|
|
|
|
Yn unol â phenderfyniad y CYSAG yn ei gyfarfod
blaenorol, cyflwynwyd - Copi o Gynllun Gweithredu Ôl-Arolwg
Ysgol Gymuned Dwyran yn crynhoi y camau a gymerwyd gan yr ysgol
mewn ymateb i fater allweddol y dynodwyd bod angen gweithredu arno
mewn perthynas â chwrdd yn llawn â gofynion addoli ar y
cyd dyddiol.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd nodi'r wybodaeth a bod y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Addysg a Hamdden yn parhau i fonitro'r
Cynllun.
|
|
|
|
|
4
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Copi o'r papurau gogyfer cyfarfod nesaf
Cymdeithas CYSAGau Cymru i'w gynnal yng Nghaerffili ar 19 Tachwedd,
2004 ynghyd â chofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd
yn Llangefni ar 23 Mehefin, 2004.
|
|
|
|
|
4.1
|
Dygwyd sylw at wall yng nghofnodion cyfarfod y Gymdeithas
a gynhaliwyd yn Llangefni ar 23 Mehefin, 2004 lle cyfeirir at y
Cynghorydd Mrs B.Burns fel "Is-Gadeirydd y CYSAG" lle y dylai
ddarllen "Cadeirydd y Cyngor Sir" a gofynnwyd i Mr.Rheinallt Thomas
godi'r mater i'w gywiro yng nghyfarfod nesaf y Gymdeithas yng
Nghaerffili.
|
|
|
4.2
|
Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at Adroddiad y Trysorydd a
gyflwynwyd i'r cyfarfod a nododd bod yr adroddiad yn argymell codi
cyfradd y Tanysgrifiad Blynyddol i'r Gymdeithas o 4% fel bod pob
awdurdod yng Nghymru yn talu £335 y flwyddyn.Nodwyd y
wybodaeth gan aelodau'r CYSAG.
|
|
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn papurau cyfarfod nesaf Cymdeithas
CYSAGau Cymru i'w gynnal yng Nghaerffili ar 19 Tachwedd, 2004 a
nodi eu cynnwys.
|
|
|
|
|
5
|
SAFONAU CYRHAEDDIAD YN YR ARHOLIADAU ALLANOL
2004
|
|
|
|
|
|
Cyflwywnyd - Adroddiad gan Ymgynghorydd y Dyniaethau yn
amlinellu canlyniadau disgyblion ysgolion y sir mewn arholiadau
Astudiaethau Crefyddol yn 2004.
|
|
|
|
|
Nododd Ymgynghorydd y Dyniaethau y prif
bwyntiau fel a ganlyn:
|
|
|
|
5.2
|
O ran arholiadau TGAU mewn Astudiaethau Crefyddol roedd y
canlyniadau ar y cyfan yn dda gyda 135 o ymgeiswyr yn ymrannu'n 101
o enethod a 34 o fechgyn, sydd yn sylweddol uwch na chyfanswm
ymgeiswyr y flwyddyn flaenorol, sef 87.Cafwyd amrywiaeth fawr o ran
nifer yr ymgeiswyr ar sail ysgol unigol o 0 mewn un ysgol i 51 mewn
ysgol arall.Roedd canlyniadau'r merched yn rhagori ar ganlyniadau'r
bechgyn gyda sgôr gyfartalog y genethod (5.5) yn uwch na'u
sgôr yn y pynciau eraill (5.0) a sgôr gyfartalog y
bechgyn (4.5) yn cyfateb i'r sgôr gyfartalog yn y pynciau
eraill (4.6).
|
|
|
5.3
|
Roedd canlyniadau Lefel A Astudiaethau Crefyddol yn dda
eleni ac eto bu cynnydd yn y niferoedd yn sefyll yr arholiad, sef
38 o'i gymharu â 21 yn 2003 yn ymrannu'n 7 o fechgyn a 31 o
enethod.Roedd sgôr gyfartalog y pwnc yn 86.3 yn erbyn 84.3 yn
y pynciau eraill gyda sgôr gyfartalog y genethod (91.0) yn
rhagori ar sgôr gyfartalog y bechgyn (65.7).
