Meeting documents

Standing Advisory Council on Religion, Values and Ethics (SAC)
Monday, 12th July, 2004

CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG)

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 GORFFENNAF, 2004

 

yn breSENNOL:

Y Cynghorydd E.G.Davies (Cadeirydd)

 

 

Yr Enwadau Crefyddol

 

Y Parch.Tegid Roberts (Yr Eglwys yng Nghymru)

Mrs Catherine Jones (Undeb y Bedyddwyr)

Y Parch.Irfon Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

 

Undebau'r Athrawon

 

Mrs Heledd Hearn (NASUWT)

Mr John Wyn Jones (SHA)

 

Aelod Cyfetholedig

 

Mrs Jean Pleming

 

WRTH LAW:

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden

Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol (Mrs Eleri Moss)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

YMDDIHEURIADAU:

Y Cynghorwyr Mrs B.Burns,Robert Ll.Jones, Bryan Owen, John Williams, Mr.Rheinallt Thomas (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Y Parch.Gwynfor Williams (Yr Eglwys Fethodistaidd), Mrs Sheila Dunning (Yr Eglwys Babyddol), Miss Jane Richards (UCA), Mr.Einion Willimas (UCAC), Miss Bethan James (Ymgynghorydd y Dyniaethau)

 

 

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden y Cynghorydd E.G.Davies fel Cadeirydd newydd CYSAG Ynys Môn ac olynydd y Cadeirydd cynt, sef y cyn Gynghorydd G.Alun Williams. Diolchodd i'r cyn Gynghorydd Alun Williams am ei gyfraniad i weithgareddau'r CYSAG yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

Ategodd y Cynghorydd E.G.Davies y sylwadau uchod ac awgrymodd fod llythyr yn cael ei anfon at y cyn Gynghorydd G.Alun Williams i fynegi iddo ddiolch a gwerthfawrogiad aelodau'r CYSAG o'i arweiniad fel Cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol.

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrir uchod.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden fod yr Is-Gadeirydd, sef Mr.Rheinallt Thomas wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau am fod yn absennol o'r cyfarfod hwn mewn llythyr a'i fod yn y llythyr hwnnw hefyd wedi mynegi pryder ynglyn ag amserlennu cyfarfodydd y CYSAG am y flwyddyn i ddod yn arbennig yng nghyswllt y ffaith fod rhai o gyfarfodydd y Cyngor yn digwydd ar ôl cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru tra y dylent yn ei farn ef eu rhagflaenu er mwyn sicrhau fod safbwynt y CYSAG yn cael ei gyflwyno i'r Gymdeithas ar faterion sydd yn codi.

 

Nodwyd fod cyfarfod y CYSAG am dymor yr Haf, 2004 wedi'i raglennu yn hwyrach nag arfer oherwydd Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ym mis Mehefin a'i fod o'r herwydd wedi digwydd ar ôl cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gymerodd le ar 23 Mehefin yn Llangefni.Roedd yr unig achlysur arall lle bo'r CYSAG yn cyfarfod ar ôl cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn digwydd yn nhymor y Gwanwyn 2005 pan fyddai'r Gymdeithas yn cyfarfod ar 25 Chwefror tra y trefnwyd i CYSAG Ynys Môn gyfarfod ar 7 Mawrth.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunwyd os oedd rhaglen gyfarfodydd blynyddol y Cyngor Sir yn caniatau hynny, i newid dyddiad cyfarfod y CYSAG gogyfer tymor y Gwanwyn, 2005 fel ei fod yn rhagflaenu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 25 Chwefror, 2005.

 

Penderfynwyd newid dyddiad cyfarfod y CYSAG gogyfer tymor y Gwanwyn, 2005 fel ei fod yn rhagflaenu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 25 Chwefror, 2005.

 

2

DATGAN DIDDORDEB

 

 

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

 

 

3

COFNODION

 

 

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2004.

 

Cyfrol y Cyngor 27.05.2004, tud 24 - 29)

 

Yn codi -

 

 

 

3.1

Eitem 4.2 - Cymdeithas CYSAGau Cymru

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y drafodaeth frwd a gafwyd yn y cyfarfod blaenorol ynglyn â'r trefniadau i gyflwyno cymhwyster newydd y Fagloriaeth Gymreig a'r methiant i gynnwys o fewn maes llafur y Fagloriaeth gyfeiriad at Addysg Grefyddol.Nododd ei fod wedi bod yn ymdrechu i ddilyn y mater hwn i fyny ac i ganfod y datblygiadau diweddaraf oddi wrth Keith Davies, y swyddog yng Nghyd-Bwyllgor Addysg Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cymhwyster.

