Meeting documents

Investments and Contracts Committee – the charity funds are now administered by the private registered charity, Y Gymdeithas, and the County Council is no longer the trustee
Friday, 18th September, 2009

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

 

PWYLLGOR BUDDSODDI A CHONTRACTAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2009

 

YN BRESENNOL:

 

Mr J V Owen - Is-Gadeirydd yn y Gadair

 

Y Mri E G Davies, H Eifion Jones, R Dylan Jones,

Bob Parry OBE, Elwyn Schofield.

 

Rheolwyr HSBC Global Asset (DU) Cyf

 

Mr Gareth Watts - Cyfarwyddwr Cleient

Mr Marcus Pakenham

 

 

 

WRTH LAW:

 

Trysorydd,

Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) - Yng nghyswllt Eitem 5,

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mr Aled M Jones

 

 

 

EITEMAU A GYMERWYD YN GYHOEDDUS

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mai, 2009.

 

Cyfeiriodd Mr E Schofield at 5.2 yn y cofnodion - “bod adroddiad ar farchnad y ‘DYFODOL’ yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor hwn cyn y gellir gwneud penderfyniad ar reoli llif arian yn well a bod cyfarfod arbennig yn cael ei alw i drafod y mater arbennig hwn.”  Ceisiodd Mr Schofield weld os oedd unrhyw fanylion ar farchnad ‘Y DYFODOL’ wedi’i dderbyn.  Dywedodd y Trysorydd bod gwybodaeth wedi’i derbyn ar e-bost gan y Rheolwr Cleient (HSBC) a bod y mater wedi’i drafod gyda’r Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn a Mr Schofield fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  Fe gytunwyd nad oedd angen cyfarfod arbennig yn dilyn derbyn yr wybodaeth gan y Rheolwr Cleient.

 

Gofynnodd Mr H Eifion Jones am i’r wybodaeth a gafwyd gan y Rheolwr Cleient gael ei dosbarthu i aelodau’r Pwyllgor hwn.

 

3

RHEOLI BUDDSODDI

 

Cyflwynwyd - Adroddiad Chwarter Rheolwyr Asedau Global HSBC (DU) Cyf am y cyfnod hyd at ddiwedd Mehefin, 2009.

 

 

Dywedodd y Rheolwyr Buddsoddi bod y portffolio yn dangos dychweliad o +6.7%, yn erbyn meincnod o +8.7%.  Gwerth y gronfa ar gau’r farchnad ar 30 Mehefin, 2009 oedd £11,040.500.  Gwerth y gronfa ar hyn o bryd oedd £12,665.946.  Roedd y gronfa wedi tanberfformio ei feincnod y chwarter hwn -2.0%; roedd y portffolio wedi tanberfformio ar ddechrau rali a gafwyd yn y farchnad tua mis Mawrth ac Ebrill, wrth i gwmnïau mewn trafferthion wneud enillion cadarn.  Bu’r farchnad yn mynd trwy gyfnod o ail brisio; bydd yn fuan yn symud tuag at gwmnïau gydag enillion cadarn a thwf.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd fod ganddo bryderon bod y portffolio wedi perfformio yn llawer is na’r meincnod yn ystod yr ail chwarter.  Nododd mai un o’r materion yr oedd wedi’i godi yn y cyfarfod diwethaf oedd buddsoddiad mewn ‘Deunyddiau Sylfaenol’; roedd hwn yn sector oedd wedi gwneud yn arbennig o dda yn y marchnadoedd yn y chwarter diwethaf ac roedd y portffolio yn arbennig o ysgafn o ran ei daliadau yn y sector hwnnw.  Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi cael ei gadael ar ôl ac allan o’r rali yn y cyfranddaliadau hynny.  Yn ystod y chwarter hwn eto, mae ‘Deunyddiau Sylfaenol’ wedi gwneud yn dda ac mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ysgafn o ran ei ddaliadau yn y sector ac unwaith yn rhagor wedi colli allan ar wneud enillion.  Dywedodd Mr Marcus Pakenham bod prisiau uchel i lawer o’r cwmniau ‘Deunyddiau Sylfaenol’.  Roedd y portffolio wedi perfformio’n well na’r farchnad gyda rhai o’i chyfranddaliadau eraill.  

 

 

 

Nododd Mr H Eifion Jones mai twf difidend sy’n greiddiol i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.  Edrychai’r portffolio fel pe bai’n ysgafn o ran cwmniau ariannol a chwmniau deunyddiau sylfaenol.  Dywedodd Mr Marcus Pakenham iddynt werthu rhai o’r stociau yn ‘Cyfleustodau’ a ‘Nwyddau Treuliedig’ ond mae’r portffolio’n dal i fod yn ysgafn o ran cwmniau yn y sector ‘Ariannol’.  Gofynnodd Mr Jones os oedd bod o dan bwysau mewn cwmniau ‘Ariannol’ yn beth da.  Ateb Mr Pakenham oedd mai gwerth y stociau unigol a’u hachos busnes sy’n siapio llawer ar y portffolio.  Nododd bod HSBC yn ystyried bod y buddsoddiadau’n rhai da a’u bod yn dod a dychweliadau da i’r Ymddiriedolaeth a hynny er gwaethaf eu bod yn ysgafn o ran cwmniau ‘Deunyddiau Sylfaenol’ a chwmniau ‘Ariannol’.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth ar yr Adroddiad Chwarterol gyda chynrychiolwyr HSBC Global Asset Management (DU) Cyf, roedd yr Aelodau am fynegi eu consyrn oherwydd bod y portffolio wedi tanberfformio ei feincnod yn sylweddol iawn am ail chwarter.