|
|
|
5.4
|
Mewn perthynas â chanlyniadau arholiadau Uwch
Gyfrannol (AS) 2004, bu 41 o ymgeiswyr yn 35 o enethod a 6
bachgen.Mae'r cyfartaledd sgôr yn y pwnc yn 37.8 sy'n ychydig
is na'r sgôr o 41.5 yn y pynciau eraill ac mae sgôr
gyfartalog y genethod (35.7) yn ychydig is na'u sgôr yn y
pynciau eraill (39.7) tra bod sgôr gyfartalog y bechgyn
(50.0) yn cyfateb i'r sgôr gyfartalog yn y pynciau eraill
(50.0).
|
|
|
|
|
|
Ychwanegodd Ymgynghorydd y Dyniaethau y credai fod lle i
ymfalchio yn y ffaith fod y pwnc mor boblogaidd yn Ynys Môn a
bod y canlyniadau yn dda.Dygodd sylw hefyd at y ffaith fod un ysgol
yn gwneud darpariaeth gogyfer y Cwrs Byr Astudiaethau Crefyddol a
bod 18 o ddisgyblion yn yr ysgol honno wedi dilyn y cwrs.Parthed y
Cwrs Uwch Gyfrannol, caiff disgyblion y cyfle i ddewis rhagor o
opsiynau yn awr ac mae cyfle iddynt dderbyn cydnabyddiaeth am waith
blwyddyn cyn canolbwyntio ar feysydd penodol yn ail flwyddyn y
chweched dosbarth, ac fe adlewyrchir hynny yn y canlyniadau fel ag
a nodir yng nghymal 5.4 uchod.
|
|
|
|
|
|
Yn y drafodaeth ddilynol codwyd cwestiwn ynglyn â'r
nifer sydd yn sefyll yr arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a
gofynnwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau ymchwilio i mewn i hynny ac
adrodd yn ôl gyda'r wybodaeth.Holwyd hefyd ynglyn â'r
rhesymau pam mae bechgyn yn gollwng y pwnc yn gynharch na'r merched
gydag ond 7 o fechgyn yn sefyll yr arholiad Lefel A o'i gymharu
â 31 o ferched.
|
|
|
|
|
|
Ymatebodd Ymgynghorydd y Dyniaethau bod ysgolion yn
darparu bwydlen eang iawn o bynciau ôl-16 bellach a bod yna
ddadl o du'r ffaith fod rhai pynciau wedi'u strwythuro'n well ar
gyfer dulliau bechgyn o ddysgu, h.y. eu bod yn fwy ymarferol eu
cynnwys.Dywed dadl arall fod bechgyn yn ei chael yn anos na merched
i fynd i'r afael ag Addysg Grefyddol oherwydd fod y pwnc yn rhoi
pwyslais ar ddadansoddi teimladau ac emosiwn ac ar ysbrydolrwydd
sydd yn tynnu'n groes i natur bragmataidd bechgyn o feddwl ac
ymdrin â phethau.
|
|
|
|
|
|
Nodwyd bod y ffaith fod llai o fechgyn yn dilyn
Astudiaethau Crefyddol hyd at lefel uwch yn nodwedd hir sefydlog
sydd yn cael ei hail-adrodd ar lefel cenedlaethol ac nad oes modd
ei phriodoli i unrhyw reswm unigol.
|
|
|
|
|
|
Nodwyd hefyd ei fod yn berthnasol ystyried y nifer o
fechgyn sydd yn dilyn Astudiaethau Crefyddol mewn colegau addysg
bellach nad yw'n gynwysiedig yn yr ystadegau uchod.Yn y cyswllt hwn
gofynnwyd a ystyrir fod y niferoedd sydd yn dilyn y pwnc yn
ddigonol i ddiogelu ei ddyfodol yng ngoleuni trefniadau cyllido
Elwa ar gyfer addysg ôl-16.
