond mae’r gwasanaeth hefyd yn ymwybodol bod y cyfrifon wedi’u rhyddhau i’r Pwyllgor Archwilio yn fwy prydlon nag mewn sawl awdurdod cymharol arall.

 

Ÿ

Eleni, roedd y newidiadau ar gyfer y flwyddyn flaenorol i’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir (SORP yn Saesneg) wedi cael effaith ar y broses o godi costau i’r cyfrifon ar gyfer defnyddio asedau cyfalaf.  Prynwyd system gyfrifiadurol i gynorthwyo gyda’r gofynion newydd ond roedd problemau yn codi ac roedd yn rhaid troi at y system faniwal tua diwedd cyfnod y broses.  Ychwanegwyd at ein problemau oherwydd gorfod gweithredu ar ‘amhariad’ yng nghyswllt y prif gategorïau o asedion sefydlog ac yn codi o’r gostyngiad dros dro yn eu gwerth oherwydd yr amgylchiadau economaidd.  Fel y digwyddodd hi, achosodd hyn nifer o gamgymeriadau wrth gau’r cyfrifon cyfalaf, a nodwyd hynny ar  Dudalen 6 adroddiad yr Archwilydd Allanol.  Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ar sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

 

Ÿ

Ar wahân i’r mater ynglyn â chyfalaf pleser oedd gweld yr Archwilydd yn cydnabod safon uchel y cyfrifon a gyflwynwyd i’w harchwilio a chyn lleied o addasiadau i’r prif ddatganiadau yn angenrheidiol.

 

      

 

Ÿ

Newidiadau i’r Cyfrifon

 

 

 

Ÿ

Mae’r eitemau cyfalaf y cyfeiriodd yr Archwilwyr Allanol atynt yn faterion technegol a phrisiant.  Mae’r eitemau hynny sy’n cael effaith ar yr adnoddau dosbarthiadwy ar y

 

 

 

                                           62

 

fantolen yn gwneud cyfanswm o £410k. Dywedwyd am y rhain wrth y Pwyllgor Gwaith a chyflwynir adroddiad arall arnynt gyda hyn.

 

 

 

Ÿ

Y brif eitem dechnegol yw’r driniaeth yn y cyfrifon o‘r Grantiau Cyfalaf a Ohiriwyd (Eitem 1, Atodiad B o’r Safon Archwilio Rhyngwladol 260).  Cododd yr eitem hon oherwydd y gwahaniaeth rhwng dehongliad yr Awdurdod a dehongliad yr Archwilwyr Allanol o’r SORP.  Mae’r ddwy ochr wedi cytuno i gael arolwg pellach yn ystod y flwyddyn hon.

 

Ÿ

Y prif eitemau eraill yn y categori newidiadau ac y rhoddir eglurhad arnynt yw ailbrisio Cyffredinol; ailddosbarthu asedau sefydlog ac ailddosbarthu incwm.

 

 

 

Ÿ

Eitemau Heb Eu Haddasu

 

 

 

Ÿ

Dan y Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005, mae gofyn i’r Awdurdod newid y Datganiad Cyfrifon pan fo’r newid yn un sylweddol ond mae’r Awdurdod wedi mynd yn bellach na hyn pan oedd hynny o gymorth i’r darllennydd.

 

Ÿ

Fel yn y blynyddoedd diwethaf, mae ambell eitem wedi’i hadnabod gan yr Archwilydd Allanol lle mae’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid wedi penderfynu peidio â newid y cyfrifon, un ai oherwydd cymhlethdod y diwygiad (a hynny’n golygu newidiadau trwy’r Cyfrif Incwm a Gwariant a datganiadau eraill) neu oherwydd ei fod yn fater amseru amcangyfrifon wrth gau’r cyfrifon).  Roedd effaith net yr eitemau hyn yn £145k, a dim ond £5k o’r rhain fuasai’n cael effaith ar yr adnoddau dosbarthiadwy.  Bydd y rhain yn dirwyn i ben yn y flwyddyn hon.

 

Ÿ

Roedd yr eglurhad ar yr eitemau penodol fel a ganlyn:-

 

 

 

Ÿ

Amhariad (Eitemau 1,2 & 5, Atodiad A ynghlwm wrth y Safon Archwilio Rhyngwladol 260) : Camgymeriadau wrth gau’r cyfrifon.

 

Ÿ

Ailbrisio Cyffredinol (Eitem 3, Atodiad A ynghlwm wrth y Safon Archwilio Rhyngwladol 260) : Fel yr uchod.  Mae’r swm gweddilliol y tu mewn i’r canllawiau ar fod yn sylweddol ai peidio i bwrpas ailbrisio asedau sefydlog a bydd yn dirwyn i ben yn y flwyddyn hon.

 

Ÿ

Credydwyr Cyfalaf/Gwariant heb fod yn Wariant Gwella (Eitem 4, Atodiad A ynghlwm wrth Safon Archwilio Rhyngwladol 260): Camgymeriadau wrth gau’r Cyfrifon.

 

 

 

Mae’r eitemau yma’n cael eu netio i ffwrdd mewn ffordd fel bod yr effaith ar asedau sefydlog a’r Cyfrif Gwariant ac Incwm yn 106k, a phenderfynwyd peidio â gwneud yr addasiadau oherwydd cymhlethdod.

 

 

 

Ÿ

Materion Eraill a Godwyd

 

 

 

Ÿ

Roedd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu codi fel argymhellion yng nghorff yr Adroddiad Safon Archwilio Rhyngwladol 260 -

 

 

 

 

 

Ÿ

Clandro darpariaeth ar gyfer dyledion drwg, mae’r Awdurdod wedi cytuno i adolygu’r systemau sy’n bodoli i ddal y wybodaeth sydd ei hangen i gydymffurfio â SORP ac i gyflwyno gwelliannau ar gyfer cyfrifon 2009/10.

 

Ÿ

Cadernid cyllidol a monitro’r gyllideb a pholisi arian wrth gefn; mae hyn yn rhan o adroddiadau rheolaidd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid i’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y flwyddyn ac fel rhan o’r broses gyllidebol.

 

 

 

Ÿ

Yng nghyswllt y Datganiad Rheolaeth Fewnol cafodd hwnnw ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ar 25 Mehefin, ychydig cyn cyhoeddi’r Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol.  Er bod rhai materion wedi’u codi yn yr Arolwg ac a allai ddylanwadu ar Reolaeth Fewnol, barnwyd bod y Datganiad Rheolaeth Fewnol yn parhau yn asesiad teg o’r sefyllfa ar ddyddiad ei fabwysiadu.

