|
|
|
|
|
|
|
|
Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 13 Tachwedd, 2007.
|
|
|
|
(Tudalennau
i
o’r Gyfrol hon).
|
|
|
|
|
5
|
Y CEFNDIR I’R ADOLYGIAD A RÔL Y
PANEL
|
|
|
|
|
|
Rhoes y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)
gyflwyniad i’r Panel mewn perthynas â’r uchod
ynghyd â dyfyniad o gofnodion y Panel Cyflogau a Graddfeydd
ynghylch rôl y Panel.
|
|
|
|
|
|
O safbwynt sefyllfa’r awdurdod yn 1996/1997,
dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y cafwyd cytundeb cenedlaethol a
oedd yn cyfuno mewn un cytundeb cenedlaethol ddau grwp blaenorol o
weithwyr sef Staff APT&C a Gweithiwr Maniwal. Roedd angen
rhoddi sylw i fater pwysig o safbwynt cael cytundeb statws sengl
sef:-
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cysoni telerau ac amodau
|
|
|
Ÿ
|
Cyflwyno un golofn cyflogau
|
|
|
Ÿ
|
Yr angen i ddylunio a chyflwyno strwythurau graddio a oedd
ddim yn gwahaniaethu, sef rhai a oedd yn:-
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
gwneud i ffwrdd â gwahaniaethu artiffisial a hen
ffasiwn
|
|
|
Ÿ
|
sicrhau cyflog cyfartal am waith o werth
cyfartal
|
|
|
Ÿ
|
ategu at amcanion y sefydliad / gwasanaeth
|
|
|
|
|
|
|
Roedd y broses arfarnu swyddi yn ymwneud
â chynhyrchu trefn restrol o swyddi a fyddai’n ffordd
deg, systematig a thryloyw o asesu maint / gwerth swyddi yn y
sefydliad.
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) bod defnyddio proses arfarnu a oedd ddim yn
gwahaniaethu ac a oedd yn ddadansoddol yn amddiffyniad effeithiol
yn erbyn hawliadau’n ymwneud â chyflog cyfartal.
Nododd hefyd y cytunwyd mewn egwyddor ar y rhan fwyaf
o’r broses ymgynghori gyda’r Undebau Llafur a bod raid
i’r awdurdod gael strwythur cyflogau cadarn i’w alluogi
i gystadlu am weithwyr gydag awdurdodau eraill. Nododd
ymhellach y bydd fforddiadwyaeth y broses arfarnu swyddi yn fater y
bydd angen rhoddi sylw iddo ac efallai y bydd raid penderfynu ar
strwythur a fydd yn cyflwyno’r broses yn raddol.
|
|
|
|
Dywedodd y Swyddog y bydd gan y Panel, ar ran
y Cyngor Sir, yr awdurdod i:-
|
|
|
|
Ÿ
|
gymeradwyo unrhyw strwythur graddfeydd diwygiedig ac
amodau cysylltiedig a gynigir trwy drafodaethau;
|
|
|
Ÿ
|
penderfynu ar setlio unrhyw hawliadau yn ymwneud
â’r materion hynny sydd wedi’u cynnwys yn y
trafodaethau;
|
|
|
Ÿ
|
gwneud penderfyniadau interim ar faterion perthnasol y
bydd raid eu datrys cyn i’r trafodaethau a’r prosesau
cysylltiedig ddod i ben.
|
|
|
|
|
Dyma Gylch Gorchwyl y Panel Cyflogau a
Graddfeydd:-
|
|
|
|
Ÿ
|
cadarnhau dyluniad y strwythur cyflogau y bwriedir ei
ddefnyddio y tu mewn i’r Cyngor;
|
|
|
Ÿ
|
cyflwyno sylwadau ar faterion perthnasol;
|
|
|
Ÿ
|
cyfarfod yn ôl y galw, i ystyried a chynnig
cyfarwyddyd i’r trafodwyr pan fo’r rheini angen
cyfarwyddyd o’r fath i ddibenion trafodaethau gyda’r
undebau llafur;
|
|
|
Ÿ
|
cymeradwyo’r amserlen a’r cynllun gweithredu
arfaethedig;
|
|
|
Ÿ
|
cymeradwyo’r argymhellion terfynol ar ôl
cwblhau trafodaethau’n llwyddiannus ar y strwythur cyflogau a
materion cysylltiedig;
|
|
|
Ÿ
|
ystyried a phenderfynu ar unrhyw hawliadau a all godi yn
sgil trafodaethau neu yn sgil y strwythur cyflogau cydnabyddedig ac
unrhyw newidiadau cysylltiedig i’r amodau;
|
|
|
Ÿ
|
ystyried a phenderfynu ar unrhyw fater yng nghyswllt
cyflogau a graddfeydd, materion y bydd raid penderfynu arnynt cyn
gweithredu ar y strwythur cyflogau diwygiedig a
chydnabyddedig.
