|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cadeirydd, er nad oedd yn dymuno ymddangos fel
petai’n beio unigolion am yr oedi, ei fod yn dymuno sicrhau
bod y broses yn cael y flaenoriaeth uchaf nid yn lleiaf er mwyn
lleddfu yr aniscrwydd ymysg staff. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) er y byddai’n ceisio glynu wrth yr
amserlen gyfredol, nid oedd mewn unrhyw sefyllfa i roddi sicrwydd
pendant y byddai modd gwneud hynny oherwydd y baich gwaith a oedd
yn gysylltiedig.
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd nifer o opsiynau ar gyfer cyflymu’r
broses gan gynnwys “back fill”. Roedd y Panel yn
derbyn bod pwysau gwaith a gofynion statudol ar y swyddogion ond
pwysleisiwyd eu bod yn dymuno prysuro gyda’r mater hwn er
lles pawb a oedd yn gysylltiedig.
|
|
|
|
|
|
Rhoes y Cyfarwyddwr Corfforaethol y manylion diweddaraf
i’r Panel ynghylch y broses ar gyfer recriwtio aelodau o
staff i wasanaethu ar Banelau Apeliadau. Hyd yma, o’r
20 o bobl yr oedd eu hangen, dim ond 6 aelod o staff oedd wedi
mynegi bodlonrwydd i wasanaethu ar y Panelau. Mae trefniadau
mewn llaw i roddi hyfforddiant i’r rheini sy’n fodlon
gwasanaethu ar y Panelau, fodd bynnag, roedd yn awyddus i apelio
eto am aelodau ychwanegol fel y gellid cychwyn ar y rhaglen
hyfforddi.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) at drafodaethau sy’n mynd ymlaen rhwng yr
Undebau ar lefelau Cenedlaethol a Lleol ynghyd ag ACAS mewn
perthynas â’r Drefn Apelio.
|
|
|
|
|
|
Yn dilyn trafodaeth adeiladol ar y materion hynny
sy’n peri pryder, CYTUNODD y Panel
|
|
|
|
|
3.1
|
bod y Rheolwr-gyfarwyddwr yn anfon cyfarwyddyd at yr
holl Gyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth yn
pwysleisio bod angen rhoddi’r flaenoriaeth uchaf i’r
broses hon ar draws y Cyngor ac os oes rhaid, dylai’r
Rheolwr-gyfarwyddwr drefnu cyfarfod gyda’r aelodau priodol o
staff er mwyn atgyfnerthu neges y cyfarwyddyd;
|
|
|
3.2
|
bod y Panel yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw
lithriad pellach yn yr amserlen;
|
|
|
3.3
|
oni fydd y Panel yn cael gwybod am unrhyw lithriad,
yna fe gymerir yn ganiataol bod cynnydd yn digwydd yn unol
â’r manylion a ymddengys ym Mhapur B Rhaglen
heddiw.
|
|
|
|
|
4
|
CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD
|
|
|
|
|
|
Mabwysiadwyd y dyfyniad canlynol o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972:-
|
|
|
|
|
|
"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972,
gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi
gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1,
Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni."
|
|
|
|
|
5
|
YR ADRODDIAD DIWEDDARAF AR GYNNYDD AR YR ADOLYGIAD O
GYFLOGAU A GRADDFEYDD
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad gan y Pennaeth
Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ac ynddo’r manylion
diweddaraf. Rhoes y Swyddog adroddiad ar drafodaethau a
gafwyd ac ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag amryfal agweddau
o’r Adolygiad gan gynnwys materion megis Ôl-Gyflog,
Materion yn ymwneud â Statws Sengl, Cynllun Oriau Gweithio
Ystwyth, Amodau Gwasanaeth, Lwfansau, Goramser a Materion Gweithio
wrth Gefn. Hefyd, soniodd am y cynnydd a wnaed gan y Cyngor
hwn o gymharu gydag awdurdodau eraill yng Nghymru.
|
|
|
|
|
|
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) am ei
adroddiad gwaith a phwysleisiodd yr angen am i’r materion hyn
gael eu datrys a’u cytuno gyda’r Undebau ar
frys.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|