|
|
|
|
|
|
Cytunwyd fod y pwynt uchod yn un dilys a pherthynol a'i
fod yn fater fu'n destun trafodaeth lawn gan y CYSAG peth amser yn
ôl yng nghyd-destun cyrsiau AS.Nodwyd nad yw'n bosibl cyplysu
dosbarthiadau 6ed isaf a 6ed uchaf gyda'i gilydd oherwydd natur y
cyrsiau, felly er mwyn sicrhau hyfywdra'r pwnc yn y chweched
dosbarth mae'n rhaid cael nifer digonol i greu grwp Cymraeg a grwp
Saesneg Lefel A ynghyd â grwp Cymraeg a grwp Saesneg Uwch
Gyfrannol.Y pryder ar y pryd oedd y byddai yna danseilio statws
pynciau lleiafrifol yn y chweched dosbarth.O ystyried ansicrwydd
parhaol y sefyllfa awgrymwyd y byddai'n fanteisiol gofyn i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ymchwilio i mewn i
effeithiau posibl cyllideb newydd Elwa ar grwpiau Astudiaethau
Crefyddol ôl-16 ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y
CYSAG pryd bydd y dangosydd o gyllideb Elwa yn debygol o fod yn
hysbys i'r Cyngor Sir.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
5.5
|
Derbyn adroddiad Ymgynghorydd y Dyniaethau ynglyn
â chanlyniadau disgyblion y sir mewn arholiadau allanol yn
ystod 2004, gan ddiolch i staff yr ysgolion a'u disgyblion am eu
gwaith a'u hymroddiad.
|
|
|
5.6
|
Gofyn i Ymgynghorydd y Dyniaethau ganfod nifer y
disgyblion a safodd arholiadau Astudiaethau Crefyddol trwy gyfrwng
y Gymraeg ac adrodd yn ôl i'r CYSAG.
|
|
|
5.7
|
Gofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden
ymchwilio i mewn i effeithiau posibl cyllideb newydd Elwa ar
grwpiau Astudiaethau Crefyddol ôl-16 ac adrodd yn ôl i
gyfarfod nesaf y CYSAG.
|
|
|
|
|
6
|
DATBLYGIAD YSBRYDOL DISGYBLION YNYS
MÔN
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gyflwyniad ar yr
ystyriaethau ynghlwm wrth ddatblygiad ysbrydol disgyblion ysgolion
y sir.
|
|
|
|
|
|
Amlinellodd Ymgynghorydd y Dyniaethau gefndir yr uchod
trwy nodi fod Prif Arolygydd Estyn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol
ar safonau addysg yng Nghymru ar sail y wybodaeth a ddaw o
arolygiadau ysgolion.Bu i Brif Weithredwr Cynnal wneud sylw yn ei
adroddiad blynyddol ar y Gwasanaeth Addysg ym Môn am 2003/04
nad oedd yr arfarniad o ddatblygiad ysbrydol disgyblion Ynys
Môn cystal â'r cyfryw safonau ar lefel Cymru ac er y
dyfarnwyd yr agwedd hon o addysg disgyblion Ynys Môn yn dda
neu'n dda iawn mewn dros hanner yr ysgolion a arolygwyd yn y
flwyddyn honno, roedd y ffaith bod y gweddill wedi'u dyfarnu'n
foddhaol yn unig yn fater i roddi sylw iddo.Pwysleisiodd
Ymgynghorydd y Dyniaethau mai ond carfan fechan o ysgolion y
cyfeirir atynt, sef 8 neu 9 ysgol.