 

 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden bod nifer o gynrychioladau wedi cael eu gwneud ar y mater hwn ar sawl lefel a bod dirprwyaeth hefyd wedi cyfarfod gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad i fynegi consyrn ynglyn â methiant y Fagloriaeth Gymreig i wneud darpariaeth ar gyfer Addysg Grefyddol.Rhaid oedd disgwyl yn awr i weld beth fyddai canlyniadau'r trafodaethau hyn.

 

 

 

3.2

Eitem 9 - Cymdeithas CYSAGau Cymru - Ethol Swyddogion

 

 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden bod enw'r Cynghorydd Arwel Jones o CYSAG Gwynedd wedi cael ei anfon ymlaen i Gymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Gymdeithas yn unol â phenderfyniad CYSAG Ynys Môn i gefnogi'r enwebiad hwnnw ond nad oedd enw'r Cynghorydd Arwel Jones wedi ymddangos ymhlith yr enwebiadau a gyflwynwyd gerbron cyfarfod y Gymdeithas yn Llangefni ar 23 Mehefin.

 

 

 

Nododd y Parch.Tegid Roberts ei fod wedi deall yng nghyfarfod CYSAG Gwynedd bod y Cynghorydd Arwel Jones wedi penderfynu tynnu'n ôl ei enw ar gyfer swydd Is-Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

 

 

Ychwangeodd y Cadeirydd fod cofnod o'r ohebiaeth a dderbyniwyd gan Gymdeithas CYSAGau Cymru yn dangos fod y Cynghorydd Arwel Jones wedi cyflwyno dau lythyr i'r Gymdeithas y naill yn tynnu'n ôl ei enwebiad ar gyfer swydd Is-Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru a'r llall yn nodi ei fod yn ymddiswyddo o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth uchod.

 

 

 

4

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU

 

 

 

Cyflwynwyd - Rhaglen a phapurau cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llangefni ar 23 Mehefin, 2004.

 

 

 

Nodwyd y prif faterion trafod fel a ganlyn:

 

 

 

4.1

Cyflwynwyd llythyr oddiwrth Michael Parkinson, Adran Addysg a Hyfforddiant Llywodraeth y Cynulliad ynglyn ag Addysg Grefyddol a'r Fagloriaeth Gymreig.Esbonia'r llythyr nad yw Addysg Grefyddol wedi cael ei gynnwys fel rhan graidd o Gynllun Peilot y Fagloriaeth oherwydd bwriedir i'r Fagloriaeth gael ei defnyddio mewn ysgolion ac mewn colegau addysg bellach ac mae statws statudol Addysg Grefyddol yn wahanol yn y ddau sefydliad.Aiff y llythyr rhagddo i awgrymu y gall cyrff CYSAGau ystyried diwygio eu meysydd llafur cytun er mwyn galluogi ysgolion adeiladu o fewn eu darpariaeth Addysg Grefyddol elfennau o'r Fagloriaeth.

 

 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden mai prif gonysrn y CYSAG yng nghyswllt y Fagloriaeth Gymreig oedd y ffaith fod cynllun peilot y Fagloriaeth yn gogwyddo o ran ei gynnwys tuag at amodau'r sector addysg bellach lle nad yw Addysg Grefyddol yn bwnc statudol yn hytrach nag at amodau'r sector ysgolion lle mae yna ddyletswydd statudol i ddarparu rhaglen Addysg Grefyddol.

 

 

 

4.2

Cyfeiriwyd at ohebiaeth rhwng Cymdeithas CYSAGau Cymru a Tudor Thomas o Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru yng nghyswllt pryder a fynegwyd gan gynrychiolydd yr athrawon yng nghyfarfod y Gymdeithas yn Aberaeron ym mis Mawrth ynglyn â pha mor drwm oedd cynnwys modiwl y Testament Newydd o fewn cymhwyster AS ac A2 Astudiaethau Crefyddol o'i gymharu â chynnwys modiwlau eraill.Y teimlad oedd fod y baich gwaith ynghlwm wrth y modiwl hwn yn gwneud astudio'r Testament Newydd yn llai atyniadol i ddisgyblion a'u bod yn dewis opsiynau eraill yn ei le.Roedd Cymdeithas CYSAGau Cymru yn awyddus i ganfod barn athrawon ar gyrff CYSAGau unigol ynglyn â'r mater hwn.

 

 

 

Nodwyd y byddai'n ddiddorol derbyn gwybodaeth ynglyn â faint o ysgolion ym Môn sy'n dilyn  modiwl y Testament Newydd.