 

 

 

 

 

                                                                63

 

Nododd y Cynghorydd Selwyn Williams bod yr Archwilwyr Allanol yn yr adroddiad ar Safon Archwilio Rhyngwladol 260, dan Tanwariant Cyllidebol, yn cyfeirio at raddfeydd is na’r gyllideb o gasglu’r Dreth Gyngor a gofynnodd a oedd hyn yn ymwneud â chasglu trethi domestig neu drethi annomestig.  Mewn ymateb eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod y mater hwn yn ymwneud â’r Dreth Gyngor ddomestig.  Yn ystod 2008/09 roeddid yn rhagweld y buasai tai newydd yn cael eu hychwanegu at y stoc dai ond oherwydd y wasgfa economaidd rhoes yr adeiladwyr y gorau i weithio ar ddatblygiadau newydd ac o’r herwydd mae, ar draws yr Ynys, dai na orffennwyd y gwaith adeiladu arnynt a rhai eraill sydd wedi cyrraedd y garreg filltir cynllunio yn unig ac ystyr hynny yw bod llai o dreth gyngor i’r chasglu na’r swm a ragamcanwyd.  Fe wnaeth yr Awdurdod hefyd yn ystod y flwyddyn flaenorol newid y ffordd y mae’n ymdrin â thai gwag ac fe dynnodd yn ôl ei ddisgownt Treth Cyngor ar dai gwag ac roedd hynny’n golygu bod yn rhaid yn awr dalu’r raddfa lawn o Dreth Gyngor ar y tai hyn.  O ganlyniad roedd newid yn y ffordd o drin y landlordiaid a pherchenogion yr eiddo hyn, ac mae nifer ohonynt wedi’u cymryd i ffwrdd oddi ar y rhestr werth.

 

 

 

Codwyd mater arall gan y Cynghorydd Selwyn Williams yn ymwneud â’r system gyfrifiadurol a brynwyd i ddelio gyda gofynion newydd SORP ar gyfer codi tâl i’r cyfrifon am ddefnyddio asedau cyfalaf.  Bu’n rhaid troi yn ôl at system maniwal oherwydd problemau gyda’r cyfrifiaduron, ac ym mharagraff 2.2 o’r adroddiad mae hyn yn cael ei nodi fel ffactor a gyfrannodd at gamgymeriadau wrth gau’r cyfrifon cyfalaf.  Gofynnodd y Cynghorydd Williams beth oedd cost y meddalwedd ac a oes yna unrhyw broblem gontractyddol gyda’r cyflenwr.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) i’r meddalwedd gael ei ddefnyddio’n hwyr ac fe gafwyd problemau yn ceisio cael y gefnogaeth ar yr amser iawn.  Nid yw’r system ei hun ond yn rhywbeth bychan a syml ac yn un y bydd y Gwasanaeth Cyllid yn gallu ei weithio y flwyddyn hon, fodd bynnag, er y bydd cyflenwr y meddalwedd yn cael clywed nad oedd y gefnogaeth angenrheidiol ar gael pan oedd ei hangen, nid yw’r mater yn cyfateb i wrthdaro contractyddol.  Nid costau oedd y prif broblem ond yn hytrach y tarfu a achoswyd ar yr amser holl bwysig wrth gloi’r cyfrifon.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Eifion Jones at y ffaith bod yr Archwiliwr Mewnol yn yr adroddiad  Safon Archwilio Rhyngwladol 260 wedi tynnu sylw at y ffordd y mae’r Awdurdod yn gweithio allan y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg, a gofynnodd pa mor hyderus oedd y Gwasanaeth Cyllid bod y system bresennol yn rhoi iddo’r wybodaeth iawn ar gyfer gweithio allan y ddarpariaeth ar gyfer dyledion amheus yn arbennig yng nghyd-destun yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.  Roedd yn bryderus nad oedd y ffordd y mae’r Awdurdod yn gweithio allan y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg yn un sy’n unol â SORP ac nad dyma ddull dewisol yr Archwilwyr Allanol, ac y gallai’r system a ddefnyddir gan yr Awdurdod felly fod yn llai cywir gan arwain at gamgyfrifo allai yn ei dro gynhyrchu camgymeriadau yn y cyfrifon a golygu bod llai o incwm yn cael ei gasglu.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) nad oedd hi yn credu ei bod yn bosibl cael gwybodaeth oedd yn hollol gywir ynglyn â dyledion drwg.  Yr argymhellion gan yr Archwilwyr Mewnol yw bod y cofnodion ariannol o flynyddoedd blaenorol yn cael eu defnyddio i amcanu’r dyledion drwg, ond nid oedd yn gallu cadarnhau os oedd yr wybodaeth honno ar gael.  Mae’r Awdurdod yn gweithio allan y ddarpariaeth am ddyledion drwg ar sail cyfraddau blwyddyn i flwyddyn a thrwy adolygu parhaus.  Nid oedd y broses o asesu i bwrpas y cyfrifon wedi’i gysylltu’n ôl i’r gwaith wnaed gan y Timau Casglu Dyledion ond y nod yw sefydlu gwell cyswllt ar gyfer y flwyddyn nesaf yn hyn o beth.  Mae’n wir i ddweud y bydd yn fwy anodd casglu dyledion wrth i’r sefyllfa economaidd waethygu; nid oedd hyn wedi cael effaith ar yr Awdurdod hyd yn hyn ond y disgwyl yw y bydd hynny’n digwydd ym mhen amser.  Mae gan yr Adran Gyllid staff unswydd sy’n edrych ar ddyledion drwg ar draws yr Awdurdod, a thra mai’r nod yw gwella’r system, efallai y bydd hyn yn anodd heb roi adnoddau ychwanegol i’r Tîm ac nid yw hynny’n bosibl ar hyn o bryd.  Efallai y byddai’r gwahaniaeth mewn agwedd i’r hyn a argymhellwyd gan yr Archwilwyr Mewnol yn gwneud gwahaniaeth yn nhermau’r cyfrifon ond dim yn nhermau’r incwm a gesglir.  Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio’n well, bydd yr Adran Gyllid yn edrych ar y dyledwyr mwyaf o achos i achos, a gyda dyledion llai sy’n ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd, fe fydd y gwasanaeth i bwrpas y cyfrifon, yn ceisio cael gwybodaeth hanesyddol ynglyn â’r dyledion.  Felly mae’r argymhelliad hwn gan yr Archwilwyr Mewnol yn fwy o fater o asesu gwerth i bwrpas y cyfrifon na’r incwm gwirioneddol a gasglwyd.