|
|
|
|
|
Aeth Ymgynghorydd y Dyniaethau rhagddi i
esbonio'r gwahanol ffyrdd a ddefnyddir i feithrin ysbrydolrwydd
disgyblion fel a ganlyn:
|
|
|
|
6.1
|
Wrth gyfeirio at ddatblygu ysbrydolrwydd disgybl, golygir
ei annog i feddwl am, ac i wneud synnwyr o brofiadau bywyd, megis
rhyfeloedd, argyfyngau, dioddefaint ac yn y blaen.Hybir gallu
disgyblion i ddatblygu atebion i gwestiynau sylfaenol megis a oes
bywyd ar ôl marwolaeth, beth sydd yn iawn, pam yr wyf i yma?,
beth yw pwrpas bywyd? Golyga hefyd annog plentyn i ddatblygu cred
bersonol a gwerthfawrogi bod gan eraill efallai gred
gwahanol.
|
|
|
6.2
|
Agwedd arall ar ysbrydolrwydd yw bod â'r gallu i
brofi rhyfeddod a dirgelwch ac mae athrawon yn gwneud gwaith da
iawn gyda disgyblion i'w cael i ymateb i'r profiad o harddwch a
rhyfeddod, a bod yn ymwybodol o ddirgelwch bywyd a'r
greadigaeth.
|
|
|
6.3
|
Mae'n bwysig bod plant yn gallu gwneud synnwyr o berthynas
ddynol, nid yn unig ar lefel teulu, ffrindiau a chymdogion ond ar
lefel pentref, gwlad a dinasyddiaeth byd eang.Mae'n bwysig eu bod
hefyd yn gallu gwneud synnwyr o'r berthynas gyda Duw a pharchu fod
rhai unigolion wedi magu perthynas gyda Duw mewn gwahanol ffordd.
Yn ogystal, anogir disgyblion i ymateb i brofiadau sydd yn eu
herio.
|
|
|
6.4
|
Rhan o gyfraniad allweddol Addysg Grefyddol i'r cwricwlwm
a hefyd i wasanaethau eraill yw annog disgyblion yn y pen draw i
fod yn nyrsys, yn ofalwyr, yn athrawon, yn weithwyr cymdeithasol ac
yn feddygon a thrwy llwybrau gyrfaol o'r fath bod yn gefn ac yn
gysur i eraill hyd yn oed os nad oes ganddynt eu cred personol eu
hunain.
|
|
|
6.5
|
Mae'r Maes Llafur Cytun yn cynnig arweiniad i athrawon
ynglyn â chyflwyno Addysg Grefyddol a thrwy hynny, hyrwyddo
datblygiad ysbrydol a moesol disgyblion.Ymwna Addysg Grefyddol a
â pherthnasedd â phobl eraill; â phrofiadau
sylfaenol bywyd megis marwolaeth a dioddefaint.Mae hefyd yn
gysylltiedig â'r angen i ymchwilio am ystyr a phwrpas mewn
bywyd.
|
|
|
6.6
|
Mae'r gwaith cefnogol a wneir gan Cynnal yn cynnwys rhoi
sylw ym mhob cwrs hyfforddi i Darged Cyrhaeddiad 3 sydd yn ymwneud
â gwerthuso ac ymateb i grefydd a phrofiadau bywyd a dangos
sgiliau dehongli, cwestiynu a thrafod.Mae ymweliadau ysgol diweddar
wedi canolbwyntio yn arbennig ar yr agwedd hon o'r addysgu.Anogir
gwneud defnydd o"amser cylch" ac o fedrau meddwl er mwyn annog
disgyblion i fynegi barn ac i drafod cwestiynau mawr
bywyd.
|
|
|
|
|
|
Diolchwyd i Ymgynghorydd y Dyniaethau am gyflwyniad
diddorol a meddylgar a gwnaethpwyd y sylw ei fod bellach yn
ddisgwyliad gan Estyn bod datblygiad ysbrydol, moesol a
diwylliannol disgyblion yn cael ei weithredu trwy'r ysgol gyfan
trwy gyfrwng pob pwnc ac na fod yr agwedd hon o addysgu plant yn
cael ei gyfyngu i Addysg Grefyddol yn unig.
