|
Ÿ
|
Dylid delio gydag Uwch Reolwyr ar yr un pryd â
gweddill y gweithlu er mwyn osgoi unrhyw argraff neu honiad o
driniaeth ffafriol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Byddai delio gyda’r ddau ymarfer ar yr un pryd yn
golygu y gellid creu un rhestr wrthrychol o swyddi mewn trefn ranc
o’r brig i’r gwaelod yn y sefydliad.
|
|
|
|
|
|
Dan y telerau a’r amodau cenedlaethol, roedd swyddi
uwch reolwyr yn dod o dan broses arfarnu ar wahân, sef
‘Cynllun Hay’. Roedd y dadansoddiad a’r
broses arfarnu a wnaed yn annibynnol gan sefydliad Hay yn nodi bod
tair swydd - y tair ar lefel Pennaeth Gwasanaeth - o fewn yr
hierarchaeth swyddi a sefydlwyd trwy adolygiad y Cyngor o’r
sefydliad yn 2000/2001 - mewn gwirionedd yn cyfateb i swyddi uwch
ac fe gawsant eu symud i fyny trwy gyfeirio at y drefn gyfredol.
Aeth un swydd i lawr dan yr un broses.
|
|
|
|
|
|
Roedd yr adolygiad croesgyfeiriol o ganlyniadau cynllun
Hay a’r Llyfr Gwyrdd yn nodi bod tair swydd (Rheolwyr
Gwasanaeth) yn gorgyffwrdd â gwaelod trefn ranc Hay ac y
dylid cynnwys y swyddi hyn yn yr adolygiad o swyddi uwch reolwyr.
Pe bai hynny’n cael ei wneud, byddai’n golygu
cynnydd bychan yng nghost yr adolygiad o swyddi uwch reolwyr, ond,
ar yr un pryd, byddai’n gostwng cost yr adolygiad Llyfr
Gwyrdd. O ran trefn ranc Hay a’r llinell dâl
bosib, efallai y byddai goblygiadau cost symud y tair swydd hyn o
fantais i’r Cyngor Sir.
|
|
|
|
|
|
Hyd nes y bydd y Panel Tâl a Graddfeydd wedi gwneud
penderfyniad ar y llinell dâl ar gyfer yr adolygiad o
gyflogau swyddi uwch reolwyr, nid oes modd sefydlu byddai yw cost
gweithredu’r elfen honno o’r adolygiad.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Swyddog y gwnaed cyfeiriad yn y cyfarfod diwethaf
o’r Panel hwn at yr adolygiad sydd ar y gweill o swyddi uwch
reolwyr y mynnwyd arno gan Weinidog Cynulliad Cymru a allai olygu
bod y strwythur rheoli uchel yn newid. Os byddai’n
newid, efallai y byddai angen edrych eto ar rai o’r
arfarniadau. Roedd y cyfarfod yn credu y dylid ystyried
gohirio’r adolygiad uwch reolwyr hyd nes y byddai’n
Rheolwr-gyfarwyddwr Interim wedi cwblhau ei adolygiad.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Swyddog wrth aelodau’r Panel y
byddai’r Undebau Llafur yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw
symudiad i ffwrdd o’r ymrwymiadau hirsefydlog i ddelio
gyda’r ddau ymarfer ar yr un pryd.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones y cafwyd cytundeb yn y
cyfarfod diwethaf i ohirio’r adolygiad o swyddi uwch
reolwyr oherwydd y posibilrwydd y byddai newidiadau sylweddol yn yr
adolygiad rheoli. Argymhellodd y dylid gohirio’r
adolygiad.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD gohirio’r adolygiad o gyflogau
uwch reolwyr hyd oni fyddai’r Rheolwr-gyfarwyddwr
Interim/Pennaeth y Gwasanaethau Tâl wedi cwblhau’r
adolygiadau sydd wedi eu rhaglennu.
|
|
|
|
|
5
|
DIWEDDARIAD MANWL AR YR ADOLYGIAD TÂL A
GRADDFEYDD
|
|
|
|
|
|
Dosbarthodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) gopi drafft o’r pecyn arfarnu swyddi I
Aelodau’r Pwyllgor yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.
