|
Dywedodd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod ganddo ef, fel Pennaeth
y Gwasanaethau Tâl, bwerau dirprwyol yn ôl Cyfansoddiad
y Cyngor i gymeradwyo trefniadau interim er mwyn sicrhau bod
gwasanaethau yn y Cyngor Sir yn cael eu cynnal a'u bod yn ddiogel.
Roedd y Cynghorydd H. Eifion Jones yn dymuno iddo gael ei
gofnodi y gall Pennaeth y Gwasanaethau Tâl o'r herwydd wneud
trefniadau interim ac mewn gwirionedd, roedd y Panel yn cefnogi
hynny yn y cyfarfod hwn. Nid oedd yn dymuno mynd yn groes i
Gyfansoddiad y Cyngor.
|