|
|
|
|
|
Penderfynwyd diolch i
Ymgnghorydd y Dyniaethau am ei chyflwyniad gan nodi'r wybodaeth
ynglyn â datblygiad ysbrydol disgyblion Ynys
Môn.
|
|
|
|
7
|
MUDIAD ADDYSG GRISTNOGOL CYMRU
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad
Blynyddol Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am y flwyddyn
2003/04.
|
|
|
|
Rhoddodd yr Is-Gadeirydd
wybod i aelodau'r CYSAG am gyhoeddiadau Mudiad Addysg Gristnogol
Cymru gogyfer ysgolion ar destunau yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a
nododd bod y mudiad bob tro yn agored i dderbyn awgrymiadau ynglyn
â deunyddiau yn y Gymraeg a'r Saesneg all fod o gymorth i
ysgolion wrth addysgu'r pwnc.
|
|
|
|
Roedd aelodau'r CYSAG yn
gytun fod y Mudiad yn cyflawni gwaith cefnogol gwerthfawr a
mynegasant eu cefnogaeth iddo.
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
Adroddiad Mudiad Addysg Gristnogol Cymru am 2003/04 a nodi ei
gynnwys.
|
|
|
|
8
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG YNYS MÔN
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Adroddiad
Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn am y flwyddyn
2003/04.
|
|
|
|
Awgrymwyd y diwygiadau
canlynol i'r adroddiad:
|
|
|
|
8.1
|
Newid y cyfeiriadau trwy'r adroddiad at "Miss Heledd
Hearn" i ddarllen "Mrs Heledd Hearn";
|
|
|
8.2
|
dileu cymal 2.3.2. yn y fersiwn Gymraeg sydd yn cael ei
ail adrodd;
|
|
|
8.3
|
newid pwynt bwled 7 cymal 3.3 sy'n darllen
roedd sgôr gyfartalog y pwnc
ychydig yn na phynciau eraill i
ddarllen roedd sgôr
gyfartalog y pwnc ychydig yn uwch na phynciau
eraill;
|
|
|
8.4
|
cywiro'r achos o gamsillafu'r gair disgyblion ym mhwynt
bwled olaf cymal 2.3.3 y fersiwn Gymraeg;
|
|
|
8.5
|
cywiro'r achos o gamdreiglo'r gair cyfraniad yng nghymal
2.5 y fersiwn Gymraeg;
|
|
|
8.6
|
dileu'r cyfeiriad at Mr.Rheinallt Thomas fel Cadeirydd
Cymdeithas CYSAGau Cymru yng nghymal 4.1 fersiwn Saesneg yr
adroddiad;
|
|
|
8.7
|
ychwanegu enw'r Cynghorydd G.O.Jones at restr
cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Lleol yng nghymal 5.1 fersiwn
Saesneg yr adroddiad a dileu enw'r Cynghorydd R.J.Jones yn y
Gymraeg a'r Saesneg.
|
|
|
|
|
Penderfynwyd derbyn
fersiwn ddrafft Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2003/04
yn ddarostyngedig i'r diwygiadau a nodir uchod.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - Gwybodaeth o
dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau
perthnasol hynny o adroddiadau arolwg mewn perthynas ag Ysgol
Gynradd Llanfawr; Ysgol Y Borth; Ysgol Rhosneigr; Ysgol Gynradd
Kingsland; Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Uwchradd
Bodedern.
|
|
|
|
Gwnaed y sylwadau canlynol
ar y wybodaeth a gyflwynwyd uchod:
|
|
|
|
9.1
|
Nodwyd bod yna sawl cyfeiriad at arwynebolrwydd
ymwybyddiaeth disgyblion o grefyddau eraill a gofynnwyd a oedd hwn
yn fater i bryderu yn ei gylch.
