|
|
|
|
Cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr ei fod wedi anfon
cyfarwyddiadau i'r holl Gyfarwyddwyr Corfforaethol a'r Penaethiaid
Gwasanaeth yn dweud wrthynt am roi'r blaenoriaeth uchaf i'r broses.
Roedd y staff wedi ymateb ar unwaith. Roedd wedi
cyfarfod gyda Phenaethiaid Adeiniau yn yr Adran Gwasanaethau
Corfforaethol ac wedi cytuno y gellid tynnu pob dyletswydd oddi ar
y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ac eithrio'r
broses Arfarnu Swyddi ac y dylid cyfeirio unrhyw faterion sy'n
achosi problemau ato ef fel y Rheolwr-gyfarwyddwr.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol fod llawer
o gynnydd wedi ei wneud ers 1 Mehefin. Bryd hynny roedd angen
cael sylwadau gan y Penaethiaid Gwasanaeth ac fe gafodd y mater
hwnnw ei ddatrys yn fuan wedyn. Ers hynny, roedd y Panel
Sicrhau Safon wedi cwrdd i edrych ar y sgorau yn unol ag Adroddiad
Hay. Roeddynt wedi cynhyrchu adroddiad a oedd wedi dangos
anghysondebau a gwendidau yr oedd angen rhoi cryn sylw iddynt cyn
cwblhau'r gwaith modelu tâl. Ni fu'n bosib cwblhau'r
holl ffigyrau ariannol mewn perthynas â'r model tâl.
Fodd bynnag, roedd llawer o waith wedi ei wneud.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) fod yr ymgynghorydd sy'n gyfrifol am fwrw ymlaen
gyda'r materion Modelu Tâl ar gael i gwblhau'r gwaith o roi'r
wybodaeth i mewn i'r system ar fyr rybudd ac y cytunwyd ar ddyddiad
cychwynnol o 18 Medi. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd dod i
gytundeb gyda'r Undebau Llafur ynghylch natur y strwythur
tâl. Ni fyddai'n deg iddo gyflwyno'r strwythur fel
cynnig terfynol heb fod mewn sefyllfa i gadarnhau ei fod yn
fforddiadwy. Dywedodd y swyddog ei fod yn teimlo bod y
canllawiau a gafodd i greu y strwythur tâl wedi bod yn
afrealistig.
|
|
|
|
|
|
Cadarnhaodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod llithriad oddeutu 3
wythnos yn yr amserlen gyfredol ond tynnodd sylw at y risgiau mewn
perthynas â pheidio a chymryd digon o amser i sicrhau bod y
broses yn gywir o bersbectif yr undebau a'r rheolwyr. Hyd oni
fydd o leiaf 85% o'r wybodaeth wedi ei bwydo i mewn nid oedd modd
darogan materion fforddiadwyaeth. Dywedodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod ychydig dros 50% o'r
wybodaeth wedi ei bwydo i mewn ar hyn o bryd. Nid oedd hyn yn
cynnwys Staff Cynorthwyo Athrawon.
|
|
|
|
|
|
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynghylch y
Modelwr Tâl, Sicrwydd Safon, Trafodaethau/Cymeradwyaeth a
materion Gweinyddol/Gweithredu a rhoddwyd cyfle iddynt fynegi eu
barn a holi swyddogion i bwrpas cael eglurhad. Roedd yr holl
aelodau yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o lithriad pellach a
gofynnwyd a oedd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)
yn hyderus y byddai modd cwblhau'r broses heb ragor o oedi ynteu a
oedd angen cymorth staffio ychwanegol i wneud y gwaith.
Cadarnhaodd y swyddog ei fod yn fodlon ar hyn o bryd ond
efallai y bydd angen cymorth gweinyddol ychwanegol gyda hyn.
Yn ogystal, dygodd sylw'r Panel at bwysau gwaith ar staff yr
Adain Gyflogau unwaith y bydd y cytundeb wedi ei gwblhau.
Dywedodd y swyddog hefyd mai dim ond 8 o bobl oedd wedi
gwirfoddoli i wasanaethu ar y panelau apelio allan o'r 20 sydd eu
hangen. Byddai hyfforddiant yn cychwyn ar gyfer yr aelodau
hynny o staff yng nghanol mis Hydref. Nid oedd yn rhagweld y
byddai angen i'r Panel Apeliadau gwrdd tan oddeutu canol mis
Tachwedd. Er bod 8 o bobl yn ddigon i gychwyn y broses roedd
yn awyddus i gael nifer ddigonol o bobl o bob adran o'r Cyngor er
mwyn sicrhau didueddrwydd.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth ddiweddaraf uchod ac y
byddai cyfarfod pellach o'r Panel yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener
21 Medi 2007 yn Ystafell 1003, Adran y Rheolwr-gyfarwyddwr am 1pm
ac erbyn hynny disgwylir y bydd yr Ymgynghorydd wedi cwblhau'r
gwaith fel bod modd i'r Panel fwrw ymlaen gyda'r Broses Arfarnu
Swyddi.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|