 

                                                                64

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones bod dyledion drwg yn sicr o ddigwydd mewn amgylchedd o gyni a gofynnodd a allai aelodau etholedig helpu mewn unrhyw ffordd gyda gwaith Deddfwriaeth Diogelu Data yn nhermau rhoi gwybodaeth gefndirol ynglyn â dyledwyr.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) - os yw’r aelodau’n barod i weithredu fel rhai’n casglu gwybodaeth gudd o fewn gofynion Deddfwriaeth Diogelu Data, yn arbennig yng nghyswllt gwybodaeth yn ymwneud â busnesau, yna fe allai hynny’n sicr fod o gymorth.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd J.P.  Willams yn meddwl sut roedd canran yr Awdurdod o ddyledion gwael yn cymharu gyda’r un peth mewn Awdurdodau eraill a gyda mudiadau yn y sector preifat.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod perfformiad yn y maes hwn yn cael ei feincnodi yn erbyn perfformiad awdurdodau eraill ac y byddai’n gallu rhoi’r wybodaeth hon i’r aelod.

 

 

 

     Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben trwy ddiolch i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith ardderchog am baratoi’r cyfrifon ac yn sicrhau eu cyhoeddi erbyn yr amser angenrheidiol. .

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

Ÿ

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid mewn ymateb i adroddiad Safon Archwilio Rhyngwladol 260 yr Archwilwyr Mewnol a nodi ei gynnwys; a

 

Ÿ

derbyn yr eglurhad roddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid dros beidio diwygio’r cyfrifon am yr eitemau a restrir ym mharagraff 4 o’r adroddiad ac a gofnodwyd o dan y pennawd Eitemau heb eu Newid uchod.

 

      

 

6     ARCHWILIO MEWNOL

 

      

 

6.1     Cyflwynwyd - Adroddiad y Rheolwr Archwilio yn crynhoir gwaith wnaed gan yr Adain Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Awst, 2009.

 

      

 

     Tynnodd y  Rheolwr Archwilio sylw at y prif bwyntiau yn yr adroddiad fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn dangos y cynnydd yn erbyn y Cynllun Archwilio Mewnol hyd at 31 Awst, 2009.

 

Ÿ

Roedd y tabl ym mharagraff 2.3 yn rhoi cymhariaeth o’r dyddiau a gynlluniwyd ar gyfer pob categori o waith gyda’r dyddiau gwirioneddol a gofnodwyd yn erbyn pob categori dros gyfnod yr adroddiad.  Roedd y data yn dangos bod 329 o ddyddiau gwirioneddol wedi’u treulio ar waith archwilio’r rhaglenedig o’i gymharu â 321 o ddyddiau cynlluniedig ac roedd hynny’n nodi bod perfformiad yr adain ar darged i gwblhau’r gwaith archwilio a gynlluniwyd yn y Cynllun Gweithredol am 2009/10.  Yn ôl y disgwyl ar yr adeg hwn o’r flwyddyn tra bo gwyliau’r haf newydd orffen roedd nifer y dyddiau o wyliau a gymerwyd yn y cyfnod yn uwch na’r cyffredin.  I’w nodi hefyd mae’r ffaith bod y nifer o ddyddiau a dreuliwyd ar ymchwiliadau arbennig yn uwch na’r disgwyl (81 diwrnod o’i gymharu â 31 wedi’u cynllunio) fel a adroddwyd yn yr adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol diwethaf.

 

Ÿ

Ar amser yr adroddiad, nid oedd unrhyw adroddiadau Archwilio Mewnol drafft lle nad oedd unrhyw ymateb gan y rheolwyr wedi’i gofnodi o fewn 3 mis i’w rhyddhau.

 

Ÿ

Ers y Pwyllgor Archwilio diwethaf, roedd 10 adroddiad archwilio Terfynol wedi’u rhyddhau o’r Cynllun Gweithredu Archwilio Mewnol 2009/10 a 4 o’r Cynllun 2008/09 oedd yn rhoi cyfanswm am y flwyddyn hyd yma o 29 o adroddiadau Terfynol (Tabl 1).  O’r rhain, fe roddwyd (gradd A&B) sylweddol i 20, 5 yn derbyn (gradd C) sicrwydd Digonol; 2 yn derbyn barn sicrwydd Cyfyngedig (gradd D& E) gyda 2 yn rhoi cyngor gan olygu nad oedd unrhyw farn yn cael ei roi.  Roedd yr adroddiad Terfynol ar yr adolygiad sefydliad ar Ysgol Biwmares yn rhoi barn gradd D.  Fe ganfyddodd yr adolygiad nifer o wendidau rheoli bychan oedd yn uwch na’r nifer oedd yn cael ei ddisgwyl yn yr adolygiadau ysgolion, ond dim oedd yn golygu colled fawr i’r ysgol na’r Cyngor.  Felly er mai barn gyffredinol yr archwiliad oedd Gradd D, y teimlad oedd nad oedd angen adrodd ar y canlyniad hwn i’r Pwyllgor ar hyn o bryd.  Bydd adolygiad dilynol yn cael ei wneud yn nes ymlaen yn y flwyddyn i weld a fu cynnydd gyda rheoli’r gwendidau rheolaethol.

 

 

 

                                                                65

 

Ÿ

O safbwynt gwaith ymchwilio arbennig y gofynnir i’r Adain Archwilio Mewnol ei wneud gan adrannau eraill neu o ganlyniad i faterion sy’n dod i’r golwg yn ystod gwaith archwilio, mae’r Adain wedi parhau i chwilio i mewn i gyfeiriadau ynglyn â grant adnewyddu fel a adroddwyd yn yr adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol diwethaf.  Mae ail adroddiad Terfynol wedi’i rhyddhau yn awr ynglyn â’r mater hwn ac mae copi wedi’i ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor Archwilio.  Fe wnaed pedwar ymchwiliad yn y cyfnod yn dilyn cyfeiriadau gan y Tîm Twyll Budd-dal a Chyllid ar sail diffyg rheolaeth fewnol ymddangosiadol mewn perthynas â chwblhau ffurflenni budd-dal gan staff y Cyngor ar ran cwsmeriaid, monitro dyledion yn y Cynllun Prydlesu Preifat a chredydau ar gyfrifon rhent.  Yn ogystal â’r uchod, fe gafodd dau gyfeiriad yn ymwneud â gordaliad i weithiwr yn dilyn terfynu contract gwaith tymor penodol a thaliad anghywir i gredydwr oherwydd gwybodaeth anghywir ynglyn â newid mewn manylion banc.

 

Ÿ

Ers y Pwyllgor Archwilio diwethaf mae Archwilio Mewnol wedi cael cyfarfodydd gyda Phenaethiaid Gwasanaeth i drafod y cyfleusterau sy’n cael eu cynnig gan y system 4Action i dracio argymhellion ac mae wedi trosglwyddo yr argymhellion oedd ar ôl o’r daenlen flaenorol i’r system newydd.