|
|
|
|
|
Ymatebodd Ymgynghorydd y
Dyniaethau fod y pwynt hwn yn un cyffredinol o safbwynt y sector
cynradd a nododd er fod athrawon yn hyderus wrth addysgu
Cristnogaeth nid ydynt bob amser mor hyderus wrth addysgu agweddau
o grefyddau eraill.Er mwyn ymateb i hyn cynhaliwyd cwrs hyfforddi
gogyfer athrawon yn ddiweddar o dan arweiniad athrawes sydd wedi
arbenigo mewn addysgu Iddewiaeth ac Hindwiaeth.Hefyd, yn ystod y
cyrsiau hyfforddi 5 diwrnod ceisir trefnu ymweliad â
sefydliadau addoli crefyddau eraill megis y Mosg ym Mangor neu'r
Synagog yn Lerpwl.Yn ogystal, mae adroddiadau arolygiadau yn
ddiweddar yn cyfeirio'n aml at y defnydd o arteffactau fel nodwedd
i'w chanmol ac ymatebwyd yn y cyrsiau hyfforddi i hyn trwy gynnig
arweiniad ar eu cynnwys mewn gwersi.Mae prynu arteffactau crefyddol
yn gostus yn arbennig i ysgol llai ei maint a manteisir felly ar
gasgliadau yn yr ysgolion uwchradd ac ar wasanaeth benthyg y
Ganolfan Addysg Grefyddol ym Mangor.
|
|
9.2
|
Cyfeiriwyd gydag anfodlonrwydd at anghysondeb rhai o
sylwadau'r arolygwyr yn enwedig mewn perthynas â'r Maes
Llafur Cytun Lleol a gwybodaeth o grefyddau eraill, a nodwyd bod
arolygwyr mewn rhai achosion yn canmol yr ysgol am ddilyn y Maes
Llafur Cytun yn dda tra'n beirniadau'r ysgol wedyn am
arwynebolrwydd y wybodaeth sydd gan ddisgyblion grefyddau eraill a
bod yna ddiffyg o ran cymharu Cristnogaeth â chrefyddau
eraill.Mae'r Maes Llafur Cytun Lleol yn cynghori bod disgyblion yn
astudio un crefydd arall ond nid mwy na dau i ddyfnder ym mhob
cyfnod allweddol ond nid yw yn gofyn iddynt gymharu na chyferbynnu
crefyddau.
|
|
|
9.3
|
Nodwyd gyda phryder bod yr arolygydd wedi dyfarnu safonau
Addysg Grefyddol 6ed dosbarth yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn
anfoddhaol, a'i fod wedi nodi ymhlith diffygion eraill yn y maes yn
y cyfnod hwn, bod y ddarpariaeth ar gyfer y pwnc yn
gyfyngedig.
|
|
|
|
|
Nododd cynrychiolydd SHA a
Phennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern y dymunai ymateb i'r adroddiad
arolygiad yn ymwneud ag Addysg Grefyddol yn yr ysgol fel a
ganlyn:
|
|
|
|
9.3.1
|
Bod yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu mewn ymateb i'r
adroddiad arolygiad a byddai hwnnw yn y lle cyntaf yn fater trafod
gan y corff llywodraethu.
|
|
|
9.3.2
|
Mai detholiad bychan 5 tudalen allan o adroddiad 68
tudalen a gyflwynir gerbron y CYSAG uchod ac mae'r detholiad hwnnw
yn cyfleu darlun anghynrychioladol o
|
|
|
|
|
wendidau a
beirniadaeth.Mae'n cyfeirio at safonau yn Addysg Grefyddol (y pwnc
statudol di-gymhwyster) a safonau yn Astudiaethau Crefyddol (y pwnc
a ddilynir hyd at lefel cymhwyster TGAU, Lefel A ac Uwch Gyfrannol)
ond nid yw'n cynnwys dyfarniad yr arolygwr o safon yr addysgu, sef
gwaith yr athrawon.
