CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 CHWEFROR, 2005 |
|
|
|
Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i'r cyfarfod i Mr.Stephen Francis Roe ac i Fiss Mefys Jones a oeddent ill dau yn bresennol am y tro cyntaf mewn cyfarfod o CYSAG Ynys Môn, y naill ar ran yr Eglwys Fethodistaidd a'r llall ar ran Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.Rhoes groeso hefyd i Mr.Gareth Williams, Prif Weithredwr Cwmni Cynnal a oedd yn bresennol gogyfer eitem 4 ar raglen y cyfarfod. |
|
|
|
|
Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrir uchod. |
|
|
|
|
Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2004 - Cyfrol y Cyngor 09.12.2004 - tud 96 - 101 |
Yn codi - |
|
|
|
Cadarnhaodd y Cadeirydd byddai'r Athro Leslie Francis yn cyfarch cyfarfod nesaf o'r CYSAG yn awr ar ddyddiad i'w gadarnhau. |
|
|
|
|
|
|||
Arholiad Lefel A |
|||
|
|||
Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch |
|||
4 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, a 9 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg |
|||
|
|||
Ysgol Gyfun Llangefni |
|||
14 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg |
|||
|
|||
Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy |
|||
2 ddisgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg |
|||
|
|||
Ysgol Uwchradd Bodedern |
|||
9 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg |
|||
|
|||
Cyfanswm o 13 o ddisgyblion wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg a 25 o ddisgyblion wedi ei sefyll trwy gyfrwng y Saesneg. |
|||
|
|||
Arholiad Uwch Gyfrannol |
|||
|
|||
Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch |
|||
7 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, a 4 wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg |
|||
|
|||
Ysgol Gyfun Llangefni |
|||
16 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg |
|||
|
|||
Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy |
|||
2 wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, a 7 wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Saesneg |
|||
|
|||
Ysgol Uwchradd Bodedern |
|||
5 disgybl wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg |
|||
|
|||
Cyfanswm o 14 o ddisgyblion wedi sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg a 27 o ddisgyblion wedi ei sefyll trwy gyfrwng y Saesneg. |
|||
|
|||
Roedd y wybodaeth uchod ar gael yn ysgrifenedig i'r sawl a ddymunai ei gael. |
|||
|
|||
Penderfynwyd nodi'r ystadegau uchod gan ddiolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden am y wybodaeth. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Penderfynwyd nodi'r sefyllfa gyfredol ynglyn â threfniadau cyllido newydd ELWa gan ddiolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden am y wybodaeth. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd er gwybodaeth aelodau'r CYSAG, gofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerffili ar 19 Tachwedd, 2004 ynghyd â'r rhaglen gogyfer cyfarfod nesaf y Gymdeithas i'w gynnal ym Merthyr Tudful ar 25 Chwefror. |
|||
|
|||