 

 

 

CYTUNWYD i ofyn i’r Trysorydd ysgrifennu i gynrychiolwyr rheolwyr HSBC Global Asset Management (DU) Cyf yn mynegi pryderon y Pwyllgor oherwydd bod y portffolio wedi tanberfformio a hefyd ei bryder ynglyn â’r dewis o stoc.

 

 

 

EITEMAU A GYMERWYD YN BREIFAT

 

 

 

4

TIR YM MHORTH AMLWCH - CAIS I’W DDEFNYDDIO

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yng nghyswllt yr uchod.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd bod tir yr Elusen ym Mhorth Amlwch wedi’i ddynodi gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel ased treftadaeth ac amwynder cyhoeddus.  Er ei fod yn cynnwys ochr orllewinol yr harbwr, tir agored ydyw gan mwyaf.  Roedd cais wedi’i dderbyn gan grwp lleol, trwy’r aelod lleol, yn gofyn am ganiatâd i gael defnyddio’r tir i bwrpas creu cyfleuster seiclo oddi ar y ffordd.  Fe fyddai’r cynnig, mae’n debyg, yn cydfynd â bwriadau elusennol yr Ymddiriedolaeth ac nid yw’n anghyson gyda’r dynodiad wnaed o’r tir fel amwynder cyhoeddus.  Gofyn y mae’r ymgeiswyr am ganiatâd i ddefnyddio’r tir ar y sail y byddant hwy’n gwneud y gwaith paratoadol sy’n angenrheidiol ar gyfer y cyfleuster seiclo ac yn ei gynnal a’i gadw.  Mae’r aelod lleol yn cefnogi’r fenter.

 

 

 

Y prif bwyntiau i’w hystyried yw’r risgiau a’r cyfrifoldebau fyddai’n disgyn ar yr Ymddiriedolaeth Elusennol wrth roi caniatâd i’w ddefnyddio i’r pwrpasau hynny.  Mae’r ymgeiswyr wedi dweud y byddent yn gallu cael eu hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus eu hunain yng nghyswllt rheoli, trefnu ac arolygu’r cyfleusterau.  Byddai’n rhaid sicrhau bod y rhain yn amodau o fewn unrhyw ganiatâd a roddir.

 

 

 

 

 

Mae’n hysbys ddigon bod y tir wedi’i lygru, gyda’r rhan fwyaf ohono yn hen safle tipio gwastraff trefol.  Fe gadarnhaodd astudiaeth lygru a wnaed yn 1996 bod yna wahanol lygrwyr ar y safle.  Roedd yr adroddiad yn argymell na ddylid datblygu’r safle (gan y byddai’n golygu costau gwrth-lygru enfawr).  Yr opsiwn gorau fyddai gadael y safle fel ag y mae, fel llecyn agored, a pheidio gwneud fawr o ddim i darfu ar wyneb y tir gan y gallai hynny ddod a mwy o lygrwyr i’r wyneb.  Fe soniwyd am y materion hyn gyda’r ymgeiswyr ac mewn ymateb maent yn barod i gyfyngu ar unrhyw fynediad i’r traciau sydd yno’n barod i rai dros dop yr hen dip, a llecyn coediog i’r de o’r safle, nad yw, fe gredir, ar ben y tip.  Gwelir mai ymdrech sydd yma i leihau unrhyw risg o darfu ar unrhyw dir llygredig.  Mae’n bosib lleihau’r risg o ryddhau unrhyw lygredd ond ni ellir symud ymaith pob risg yn gyfan gwbl.  Trwy roi caniatâd i weithgaredd o’r fath, byddai’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn derbyn y risg fechan hon.  Yn 2004 fe roddodd y Pwyllgor ganiatâd i deulu dyn lleol osod carreg goffa iddo ar y safle.  Cafodd materion tebyg yn ymwneud â mynediad i lefydd llygredig eu hystyried bryd hynny hefyd, ond fe wnaed y penderfyniad, fodd bynnag, i ganiatau i’r gofeb gael ei lleoli ar y safle.  

 

 

 

Roedd Mr R Dylan Jones, yr aelod lleol yn cefnogi’r cais ac yn croesawu’r defnydd arfaethedig o’r tir.  Nododd bod grant Datblygu Chwaraeon Cymru wedi’i sicrhau i brynu beiciau i’w defnyddio ar y trac hwn.