|
|
|
|
|
|
Nododd mai prif egwyddor yr adolygiad yw statws sengl yn
nhermau trin pawb yn gyfartal o fewn y grwpiau tâl sydd wedi
cyfuno. Mae’r awdurdod wedi bod yn edrych ar yr
adolygiad o berspectif ei fod yn gynaliadwy o safbwynt ariannol ac
yn seiliedig ar ddatblygu sgiliau/gwybodaeth. Cafodd y rhan
fwyaf o’r gwaith mewn perthynas â’r adolygiad ei
gwblhau erbyn Medi 2007 ond cafwyd problemau i ddod o hyd i
‘linell dâl’ a fyddai’n gweithio’n
ymarferol. Nododd y Pennaeth Gwasanaeth fod gan yr adolygiad
strwythur o 11 o raddfeydd tâl o gymharu gyda bron i 200 o
raddfeydd tâl yn flaenorol. Byddai strwythur graddfeydd
yn y dyfodol yn seiliedig yn rhannol ar gynnydd yn seiliedig ar
allu. Mae hyn yn golygu y bydd raid cynnal gwerthusiadau yn
rheolaidd ac yn gyson.
|
|
|
|
|
|
Mae’r model y bu’r Swyddogion yn gweithio arno
yn dangos bod dros draean o’r gweithwyr ar y raddfa gyflog
gywir; nad yw oddeutu hanner yn cael digon o gyflog a bod 16% yn
cael gormod o gyflog. Parheir i weithio ar oblygiadau
ariannol yr adolygiad.
|
|
|
|
|
|
Holodd y Cynghorydd H. Eifion Jones am y diogelwch cyflog
y mae’r awdurdod yn ystyried ei gynnig i’w weithwyr.
Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) bod y diogelwch cyflog sy’n cael ei ystyried
yn seiliedig ar bolisi’r Cyngor o roi 4 blynedd. Roedd
y Cynghorydd Jones o’r farn bod y diogelwch yn hael o gymharu
gydag awdurdodau eraill; nododd fod Cyngor Gwynedd yn cynnig
diogelwch am 3 blynedd a bod awdurdod arall yng Ngogledd Cymru yn
cynnig diogelwch am flwyddyn yn unig. Nododd y Pennaeth
Gwasanaeth bod y cynlluniau y cyfeiriwyd atynt gan y Cynghorydd
Jones yn cael eu talu ar sail diogelwch ar y cyflog gros ond y bydd
yr awdurdod yn talu diogelwch ar y cyflog net.
|
|
|
|
|
|
Dosbarthodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) gopi o gynllun peilot Data-bas Gwybodaeth am y
Farchnad o awdurdodau lleol eraill a swyddi sector cyhoeddus er
mwyn rhoi syniad i’r Aelodau ynghylch sut y mae’r
strwythurau cyflog yn cymharu gyda swyddi a hysbysebwyd gan
awdurdodau eraill.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd y Swyddog ar y rhan honno o’r pecyn yn
dilyn trafodaethau mewn Gweithgor ar y Cyd ar y manteision hynny a
allai arwain at arbedion i’r awdurdod e.e. gweithio 5 allan o
7 niwrnod. Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at Deithio Busnes; bydd
y pecyn hwn yn arwain at arbedion i’r awdurdod. Nododd
bod yna nifer o faterion yn ymwneud ag ôl-gyflog a bod
oddeutu 100 o achosion mewn perthynas â hawliadau cyflog
cyfartal yn disgwyl am benderfyniad Tribiwnlys ac y gallai hynny
arwain at geisiadau am iawndal i’r awdurdod. Ymatebodd
y Cynghorydd H. Eifion Jones bod angen i’r Panel hwn dderbyn
rhestr ynghylch faint fydd y materion hyn yn ei gostio i’r
awdurdod. Nododd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod arbedion
yn bosibl yn sgil y cynllun hwn ac y bydd rhestr o’r costau
ar gael yn y cyfarfod nesaf o’r Panel hwn. Gofynnodd y
Cadeirydd am wybodaeth i’r cyfarfod nesaf ynghylch cyfnod
diogelwch yn achos gweithwyr sy’n colli’r lwfans
defnyddiwr car hanfodol ynghyd â gwybodaeth ynghylch nifer y
gweithwyr sy’n derbyn y lwfans defnyddiwr car
hanfodol.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod yr awdurdod yn
wynebu toriadau llym yn ystod y deng mlynedd nesaf.
