|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd H. E. Jones mai gwaith y Panel hwn
oedd edrych ar y darlun mawr ac nid ar y sgorau unigol. Ei
rôl oedd penderfynu ar yr hyn sy'n fforddiadwy i'r Cyngor ac
a oes modd sefydlu strwythur tâl priodol.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Rheolwr Personel at y ffaith na fyddai unrhyw
apeliadau yn cael eu cyflwyno i aelodau'r Panel hwn.
|
|
|
|
|
|
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) o ran
cydbwysedd gwleidyddol y gallai'r Pwyllgor hwn wneud penderfyniad
ffurfiol i gynyddu’r nifer o aelodau ar y Panel.
Byddai'n rhaid iddo wedyn gymryd hynny i ystyriaeth
wrth baratoi ei adroddiad ar gydbwysedd gwleidyddol i gyfarfod y
Cyngor Sir ym mis Medi.
|
|
|
|
|
|
(b) Eitem 8 -
Taliadau Ychwanegol Penodol - Rheoleiddio
|
|
|
|
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r isod :-
|
|
|
|
|
|
"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,
gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth
ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y
Ddeddf eithriad ohoni. "
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Rheolwr Personel bod y Swyddog Monitro, ar
ôl gweld cofnodion y cyfarfod diwethaf, wedi mynegi ei
phryder ynghylch geiriad penderfyniad 8.2. (trefniadau y tu allan i
oriau). Dywedwyd yn y cyfarfod y byddai rhybudd o 3 mis i'r
unigolyn hwn yn ddigonol. Fodd bynnag, yr hyn na ddaeth
drosodd yn y cyfarfod oedd yr angen i drafod gyda'r unigolyn.
Pe bai'r tâl yn newid, yna roedd pecynnau arferol yr
Awdurdod yn dod i rym yn ogystal â phecyn gwarchod os oedd y
cyflog yn gostwng.
|
|
|
|
|
|
Roedd y Swyddog Monitro yn bryderus ynghylch y ffordd yr
oedd y cofnod wedi ei eirio oherwydd y gallai unigolyn ddod ag
achos yn erbyn yr Awdurdod. Awgrymodd y dylid newid y geiriad
er mwyn rhoi i'r Rheolwr-gyfarwyddwr yr awdurdod i drafod gyda'r
unigolyn ynghylch pam yr oedd angen gwneud unrhyw newidiadau, i
wrando ar sylwadau'r unigolyn, i weld a oedd ffordd ymlaen ac yna
adrodd yn ôl i'r Panel hwn am benderfyniad.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD, yn dilyn cyngor y Swyddog Monitro,
cytuno i’r geiriad diwygiedig isod ar gyfer penderfyniad 8.2
o gyfarfod y Panel hwn ar 10 Gorffennaf 2008 fel a ganlyn
:-
|
|
|
|
|
|
8.2 Cadarnhau'r lwfans a roddwyd hyd yma i'r
Pennaeth Gwasanaeth am drefniadau y tu allan i oriau, a rhoddi
awdurdod i'r Rheolwr-gyfarwyddwr ymgynghori gyda'r Pennaeth
Gwasanaeth ynghylch yr angen i'r Pennaeth Gwasanaeth barhau fel
rhan o'r rota wrth gefn. Byddai'r Rheolwr-gyfarwyddwr yn
cyflwyno adroddiad ar ei anghenion ar gyfer cynnal y gwasanaeth y
tu allan i oriau i gyfarfod o'r Panel Tâl a Graddfeydd yn y
dyfodol.
|
|
|
|
|
3
|
DIWEDDARIAD YNGHYLCH CYNNYDD A'R MATERION A NODWYD
ERS Y CYFARFOD DIWETHAF
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod y
Pro-fforma ar yr amserlen a dosbarthwyd yn y cyfarfod yn delio
gyda'r broses ar gyfer arfarnu staff dan reolau'r 'Llyfr
Gwyrdd'.
|
|
|
|
|
|
Roedd y pro-fforma mewn fformat gwahanol i'r hyn yr oedd
yr aelodau wedi ei weld o'r blaen ac roedd yn crynhoi'r cynnydd a
wnaed hyd yma mewn perthynas â chyhoeddi'r sgorau terfynol.