|
|
|
|
|
Gofynnodd y Cynghorydd H Eifion Jones faint o
hawliadau am gyflog cyfartal sydd wedi llwyddo. Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) nad yw’r
ceisiadau hynny sydd wedi mynd trwy’r Panel Cwynion yn lleol
wedi llwyddo. Fodd bynnag, mae rhai o’r cwynion
sy’n berthnasol i undeb benodol yn awr yn destun apêl a
byddant yn dod gerbron Panel apelio ar adeg briodol.
Mae’r undeb arall sy’n cynrychioli’r
hawlwyr wedi penderfynu peidio parhau gyda’r
apêl.
|
|
|
|
Holodd y Cynghorydd Jones ymhellach am
rôl y Panel mewn perthynas â darparu canllawiau
i’r rheini a fydd yn cynrychioli’r Cyngor mewn
trafodaethau. Nododd y bu Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel
hwn, yn y gorffennol, yn gwasanaethu ar y Panel a fu’n trafod
gyda’r Undebau Llafur mewn perthynas â’r cynllun
arfarnu. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) mai rôl Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel hwn
oedd fel sylwedyddion yn unig ac nid i drafod ar y Panel penodol
hwnnw a bod y cyfrifoldeb hwnnw wedi’i ddirprwyo iddo ef
a’i Reolwr Personel. Nododd y Cynghorydd Jones nad oedd
o o’r farn mai sylwedydd yn unig oedd o fel Cadeirydd y Panel
Cyflogau a Graddfeydd yn y Panel a fu’n trafod gyda’r
Undebau Llafur. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
bod y Panel Cyflogau a Graddfeydd hwn wedi cael holl bwer y Cyngor
Sir i wneud penderfyniadau ar y strwythur cyflogau newydd.
Nododd y byddai’n anffodus dwyn aelodau o’r Panel
hwn i mewn i drafodaethau gyda’r Undebau Llafur oherwydd bod
perygl o wneud penderfyniad rhagblaen ac na fyddai modd i
gynrychiolwyr y Panel wedyn wneud penderfyniad terfynol ar y
strwythur cyflogau.
|
|
|
|
Cododd y Cynghorydd H Eifion Jones fater
ynghylch aelodaeth y Panel Cyflogau a Graddfeydd. Cyn
etholiadau’r Cyngor Sir a gynhaliwyd fis Mai diwethaf, nododd
bod ar y Panel 6 aelod a oedd yn cynrychioli’r holl grwpiau
gwleidyddol. Roedd gan y Panel bellach 5 Aelod heb unrhyw
gynrychiolydd o’r Blaid Lafur. Nododd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid), y gwnaeth y Cyngor Sir benderfyniad yn ei
gyfarfod ar 9 Mai, 2008 y dylid gostwng aelodaeth y Panel Cyflogau
a Graddfeydd o 6 i 5 aelod i greu cydbwysedd o safbwynt strwythur
gwleidyddol cyfarfodydd y Cyngor Sir. Fodd bynnag, nododd,
oherwydd newid pellach diweddar yn aelodaeth y grwpiau, y disgwylir
y bydd angen adolygu ymhellach y mater o gydbwysedd gwleidyddol yn
fuan.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
|
|
|
|
6
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNNYDD A WNAED HYD YMA
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan Mr Martin Denny, Uwch
Ymgynghorydd Allanol yng nghyswllt y cynnydd a wnaed hyd
yma.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Mr Denny y bu’r Cyngor yn cynnal adolygiad
o’r strwythur graddfeydd oddi mewn i’r sefydliad ers
2001, wedi’i symbylu gan Gytundeb Statws Sengl 1997 ac yn
rhannol o ganlyniad i adolygiad ac ailstrwythuro mewnol. Wrth
gynllunio’r ymarferiad arfarnu swyddi, sefydlodd y Cyngor yr
egwyddorion a’r arfer dda a amlinellir yn y canllawiau
cenedlaethol i gwblhau’r ymarferiad ac roedd hynny’n
cynnwys cwblhau’r ymarferiad ar y cyd gyda’r undebau
llafur. Roedd yr ymarferiad cychwynnol a gwblhawyd yn cynnwys
cyhoeddi set o sgoriau swyddi ond methodd y Cyngor â dylunio
strategaeth gyflog fforddiadwy ar sail y data a
gyhoeddwyd.