 

 

 

Roedd Mr E Schofield yn cefnogi’r cais ond nododd y dylai termau ac amodau’r proses o reoli’r risg i’r Ymddiriedolaeth Elusennol fod ar gael i’r Pwyllgor cyn rhoddi unrhyw ganiatâd i fynd ar y safle.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

derbyn yr adroddiad a chaniatau’r cais i greu cyfleuster seiclo oddi ar y ffordd, yn amodol ar dermau ac amodau i’w drafftio gan y Swyddogion gyda’r bwriad o reoli’r risg i’r Ymddiriedolaeth Elusennol a hefyd atebolrwydd cyhoeddus.

 

 

 

Ÿ

bod Aelodau’r Pwyllgor yn derbyn copi o’r termau a’r amodau cyn y rhoddir caniatâd i fynd ar y safle.

 

 

 

5

TIR YN RHOS-GOCH - DIWEDDARIAD

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ynglyn â’r uchod.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd bod y Pwyllgor wedi derbyn cyngor yn ei ddau gyfarfod diwethaf ynglyn â’r awgrym o blannu coedwig ddail-llydan ar ran o’r safle.  Roedd y Syrfewyr a apwyntiwyd gan yr Ymddiriedolaeth wedi’u gwahodd i fynegi barn ynglyn â sut y byddai hyn yn cael effaith ar werth y safle ac ar unrhyw obeithion i’w werthu.  Roedd y Prisiwr yn awr wedi ymateb fel a ganlyn:-  

 

 

 

..... In my opinion any proposals which increases public access to the site could potentially be detrimental to any future sale.

 

 

 

As I read the plans, there would be two new footpaths and the landscaped area would remain in the control of the Trust rather than any prospective purchaser.

 

 

 

Whilst, this might not concern some purchasers, who may also consider the extra tree planting as beneficial, I can see that some would find it a disincentive - in my opinion it could deter some purchasers and would not act as a major factor, in the purchase decision, of those who would consider it favourably.

 

 

 

On that basis, on balance, I would not recommend that the Trust proceed with this project if it is being measured on purely commercial grounds.  Any major purchaser would seek to have as few constraints as possible on any development and this project would create a ‘problem’ to be overcome, for many end users.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd yr ymateb hwn wedi’i drafod gyda Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn ac fe gytunwyd bryd hynny y dylai’r mater gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn cyngor y Prisiwr a pheidio â symud ymlaen gyda’r awgrym i blannu coedwig coed dail-llydan ar ran o safle Rhos-goch.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd ei fod ar hyn o bryd yn ceisio trefnu cyfarfod gyda Phrisiwr apwyntiedig yr Ymddiriedolaeth a hefyd gydag Adrannau Eiddo a Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, er mwyn “rhoi drosodd” y brîff marchnata ar gyfer y tir yn Rhos-goch ac i rannu syniadau ar ddatblygiadau cyfredol allai gael effaith ar y defnydd wneir o’r safle.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) bod yna ddiddordeb yn y safle gan rai yn y sector ynni a hynny’n gysylltiedig â’r bwriadau yng nghyswllt Wylfa B.  Roedd cwmniau eraill wedi dangos diddordeb ar gyfer twrbinau gwynt ac ynni amlddefnydd.  Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn gynigion pendant am safle Rhos-goch ar hyn o bryd.  Nododd y Swyddog ymhellach os oedd yr Ymddiriedolaeth yn dymuno i’r Adain Datblygu Economaidd farchnata’r safle’n rhagweithiol, yna’n amlwg fe fyddai yna gostau yn gysylltiedig â hynny.

 

 

 

Croesawu’r diddordeb hwn oedd yn cael ei ddangos yn y safle wnaeth Mr Schofield a chefnogi yn llawn y dylsai’r safle gael ei farchnata mewn ffordd rhagweithiol.  Nododd y Trysorydd y byddai’n rhaid sicrhau gwasanaeth Syrfewr os derbynnir bid am y safle.  Nododd y dylid gosod swm o arian ar y naill ochr ar gyfer marchnata o’r fath.  Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) bod yr Adain Datblygu Economaidd wedi bod yn ymchwilio i mewn i farchnata’r safle ar lafar a thrwy basio’r neges ymlaen o’r naill i’r llall ac roedd hynny wedi bod yn fuddiol.  Fodd bynnag, os oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn dymuno apwyntio asiant i farchnata’r safle, fe allent hwy ymchwilio i mewn i gostau gwneud apwyntiad o’r fath.  Nododd Mr Schofield bod gan yr Adain Economaidd y cysylltiadau iawn ar gyfer marchnata’r safle ac fe ddylai gwybodaeth ynglyn â’r safle gael ei dosbarthu trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru ac ni fyddai hyn yn costio gormod.

 

 

 

PENDERFYNWYD rhoi awdurdod i’r Adain Datblygu Economaidd farchnata safle Rhos-goch.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

MR J V OWEN

 

IS-GADEIRYDD YN Y GADAIR