|
|
9.3.3
|
O ran Addysg Grefyddol statudol roedd yr arolygwr o'r farn
bod safonau yn CA3 yn dda a'r addysgu hefyd yn dda; yn CA4 roedd y
safonau yn dda a'r addysgu yn dda iawn.O ran Astudiaethau Crefyddol
dyfarnwyd y safonau yn CA4 yn dda a'r addysgu yn dda iawn ac yn CA5
roedd y safonau yn dda a'r addysgu yn dda.Un agwedd a gafodd ei
beirniadu oedd Addysg Grefyddol yn CA5 a chyfrifoldeb y Pennaeth
Ysgol a'r corff llywodraethu yw hynny.
|
|
|
9.3.4
|
Fodd bynnag, nid yw'r rhesymau am y feirniadaeth hon yn
eglur oherwydd bu'r ysgol yn destun arolygiad yn 1997 ac ni fu
beirniadaeth o Addysg Grefyddol yn y cyfnod bryd hynny.Ers
1997, nid yw'r swyddogion addysg na'r ymgynghorwyr addysg wedi nodi
bod y ddarpariaeth yn annerbyniol a bernir bod nifer o ysgolion ar
draws Cymru yn yr un sefyllfa, o'r safbwynt nad ydynt yn cynnig mwy
o ddarpariaeth nag Ysgol Uwchradd Bodedern.
|
|
|
9.3.5
|
At hynny, mae yna fygythiad cyllidol o du Elwa i'r
chweched dosbaeth.Fe all symudiad i orfodi disgyblion 16-19 ddilyn
cwrs Addysg Grefyddol dwys yn yr ysgol eu gyrru i golegau addysg
bellach lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer Addysg Grefyddol
na gwasanaethau boreol.Nid oes gwarantu ychwaith y bydd Elwa yn
barod i gyllido ysgolion am gyflwyno Addysg Grefyddol fel
pwnc gyrfaol, ac ymhellach nid yw'r cwricwlwm fel ag y mae yn
caniatau cyflwyno pwnc arall.
|
|
|
|
|
Cafwyd trafodaeth ddilynol
ynglyn â'r tensiynau rhwng y gofyn ar ysgolion i ddarparu
Addysg Grefyddol statudol chweched dosbarth a gallu ysgolion i
gwrdd â'r gofynion yn llawn o ran amser a chyllid.Nododd
Ymgynghorydd y Dyniaethau yn y cyswllt hwn bod Ymgynghorwyr Addysg
Cymru yn gohebu gydag Elwa mewn perthynas â chael esboniad
o'r gyllideb gogyfer dosbarthiadau chweched dosbarth.
|
|
|
|
Dygodd y Cadeirydd sylw'r
CYSAG at yr angen i enwebu cynrychiolydd o blith Undebau'r Athrawon
i fynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yng Nghaerffilli ar 19
Tachwedd yn lle Mrs Heledd Hearn a oedd yn methu â bod yn
bresennol oherwydd ymrwymiadau yn yr ysgol ar y diwrnod
hwnnw.
|
|
|
|
Nodwyd ei bod yn gynyddol
anodd i rhyddhau athrawon i fynychu cyfarfodydd o'r fath oherwydd
ymrwymiadau dysgu a byddai'r sefyllfa yn dwysau yn 2005 gyda
chyflwyniad yr amodau gwaith newydd.Cytunwyd y byddai cynrychiolydd
o blith aelodau Undebau'r Athrawon ar y CYSAG yn mynychu'r cyfarfod
pe byddai'n bosib.
|
|
|
|
Penderfynwyd
-
|
|
|
|
9.4
|
Derbyn yr adroddiadau arolwg mewn perthynas â'r
ysgolion a nodwyd, a nodi eu cynnwys.
|
|
|
9.5
|
Bod copi o Gynllun Ôl-Arolwg Ysgol Uwchradd
Bodedern yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y CYSAG.
|
|
|
|
|
Cynghorydd
E.G.Davies
|
|
Cadeirydd
|