|
|
|
|
|
|
Comisiynodd y Cyngor adroddiad ym mis Mawrth 2006 gan grwp
HAY i gynnal adolygiad annibynnol o gynnydd y Cyngor wrth
weithredu’r cynllun. Dynodwyd yn yr adroddiad nifer o
faterion ac argymhellion. Wrth ystyried adroddiad HAY,
cynhaliodd y Cyngor adolygiad gyda Phenaethiaid Gwasanaeth.
Cafodd y sgoriau arfarnu swyddi eu hailasesu gan y
Penaethiaid Gwasanaeth yn unol ag arferion lleol diwygiedig a oedd
yn seiliedig ar y gwersi allweddol yn adroddiad HAY ac a oedd yn
ymwneud â chanllawiau’r Cyd-Gyngor Genedlaethol.
Cafodd y Penaethiaid Gwasanaeth drafodaeth ar y cyd i geisio
cael rhyw fesur o gysondeb ar draws y sgoriau a
ailaseswyd.
|
|
|
|
|
|
Fel modd o wirio’r sgoriau ymhellach, bu’r
Panel Sicrhau Ansawdd ac arno Swyddogion a chynrychiolwyr o’r
Undebau Llafur yn ailasesu’r sgoriau ar ôl adolygiad y
Penaethiaid Gwasanaeth gan ddefnyddio’r crynodeb o’r
rhestr wirio a oedd yn Nodyn Ymgynghorol y Cyd Gyngor Cenedlaethol
dyddedig Medi 2003 er mwyn :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ystyried a oedd y sgoriau’n gyson â’r
confensiynau lleol a ddiwygiwyd
|
|
|
Ÿ
|
Ystyried a oedd y sgoriau’n cwrdd â
chanllawiau’r Cyd Gyngor Cenedlaethol ar sicrhau safon gan
nodi’n benodol :-
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Dosbarthiad gwerthusiadau
|
|
|
Ÿ
|
Gwiriadau ffactor penodol
|
|
|
Ÿ
|
Amrediad cyffredinol y sgoriau wedi eu pwysoli
|
|
|
Ÿ
|
Gwiriadau penodol o sgoriau cyfan a bwysolwyd
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Mr Denny ymhellach, er mwyn cefnogi’r
broses, bod dau grwp ychwanegol o reolwyr a chynrychiolwyr yr
undebau llafur wedi cael eu hyfforddi yng nghynllun Arfarnu
Swyddi’r Cyd Gyngor Cenedlaethol. Bu gan y rheini
rôl bwysig yn y prosiect diweddaraf i gynhyrchu rhestr fwy
cyson o drefn restrol y swyddi. Cytunwyd ar y cyd ar y
fethodoleg fanwl a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ymarfer hwn ac roedd yn
seiliedig ar Sicrhau Ansawdd Arfarnu Swyddi y Cyd Gyngor
Cenedlaethol : Rhai gwiriadau pellach (’sore
thumbing’)/safoni. Roedd hyn wedi cynnwys defnyddio
gwybodaeth a oedd yn cynnwys data y Penaethiaid Gwasanaeth,
siartiau sefydliadol, cyfarfodydd â Phenaethiaid Gwasanaeth a
nodiadau panel. Roedd swyddi’r panelwyr wedi cael eu
harfarnu’n annibynnol gan yr Ymgynghorydd LGE a
chynrychiolydd Undeb Llafur.
|
|
|
|
|
|
Cymerwyd y camau allweddol canlynol i sicrhau trefn
restrol gyson a thryloyw ar bob cam yn y rhan hon ac roedd y paneli
prosiect wedi cyfiawnhau a rhoi rhesymau dros unrhyw newidiadau yn
y sgoriau:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cam 1 - Adolygu Meincnod swydd yng ngoleuni’r
adroddiad archwilio. Canfuwyd bod raid cymryd nifer o swyddi
ychwanegol ac ailsgorio’r holl feincnodau swyddi.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cam 2 - Cymryd yr holl swyddi mewn trefn restrol gyda
threfn uchaf-isaf a gwirio i weld fod yr arfarnu yn dilyn yn
gyffredinol y swyddi meincnod a dynodi’r swyddi hynny a oedd
angen eu gwirio ymhellach (sore thumbing).