 

 

 

4.3

Nodwyd y cafwyd cyflwyniad diddorol iawn gan Susan Morrell o NAPfRE ar destun Addysg Grefyddol ac Anghenion Addysgol Arbennig.

 

4.4

Roedd yn fwriad derbyn cyflwyniad yng nghyfarfod y Gymdeithas yn Llangefni gan fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Addysg Grefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg ond fe ohiriwyd yr eitem hon oherwydd nad oedd digon o fyfyrwyr i wneud y cyflwyniad.Fodd bynnag deëllir fod yna do ifanc o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor sy'n dilyn Addysg Grefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd a bod y rhagolygon gogyfer y maes felly yn iach.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llangefni ar 23 Mehefin, 2004 ynghyd â chynnwys y rhaglen gogyfer y cyfarfod.

 

 

 

5

YMGYNGHORIAD ACCAC YNGHYLCH Y DDOGFEN DDIWYGIEDIG - ADRODDIADAU BLYNYDDOL CYSAG : CANLLAWIAU AR GYFER FFOCWS A STRWYTHUR

 

 

 

Cyflwynwyd - Dogfen Ymgynghori ACCAC - Adroddiadau Blynyddol CYSAG : Canllawiau ar y Strwythur a'r Fformat ynghyd â chais gan ACCAC am i gyrff CYSAGau gyflwyno eu barn ynglyn â'r canllawiau diwygiedig ar gyfer cynnwys a fformat adroddiadau blynyddol.

 

 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden y cefndir i'r mater uchod yn fras a nododd bod ACCAC wedi llunio canllawiau newydd ar gyfer cynnwys adroddiadau blynyddol cyrff CYSAG a'u bod yn ymgynghori arnynt.Mae ACCAC yn gwneud defnydd o'r wybodaeth sydd mewn adroddiadau blynyddol cyrff CYSAGau i dynnu allan ystadegau ac i adnabod arferion da ac mae'n

 

 

 

edrych felly ar safoni cynnwys a fformat yr adroddiadau blynyddol.Sefydlwyd gweithgor i fynd â'r gwaith adolygu hwn yn ei flaen ac fe gynrychiolir CYSAG Ynys Môn arno gan Ymgynghorydd y Dyniaethau.O bersbectif swyddog byddai'n dymuno gweld dyluniad syml ac uniongyrchol i adroddiadau blynyddol CYSAG gan sicrhau nad ydynt yn rhy gyfyng eu defnyddioldeb a'u darllen, a dyna'r genadwri a roddwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethai ei gyflwyno i'r Gweithgor.Roedd yn agored yn awr i aelodau'r CYSAG fynegi safbwynt ar gynnwys y ddogfen ymgynghori trwy gwblhau'r holiadur atodol a gwneud hynny fel unigolion, fel corff neu fel arall, awdurdodi'r swyddogion i lunio ymateb yn ôl cyfarwyddyd.

 

 

 

Roedd aelodau'r CYSAG yn gytun eu bod yn ffafrio adroddiadau blynyddol syml, uniongyrchol a chytbwys eu cynnwys ac awgrymwyd bod y swyddogion yn cwblhau holiadur ACCAC ynglyn â'r ddogfen ymgynghorol Adroddiadau Bynyddol CYSAG - Canllawiau ar gyfer ffocws a strwythur gyda'r cyfarwyddyd cyffredinol nad yw CYSAG Ynys Môn yn dymuno gweld cyflwyno ffurf a chynnwys ar gyfer adroddiadau blynyddol sy'n arwain at gynyddu'r faich weinyddol.

 

 

 

Penderfynwyd nodi Dogfen Ymgynghori ACCAC - Adroddiadau Blynyddol CYSAG : Canllawiau ar y Strwythur a'r Fformat, gan ofyn i Glerc y CYSAG gwblhau'r holiadur atodol ar ran y CYSAG gyda'r genadwri cyffredinol nad yw CYSAG Ynys Môn yn dymuno gweld cyflwyno ffurf a chynnwys ar gyfer adroddiadau blynyddol sy'n debygol o arwain at gynyddu'r faich weinyddol.

 

 

 

6

CANOLFAN GENEDLAETHOL ADDYSG GREFYDDOL - ADRODDIAD BLYNYDDOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol am 2002/03 ynghyd â chais gan Gyfarwyddwr y Ganolfan am gefnogaeth ariannol gogyfer y Ganolfan am 2004/05 a chyfraniad ariannol tuag at gostau cynhyrchu Newyddlen Addysg Grefyddol.Awgrymir tanysgrifiad o £1,200 ar gyfer 2004/05 yn unol â chefnogaeth yr Awdurdod y llynedd.