Roedd yr amserlen hon wedi ei hadolygu'n drwyadl ers cyfarfod
diwethaf y Panel o gofio'r sylwadau a wnaed gan y Panel ac mewn
mannau eraill.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y ffaith fod y
materion isod wedi eu cwblhau yn unol â'r amserlen y cytunwyd
arni :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Adolygiad gan Benaethiaid Gwasanaeth
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Cyfarfodydd Penaethiaid Gwasanaeth gydag Uchel
Ymgynghorydd Allanol
|
|
|
Ÿ
|
Llofnodi bod y gwaith sgorio wedi ei gwblhau.
|
|
|
|
|
Ar 24 Mehefin llofnododd y Bwrdd Prosiect y
gwaith sgorio a derbyniodd bod y broses wedi ei chwblhau,ond gan
nodi y byddai angen, efallai, roi sylw i unrhyw gwestiynau hwyr neu
anghysondebau difrifol yn y sgorau erbyn y dyddiad cau sef 5 Medi
2008.
|
|
|
|
Y meddalwedd Modelu Tâl oedd y gronfa
ddata a oedd yn dal yr holl wybodaeth mewn perthynas â staff
a'u swyddi, eu hen gyflogau a'u sgorau. Trwy gydol o broses
cafwyd anhawster o ran cysoni pob eitem o wybodaeth a oedd ar gael
ynghylch pob aelod o'r staff. Un o'r problemau a gafwyd oedd
bod y gronfa ddata yn symud yn barhaol oherwydd bod staff yn
trosglwyddo o un swydd i'r llall ac roedd hi'n anodd cadw trac o'r
symudiadau hyn. Roedd gwaith felly wedi bod yn cael ei wneud
ar lanhau data ac roedd gwaith gwirio terfynol yn cael ei wneud
gyda'r nod o gwblhau'r ymarfer erbyn diwedd y mis hwn.
|
|
|
|
O ran Modelu Tâl, roedd y swyddogion yn
ymwybodol o'r sgorau terfynol ac roeddent bellach yn gallu modelu'r
cyflogau yn fanylach. Roedd y Grwp Modelu Tâl yn
goruchwylio'r gwaith ar ochr y rheolwyr ac roedd gan ochr yr
Undebau hefyd hawl i archwilio'r gwaith modelu. Roedd yn
rhagweld y byddai angen i'r Panel hwn gyfarfod yn yr wythnos gyntaf
ym mis Medi i drafod opsiynau, manylion ynghylch pwy sy'n ennill a
cholli, trefniadau gwarchod cyflog ac ati ar gyfer trafodaeth wedyn
gyda'r Undebau o 12 Medi 2008. Trefnwyd cyfnod o fis wedyn
i'r Undebau gyflwyno eu hymateb a byddai hwnnw'n cael sylw wedyn
gan y Panel.
|
|
|
|
Roedd yn ystyried bod y garreg filltir o 12
Medi 2008 ar gyfer rhoi manylion i staff yn un bwysig iawn.
Byddai'n rhaid i'r Undebau hefyd gynnal pleidlais ymysg
gweithwyr ynghylch a oeddent yn fodlon derbyn y pecyn.
|
|
|
|
Cyhoeddi deunydd oedd rhan nesaf yr amserlen a
chyfeiriwyd at y gwaith gweinyddol yr oedd angen ei wneud er mwyn
cynhyrchu llythyr i’r holl weithwyr yn nodi eu sgorau
terfynol. Byddai llyfrynau hefyd ar gyfer y staff ynghyd
â sesiynau gwybodaeth i egluro'r broses i'r staff cyn iddynt
dderbyn y llythyrau.
|
|
|
|
Soniodd y byddai'n rhaid i'r Panel hwn gael
trafodaethau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ynghylch Tâl a
Graddfeydd ac ynghylch yr hyn a gynigiwyd i'r Undebau.
|
|
|
|
Roedd Asesiad Effaith Cydraddoldebau yn
weithdrefn ffurfiol yr oedd raid ei dilyn ynghylch y strwythur
tâl arfaethedig o bersbectif cydraddoldeb. Byddai'n
rhaid i hyn ddigwydd rhwng Medi a Hydref 2008. Byddai
gweddill yr amserlen yn cael ei chadarnhau ar gyfer cyhoeddi trefn
ranc newydd, y broses apelio a materion cyflog.