Penderfynwyd derbyn y ddogfennaeth a nodi ei chynnwys. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd - Gohebiaeth ddyddiedig 11 Tachwedd, 2004 oddi wrth Ysgrifennydd Desg Addysg0 Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gofyn i'r CYSAG sut y bwriadai weithredu ei ddyletswyddau mewn perthynas â monitro0 Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd yn ysgolion y sir yng ngoleuni cyflwyno'r drefn newydd o arolygu ysgolion.Yn y llythyr dywed yr Ysgrifennydd Desg Addysg bod Eglwys Bresbyteraidd Cymru fel enwad wedi ysgrifennu at y Prif Arolygydd ym mis Awst yn gofyn am ei hymateb a bu iddi hi ymateb yn llawn gan gynnig awgrym ymarferol hefyd ynglyn â ffordd bosibl o symud ymlaen. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Ÿ yn rhoddi rhagor o bwyslais ar brofiadau a chyflawniadau disgyblion; |
|||
Ÿ yn rhoddi ffocws cryf ar hunan arfarniad ysgol; |
|||
Ÿ yn cyflwyno cyfres o arolygiadau gwahaniaethol, sef byr, safonol a llawn (arferol); |
|||
Ÿ yn rhoddi cyfnod rhybudd llai; |
|||
Ÿ yn cynnwys enwebai ar bob tîm arolygu; |
|||
Ÿ yn arfarnu cymheiriad. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Ÿ Pa mor dda mae'r dysgwyr yn dysgu - bydd Addysg Grefyddol fel pwnc yn cael ei fesur o dan y cwestiwn hwn; |
|||
Ÿ pa mor effeithiol yw'r addysgu a'r asesu; |
|||
Ÿ pa mor dda mae'r profiadau dysgu'n bodloni anghenion a diddordebau'r dysgwyr a'r gymuned; |
|||
Ÿ pa mor dda yw'r gofal, yr arweiniad a'r gynhaliaeth i ddysgwyr - bydd safon y ddarpariaeth ysbrydol a moesol mewn ysgol yn cael ei fesur yn erbyn y maen brawf yma; |
|||
Ÿ pa mor effeithiol yw'r arweinyddiaeth a'r rheolaeth; |
|||
Ÿ pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau; |
|||
Ÿ pa mor effeithlon yw'r arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau; |
|||
Ÿ y gwellhâd ers yr arolwg diwethaf. |
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Ÿ Da gyda nodweddion rhagorol; |
|||
Ÿ nodweddion da a dim diffygion pwysig; |
|||
Ÿ nodweddion da yn gorbwyso diffygion; |
|||
Ÿ rhai nodweddion da ond diffygion mewn meysydd pwysig; |
|||
Ÿ llawer o ddiffygion pwysig. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Ÿ safonau a gyflawnir gan ddisgyblion; |
|||
Ÿ ansawdd yr addysg; |
|||
Ÿ datblygiad ysbrydol a moesol y disgyblion; |
|||
Ÿ datblygiad cymdeithasol a diwylliannol; |
|||
Ÿ arweinyddiaeth a rheolaeth. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Diolchwyd yn fawr i Mr.Gareth Williams am gyflwyniad cynhwysfawr a dadlennol a chroesawyd yn arbennig y llawlyfrau yn cynnig arweiniad i ysgolion ar gyfer cynnal ymarferiad hunan arfarnu yn gysylltiedig ag addysg grefyddol fel tystiolaeth o'r ymrwymiad i'r pwnc, a nododd aelodau'r CYSAG eu bod wedi'u calonogi gan y cyflwyniad a chan wybod fod yna waith cadarnhaol yn cael ei wneud i gynnal statws addysg grefyddol yn y rhaglen addysgol. Nodwyd hefyd bod y llawlyfrau yn rhoi arweiniad i ysgolion ar feithrin datblygiad ysbrydol a moesol disgyblion a bod yna gyfle i ysgolion felly eu defnyddio i ddylanwadu ar ymddygiad ac ymagwedd disgyblion a thrwy hynny gwyrdroi'r patrwm o ddirywiad moesol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a welir ar gynnydd mewn nifer o gymunedau ar yr Ynys, yn enwedig os