 

Ÿ

Mae cynnydd y Cyngor yn gweithredu ar argymhellion yn cael eu dangos yn y tabl Cynnydd yn Atodiad A i’r adroddiad.  Lluniwyd y tabl hwn wrth i’r gwasanaethau unigol hunan asesu eu perfformiad.  Ar 15 Medi, 2009 o’r 201 o argymhellion ym mhob categori lle roedd y diwrnod gweithredu wedi pasio -

 

 

 

Ÿ

116 argymhelliad neu 58% wedi derbyn sylw;

 

Ÿ

35 argymhelliad neu 17% yn derbyn sylw;

 

Ÿ

8 argymhelliad neu 4% wedi’u hasesu fel rhai oedd wedi’u disodli; ac

 

Ÿ

42 argymhellion neu 21% heb eu gweithredu.

 

 

 

Ÿ

Nid oedd unrhyw argymhellion ffwndamental wedi’u cofnodi ar y  system yn y cyfnod.  O’r 40 argymhelliad Arwyddocaol lle roedd y dyddiad gweithredu wedi pasio -

 

 

 

Ÿ

23 argymhelliad neu 58% wedi’u gweithredu;

 

Ÿ

8 argymhelliad neu 20% yn cael eu gweithredu;

 

Ÿ

4 argymhelliad neu 10% wedi’u hasesu fel rhai oedd wedi’u disodli; a

 

Ÿ

5 argymhelliad neu 12% heb eu gweithredu.

 

 

 

Roedd yna 60 o argymhellion arall ym mhob categori ar y system lle nad oedd cytundeb hyd yn hyn ar ddyddiad gweithredu.

 

 

 

Ÿ

Er mwyn ffurfio barn ar y perfformiad corfforaethol cyffredinol gyda gweithredu ar argymhellion Archwilio Mewnol yn seiliedig ar hunan asesiad o’r gwasanaethau, roedd y fformiwla yr adroddir arni ym mharagraff 5.3 o’r adroddiad wedi’i defnyddio.  Ym marn yr Archwilwyr Mewnol, yn seiliedig ar y data hunanasesu yn y Tabl Cynnydd yn Atodiad A, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd rhesymol yn y cyfnod yn gweithredu ar argymhellion yr Archwilwyr Mewnol.  Mae’r gwerthusiad hwn yn seiliedig ar y gyfradd o argymhellion (ac eithrio’r rhai lle na chafwyd cytundeb hyd yn hyn ar eu dyddiad gweithredu) lle mae’r statws hunanasesu naill ai yn - gweithredwyd, yn cael eu gweithredu, neu wedi’u disodli a’r cyfanswm ar ddiwedd y cyfnod oedd 79% o bob un o argymhellion o’r fath.  Cafodd y system ei chyflwyno ym Mehefin, 2009 gyda’r gwasanaethau’n cael eu hychwanegu fel yr oedd y Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol yn cytuno i ddefnyddio 4Action.

 

Ÿ

Y bwriad yw y bydd Archwilio Mewnol yn flynyddol yn dewis sampl o rai o’r argymhellion y gweithredwyd arnynt a phenderfynu os gellir cytuno gyda’r statws fel ei hunan aseswyd.  Bydd canlyniadau’r adolygiad yn cael eu adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio er mwyn iddo benderfynu a fu unrhyw weithredu yn seiliedig ar y broses hunanasesu.

 

Ÿ

Er mwyn gallu monitro perfformiad yn fwy ystyrlon mae nifer o ddangosyddion perfformiad mesuradwy i’w sefydlu ac fe adroddir yn chwarterol arnynt fel yn y Cynllun Busnes Archwilio Mewnol 2009/10.  Bydd y rhain yn cynnwys y canran o’r cynllun archwilio a gwblhawyd i’r cyfnod adroddiad drafft; y ganran o ddyddiadau y codir amdanynt hyd yn hyn, a lefelau boddhad cyffredinol y cwsmer.  Mae canlyniadau yn erbyn y dangosyddion hyn am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Awst yn cael eu nodi yn y tabl ym mharagraff 6.1 yr adroddiad gyda’r data’n dangos bod 79% o Gynllun Gweithredu’r Archwilwyr Mewnol wedi’i

 

 

 

                                                                66

 

gwblhau yn y cyfnod a bod hynny islaw’r targed o 90%.  Y rheswm am hyn yw bod chwarter cyntaf o bob blwyddyn Awdit yn cael ei threulion cwblhau’r gwaith sydd ar ôl ac yn cwblhau drafftiau o Gynllun Archwilio Mewnol y flwyddyn flaenorol.  Y disgwyl yw y bydd y ffigwr hwn ar darged erbyn yr adroddiad nesaf.  Roedd y canran o ddyddiau y codir amdanynt am y cyfnod yn uwch na targed ar 111% gyda lefelau boddhad y cwsmer ar darged 100%.  Yn yr adroddiad blaenorol roedd yna darged wedi’i gynnwys am y ganran o adolygiadau oedd yn bodloni gofynion y Protocol Archwilio Mewnol.  Fe fu’n amhosibl mesur y targed hwn yn ymarferol ac er y bydd cydymffurfiaeth gyda’r protocol yn cael ei fonitro’n ofalus, ni fydd yn cael ei adrodd yn ôl fel ffigwr canrannol.  

 

 

 

     Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Archwilio am yr adroddiad ac am waith yr Adain yn gyffredinol a gwahoddodd yr aelodau i roi eu sylwadau ar yr wybodaeth a gyflwynwyd.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Cynghorydd J.P. Williams at yr adolygiad sefydliad a wnaed o Ysgol David Hughes oedd wedi derbyn gradd A a gofynnodd a oedd unrhyw ffordd y gallai’r Adain Archwilio Mewnol rannu’r wybodaeth am yr arfer dda a welwyd yn yr ysgol hon i sefydliadau eriall.  Gan gyfeirio at y Tabl Tracio Argymhellion yn Atodiad A, gofynnodd paham yr oedd y ganran weithredu mewn dwy adran (Gweithio Gydol Oes a TGCh) yn llawer is nag mewn gwasanaethau eraill.  Dywedodd y Rheolwr Archwilio nad oedd yn gallu ateb ar ran gwasanaethau unigol, ac ni allai ddweud paham yr oedd hyn, ond fe allai ddweud i’r system gael ei chyflwyno fis Mehefin ac i rai argymhellion fynd ar y system yn gynt na rhai eraill a hynny’n golygu nad oedd rhai adrannau wedi cael yr un faint o amser â rhai eraill.  O safbwynt rhannu arfer da, mae gan yr Adain Archwilio Mewnol restr wirio o’r arfer orau o adolygiadau blaenorol sy’n cael ei defnyddio ar gyfer adolygiadau sefydliadol mewn ysgolion, a phan fo rhai materion arbennig yn codi, fe ellir cylchredeg gwybodaeth trwy’r Adran Addysg i ysgolion ynglyn â gwendidau mewn meysydd penodol a pha weithredu ddylid ei wneud o safbwynt yr arfer orau.  Fodd bynnag, nid yw rhoi gwybodaeth am arfer dda yn yr ystyr o rannu gyda sefydliadau eraill rywbeth sydd yn cael ei wneud yn dda mewn rhywle arall yn rhywbeth sy’n cael ei wneud gan yr Adain Archwilio Mewnol. Efallai y dylai’r Adain fod yn edrych ar adolygiadau archwilio gyda’r agwedd fwy bositif hon ac o safbwynt pethau’n cael eu gwneud yn dda gyda golwg ar rannu’r wybodaeth hon gydag eraill.  

