|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
2.1
|
Strwythur Modelu Tâl Arfaethedig ar gyfer
Cyflogau Haen Gyntaf ac Ail Haen
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd y Rheolwr-gyfarwyddwr wybodaeth gefndir i'r Panel
mewn perthynas â'r adolygiad annibynnol gan Grwp HAY o
gyflogau haen gyntaf ac ail haen. Roedd yn ystyried y dylid
asesu cyflogau haen gyntaf ac ail haen gyda chyflogau holl staff
eraill yr awdurdod. Cyfeiriodd y Rheolwr-gyfarwyddwr at
benderfyniad y Panel Adolygu Tâl a Graddfeydd a gynhaliwyd ar
22 Mawrth 2007 ac a gafodd ei newid wedyn gan y Panel ar 1 Mehefin
2007, fel a ganlyn :-
|
|
|
|
|
|
"Fel y gellid symud ymlaen gyda’r model
tâl a chostau, ‘roedd angen canllawiau ar lefel
arwyddol cyflogau cyn gwneud penderfyniad. Ni wnaed unrhyw
benderfyniad ar dueddiadau cyflog y cytunwyd arnynt hyd oni
fyddai’r gwaith costio wedi dod yn ôl i’r Panel
fel y gellir cytuno ar faterion yn ymwneud â
fforddiadwyaeth.
|
|
|
|
|
|
Yn codi o’r trafodaethau manwl ar y
cyflwyniad, “cytunwyd ar lefel cyflogau a oedd yn cynrychioli
cynnydd o 5% uwchlaw’r uchafswm cyfredol (ac eithrio cyflog y
Rheolwr-gyfarwyddwr ). Byddai hyn yn darparu ffigwr
cychwynnol ar gyfer trafodaethau gyda’r Undebau
Llafur.”
|
|
|
|
|
|
Gofynnodd y Rheolwr-gyfarwyddwr i'r Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol) aros yn y cyfarfod i roi gwybodaeth
ffeithiol am y cyflogau. Aeth y Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol) trwy bob un o'r 21 o swyddi haen
gyntaf ac ail haen mewn manylder. Cyfeiriodd at swydd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)
a nododd bod HAY wedi ailasesu'r swydd hon yn dilyn cyfuno swydd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio a Gwasanaethau Amgylcheddol) a
swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Priffyrdd a Thrafnidiaeth).
Ailaseswyd y swydd hon yn awr i'r un lefel â swydd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol).
Cyfeiriodd y swyddog hefyd at swydd y Pennaeth Gwasanaeth
(Archwilio) a nododd bod y Cyngor Sir wedi penderfynu rhoi'r
gwasanaeth archwilio allan i gontract. Mae cyflog ar gyfer
swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio) wedi ei glustnodi i dalu am
gost dibenion contractyddol.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Swyddog bod gwahaniaeth oddeutu £22,500 ar
hyn o bryd rhwng tâl Penaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr
Corfforaethol. Mae gwahaniaeth bychan yn yr awdurdod rhwng
swyddi Penaethiaid Gwasanaeth, sef oddeutu £4,000.
Nododd y bydd raid ystyried a ddylid estyn y golofn pwyntiau
cyflog ar gyfer swyddi eraill yn yr awdurdod.
|
|
|
|
|
|
Nododd fod Cyngor Gwynedd yn gweithio ar golofn pwyntiau
cyflog a oedd yn cynnwys 65 o bwyntiau. Mae'r cyflog uchaf,
gan gynnwys y codiad tâl 2.45% a ddyfarnwyd yn ddiweddar,
bellach o gwmpas £55,000 yng Ngwynedd. Felly, mae'r
gweithwyr sy'n cael y cyflogau mwyaf yn y llyfr gwyrdd yn cael eu
talu'n well na phob un o'r Penaethiaid Gwasanaeth yn yr awdurdod
hwn. Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) y wynebir rhai sialensiau yn y dyfodol i geisio denu
gweithwyr i swyddi o'r fath.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod y Panel, ym mis
Mawrth 2007, wedi trafod ffigwr arwyddol o 5% fel canllaw yn unig.