caiff disgyblion yr arweiniad hwnnw yn eu blynyddoedd cynnar.Nodwyd hefyd bod diffygion mewn sgiliau rhianta a magwraeth yn ffactorau yn y dirywiad moesoldeb a welir yn y gymdeithas sydd ohoni a bod y gostyngiad yn nylanwad yr ysgolion Sul yn ffactor cyfrannol yn ogystal.Yn dilyn derbyn y cyflwyniad uchod, roedd yr aelodau yn gyffredinol gefnogol i'r cysysniad o hunan arfarnu gan ysgolion ac yn barod i dderbyn cyflwyno'r rhannau perthnasol hynny o adroddiad hunan arfarniad ysgol gerbron y CYSAG fel ffordd o alluogi'r CYSAG i barhau i gyflawni ei ddyletswyddau monitro yn y maes. |
|||
|
|||
O du'r athrawon, croesawyd y strwythur arolygu newydd fel trefn sydd yn tynhau'r broses arolygu yn gyffredinol a nodwyd bod y llawlyfrau cymorth a gynhyrchwyd gan Cynnal yn cynnig arweiniad clir yng nghyswllt hunan arfarnu ysgol.Caiff y broses hunan arfarnu ei monitro a'i achredu gan Cynnal trwy'r Ymgynghorydd Cyswllt ac mae adroddiadau'r Ymgynghorydd yn cael eu cyflwyno gerbron y cyrff llywodraethu a'r Awdurdod Addysg.Ni welir unrhyw rwystredigaeth o ran cyflwyno rhannau perthnasol o adrodddiadau hunan arfarnu ysgol gerbron y CYSAG a theimlir y byddai hynny yn ddull tryloyw o rannu gwybodaeth gyda'r Cyngor Ymgynghorol. |
|||
|
|||
Awgrymodd cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru gan fod ysgolion yr Eglwys yn cael eu harolygu'n barod gan Arolygwyr yr Eglwys o dan Adran 23 Deddf Arolygu Ysgolion, gellid ymestyn y gwaith hwnnw i gynnwys holl ysgolion y sir a bod arolygwyr yr Eglwys yn ymgymryd â'r swyddogaeth fonitro yn ysgolion y Sir ar ran y CYSAG. |
|||
|
|||
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden fod yna nifer o ffactorau i'w hystyried gan gynnwys argaeledd adnoddau ynghyd â barn yr ysgolion.Crynhodd y drafodaeth trwy nodi ei fod yn ymddangos fod yna gonsensws ymhlith aelodau'r CYSAG bod yr awgrym ynglyn â chyflwyno rhannau perthnasol o adroddiad hunan arfarnu ysgol gerbron y CYSAG yn cynnig ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer monitro ysgolion mewn modd cytbwys a hynny heb ychwanegu at y baich gwaith sydd eisoes arnynt.Awgrymodd bod yna ymgynghori pellach yn cael ei gynnal gyda grwpiau penaethiaid yn y sector cynradd ac uwchradd yng nghyswllt yr uchod gan gynnwys yn y trafodaethau hynny, gynnig yr Eglwys yng Nghymru i ymgymryd0 â gwaith monitro ysgolion y sir ar ran y CYSAG yn rhinwedd y swyddogaeth arolygu sydd ganddi eisoes mewn perthynas ag ysgolion yr Eglwys.Yn dilyn yr ymgynghori byddid yn dod ag argymhellion pendant gerbron y CYSAG. |
|||
|
|||
Penderfynwyd bod y CYSAG yn cefnogi rhoi sylw yn y dyfodol i'r rhannau perthnasol hynny o adroddiad hunan arfarniad ysgol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau monitro addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn ysgolion y sir gan barhau i dderbyn adroddiadau Adran 10 lle bo hynny'n briodol, yn ddarostyngedig i'r ymgynghoriad gyda grwpiau penaethiaid ysgolion y sir. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd - Adroddiad y Cyfarwyddwr0 Corfforaethol Addysg a Hamdden ynglyn â'r sefyllfa statudol mewn perthynas â chyhoeddi adolygiad o'r Maes Llafur Cytun Addysg 0Grefyddol. |