 

 

 

Roedd aelodau'r CYSAG yn cydnabod bod y Ganolfan yn darparu gwasanaeth hynod o werthfawr a'i bod yn arbennig o ddefnyddiol i ysgolion Ynys Môn oherwydd ei hagosatrwydd i'r Ynys. Cytunwyd i argymell i Gyngor Sir Ynys Môn ei fod yn parhau i gefnogi'r Ganolfan yn ariannol yn unol â'r gefnogaeth a wnaed llynedd.

 

 

 

Awgrymwyd hefyd fod y CYSAG yn estyn gwahoddiad i Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, sef yr Athro Leslie Francis i gyfarch cyfarfod o CYSAG Ynys Môn ac i gynnal sgwrs gyda'r aelodau, a gofynnwyd i Glerc y CYSAG lunio gwahoddiad i'r perwyl.

 

 

 

Penderfynwyd -

 

 

 

6.1

Argymell i Gyngor Sir Ynys Môn ei fod yn gwneud tanysgrifiad o £1,200 i'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol am 2004/05 yn unol â'r gefnogaeth a roddwyd yn 2003/04.

 

6.2

Gofyn i Glerc y CYSAG estyn gwahoddiad ffurfiol i'r Athro Leslie Francis gyfarch cyfarfod o CYSAG Ynys Môn ar destun o'i ddewis.

 

 

 

7

RHAGLEN WAITH YR ATHRAWES YMGYNGHOROL ADDYSG GREFYDDOL

 

 

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol yn rhoi braslun o'i rhaglen waith ddiweddaraf yn ystod cyfnod ei secondiad.

 

 

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad gan ddiolch i'r Athrawes Ymgynghorol am y wybodaeth.

 

      

 

      

 

8

CYRSIAU HMS ADDYSG GREFYDDOL 2003/04 A 2004/05

 

      

 

     Cyflwynwyd - Amlinelliad o'r cyrsiau Addysg Grefyddol HMS a gynhaliwyd o Ebrill, 2003 i Fawrth, 2004 ynghyd â'r cyrsiau sydd wedi eu trefnu ar gyfer Ebrill, 2004 i Fawrth, 2004.

 

      

 

     Penderfynwyd nodi'r wybodaeth.

 

      

 

9

AROLYGIADAU YSGOLION

 

      

 

     Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gymuned Dwyran ac Ysgol Gynradd Henblas, Llangristolus.

 

     Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden fod yr adroddiadau uchod yn gyffredinol ganmoladwy o'r ddwy ysgol.Fodd bynnag, er fod yr Arolygydd yn achos Ysgol Gymuned Dwyran yn nodi ar yr un llaw bod y pwyslais defosiynol ac addolgar a geir yn y gwasanaethau boreol yn agwedd bositif iawn, mae'n dwyn sylw ar y llaw arall at y ffaith nad yw'r ysgol yn cwrdd yn llawn â'r gofynion parthed y cyd-addoli dyddiol, ac mae'n dynodi hyn yn fater allweddol i weithredu arno.

 

      

 

     Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y gwrthdaro rhwng darparu achlysuron cyd-addoli dyddiol sydd efallai o ansawdd gwan ond sy'n cydymffurfio'n llawn â'r gofynion, a darparu profiadau ysbrydol a defosiynol dwfn nad ydynt efallai yn digwydd ar sail dyddiol ac felly yn gwyro o'r gofynion yn fater sydd yn codi yn aml ac mae'n fater anodd i ysgolion ei ddatrys.Awgrymodd fod y CYSAG yn derbyn copi o Gynllun Gweithredu Ôl-Arolwg Ysgol Gymuned Dwyran i ganfod sut mae'r ysgol wedi mynd i'r afael â'r mater hwn a  ddynodwyd gan yr Arolygydd yn ddiffyg.

 

      

 

     Penderfynwyd -

 

      

 

9.1

Derbyn yr adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol Gymuned Dwyran ac Ysgol Gynradd Henblas, gan ddiolch i staff y ddwy ysgol am eu gwaith.

 

9.2

Bod copi o Gynllun Gweithredu Ôl-Arolwg Ysgol Gymuned Dwyran yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y CYSAG.

 

      

 

10

CYFARFOD GRWPIAU

 

      

 

     Penderfynwyd peidio â chynnal cyfarfod o'r grwpiau am y cyfarfod hwn o'r CYSAG.

 

 

 

     Cynghorydd E.G.Davies

 

               Cadeirydd