Nododd bod rhai awdurdodau wedi sortio'r cyflogau haen gyntaf
ac ail haen cyn ystyried staff eraill yn eu hawdurdodau.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
2.2
|
Manylion am y Setliad rhwng Cyngor Gwynedd a'r
Undebau
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd - dogfen gytundeb a ddrafftiwyd gan
Gyngor Sir Gwynedd a'r Undebau Llafur cydnabyddedig.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) bod bwriad i gynhyrchu dogfen debyg i honno a gafodd
ei drafftio gan Gyngor Gwynedd. Nododd y byddai'r ddogfen yn
cael ei chyflwyno i'r Panel hwn cyn unrhyw broses
ymgynghori.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod y ddogfen
ddrafft yn ddefnyddiol ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol ynghylch
cytuno ar y strwythur tâl a graddfeydd. Cyfeiriodd at y
'Polisi Tanberfformio' a holodd a fyddai modd cynnwys polisi o'r
fath yn y ddogfen a gynhyrchir ar gyfer yr awdurdod hwn yn y
dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd bod gan yr awdurdod hwn bolisi
o'r fath eisoes. Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones ei bod
yn ymddangos fod Cyngor Gwynedd wedi cryfhau ei 'Bolisi
Tanberfformio'.
|
|
|
|
|
|
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones fod y Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol) wedi gwneud llawer o waith gyda'r
Panelau Undebau Llafur mewn perthynas â'r strwythur graddio
newydd, y system werthuso a'r system oriau hyblyg. Gofynnodd
a fyddai’r gwaith a wnaed ar y materion hyn yn parhau i gael
ei drafod yn y pecyn gyda'r Undebau Llafur. Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fod y materion a
godwyd gan y Cynghorydd Jones yn dal i fod yn y pecyn
trafod.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cafwyd cyflwyniad gan y Cydlynydd Strategol, Mr. Geraint
Elis ar y gwaith a wnaed mewn perthynas â'r Cynllun Modelu
Tâl. Aeth Mr. Elis trwy dri o wahanol opsiynau model
tâl mewn manylder.
|
|
|
|
|
|
Ystyriwyd nad oedd yr opsiwn cyntaf yn dderbyniol oherwydd
bod y strwythur tâl yn llawer uwch na'r llinell sy'n ffitio
orau ac ystyriwyd ei fod yn llawer rhy ddrud.
|
|
|
|
|
|
Ystyriwyd nad oedd yr ail opsiwn yn dderbyniol oherwydd
bod y strwythur tâl yn sylweddol is na'r llinell sy'n ffitio
orau, gan arwain at nifer fawr o weithwyr yn cael llawer llai o
gyflog.
|
|
|
|
|
|
Nododd bod y tîm modelu tâl ar hyn o bryd yn
ystyried mai'r trydydd graff a gyflwynwyd i'r cyfarfod yw'r un sy'n
ymddangos fel pe bai'n cydweddu orau gyda'r elfen fforddiadwyaeth
ar gyfer yr awdurdod hwn. Dywedodd bod angen gwneud llawer o
waith i ddatblygu mwy ar yr opsiwn hwn.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y byddai'r
trydydd graff a gyflwynwyd i'r Panel yn costio £500,000 net
bob blwyddyn a byddai'n rhaid trafod y mater fforddiadwyaeth.
Nododd fod yr awdurdod wedi diogelu swm o £800,000 y
flwyddyn. Ychwanegodd fod hyn yn 2% o gyfanswm cyflogau'r
awdurdod. Fodd bynnag, nododd bod gwendidau yn y model hwn
oherwydd nad yw'r holl swyddi wedi eu cynnwys yn y graff. Nid
yw'r graff ond yn dangos tâl sylfaenol ac nid yw'n cynnwys
lwfansau ychwanegol a delir i weithwyr h.y. tâl allan o
oriau. Bydd raid i'r £800,000 gwrdd â'r cyfan o'r
strwythur staffio. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol o'r farn
nad yw'r model tâl a ffefrir ar hyn o bryd yn un y gellir ei
fforddio.
|
|
|
|
|
|
Gofynnodd y Cynghorydd H. Eifion Jones a yw cymorthyddion
ysgol wedi eu cynnwys yn yr opsiwn modelu tâl hwn. Dywedodd y
Cydlynydd Strategol eu bod wedi eu cynnwys a nododd fod y mater yr
adroddwyd arno yn y wasg yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, sef na
fyddai cynorthwywyr dysgu yn cael eu talu yn ystod gwyliau ysgol ,
yn berthnasol i'r awdurdod hwn. Fodd bynnag, dywedodd nad
oedd yr awgrym na fyddant yn cael eu talu yn ystod gwyliau ysgol yn
gywir, y mater dan sylw yw a fyddant yn cael eu talu am y 12
wythnos yn llawn, gwyliau ysgol ai peidio.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn cytuno gyda'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) nad yw'r model tâl
cyfredol sydd dan sylw yn un y gall yr awdurdod ei fforddio.