|||
|
|||
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden at y prif ystyriaethau fel a ganlyn: |
|||
|
|||
|
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Gofynnwyd a ragwelir bydd y gwaith o adolygu'r Maes Llafur yn dasg feichus ynteu ai mater yw o'i fân ddiwygio.At hynny, pam bod angen ei ddiwygio os yw yn llwyddiannus ac yn boblogaidd gan ysgolion. |
|||
|
|||
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden mewn ymateb y byddai llunio Maes Llafur newydd yn ei gyfanrwydd yn dasg o bwys. Ar y llaw arall fe ellir diweddaru'r Maes Llafur presennol i adlewyrchu datblygiadau cyfoes a byddid yn ffafrio'r opsiwn hwn.Fodd bynnag, mater i'r Tasglu athrawon a swyddogion fydd ystyried hyn. |
|||
|
|||
Roedd aelodau'r CYSAG yn gytun byddai'n ymarferol diweddaru'r Maes Llafur i gymryd i ystyriaeth ddatblygiadau diweddar yn y maes a nodwyd bod iaith a therminoleg yn newid a bod angen i'r Maes Llafur adlewyrchu hynny.Cefnogwyd sefydlu Tasglu swyddogion ar y cyd gyda Gwynedd i ymgymryd â'r gwaith paratoadol gogyfer cynnull Cynhadledd Maes Llafur Cytun. |
|||
|
|||
Penderfynwyd cymeradwyo sefydlu Cynhadledd Maes Llafur Cytun i ystyried y mater a bod Gweithgor Tasg o blith swyddogion ac athrawon Môn a Gwynedd yn cael ei ffurfio i ymgymryd â'r gwaith paratoadol gogyfer y Gynhadledd. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Rhoes yr Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol gyflwyniad i aelodau'r CYSAG ar ddeunyddiau dewisol ACCAC Addysg Grefyddol gogyfer CA2 a CA3, gan nodi bod llawer o waith wedi mynd i mewn i gynhyrchu'r deunyddiau a bod yna cryn ddisgwyliad amdanynt. |
|||
|
|||
Ceir pedair uned yn CA2 yn ymwneud â'r themau canlynol - |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
ynghyd â phedair uned yn CA3 yn ymwneud â'r themau canlynol - |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Rhaid cofio mai deunyddiau dewisol yw'r uchod ac nad oes rheidrwydd ar ysgolion i'w defnyddio.Mewn sesiynau Hawl a Haeddiant diweddar trafodwyd eu pwrpas a nodwyd eu bod yn cyfrannu at godi safonau, eu bod yn darparu tystiolaeth o gyrhaeddiad disgybl ar unrhyw adeg; gall athrawon eu defnyddio i ddarparu eu deunyddiau eu hunain; maent yn rhoi cyfle i ddisgyblion gymeryd rhan yn y broses asesu ac i fynegi barn ar eu gwaith eu hunain ac maent yn gymorth i adrannau ddatblygu nodweddion sy'n cael eu nodi gan Estyn fel arfer da mewn Addysg Grefyddol. |
|||
|
|||
O ran yr uned yn CA2 sydd yn ymdrin ag addoliad o safbwynt Shabbat yr Iddewon cymerir yn ganiataol fod y disgyblion yn ymwybodol o gefndir y Shabbat a'i arwyddocad a bod addysgu am y pwnc wedi digwydd.Asesir gwybodaeth trwy ymatebion llafar ac ysgrifenedig ynghyd â gallu disgyblion i ddisgrifio ac egluro credoau.Fel rhan o'r astudiaeth gofynnir i ddisgyblion ystyried beth sydd yn digwydd ar y Shabbat, pam mae'r diwrnod yn arwyddocaol a pham mae dydd gorffwys yn bwysig.Mae gofyn i ddisgyblion wedyn lunio poster yn dangos beth maent wedi ei ddysgu am y Shabbat ac mae'r dasg hon yn gofyn iddynt gynllunio ac mae'n fodd o asesu eu creadigrwydd, eu dychymyg a'u sgiliau arlunio yn ogystal â'u gwybodaeth am y pwnc.Lluniwyd taflen hefyd sydd yn cynorthwyo disgyblion wedyn i asesu eu poster ac i ystyried sut y gallent fod wedi gwella arno, beth sydd yn dda amdano ac ati. |
