|
|
|
|
Er bod trafodaethau’n debygol o barhau mewn
perthynas â materion penodol dros yr ychydig fisoedd nesaf,
bwriedir cynnal trafodaethau terfynol ddiwedd y mis hwn ar y prif
benawdau y mae angen cytundeb yn eu cylch. Nododd hefyd er
bod y trafodaethau cyfredol yn canolbwyntio ar y gweithwyr hynny
sy’n rhan o’r Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar gyfer
Gwasanaethau Llywodraeth Leol, roedd ymrwymiad ar yr un pryd i
adolygu cyflogau swyddogion rheng gyntaf ac ail reng a bod angen
i’r Panel gadw hynny mewn cof.
|
|
|
|
|
|
Rhoes y Pennaeth Gwasanaeth amlinelliad o’r
cefndir i’r adolygiad o gyflogau a graddfeydd, y broses
arfarnu swyddi a oedd yn hanfodol i’r broses adolygu
a’r system ar gyfer dod o hyd i’r ‘llinell gyflog
mwyaf addas’ a oedd yn arwydd o’r strwythur cyflogau
delfrydol i adlewyrchu trefn ranc y sgorau o ganlyniad i’r
broses arfarnu swyddi. Y sialens allweddol i’r awdurdod
oedd sicrhau set dderbyniol o raddfeydd cyflog a oedd yn adlewyrchu
canlyniadau’r broses arfarnu swyddi, wedi eu haleinio
gyda’r strwythur cyflog yn seiliedig a’r fedrusrwydd y
cytunwyd iddo eisoes gan y Panel, a oedd yn fforddiadwy ac a oedd
yn dangos bod y Cyngor yn cwrdd â’i gyfrifoldebau
statudol yn nhermau strwythur tâl a oedd yn gadarn o safbwynt
cydraddoldeb.
|
|
|
|
|
|
Atgoffwyd y Panel am y canllawiau y cytunwyd arnynt mewn
perthynas â’r meini prawf a’r egwyddorion hynny y
dylid seilio strwythurau a lefelau cyflog arnynt ynghyd
â’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn gynharach mewn
perthynas â lefelau cyflog y farchnad waith yn
gyffredinol.
|
|
|
|
|
|
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) y materion hynny a
oedd yn ymwneud â fforddiadwyaeth a’r gwaith sydd angen
ei wneud i sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei defnyddio i
fodelu’r strwythur newydd arni yn gadarn. Roedd
fforddiadwyaeth y model yn sensitif i nifer o elfennau yn y
strwythur graddio ac nid y llinell gyflogau yn unig; golyga hyn nad
oedd yn ymarferol cytuno i elfennau unigol o’r strwythur
tâl a graddfeydd heb roi sylw i’r elfennau eraill
hefyd.
|
|
|
|
|
|
Cafodd Aelodau’r Panel drafodaeth fanwl ar y gwaith
modelu cyflogau ynghyd â rhai o’r opsiynau a oedd wedi
dod i’r amlwg hyd yma, cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb ar y
rhain a materion cysylltiedig er mwyn egluro’r sefyllfa
a’r feddylfryd ynghyd â’r dulliau posibl o ddelio
gyda’r mater allweddol o’r cyllid sydd ar gael i
gyflwyno strwythur cyflogau newydd. Daethpwyd i’r
casgliad bod raid ystyried y pecyn cyfan er mwyn seilio’r
cynnig terfynol arno ar gyfer ei drafod.
|
|
|
|
|
|
Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaeth am farn y Panel ar
rôl aelodau etholedig fel cadeiryddion Panelau Apêl mewn
amgylchiadau lle yr oedd angen elfen o annibyniaeth a lle nad y
Cytundeb Cenedlaethol yn rhagweld trefniadau apêl y tu allan
i’r sefydliad. Roedd Aelodau’r Panel yn gyndyn i
argymell trefn o’r fath i’w cyd-aelodau etholedig ac
roeddynt o’r farn y dylai’r drefn barhau ar lefel
Swyddogion.
|
|
|
|
|
|
Yn dilyn trafodaethau pellach, PENDERFYNWYD :-
|
|
|
|
|
4.1
|
disgwyl am ganlyniadau’r gwaith manwl ar
fodelu’r pecyn cyflogau a graddfeydd arfaethedig a’i
gyflwyno i’r Panel, gydag opsiynau ar gyfer trafodaethau, cyn
gynted ag sy’n bosibl.
|
|
|
|
|
4.2
|
gofyn am wybodaeth gan awdurdodau cyfagos ynglyn
â’r modd y mae nhw’n bwriadu delio gydag apeliadau
ynghyd â rôl yr aelodau etholedig mewn Panelau
Apêl.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD H. EIFION JONES
|
|
|
CADEIRYDD
|