Nododd hefyd y byddai'r pecyn diogelu cyflog yn gost i'r
awdurdod 3 i 4 blynedd ar ôl cwblhau'r broses arfarnu
swyddi.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
2.4
|
Taliadau am fod wrth gefn, Materion
Ôl-dâl a Chostau Teithio
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth
(Gwasanaethau Corfforaethol) mewn perthynas â'r uchod.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) y gwnaed cynnydd o ran lwfansau a threfniadau
ar gyfer swyddogion y mae gofyn iddynt fod wrth gefn. Fodd
bynnag, mae angen gweithredu mewn dull mwy cyson ar draws yr
awdurdod mewn amgylchiadau lle mae'r galwadau a'r gofynion yn
amrywio'n sylweddol y tu allan i'r diwrnod gwaith arferol ac ar
benwythnosau.
|
|
|
|
|
|
Rhoddwyd sylw i anghenion gwasanaethau unigol a'r
trefniadau a sefydlwyd eisoes yn ogystal â modelau a systemau
talu a ddefnyddir mewn mannau eraill. Bwriedir cyflwyno set o
gynigion i'w hystyried gan y Tîm Rheoli yn ystod mis Tachwedd
gyda golwg ar sicrhau cytundeb ffurfiol yn ystod mis
Rhagfyr.
|
|
|
|
|
|
Gofynnodd y Cadeirydd am i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r
Tîm Rheoli gael ei gyflwyno i'r Panel hwn hefyd gyda
hyn.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod trafodaethau yn parhau
mewn perthynas â Theithio Busnes gyda golwg ar sicrhau newid
sylweddol o ran ad-dalu am gostau teithio busnes. Yn codi o'r
cyfarfodydd gyda'r Undebau Llafur ar y mater penodol hwn, lluniwyd
trefniadau posib ar gyfer y dyfodol ar y cyd ac mae'r ddwy ochr yn
ystyried y manylion ar hyn o bryd. Mae'r cynigion hyn, fel y
maent ar hyn o bryd, yn seiliedig ar gyfraddau Swyddfa Cyllid y
Wlad ar gyfer nifer o filltiroedd y gellir eu teithio ar fusnes
swyddogol cyn dechrau talu treth, ond gyda rhai pethau yn wahanol.
Byddant yn golygu y byddai'r trefniadau cyfredol mewn
perthynas â defnyddwyr car hanfodol ac achlysurol yn dod i
ben. Ar hyn o bryd, mae dau o'r tri o'r Undebau Llafur wedi
dweud eu bod yn fodlon gyda'r pecyn. Mae'r trydydd yn dal i
drafod ond bydd yn ceisio ymateb cyn pen pythefnos.
|
|
|
|
|
|
Mewn perthynas â materion ôl-dâl,
dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau (Gwasanaethau Corfforaethol) fod
yna dri chategori o achosion lle bydd hawl i ôl-dâl neu
gais am ôl-dâl yn debygol o godi sef :-
|
|
|
|
|
|
(a) cwynion
/ hawliadau tâl cyfartal - bydd bron y cyfan o'r hawliadau
hyn wedi eu cofrestru gan ferched (cyn-weithwyr maniwal) - ac yn
ymwneud â’r ymarfer gwerthuso swyddi i Weithwyr Maniwal
a gynhaliwyd yn 1987/1988 a'r gwahaniaeth yn y modd o drin dynion a
merched mewn perthynas ag argaeledd cynlluniau bonws.
|
|
|
|
|
(b)
cwynion / hawliadau tâl cyfartal
- unwaith eto, bydd y cyfan o'r rhain bron gan ferched sy'n
gweithio i'r awdurdod ar hyn o bryd - mewn perthynas â'r
ymarfer arfarnu cyfredol.