Mae’r gweithlu’n costio £40m gyda’r
posibilrwydd o godiad cyflog oherwydd symud ymlaen ar y raddfa yn
costio £4m arall. Dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones
y dylai’r modelau tâl fod ar gael erbyn hyn;
mae’n amlwg na fedr yr awdurdod fforddio codiadau cyflog
oherwydd symud ymlaen ar y raddfa. Nododd mai dyma pam y
mae’n rhaid i’r Panel hwn fod yn ymwybodol o ffyrdd o
grafangu’r arian hwn yn ôl, h.y. drwy ostwng y
diogelwch cyflog.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cadeirydd ei bod hi’n amlwg bod llawer o
waith ar ôl i’w wneud; roedd o dan yr argraff yn y
cyfarfod diwethaf y byddai’r bleidlais ymysg gweithwyr
ynghylch derbyn/gwrthod y pecyn wedi’i chynnal ym mis
Rhagfyr. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) y bydd
adroddiad ar y model tâl, gyda gobaith, yn cael ei gyflwyno
i’r cyfarfod nesaf o’r Panel hwn.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) y gobeithir cynnal cyfres o sioeau teithiol ym mis
Hydref ar gyfer holl weithwyr yr awdurdod i gyflwyno’r pecyn
arfarnu swyddi, gyda llythyrau personol i weithwyr yn nodi
canlyniadau’r broses arfarnu swyddi a’r llinell
dâl. Mae’r Undebau Lleol a Rhanbarthol wedi
derbyn cyfarwyddyd i beidio â chymryd rhan yn y sioeau
teithiol hyd oni fydd yr Undebau Llafur Cenedlaethol wedi derbyn y
pecyn mewn egwyddor. Mae’r drefn hon ar hyn o bryd yn
cymryd hyd at 3 i 4 wythnos i’w chwblhau. Cytunwyd
mai’r diwrnod gweithredu fydd 1 Ionawr, 2010.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Chyngorydd H. Eifion Jones, pan edrychwyd ar y
broses arfarnu swyddi ydychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y
marchnadoedd ariannol byd-eang yn hollol wahanol i’r hyn y
maent yn awr. Rhaid i’r Undebau Llafur wynebu’r
ffaith nad yw’r awdurdod mewn sefyllfa i roi pecyn mor hael
â’r pecyn a ystyriwyd ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod
raid i’r awdurdod benderfynu ar ateb call o safbwynt cyflogau
neu fe all y Cyngor wynebau costau mwy sylweddol o lawer petai
unigolion yn mynd i’r tribiwnlys i setlo hawliadau cyflog
cyfartal. Efallai y bydd staff hefyd yn gadael yr awdurdod
oherwydd bod Cynghorau eraill yn talu’n well.
|
|
|
|
|
|
Roedd y Cadeirydd yn dymuno gwybod am y tasgau y bydd
rhaid ymgymryd â nhw yn ystod y misoedd nesaf er mwyn
gweithredu’r cynllun arfarnu swyddi. Ymatebodd y
Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fel a
ganlyn:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Y Panel Tâl a Graddfeydd i gymeradwyo’r
cynllun arfarnu swyddi;
|
|
|
Ÿ
|
Y pecyn arfarnu swyddi i gael ei anfon at yr Undebau
Llafur Cenedlaethol (mis i gael ei gymeradwyo);
|
|
|
Ÿ
|
Sioeau teithiol gyda’r gweithlu (2/3
wythnos);
|
|
|
Ÿ
|
Llythyrau personol i’r gweithwyr;
|
|
|
Ÿ
|
Pleidlais ymysg y gweithwyr (2 wythnos);
|
|
|
Ÿ
|
Proses weithredu a delio gydag apeliadau;
|
|
|
Ÿ
|
Dyddiad gweithredu - 1af Ionawr, 2010.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod rhaid i
Aelodau’r Panel hwn gael y ffeithiau i gyd yn y cyfarfod
nesaf cyn y gellir gwneud penderfyniad cadarn i dderbyn y pecyn
arfarnu swyddi.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD bod y pecyn cyfan mewn perthynas ag
arfarnu swyddi a modelu tâl yn cael ei drafod yn y cyfarfod
nesaf o’r Panel hwn a gynhelir ar 22 Hydref, 2009.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|