|||
|
|||
O ran arwyddocad y Shabbat, defnyddir arteffactau a gwrthrychau arbennig i ddangos i ddisgyblion pam mae'r diwrnod yn bwysig yn y bywyd Iddewig, ac o ran pwysigrwydd dydd gorffwys, gofynnir i ddisgyblion ystyried yr achlysuron hynny lle mae neilltuo amser arbennig yn bwysig iddynt hwy a thrwy hynny i gael ymdeimlad o bwysigrwydd y Shabbat i'r Iddewon. |
|||
|
|||
O ddod at CA3, mae'r gwaith yn ymwenud ag addoliad yn y cyfnod hwn yn canolbwyntio ar y Cymun Sanctaidd Cristnogol ac fe ddisgwylir i ddisgyblion wneud cywaith swmpus ar y cymun yn ogystal ag ymateb i gwestiynau yn y modd arferol.Mae'r Uned yn disgwyl fod gan ddisgyblion wybodaeth gefndirol a'u bod yn gwybod beth yw arwyddocad y Swper Olaf, beth yw arwyddocad a swyddogaeth gwahanol arteffactau a'u bod yn gyfarwydd ag addoldai.Fel rhan o'r gwaith astudio gofynnir i ddisgyblion ystyried beth sydd yn digwydd mewn Gwasanaeth Cymun Sanctaidd ac mae disgwyl iddynt edrych ar y Swper Olaf a'i berthnasu i'r Cymun.Anogir disgyblion hefyd i ddarganfod ystyr trwy luniau ac fe wneir hyn trwy ddod â lluniau personol i'r dosbarth gan ofyn i'r disgyblion wedyn grynhoi beth mae'r lluniau yn eu dangos yn nhermau cyfeillgarwch, teimlad, unigrwydd ac yn y blaen.Er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o ystyr y Swper Olaf, dangosir 4 llun gwahanol o'r Swper Olaf gan arlunwyr gwahanol ac fe ofynnir i ddisgyblion ystyried pa fath syniadau crefydd mae'r lluniau yn eu dangos; beth yw'r symbolau yn y lluniau; beth mae'r lluniau yn ei ddweud am gredo'r artist unigol, beth maent yn ei ddangos mewn perthynas â chyfeillgarwch a theimladau cyffelyb ac mae'r ymarfer hwn yn herio'r disgybl i edrych yn fanwl ar y lluniau ac i'w hystyried mewn dyfnder ac i ddarganfod ynddynt syniadau, teimladau ac ystyr sydd yn mynd tu hwnt i arwynebedd y pictiwr ei hun. |
|
|||
Diolchwyd i'r Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol am roddi rhagflas diddorol iawn o ddeunyddiau asesu dewisol ACCAC yn y maes. |
|||
|
|||
Penderfynwyd diolch i'r Athrawes Ymgynghorol Addysg Grefyddol am ei chyflwyniad gan nodi'r datblygiadau mewn perthynas â deunyddiau asesu dewisol Addysg Grefyddol ACCAC. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cyflwynwyd - Gwybodaeth dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996 am gynnwys y rhannau perthnasol hynny o adroddiad arolwg Ysgol Gynradd Llandegfan. |
|||
|
|||
Roedd aelodau'r CYSAG yn gytun fod yr adroddiad yn tystio at safonau arbennig Addysg Grefyddol yn yr ysgol a bod llongyfarchiadau yn ddyledus i staff yr ysgol a'i disgyblion am eu gwaith caled a'u cyflawniad. |
|||
|
|||
Penderfynwyd nodi cynnwys y rhannu perthnasol hynny o adroddiad arolwg Ysgol Gynradd Llandegfan gan ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden ysgrifennu at yr ysgol i gyfleu i'r staff a'r disgyblion ddiolchiadau'r CYSAG am eu gwaith ac i'w llongyfarch ar eu cyflawniad. |
|||
|
|||
|
|||
Cynghorydd Eurfryn Davies |
|||
Cadeirydd |