|
|
|
|
(c)
achosion ynghylch y gweithwyr hynny a
gafodd gyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol sylweddol yn sgil
trefniadau adolygu ac ailstrwythuro trefniadol y Cyngor yn 2000/01
ac/neu yn sgil newidiadau trefniadol wedi hynny - cafodd y
gweithwyr hyn gydnabyddiaeth interim ar ffurf incrementau
ychwanegol hyd oni fydd adolygiad cyfredol wedi dod i
ben.
|
|
|
|
Rhwng (a) a (b) mae
oddeutu 100 o achosion wedi eu cofrestru gyda'r awdurdod ar hyn o
bryd gan yr Undebau Llafur, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain hefyd
wedi cofrestru ar gyfer gwrandawiad mewn tirbiwnlysoedd
cyflogaeth.
|
|
|
|
Mae yna dros 100 o
weithwyr yng nghategori (c) uchod, ond bydd unrhyw hawl i
ôl-dâl yn dibynnu ar y sgôr arfarnu ar gyfer y
swyddi y maent yn eu gwneud ar hyn o bryd a'r llinell dâl a
fabwysiedir gan y Cyngor Sir.
|
|
|
|
Mae'r sefyllfa mewn
perthynas ag ôl-dâl yn gynyddol gymhleth yn sgil y twf
yn y gyfraith achos mewn perthynas â'r mater hwn a’r
achosion sy'n cael sylw ar hyn o bryd - penderfyniadau sy'n aml
yn tynnu'n groes i'w gilydd. Yng Nghymru mae ymhell
dros 11,000 o achosion wedi eu cofrestru ar gyfer gwrandawiadau
tribiwnlys a gwnaed y penderfyniad i ystyried cyfres o achosion
prawf yng Ngwanwyn y flwyddyn nesaf a gallai’r rheini gael
effaith sylweddol ar yr hawliadau yng nghategoriau (a) a (b) uchod.
Materion i'w penderfynu arnynt yn lleol yn unig yw'r rheini
yng nghategori (c).
|
|
|
|
Gofynnodd H. Eifion Jones
a fyddai'r cytundeb ynghylch Teithio Busnes yn arwain at arbedion
wedyn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) y byddai rhai arbedion ond byddai’n rhaid
ystyried yr elfen diogelu cyflog ynghylch gweithwyr sy'n newid o
fod yn ddefnyddwyr car hanfodol i fod yn ddefnyddwyr
achlysurol.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
|
|
|
|
3
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH CYNNYDD YN GYFFREDINOL
GYDA’R ADOLYGIAD TÂL A CHYFLOGAU
|
|
|
|
|
Cafwyd adroddiad ar y
sefyllfa ddiweddaraf gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) mewn
perthynas â'r Adolygiad Tâl a Chyflogau.
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol fod y modelu tâl a drafodwyd yn gynharach yn y
cyfarfod hwn wedi bod yn gam sylweddol tuag at yr Adolygiad
Tâl a Chyflogau. Fodd bynnag, nododd bod angen gwneud
llawer o waith i symud y broses yn ei blaen. Nododd ei fod yn
gobeithio y gellid cynnal trafodaethau cyn y Nadolig gyda'r Undebau
Llafur ynghylch y modelu tâl posib. Mae'r Undebau
Llafur wedi dweud eu bod yn disgwyl i'r broses drafod gymryd o
leiaf 3 mis i'w chwblhau.
|
|
|
|
Ychwanegodd y swyddog ei
bod yn annebygol y byddai unrhyw broses o'r adolygiad yn cael ei
hadolygu cyn Ebrill 2009.
|
|
|
|
Gofynnodd y Cynghorydd H.
Eifion Jones a lwyddwyd i gwrdd ag unrhyw un o'r dyddiadau a
bennwyd ar gyfer cwblhau tasgau yn yr amserlen a gyflwynwyd i'r
cyfarfod diwethaf. Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud ei fod
yn disgwyl cael gwybodaeth erbyn diwedd mis Tachwedd ynghylch a
fydd unrhyw lithro yn yr amserlen.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r
adroddiad.
|
|
|
|
4 TREFNIADAU RHEOLI INTERIM
|
|
|
|
Dywedodd y Cadeirydd fod
yr Arweinydd wedi gofyn am gael gohirio'r eitem hon oherwydd y
byddai'n hoffi cael rhagor o drafodaethau ar y mater.