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd H. E. Jones ei bod hi'n
bwysig cwrdd â'r garreg filltir gyntaf, h.y. derbyn y gronfa
ddata gan y Pennaeth Gwasanaeth erbyn y dyddiad y cytunwyd arno,
sef 29 Awst 2008. Fel arall byddai gweddill y rhaglen yn
llithro.
|
|
|
|
Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol nad oedd yn rhagweld unrhyw broblemau o ran cael
sylwadau ond roedd profiad yn awgrymu mai datrys gwahaniaethau oedd
yn cymryd amser.
|
|
|
|
Holodd y Cynghorydd H. E. Jones a fyddai'r
Panel hwn yn cael cyfle i ystyried y Modelu Tâl ?
|
|
|
|
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
y byddai gan y Panel, y Bwrdd Prosiect, yr Undebau a'r Tîm
Rheoli oll gyfle i wneud hynny.
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Cynghorydd H. E. Jones at
faterion gwarchod cyflog a oedd wedi codi yn ddiweddar yn y Llys
Apêl.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Roedd y ffaith bod y Cyngor hwn yn cynnig
gwarchodaeth am bedair blynedd yn golygu y byddai llai o arian ar
gael i dalu am y strwythur tâl newydd. Yn amodol ar
arweiniad cyfreithiol, roedd yn ystyried y gallai fod yn opsiwn i
edrych ar ostwng y cyfnod gwarchod tâl.
|
|
|
|
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
fod y cyfnod gwarchod tâl am 4 blynedd yn rhan o drefniadau
Adnoddau Dynol yr Awdurdod hwn. Roedd yr Undebau yn disgwyl y
byddai'r Awdurdod yn glynu wrth y polisi hwn. Fodd bynnag,
nid oedd modd cymryd yn ganiataol na fyddai'r polisi yn newid.
Efallai na fyddai'r Awdurdod yn gallu fforddio'r polisi gyda'r
cyllid a oedd ar gael a gall hwn fod yn fater ar gyfer trafodaethau
pellach.
|
|
|
|
Gofynnodd y Cynghorydd H. E. Jones a fyddai
modd i'r Panel hwn gael manylion ynghylch telerau setliad Cyngor
Gwynedd gyda'r Undebau? Roedd yn ystyried y byddai hynny'n
fuddiol i drafodaethau'r Panel.
|
|
|
|
Dywedodd y Cadeiryd bod y rhan fwyaf o'r
gwaith anodd wedi ei gwblhau a gofynnodd am gynnal trafodaethau
rhwng yr Undebau er mwyn bwrw ymlaen gyda'r mater hwn yn gyflym er
budd y staff.
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
bod y Bwrdd Prosiect wedi gofyn i'r Undebau egluro eu hamserlen.
Ni chafwyd ymateb hyd yma ond efallai bod hynny o ganlyniad
i'r amser a gymerwyd gan yr Undebau i ddelio gyda'r gweithredu
diwydiannol yn ddiweddar.
|
|
|
|
Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddogion am
wybodaeth i gyfarfod nesaf y Panel hwn ynghylch sut yr oedd y
strwythur modelu tâl ar gyfer Cyfarwyddwyr Corfforaethol a
Phenaethiaid Gwasanaeth yn mynd yn ei flaen.
|
|
|
|
Awgrymodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y dylid
cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Panel hwn, ynghyd â
phapurau cysylltiedig, i gyfarfod nesaf y Panel hwn er mwyn rhoi'r
wybodaeth gefndirol berthnasol yn y cyswllt hwn.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
|
|
|
|
Ÿ
|
Gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) roi manylion i'r Panel hwn ynghylch y setliad rhwng
Cyngor Gwynedd a'r Undebau.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Gofyn i swyddogion roi'r wybodaeth diweddaraf i
gyfarfod nesaf y Panel hwn ynghylch strwythur modelu tâl
arfaethedig ar gyfer cyflogau swyddi rheng gyntaf ac ail reng, a
chynnwys fel gwybodaeth gefndir, gofnodion y cyfarfod o'r Panel hwn
a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2007 a'r arweiniad a roddwyd i'r Panel
ynghylch cymariaethau gyda chyflogau'r farchnad (cyflogau sylfaen y
sector cyhoeddus).
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Bod manylion yr opsiynau Modelu Tâl yn cael eu
cyflwyno i’r cyfarfod o’r Panel hwn ym mis
Medi.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Fel y gofynnwyd yng nghyfarfod diwethaf y Panel hwn,
gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) adrodd
yn ôl i'r Panel hwn ynghylch materion sy'n gysylltiedig
â thaliadau wrth gefn, materion ôl-dâl a chostau
teithio.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Daeth y cyfarfod i ben am
2:40pm
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS
|
|
CADEIRYDD
|
|
|