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cam 3 - Ymgymryd â chymariaethau ffactor wrth
ffactor o’r cyfan o’r 13 ffactor unigol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cam 4 - Gwirio yn erbyn strwythurau sefydliadol fesul
adran ac yn erbyn hierarchaethau. Aethpwyd â hyn i
lefel gwasanaeth.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cam 5 - Gwirio yn erbyn ‘teuluoedd’ o
swyddi.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cam 6 - Adolygu’r sgoriau gyda Phenaethiaid
Gwasanaeth.
|
|
|
|
|
Nodwyd bod angen rhoddi sylw gofalus i’r
modd y bydd y broses a’r canlyniadau’n cael eu
cyfathrebu er mwyn codi hyder yn y cynllun a’i dryloywder yn
awr ac yn y dyfodol. Oherwydd yr amser a gymerwyd i
gwblhau’r ymarferiad arfarnu, mae angen cytuno ar broses
apêl fanwl i’r cam hwn a chyfathrebu hynny i’r
holl staff h.y. os yw swyddi wedi newid yn sylweddol yn ystod yr
amser hwn, rhaid cael cytundeb ar y modd yr arfernir y newidiadau.
Mae angen cynllunio hefyd sut y bydd swyddi yn y dyfodol yn
cael eu harfarnu gan gynnwys swyddi newydd, newidiadau i swyddi
presennol a swyddi yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac
anuniongyrchol gan adolygiadau sefydliadol.
|
|
|
|
Mae gan y Cyngor ar hyn o bryd nifer o swyddi
gyda bandiau eang ac mae cynnydd yn amodol ar gymwysterau.
Rhaid rhoi ystyriaeth i ddatblygu graddfeydd
gyrfaol.
|
|
|
|
Bydd angen i’r Cyngor gwblhau asesiad
ardrawiad cydraddoldeb ac adolygu’r cynllun yn rheolaidd o
safbwynt cysondeb a chydraddoldeb.
|
|
|
|
Dywedodd Mr Denny bod mwy o’r swyddi yn
awr yn agosach at ei gilydd o safbwynt bandiau a graddfeydd;
o’r blaen, roedd gan y Cyngor graff ‘gwasgaredig’
o swyddi heb unrhyw bosibilrwydd o’u rhoddi mewn bandiau.
Mae’r Cyngor bellach wedi cyrraedd pwynt yn y broses
lle gallant weithio allan band cyflog mwy derbyniol.
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y
Panelwyr arfarnu swyddi wedi gwneud llawer o waith i gyrraedd
carreg filltir yn y broses yn awr ac y bydd y gwaith o
ailfodelu’r strwythur cyflog yn cychwyn. Ategodd y
Rheolwr-gyfarwyddwr bod y Panelwyr wedi gwneud oriau o waith yn
ystod y broses ac mai mater fforddiadwyaeth y cynllun sy’n
codi’n awr. Roedd yr Aelodau’n dymuno diolch
i’r Panelwyr am eu gwaith.
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
|
|
|
|
7
|
Y GWAITH A WNEIR AR HYN O BRYD A’R AMSERLEN
I’R DYFODOL
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - yr amserlen
ar gyfer gwaith cyfredol ac amserlen i’r dyfodol.
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth
Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y disgwylid y
byddai’r drefn restrol newydd a’r strwythur cyflogau yn
cael eu cyhoeddi ym mis Medi. Roedd o’n disgwyl y bydd
pob aelod o staff yn derbyn llythyr yn nodi ei sgôr arfarnu
swyddi a’r band cyflog newydd. Bydd sesiynau briffio
hefyd ar gael i’r cyfan o’r staff yn ystod mis
Medi.
|
|
Nododd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) y bydd yr amserlen yn cael ei
hadolygu’n barhaus a gobeithir y bydd staff yn gwybod
canlyniad y broses arfarnu swyddi erbyn canol mis Medi.