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn dymuno gwybod sut yr oedd Ynys Môn fel Awdurdod yn sefyll mewn perthynas â thwyll budd-dal ac a oedd angen uwchraddio’r system bresennol o siecio pethau.  Dywedodd y Rheolwr Archwilio mai’r Tîm Twyll Budd-dal yn hytrach nag Archwilio Mewnol sy’n gyfrifol am y math hwn o waith.  Fodd bynnag, roedd y Tîm wedi nodi pedwar maes lle ceir gwendidau mewn perthynas ag achosion lle mae’r Cyngor yn landlord ac roedd wedi’u dwyn i sylw Archwilio Mewnol.  Fe wneir adolygiad blynyddol o bethau yn y maes hwn ac ni nodwyd unrhyw broblemau mawr o safbwynt twyll na gwirio hawliadau ac mae’n fwy na thebyg y byddai achosion o’r fath yn cael eu nodi gan y Tîm  Twyll Budd-dal.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Selwyn Williams ymhellach at y Tabl Tracio Argymhellion yn Atodiad A gan dynnu sylw at y ffaith bod rhai adrannau gyda nifer o argymhellion i’w gwneud ond na fu unrhyw weithredu arnynt a gofynnodd am y diffyg hwn.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid mai dyma’r tro cyntaf i’r  Tabl Tracio Argymhellion gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ac nad oedd yn bosibl adnabod patrymau o safbwynt beth sy’n arferol neu’n anarferol, a thra y byddai wrth reswm yn dymuno gweld cyfradd uchel gyda gweithredu ar argymhellion, oherwydd annibyniaeth yr Adran Archwilio, mae gan Reolwyr Gwasanaeth ddisgresiwn ynglyn â gweithredu ar argymhelliad ai peidio (er eu bod yn atebol am ddewis peidio â gwneud hynny) oherwydd bod ffordd arall, efallai, o ddelio gyda’r mater, neu oherwydd bod yna faterion eraill sy’n haeddu mwy o flaenoriaeth.  Pwynt arall sydd angen ei wneud yma yw nad yw diffyg gweithredu bob amser yn fater o ddiffyg gyda’r gwasanaeth ond fe allai hefyd adlewyrchu ar ansawdd yr archwiliad yn yr ystyr y gallai’r argymhelliad fod yn anymarferol.  Os y byddai’r Pwyllgor yn dymuno dadansoddi’r data yn y tabl mewn mwy o fanylder, yna mae’n bwysig i’r aelodau fod yn ymwybodol bod yna ddwy ochr i’r mater ym mhob achos.  

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J.P. Williams, felly, pam na ellid ychwanegu colofn arall i’r Tabl Tracio Argymhellion ar gyfer argymhellion a gafodd eu gwrthod am ryw reswm.  Efallai bod graddfa’r diffyg gweithredu yn edrych yn uchel ac yn adlewyrchu’n wael ar wasanaethau ond nid yw’n darparu ar gyfer y ffaith y gall fod yna eglurhad rhesymol paham na chafodd rhai

 

      

 

                                                                          67

 

     argymhellion eu gweithredu ac fe allai colofn ychwanegol egluro hyn.  Nid oedd y system yn

 

     gallu gwneud hyn ar hyn o bryd meddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid, ond fe allai gael ei ystyried.  Gofynnodd y Cynghorydd J.P. Williams i ystyriaeth gael ei roi i ddiwygio’r system i gynnwys y golofn ychwanegol ac roedd y Cynghorydd Selwyn Williams yn cytuno â’r cynnig hwn.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd H. Eifion Jones yn croesawu’r cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Archwilio Mewnol ond roedd yn cytuno nad yw’r wybodaeth yn y Tabl Tracio Argymhellion yn Atodiad A yn rhoddi darlun cadarnhaol.  Roedd y ffigyrau’n dangos nad oedd 21% o’r argymhellion wedi cael sylw a bod 17% yn y broses o gael ei weithredu a hynny’n golygu bod 38% o argymhellion heb eu gweithredu’n llawn.  Gofynnodd a oedd Penaethiaid Gwasanaeth yn cael cyfle i roi sylwadau ar yr argymhellion yn ystod y cyfnod adroddiad drafft cyn rhyddhau’r Adroddiad Terfynol.  Dywedodd y Rheolwr Archwilio bod cyfarfod dibriffio bob amser yn cael ei gynnal gyda’r cleient yn dilyn cwblhau’r gwaith maes archwilio er mwyn trafod y canfyddiadau a’r argymhellion. Fe ddylai’r argymhellion terfynol felly fod yn rhai yr oedd y cleient wedi cytuno arnynt yn y cyfnod drafft.  Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones felly nad oedd dweud bod gan reolwyr ddisgresiwn i ddiystyru argymhellion yn hollol gywir felly os ydynt wedi cael cyfle i gytuno gyda’r argymhellion hynny yn ystod y cyfnod drafft.  O gofio hyn, roedd o’r farn y dylai’r Pwyllgor Archwilio edrych ar unrhyw fethiant i weithredu ar argymhellion archwilio yn ddifrifol iawn ac na ddylai peidio â gweithredu fod yn ddewis unwaith yr oedd yr Adroddiad Terfynol wedi’i ryddhau.  Roedd y Rheolwr Archwilio yn derbyn y pwynt oedd yn cael ei wneud, ond dywedodd bod gan y Rheolwyr yr hawl i flaenoriaethu’r gweithredu angenrheidiol o fewn yr adnoddau oedd ar gael iddynt.  Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod datgan na fydd argymhellion yn cael eu gweithredu yn fater hollol wahanol.