Cynigiodd y Cynghorydd A. M. Jones y dylid gohirio'r
eitem.
|
|
|
|
Ymatebodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) trwy ddweud mai adroddiad oedd hwn i
gadarnhau'r trefniadau a wnaed eisoes. Pe bai'r eitem yn cael
ei ohirio a ydi'r Adran Gyllid wedyn yn peidio â thalu'r
lwfans cyfrifoldeb ychwanegol i'r bobl a enwir yn yr adroddiad.
Nododd y Cadeirydd bod yr Arweinydd am gynnal cyfarfod brys i
drafod y mater oherwydd nad oedd yn cytuno'n llwyr gyda'r adroddiad
a gyflwynwyd i'r Panel hwn. Nododd y gellid cynnal cyfarfod
arbennig o'r Panel hwn, os oes rhaid, i drafod y mater
ymhellach.
|
|
|
|
Ymatebodd y
Rheowlr-gyfarwyddwr ei fod yn bryderus bod y mater am gael ei
ohirio oherwydd bod rhai gweithwyr wedi ysgwyddo cyfrifoldebau
ychwanegol o reidrwydd ac fel arwydd o ewyllys da. Dywedodd
ei fod wedi trafod y trefniadau interim gydag Arweinydd y Cyngor
a'r Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol). Roedd
yn cytuno gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fod y
trefniadau interim ar gyfer talu'r gweithwyr hyn yn hollbwysig.
Roedd yn gryf o'r farn y dylid cynnal cyfarfod gyda'r
Arweinydd a'r ddau Aelod Portffolio ar unwaith.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gohirio
rhoi sylw i'r eitem hon hyd nes y ceir cyfarfod arbennig o'r Panel
hwn ar ddechrau'r wythnos nesaf.
|
|
|
|
5 TALIADAU YCHWANEGOL - ALLAN O ORIAU - CYNLLUNIAU
ARGYFWNG
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad gan
y Rheolwr-gyfarwyddwr mewn perthynas â'r uchod.
|
|
|
|
Yn dilyn cyfarfod o'r
Panel Tâl a Chyflogau a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2008 a'r
cofnodion diwygiedig y cytunwyd arnynt ar 7 Awst 2008, dywedodd y
Rhelwr-gyfarwyddwr fod yr adroddiad hwn yn amlinellu'r gofynion
cyfredol ar gyfer cynnal y gwasanaeth tu allan i oriau ynghylch
cynllunio argyfwng.
|
|
|
|
Ers sefydlu Cyngor Sir
Ynys Môn ar 1 Ebrill 1996 roedd y gwaith o ddarparu
gwasanaethau tu allan i oriau ar gyfer cynlluniau argyfwng wedi
cael ei rannu gan Gynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy ar
sail rota. Ers 1 Ebrill 1996, mae tri swyddog yn yr awdurdod
wedi bod yn darparu'r gwasanaeth ar gyfer Cyngor Sir Ynys
Môn. Y swyddogion hynny ar hyn o bryd yw'r Pennaeth
Gwasanaeth - Gwasanaethau Corfforaethol, y Swyddog Cymorth Canolog
a Chynllunio Argyfwng a'r Swyddog Argyfyngau Sifil. Bydd dau
o'r swyddogion ar alwad ar unrhyw adeg (ar sail rota) a darperir y
gwasanaeth ar sail cylch 4 wythnos.
|
|
|
|
Wrth ystyried yr angen i'r
Pennaeth Gwasanaeth barhau i fod yn rhan o'r rota (rhywbeth y mae'r
3 swyddog yn cael taliad ychwanegol amdano sef 7.5% o'u cyflog
sylfaenol), nododd y Rheolwr-gyfarwyddwr pebai penderfyniad yn cael
ei wneud i ddwyn ei ran yn y rota i ben, a rhoi'r rhybudd priodol
iddo, y byddai'r taliad o 7.5% ychwanegol yn parhau am 3 blynedd a
hanner yn unol â threfniadau diogelu cyflog cyfredol y
Cyngor.
|