Nododd fodd bynnag y bydd y materion yn ymwneud â
fforddiadwyaeth yn fater i’r Panel Cyflogau a Graddfeydd ei
drafod a bydd y trafodaethau gyda’r Undebau Llafur yn
parhau.
|
|
|
|
Nododd y Cynghorydd H
Eifion Jones ei fod o’n gobeithio y bydd ochr weinyddol y
broses arfarnu yn parhau yn ystod y trafodaethau. Dywedodd y
dylai’r Panel dderbyn gwybodaeth ynghylch taliadau wrth gefn,
materion ôl-gyflog a chostau teithio. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod yna faterion y bydd raid
i’r Panel eu trafod yn fanwl ac awgrymodd y dylid cynnal
cyfarfod o’r Panel ym mis Awst.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
|
|
|
|
7.1
|
nodi’r amserlen ar gyfer gwaith cyfredol a
gwaith yn y dyfodol.
|
|
|
|
|
7.2
|
bod cyfarfod o’r Panel Cyflogau a Graddfeydd yn
cael ei gynnal ar ddyddiad cyfleus i’r Aelodau yn ystod mis
Awst.
|
|
|
|
|
EITEM YCHWANEGOL A
YSTYRIWYD GAN Y PANEL
|
|
|
|
CAU ALLAN Y WASG
A’R CYHOEDD
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r canlynol :-
|
|
|
|
"Dan Adran 100 (A)(4)
Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y
tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y
gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni."
|
|
|
|
8
|
TALIADAU YCHWANEGOL PENODOL - RHEOLEIDDIO
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan
y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn perthynas â’r
uchod.
|
|
|
|
Dywedodd y Rheolwr
Personel y codwyd pryderon yn ystod cyfnod y Rheolwr-gyfarwyddwr
blaenorol yn y swydd. Cymeradwywyd tri achos o daliadau
ychwanegol gan y Rheolwr-gyfarwyddwr ei hun ac mewn ymgynghoriad
gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)
a’r Aelod Portffolio (Adnoddau Dynol). Roedd y tri
achos yn ymwneud â Swyddogion a gyflogwyd yn unol â
thelerau ac amodau’r JNC a lle roedd cyfansoddiad y Cyngor yn
nodi mai’r Cyngor Sir ei hun sy’n gyfrifol am
benderfynu ar delerau ac amodau cyflogi Swyddogion o’r
fath.
|
|
|
|
Roedd y tri achos yn
ymwneud â:-
|
|
|
|
Ÿ
|
dau increment ychwanegol a roddwyd i Gyfarwyddwr
Corfforaethol am gyfrifoldebau ychwanegol;
|
|
|
Ÿ
|
lwfans o 7.5% o gyflog sylfaenol a roddwyd i Bennaeth
Gwasanaeth am drefniadau allan o oriau;
|
|
|
Ÿ
|
cydnabyddiaeth ariannol a roddwyd i Bennaeth Gwasanaeth a
weithredodd fel un o’r Panelwyr i bwrpas yr ymarfer arfarnu
swyddi.
|
|
|
|
|
Gofynnodd yr Aelodau am ychwaneg o wybodaeth
am yr ail achos. (document not available)Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD:-
|
|
|
|
8.1
cadarnhau’r ddau increment ychwanegol a
roddwyd i Gyfarwyddwr Corfforaethol am gyfrifoldebau ychwanegol hyd
oni fydd penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud mewn perthynas
â swydd y Cyfarwyddwr o fewn yr adolygiad cyfredol o gyflogau
a graddfeydd.
|
|
|
|
8.2
cadarnhau’r lwfans a roddwyd i’r
Pennaeth Gwasanaeth am drefniadau allan o oriau ond rhoddir rhybudd
o 3 mis i’r Swyddog y bydd y taliadau’n dod i ben, gyda
golwg ar i’r Panel adolygu’r angen am y taliadau hyn yn
y cyfamser.
|
|
|
|
8.3
cadarnhau’r taliad a roddwyd i’r
Pennaeth Gwasanaeth a weithredodd fel Panelwr i bwrpas y broses
arfarnu swyddi.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD IEUAN
WILLIAMS
|
|
CADEIRYDD
|
|
|
|
Trove Loading Errors
|
|
A page break in a paragraph has
been ignored.
|