 

      

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid drachefn y byddai’n cynghori unrhyw un i fod yn wyliadwrus wrth ddehongli’r wybodaeth yn y  Tabl Tracio Argymhellion.  Oherwydd bod y system yn newydd nid oes unrhyw ddata ar gyfer cymharu’r ffigyrau hyn, yn y flwyddyn ddiwethaf er enghraifft ac felly fe ddylid edrych ar y 38% o’r argymhellion oedd heb eu gweithredu yn y cyd-destun hwnnw. Roedd yn foddhaol gweld bod digon o gynnydd wedi’i wneud fel y gellid adrodd yn ôl gyda’r wybodaeth hon i’r Pwyllgor a dim ond ar ôl cyfnod rhesymol o amser y bydd hi’n bosibl cael unrhyw synnwyr arwyddocaol o’r data.  Gofynnodd y Cynghorydd J.P. Williams a oedd y fethodoleg a ddefnyddir yn golygu cyfeiriadau at y norm (h.y. perfformiad o’i gymharu gyda pherfformiad rhai eraill) neu gyfeiriadau yn ôl meini prawf (h.y. targed o weithredu 100%), ac a ddylai’r Pwyllgor wneud argymhelliad ynglyn â pha ddull sydd orau a pha un fyddai’n darparu’r arfer orau.  Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio’r aelodau at y tabl ym mharagraff 5.3 yr adroddiad, oedd yn gosod allan y fethodoleg a ddefnyddir gan RSM Bentley Jennison wrth benderfynu ar gynnydd da neu resymol mewn perthynas â gweithredu.  Dywedodd mai RSM Bentley Jennison yw’r rhai sy’n darparu’r gwasanaeth archwilio mewnol mwyaf i awdurdodau lleol ac o ystyried barn y cwmni bod awdurdodau sy’n gweithredu ar raddfa o 80% yn perfformio’n dda, roedd perfformiad yr Awdurdod ar 79% yn cymharu’n dda gyda nifer o gynghorau eraill.  Fodd bynnag, byddai’n cytuno nad da lle gellir gwell ac fe ellir sicrhau hyn trwy edrych ar y tabl ac edrych ar ffyrdd lle y gall gwasanaethau unigol wella.  

 

      

 

     Penderfynwyd derbyn adroddiad y Rheolwr Archwilio ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Awst 2009, ac i ddiolch i’r Adain am ei waith.

 

      

 

6.2     Cyflwynwyd er gwybodaeth - Siatr Archwilio Mewnol sy’n diffinio natur, rôl a chyfrifoldebau ac awdurdod y gwaith Archwilio Mewnol o fewn unrhyw fudiad, a’r Protocol Archwilio Mewnol sy’n darparu model i archwilwyr a chleientiaid wrth wneud y gwaith archwilio.  Roedd y dogfennau wedi’u adolygu a’u diweddaru gan y Rheolwr Archwilio yn unol ag arfer dda er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac fe’u cyflwynwyd i’w derbyn gan y Pwyllgor.

 

      

 

     Penderfynwyd cymeradwyo’r Siartr Archwilio Mewnol a’r Protocol Archwilio Mewnol fel y cawsant eu cyflwyno.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

                                                                         68

 

7

ARCHWILIO ALLANOL

 

      

 

     Cafwyd diweddariad gan Mr James Quance, PWC ar weithgareddau Archwilio Allanol fel a ganlyn -

 

      

 

Ÿ

Roedd gwaith ar grantiau’n parhau fel yr adroddwyd ar hynny i’r Pwyllgor Archwilio blaenorol, ond bu angen delio gyda nifer o hawliadau sybsidi budd-dal tai o flynyddoedd blaenorol.  Fe wnaed cynnydd ar y diweddariad diwethaf a roddwyd i’r Pwyllgor, ac mae gwaith yn parhau ar y cyd gyda’r Awdurdod a’r Adran Gwaith a Phensiynau i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd mewn archwiliadau o flynyddoedd cynt.  Mae Archwilio Allanol yn disgwyl derbyn hawliad sybsidi 2008/09 er mwyn dechrau ar y gwaith ar hyn.  Mae nifer o grantiau eraill i’w cyflwyno i Archwilio Allanol erbyn diwedd mis Medi a bydd gwaith yn cael ei wneud ar y rhain yn y misoeddi ddod.

 

Ÿ

Mae gweithdai ar destun grantiau yn y broses o gael eu sefydlu gyda swyddogion allweddol o fewn yr Awdurdod gyda golwg ar edrych ar y prosesau mewnol yn ogystal â’r broses archwilio a sut y gellir gwneud gwelliannau.

 

Ÿ

Un rhan fawr o’r rhaglen Archwilio Allanol yw’r archwiliad perfformiad.  Roedd yr Arolwg Llywodraethu Corfforaethol wedi oedi rhaglen PWC a’r Swyddfa Archwilio Cymru wrth i’r ddau gorff ddisgwyl am ganlyniad yr archwiliad cyn penderfynu pa feysydd ddylid eu targedu o safbwynt gwaith Archwilio Perfformiad a gwaith Archwiliad.  Cysylltwyd ers hynny a Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro’r Awdurdod ac roedd y llythyr yn datgan cynigion Archwilio Allanol am y meysydd oedd yn codi o’r adolygiad lle y bydd gwaith yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn gyda’r rhain yn cynnwys rheoli perfformiad, cynllunio ariannol tymor canolog a delio â chwynion.  Ar hyn o bryd, mae cylch gorchwyl yr adolygiadau hyn yn cael eu trafod, ac unwaith y ceir cytundeb bydd gwaith yn dechrau ac yn parhau am yr wythnosau i ddod.  Dywedodd Mr James Quance bod copi o’r llythyr y cyfeiriwyd ato ar gael i’r aelodau os oeddynt yn dymuno a gofynnodd y Cadeirydd am i gopi gael ei anfon i bawb.

 

Ÿ

Maes arall o waith yn y Cynllun Rheoleiddio yw Llywodraethu Gwybodaeth a’r prosesau sydd gan yr Awdurdod yn eu lle.  Cafodd y math hwn o waith ei ddal yn ôl i ddisgwyl am gyrraeddiadau’r Cyngor gyda Government Connect; ond, roedd y cylch gorchwyl wedi’i ryddhau a bydd gwaith yn dechrau unwaith y ceir cytundeb arnynt.

 

Ÿ

Hefyd ar droed y mae adolygiad o Gynllun Gwella’r Awdurdod yn unol â’r Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.  Hon fydd blwyddyn olaf y drefn hon gan y bydd yna newidiadau i’r broses archwilio o ganlyniad i Fesur Llywodraeth Leol y Cynulliad.

 

Ÿ

Bu’r pwysau ar y cyfrifon a orfodwyd trwy newidiadau diweddar mewn rheoliadau yn destun siarad yn y Pwyllgor, a bydd Archwilio Allanol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol yn edrych i osod allan newidiadau pellach yn y cyswllt hwn, a’r mwyaf arwyddocaol ohonynt yw’r Safonau Adrodd yn Ôl Ariannol Ryngwladol fydd yn golygu nifer o newidiadau cymhleth a newidiadau i systemau mewn llywodraeth leol mewn blynyddoedd i ddod.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd J.P. Williams iddo ofyn mewn Pwyllgor arall am adolygiad trwyadl o’r holl wasanaethau ar draws y Cyngor ac iddo gael ateb y byddai hyn yn mynd â llawer o amser.  Roedd gan yr Awdurdod, fe gredai, adran gyfrifon dda a byddai’n gofyn felly a oedd yna unrhyw ffordd y gellid rhoi gwybodaeth i’r Awdurdod ynglyn â chostau gwasanaethau yn ôl yr uned ac os nad oedd,  a fyddai darpariaeth o’r fath yn gymorth i gryfhau’r Adran ac i alluogi i’r Awdurdod ddiogelu gwasanaethau trwy eu rheoli’n fwy effeithiol yn hytrach na’u torri.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid mai delio gyda’r Datganiad o Gyfrifon yr oedd y Pwyllgor Archwilio h.y. y ffordd yr oedd y cyfrifon yn cael eu hadrodd yn ôl a thra roedd gofynion y safonau adrodd yn ôl newydd ar yr un llaw wedi safoni fformat y datganiad, y maent hefyd wedi gwneud pethau llawer mwy dyrys.  Dim ond agwedd o waith y Gwasanaeth Cyllid yw hwn, ac mae’r agwedd arall o fonitro’r gyllideb yn cael ei wneud trwy adroddiadau i’r Pwyllgor Gwaith.  Adroddiadau yw’r rhain am wariant yn erbyn y gyllideb sydd yn canolbwyntio ar gapasiti’r Pwyllgor hwnnw i wneud penderfyniadau.  Yn y misoedd i ddod, bydd yn rhaid canfod arbedion sylweddol a gwneud rhai penderfyniadau anodd yng nghyd-destun yr economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.  Bydd yn rhaid edrych ar y tri maen prawf hwn, ac o edrych ar yr arbedion sydd angen eu gwneud, ni ellir osgoi gwneud penderfyniadau anodd.  Ond yn ogystal â phrif elfennau’r gyllideb, mae eitemau eraill gyda llai o wariant hefyd yn cael eu hadolygu ac mae angen cael y sgiliau i fynd i’r afael â’r materion hyn hefyd.  Gofynnodd y Cynghorydd J.P. Williams os oedd yna broblemau capasiti o fewn yr adran.

 

        

 

                                                                              69

 

     Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod capasiti bob amser yn broblem ond nad oedd yr her o ganfod arbedion yn un oedd wedi’i chyfyngu i’r Adran Gyllid yn unig.  Mae pwysau ar yr Adran Gyllid wrth reswm ond mae materion yn ymwneud â rheoli cyllidebau gyda llai o adnoddau yn gyfrifoldeb y Rheolwyr Gwasanaeth unigol yn ogystal.

 

 

 

     Penderfynwyd nodi’r adroddiad a diolch i Mr James Quance am yr wybodaeth.

 

      

 

8

ARCHWILIO COFRESTRU DIDDORDEBAU A DATGANIADAU O LETYGARWCH

 

      

 

     Cyn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Archwilio, roedd cyfle i’r aelodau archwilio’r gwahanol gofrestri a gedwir gan y Cyngor ac sy’n rhan o waith y Pwyllgor Archwilio yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.  Fel rhan o raglen y cyfarfod, dosbarthwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid i’r aelodau yn rhestru’r cofrestri oedd ar gael i’w harchwilio ac yn tynnu sylw at rai materion y gallai’r aelodau roi sylw iddynt wrth archwilio’r cofrestri.  Dywedwyd bod y Pwyllgor Safonau yn ddiweddar wedi adolygu ei arferion, yn bennaf o safbwynt datganiadau o ddiddordeb mewn Pwyllgorau ac fe geir gwybod am ganlyniadau’r adolygiad yn nes ymlaen.  Gofynnwyd wedyn i’r aelodau os oeddynt yn dymuno nodi unrhyw faterion o’r archwiliad i’w trafod yn y Pwyllgor Archwilio.

 

      

 

     Ni nodwyd unrhyw fater arbennig gan unrhyw aelod yn codi o’r gwaith archwilio.

 

      

 

9

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y POLISI ATAL TWYLL A LLYGREDD

 

      

 

     Cyflwynwyd - Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ar weithrediad y polisi uchod dros y ddwy flwyddyn ariannol, 2007/08 a 2008/09.

 

      

 

     Pwysleisiwyd yr ystyriaethau canlynol i sylw’r aelodau -

 

      

 

Ÿ

Y prif egwyddorion y polisi fel a ganlyn -

 

 

 

Ÿ

Lleihau cyfleon a rhwystro trwy fynd ati’n rheolaidd i weithredu ar reolaethau ariannol, gan gynnwys cynnal gwaith siecio mewnol a hefyd trwy wahanu dyletswyddau roedd yr adroddiad yn rhoi esiampl lle y bu i’r agwedd hon leihau’r tebygrwydd a’r cyfleon i dwyllo.  

 

Ÿ

Atal - y dull y mae’r awdurdod yn ei ddefnyddio i atal lladron a thwyllwyr yw gadael i bawb wybod ei fod yn effro trwy siecio a gwirio gwybodaeth.  Hefyd, rhoi proffil uchel i adrodd am ganfod ac erlyn troseddwyr sydd yn ffordd o atal rhai twyllwyr eraill.  Mae datganiadau gan yr Awdurdod yn derbyn sylw fel arfer yn y wasg ac yn rhoi cyhoeddusrwydd da i’r agwedd hwn o’r gwaith.  

 

Ÿ

Canfod, Ymchwilio ac Erlyn - Gall amheuon godi o sawl ffynhonnell ynghylch dwyn gwirioneddol neu dwyll yn cynnwys staff yr awdurdod yn dod ar draws pethau trwy waith gweinyddol o ddydd i ddydd, neu efallai y dônt i’r amlwg oherwydd rhywun allanol yn rhannu pryderon trwy ddefnyddio’r llinell barod ar gyfer twyll budd-daliadau neu efallai y byddant yn dod i sylw yr awdurdod hwn trwy asiantaethau eraill.  Beth bynnag fo natur yr amheuon, bydd raid i’r ymchwiliadau gyfateb i’r difrifoldeb, rhaid iddynt fod yn gyfrinachol a hefyd yn deg.  Weithiau gall amheuon neu haeriadau fod yn rhai drygionus neu godi oherwydd camgymeriadau; ond rhaid, fel egwyddor o’r pwys mwyaf, dybio bod rhywun yn ddieuog ac nid yw pob achos o ymchwilio yn arwain at ddrwgweithred.  Roedd yr adroddiad yn rhoi enghreifftiau o dwyll budd-dal ac yn ymhelaethu ar y ffordd o ddelio gyda’r achosion hyn.

 

Ÿ

Hawlio’n Ôl - lle y gellir gwneud hynny bydd yr Awdurdod yn ceisio ad-ennill gwerth yr arian a gafodd ei ddwyn neu lle be twyll.  Yn ystod 2007-08 a 2008-09 fe wnaeth yr awdurdod hawlio £18,209 yn ôl oedd wedi’i ddwyn gan gynweithiwr gyda’r achos hwnnw’n cael ei adrodd i’r Pwyllgor Archwilio ar y pryd.  Y cyfanswm o fudd-dal Treth Gyngor a Thai oedd wedi’i ordalu ac a nodwyd trwy ymchwiliadau twyll oedd £92,953.72 yn 2007/08 a £93,306.70 yn 2008/09 gyda £25,700 ohono yn dod o un achos wnaeth arwain i erlyniad.

 

Ÿ

Diwylliant ac Ymwybyddiaeth - Mae’r cyhoeddusrwydd a roddwyd i waith gwrth-dwyll ac erlyniadau llwyddiannus yn gymorth i feithrin diwylliant gwrth-dwyll y tu mewn i’r awdurdod. Mae diwylliant gwrth-dwyll cadarnhaol yn rhan o lywodraethu corfforaethol da ac er y bydd adroddiadau negyddol yng nghyswllt arolygon llywodraethu corfforaethol yr awdurdod a’r cyhoeddusrwydd a roddwyd i’r adroddiadau hynny yn creu’r argraff ein bod yn llugoer

 

                                                                    70

 

ynghylch twyll a llygredd, nid felly y mae pethau o angenrheidrwydd.  Efallai y bydd cyhoeddusrwydd drwg yn annog rhai pobl i wneud haeriadau, ond pan fo haeriadau o’r fath heb ddim tystiolaeth yn sail iddynt yna ni ellir profi bod twyll na llygredd wedi digwydd.  Mae ymchwiliadau i haeriadau sy’n ddi-sail yn tanseilio hyder ac mae’n bur anodd ceisio gwella’r diwylliant mewn cyfnod o wrthdaro.

 

 

 

Ÿ

Matsio Data - Mae’r Awdurdod yn parhau’n ymroddgar i wneud ei ddyletswydd ymchwilio at gyfeiriadau trwy’r ymarferiad Matsio Data Budd-dal Tai ac mae’n cael ei adnabod fel twlsyn defnyddiol i adnabod achosion o dwyll a gwall posibl.  Cyfanswm y budd-dal a or-dalwyd ac a nodwyd gan HBDMS trwy dwyll a chamgymeriadau yn 2007/08 oedd £53,446.98 ac 2008/09, yr oedd yn £21,421.10.  Dylid nodi mai yn ystod y cyfnod yma collwyd data Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyda’r canlyniad nad oedd yn bosibl gwneud ambell Matsio Data.

 

Ÿ

Adolygu’r Polisi - yn y Rhestr Siecio Hunanasesu y cyfeiriwyd ati yn y Pwyllgor diwethaf gofynnwyd a oedd yr awdurdod wedi ystyried ac wedi mabwysiadu’r canllawiau “Managing the Risk of Fraud - Action to Counter Fraud and Corruption”.  Rhestr siecio arall yw hon ond nid yw yn ddogfen y mae modd ei mabwysiadu’n syth ac yn ddifeddwl.  Gan fod y Pwyllgor yn bwriadu (ar ôl yr hyfforddiant sydd ar y gweill) adolygu’r rhestr siecio gyntaf, buasai’n well penderfynu wedyn ar y flaenoriaeth a roddir i’r eitem hon ar y rhestr siecio honno - cyn ystyried yr ail restr siecio.  Cafodd Polisi Gwrth-dwyll a Llygredd yr awdurdod ei adolygu ddiwethaf yn 2007, a’r adeg honno cyflwynwyd rhai mân newidiadau.  Rydwyf yn fodlon bod y polisi hwnnw yn bodloni y rhan fwyaf o’r disgwyliadau arferion da - megis y rheini a amlinellir yn y ddogfen “Rheoli Risg a Thwyll” ac nid oes raid cyflwyno newidiadau y tro hwn.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd Selwyn Williams a ddylai’r Awdurdod fod yn gweithredu Polisi Rhannu Pryderon.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid bod gan yr Awdurdod Bolisi Rhannu Pryderon sy’n rhoi cyfle i staff ddweud am unrhyw broblemau y maent wedi eu nodi.  Roedd y polisi hefyd yn pwysleisio Datganiad Diddordeb Cyhoeddus.  Roedd sylw’r staff yn cael ei ddwyn at fodolaeth y polisi a’i rôl yn datgelu lladrad a thwyll yn ôl yn 2007 yn dilyn achos lle canfuwyd twyll yn Ysgol Rhosneigr, a’r rhesymeg y tu ôl i hynny oedd y gallai bod rhywun yn yr ysgol fod wedi amau nad oedd pethau’n iawn.  Fe atgoffwyd y staff am y Polisi bryd hynny ac efallai y byddai’n dda o beth ailwneud yr ymarfer hwnnw.

 

      

 

     Nododd y Cynghorydd Tom Jones, Deilydd Portffolio Cyllid mai’r arfer mewn rhai mudiadau / cyrff eraill oedd adrodd yn ôl ar faterion o’r fath i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, gyda’r person hwnnw wedyn yn adrodd ar y mater i’r Adain Archwilio Mewnol neu Allanol.  Awgrymodd y gallai’r Pwyllgor ystyried yr opsiwn hwnnw.  Cynigiodd y Cynghorydd Selwyn Williams bod y Pwyllgor yn dewis yn ffurfiol y ffordd honno o feddwl am bethau, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

Ÿ

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid ar weithrediad y Polisi ar gyfer Atal Twyll a Llygredd am 2007/08, a 2008/09, a nodi ei gynnwys;

 

Ÿ

argymell y dylid nodi Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn y Polisi Rhannu Pryderon fel y brif sianel i rai’n dymuno rhannu pryderon.

 

      

 

      

 

      

 

     Cynghorydd  R. Llewelyn Jones

 

                 Cadeirydd

 

      

 

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                                      71